Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

COLEG Y GWEITHIWR.

News
Cite
Share

COLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. Nos Wener, Rhagfyr Slain. Agrippa Ardderchog feib y gan A bechgyn Cymru lân, Nesewch ar frys yn mia- n I dwymo wrth y tan, A sgwrsio'n iawn; Mae yma destynau Oddeutu y gwyliaa Sy'n hawlio sylwadau A llym feirniadaethau Go gyflawn. Dyna fesur newydd i chi, fechgyn. Seiffrwch chi mas pwy fesur ydyw. Wel, dyma ni eto wedi camu dros un Nadolig arall, ac fel y gwyddoch, yr ydym ar sawdl blwyddyn arall, ac yn nghwrs rhedegfa bwysig bywyd, yn mron a'i dal, ac ni gawn afael arni, os cawn fyw hyd ddeuddeg o'r gloch heno. Ar ddi- wedd blwyddyn, y mae yn naturiol ddigon i ni wneyd dau beth, sef edrych yn ol ac yn mlaen ond y mae yr olaf yn job sydd gryn dipyn anhawddach na'r blaenaf. Wrth edrych yn ol, byddwn yn edrych ar gyfrol fawr agor- edig Rhagluniaeth, a ffeithiau a helyntion y flwyddyn yn noeth o'n blaen ond y mae cyfrol seiliedig y dyfodol yn herio y craffaf ei bwerau i allu treiddio i'r dirgel-gyfrinion geir yno, y rhai sydd yn dystaw orwedd fel ys- brydion yn dysgwyl chwythiad anadl Rhag- luniaeth i roddi bywyd a sylweddoliad iddynt. Efallai y cawn ni air genyt ti, Ap Oorwynt, ar y flwyddyn sydd yn awr yn em gadael. Ap Corwynt.—'M.ae yma fechgyn galluocach na mi ond os ydych yn dewis i mi ddweyd gair am helyntion 1880, boddlon ydwyf i gydsynio. Wel, mewn ystyr fasnachol, nid yw wedi bod mor llwydaidd a digalon a'i rhag- flaenyddes, 1879, canys tua'i dechreu, fe gaf- odd gweithwyr y pyllau glo godiad o 5 y cant. Cenedlodd y codiad hwnw obaith y dilynid ef gan ereill yn yr un cyfeiriad; ond tynged- wyd y gobaith hwnw i gael ei luchio i gors siomedigaeth. Er hyny, y mae diwedd y flwyddyn yn dangos fod y gwr du, sef y glo, yn hawlio mwy o bris yn ein porthladdoedd, a thebygol ydyw yr esgyr hyn ar godiad yn y pris o'i dori yn gynar yn 1881. Y mae y galwadau am lo a haiarn Prydain o wledydd tramor yn cydbwyntio fod argoelion sicr y cawn gyffro er gwell yn y masnachau hyn yn y misoedd dyfodol. Dau amgylchiad tywyll a phruddaidd yn hanes y flwyddyn ydoedd damweiniau trychinebus Risca a Phenygraig, y rhai a adawsant archollion a gymerant flynyddau i'w gwella. Hyderwn, er hyny, y bydd i law dyner elusen a haelioni fod yn foddion i leddfu cryn lawer o'r rhwygiadau blinion a wnawd, ac y llwyddir i gael cronfa ddigonol i osod y dibynedigion uwchlaw angen am ddyfodol eu hoes. Mewn ystyr boliticaidd, blwyddyn nid anenwog fydd 1880, am, yn ei haner cyntaf, y lluchiwyd yr ys- "brydion Toriiaidd oddiar feinciau y Llywodr- aeth, ac y cafodd y bobl eu William a'i barti i drafod pwrs ac amgylchiadau y wlad- wriaeth. Bu y dymchweliad jibbideraidd a gafodd y Torlaid, er hyny, yn yr etholiad cyffredinol, yn foddion i chwerwi a wermod- eiddio eu hysbrydoadd i'r fath raddau, fel y maent wedi defnyddio eu holl ddoniau colyn- og i frathu Gladstone a'i wyr, nes yr oedd eu meinciau, yn ystod y senedd-dymor diweddaf, yn bob peth ond bed of roses. Gwir na chaf- wyd rhyw blastar rhyfeddol o wrthwynebiad gan yr hen gadben Disraelaidd ond am y Marchog o Salisbury, a'r holl fam-gorporals Toriaidd o dano, y maent wedi bod yn anar- ferol o egniol hyd eithaf eu pwerau i ymosod ar ein llywodraethwyr. Ni chyfarfyddasant, er hyny, a mesur o lwyddiant mawr, ac y mae yr etholiadau diweddar yn Kendal, Arfon, a'r Alban, yn profi mai Gladstone a'i blaid fyn y