Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

GWRTHRYFEL YSBAEN.

News
Cite
Share

GWRTHRYFEL YSBAEN. Cenedl wedi ymranu yn ei herbyn ei hun mewn ystyr ehelaeth ydyw Tsbaen Weithian, ac y mae y gwahanol ymraniad- au yn ymbellhau yn feunyddiol, a than eu digofaint yn llosgi yri angerddol, tra y mae bywydau dynol yn myned yn aberth i'w teimladau dialgar yn ddidor. Hyrddir rheswm a theimladau uchelaf y natur ddynol o'r neilldu mewn cyfnod o ryfel, a tbeflir y ffrwyn ar war ei chynddaredd a'i theimladau mwyaf dialgar; oblegyd pe rhoddid clust o ymwrandawiad i reswm a theimladau goreu y natur ddynol yn Ys- baen yn y cyfnod hwn, buasai y Carlistiaid yn sicr o syrthio i fewn a chydymffurfio a'r Weriniaeth; canys y mae yn dra thebyg y myn Senor Castelar a'i gyd- swyddogion ddarostwng pob gelyn, gan nad pa mor ddirfawr y bydd y draul. Y mae Castelar drwy ei egnion dihafal wedi Uwyddo i adsefydln trefn a'r ddysgybl- aeth angenrheidiol yn amrywiol adranau y fyddin, ond camp anhawdd yw darostwng y gwrthryfelwyr yn drylwyr; canys gor- chwyl anhawdd yw cael eyfle manteisiol arnynt, o herwydd y maent mor wasgar- edig ar hyd y deyrnas. Y maent ar eu cyson ymdaith o dref i dref, ac nid oes dewin fedr ddyfalu yn mha le y byddis yn sicro ymgyfarfod a hwynt, ac y maent yn cyflawni ystranciau ystrywgar a dinystriol yma a thraw ar draws y wlad. Mae y Car- listiaid yn nghymydogaethau Valencia megys a'u holl gyneddfau deallol mewn cyflawn egni yn dyfeisio cynlluniau i ddys- trywio meddianau, a hyny heb unrhyw amcan yn y byd mewn golwg heblaw yr hyfrydwch a fwynheir ganddynt i ddin- ysttio eiddo eu cydwladwyr, a thori i fyny gyijleusderau masnachol. Maent yn gosod gorseddfaoedd a cher- bydau y gwahanol gledrffyrdd, a phob peth arall llosgadwy a ddeuant ar ei draws i gyneu yn fanffaglau mewn amrywiol le- oedd o'r deyrnas, ac yn arbenig yn nghylch- oedd Valencia. Barn gyffredinol y trigol- ion yw mai offeiriaid penboeth a ohynenus y Babaeth sydd yn gwthio i ymenyddiau y Carlistiaid i gyflawni y fath ystrywiau t,Y castiog a difaol; ac y mae eu-gweithred- oedd anrheithus wedi enyn Ilid a digofaint marwol yn mynwesau dinasyddion Valen- cia. Yn anffodus, dygwyddai nad oedd rnilwyr rheolaidd yn agos i'r eyfryw dref, ond ymffurfiodd preswylwyr y cymydog- aethau a'r dref mewn byr amser yn fyddin gref ac arfog; ac ymaith a hwynt i hela y terfysgwvr o'r cyfliDiau.

Advertising