Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Y WLADFA GYMREIG—YMWELIAD…
Y WLADFA GYMREIG—YMWELIAD ESGOB STIRLING! GYMSAWD PARCHEDIG,—Mai 4ydd, glaiiiodd EsgobStirHn? Porth, Meidryai. Yr oeddwn i yno yn swyddofpl i'w dderbrn. Bum gydag ef drwy y Wh.dfa-bron yn mhob ty. Cafodd dderbyniad croesawus iawn. Cowsom wasan- aeth Eglwys Loegr, a phregeth dda, hyawdlar ddydd S&bboth, Mai I leg, ac hefyd fedydd a cbymurtdeb (60 o honom.) Yr oedd y lie yn rhy fach o lawer i'r gynulleidfa. Canasom yn Nghyturaeg, ac yr oedd ein peroriaeth yn ei swyco. Eedvddiodd aniryw Want—un yn y capel ar ddechren yr oedfa, a'r lleill yn y tai- heb dadau a mamau bedydd. Darllenodd y gwasanaeth yn mhriodas Gwyddel a Chymraes dydd Mawrth diweddaf pan oeddwn yn eu priodi Dywedai yr Esgob nas gallasai efe briodi yma, yr byn a barai syndod mawr i'r Gwyddel. Gwnaeth ei hun yn gartrefol, a bu yn brysur iawn. Holai am achos crefydd mor fuan ag yr aethym ar fwrdd y llong. Ym- drechais roddi golwg gymedrol ganolig. Ar ol cael barnau personol y bcbl yn gyffredin, canmolodd fi am roddi syniad hynod gywir. Hysbysodd y rhoddai gan' punt at gynal offeir- iad Eglwys Loegr yma os gwnaem ninau yn atebol. Talai sylw neillduol i'r plant, ac wedi gweled eu nifer mawr, cynygiai < £ 30 at gynal athraw, ond i ni wnend rhan. Ymddengys fod amryw wedi son am danaf wrtho, ac am hyny pwysai arnaf i addaw bod yn athraw. Dy- wedai y sefydlai genadaeth at y brodorion, os gwnaenx ni ddilen masnach mewn diodydd meddwol. Siaradodd am y pethau ar hyd y tai, a chafodd ymddiddan maith gyda phob un oedd yn ddigon o Sais. Wedi hyny, rhoddodd hwynt i'r llywydd i'w gosod o fiaen cyfarfod eyhoeddus, yr hwn a gynaliwyd Mai 13eg, a phe nderfynwyd 1. Nad yw ein sefyllfa ar hyn o bryd y cyf- ryw ag y gallwn ymrwymo i sicrhau swm pen- oiol i wahodd gweinidog, ond gwnawn ein goreu i bwy bynag ymsefydlo yn y lie. 2. Nad ydym yn derbyn y cynygiad, am ein bod yn ystyried fod digon o allu yn y lie i ysfjoi. ess 3. Nas gallwn roddi ateb penderfynol yn nghylch y fasnach feddwol ar hyn o bryd, ond ein bod yn gobeithio y caiff wybod yn faan ei bod wedi ei dileu yn y lie. Yr oedd teimladau enwadol cymysgedig yn acliosi pasio y pen cyiitaf. Yr oeddwn i yn erbyn yr ail, ond erbyn hyn mae mwy na haner yr etholwyr wedi arwyddo apel am y cymorth addawedig. Y mae dileu y fasnach. feddwol dan ystyriaeth barhaus er ys misoedd, ac er ein cysur, mae llawer o'r Ilanciau yma wedi arwyddo yr ardystiad dirwestol. Dywedais wrth yr Esgob mai y ffurf gwasanaeth goreu genyf fi y w eiddo eglwysi Whitfield (Surry *;Chapel, er enghraifft), ac y mae amryw yn cyduno a mi ar i chwi ofyn am ychydig lyfrau gwasanaeth Eglwys