Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
EISTEDDFOD GENEDLABTHOL 1881.
EISTEDDFOD GENEDLABTHOL 1881. At Gantorion Cwmtileri a'r cylchoedd. FEIB YR AWEN, A MERCHED Y GAN.— Gwyddoch fod prwygraifft yr Eisteddfod uchod allan o'r wasg. Gwyddoch hefyd fod o flaen y cyhoedd gyfres o destynau cyfoethog mewn adnoddau i draethodwr, bardd, cerddor, a chelfwr. Adlewyrcha y cwbl yn hynod ffafrio! ar chwaeth y pwyllgor cyfrifol, a'i ysgrifenydd gweithgar, yr hwn sydd, fel y dywed y Saia, mor llawn o'r business habits. Yn awr, hai ati, ffurfiwch gor undebol, a pharotowch i'r frwydr. Mae digon o ddef- nyddiau o Brynmawr uchel, drwy Nantyglo bwysig, hyd y Blaina enwog, i lawr drwy Abertileri luosog, hyd Abercarn weithgar. Nid oes eisieu myned tuallan i'r cwm am arweinydd. Dyna y galluog David Bowen, Abercarn, number one Glyn Ebbw, yn yr ymyl. A pha le y mae y cyfansoddwr gwreiddiol John Edwards (Eos Tyleri)? Ofn- wyf mai ar yr helyg y croga ei delyn ef er's tro- Pity garw Traethed y cerddorion uchod eu barn yn y GWLADGARWR nesaf.-Yr eiddoch yn Gymroaidd, EISTEDDFODWR 0 WAED.
AOHOS GLOFA Y BWLLFA, o WMDAR.
AOHOS GLOFA Y BWLLFA, o WMDAR. MR. GOL. ,-Dygwyddodd i mi fod ar daith drwy y lIe uchod yr wythnos hon, ac fel y gwyddoch, y mae Cwmpeini y Bwllfa a Mer- thvr Dare heb dalu eu gweithwyr fyth. Wel, gobeithio bydd yr Apostol Iago yn pregethu iddynt ddydd a nos ar y geiriau hyny-" Cyf- log y gweithiwr a gamataiiasoch," nes eu gor- fodi i wneyd hyny heb fod yn hir bellach rhag cywilydd, oblegyd y mae y gweithwyr mewn dygn dlodi, ac mewn gwir angen am gydym- deimlad sylweddol. Credaf fod digon yn barod i wneyd hyn, ond cael ffordd a threfn i wneyd y peth yn effeithiol. Nid hir y bum yn y lie cyn cael ar ddeall fod yno ddwy farn am y ffordd oreu, neu y ffordd y bydd y gweithiwr yn fwyaf tebyg o gael eu harian. Clywais i neb yn awgrymu na ddylasai y gweithwyr gael eu talu, ond yr oedd yno ddadieu 'twym ar y cynllun goreu i weith- redu a'u clywed hwy yn dadleu mor ddoniol a'm cynhyrfodd inau i ysgrifenu y pwt llythyr hwn i'r GWLAD JARWR, gan feddwl ei fod yn deg i'r cyhoedd gael gwybod y ddwy ochr i'r cwe3tiwn, fel y clywais ef yn cael ei ddadleu gan y pleidiau. Er mwyn gwneyd tegwch a rhai allent fod ddim yn gwybod aefyllfa pethau, byddai gair o eglurhad o fantais iddynt. Ar noa Sadwrn, rhyw fis yn ol, pan ddylasai fod pay, cafodd y gweithwyr wynebu eu teuluoedd heb yr un geiniog, ar ol gweithio mis pump wythnos. Cyfarfu y gweithwyr ddechreu yr wythnoa, ac fel yr oedd yn naturiol i ddysgwyl, nid oedd neb ohonynt mewn teimladau da iawn at y meistri oedd wedi eu twyllo, a darfu iddynt basio penderfyniad, dan yr amgylch- iadau, aef, Dim gwaith cyn cael eu talu. Ys- tyr hyny oedd, gadael y lofa i lanw o ddwfr, &c., fel y buasai hyny yn scriw i or- fodi y cwmni i dalu yn go fuan, yn hytrach na gadael y lofa i fyned i ddistryw. Ond cyn pen nemawr o ddyddiau, daethpwyd i wybod nad oedd y scriw yn cael dim effaith ar y rhai y meddyliodd y gweithwyr, am eu bod wedi encilio odditani, a'r lofa, yn lie bod yn medd- iant y cwmni, wedi myned i feddiant y Court of Chancery, er ceisio cael droa 10,000p. o royalty oedd yn ddyledus i'r court fel trustees yr iawn etifedd. Wedi i swyddogion y court gymeryd meddiant o'r lofa, ac awgrymu eu bod am gadw y lofa mewn working order, er ceisio ei gwerthu, tynodd rhai o'r gweithwyr y penderfyniad yn ol, gan ymdrechu cael gan ereill i wneyd yr un modd, a dyna yw pwnc y ddadl rhwng y pleidiau. Dadleuai un blaid mai y ffordd fwyaf tebyg i bawb gael eu har- ian fyddai cadw y lofa mewn sefyllfa y gellid ei werthu, a pho oreu y byddai, mwyaf i gyd y gellid dysgwyl am dani a da fyddai pe gellid ei gwerthu yn ddigon uchel i bob aderyn gael ei blufyn. Heblaw hyny, byddai cadw y lofa yn agored yn llawer gwell er lies yr ar- dal a'r gweithwyr yn gyffredinol, gan fod llawer gormod o weithfeydd wedi eu cau i fyny yn Nghwm Aberdar yn barod. Hefyd, fod y court yn talu 30p. y dydd i'r hen weith- wyr hyny sydd yn eisieu er cadw y lofa yn agored, ac nad yw swm felly bob dydd i gael .eu talu ar yr adeg hon yn Nghwmdar ddim yn beth i'w ddiystyru, a byddai unrhyw ddyn a wrthodo weithio yn