Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
ARGOED A'R STRIKE.
ARGOED A'R STRIKE. MR. GOL. ,-Oaniatewoh I nit ofod fechan o'ch newyddiadur i wneuthur sylw byr o'r gofyniadau sydd gan Groegwr ataf. Gofyna paham yr oedd dosbarth Pengam yn pender- fynu myned i weithio cyn myned tua,Ohoed- duon, g«n mai yn Nghoea-duon yr oedd pethau o'r fath yn cael eu penderfynu. Ai pwnc cwrdd Coed-duon oedd hwn yn wa- hanol i bob dosbarth ar ben ei hun ? Yr oedd yr Executive Committee yn cynghori pob dosbarth i wneuthur eu goreu i bender- fynu y mater yn y modd mwyaf doeth ag y medrent Darfu i ddosbjrfth Pengam gynal cyfarfodydd i dcU^eti^ f jpwnc allan yn deg yn eu mysg eu hunain, a daethant i'r pefl- derfyniad mai cyfiawnder oedd cwympo i delerau y meistrl, dim ond cael yr Imperial Weight; ond os gallasai rhyw un roi goleuni gwell iddynt, eu bod yn barod i dyuu y penderfyniad yn ol, a sefyll am yr haner. Y rheawm eu b d yn penderfynu gweithio cyn myned tua Choed-duon oedd, myned yn yn ol cynghor yr Executive, ac nad oeddynt yn gwel'd mai teg oedd sefyll am yr haner. Gofyna, drachefa, paham nad oedd gan- ddynt lais yn y cwrdd? Nid myned yno a wnaethant, oud er cael gweled a gawsent oleuni gwell ar y pwnc. Paham na fuasa.1 Groegwr, gan ei fod yn gweled dosbarth Pengam ar gam, (os oedd yn y cyfarfod,) yn goleuo dosbarth Pengam ar y mater, yn lie myned i frolio yn y newyddiadur, "eu bod wedi gwerthu eu cydweithwyr, ao mai cywll- ydd oedd iddynt ddweyd eu penderfyniad- au." Gall dosbarth Pengam edrych yn wyneb eu penderfyniadau he a wrido, a gall- ant chwerthin yn iaeh atu br)n y fath gyhudd- iadau gwael a disail ag eiddo Groegwr. Yr eiddoch,-M. GWENT.
GAIR AT LYWYDD UNBE8 ALCANWYR…
GAIR AT LYWYDD UNBE8 ALCAN- WYR DEHEUDIR CYMRU. Garedig Frawd,-Gadewch i mi eich cyf- arch chwi a'ch cydswyddo^lon Undebol, a gair o awgrym parthed gweithrediadau a rhagolygon ein Hundeb Alcanyddol. Ni rhaid i mi draethu fy lien ar yr angenrheid- rwydd o gael Undeb yn ein plith, gan fod hyny yn cael el addef yn gyffrediaol genym. Teimlwyf yn bryderus dros lwyddiant ein hachos cyfiawn, ond ofnwyf fod rhagolygon ein Hundeb yn cael eu cymylu gan ddiffyg doethineb, a thuedd o afradlonrwydd a nod- weddant weithrediadau ein cynghorau llyw- odraethol. Yn wir, yr wyf yn ofni fod gwastraff yn ymlusgo ei ben i'n cylchoedd swyddogol, ac yn peri cryn anfoddlonrwydd yn mysg y frawdoliaeth. Ai tybed nad oedd gwastraff arianol yn nodweddu y gwelthred- iadau cysylltiedig a ffarfiad ein rheolau? Yr wyf fi, a rhai o'm brodyr cywiraf, yn oredu fod pymtheg swllt yr un, y dydd, am dri diwrnod, i oddeutu 22 o genhadon, yn ormod o gost i'r cyfrinfaoedd i'w talu, yn nghyswllt a'r deddfau ffurfiedig, ychwaneger at hyny y draul o'u hargraffu, a gwna i fyny swm aruthrol. Dyaged llywodraethwyr ein Hundeb wersl gan arweinwyr ein budd gym- deithasau yn eu gweithrediadau llywodraeth- ol parth rhadlondeb. Frodyr llywyddol, astudiwch gynildeb a rhadlonrwydd, ac na roddwch le i feibion y Philistiaid i warth- ruddo ein hachoB teilwng gan rwystro car- lamiad ein cerbyd Undebol trwy ddyffryn llwyddfant. A gaf fi grefu arnoch chwi, Llew Llygadgraff, i gymeryd y owyn presenol i'ch ystyriaeth yn y cyfarfod dosbarthladol nesaf ? UNDEBWR.
