Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Hanesion Dosbarthawl.

News
Cite
Share

Hanesion Dosbarthawl. ABERDAR. SILOA.-Dydd Sul, Ionawr 2il, 1881, cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd chwarterol, pan ycafwyd yno gyfarfod dyddorol iawn._ Daeth yn nghyd nifer luosog iawn i glywed deiliaid yr YRWOT Sul yn canu ac yn adrodd, a phob peth ag oedd ganddynt, yr oedd yn bwrpasol iawn. Llywyddwyd gan y Parch. D. Silyn Evans, y gweinidog. — TJn oedd yno. ABERAFON. CYFARFOD LLENYDDOL. Cynaliwyd cyfarfod o'r natur hwn yn Neuadd Gyhoeddus y lie uchod cos Nadolig. Yn ol yr hysbysleni, yr oedd ysgol- ion undebol Aberafon a Phenycae i gymeryd rhan yn y cyfarfod, ond er mawr siomedigaeth i lawer heblaw fy hun, ni wnaeth Ysgol Aberafon ei hym- ddangosiad, ac felly syrthiodd gwaith y cyfarfod ar Penycae yn unig Rhy ddrwg, yn wir, Ysgol Aberafon. Fodd bynag, llwyddodd Ysgol Peny- cae i wneyd y cvfarfod yn hwylus dros ben. Ewch rhagoch, Ysgol Penycoe, oherwydd y mae dyfodol gogoneddus yn eich aros.-Un o Bryn y Gan. LLANSAMLET. PEN CERDD GWYNEDD. — Prydnawn dydd Sul, Rhagfyr 26ain, traddodwyd anerchiad ar Gerdd- oriaeth y Cysegr" gan y cerddor galluog, Mr. J. H. Roberts, A R.A. (Pencerdd Gwynedd), Caer- narfon, yn Tabor, Maesybar. Yn ystod y cyfar- fod, canwyd amryw d6nau cysegredig yn swynol iawn gan y c6r, dan arweiniad Mr. Benjamin Beddoe, Church-place, a chafodd y cor a'i arwein- -ydd ganmoliaeth uchel gan y Pencerdd. Yn ei araeth, rhoddodd Mr. Roberts amryw o gynghor ion ac awgrymiadau buddiol ar ganu y cysegr, pa rai fyddai yn werth i ni eu coHo a'u dwyn i ymar- feriad yn y dyfodol, er perffeithio ein canu cynuli- eidfaol yn y lie hwn.-Yn yr hwyr, cawsom yr hyfrydwch o glywed Pencerdd Gwynedd yn chwareu ar yr harmonium yn Nghapel Bethel. Chwareuodd y cyfeilliant i'r Salmdônau drwy y cyfarfod, ac, yn wir, y mae yn gyfeillydd rhagorol. Ar ddiwedd y gwasanaeth, cawsom brofion ychwanegol o'i allu fel offerynwr, drwy iddo chwareu amryw o gydganau mawreddog Handel, -nes swyno pawb oedd yn ei wrando. Y mae i en- cerdd Gwynedd, nid yn unig yn gyfansuddwr cerddorol rhagorol, fel y mae yn hysbys trwy Gymru benbaladr, ond y mae hefyd yn chwareuwr gwych iawn ar yr offerynau cerdd, ac yn glod i'w athraw enwog, Syr William Sterndale Bennett, wrth draed pa un y derbyniodd ei addysg gerdd- orol yn ystod ei arosiad yn y Royal Academy of Music, Llnndain.-Ua o blant y gan. RHYDCYMERAU, LLANYBYTHER. Cynaliwyd ryfarfod llenyddol a cherddorol yn y lie uchod dydd Nadolig. Cadeirydd, Mr. D. Jenkins, Llansawyl. Beirniaid-y canu, Mr. f. Davies, Stone and Marble Works, Llanybyther; y traethawd, barddoniaeth, &c., Mr. D. C. Morgan (Nenog Wyn), Gwernogle. Ysgrifenydd ac arweinydd, Mr. Ehedydd Jones, Esgerceir. Awd yn mlaen a'r cyfarfod yn y drefn a ganlyn Adrodd "Y morwr bach;" naw yn cystadlu; «oreu D. Davies, Rhiw'rerfin. Datganu Sarah (Ieuan Gwyllt); cydfuddugol, D. Jenkins