Aberearn-Arglwyddes Llanover, lie y mae Ymneillduwyr yn gweinidogaethu. Y mae yr Esgob yn son am ohebu a hi. Yrydym ni fel Gwladfawyr yn ystyried y dylai yr ym- weliad hwn gynhyrfu Ymneillduwyr Cymru i dalu mwy o sylw i achos crefydd yn ein mysg. Hwyrach y gallech ddarllen hyn o lythyr i Dr. Lewis Edwards. Y mae efe yn gydnabyddus & fy nhad, a byddwch yn sicr i adael Mr. Mathews wybod ei gynwysiad. Yr ydym wedi teimlo yn fawr yn yr amgylchiad o herwydd ei absenoldeb ef (Mr. M.) a Mr. L. Jones. Lied wan ydyw y moddion crefyddol o hyd. Y mae y capel wedi ei adgyweirio. ac y mae amryw wedi addaw miloedd o briddfeini at godi un teiaethach. Nid oes dim lie i fwy na haner y Gwladfawyr yn yr adeilad sydd genym. Mai 16eg.—Nid yw yr Esgob yn gwneud dim a'r apel am ysgol yn awr, ond y mae am wylio pa fodd y try pethau allan. Yr wyf newydd gael ei ateb, ac yn ysgrifenu ar fwrdd y Hong. Y mae am anfonrhodd o lechi.&c., i mi. Bydd y llong yma eto yn mhen dau fis i ymofyn ceff- ylau. Erbyn hyny, dichon y bydd newyddion pwysig ereill wedi dygwydd yn ein plith. Der- byniwch hyn yn garedig oddiwrth yr eiddoch mewn brys, R. J. BERWYN. Trerawson, Patagonia, Mai 16,1873.
TREFORIS.
TREFORIS. Bydded hysbys: i'r gwr sydd yn defnyddio en w., loan Glan Tawe ar faes y GWLADGARWR clodwiw o dro i dro gydag hanes cyfarfodydd mewn gwahanollefydd.o fewn..dyff.ryn Tawe yn ystod y misoedd sydd wedi myned heibio i arddel rhyw enw arall, am nad yw loan Glan Taw wedi marw eto, ond ei fod yn fyw e w ac iach, a'i ddarfelydd a'i athrylith yn gryfach yn awr nag erioed, ac yn benderfynol o ddef- nyddio ei dalent i wasanaethu. ei Dduw a'i gei\edl, yi- hyn sydd yn ol gydag ef ar y ddaear heb ei dieulio; ac y mae 15 mlynedd bellach wedi myned heibio oddiar pan nrddwyd ef Wr ffugenw gan Nefydd, Blaenau, ond heddyw yn y bedd. Pob parch i'w lwch i huno yn dawel hyd ddydd barn. Mil o gofion at yr anwyl fardd Brythonfryn, Cymro GiviUt, Déwi Haritn, Dewi Alaw, Robyn Meirion,, Carn Elian, Dewi Afan, Glan Afan, CaswaJlea, G. Llwchwr, Rhys ap Rhys, Ap Mawrth, Llyfnwy,.a llawer ereill yn rhy faith i'w henwi yn bresenol. GyrMi DE.—Cynaliwyd yr wyl hon yn Seion, capel y Bedyddwyr yn y lie uchod, prydqawn dydd Sadwrn, Medi 6ed, mewn rwysgfawredd anghySredin. Cafwyd prawf newydd o adfyw- iad wrth gyferbynu v rhif fu yn yfed t6 yn yr wyl hon a'r nifer sydd yn difyru eu hunain yn y gwyliau hyn o fewn ardal Treforis. Yr ydym, yn cael fod y cynyrch y tro hwn yn dyfod i swm go dda, gan fod y rhoddion yn clirio y treuliau yn llwyr. Y mae ein diolchgarwch yn ddyiedus i drigolion y gymydogaeth yn gyffred- inol am eu parodrwydd yn dyfod i gynorthwyo yr enwad i glirio y ddyled sydd yn aros ar y capel ardderchog hwn. Cawsom dS da, teisen ragorol, a difyrwch lawer ar y diwedd gan feibion a merched wrth chwaren llawer o gampiau diniwed mewn dull hwylus a bywiog. CYFARTOD BLYNYDDOL.