Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

LLYTHYRON OR AMERICA.

News
Cite
Share

LLYTHYRON OR AMERICA. LLITH V. Minersville, Ohio. Mae y genedl Germanaidd a chenedl y Qymry yn lied gyfartal yn y lIe hwa, ac y m&e pob dyn darlleug&r yn gwybod fod y genedl Germ&naldd yn nn lucsogei therrynau, vi gwlad yo eang felly, nid wyf yn gwybod am danynt fel corff o genedl, eto, yr wyf yn telmlo y gallaf roddi desgtifiad o'r eyfryw rai Bydd yma, gan fy mod wedi treullo wyth mlynedd yn eu plith. Maent yn ddynion dlwyd ryfeddol, yn fwy felly na'r Oymry, ac y maent wedi eu bendithio & chwaeth at walth yn fwy na'r Oymro, ac y mae ef yn sefyll yn y blaen yn dda yn yr ystyr hwn. Maent yn ddynion sydd yn cam arian yn fawr lawD, ac y mae lie cryf i gredu, pan yn siarad a hwy am gyflogau y dosbarth gweithiol yn ngwlad eu genedigaeth, mai ychydig lawn o arian ddarfu iddynt weled cyn dod i'r wlad hon. Maent wedi arfer gweithio am gyflogau mor fychain yn Germany, fel y maent wedi eu handwyo fel cydweithwyr yn y wlad hon, ac y mae rhywbeth ag sydd yn wasaidd ynddynt. Nid ydynt yn y mesur lleiaf yn rhai a safant dros eu hiawnderau. Gallem feddwl, yn wir, ei fod yn llawer lawn mwy pwys!g gan yr Ellmyn i gael digon o walth na chael digon o arian am dano. Maent bob amser yn y gwaith tua phedwar o'r gloch yn y boreu, pan y mae y Cymry, y Saeson, a'r Yankees yn myned i fewn gyda'r gyrwyr. Mae y rhai sydd wedi bod yn gweithio yn yr un man a'r Gwyddelod yn dyweyd eu bod yn llawn cys- tal i ofyn pris am waith a'r Ellmyniaid, Ar ol rhoi lie I Ellmyn i weithio, bydded dda neu ddrwg, ni ddaw oddiyno am ddim. Selog lawn ydynt i siarad eu hiaith pan bydd Oymry neu Saeson gyda hwy, pan y gallent siarad Saesneg.. Gair am danynt mewn cysylltiad a'r fas- nach feddwol. Mae nifer lluosog o'r beer saloons o Middleport i Syracuse, ac mor bell ag wyf yn deall fod pump rhan o chwech o honynt yn cael eu cadw gan Ellmyniaid. Bob amser braidd, pan welir beer saloon, bydd yn ei gadw Ellmyn tew, a phibell yn ei enau, agoscymaint a nyth bran. Er eu bod yn caru arian, fel y dywedais o'r blaea, yr wyf eto yn dyweyd eu bod yn yfwyr cwrw cyson. Maent oil yn credu nas gallant fyw heb yfed cwrw. Mae llawer o wahaniaeth rhwng yr Ellmyniaid a'r Cymry mewn perthynas 1'r pethau meddwoL Mae yr Ellmyn yn yfed bob dydd yn rheolaidd fel bwyta ei fara beu- nyddiol, ac nl fyddai yn fwy o drosedd yn erbyn yr Ellmyn i ddweyd wrtho am beidio bwyta el fara beunyddiol, na dyweyd wrtho am beidio yfed cwrw. Ond, er y cyfan, nid wyf yn gwybod am un Ellmynwr wedi colli haner diwrnod o waith yn herwydd yfed cwrw; ond am y Cymry, dull lied wahanol, sef cymeryd wythnos ati, ac eu yfed llonaid a mwy. Mae i'r genedl hon, neu yn hytrach y cyfryw o honi sydd yma, rinweddatf yn gystal a'i diffygion. Maent yn meddwl yn amser llwyddiant am amser adfyd. Gallir dy- weyd am y rhan luosocaf o honynt eu bod yn bobl ddarbodus. Cydymdeimlant a'u gilydd yn amser cyfyngder. Os bydd un yn dy- gwydd bod yn dlawd yn eu plith, nid parod ydynt i fyned allan o derfynau y genedl er ei gynorthwyo. Nid ydynt yn y mesur lleiaf yn bobl waedwyllt. Byddal yn Hawn cystal genyffyw yn mhlith yr Ellmyniaid a byw yn mhlith fy nghydgenedL Rhaid ystyr- led fod drwg, gwaeth, a gwaethaf, yn eu plith, a da, swell, a goreu. Gair yn fyr am y genedl fel proffeswvr cre- fydd. Mae pawb sydd yn gwybod ychydig am helynt y byd crefyddol, yn gwybod fod lluaws o'r genedl hon yn Babyddol; ond ych- ydig lawn sydd yn y lie hwn felly. Mor bell ag wyf yn deall, pan yn darllen y newydd- iaduron, mai y ddwy enwad luosocaf yn eu plith yw yr Eglwys Lutheraidd a'r Ellmyn- iaid dlwygiadol, Y blaenaf sydd yma. Y mae hen wr parchus yr olwg arno yn wein- tdog ganddynt. Ar ol bod yn yr addoliad, ant i'r beer saloon, a hyny ar y Sabboth, a'r hen barchedig dad gyda hwy. Yr wyf yn credu eu bod yn myned mor gydwybodol i'r saloon i gael cwrw ag ydynt pan yn myned i'r addoldy. Prif bwne yr Yankees yw cael llawer o arian am ychydig o waith. Nid ydynt hwy fel y Cymry yn dal at ryw un 2waith-mis gyda hwn, a dau gyda'r llalL Nid wyf yn gwybod am un o'r Yankees yn cadw saloon o Middleport I Syracuse. Gwn am rai Saeson, ac hefyd Gymry. Maent yn dadleu yn dyn mai Tramoriald sydd wedi dod a meddwdod i America, ac y mae rhai gweinidogion wedi bod ganddynt yn y lie hwn yn llwyr-ymwrth- odwyr selog. Rhai hynod yw gwyr y wlad hon am godi yn fore—coda yr Yankee yn fore, pe b'ai yn codi i ddim ond ysmocio cigar. Mae gwa- haniaeth mawr rhwng y dull o briodi yna ag sydd yma. Mae y priodfab a'r briodferch yn gweithio yma dyddy briodas, fel rhyw ddydd arall, ac y mae y, seremoni priodasol yn cy- meryd lie yma, y rhan amlaf, tua wyth o'r gloch y prydnawn. Anfonir am welnidog neu gyfreithlwr 1 dy tad y briodferch, neu ryw Ie arall, yn ol yr amgylchiadau. Dichon fod y swper yn cael el dwyn yn mlaen gyda mwy o rwyag a rhodres nag arferoL Pe b'at y Yan- kees ddim ond dygwydd gweled rhai o'r hen briodasau Cymreig er ya llawer dydd, ygofyn- lad naturiol fuasai yn dod i'w meddyUau, What funeral Is that P' Byddai ambell un yn yr hen wlad yn methu credu el fod wedi priodi heb gael rhwysg.

.BWRDD Y GOLYGYDD.

LLYTHYR 0 BATAGONIA.

YSTAFELL Y OYSTUDDIEDIG.

Y CYNGRAIR EFENGYLAIDD.

GWAHODD CARADOG I AMERICA.