Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

.1 COLEG Y GV/SITHIWR.

News
Cite
Share

.1 COLEG Y GV/SITHIWR. 0! AX AP COEWYSI. Nos Wener, Ionawr 7fed. Tomos Anaele Jones.—Wn i ddim, fechgyn, ond y ma' rh'wbeth annghyffrediri o wleua yn y papyre hyna, obothti y Drysorfa Uy- northwyol—hwn a'i reswm, a'r llall &'i ddadl, ac ,'rwy i mewn penbleth disprad ffordd ma' ore' nithir. Fe garwn i eto gal cl'wed gen rai o ch'i p'un yw p'un, a be chi'n feddwl sy' ore' ar les y gwithwrs yn y pendraw. F4 dd'wed D. Morgan, Mountain Ash ffor' hyn, a Mabon ffor' arath. 'Nawr, os oes rhai o chi'n ddigon call, torwch y striff rhyngthyn nhw. Lewis Pcgor Huws.-Wel, fe wnaf fi gynyg teg arni, ac os methaf, 'does dim i'v- wneyd ond i ch'i roi help llaw. 'Nawr mae D. Morgan, Mountain Ash, yn fachgen call ddigon, ond "ymae'r colli'n calla weithie" (chwedl yr hen gyhoeddwr), ac yn sicr i chwi, y mae D. Morgan yn colli yn y fusnes. Un reswm dros wrthod y drysorfa ganddo ef yw am nad oes ynddi ddarbodaeth ar gyfer afiechyd naturiol. Dymunol fyddai, yn ddiau, cyfuno afiechyd naturiol a damweiniol yn y drysorfa, oud fe wyr D. Morgan fod corff mawr ein gweithwyr yn perthyn i'r., cymdeithasau dyngarol, ac nid ydwyf heb gredn nad oes man lleiaf un o bob ugain ohonyut hob fod. Nid bwviad y drysorfa1 hon yw dyfod i oresgyn tiriogaeth a defnydd- ioldeb y cytndeithasau dyngarol, ond ei phenaf amcan hi yw cyfarfod ù. damweiniau yn ein pyllau glo. a gal Ism feddwl fod ei chenadaeth yn y cyfeiriad hwnw mor bwysig. fel os liwydd'i i'w gario allan, bydd wedi cyflawni gwasanaeth mawr i lowyr Cymru. Dyna fi wedi chwalu un o wrthresymau D. Morgan i'r gwynt. Yn awr, cymerwch, un o ch'i, ryw bwynt arall. Agripp-—Dealled Mr. D. Morgan ein bod yn,trafcd y pwnc holl bwysig hwn i'r glowr, yn y Coleg," mewn ysbryd hollol hynaws a diwenwyn tuag ato ef na neb arall, ac na fydded i neb ohonom edrych na dadleu arno ond yn ngoleu rhesv/m a gwirionedd. Tybiais i fy hun yr un ffordd ag yntau dro yn oL cyn i mi roi astudiaeth briodol i'r mater, ond yn awr yr wyf wedi fy llwyr argyhoeddi fod mwy i'w ddweyd dros y Drysorfa Gynorth- wyol Barhaol nag sydd i'w herbyn, a mwy o fantais i'r glowyr o ymuno a hi na thrwy ddibynu ar Gyfraith Cyfrifoldeb y Meistri. Fel y buwyd yn -siarad yn y Coleg y ma o'r blaen, os ydych yn cofio, y mae yr act newydd hon yn ansier iawn yn ei gallu i estyn ymwared i'r glowr, a hyny am nas gellir taflu y cyfrifoldeb am lawer o ddam- weiniau ar ysgwyddau y meistri, ac yna dyna'r gweddwon, a'r amddifaid, a'r dibyn- yddion ereill, yn cael eu gadael yn eu dim, ar ol dam wain pan fydd rhyw 100 neu 150 wedi eu hyrddio i fyd arall. Yn awr, atebed Mr. D. Morgan os nad hyn yw'r gwirionedd. Ond dyma'r drysorfa hon a gynygir gan y meistri, ac i ba un yr ymgy- merant a chyfranu mor haelfrydig, cyferfydd hon a phob damwain, fach a mawr, yr hon a gymer le naill ai trwy esgeulusdod y meistr neu y gweithwyr. Ac onid yw cael daear gadarn fel hyn dan ei draed yn dra ragorach i'r glowr na darbodion ansicr y Gyfraith Iawilol1 Yna gall fod yn dawel ei feddwl pan yn myned at ei orchwyl peryglus, os cymerir ef ymaith gan daran marwolaeth yn nwfn gell- oedd y ddaear, ei fod yn perthyn i gym- deithas a ofala na cha ei weddw a'i blant ddyoddef eisieu. Ai nid yw hyn yn rhagor- ach, fechgyn, na gorphwys ar adail wagsaw ac ansicr Act Cyfrifoldeb y Meistri. Ap Corwynt.