—Cynaliwyd cyfarfod blynyddol yn Horeb, capel yr Annibynwyr yn y lie uchod, no6 Sadwrn, dydd Sul, a nos Lun, y 6ed, 7fed, a'r 8fed o Fedi. Y gweinidogion afuyn gwasanaethn oeddynt y Parchn. Davies, Abertem; Lewis, Llanelli; a Roberts, Ystrad. Cafwyd cyfarfodydd da yn mhob ystyr, pre- gethjau. godidog, a jgweoau Duw y aefoedd yn llewyrchu ar yr oedfaon, a'r cynulliadau yn lluosog. Casglwyd swm anrhydeddus, sef can' punt o fewn ychydig sylltau. Y COR UNDEBOL.—Bum nos Sul yn gwrando y cdr uchod yn Libanus, dan arweiniad Mr. D. Francis, yr hwn sydd yn bwriadu inyned i Eis- teddfod fawreddo^ Abeitawe y mis hwn er eystadlu ar y prif wobrau. Cefais fy modd- loni yn fawr yn natganiad IfWprthy is the Lamb" a'r "Amen Chorus." Yr oedd y bass a'r soprano yn arddeichog, nes peri i wallt fy mhen sefyll pan yn myned trwy y darnau hyn. Chwi feibion a merched sydd yn pei thv n i'r c3r uchod, ymroddwch ati, a pheidiwch gadael i'r arweinydd medrus rwguach, fel y darfu iddo nos Sul, canys yr ydych yn glod i ardal Tre- foris a'i chylch. Mawr Iwyddiant i chwi enill y gamp y tro hwn, er y chwi golli y tro di- weddaf. Os gwnewch enill bob tro, ni chewch neb i gystadlu a chwi. Enill a cholli sydd yn ybydhwn. Rhoddaf lith ar Dreforis a'i masnach a'i gweithfeydd newyddion y tro nesaf. IOAN GLAN TAWE.
ABERDAR,.—GYFAKFOD 0 GYNRYCHIOL-
ABERDAR,.—GYFAKFOD 0 GYNRYCHIOL- WYK.—Darfu i mi alw aylw y cyhoedd er ys ychydig yn ol at sefydliad y cyfarfod uchod, ond er hyny, nid oedd y cyfarfod yn un llewyrchus y tro diweddaf, o herwydd rhyw resymau ueu gilydd. Fe. ddichon mat y rhwystr mawr oedd fod y fire works yn cael eu cyual ar yr Ynys yr un noswaith ag oedd ein cyfarfod ninau, a thrwy hyny fe ddarfu i'r cynrychiolwvr anghofio y tro hwn. Y mae yn wir fod Ilawer wedi dyfod yn nghyd o wahanol fanau, a'r path cyntaf a fu dan sylw oedd pwnc y screens. Yr ail beth oedd cael barn bwyllog ein prif bwyawyr yn nghylch pwyso wrth y pwys, ac yr oeddynt o'r un farn y byddai yn well i'r glowyr fod yn foddlon i roi a chymeryd ar y pedwar pwya ar ddeg yn lie y pwys ond methwyd dyfod i'r penderfynlad, o lierwydd y buaBai yn groes i'r hyn a basiwyd ar fynydd Aber- amaa ar y lai o A wet diweddaf. Y trydydd bethoeddfodyr holl bwyawyr i fodyn y cyfarfod nesaf, yn ughyd Wr peraonau hyny a ddewiswyd alian o'r cyfarfod hwn, er cael gwelei a oedd y pris yn cyfateb i'r pwysau byr. Y pedwerydd oedd fod y cyfarfod i gael ei gynal y tro neeaf yn y Bute Arms, Aberdar, ar yr 17ag o'r mis hwn, pryd y dysgwyllr un o bob gw&ith i fod yn bresenol. -D. WILLIAMS. LLANSAMLET.