ngwyneb rhesymau fel yr uchod ddim yn iach iawn yn ei ben, heb son iju ei galon. Dadleuai yr ochr arall fel hyn, Eisia ei foddi e' i sydd. Shoni hoi diwi di ar dramp 'fory ? Mi gerwn, myn brain, nes bo'n tra'd fel cyrne geifir. Mi 'nawn i'r hen gwrt yna i'n talu ni Cymerwch bwyll, boys," meddwn inau, gadewch i ni gael ymresymu yn deg ar y pwnc." Ha, ? Ymresymu yn wir Cerwch chi i'r bacws os ydych chi am resymu'r pwnc. Mae Pegi, a Lori Derby, a Scram yno yn barod wedi siarad mwy na llon'd dram." "Wel, good bye, boys; gwelaf nad gwiw siarad." Ymaith a mi, gan ymson wrthyf fy hun, Druan o'r glowr Pwy a'i gwared ef oddiwrth gorff y farwolaeth hon.' Y mae yn mhlith y glowyr ddynion call, goleuedig, a phrofiadol ond, druain ohon- ynt, y maent yn gorfod cymeryd eu harwain yn druenus gan rai nag sydd yn deilwng i ddatod carai eu hesgidiau. Da fyddai genyf weled y dydd wedi gwawrio ar y glowyr pan fyddo y dosbarth iselaf ohonynt yn cymeryd eu cyfarwyddo gan y dynion goreu yn mhob glofa, yn lie bod y dynion goreu yn cael eu llusgo fel cynffonau kites yn ol ewyllys y rhai sydd yn cael eu llywodraethu gan dywysog llywodraeth yr awyr. Wedi myned adref, adroddais yr helynt wrth Sian. Wei, wel, Tomos bach," meddai Sian, "dyl'sech chi adael i mi i dreio gwneyd trefen arnyn nhw. 'Rwy' i'n i nabod nhw bob un. Y maent yn ffolach na fresh herrings. 'Dyw e' wiw i chi dreio ymresymu a dynion direswm. Af fi atynt yr wythnos neaaf, ac mi yagrifenaf fi benod go ddu ar hanes eu bywyd nhw; ac os na wna hyny y tro, rho'f nod coch ar eu gwarau nhw, ac anfonaf hwy i'r mynydd i bori dros y gauaf yma." Wel, o'r goreu, Sian, cymer dy ffordd, a gwna'r goreu ohonynt." Yr eiddoch yn serchog, dan yr wythnos neaaf. oddiwrth yr hen wr, eich EWYRTH TOMOS.
CRAIG Y BWLLFA.
CRAIG Y BWLLFA. MR. GOL.Pa le y mae Eryr Craig y Bwllfa" yn bresenol ? A ydyw wedi ei ladd 1 Os nad yw, y mae croesaw iddo weithio ei ffordd i gilfachau y "Graig" eto. Gwyddom y cymer efe ofal o'i fradwyr sydd gerllaw. Tyred, Eryr, a chei weled rhai wyt yn adnabod yma, ac os oes lie, ar sail gwir- ionedd a chyfiawnder, i ddangos nad bodau gwynion a welir yma, na foed i'r pin fod yn llonydd. Ac os nad oes dim allan o le yn bod, carem weled rhywun yn profi hyny yn deg. Peidied neb a chymeryd eu hudo i blith bodau y Graig cyn ystyried y mater. —Yr eiddoch, NiD ANFFYDDLAWN.
Deheudir Affrica.
Deheudir Affrica. CIGYDDIAD Y 94TH. DURBAN, Ion. 4ydd, brys-lythyr o New Castle, dyddiedig heddyw, a fynega fod byddin o'r Boeriaid wedi croesi i diriogaeth Natal, a'u bod yn bwriadu gwrthsefyll blaen- ddynesiad y Prydeiniaid o ochr Natal i'r Diakenaburg. Yr hyn a ganlyn sydd gopi o bellebryn oddiwrth Syr G. P. Calley at Ysgrifenydd Rhyfel :—" Pietermaritzburg, Ion. 5ed. Y mae Cad. Lambert, 21ain, yn ddiweddar, yn garcharor yn Heidelburg, newydd gyrhaedd. Rhyddhawyd ef gyda Cadben Elliott, talfeistr y 94th, ac anfonwyd hwy i Free State yu anarfog ond pan yn croesi yr afon Vaal, taniwyd arnynt gan y Boeriaid a gydymdeith- iai a hwy, a lladdwyd Elliott. Y mae 62 o garcharorion o'r 94th yn awr ar eu ffordd i lawr i Dalaethau Lanbart. Adran o'r 94th, tra yn ymdeithio gyda nawdd-osgordd hir, a gyfarfyddwyd gan ddau ddyn gyda llythyrau i'r llywydd yn galw arno roddi ei hun i fyny, ac yn caniatau iddo ddwy fynyd ibenderfynu. Gwrthododd y milwriad, aafodd, a ffurfiodd ei wyr, pan agorwyd tan arnynt o bob cyfeiriad. Saethwyd y swyddogion bron yn uniongyrchol i lawr. Yn mhen ychydig fynydau, yr oedd y rhan fwyaf o'r fyddin wedi syrthio, a gorchymynodd y milwriad am roddi fyny. Claddwyd 86 ar y maes, ac y mae 26 oddiar hyny wedi marw o'u clwyfau. Cyfrifa Lambart fod y catrodau yn Heidel- burg yn 8,000. Bydd adgyfnerthion cryfion o Loegr yn fuan ar faes y rhyfel hwn. Yn ol y newyddion diweddaraf, ymddengys y bydd yn gofyn cryn allu i ddarostwng y gwrthryfelwyr yn y parth hwn o Affrica, gan fod y Boeriaid yn awr yn rhifo tua 10,000 o wyr arfog, a bod eu rhengau yn chwyddo o hyd gan newydd-ddyfodiaid o ffermydd pell yn y wlad. Hysbysfr fod y catrodau Prydeinig yn ngwersyll Potchefstroom wedi gorfod taflu eu harfau i lawr. Dywed un gohebydd y gwna y Boeriaid ymladd yn gyndyn a phenderfynol.