GWELEDIGAETHATJ DANIEL.
GWELEDIGAETHATJ DANIEL. Fe ddywed rhyw hen fardd o'r cynfyd mal y canlyn "Tri pheth sydd anh&wdd 'na.bod— Dyn, a derwen, a. diwrnod; Y dydd yn frau, y dderwen yn gau, A'r dyn yn ddau wynebog Nis gwn a ydyw y penill yna yn ol pwysau a mesur at peidlo. Dafydd Morganwg a'i gwyr. Hyn a wn 1, y gellir ychwanegu at y trioedd a enwyd, un arall, sef Dafydd Jones. Y mae yntau, druan, yn ddau wynebog, a'n prawf ni o hyny ydyw, fe addawodd yn dda -odtaetholo dda—i ni, pan yn cychwyn o Lynlleifiad, fod yn dirlon a charedlg; yn wir, yn bob peth a ellld el ddymuno. Ond nid felly. Pe buasal rhyw ddealldwriaoth rhyngddo a'r Cymro Gwyllt, buasem yn barod i gyhuddo y Gwyllt o gael ychydig o chwerthin am danom yn ein tribini ar y mor, oblegyd gwnawn ein llw na fuasai efe fwy wrth ei fodd na chael ychydig o ddifyrwch dinlwed am ein salwch Er i Dafydd Jones chwareu trio & nl, eto, ni fuom sal o gwbl. Dyma Dafydd bellach wedi ein carlo hyd y lie tlws a phrydferth hwn. Yn wir, y mae yr olwg arno yn goglais telmlad y telthydd ar unwaith. Lie newydd-greedig yw y lie hwn, a lie i'r etholedigion ydyw hefyd. Gall- wn benderfynu mal ychydig o blant Adda sydd wedl eu harfaethu i fyw yn y lie aris- tocrataidd yma. Lion genym weled cenedl y Cymry yn ymgodi, ac yn penderfynu am y Ueoedd goreu oblegyd nid oes cenedl ar wyneb daear yn fwy haeddlanol o hyn. Hen genedl yw ein cenedl nl sydd wedi ei dwrdio a'i baeddio i fyny ao i waered, ao wedi ei hola fel petrin ar hyd y mynyddoedd—wedi colli ei Heden, ac fel el thad Adda, wedi ei bwrw y tu dwyrain I lafurio. Ni fu yn Eden deulu mwy aristocrataidd, y dydd goreu fu arnynt, na'r teuluoedd a breswyl- iant Llandudno. Yn amddiffynfa iddynt rhag rhuthr y mor, y mae y Gogarth. Rhu- ed y mor a rned-broched a fyno, y mae preswylwyr Llandudno yn hapus a dyogel yn nydd angerdd ei lid ef (y m6r) yn nghesail y Gogarth. I ddiwallu anghenion trigollon y lie dedwydd yma, yr oedd ein llong yn rhoddi allan gryn lawer o'i nwydd- au iddynt; ac wedi dadlwytho, a ninau wedi brwydro a'r gwynt a'r tonau o L'erpwl hyd yma, aethom i ffwrdd ar ein hunion o am- gylch trwyn y Gogarth, a'n steamer yn ail- ymaflyd yn ei gorchwyl o rwygo tonau'r eiglon. Gallwn ddweyd fel y dywedodd Caledfryn o'n blaen :— Agerddlong rwyg y gwyrddli',—a'i gesig Yn gwysau aneiri'; Ni hwyliwyd mewn dwfn heli Un o well hon ar gefn y lli'. Oawsom lonaid bol o chwerthin am ben rhyw frawd o Sala yn sal o glefyd y m6r. Tynodd hwn sylw teithwyr am lawer o'r daith. Ysywaeth, nid oedd yn ddirwestwr nao ychwaith yn gymedrolwr, ao fel y bydd ambell i delthiwr Uawen a chalon-agored, yr oedd ganddo botelaid o'r gwr coch, a gwnaeth yn rhy hy' ac eon arno ac yn dal am hyny, aeth y gwr coch dan wadnau y