Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

EHYFEL CARTREFOL YSBAEN.

News
Cite
Share

EHYFEL CARTREFOL YSBAEN. Darfu ini hysbysu yn ein rhifyn diwedd- af, fod Senor Castelar wedi ei ethol yn Llywydd y Llywodraeth Werinol yn Ysbaen, yr hon sefyllfa a enillodd yn dra thebyg fel y dywed y Newyddiaduron, drwy ei areithyddiaeth hyawdl a llifeiriol, yn nghyd a'i alluoedd craffus a dwfn fel gwleidyddwr, ac iddo amlygu mewn iaith gref pan ymgymerodd a'r swyddogaeth drafferthus ag y mae ynddi yn bresenol, y byddai iddo arfer y mesurau mwyaf nerthol ac effeithiol ag sydd yn ddicliocadwy i osod i la-wr yn gyfangwbl y gwrthryfel ag sydd yn difa nertb &c einioes y wlad, ac er cyr- haedd yr amcan bwriadedig, ei fod yn ben- derfynu ychwanegu rhif y fyddin yn aruthr. Gyda golwg ar hyn, dywed rhai o'r Newyddiaduron nad oes dim yn rhwyddach i'w gyflawni na gorebymyn yn awdurdodol i arfogi nifer lluosog, ac anferthol o ddyn- ion, eithr tra anhawdd a chaled ydyw ateb yn mha le y ceir lluniaeth a gwisgoedd i'r cyfryw cyhyd ag y byddant yn adferu heddwch a chydgordiad yn y wlad. Beth bynag all fod dyfnder ac eangder yr anhawsderau i ddarpar angenrheidiau i'r milwyr, y mae yn ffaith diymwadifod Senor Cestelar yn eu harfogi mewn brys dirfawr, yn ymylu ar ddiamynedd. f mae yn awr 25,000 o filwyr newyddion yn gyflawn arfog yn Madrid—prif-ddinas Ysbaeaa, yn barod i gychwyn i fues y gyftaflan. Arwyddair y Llywodraeth Werinol yn y cyfwng presenol yw, ymrodcS i arfogi yn gyntaf, a diau y beichir y wlad a threth trwm a dirlethol i gyflenwi y Llywodraeth ag arian i roddi i'r milwyr wisgoedd ac angenrheidiau eraill na ellir hebddynt hyd oni therfynir y rhyfel gofidus. Y mae y Llywodraeth hefyd ar ei holl egni yn ail drefnu y gwahanol gatrodau. ac yn benderfynol i arfer dysgyblaeth lem, yr hyn sydd wedi ei ollwng dros gof i raddau ehelaeth, os bydd hyny yn anhebgorol tuag at sicrhau trefn ac ufydd-dod. Prif faes yr ymrysonfa yn awr yw rhan- barth gogleddol y wlad-cyffiniau tref San Sebastian, a'r trefydd cylehyrrol. Bu byddin y Llywodraeth, yr hon sydd dan lywydd- iaeth y Cadfridog Loma, yn gwersyllu hyd ddechreu yr wythnos hon yn San Sebastian, pan yr arweiniodd y Cadfridog ei fyddin, yr hon a rifa 10,000 o filwyr a 14 o ynau, i ymosod ar y Carlistiaid ger Tolosa. Yr oedd y fyddin wrthwynebol yn gynwysedig o 14,000 o filwyr, a Law 0 ynau. Er eu bod yn lluasocach, gyrodd byddin y Llyw- odraeth hwynt yn ol gyda cholled drom, a chymerasant un o'u banerau oddiwrthynt. Nid yw canlyniadau y frwydr hon wedi eu cyhoeddi eto, eithr dysgwylir eu bod yn dra chalonogol i'r Llywodraeth. Bernir nad yw swyddogion y Weriniaeth yn teimlo rhyw sel arbenig drosti, ac mai teimlad o ddyledswydd i amddiffyn eu cyd- wladwyr rbag trawsfreniniaeth yn unig sydd yn eu cynhyrfu i ymladd; a dywedir mai anaml y clywir bloeddio "Byw fyddo y Weriniaeth pan fyddo y fyddin yn pasio drwy drefydd; eithr llongyferchir y gwa- hanol gadfridogion yn y modd mwyaf brwd- ftydig.

Oddfellows' -Hall, Mid,.;Iesbrol.…

THOMAS PUGH (DECEASED.), I.,

Advertising