[No title]
YN mhlith yr anrhegion a anfonwyd i Dywysog Cymru ar ddydd ei enedigaeth eleni, yr oedd cyllell yn cynwys 191 o lafnau HYSBYSIR ni gan newyddion o New York fod gan dair melin yn Chicago yn awr eirch- ion am 200,000 tunell o reiliau dur, i gael eu trosglwyddo yn ystod 1881. RHODDIR ar ddeall y bydd i brawf yr holl derfysgwyr Gwyddelig yn Dublin gostio i'r Llywodraeth lawn can' mil o bunau Buasai y swm yna yn prynu digon o datws i gadw lluoedd o Wyddelod yn fyw dros gyfnod hir. MARWOLAETH TRWY LOCK JAW YN LLAN- ELLI.—Cynaliwyd trengholiad yn y Stepney Arms Hotel, yn y dref hon, ar gorff David Howells, yr hwn a gafodd ei law wedi ei briwio yn mheiriant dyrnu Penygraig Farm, fel y gorfyddwyd tori ei fys bach ymaith. Ym- ddangosai yn gwella ar y cyntaf, ond gwaeth- ygodd, a symudwyd ef i'r clafdy, lie y bu farw. Y rheithfarn ydoedd Angau trwy lock-jaw."
Hanesion Dosbarthawl.
Hanesion Dosbarthawl. MERTHYR TYDFIL. GRAIG. — Cynaliodd Methodistiaid Calfinaidd Dwyrain Morganwg eu cyfarfod misol Ion. y 4ydd a'r 5ed, yn Graig, Merthyr, yr hwn hefyd oedd yn gyfarfod blynyddol. Llywyddwyd gan Mr. Morgan, Canton. Pregethwyd yn y gwahanol oedfaon gan y Parchedigion W. Lewis, Penmarc; Robert Jones, Treherbert; R. Morgan, Llwynpia Thos. P. Thomas, Gyfeillion T. Davies, Treorci T. C. Phillips, Mountain Ash; W. Davies, Cwm- aman a T. Rees, Ffynon Taf.
ABERDAR.
ABERDAR. ABERNANT. -Cynaliwyd cyfarfod cynrychiolwyr o waith Abernant yn y Red Cow, Aberdar, yr wythnos ddiweddaf, pryd y daethpwyd i'r pender- fyniadau canlynol :— Yn gyntaf, eu bod yn cymeradwyo ymddygiad rhan o lowyr Glofa y Tunnel i omedd tori y wythien naw troedfedd am yn agos i dair ceiniog y dunell, o dan safon y Cwm, ac yn ymrwymo i'w cynorthwyo, gan obeithio y bydd i'w cydweithwyr weled y priodoldeb i wneuthur yr un modd, er eu hosgoi hwythau gael eu gostwng i'r un safon. Yn ail, eu bod yn llwyr ymwrthod a'r Drysorfa Ddamweiniol gynygiedig gan y meistri, os na fydd iddynt i'w chymhwyso at glefyd yr un peth a damweiniau. BLAENYCOED. DARLITH. — Traddodwyd darlith ar "Bod yn ddyn," gan y Parch. T. P. Evans, Ceinewydd, yn y capel uchod, nos Wener, y 7fed cyfisol, pryd y daeth torf fawr o bobl yn nghyd. Y cadeirydd oedd y Parch. J. Howells, Pantllyn. ac wedi iddo roddi anerchiad byr i'r gynulleidfa, galwodd ar y darlithydd at ei waith, a da genym hysbysu i Mr. Evans fyned drwy ei orchwyl yn rhwydd a de- heuig. Pasiwyd diolchgarwch i'r darlithydd a'r cadeirydd ar y diwedd. Canwyd t6n ar y dechreu a thon wrth derfynu. Yna ymwasgarodd pawb wedi eu llwyr foddloni. Yr oedd yr elw yn myned i gynorthwyo brawd teilwng yn ei gystudd. — Un oedd yno. 'LLANEDI. BONEDDWR HAELFRYDIG.-Nos Fawrth, y 4ydd cyfisol, rhoddodd J. Rees, Ysw., Fair Water, wahoddiad croesawgar i'r Brynfferws Glee Party i dalu ymweliad a'i balas, a derbyniwyd yr alwad gyda llawenydd, gan ei hystyried yn anrhydedd nid bychan i gael treulio ychydig oriau yn nghwmni y fath foneddwr haelfrydig a'r Sgwier Rees, yr hwn sydd yn llanw ei sedd lie bynag y rhoddo ei bresenoldeb. Wedi cyrhaedd yno, canwyd amryw ddarnau gan y parti, nes swyno y boneddwr ac ereill oeddynt yn bresenol. Yna eisteddwyd i lawr i wledd ardderchog oedd wedi ei darparu ar gyfer yr ymweliad, fel yr oedd pawb mewn hwyl i ddiolch i Mr. Rees am y caredigrwydd a ddangos- odd iddynt yn mhob modd. Ymadawyd dan ganu Difyrwch, gwJr Harlech."—Arianfryn. RHIGOS. BETHEL.