Sais, nes ei wneud yn wrthddrych gwawd ei gyd-delthwyr Yr oedd cydmar ei fywyd agos a gwallgofi dan yr oruchwyliaeth, ac yn dyner ofyn lddo yn ami, "Pa, dear! Pa, dear, speak Ond nid oedd lef na neb yn ateb. Gorweddai fel un marw, a hithau yn tybioei fod yn gadael Dafydd Jones, ac yn ymgymeryd a'r Iorddonen Yn wir, tybiem hyny oil. Yr oedd genym feMyg deallus yn gyd-deithiwr—gwyddal ef yn well. Gwyddai mat effaith y brandy oedd, ao y deuai dra- chefn o'r dilemma hwn. Dyma ni bellach yn ymgymeryd a'r Fenai deg a hudolus. Dyma Mon, mam Cymru, ar ein de, a'r Arfon drumawg ar ein chwith. Dyma hen ynys enwog y Derwyddon—hen ynys "Hob y dtoi dando." Y mae ein gwaed yn crychferwl ynom yn yr olwg arni, ao yn yr adgof am a fu. Yr adgof am y dyddiau gynt-hlynyddoedd yr hen oesoedd. Y dyddiau y byddai yr hen Dderwyddon yn M6n yn cyfkwni eu gorchwylion crefyddol pan oedd Abraham dan y pren yn Mamre "A welwch chwi," ebe Cadben Evans, "yr ysmotvn du acw o'n blaen ar y Fenai ?" Gwelwn," ebe ninau. Wel, dacw y fan yr aeth y Rothsay Castle i'r gwaelod Yr oedd golwg ar y fan yn ein bwrw braidd i berlewyg. Rhydcl Caledfryn ddesgrifiad bywiog, effeithiol, ao hynod farddonol o'r daith drychinebus honyneiawdl anfarwol a buddugol yn Eisteddfod Beaumaris yn y flwyddyn 1832. Wele ddesgrifiad o delmlad dedwydd a hapus y mordeithwyr:— "Lion oeddynt, tybiynt gael taith, A mwyniant teg am unwaith, A gwel'd y llestri yn gwau ( Hyd wyneb gwyrddion donau, J., ■ Heb ofni gwynt-heb ofn gwg, Na gwaelod mdr na'i gilwg; Cael iach daith gwibdaith, deg wedd, Drwy ganol rhandir Gwynedd, I ganfod teg wynfyd hon, A'i glwyswawr fryniau gleision; Tynu anadl, tan wenu, Heb flinder neu doster du, Mewn iachus haelionus Ie; Awyr bur hwyr a bore; A chael cyn eu dychweliad Wel'd ceinion glwysion ein gwlad." Ond, ond, fel y mae'n gofus, nid felly fu. Ymgyngreiriodd y gwynt a'r tonau yn eu herbyn, a blin fn eu ffawd! "Hwythau, y peroriaethwyr, Drwy aine roddent gaine i'r gwyr Tybient y meiddient a'u mawl, Yn ei chastell gorchestawl, Herio'r mdr a'i rym mawrwyllt, Ac eigion y wendon wyllt; Ond Och! y garw siom du Ddeuai arnynt i ddyrnu; Eu holl obaith ymaith a'i Fel i& unnos diflanai; Y m6r ffrochwyllt, orwyllt wedd, A'i ddw'r yn llawn cynddaredd, Twrw a dinystr ei donau, A'u trem hyll yn eyd-drymhau." Neidiai y desgrlfiad byw a ganlyn i'n cof pan yn edrych ar y fan Weithiau i frig dig y don-y dringai Drwy angawl ymdrechion; Wed'yn Uuchid, hyrddid hon, Fr gwgus ferwawg eigion. Ymroliodd drwy'r m6r heli—eilchwyl, Golchai yn^au drosti; Ail ydoedd am ei eh'ledi I flewyn llesg o flaen Hi' r Y mae yr awdl odidog hon yn orlawn o farddoniaeth fyw, ac yn em dysglaer yn ys- tafell oreu llenyddiaeth ein gwlad. Yma y terfyn y trydydd llith.