-Dydd Mawrth, yr 2il o'r mis hwn, eymerodd damwain ofnadwy le yn y lie uchod, pryd y syrthiodd dyn ieuane 25 oed o'r enw David Evans ilawr trwy bwll newydd y Lywith Coal Co., yr hwn sydd ar waith er ys dros blwyddyn o amser, ac yn agos i 130 o lathieci o ddyfuder. Rhywfodd, collodd y dyn ieuanc ei afael, a syrthiodd o ben y pwll i'r gwaelod, fel y bu farw yn y fan. Yr oedd yn ddyn ieuanc sobr, ac yn weithiwr gonest. Y mae y lie hwn wedi bod o dan ofal mawr oddiar ei gychwyniad. Nid oes yr un ddamwain wedi dygwydd yma o'r blaen, a gobeithio mai hon fydd y diweddaf. Dydd Mawrth, hebryngwyd ei weddillion marwol i Eglwys y plwyf, pryd yr ymgynullodd lluaws o'i gyfeillion i dalu y gymwynas olaf iddo. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. T. H. Jones, Tabor.- GLAISFAB. YSTAL YFERA.-TEMLYDDIAETH DDA.—Y mae yr achos da hwn, fel pob achos da arall, yn parhau ar gynydd yn gyflym iawn. Nos Sadwrn, Medi 6ed, cynaliwyd eyfarfod llen- yddol a chystadleuol dan nawdd y Temlwyr Da, pryd y gwobrwyd y cystadleuwyr llwydd- ianus ar y darnau canlynolCanu y deuawd i "Edifeirwch y Meddwyn;" goreu, Mr. Jenkin Thomas.a'i gyfaill. Canu unrhyw gan; goreu, Jane Hughes. Araeth ddifyfyr-testyn "NWYj" goreu, Mr. James Stephens (Iago Bach.) Ad- rodd yr emyn, Wrth gofio ei ruddfanan'n yr ardd;" goreu, Mr. L. Griffiths. Darllen dernyn ar y pryd; goreu, Mr. Lewis Davies. Cafwyd adroddiadau gan y brodyr L. Lewis (Taliesin), L- Griffiths, a Iago Bach. Terfynwyd y cyfar- fod trwy ganu y prif ddarn, "St. Andrews," goreu, paxti Soar, dan arweiniad Mr. Richard Rees. Y beirniaid oeddynt Mri. John Davies, Ystalyfera, aW. Watkins, Ystradgynlais. Yna aeth pawb adref wedi en llwyr foddloni.—T. Y. C. TREDEGAR,.—Ymddangosodd pwt o lith yn y GWIADGARWR diweddaf, dan y penawd "Hunanladdiad," yr hwn a ddywedai "fod dyn o'r enw Charlea Daniel wedi boddi ei hun yn mhwll y Globe." Nid yw hynyna ond anwiredd noeth, oblegyd mewn llyn tua 300 Jlath_oddlwrth y pwll uchod y cafwyd y trancedig, yr hwn lyn a adwaentr wrth yr enw "Pound Mary Stapal." Hi ydoedd y cyntaf a gafwyd wedi boddi yn y Ilyn, a Charges Daniel ydyw y trydydd. Y mae dau o'r tri wedi boddi yn wirfoddol, yn ol barn y lluaws, sef y cyntaf a'r olaf, ond am y Hall, nid oes sicrwydd yn mharn y lluaws am dano.—M. NAVIGATION, GER PONTYPRIDD. —GwLEDD FLYNYDDpL.