—Mae yr eglwys uchod, yn nghycl ag eglwys Hirwain. wedi penderfynu cael darlith wedi ei thraddodi. er cynorthwyo y brawd ieuanc gobeithiol, Mr. Thomas J. Howells, yr hwn sydd wedi dechreu ar y gwaith pwysig o bregethu gyda'r Trefnyddion Wesleyaidd er's mwy na blwyddyn yn ol. Mae y gwrthddrych yn gweithio yn galed bob dydd braidd, ac yn pregethu yn agos bob Sul, ac fel y mae y rhan fwyaf yn gwybod, nid ydyw pregethwyr cynorthwyol yn cael fawr am eu gwaith gyda'r enwad parchus hwn. Felly, yn hytrach na bod y brawd ieuanc a thalentog dan sylw yn cael ei oddef i aros mewn dinodedd am ei oes o einieu ychydig bach o help, gyfeillion Rhigos, Hirwain, a Chwm Nedd, deuwch allan i'w gy- northwyo i fyned yn mlaen. — Un o Graig y Llyn. CAERDYDD. PRIODAS URDDASOL.-Boreu dydd Mercher, Ion. 5ed, yn Nghapel Bethania, Docks, priodwyd Mr. David Evans, Caerdvdd, a Mrs. James, St. Mellon's. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Samuel Jones, Penarth, a J. M. Jones, Pembroke-terrace. Canodd c6r y capel, o dan arweiniad Mr. H. Felix, ddau ddarn, a chwareu- odd Miss Clara N. Davies Mendelssohn's Wedding March ar yr harmonium. Yr oedd banerau yn chwifio yn groes i'r heol mewn dau fan yn entrance Loudon-square. Yr oedd y capel yn llawn cyn i'r gwasanaeth ddechreu, a brwdfrydig iawn fu y llongyfarchiadau ar ol y gwasanaeth. Yr oedd y wedding breakfast yn cael ei bwyta yn Nhonyrefail Villa, Roath. Oddeutu canol dydd, ymadawodrl Mr. a Mrs. Evans am Lundain gyda'r express. Mab y Parch. Wm. Evans, Tonyrefail, ydyw Mr Evans, a blaenor Loudoun-square, ac un o brif flaenoriaid y sir. Merch Mr. P. Roberts, Mill Farm, Llaneurwg, yw Mis. Evans. Yn ei ddydd yr oedd yntau yn flaenor dylanwadol yn y lie uchod, ac hefyd yn ddyn pwysig mewn cysylltiad a Methodistiaid yn sir Fynwy. Cawsant anrheg- ion costus iawn gan rai o brif foneddwyr y dref. TONYREFAIL. CYFARFOD ADLONIADOL. — Cynaliwyd cyfarfod o'r natur hwn yn y lie uchod nos Fercher di weddaf, pryd y cymerwyd y gadair gan Mr. J. P. Williams. Gwasanaethwyd yn y cyfarfod gan y personau eanlynol :—H. Rowlands, E. Morgan (Ieuar; Illtyd), W. Williams, J. Llewellyn, D. Richards, E. Rowlands, T. Rees, a'r Parch. T. Griffiths. Cafwyd cyst adleuaeth gan ferched bychain ar ganu Dos, cuddia dy ofid," ac enill- wyd gan Daisy. Terfynwyd y cyfarfod gan barti Ainon, trwy ganu "Cwymp Babilon," dan ar- weiniad y cerddor ieuanc J. Llewellyn. Chwar- euwyd yn fedrus ar yr harmonium gan Mrs. Jones, St. John's. Yr oedd yn wir ddrwg genym feddwl nad oedd neb yn cystadlu ar yr araeth, sef "Yr angenrheidrwydd o gael darllenfa a llyfrgell yn ardal Tonyrefail." Y mae'r testyn yn sicr o fod yn deilwng o sylw y darllengar a'r myfyrgar. Bydded i chwi, fechgyn y pwyllg, r, ddeffroi, a dyfod allan yn araethyddol ar y pwnc, yn hytrach na'ch bod yn gosod elw y cyfarfodydd i gael y cyfryw beth, a dim un ohonoch yn teimlo yn awyddus i ddweyd ychydig dros yr achos. Deuwch allan y tro nesaf, boys, a dangoswch i ni ddaioni y fath sefydliad. Efrydydd. WORKINGTON, GOGLEDD LLOEGR. EISTEDDFOD A CHYNGHBRDD. — Cynaliwyd yr wythfed Eisteddfod flynyddol yn Assembly Rooms y lie uchod dydd Llun, Rhagfyr 27ain, 1880. Cy- merwyd y gadair gan C. J. V alentine, Y sw., Moss Bay Iron Works, yr hwn a draddododd anerchiad agoriadol campus, ac a gyfranodd at dreuliau yr Eisteddfod fel arfer. Y beirniaid oeddynt, ar y datganu, Mr. McGowan, Whitehaven y cyfan- soddiadau, &c., yr hybarch S.R., Llanbrynmair. Y buddugwyr oeddynt, ar yr unawdau, deuawdau, &c., Meistri E. Davies, T. Armstrong, J. Spencer, R. Rees, E. Hopkins, a Cariadfab a'i barti; y darnau corawl, cor y plant dan arweiniad Mr. Richard Rees, a chor Mr. Levi Williams (Ab Gwent) yr areithio, Mr. Thos. Morgan y cyfan- soddiadau, Cariadfab, Amanwyson, a rhywun arall na chawd ei enw. Yr ysgrifenydd oedd Mr. D. B. Winstone, yr hwn, fel arfer, a wnaeth ei ran yn ddeheuig.