Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.

News
Cite
Share

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. DAIONI Y TUGEL.—Beth bynag ydyw barn lhiaws am werthfawredd y Tugel, mae yn diiamheucl nad oes un cynllun gwell, os cystal, i derfynu ymrafaelion a fyddo yn foodoli rhwng melstr a gwelthiwr. Y mae ya hysbys i lawer fod yma strike yn bodoli yn aihlith y selri coed er ys rhai wythnosau, heb un gobaith am ddyfod i derfyniad. Ar- graffwyd tocynau o wahanol liwiau, ac aroynt dri o wahanol bristau, a rhoed tri cherdyn i bob dyn-y cyntaf amsaith ceiniog a ffyrling yr awr, yr ail yn saith a dimai, a'r trydydd yu saith a thair ffyrling. Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Lord Nelson-street, lie bernid fod yn bresenol rhwng chwech a saith cant 0 seiri, rhoed prawf ar y Tagel flwch, a throdd allan fel y canlyn Dros y saith a ffyrling, 11; dros y saith a dimai, 422 dros y saith a thair ffyrling, 86. Gwelir yn y fan yma ddefnyddioldeb y Tugel—y sttike wedi ei chladdu yn ol llais y lluaws, meistr a gweithiwr wedi dyfod at eu gilydd, a'r dyn- ion wedi cael yr hyn a ofynent am dano, yn 01 y mwyafrif. Oa nad ydym yn tynu casgliad anmhriodol, credwn y byddai yn fendith o'r mwyaf i feistr a gweithiwr pe defnyddid y Tugel i derfynu materion gweithfaol yn arniach, er gwastadhau cwerylon ac anghyd- fod mewn dull mwy enillfawr a thangnef- eddoa na strike. Cyfiawn ydyw i lafur y gweithiwr gael y safle a deilynga yn y farch- nad, gan fod y cyfryw yn cynyrchu cyfoeth, a'r vjalg ffordd heddychol i derfynu cwerylon ydyw detnyddio y Tugel fel moddlon neu gynllun digon dirgelaidd i bob gweithiwr i roddl el bleidlaiB heb ofni cilwg y nesaf ato. Y mae lie i gredu fod y byd yn gwella, a gwafeiddiad yn myned ar ei gynydd; o'r hyn lleiaf, mae wedi dechreu felly yn L'er- pwl, a gobeithlo yr ymleda y cynllun daionua hwn i bob parth o'r wlad, er gosod terfyn boddhaol ar ymrafaelion llafur a chyfalaf. Y maecyflareddu wedi dyfod yn bwnc pwysig rhwng teyrnaaoedd y byd ar lawer o bethau dyrua, ac wedi cael ei gario allan er daioni. 0 ganlyniad, paham nad ellir cyflafareddu rhwng meistr a gwelthiwr trwy gyfrwng y Tugel? Dylai aefyllfa pethau yn bresenol ddysgu y naill fel y llall i gydnabod gwerth- fawredd heddwch a chymydogaeth dda, gan adael heiblo yr heu arferion o ryfela ac ym- gyndynu am'bob peth, fel yn y dyddiau.gynt. Gubeithion gwan sydd am ddyfodiad y mil blyayddoedd tra pery y meistradoedd Crist- iouogol i lywodraethu & gwialen halarn. Nid yw yn rhyfedd fod y gweithwyr yn ysgyrnygu ac aflonyddu am yr hyn aydd gyfiawn iddynt ara. eu llafur. Rhaid i drefn gael ei sefydlu, fel byddo i gyflog y llafurwr godi a goatwng gyda phris y farchnad; a sicr nad oes dim yn afresymol yn hyny, oblegyd fe f vddai y codi a'r gostwng yn effeithio ar y naill fel y llall. Os ydym yn iawn farnu, yr achos gwreiddiol na chaed y cynllun i weithredlad ydyw an- foddlonrwydd y meistr i adael i'r gweithiwr wybod helyntion y farchnad, gyda phris gwerthiant gwahanol nwyddau. Y mae y cyfoeth bentyrant mewn yohydig flynydd- oedd yn brawf digonol fod y llog a dderbyn- but ar eu hanturiaethau ya helaeth lawn; ond ni fynant ymostwng a gadael i r gweith- iwr wybnd gwerth ei lafur. YMFTJDIAETH.