—Cynaliwyd gwledd flynyddol yr Iforiaid yn y New Inn, dydd Sadwrn diweddaf. Cafwyd diwrnod teg, yr hyn oedd yn fanteisiol i'r frawdoliaeth i droi allan yn eu dillad goreu, ac yr oeddyno grand twrn out mewn gwirionedd. Blaen- orld hwy gan seindorf pres Llantrisant, yna, y llywydd a'r islywydd, mewn capiau tra hynod, wedi eu haddurno ag ysnodenau o wahanolllwiau, yna, yr aelodau yn eu scarfs, yn dwyn banerau ac arwyddion ereill. Cyf- arfyddasatit a'u chwaer gymdelthas Rhosyn Glan Taf, yr hon a flaenorid gan seindorf Caerdydd, ac yr oedd y frawdoliaeth yma eto wedi ychwanegu amryw yn eu rhifedi, ac yn edtyoh yn hardd dros ben. Cly wsom fod clniaw p'r radd flaenaf yn mhob un o'r ddau Ie, a bod pawb o'r aelodau wedi gwneud elthaf cyfiawnder a'r dyn oddimewn, a lluaws o blant y ddwy gymydogaeth wedi cael bias y pudding. Chwareuwyd gan y seindyrf hen alawon Cymrelg, a darnau o waith Han- tt ( j t i»/ n i x .x-j del, &3., yn feiatrolgar iawn, a threuliwyd y dydd yn ddyddorol a llawen dros ben, ac ymadawodd pawb wedi cael diwrnod ofwyn- iant.—M. ABERTAWE.—Cynaliwyd cyfarfod dir- westol yn yagoldy Ebenezar, yn y lie uchod, Medi y 6ed. C/merwyd y gadair gan y brawd Henry Griffiths. Yr oedd cynulliad lluosog wedi dyfod yn nghyd, a gwnaeth plant Teml Blaguryn, Cwmbwrla, eu hym- ddangoslad, er cymeryd rban yn y cyfarfod. Yr oedd yr aelodau oil wedi gwisgo eu re- yaMats, pa rai a edrychent yn hardd dros ben. Cafwyd adroddiadau gwir fuddiol gan rai o'r brodyr. Anerchwyd y cyfarfod hefyd mewn rhyddiaeth a barddoniaeth, a chanwyd am- ryw donau ac anthemau gan yr aelodau, yn nghyda Glee Party Gobaith, Cwmbwrla, dan lywyddi aeth Mr. William Roberts. Aeth pawb adref wedi eu llwyr foddloni.—W. H. T. MOUNTAIN ASH.—MARWOLAETH MR. JOHN GREY, SUNNY COTTAGE.—Y mae yn ddrwg iawn genym orfod cofnodi yr wythnos hon farwolaeth y boneddwr uchod. Yr oedd Mr. Grey yn un a gerid yn fawr yn y gy- mydogaeth a pherchid ef yn arbenig fel aelod gweithgar o Fwrdd Iechyd y lie.
LLOFRUDDIAETH TYBIEDIG.
LLOFRUDDIAETH TYBIEDIG. Dydd Gwener diweddaf, darganfyddodd nifer o heddgeidwaid y Thames, Llundain, ran o gorff dynes yn agos i Battersea Water Works ac ar ol hyny, darganfyddasant y rhan arall ger Brunswick. Meddylir fod llofruddlaeth wedi ei chyflawni, ac i'r corff gael ei dori i fyny gyda'r amcan o'f ddyeithr- io fel nas gallesid ei aduabod. Tystiol- aethal y meddyg mai newydd ei llofruddlo oedd y ddynes-nad oedd ond ychydig o oriau wedi paa!o er pan gyflawnwyd yr an- fadwalth ellyllig. Yr oedd y pen, y brelchiau, yn nghyda rhanau ereill o'r corff wedi eu tori ymaith a chyllell; a darganfyddwyd y pen dydd Sad- wrn diweddaf ar y traeth ger Limehouse.. Tybir i'r weithred greulawu a barbaraidd trael ei chyflawni mewn bad nos Iau wythnos i'r diweddaf ac hysbyslr yn y newyddion diweddaraf fod gwr mewn gwth o oedran wedi bod yn Nhyloty Clapham yn arddel y corff drylliedig fel eiddo ei ferch—adnabydd- odd hi wrth groen ei gwyneb.