—Yn yr hwyr, cynaliwyd cyngherdd ardderchog y Derwent Choral Society, yu cael ei arwain gan yr hen arweinydd galluog a phrofiadol, W. Griffiths, Ysw. (Ivander), ac Eos Dyfed, Llinos y De, yn nghyd ag orchestral band ar- dderchog, yn cynorthwyo. Yr oedd hon yn un o'r cyngherddau goraf a gawd yn Workington er's blynyddau. Ivander, yn ei graffder a'i hoenus- rwydd cyntefig, yn arwain, Eos Dyfed yn gwefr- eiddio y dorf enfawr a'i ddatganiadau swynol, a Llinos y De, hithau yn datganu mor odidog nes yr oedd y canoedd gwyddfodolion yn taranu ei chymeradwyaeth. Canodd Mr. McGowan hefyd yn ardderchog, ac yr oedd chwareuaethau Mr. Packer ar y crwth yn gampus, yn ol tystiolaeth pawb yn ddiwahaniaeth. Y mae papyrau y cylch- oedd yn siarad yn uchel am yr wyi hon, ac am bawb a gymerasant law ynddi.—Y nos Fawrth ddilynol, cafwyd cyfarfod difyrus ac adloniadol yn Ysgoldy y Gweithfeydd Alcan. Ivander yn y gadair. Cafwyd amryw gystadleuaethau, a chan- odd Eos Dyfed, ac amryw ereill, yn swynol iawn. Gwnawd casgliad ar ddiwedd y cwrdd er cynorth- wyo yr Eos i fyned i'r Royal Academy of Music, a chasglwyd y swm o dros ddau gini a pha bryd bynag y bydd i Eos Dyfed a Llinos y De ym- weled a'r lie hwn eto, bydd iddynt gael derbyniad brwdfrydig yn ddiamheu.-X. PISGAH, PIL. EISTEDDFOD. — Cynaliwyd yr Eisteddfod hon dydd Calan, yn Ysgoldy y Bryndu. Beirniad y canu ydoedd Alaw Ddu, Llanelli y farddoniaeth, y Parch. Mr. Humphreys, Caerdydd. Dechreu- wyd trwy gystadlu ar ganu 0 Gartref yr Eryr neb yn deilwng. Beirniadaeth yr englynion i'r Tanwr tandclaearol;" goreu, o luaws, Cynffig- wyson. Canu Y Carclotyn;" amryw yn cynyg goreu, Eos Cynwyd, Maesteg. Cafodd yr ail oreu, sef R. Jame-, ei wobrwyo gan Alaw Ddu. Adrodd Y Trên;" goreu, Anne Griffiths, Myn- ydd Cynffig. Canu "Mai;" dau g .,1' yn cynyg, sef Cdr Saron, Maesteg, a Chôr Mynydd Cynffig, dan arweiniad Mr. W. Dodd; goreu, yr olaf. Beirniadaeth yr englyn byrfyfyr i Alaw Ddu gorem, Aneurin, Penybont. Beirniadaeth y bedd- argraff i Miss Sarah Ann John amryw yn cynyg goreu, Cynffigwyson. Canu Forester's sound;" goreu, W. Thomas a'i gyfeillion. Beirniadaeth y ddn goreu, Mr. Williams (Llew Mynwy), draper, Mynydd Cynffig. Cystadlu ar y prif ddarn, "0 Father whose almighty power;" dau gor yn yr ymdrech, sef Cor Saron, Maesteg, a Chor Mynydd Cynffig, dan arweiniad Mr. W. Dodd rhanwyd y wobr. Nid yw y cyfaill Dodd eto ond 19 oed, ac y mae y buddugoliaethau hyn yn siarad yn uchel am da,no fel arweinydd. Y mae talentau dvsglaer ar lenydd y Cynffig, dim ond eu meithrin. Cynaliwyd cyngherdd yn yr hwyr, dan lywydd- iaeth Mr. W. J. David, cashier. Canwyd amryw ddarnau yn chwaethus gan y rhai canlynol :-Eos Cynwyd, Maesteg; T.Thomas (Eos Cynffig); W. Thomas, draper; a chor y lie, dan arweiniad W. Dodd. Dylai y Cynffigwyr gefnogi y bachgen hwn. Cafwyd Eisteddfod ardderchog, a'n dymun- iad yw cael un tebyg iddi heb fod yn hir eto. Llengarwr. NELSON, LLANFABON. EISTEDDFOD. -Cynaliwyd Eisteddfod yma ddydd Nadoligj Rhagfyr 25ain, 1880. Yr oedd dysgwyl- iad mawr am ddydd Nadolig yn y lie uchod eleci, am fod ychydig o gyfeillion yn y lie yn cynal Eis- teddfod ar y dydd crybwylledig, yr hyn na fu yn y Nelson ar Nadolig erioed o'r blaen. Ond er yr holl ddysgwyliadau, ni chawsom ein siomi. Caf- wyd cynulliad anarferol o luososg. Yr oedd yr ysgoldy yn orlawn ac nid rhyfedd hyny, gan fod genym y fath foneddigion anrhydeddus yn lyw- yddion am y dydd, ac hefyd ein dau feirniad parchus ac enwog. Am haner awr wedi deg o'r gloch yn y boreu, cymerwyd y gadair gan y bon- eddwr parchus ac haelianus J. Leigh, Ysw., J.P., Llanfabon. Arweinydd a beirniad yr adrodd a'r cyfansoddiadau, y Parch. G. Rees, Penuel, Nelson. Beirniad y canu, D. T. Prosser, Y sw. (Eos Cyn- lais), Treorci. Perdonegydd, Mr. J. Perkins, Music Hall, Aberaman. Awd trwy y rhaglen yn y drefn a ganlyn Anerchiad gan y llywydd, yn llawn o'r hen hwyl Gymreig. Yna, anerchiadau gan y beirdd. Can agoriadol gan gyfaill o Ddow- lais. Canu solo alto, "Bwthyn bach mamgu 2 yn cystadlu; goreu, merch o Ddowlais; gwobr, 3s., a