- Yr wyf finau wedi darllen rhyw gymaint hefyd am y pethau hyn, ac yr wyf wedi gweled rhai o objections y cyfaill D. Morgan dipyn yn gynamserol. Er engraifft, ofna y bydd mwyafrif o'r meistri ar fwrdd y gymdeithas ond nid wyf fi yn gallu gweled hyny, ac os oes yn y rheolau ryw glause yn cyfreithloni hyny, gorchwyl hawdd fydd ei ddileu ar unwaith yn awr yn y cychwyn. Yr wyf fi wedi deall fod cynifer, a mwy, o'r gweithwyr i fod ar y bwrdd ag sydd i fod o'r meistri, ond os nad yw y pethau hyn felly, ttiyner diwygiad yw awr ar unwaith. Gwir nas gellir bod yn anffaeledig, ond ffuvfier rheolau mor agosed ag y gellir i berffeith- rwydd yn awr ar y dechreu, ac yna nis gall y bwrdd wneyd dim yn groes i'r cyfryw. O'r hyii-lleiaf, ni ddylent. Yr wyf fi wedi bod yn pwyso a mesur y pwnc hwn hyd eithaf fy ngallu bach 1, ac yn bendifaddeu, yr wyf fi o'r farn fod til gwrtliwynebwyr y drysorfa. yn hollol untenable. Onid gwell i chwi gael sicrwydd, boys, na rhyw Will-o'-the-wisp o obaith oddiar yr act ? Rhoddwch chwi ystyr- iaeth briodol a phwyllog i'r mater, ac yr wyf yn dra sicr y deuwch yn dra buan idaflil eich hatling i'r drysorfa. Yr wyf yn deall fod y brav/d Mabon wedi ei enill i ffycld y drysorfa. Nid yw efe, mwy nag ereill ohonom, yn rhydd o gamsyniadau, ond yr wyf yn credu ei fod yn llygad ei le y tro hwn. Ap Scregins.-How fati, boys Ddoe ddi- weddaf oedd dydd mawr agoriad Senedd Prydain. Ni ddaeth yr hen wraig sydd yn gwis P,o em coron a'n jewels ni i gymoryd rhan yn y seremoni. Yr oedd hi yn fwy fond o lawer o agor y Senedd pan oedd yr lien Dizzy wrth y llyw nag ydyw hi pan y mao Gladstone. m;i-e hyny yn siarad rhywbeth, welwch ch'i, ftoixid y tnae gwynt ei meddwl hi yn cluvythn. Peth tra auarferol hefyd yw fod y cyn-Brif-weinidog yn taluymweliad a'r Peuaaur fel y bu Dizzy fwy nag unwaith, yn ddiweddiir. Ond am y Parliament ddoe o'wn i'n v. Ieu A. Fe ddaeth my Lord Beacons- field yno fel c thousand of briclcs i la,wr ar. ben,Gv/einy<ldi;cth Gladstone, ac wrth gw,vs; i ^foindio a chreu llawer o feiau dych'mygol yn, Cl lievbyn. Dechreu agor tan oedd jhi ddoe. M.o'r uG.^h-shells i <ld'pd;.qyn, hir.. Wrth gwrs, fc gaiff Tomos Pa't -.sylw buan hefyd i'w fusnes gwaedlyd a llofrudiliog, ac y mae yn, hen bryd setlo'i gount e' bellach. Yr ydys, feddyliwn i, wedi goddef digon j gydag e', a gobeithio, myn ffwlffachad, y ceir pen draw ar ei gariboo a'i ddrewdod. Pwy son sy'r dyddie dwaetha yma o farchnad y byd 1 Sam Huws (fireman). -Dyi-la'r son sy fod y glo wedi cwni yn Nghaerdydd ta beth, a ch'i ellwch fentro erbyn y chwilir llyfrau'r mishtri y bydd codiad i dd'od i ni, y glowyr. Dyna fy nghred i o leiaf. Ma' hi yn siwr o wenu arnom tua'r spring yma. PERSONOL. Ap Gorwynt.—Wedi clywed fod yr hen athraw Nathan Dyfed wedi bod Tan fachau tyn afiechyd," aethum i a chyfaill i dalu ymweliad ag ef ddoe, a chawsom ef yn ei hoff fan, sef ei lyfr- gell, a than mawr o'i flaen. Y mae ganddo ystor iawn o lyfrau, ond tebyg na welsom ni mo'u haner. Wel, fe fu yr hen dad rhwng erchwynion ei wely am dros bythefnos yn yr inflammation, a'r poenau mwyaf dirdynol yn ei ben ond yr oedd yn dda genym ei fod wedi concro ei elyn y tro hwn eto, ac ar- wyddion y ca ein hen athraw ddyddiau lawer i'n difyru a'i ffraeth awen.

Y Damweiniau yn y Glofeydd…

Y BEIBL A SYNIADA U A NFFYDDOL.

" UN O'R WLA 0" V. GWIRIONEDD.

EISTEDDFOD DEWI SANT, ABERDAR.

BWRDD YSGOú YSTRADGYNLAIS.

OOR UNDEBOL TONYPANDY.