bobl, er holl rafio y Toriaid. Blwyddyn lawn o drafferth ydys wedi gael hefo Pat yn yr Iwerddon. Y mae efe wedi bod yn ddraen yn ystlysau y Llywodraeth am y chwe' mis diweddaf ond y mae blaenoriaid y cynhyrf- wyr, sef Parnell & Co., yn awr yn sefyll eu prawf, ac yr ydym yn gobeithio y cant y gosb a haeddant am eu hiaith ysgeler. Y mae Prydain wedi goddef yn ddigon hir gan y Gwyddel llercog, ac y mae yn eglur ei fod wedi cyflawni mesur ei anwiredd bellach, fel y mae yn llawn bryd rhoddi atalfa ar ei greg- wri llofruddiog. Ni cha dynion lonydd yn yr Iwerddon i dalu rhent, pan y maent yn gwbl ewyllysgar i wneyd hyny. Dyna ddeiliaid Mr. Bence Jones, yr hwn sydd yn dir-fedd- ianydd helaeth yn yr Ynys. Derbyniasant hwy rybuddion bygythiol am iddynt beidio talu eu rhenti, pan oedd yr arian yn barod ganddynt, a hwythau yn hollol foddlon i'r pris a ofynai eu meistr am y tir. Dan yr am- gylchiadau, anfonent at eu meistr i daer erfyn arno eu hesgusodi am ysbaid rhag talu eu rhenti, gan eu bod mewn enbydrwyad am eu bywydau. Y mae yn ddychrynllyd meddwl, os ydyw peth fel hyn i gael ei dyoddef. Mewn ystyr lenyddol ac eisteddfodol, y ddau gynulliad mawr a gafwyd yn y cyfeiriad hwn oedd yn Nghaernarfon ac Abertawe, ac y mae De a Gogledd eto unwaith wedi ymbriodi i .gynal yr wyl fawr yn Merthyr yn 1881. Nid, rhyw esmwyth iawn yw gyrfa y pwyllgor wedi bod yn Merthyr hyd yma ond y mae pob arwyddion fod y cymylau yn clirio, a'r saeth- yddion yn fwy na haner parod i roddi fyny eu man-vsgarmesion. Busnes annymunol yw y cicio, y colynu, a'r cyfarth, ac yn ol fy marn fach i, y mae peth. anferth fwy na ddylai o gicio row wedi bod am Hallelujah Emlyn, a theimladau digllon ac eiddigeddus wedi eu dangos. Gweithied pob un yn ei gylch dros lenyddiaeth a cherddoriaoth ei wlad, ac nid cnoi a thraflyncu eu gilydd fel slymun-bacwn. Wel, boys, sut Nadolig gawsoch chi I John Steddfod Evans.-Wel, fi etho i drwa i Ferthyr, i gal clwad Cor Treherbert, ai weld e'n enill ed, o ran hyny ond grond wch, dyna le odd yn Merthyr-drychinllyd iawn Gobitho bydd yno well trefn, ta beth, yn y I Steddfod Genedlaethol nag oedd yn y Drill Hall N'dolig dwetha. Fi glwes i lawer o bethe yno am feirniaid, a rhyw ffradach felly ond tafod tewi yw'r tafod gore, fallai, ac rwy i yn penderfynu na weda i ddim ar ol y tafode glwes i'n sgothi. Evan Somedo Sparkin.-Mi fues ine yn grondo'r Messiah yn 'Byrdar, ac yr oedd yr hall yn llawn dydd Llun hyd yr ymylon, a'r cantorion yn eu llawn hwyliau. Diau fod arian dros ben y treuliau wedi eu derbyn. i Lewis Pegor Huws. —Wei, etho i ddim i un nail; ond fe enjoyes i dwrci gyda'm gwraig a'm plant, ac nid myn'd i glemio sha'r halls, ac i sythu o bothti'r heolydd. Dwy i ddim yn credu mewn i ddyn fyn'd i spwylio yr unig wyl o werth a ga fe yn y flwyddyn mewn myn'd i rondo rhyw ganu byth a hefyd. Ap Corwynt.—Dypa dy daste di. Bwyd a diod ereill yw Eisteddfodau a chanu. Y mae yn well ganddynt bwt o gystadleuaeth na phlated o'r plwm-pwdin goreu. Nos da, a blwyddyn newydd wir dda i bawb ohonoch, ac i holl staff a darllenwyr y GWLADGARWR- o Poet's Cottage i Patagonia.

Damwain ger y Porth, Cwm Rhondda.,

EISTEDDFOD LLWYDCOED.

ALETHOGRAPHY v. PHONOGRAPHY.

COR UNDEBOL TONYPANDY.

DUCHAN VERSUS TUGHANGERDDm

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1881…

YR ARIAN PAROD ETO.

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1881.

CYMRO GWYLLT A "DUO WELLINGTON."

Yr Hyn a Glywais.