a'i barti a D. Evans a'i barti. Adrodd Can Nadolig; gore'u Miss Jones, Esgerceir. Datganu Yr afoni°- ar ei thaith goreu, D. Evans, ieu., butter merchant, Blaenddol. Darllen ar y pryd; pump yn treio goreu, T. Thomas, Llethr. Datganu y deuawd "Heber;" goreu, T. Davies, Hafod Wen, a'i gyfaill. Englyn i'r "Cybydd;" saith yn cynyg; goreu, J. Jones, Cwmalwas. Adrodd "Hen lancyddiaeth;" wyth yn cystadlu; goreu, T. Jones, Bwlchcymbyd. Datganu "Wyres fach Ned Paw;" goreu, Miss E. Evans, Clynbyr. Araeth ar Y dyn hunanol;" goreu, T. Jones. Datganu Dyfroedd Babilon;" Miss Evans, Dolau Isaf, a Mis- Jenkins, Cart & Horses, yn gyd-fuddugol. Sillebu Cymraeg; chwech yn cystadlu; goreu, D. Davies, Rhiw'rerfin. Dadl o ddewisiad y cystadleuwyr eu hunain; W. Evans, Clynbyr, a'i gyfaill, ac E. Thomas, teiliwr, a'i gyfaill, yn gyd-fuddugol. Datganu yr Hen Ganfed;" goreu, J. Jones, Danycoed. Penillion i'r "Carwr anffodus;" goreu, Ehedydd Jones. Datganu Calfaria," gan g6r aelwyd goreu, CQr Clynbyr. Traethawd, "Balchderyr oes;" budd- n^ol, J. Trawsgoediwr Williams. Datganu "b'Ewy'n gwedd'io drosoch chwi;" T. Davies a'i gyfaill a J. Jones, Caemawr, a'i gyfaill, yn gyd- fuddugol. Triawd o ddewisiad y cystadleuwyr eu hunain; goreu, T. Davies a'i barti. Araeth ddifyfyr; naw yn cynyg; goreu, T. Lewis, Rhyd- fallen. Datganu Aeron (Ieuan Gwyllt); goreu, Cor Clynbyr, dan arweiniad J. Jones, Caemawr. Yr oedd 61 llafur ac ymdrech ar y cyfarfod drwyddo. Blasus a da, moes eto. --X. Y. OAERFFILI. BETHEL.—Cynaliwyd tri o gyfarfodydd gwerth- fawr a phoblogaidd yn y lie uchod dydd Nadolig. Cyfarfod am haner awr wedi pump yn y boreu er cof parchus am enedigaeth ein Ceidwad. Ar- weinid y defosiwn mewn, gweddi gan Edmund George, Jonathan Lewis, Edward Bush, Samuel Hill ° John Price, a John Richards. Yr oedd tyrfa o blant ac ieuenctyd yn y cyfarfod hwn yn canu ac yn adrodd adnodau, Salmau, ac odlau vsbrydol. Yr hen bobl hefyd a gymerent ran yn V gwaith hwn. Gorphenwyd y cyfarfod gwir lesiol hwn trwy anerchiad byr a gweddi gan y gweinidog.—Y cyfarfod nesaf am un-ar-ddeg o'r lloch sef cwrdd y plant perthynol i Ysgol Sa- bothol Bethel. Yr oedd y cwrdd hwn eto yn un llwyddianus iawn. Canai c6r y plant (yr hwn oedd yn ihifo yn agos 100) amryw ddarnau tlysion, dan arweiniad Samuel Williams, yn dra rhagorol. Canwyd amryw unawdau, deuawdau, triawdau, &c ac adroddodd y plant rai darnau pwrpasol iawn i'r amgychiad. Llywyddid y cyfarfod gan y Parch D. Richards, yr hwn a anrhegodd aelodau v cdr a phob o lyfr. Traddodwyd anerchiad i'r planr, gan H. Anthor,y. Chwareuwyd yr har- monium gan S. E. Evans. Cwrdd bendigedig oedd hwn. —Am saith o'r gloch, yn yr un lie, cvngherdd mawreddog gan gdr mawr Bethel ai aelodau. Y Parch. D. Richards yn y gadair. Canodd y c6r anthemau, cydganau, canigau, part Jtmga, die., yn wir dda, ond yr Hallelujah to the Father" (Beethoven) a "Molwch yr Arglwydd (J. Thomas) dynodd