gwobr o 2s. rhoddedig gan y llywydd i'r ail oreu, sef merch o Ddowlais eto. Adrodd y "Brahmin du;" 2 yn cystadlu; goreu Edward Hardmg gwobr, 2s., a Is. o wobr (gan y llywydd) i'r ail oreu, sef James Harding. Deuawd, Y ddau forWr 6 cwpl yn cystadlu goreu, William Hopkins a'i gyfaill, Capcoch gwobr, 6s., a 3s. gan y llywydd, i John Jones a'i gyfaill, Mountain Ash, yr ail oreu. Canu lesu'r cyfaill g6reu (i gdr o b!ant) 1 c6r yn cystadlu, sef Cor Plant Ebenezer, Nelson, o dan arweiniad Abraham Morgan, yn deilwng o'r wobr, lp., a pitch-pipe i'r arweinydd. ilo tenor, "Dacw bwthyn gwyn y'm ganwyd;" 12 cy-tadleuydd goreu, William H,)pkins, Cap- coch, Aberdar gwobr, 3s. 6c., a 3s. o wobr gan y llywydd i'r ail oreu, John Jones, Mountain Ash. Mabonwyson gafodd y wobr o 10s. 6c. am y traeth- awd goreu ar Ferthyrdod Stephan." Hughes (Craigfryn), Quaker's Yard, deilyngodd y wobr o 6s. am y penilhon ar "Ac ni bydd nos yno." Canu Nant y mynydd 2 gor yn cystadlu, Cor Moriah, Dowtais, a Chor Caerffili goreu, Cor Dowlais gwobr, 3p., a dwy gyfrol (un o'r Messiah ac un o'r Creation) i'r arweinydd a rhoddodd y llywydd ail wobr o lp. i Gor Caerffili. -Am haner awr wedi 2 o'r gloch yn y prydnawn, llywydd- wyd gan y boneddwr anrhydeddus W. Rees, Ysw., J.P., Penwain, Llanfabon, gan yr hwn y cafwyd anerchiad rhagorol. Yna, solo bass, Y glowr 6 yn cystadlu cydfuddugol, Thomas Williams, Nelson, a John Williams, Caerffili; gwobr, 4s. Ni ddaeth ond un hen wr yn mlaen i ganu yr hen don Dyffryn Baca," hen wr o Ddowlais, a chaf- odd y wobr o 2s. Adrodd Arwyddion henaint;" 13 yn cystadlu cydfuddugol, Moses Moses, Tre- lyn, a Rowland Morgan, Nelson ywobr, 4s Yr oedd 3 parti o wrywod (16 mewn rhif) yn cystadlu ar Cheer up, companions," sef part'iau o Ddow- lais, Caerffili, a Mountain Ash; goreu, Mountain Ash; gwobr, lp., a rhoddodd y llywydd wobr o 7s. 6c. i'r ail oreu, sef parti o Ddowlais. Solo treble, Gyda'r wawr;" 2 yn cystadlu; goreu, merch o Gaerffili; gwobr, 3d. 6c., a 2s. gan y llyw- ydd i'r ail oreu, sef Mary Ann Morgan, Cwm- aman. Darllen darn o gerddoriaeth ar y pryd 1 parti o 10 ddaeth yn ml 4 en, sef B. Date a'i gyfeillion, a chawsant y wobr (4s.). Canu penill- ion ar ddull y Gogledd; 2 yn cystadlu goreu, William Hopkins, Capcoch; gwobr, 7s. 6c. Yn awr, deuwyd at brif gystadleuaeth y dydd, canu y prif ddarn, Their sound is gone out4 c6r yn cystadlu, sef corau Moriah (Dowlais), Cwmaman, Capcoch, a Chaerffili goreu, C6r Capcoch; 9p. a lp. i'r arweinydd oedd y wobr. Terfynodd hyn weithrediadau yr Eisteddfod, a da iawn genym hysbysu fod pawb o'r dorf fawr wedi gwisgo eu manners goreu. Cawsom Eisteddfod o'r fath oreu wedi troi yn llewyrchus iawn. Y mae yn lawen- ydlil genym hysbysu y bydd yma Eisteddfod eto y Nadolig nesaf, 1881, pan fydd genym le mwy cyfleus i ddal llawer yn rhagor.—Yn yr hwyr, cafwyd cyngherdd ardderchog. Llywydd, F. W. Ralfe, Ysw., Llancaiach House. Cafwyd gan y boneddwr pHchus ac haelionus hwn eto anerchiad rhagorol. Cymerwyd rhan yn y gyngherdd gan yr artistes canlynol :-Miss James, Mountain Ash; Miss Mary Jones, Nelson; Miss J. D. Thomas, Nelson; Mr. Gwilym Thomas, Caerffili; Mr. Thomas Bowen, Cwmaman, Aberdar; a D T. Prosser, Ysw. (Eos Cynlais). Perdonegyddl Mr. J. Perkins, Music Hall, Aberaman. Cafwyd, cyngherdd ragorol iawn. Yr oeddynt oil yn gan- moladwy iawn. Dyna holl waith y dydd ar ben. Hir oes i Eisteddfod y Nelson. Derbynied y bon- eddigion fuont yn lywyddion, ac ereill o foneddlg- 10n J y ein diolchgarwch am eu caredfe- rwydd. yn ein helpu i gynal ein Reisteddfod, gan. obeithio y byddont byw i weled Nadolig nesaf eto. Terfynaf gan ddymuno pob llwyddiant i Eistedd- fod y Nelson.