COLLIAD PUMP 0 FYWYDAU.I
COLLIAD PUMP 0 FYWYDAU. Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, yn Sklnnlng-grove, heb fod yn neppeli o Salt- burn, Yorkshire, tra yr oedd wyth o fwnwyr yn ymbleseru mewn bad ar afon cysylltledig a'r m6r, cariwyd y cwch gan y Ilifeiriant allan i'r cefnfor llydan. Ymdrechai y dyn- ion eu goreu las i rwyfo y bad at y tir, ond yr oedd y mor mor arw, ac yn sydyn daeth moryn anferth, a thaflodd y bad wyneb i waered, a boddodd pump o'r wyth mewn canlyniad. Ni wnaethpwyd cynyg i'w gwaredu, oblegyd yr oedd y m6r yn rhy en- byd o erwin.
ARDDANGOSIAD GODIDOG GAN WEITRWYR…
ARDDANGOSIAD GODIDOG GAN WEITRWYR HAIARN MERTHYR. Cynaliwyd arddangosiad godidog y Sad- wrn diweddaf gan aelodau Undeb Gweith- wyr Haiarn, dosbarth Merthyr, yn mharc Penydaren, yr hwn a roddwyd at eu gwas- aeth gan R. Fothergill, Ysw., A.S. Cyfar- fyddodd y gwahanol gyfrinfaoedd yn y boreu, a ffurfiasant yn orymdaith hirfaith, yn rhifo tua 2 000, a cherddasant drwy brif ystrydoedd y dref, yn cael eu blaenori gan seindorf orfoleddua. Y mddangosai yr orymdaith yn dra threfnus ac ardderchog-pawb oi aelodau wedi ym- drwslo yn ddestlus, a'u hagwedd yn eglur dystlo eu bod yn penderfynu treulio diwrnod o fwynhadt Yr oedd y tywydd hefyd yn hynod ffafriol. Y wybren yn gUr a serchus, fel pe yn efyllysio dydd o gyflawn lender i aelodau yr Cndeb. Wedi, cydgasalu i'r pare, anerchwyd y cynulliad gan Mr. Phillip Harris, Mr. Cunniok Thomaa, a'r Parch. T. D. Mathias. Paaiwyd amryw benderfyn- iadfiu, ac ar ol tori y cyfarfod i fyny, treul- Iwyd y rhan olaf o'r dydd mewn gwahanol chwareuon, a diweddodd yr oil yn dreffius a boddhaol. hi •"i • (MI -• r
DIENYDDIAD Ylt LIE
DIENYDDIAD Ylt LIE Oafwyd golygfa druenua yn y weithred o ddlenyddio dyn o'r enw James Connor yn L'ttrpwl boreu y Llun diweddaf. Dedfryd- wyd Connor i'w grogi am drywantf Gaffiiey, yr hwn a ymdrechai ei atal i ymosod ar ddynes a ddygwyddai fod yn ei gymdeithas. Y chydig arwyddion o edifeirwch a amlygwyd gan Connor er el garchariad, hyd oni nesha- odd dydd du ei ddienyddiad. Bn tyw bywyd hollol ddyeithr i dy o addoliad er pan oedd yn blentyn, a phrin y gallasai ddarlleh braw- ddeg. Beth bynag,* cafodd bob mantafa i ymbarotoi yu y cyfainser y bu yn ngharchar ar gyfer y byd digyfnewld ag oedd y