Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

MADOG AB OWAIN GWYNEDD.

News
Cite
Share

MADOG AB OWAIN GWYNEDD. Ffugchwedl fuddugol Eisteddfod Gadeiriol Deheudir Cymru, Awst, 1880. PENOD VIII. PRYDYDD Y MOCH MEWN TRALLOD. Wedi i Dafydd wasgar ei elynion a thawelu y wlad ychydig, daeth rhyddhad y carcharorion o Gastell Arfon i'w feddwl yn adnewyddol, ac yr oedd yn rhaid cosbi y drwg-weithredwr. Rhoddai swyddogion y Castell ddesgrifiad Iled gywir ohono, ac yr oedd y desgrifiad hwnw yn ateb i'r dim i'r brenin ei hun, fel yr oedd llawer yn credu mai efe ydoedd, ae yr oedd rhai yn myned mor bell a dywedyd hyny wrtho, ond ni effeithlai hyny ddim ar Dafydd. Yr oedd ef yn gwybod mai nid efe ydoedd, ae felly danfonodd am geidwad y Castell o Dygan- wy, a swyddogion ereill o Arfon, a danfon- odd hwynt i gerdded y wlad, o Gaer i For y Gorllewin, i chwilio am y creadur a broffesai ei hun yn frenin. Aeth y dynion, a cherddasant o dy i dy, gan fynu golwg ar bob dyn a dynes a drigent drwy yr holl gyffiniau, ond dyehwelasant heb fod fawr gwell. Yr oeddynt wedi gweled rhywun ar gyffiniau Powys yn lied debyg iddo, ond nis gallai un ohonynt dyngu mai efe ydoedd, ac felly nid oedd yn werth i'w ddwyn gerbron. Wedi methu gyda hyn, danfonodd genadau trwy y wlad i chwilio am y Tywysog Madog, ac yn ol y gorchymyn a gawsant, yr oeddynt i'w ddwyn, yn fyw neu yn farw, i Aberffraw. Cychwynodd y g-wyr, a theithiasant yn ddyfal trwy y wlad, ond dyehwelasant yn wag-law. Methasant a chael golwg arno yn un cyf- eiriad. Y brenin, pan wybu hyn, a aeth i ryw nwydau ofnadwy, a bygythiodd roddi y cenadau i farwolaeth. Buasai wedi gwneyd hyny hefyd oni buasai y Marchell hwnw yr ydym wedi son am dano yn barod. Hwnw ddarfu gyfryngu ar eu rhan. Wedi iddo fethu cael gafael yn y tywysog yn Nghymru, credodd ei fod wedi ffoi i Loegr, a danfonodd at ei frawd-yn-nghyfraith i holi yn ei gylch, ond nis gwyddai hwnw fwy am dano nag am hen ddyn y lleuad. Yr oedd digon o sicrwydd ei fod wedi cael ei ryddhau o Gastell Arfon, ond pa beth a ddaeth ohono wedi hyny oedd y pwnc. Yr oedd amryw wedi gweled Prydydd y Moch ac yntau yn teithio yn nghyd i lawr yr heol y diwrnod y cafodd ei ryddhau, ond nid oedd neb wedi ei wded byth wedi hyny. Danfonwyd gwys allan i gymeryd Prydydd y Moch i'r ddalfa, a'i ddwyn yn rhwym i'r brif-ddinas. Ni fuont yn hir cyn gosod eu pump arno, a dygwyd ef mewn rhwysg i Aberffraw. Gosodwyd ef mewn cell tanddaearol y noson hono, a boreu dranoeth cymerwyd ef gerbron y brenin a'i lys. Am un-ar-ddeg o'r gloch, esgynodd y brenin i'w orsedd, a galwodd am y carcharor, yr hwn yn fuan a wnaeth ei ymddangosiad. Yr oedd y llys yn or- lawn o wrandawyr, ac yn eu mysg rai o ddynion mwyaf cyfrifol a dylanwadol y wlad. Yr oedd y bardd hefyd yn ddyn yn meddu ar nifer mawr o gyfeillion, a gwyddai y brenin hyny yn eithaf da, ac felly yr oedd yn benderfynol i drafod ei fusnes mor onest a didwyll ag oedd yn ddichonadwy. Wedi syllu ar y carcharor am ychydig, dywedodd y penadur mewn llais tod iedig, Y mae yn flin genyf weled fy mardd yn sefyll ger fy mron i'w farnu, yr hwn a ystyriwn y dyn mwyaf onest a chyfiawn yn Ngwynedd; ond nid oes dim i'w wneyd-rhaid i gyfiawnder gael ei ffordd, ac yn awr yr wyf yn gofyn i chwi, yn mha le y gwelsoch y Tywysog Madog ddiweddaf ?" "Yn dyfod i lawr oddiwrth Arfon tua'r sianel." A welsoch chwi ef wedi hyny ?" ct Dim." "Cymerwch chwi bwyll, ac ystyriwch pa beth sydd genych mewn llaw. I ba le yr ydych yn meddwl iddo fyned wedi eich gadael chwi ?" Yn