STRIKE Y PUDDLERS, PONTARDULAIS.
STRIKE Y PUDDLERS, PONTAR- DULAIS. MR. GOL.Gobelthlo y byddwoh mor garedig a gadael i'r yohydig linellau hyn gael ymddangos yn elch newyddiadur clod- wiw, fel y gallwn roddi ar ddeall i'r cyhoedd fod y cyfeillion uchod yn sefyll allan oddlar dydd Mawrth, Medi 16eg end gobeithio na fydd i'r annealldwriaeth barhau yn hir. Eu cats ydyw €0. y dynell o godiad, ao yr ydym o'r fam eu bod yn ceisio yr hyn sydd yn wir deilwng iddynt, gan fod puddlers air Gaer- fyrddin yn gweithio yr un haiarn a hwythau, ac yn ei gael, a puddlers gweithiau Morganwg yn cael mwy na hyny wed'yn. Y mae yn ddywenydd mawr genym allu hysbysu y cy- hoedd fod gweithwyr yr Hendy oil yn undeb- wyr, oddigerth ryw dri neu bedwar. Da chwi, gydweithwyr, taflwch yr hen rhagfam o'ch mynwesau, ac ymuawch yn ddioed. "Trech gwlad nac Arglwydd." GLANGWILI.
AT MR. PHILLIP HARRIS.
AT MR. PHILLIP HARRIS. SYK,—Yn y GWLADGARWR am Medi y 13eg, yr ydych yn rhoddi hanes rhyw siarad fu rhyngooh chwi a Richard Morgan, Lan- dore, yn cymell holl gyfrinfaoedd yr Undeb Alcanaidd i anfon cynrychiolydd neu ddau 1 gynadledd Casnewydd. Pa beth yw elch meddwl, Mr. Harris ? A ydych yn tybled fod yr holl gyfrlnfaoedd yn rhwymedig i farn bersonol Mr. Morgan a chwithau ? Yr ydym am wneud yn hysbys i chwi fod cyfrin- faoedd yr Undeb Alcanaidd, mewn cyfarfod cyflredlnol o'u heiddo, wedi penderfynu nad ydynt i ymuno ag Undeb yr Haiarn- weithwyr. Pe b'ai yn rhaid i ni ymuno a rhyw undeb, gwell fyddai uno ag Undeb y Glowyr; oblegyd yr ydym yn ymddibynu mwy arnynt hwy nag ar neb arall. Ond nid ydym etOJn gweled angen am hyn. k, Hyn yn fyr gan ddymuno rhwydd hynt i chwiifodynwaaufydd a ffyddlon i'r dos- barth y perthynwch iddo. HEN SIMON.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.
GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. Y WIBDAITH.—Bu amser pan yatyrid myned i'r Amerig yn beth nesaf i fyned allan o'r byd ond erbyn heddyw, y mae gwledydd pellenlg wedi dyfod yn agos, a chyfandiroedd wedi cael eu cylymu yn nghyd. Yehydig fisoedd yn ol, gwelid mintai o Gymry y tu draw i'r Mynyddoedd Craiglyd ar lanau y Tawelfor, yn cydym- ffurfio yn gwmni er dyfod am dro tua gwlad y telynau, a'r blaenor yn neb llai na William Jones, Ysw., sef y bydenwog Bryncaws— gwr sydd a'i enaid a'i galon gyda phob peth Cymreig ac nid hyny yn unig, ond saif yn uchel gyda chenedloedd ereill, yn neillduol yr Americaniaid, am ei fod yn ddyn gwyneb-agored, gonest, ao egwyddorol, yn meddu ar ysbryd o fyned yn mlaen ac fel y dywedodd un cyfaill wrthym, nis gellir dod o hyd i'r gair encilio yn y geiriadur sydd ganddo. Yn ffodus, fel y blaenor, gellir dyweyd agos yr un peth am y fintai i gyd- y brodyr Dafis, o Lanelli; Morgans a James, o Abertawe; W. A. Thomas, a'r digrif- ddoniol Dafydd Williams. Y mae yn an- mheus genym a ellid taro ar fintai gyffelyb eto i gyd-deithio cyfandlr mor fawr a chroesl y Werydd mor llawen. Y maent