-D.B.. TREFORIS. EISTEDDFOD Y TABERNACL. — Cynaliwyd yr Eisteddfod hon dydd Nadolig, Rhagfyr 25ain. Y beirniaid oeddynt Eos Morlais a Watcyn Wyn. Llywydd, J. J. Jenkins, YIIW., Maer .bertawe. Arweinydd, Parch. W. Emlyn Jones, v gweinidog. Wedi cael araeth bwrpasol i;iw n gan y llywydd^ awd yn mlaen yn y drefn ganlynol :—Canu y tenor solo, "Softly sweet in Lydian measure," o lexatn- der's Feast; cystadleuodd deuddeg .goreu, J. T. Davies, Treforis. Adrodd Morfa Rhuddlan tri-ar-ddeg_ yn cystadlu; rhanwyd v wobr rhwng Mrs. Molin, Llansamlet, a Griffith Morgan, Clydach. Canu lesu'r cyfaill goreu gaed," o Delyn yr Ysgol Sul, i gorau o blant dau g6r yn cystadlu goreu, Cor Plant Pertrepoth. dan ar- weiniad David Edwards; ail oreu, Cor Plant y Graig, dan arweiniad David James. Erbyn hyn, yr oedd yn bryd cael ychydig luniaeth i'r corff, ae felly awd allan i dori angen. Dechreuwyd yr ail gyfarfod drwy ganu The last wild rose," i bartits ddim dan 24 na thros 28 o nifer un parti ya cynyg, ac yn deilwng o'r wobr. dan arweiniad J. T. Davies, Treforis Canu y deuawd, "Flow, gentle Deva;" pedwar par yn tynu am y dorch goreu, Lewis Evans a J. T. Davies. Treforis. Beirniadaeth Watcyn Wyn ar y bryddest goffa- dwriaethol i'r diweddar Mr. W. H. Davies. Cross Inn, Treforis; un-ar-ddeg yn y gystadleuaeth; goreu, John Grey (Eurfryn), Pentre E-tyll. Canu Y blodeuyn olaf tri chdr yn yr ymdrech, sef Cdr CalfarIa. Clydach, dan arweiniad J. Afan Jones; C6r Siloh, Glandwr, dan arweiniad John Jones (Ap Caradog) a Chdr Bethlehem, Llan- samlet, dan arweiniad D. Thomas (Dewi Samlet). Wedi cystadleuaeth frwd a beirniadaeth fanol, dyfarnwyd Cdr Calfaria yn oreu Canu y bass solo, "Presuming slave," o Samson; chwech yn cystadlu goreu, J. D. Smith, Ystalyfera. Canw The wreath," gan barties o wyth chwech parti yn tynu am y dorch yoreu, Ymgeiswyr, dan ar- weiniad J. T. Davies, Treforis. Yn nesaf, deuwyd at yr ymdrech fawr, sef canu y prif ddarn corawl, But as for his people," o Israel in Egypt, i gdrau o'r un gynulleidfa gwobr, 20p., a medal arian i'r arweinydd. Cystadleuodd y cdrau canlynol, sef C6r Hebron, Clydach, dan arweiniad The s. Jones; C6r Siloh, Glandwr, dan arweiniad J. Jones (Ap Caradog) Cdr Plasmarl, dan arweiniad John Jones C6r Bethlehem, Llansamlet, dan arwein- iad D. Thomas (Dewi Samlet); a Ch6r Sardis, Ystradgynlais, dan arweiniad T. Jenkins, ysgol- feistr. Cafwyd datganiad da iawn gan y cdrau oil, a phob un oh on vnt yn teilyngu gwobr; ond yr oedd dau g6r wedi rhagori ar y lleill, sef Cdr Siloh a Chdr Sardis, ac wedi pwyso a mesur y ddau, cafwyd mai Cor Sardis oedd i fyny a'r safon, a gwobrwywyd yr arweinydd yn nghanol. eyeneradwyaeth y dorf fawr oedd yn bresenol. Wedi i'r arweinydd gyhoeddi y bvdd Eisteddfod i gael ei chynal y Nadolig nesaf eto yn yr un lie, ymadawodd pawb. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyng- herdd ardderchog, yn yr hon y cymerwyd rhan gan Miss -Lizzie Williams, R.A.M. Eos Morlais,, Mr. Lucas Williams, yn nghyd a ch6r y lie, dan arweiniad Mr. D. Francis. Cyfeilliwyd yn dde- heuig dros ben gan Miss Lizzie Bowen, Treforis. Y mae y foneddiges hon yn teilyngu clod mawr am ei pharodrwydd bob amser i weinyddu pan, fyddo galw am dani mewn amgylchiadaii o'r fath. Nid ydyw erioed wedi dysgu'r ffordd i ddweyd Na," ond y mae bob amser yn barod i wneyd yr hyn a all i gefnogi bob achos teilwng. Merch ydyw i Henry Bowen Ysw., enw yr hwn sydd yn adnabyddus iawn yn mhlith y cymdeithasau dyn- garol. Chwareuwvd yr organ gan Mr. William Samuel, yn ei ddull meistrolgar arferol. Digon yw dweyd fod pob peth wedi troi allan yn lwydd- iant perffaith. Y cantorion yn eu hwyliau goreu, a'r dorf fawr yn gwrando gyda bias tipyn o'r aur melyn mewn llaw tuag at ddileu dyled y capel; a phawb, yn ddieithriad, yn edrych yn mlaen am y Nadolig nesaf eto, i gael gwledd o'r un natur.— R. J. ABERKENFFIG. GWYL DE A CHYNGHBRDD.