gyfraitfc yn ei hyrddio iddo. Nid oedd neb yn bresenol ar awr y dlenyddlad oddieithr swydd^io^ f carchar a gohebwyr y newyddiaduron. Wedi sicrhau y rhaff am el wddf, tynwyd y follt yn ol, ond yn hollol annysgwyliadwy, rhydd- haodd y rhaff fel y syrthiodd y dyoddefydd, gan ruddfan yn gwynfanus a thoreedonus, eithr safodd ar ei draed er el holl boenau dirfawr. Yn yatod yr adeg y buwyd yn oyrchu rhaff arall, cydweddlai y gaplan$'r condemniedig, yr hwn oedd yn arswydo ac yn crynu yn resynus. Pan aethpwyd i ricr- hau y rhaff yr all waith, gofynodd Connor "Beth yr ydych yn galw hyn? A ydych yn galw hyn yn lofruddiaeth? Q1 hyn i gyd l n .tfsm 1 C: chwi ddylech fy ngollwng yn rhydd." gan droi at y gaplan, "Gollyngwch fi f! rhydd, yn sicr yr wyf wedi cael digon, ddyiwn gael b»d yn rhydd yn awr." hyt, sicrhawyd y rhaff yr all waith, a tlfD" wyd y follt yn ol, a bu Connor farw y» iongyrchol. Ymadawodd mwyafrif y pererinion s* nig ag oeddent ar ymweliad yn Par»f"% Monial a'r lie y Gwener diweddaf, a daetb*0 i Paris cyn machlud haul y dydd hwoj- Arosodd rhai o honynt yn Paray, eithr ereill rhagddynt 1 Lourdes, lie y mae boo rod adnabyddus arall. Dychwelodd y Pembroke o New York I borthladd Caerdydd boreu dydd diweddaf. Cludodd ar ei bwrdd 184 o deitu' wyr, yn nghyd a 11 wyth dlrfawr o wahaO°l nwyddau. Yn nghyfarfod trwyddedol blynydio] Abertawe, gwnaethpwyd apel at mainc o heddynadon gan dafamwyr Trefori4 a'r Mumbles am estyn amser cauad o ddeg hyd 11 o'r gloch; eithr ar ol i'r heddynadoØ ymnelllduo i feddwl ypwnc yn bwyllog"ø y&tyriol, dychwelasant gyda'r farn unfrydol i wrthod cydsynio a'r cats. Y mae ewyllys Esgob dlweddar Winchesttf wedi ei phrofi, ac y mae ei ystad we^l01 chyfrif yn werth 260,000. Talodd Arglwydd Faer a Sheriffs LIoD" dain ymweliad yr wpth-aos ddiweddaf Southampton er eu croesawu hwy a gwledd fawreddog gan faer y dref yn y South WeøterØ Hotel. Dedfrydwyd llafurwr o'r enw Crane dydd Gwener diweddaf yn Uys it heddynad, Clerkenwel, i sefyll ei brawf gynyg llofruddlo ei lysferoh fechan, deg oo&i drwy ei gwanu a. chyllell a'i throedio. Darbyniwyd archeb yn Woolwich 80 chwech mil a haner o beleni at y drylllafl enwir yn muzzle laaded Enfield rifle, gyds P amcan o'u hanfon i frodorion heddychol Ml sydd yn ymladd yn rhyfel yr Ashantee.