oil wedi dychwelyd oddigerth y ddau frawd Dafis, o LaneUi. Mynodd y cyfaill Bryncaws y Faner Gymreig, o wneuthuriad Mri. Howells 3'1 Gyf., Caerdydd, sef yr un fath a'r hon a roidwyd yn anrheg i'r Cor Mawr fel arwydd o fuddugoliaeth. Fe wel y darllonydd y bydd i'r Ddraig Goch gael ei chodi i'r awel yn rhywle heblaw Patagonia; oblegyd y mae yn slcr na cheidw Jones 'mo honi yn ei goffor, ond y bydd iddo arddangos yr hen arwyddlun Cymreig ar lanau y Tawelfor. Y mae llawer Cymro yn gadael el wlad ac yn anghofio yr hen iaith, a phethau ereill a berthyn i'r genedl; ond nid felly y caed y cyfeillion hyn er treulio, rhai o honynt, yn agos i chwarter canrif yn ngwlad yr aur. Cymraeg ydyw'r iaith a barablant o hyd, Er morio i gyrau pellenig y byd; Defodau y Cymry a gadwant yn fyw Ar lan y Tawelfor yn deilwng o'u rhyw; Mae'r elfen Gymroaiad yn llosgi fel fflam, Fel na fynant weled un Cymro'n cael cam; Mae calon pob Brython yn taro y tant- Mai ffyddlon i'w gwlad ydyw hil Dewi Sant. Hwyrach y bydd ambell i un yn barod i an- mheu cywirdeb y gosodiad fod Oymry glanau y Tawelfor yn ffyddlonach i'w gilydd, ac yn fwy unol, na Chymry y parthau ereill o'r byd. Am hyn, nid oes genyf ddim i'w wneud ond eymeryd tystiolaeth y sawl sydd wedi byw yn y wlad, a chael prawf o eirwir- edd y gosodiad. Slcr yw fod yno ambell i hen wrach, ond nid yn ami y cyfarfyddlr a. hwynt. am y rheswm, debygaf, fod awyrgyich y wlad yn glirach ac yn fwy digwmwl na phatthau ereill o'r blaned isloerawl. Y mae caredlgrwydd a brawdgarwch yn un o brif nodweddion bechgyn California; o'r hyn lleiaf, dyna fel y cefais i hwynt yn mhob trafodaeth yn bersonol. Yn mhlith y fintai, dygwyddodd un o honynt fyned ar hynt ymweliadol i Gwmnedd, ao yno, ar ol teithio mor a thir, mynyddoedd a dyffrynoedd, y tarawodd ar gydmar bywyd, yr hon a glpiodd gydag ef yn ol tua gwlad ei fabwyslad. Nid oedd yn neb llai na'r cyfaill tawel a hirben Mr. Jenkin Morgan, o Cher- okee Flats, Bute County, California. Y foneddiges oedd Miss Lewis, Glyn Castell, Dyffryn Nedd. Cychwynasant o L'erpwl, Medi lOfed. ar fwrdd yr agerlong Idaho, a'r cyfaill W. James, yn eu canlyn, gyda nifer o Gymry ereill oedd wedi treulio blynyddoedd melthion yn yr Amerig, fel na fynant mwy- ach drigo rhwng brynlau cribog gwlad eu genedigaeth. Dystawed y corwynt, ymbwylled y don, Ac na foed y mor yn gynhyrfiol, Fel na fyddo dychryn yn llenwi un fron, Ond pobpeth o'u cylch yn ddymunol; Awelon mwyn, tyner, y nefoedd o'u tu, A gwenau hoff natur brydweddol, I'w dilyn nes cyrhaedd yr hafan fwyn gu, Ar gyrau y byd gorllewinol; Hawddgarwch y fintai a gonwn yn hir, Fel brodyr o Gymry gwladgarol, Dim rhodres na dichell, ond pobpeth yn bur, Heb ddim o'r "Hen Ddic Shdn Dafyddoi." Yn Gymry yn Nghymru, a Chymry yn mhell, A Chymry yn nghanol y Saeson; ? Gwir Gymry o galon na welwyd eu gwell Ar ymdaith yn croesi y wendon. =.. Gwladgarwch a-rhinweeld olrpuivi mewn byd, Eisteddai ar sedd eu calonau; « Ar gynydd yr elo eu purdeb o hyd, Nes cyrhaedd y nefol drigfanau. Yn iach, fy nghyfeillion, ni gwrddwn rhyw dro, Os nid ar y lien fawr ddaearol, Cawn gwrdd mewn llawenydd beth bynag a flo, Ar ddydd yr wyl fawr genedlaethol. DEPODWTR.