mlaen gyda glan y sianel, a dau ddyn arall gydag ef." Pwy oedd y ddau ddyn arall hyny ?" "Nid oeddwn yn eu hadnabod, eich mawrhydi." A ydych chwi yn meddwl y gwnaech eu hadnabod pe caech olwg arnynt eto ?" Yr wyf yn meddwl hyny." A ydych chwi yn gwybod yn mha ran o'r wlad yr oeddynt yn aros ?" "Yr wyf yn credu fod un ohonynt yn trigo yn y ddinas hon, neu yn rhywle yn y gymydogaeth, a'r llall yn rhyw barth o Arfon. Nis gallaf ddywedyd yn gywir." A ydych chwi yn barnu ei bod yn bosibl i ni gael gafael ynddynt?" Nid wyf yn gwybod. Dichon ei bod." Wedi i'r brenin edrych o gwmpas y ltys, dywedodd, Yr wyf yn meddwl nas gallwn fyned a'r prawf hwn yn mhellach hyd nes y caffom y dynion hyny yma. Bydd eu tystiolaeth yn yr achos hwn yn wir werth- fawr. Felly, bydded i chwi ddanfon am danynt ar unwaith, a bydded i chwithau," ebe efe wrth y bardd, "fyned gyda y cenadau i'w hadnabod." Cychwynwyd, a chwiliwyd y wlad yn ddyfal-o gwmpas y brif-ddinas yn gyntaf, ond i ddim dyben. Nid oedd yno ddyn i'w gael yn tebygu o'r radd leiaf i un o'r dynion a welodd Prydydd y Moch. Croes- wyd wedi hyny i Arfon, ond dim llwydd- iant yn dilyn y gwaith. Dychwelasant yn awr yn hynod siomedig, a boreu dranoeth gorfu arnynt ymddangos gerbron eu pen- adur, i roddi cyfrif o'u goruchwyliaeth. Pan glywodd y brenin fod y cyfan wedi troi allan yn fethiant, cynhyrfodd yn enbyd, a dywedodd wrth y bardd, yr hwn yn awr oedd yn sefyll yn y lly's o dan y cymeriad o droseddwr, "Yr wyf yn ofni y bydd i ti brofi dy hun yn euog o frad- lofruddio y tywysog. Cei bob chwareu teg." Dim byth," oedd yr ateb. Nid wyf yn gwybod dim am y tywysog yn mhellach nag a ddywedais." Nid wyf yn bynod hen eto, ond yr wyf yn ddigon hen i wybod mai arfer pob troseddwr ydyw gwadu ei drosedd." Bydded i'ch mawrhydi ostwng eich clust a gwrando. Yr wyf yn dywedyd yn nghlyw a cherbron yr holl seintiau nas gwn i ddim am y tywysog yn mhellach nag a ddywedais." "Paid ti a bod yn rhy benderfynol a chrefyddol, oblegyd yr wyf yn meddwl y caf allan gynllun yn y man i'th ddwyn i dy iawn bwyll, ac i gyfaddef y gwir." Nid oes ond un gwirionedd yn perthyn i'r pwnc, ac yr wyf wedi traethu hwnw, ond nid ydych yn credu, ac yr wyf yn ei draethu eto. Nid wyf yn gwybod mwy am y Tywysog Madog na'r dyn sydd wedi ei gladdu er's can' mlynedd, neu yr un a ga ei eni yfory." Gwrando, bechadur. Gwybydd fod fy amser i yn rhy brin a gwerthfawr i eistedd yn y fan yma i wrando ar ddwlni. Yr ydwyt ti wedi cael perffaith chwareu teg. Dywedaist fod dau ddyn yn myned i lawr gydag ef ar hyd glan y sianel, ac y buaset ti yn eu hadnabod. Danfonais genadau i chwilio am y dynion hyny, a chefaist dithau yr anrhydedd o fyned gyda hwynt; ond pa beth fu y canlyniad ? Methu cael golwg arnynt mewn unrhyw gwr o'r wlad. A ydyw yn ryw bwys genyt ti i mi ddwyn y cyhuddiad o 'lofruddiaeth wir- foddol' yn dy erbyn ?" "Dim rhyw lawer," oedd ateb y carch- aror, gan syllu fel llew yn ngwyneb y pen- adur. Ni fydd i gyhuddiad o'r fath effeithio rhyw lawer arnaf fi." Boreu yfory cei fyned trwy brawf yr haiarn poeth, a dichon erbyn y byddwn wedi gorphen a thi y byddi wedi dyfod yehydig yn fwy ystwyth nag ydwyt yn bresenol." Dim un gronyn, eich mawrhydi. Gell- wch dynu allan fy nghalon os ydych yn dewis, a'i llosgi, ond na fydded i chwi erfyn arnaf am haner eiliad i gilio oddi- wrth y gwirionedd. Yr wyf yn ofni y Forwyn a'r holl seintiau, fel nas gallaf ddywedyd celwydd." Symudwch ef yn awr," ebe y brenin, i un o gelloedd y palas, a boreu yfory, bydded i'r haiarn