[No title]
LLYSFAM GYTHREUIIG.—Dygwyd yr f&' ddyglad mwyaf dieflig o elddo llyafam Ili ferch ieua.uc, i'r goleu ar y 13eg cyfLsol, 0 flaen un o Ynadon Philadelphia, ag y dat" llenasom am dano erioed. Enw y ferch y* Mary Rowlands, ac enw eillyafam yw Joseph' ine Rowlands. Mae y ferch tua 19 oed, druan o honi y mae wedi cael triniaeth gaC" waith mwy annynol na-, a roddir byth If anifail mwyaf anmharchus. Yr oedd arfer cael ei churo yn ddidrugaredd gan llysfam a'i merch—cylyment hi, draed dwylaw,—ac am y 6 mis diweddaf—carcbaf" wyd hi mewn hen gloset bychan tair troed- fedd wrth chwech, a buont bron a'i newynG yn y fan hono Ni chafodd newid dillad fØ ystod y chwe' mis y bu yn gaeth yno!! & foreu y 13eg llwyddc dd i ddianc o'i charchJf aflan, a gallodd ymlusgo rywfodd i dy (Ifill" ydog. Galwyd Heddgeidwad i mewn chafwyd fod ganddi chwaer briod mewn rbIØ arall o'r ddlnas, ac yno y mae yn bresenol 1" gorwedd mewn claf-wely o'r darfodedigastbj yr hwn a ddygwyd ami, yn ol tystiolaeth 1 Meddyg aydd yn gweini ami, gan y camdrifl- iaeth a dderbyniodd oddiar law ei llysfaØ felldigedig, a barna y Meddyg ei bod tuhwøt i unrhyw feddyginiaeth allu achub ei bywyd. Mae yr ellylhvralg gythreulig yn y ddalf&j ac os na chosbir hi hyd eithaf y gyfralth,|o^ gwyddom i beth y mae cyfraith dda; w es DO chymer ei thad diafol feddiant llwyr o hon* wedi i'r gyfraith wladol weinyddu ei eithaf ami, nis gallwn ddimad beth y inao yntau dda. TANCHWA YN HYDE PARK.—Cymerodd tanchwa le y dydd o'r blaeu yn y Central Shaft, Hyde Park, trwy yr hon y cafodd tri o ddynion eu llosgl a'u niweldlo yn ddrwg iawn, a deallwn fod un o honynt wedi raarW o'i niweidiau. Taniwyd y nwy gan Evan Pugh (neu Owen Hughes, yn ol adroddiad arall), yr hwn a aeth i "hen frest diwalth lamp noeth, heb un ayniad fod perygLjno* Lltriawyd ef o'i benliniau 1 fyny. LloSgwyd at wallt oil oddiar el ben, a llosgwyd ei holl ddillad yn un crisp oddiam dano. Yr oedd dyn arall o'r enw William Beddoe ar y ffordd 1'w waith pan y cymerodd y ffrwydriad Ie, llosgwyd yntau yn ei wyneb, el frelchiau, Wi ,goasau; ond nid yn beryglus. Chwythwyd Gwyddel o'r enw Pat Haneghan trwy ddrV* oyfagoa, yr hwn oedd yn ngheuad, a'r liirm meddir, oedd yn ddwy jEodfedd o dprob' Derbyniodd niweidiau laad oedd yn bosibl iddo fyw drwyddynlr. Rhoddir y bat Vt ddamwain ar y tanwr, Pat Carney, yr hwn* esgeulusodd brofi y tai?, yn yr hen frert, » rhoddi arwydd o berygl yn y fynedfa iddo.1 Hyn a geir o osod Gwyddel i ofalu am y pan na wyr, yn y cyffredin, ddim p. eI gyich. Y STORM 1 LAITHMAS. '— Dechreuodd ysfcotf* ofnadwy o fellt a tharanau, gwlaw a ehøJ1" llusg, a gwyntoedd dinystriol, dros rano helaeth o Dalaethau Efrog Newydd, Pma, sylvania, Jersey Newydd, Delaware, a Mid- land ar y 12fed cynfisol, a pharhoodd byd haner dydd y 14eg, a gwnaeth ddifrod au" ierth ar eiddo yn mhob cyfeiriad. Yr oedd y gwlaw yn ymdywallt yn genllif didor, ne* chwyddo yr aberoedd a'r afonydd, nes y lor" lifent eu glanau, ac ysgubid pontydd ac t golchid ymaith y rhellffyrdd gan y lllfeirian* mewn lluaws o fanau. Dywedir fod ysfacyd- oedd dinas Philadelphia yn annhramwyaeWf gan ddyfnder y dwfr. Dywedir fod y gofled yn Philadelphia yn unig yn cyrhaedd i droi 30,000 o ddolefl, ac y mae y golled yn adtof" man yn anferthol o drwm. Yr oedd y wyr gan mwyaf wedi parotoi M- gyfer yt yw torm, yr hon a alwant hwy yn cysboos I«ai|ihmaekfv