—Dydd Llun, lonawr 3ydd, cynaliwyd gwyl de yn nghapel y Trefnydd- ion Calfinaidd. Eistedlodd tua phump cant o bobl wrth y byrddau, a chawsant, yn ol pelb ar- wyddion, eu gwala a'u gweddill o'r danteithion. Yr oedd yr ystafell wedi ei haddurno yn dlws iawn. ac arwyddeiriau priodol i'r amgylchiad yn grogedig ar y muriau. Cafwyd te ardderchog. Gweaau ac hapusrwydd oedd gan y gweinwyr i ateb pob galwad. Yn yr hwyr, cafwyd cyng- herdd. Cadeirydd, Mr. Jenkin Lloyd.' Perfform- iwyd cantata" Yr Adar (Parry) gan gdr plant y capel, dan arweiniad Mr. Thomas Evans, U.C.W., Tondu. Yr oedd y plant yn rhifo tua 65. Cy- merwyd y solos gan Misses E. Morgan, M. A. Morgans, C. Evans C. Thomas, a C. Hopkins, a'r Meistri J. Jenkins, J. Lewis, G. Evans, a T. Evans (yr arweinydd). Cyfeilliwyd gan Mr. J. 8 g Morgan, Aberkenffig. Yr oedd y capel wedi ei orlanw gan wrandawyr astud, parchus, a brwd- frydig. Y plant wedi ymwisgo yn daclus a phert, a hapusrwydd yn chwareu ar eu byw wynebau. Yr oedd datganiad rhai o'r solos yn hynod o effeith- iol, ereill heb fod cystal, ond am y cydganau, yr oeddynt yn ganmoladwy — mewn amser da, seiniau perffaith. Yn wir, yr oeddynt yn fyw o fiwsig, yn orphenol, a sefydlog, ac yn dwyn tyst- iolaeth i allu a diwylliant y cor bach. Yi oedd teimlad y lie am gael ail-adroddiad ohono yn fuan. Mae Mr. Evans wedi enwogi ei hun lawer gwaith o'r blaen yn ei ymgymeriadau cerddorol, a braidd na ddywedem, pe cawsai y wlad glywed yi cir bach yn canu gyda'r fath yni, dylanwad, a pher- ffeithrwydd, ag y canasant y cydganau y nosoa hon, ei fod yn llawer uwch y tro hwn nag erioed. Yr oedd elw y te a'r gyngherdd yn myned i fund adeiladu y capel newydd hardd fwriedir ei godi yma ar sylfaen yr un presenol, yn ystod y flwyddyn hon. Tebyg y bydd elw da ar ol hyn.—Teithvwr.
Family Notices
Ctetaedigraiefh. EDWARDS,—lonawr 7fed, 1881, anwyl briod Mr. W. Edwards, builder, Treorci, ar ferch. Gelwirfhi yn Jennie. Hawddamor iti, faban tlws, Ar ddechI en taith ddaearol, Y mae dy dad a'th fami fwyn Yn gwylio dy ddyfodol; Pan fyddi di yn chwareu 'n llon 0 amgylch ogylch iddynt, Bydd diniweidrwydd ar dy wedd Yn adrodd dy oil helynt. Bendithier di a dysg a dawn, Doethineb gyda hyny; A phan y cefnu ar y bydj C«i fynwes dawel Iesu. -Ioa;n, Tywi.
[No title]
CYHOEDDIR fod y Parch. Levi Caliins, Vernon, Wisconsin, wedi penderfynu ail briodi yn mhen mis ar ol claddu ei wraig; ac wedi iddo fethu cael gweinidog i gyflawni y gwasanaeth priodasal, gwnaeth hyny ei hun yn ngwydd tystion
OOR UNDEBOL TONYPANDY.
mater, ac yr oedd yn dda genym weled cynifer yn teimlo interest mor ddwfn yn y mudiad. Wedi dewis llywydd ac ysgrifenydd, awd yn mlaen mewn ymdriniaeth gyffredinol ar y pwnc. Cafwyd areithiau galluog, gwresog, a phwrpasol gan amryw o'r cyfeillion. Deall- wyd yn fuan fod awydd cryf yn mynwesau yr oil oedd yn bresenol am weled cor undebol wedi ei ffurfio, a'u bod yn foddlon gwneyd pob peth a fedrant er cario hyny i weithred- iad. Yr oedd yr adran uchaf o'r dosbarth a enwyd yn y GWLADGARWR diweddaf yn bre- senol, megvs Clydach "Vale; Salem, Jerusa- lem, a Bethania, Llwynpia Bethlehem, Tre- alaw ac Ebenezer, Tonypandy ond gan fod syfeillion yr adran isaf, megys Dinas, Tre- william. Penvgraig, a Gilfachgoch, yn absen- ol, teimlid y byddai yn well cael yr wythnos hon eto i addfedu y mater, a chael cynrych- iolaeth gyffredinol unwaith cyn symud yn y blaen. Felly, cynelir cyfarfod eto yn nhy Mr. W. Moses, Temperance Hotel, De Win- ton Field, Llwynpia, nos Sadwrn nesaf, am saith o'r gloch. Bwriedir y pryd hwnw fyned yn y blaen gyda threfniadau cyffredinol, a chael y cor wedi ei sefydlu mor fuan ag y gellir. Yn awr, boys y Gilfacb, deuwch tros- odd a deued boys yr ardaloedd hyn yn gryno ac yn brydlawn. JOHN WILLIAMS, YSG. Pro. Tem. Trealaw, Ion. 8fed, 1881.