fwyaf o'n sylw. Canodd y personau canlynol yn nodedig o dda :—Mrs. Moses, Miss E. A. Evans, a'r Mri. Jonathan Lewis. D. Butler, E. Bush, Samuel Williams, D. John, John John, J. George, Tom. John, D. Norton Williams, Wm. Bowen, ac Edward Moses. Y mae c6r mawr Bethel yn d'od yn fwy fwy medrus bob blwyddyn gyda'r darnau clasurol. Yr oedd hi yn dreat i fod yn Bethel nos N adolig. Yr oedd S. E. Evans yn chwareu yr harmonium yn gampus, a John Butler yn arwain y cor gyda boddhad mawr. Yr oedd y capel wedi ei orlenwi o bobl, a llawer, meddir, yn methu cael lie. Fe wyr y bobl lie mae cael gwledd gerddorol bellach nos Nadolig. Rhoddwyd canmoliaeth uchel i'r holl waith gan T. B. Evans a chan John Williams, Siop. Yna, wedi canu y doxology gan yr holl gynulleidfa (gyda bias mawr), ymadawodd y dorf wedi ei llwyr foddloni. -Gohebydd achlysurol. ABERTAWE. Y mae y fyr-hoedlog a'r drafferthus 1880 wedi ei rhifo gyda'r blynyddau a fu, ac y mae bellach dros chwe' mil ohonynt yn gorwedd yn mynwent amser. Trymaidd a niwlog iawn ydoedd awyr- gylch ein teyrnas ddyddiau cyntaf genedigaeth 1880-pryder a newyn, rhyfeloedd, a dirwasgiad wedi cyffio trafnidaeth, a pharlysu gwaith, a mil- oedd, mewn canlyniad, yn dyoddef. Wel, y mae pethau wedi cyfnewid Ilawer oddiar y 23ain o Ebrill diweddaf, pan y gwysiwyd Mr. Gladstone- Dyn y bobl "-i gymeryd gafael yn awenau y Llywodraeth yn lie Arglwydd Beaconsfield, a dioich am hyny. Awn gam fan yma yn nes yn mlaen, i draethu gair am y glowvr, heb drethu eich amyn- edd i ragymadroddi. Yn wir, y mae cymeryd yr olwg gyffredinol ar y dosbarth yma o weithwyr yn ddigon i glwyfo'r galon galetaf, a pheri i'r mwyaf sych ei lygaid i wylo y dagrau yn hidl. Bftm yn meddwl traethu o'r blaen ar sefyllfa resynol y glo- wyr; ond meddyliais wedi hyny ei chladdu yn mynwent dystawrwydd, fel y caffai y cadwynau a'r llyfetheiriau sydd yn ein rhwymo eu datod. Ond gan mai y gweithwyr eu hunain sydd yn rhoddi lie i adar trais a gormes i nythu yn eu plith, yr wyf yn meddwl, os caniatewch, Mr. Gol., eich hanrhegu eto a'r cyfryw. Cofied y darllenydd mai nid fy amcan, mewn unrhyw fodd, fydd gollwng saethau at hwn a'r llall o'm cyd-ardalwyr. Na, atgasrwydd at drais a gormes sydd yn fy arwain i wneyd hyny, gan feddwl y byddai er lies amserol i lawer un. Dechreuaf ar fy addewid y tro nesaf, os byw ac iach, ac i chwithau, Mr. Gol., i ganiatau. TY AR DAN.-Tuag 1 o'r gloch, boreu dydd Sadwrn diweddaf, Ionawr laf, torodd tan allan yn ngwestdy y Goiden Lion (Ty Melyn), Heol-fawr, Abertawe. Ni wyddis hyd yma pa fodd y dyg- wyddodd y fath beth; ond y mae i'w gredu y buasai i'r teulu golli eu bywydau, oni b'ai eu bod yn y Watch Night. Ceir y manylion eto am hyn.-Serenog.

PONTYPRIDD.

EISTEDDFOD DEWI SANT.

[No title]

GLOWYR Y DEHEUDIR A'R GYMDEITHAS…

Arwerthiad Glofa.

Damwain Angeuol yn Nghwmaman.

[No title]

Cynadledd ar Fasnach Rydd…

[No title]

Yr Hyn a Glywais.