Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

4T OLYGYDD "Y GWLADGARWR."

(SilR AT LOWYR CWMAFON.

$BE WORKING MEN'S CLUB 4ND…

INODIADAU AMRYWIOL.

News
Cite
Share

NODIADAU AMRYWIOL. Y mae gohebydd dysgedig o'r Deheudir i'r Herald Oymraeg wedi cael allan beth newydd yn Morganwg, aef hen blwyf y Maes- teg. Gwyddom am hen blwyf Llangynwyd, a bod Eglwya y llan yn y pentref hwnw. Sonia hefyd amanmherflfeithrwydd a meddw- dod y trigolion yn y llo ar adeg angladdau. Y meddyg, iacha dy hun cyn dysgu o honot sobrwydd i ereill. Beth a ddywed Llyfnwy ac ereill o lenoriou yr hen blwyf am hyn ? Byddai yn burion i ddysgawdwr fel hwn wybod a deall am leoliad pentrefydd a phlwyfydd yn Nghymru cyn taenu ei wyb- odaeth i'r byd, a. chamarwain darllenwyr Cymreig y Gogledd am sefyllfa. foeaol a chym- deithaaol pobl yn Morganwg a manau ereill. Darllened y Cupid a llyfrau ereill sydd yn cynwys nodion haneayddol am wahanol ar- daloedd o fewn tarfynau plwyf Llangynwyd, fel na fydd achos iddo yn y dyfodol frad- yehu ei anwybodaeth. EISTEDDFOD ALBAN ELPED.—Y Mae y rhagolygon yn obeithiol eleni fel arferol. Lluaws o gorau yn parotoi i'r ymdrechfa, a chystadleuwyr ereill yn addaw bod yn llu- osog, fel na rhaid ofni unafi wyddiant a diffyg- ion arianol. Y mae yr Eisteddfod erbyn hyn wedi sefydlu cymeriad y pwyllgor a'r yagrifenyddion, a gobeithio fod iddo hir oes a llwyddiant i wneud daioni i bawb—yn wrandawyr a chyatadleuwyr. Cofied pawb am uchel-wyl y dyffryn ar Alban Elfed yn Aberdar. Cewch yno felns fwyniant, Awen a than ar ei thant." Mae y dadwrdd am yr etholiad dyfodol yn parhau, ac yn debyg o wneud nes myned o'r twrf etholiadol droaodd. Mae pwyll yn ofynol yn newiaiad cynrychiolydd rhandir mor bwystg ag ydyw Aberdar, Merthyr, a'r Yaenor. Gwir fod mawr augen am rywun i gynrychioli llafur yn sjenedrl y wlad pe ceir gafael ynddo ond yn yr ymdrech, fe ellir gwneud camsyniadau dybryd yn hyn o beth, a thrwy hyny, wneud y drwg yn waeth o ganlyniad, gwell cadw y sawl a adwaeoom na chael foreign exportation i wneud cam a'r werin. Mae y naill beth a'r llall wedi codi y genedl i sylw y byd, a dylid bod yn ofalus i gadw y poblogrwydd rhag cael ei lychwino gan gamsyniadau. Y mae y awn yn ymledu fod Cor Mawr o'r Gogledd. yn myned i Lundain i'r gystadleu- aeth gerddorol neaaf, a gobeithio na fydd i Caradog a'i fyddin aefyll yn ol, ond dyfod yn wrol i'r ymdrechfa a chiplo y wobr am y drydedd walth. Nid llawer sydd i'w enill wrth hyn ond y pwnc mawr ydyw dangos i'r Saeson that'the Welsh can go and win, if they wish. Sicr ydyw y gwna boneddwyr ein gwlad ddyfod allan & chynorthwy hael- ionus er dwyn y treuliau unwaith eto, fel. gallo y noble five hundred fynecf a tharo y final stroke, er gwirio geiriau y cadfridog milwrol y tudraw i'r Werydd, "Tkat the Welsh never was conquered." Deallwn fod y rhan gyntaf q "Hanes Morganwg" wedi dyfod allan o'r wasg, a bod arni olwg iachus a chryf teilwng o'r a awdwr trylen. Y mae Dafydd yn haeddu oefnogaeth y werin yn gyflredlnol, ac yn benaf oil, dderbynwyr y GWLADGARWR, am ei fod yn un ag sydd wedi llafnrio Uawer fel gohebydd neillduol i'r jiapyr. Ni fyddai yn llawer i'Llwyd, y perchenog, anrhegu yr "hen staff" & chopl cyflawn 6 "HaDes Morganwg wedi ei rwymo mewn morocco. Byddai yn dangoa parch 1 Dafydd, ac hefyd i hei^ffyddlonfaid gohebyddol y papyr. Gaii ei foa weithfanyn gryf a nerthol yn y byd, tybiwn y gall wneud yn hylaw. heb deimlo un colled wrth hyny. Oewch rhagor eto o nodion yn y dyfodol ar wahanol helyntion y byd isloerawl pan fydd hamdden mewn gafael. Yr eiddooh,—COSMO.

HEN WR O'R CWM YN ABERAERON.

MYNWENT Y CRYNWYR.

"pMJE NHW YN DYWEDYD."

AT WEITHWYR HAIARN CYMRU.

PWYLLGOR GWEITHIOL YR UNDEB.

UNDEB Y PEIRIANWYR A'R TANWYR.