gael ei dwymo yn saith poethach nag arfer, a deuwch yma oil i'w glywed yn cyfaddef." "Erbyn pa amser?" gofynodd y prif swyddog. Erbyn canol dydd." Nid oedd Dafydd yn teimlo rhyw lawer yn nghylch diogelweh ei frawd, ond yr oedd yn teimlo yn erwin am na buasai efe yn cael cyfle i'w boenydio, a dynay rheswm ei fod mor chwerw wrth y bardd. Nid oedd efe yn gofalu un gronyn fod ei frawd wedi ei ladd, ond yr oedd yn gofalu llawer ac yn gofidio yn dost am na buasai efe wedi cael yr anrhydedd o'i ladd. Dyna yr holl ofid a'r trallod, a dim arall; ond yr oedd Prydydd y Moch, fel yr ydym wedi dy- wedyd yn barod, yn ddyn o ddylanwad ofn- adwy yn y wlad, ac yn meddu ar gyfeillion lluosog. Gwir fod pob bardd y pryd hwnw yn meddu ar ddylanwad rhyfeddol, ond yr oedd y bardd hwn yn rhagori arnynt oil. Yr oedd ei ddylanwad ef yn cyrhaeddyd o'r naill ben i'r Hall o'r dalaeth, a hyny gyda bonedd a gwreng. Yr oedd llawer yn ei haner-addoli. Clywodd y bobl yn mhell ac agos ei fod i fyned trwy brawf yr haiarn poeth, a daeth yno filoedd yn nghyd er bod yn llygad-dystion o boenau eu prif ddyn a'u prif gyfaill. Yr oedd llawer ohonynt yn hynod gynhyrfus, a bygythient y brenin a'i ganlynwyr yn enbyd iawn. Deuddeg o'r gloch a ddaeth, ac wele y carcharor yn cael ei arwain allan o'i gell, ac yn mlaen i yard eang o flaen y palas, er rhoddi mantais i bawb i weled a chlywed y cyfan. Yr oedd y brenin a'i brif swyddog- ion ar esgynlawr fechan wrth gwr gogleddol y castell, mewn man cyfleus i weled y dyoddefydd a chlywed ei gyfaddefiad. Yn sefyll ar law ddeheu y brenin yr oedd tua phedair mil o filwyr, a'r rhai hyny oil o dan arfau. Dyben ac amcan y rhai hyn ydoedd cadw trefn, ac amddiffyn y penadur a'i urddasolion. Nid oeddynt yn gallu canfod y bardd, gan fod darn o hen far rhyngddynt ag ef; ond pan symudwyd ef ychydig yn mlaen, daeth i'r golwg, a chan gynted ag y cafodd y milwyr drem arno, yr oedd saeth gwenwynig yn chwiban heibio pen y brenin, ac yn ymgladdu yn nrws y brif neuadd. Edrychodd pawb mewn sobr- wydd, ond ni ddywedodd neb ddim cymaint a gair. Yr oedd yr haiarn yn boeth, ac yn barod i ddyfod allan o'r ffwrnes, dim ond cael y gorchymyn. Yn mhen ychydig, edrychodd y penadur dros y dorf fawr oedd wedi ymgynull, a dywedodd mewn Ilais brawychus, Anwyl gyfeillion, yr wyf yn credu nas gellwch edrych ar eich brenin yn cael ei lofruddio. Nid oes uwchlaw mynyd oddiar y cynygiwyd at ei fywyd, ae yr wyf yn edrych atoch am gyfiawnder. Yr wyf yn gofyn i chwi am amddiffyn eich brenin tra byddo yn gwasanaethu ei wlad a'i genedl." Tra yr ydoedd ef yn llefaru y geiriau hyn, yr oedd swyddog milwrol yn sefyll ar ei gyfer, yr hwn yn mhen ychydig a ddywedodd, Yr wyf wedi cael gorch- ymyn i hysbysu y brenin, os ydyw ef yn bwriadu gosod y bardd i fyned trwy brawf yr haiarn poeth, y bydd i dref Aberffraw gael ei llosgi yn lludw cyn pen tair awr." Cael ei llosgi ?" ebe y brenin. "Dyna y gorchymyn, eich mawrhydi." Dyma fi yn neillduo i'r palas," ebe efe, a gwnewch a fyddo dda yn eich golwg." Gyda hyny yr oedd miloedd o leisiau yn gwaeddi Llywarch ab Llywelyn a fyddo byw byth ac yn dragywydd," hyd nes ydoedd y creigiau cyfagos yn adsain. Y bardd breninola fyddo'n oesi holl ddyddiau y ddaear." Hyn a roddodd derfyn ar brawf haiarn poeth Prydydd y Moch, ac ni fu y fath brawf yn y wlad byth mwyach. Yn awr, dyma ni yn gadael Gwlad y Bryniau, ac yn canlyn ein harwr tua'r Gor- llewin. Cawn olygfeydd cynhyrfus yno. (Tw barhau.)

Eisteddfod y Porth, Cwm Rhondda,…

Geiriau Doethineb.

[No title]