—Un o'r prif ddygwyddladan Eglwysig, yn ein dyddiau ni, ydyw gwerth- lant rheithoriaeth L'erpwl. Clywsom am werthu tai a thiroedd lawer tro, a dyma ni yn awr o fewn cyrhaedd swn morthwyl yr arwerthwr yn taro I lawr rhelthorfa L'erpwl am y swm taclus o bymtheg mil o bunau. Cynebydd gweinidog yr Eglwys Gymreig Sant Dewi fod hwn yn un o'r ergydion cryf- af tuag at ddatgysylltu yr Eglwys oddiwrth y Wladwriaeth. Ychydig a wyddom am uchel-eglwysyddlaeth a'r defodau cysyllt- iedig a hyny, ond credwn nad oes dim llawer o efengyl yn perthyn i arwerthiadan o'r fath. Y mae genym barch i offelriaid yr Eglwys, a chredwn fod llawer o honynt yn ddynion ag sydd yn ddewr o blaid y gwirionedd yn Nghymru a pharthau o Loegr; ond nis gallwn weled y cysondeb fod ganun Rector hawl i werthu yr hyn a elwlr yn fywioliaeth Eglwysig. Cam pwysig at wneud y dref yn Babyddol, am fod y y defodwyr yn myned yn Red agoa yn en haddolladau at y Babaeth. RhwJdd hynt I
YMFUDIAETH A PHA LE I YMFUDO.
eteill yn aros i ni fyned i'w meddianu a'u triii. Y mae llawer o wahanol weithwyr yn ym- fado y dyddiau hyn, er cymaint yw bywioz- jwydd masnach yn ein gwlad yn breaenol. «alw mawr am lafurwyr amaethyddol taa New Zealand. Dylal pob dyn ystyried yn gyntaf cyn ymfudo pa wlad sydd oreu iddo e,n tori i fyny ei artref, a pha alwedigaeth fYdd yn bwriadu ei dilyn. Ni chynghorwn i fceb fyned i'r Unol Dalaethau fel glowyr neu Weithwyr haiarn, o herwydd fod y supply yn f*y na'r demand; ond "rhydd i bob dyn ei aci bob Harn ei llafar." Taa 17 mtliwn 0 dynelli ydyw galwad marchnadoedd yr triol Dalaethau o lo bob blwyddyn, ond codir tua 25 miliwn yn flynyddol; felly y mae Wyth miliwn yn ormod i ateb y tarchnad. Dyna yw y rheswm o'r strikes parhaus sydd yno, am fod rhyw anghydfod yn dygwydd yn •ml rhwng y meistr a'r gwe thiwr. Wel, pa wlad sydd oreu ymfudo iddi, ynte ? Y mae Ra da i gael tir yn rhad tua Nebraska a Kansas, talaethau gorllewinol America Og- leddol; ond y mae yn ofynol cael llogell go drom i gyrhaedd yno a chael fferm weddol. Y mae cryn bellder ar ol croeal y Werydd cyn cyrhaedd yno. Y pelider o New York I Kansas sydd tua 1,500 o filldiroedd, a chym- erir pedwar diwrnod i gyrhaedd y lie uchod gyda'r rheilffordd o New York. Wel, pa wlad y try y gweithiwr Cymreig el olygon i ymfudo ? Beth pe bawn yn dweyd gair neu ddau am Batagonla. fel gwlad gym- .Bvya i'r Cyairo i ymfudo iddi, ac ymdrechaf ddyfod ag ychydig rhesymau dros hyny. Y mae yn wlad eang iawn, ac o hinaawdd iachus —yr iachusaf ar wyneb y ddaear, medd y Gwladfawyr eu hunain. Y mae y tir i'v^ gael am ddim ond myned i'w feddianu. Gellir gwneud dyffryn Camway yn baradwya trwy d ddyfrhau. Y mae 70 o filldiroedd o