—Ymadael ydyw arwydd«*ir y miloedd o hyd am ororau peMenig, yn ol fel y dengya cyfrlfon Bwrdd Masnach am y mia diweddaf. Gallem feddwl fod sefyllfa brtisenol masuach yn y wlad hon yo ddigon atdyniadol i gadw pobl gartref; ond nid felly. Gadawodd 12 028 o ymfudwyr o fawn cylch mis Awst. Mewn llongau o dau y gyfraith, a chydrhwng yr ymfudwyr mewn liongau heb fod dan y gyfraith, gwneir y cyfanswm o 15,134-. O'r nifer hwn, aeth 12,216 i'r Tal- aethau Uaedig a'r tiriogaethau Prydeini?. Ychydiw mewn cydmariaeth ydyw y nifer i'r hyn sydd yn mudaw i Awstralia a'r gwledydd cylchynol. Tebyg mai myned a dyfod wna pobl y ddaear cyhyd ag y byddom ami, yr hyn a wiria yr Y sgrythyr sydd yn dweyd mai dyeithriaid a phererinion ydym yn ngwlad y ddaear. Caiff fod felly o fy ran i, oblegyd y mae yn debyg y myn pawb ei ffordd tra byddont yn alluog i dalti, a m- n llawerunei ffordd heb arian o gwbl. Cosp MARWOLAETH—Crybwyllasom dro yn ol am y llofruddiaeth yn Mill-street, pryd y cigyddiwyd James Gaffney gan un James Connor. Cafwyd yr olaf yn euog ar ol prawf manwl a phwyllog o flaen deuddeg o reith- wyr parchusaf y wlad, ac nid oedd dim yn aros y llofrudd end dyoddef gofynion y ddeddf. Daeth Calcraft i'r dref nos Sadwrn, yn edrych mor heinyf ag arfercl, ac yn ym- ddangos yn barod i waith. Codwyd y ban- lawr dienyddol mewn congl rhwng muriau Carchar Kirkdale, a boreu heddyw (dydd Llun), cyn pen y mis ar ol y weithred ys- geler, dyma James Connor yn esgyn grisiau y dienyddglwyd i ddycddef am y cam a wnaeth'i'w gydgreadur. Wedi trefnu pob peth yn barod, ac i'r llofrudd ysgwyd llaw o ffarwel, a-th Calcraft i lawr, ac nid cynt nag y tarawyd y follt nag y torodd y rhaff, a dy- wedir fod yr olygfa yn alaethus i'r eithaf. Pwrcaswyd rhaff arall, a glaniwyd y truan i oror byd arall mewn ychydig o fynydau. Parodd yr anffawd gryn siarad; ond nid oes neb i'w feio ond y dienyddwr, gan fod y rhaff yn feddiaut personol, ac nid yn eiddo y car- chardy. Cafwyd profiou digonol ei fpd yn greadur hollol anifellaidd, am nad oedd yn gwybod dim am dxefniadau yr Eglwys Bab- aidd, a bu raid i'r offeirlad ei ddysgu i ddeall fod byd ar ol hwn, a'i fod ynteu yn greadur cyfrifol i far it. Y mae rhvwoeth yn yr hanes yn rhy hagr i'w ysgrifenu, a gallem dybio fod helyntion v crosjbren yn rhy ddychrynllyd i'w hadrodd o'r hyn lleiaf, nis gall elch gohebydd lai na theimlo iasau oerion yn ym- daenu drosto wrth ddarllen yr helynt. Wn i ddim beth i feddwl am ddeddf y crogi, ond rhaid cael rhyw drefn er trin cyflyrau y cyfryw hyny ag sydd mor hoff o ddefnyddio y gyilell, ac hyd nes y ceir trefn newydd, rhaid cadw at yr hen, a'u crogi hwynt oil allan o'r ffordd. MANION.—Defnyddiwyd y gyllell yn hel- aeth yr wythnos a aeth heibio, ac ymddyg- odd y prif ynad Ruffles tuag atynt yn ol eu teilyngdod. Rhaid cwtogi, am fod y City of Chester wedi dyfod i fawn. Gadawodd New York dydd Sadwm wythnos i'r diweddaf. Dyna guro agerlongau cynyoi Caerdydd, er cyflymed ydynt, onite 1 Y mae y byd yn mynedrhagddo, a rhaid i ninau ddilyn, wrth fgwrs. CYMRO GWYLLT.

Advertising

PWYLLGOR GWEITHIOL YR UNDEB.