hyd, a thua chwech milldir o led, a'r afon hefyd Jn fordwyol am amryw filldiroedd, ac felly y mae yn gyfieus i fasnachu yn mron a holl farchnadoedd y byd, am mat y mor yw prif heol y byd. Yr ydym fel cenedl Gymreig Wedi colli ein hannibyniaeth yn y wlad hon, ,& chan ein bod wedi cael Patagonia i'w meddianu yn rhad ac am ddim felly yr enillwn ein hannibyniaeth yn ol trwy ymfudo yno, a'i gwneud yn dalaeth i lywodraethu ein hunain pan y daw yn ugain mil o boblog- 88th. Bydd yn cael ei chyfrif yn dalaeth o'r Weriniaeth Argentaidd. Fel talaeth, bydd ganddi el his-lywydd, el senedd, ei chyngor, a'i llys barn, &c. Y mwy dwy elfen yn todoli yn mhob gwlad, sef yr elfen ffurfiol 4'r elfen doddawl. Pe ymfudwn i New Zealand, Awatralia, Canada, neu yr UnoL .Dalaethau byddai y Gymraeg yn elfen dodd- awl yn y lleoedd uchod, a'r Seisnig yn un Sornol,! fel yn y wlad hon; ond yn Pata- gonia bydd y Gymraeg yn elfen ffurfiol, a phob iaith arall yn un doddawl. Y mae y diriogaeth hon yn perthyn i'r weinyddiaeth vchod. Ei hyd o'r gogledd i'r de yw 1,100 o filldiroedd, a'i lied o'r dwyrain i'r gorllewln nydd tua 500. Ei arfordlr sydd yn 3,000 o filldiroedd. Y mae hinsawdd y wlad yn amrywio o wresog i oer. Y parth gogleddol sydd boethaf, ond nid yn rhy boeth I gyfan- aoddiad y Cymry. Yn y de, tua Cape Horn, y mae yn oer; ond lie y mae y Cymry wedi ymsefydlu y mae yr hinsawdd yn dymerus lawn, tebyg i hinsawdd Kansas, America Ogleddol. Y mae yr anifeiliald allan trwy y flwyddyn, yn ol tystiolaeth y Gwladfawyr eu hunain. Sych ydyw y parth lie mae y Cymry wedi ymsefydlu, ond y mae digon o ddwfr yn yr afon yn barhaus i ddyfrhau, yr hon sydd yn 30 llath o led, a dwy lath o ddyfn- der. Y mae cant erw o dir i bob tri dros 12 oed yn y Wladfa uchod, ac amryw bethau ereill ag sydd yn angenrheidiol yn ol trefn y ewmni ymfudol; felly y mae Patagonia yn thagori ar bob gwlad arall. Byddwn yno fel un teulu Oymreig er cadw ein hiaith, ein harferion, a'n crefydd, yn hytrach na bod yn nghano1 gwahanol genedloedd y byd yn was- garedig ar hyd yr Unol Dalaethau. Y mae llawer o ddynion ieuainc ein gwlad yn ym- fudo i America ac Awatralla, a .llawer o honynt yn ymsefycUu mewn lleoedd da er enfll arlan, ond eto yn amddifad o gyfleus- derau crefyddol; felly y mae 4ynion ieuainc yn gadael eu gwlad genedigol, a chyneusder- tm orefyddol ar bob llaw, gan ymsefydlu yta mhlith ereill, a thrwy hyny yn colli y cyf- leusderau crefyddol lawer pryd, y mae efsieu cael trefn ar ymfudiaeth yn gystal a phob peth arall. Wei, y mae yr amcan wedi cychwyn ond i III ei weithio allan a throi y ffrwd ymfudol i Patagonaldd. Y mae un o'r Gwladfawyr yn y wlad hon yn bresenol, sef y Parch. A. Mathews, (gynt o Llwydcoed, Aberdar), yr hwn a aeth allan gyda y fintai gyntaf wyth mlynedd i'r haf hwn. Y mae gan y Parch. Mr. Mathews gystal fferm ag un yn y Wladfa. Y mae wedi gweled llwydd ac afiwydd, ond yn awr wedi gorchfygu rhwystrau. IAGO GLANTAWE.