Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y Mesur Addysg.

News
Cite
Share

Y Mesur Addysg. ^■HODDASOM yn ein rhifyn am wyth- **0s i heddyw amlinelliad o'r Mesur nevvydd oedd ddigon i t, dangos beth yw ei egwyddor. Ac Jr °edd hyny yn ddigon i ddangos, ein bod yn ei gymeradwyo. Ic* Unwaith, na dengwaith, y dadleu- t, yn y colofnau hyn yn erbyn eddf Addysg Mr Balfour, am ei bod atal rheolaeth gyhoeddus dros arian cyhoeddus, ac am ei bod yn cau allan gynnifero athrawon cymwys ° ysgolion a gynelid o arian y wlad, j^wn tollau a threthi, am yn unig eu yn anmharod i danysgrifio erthy- r^a chredoau neillduol y sect a °nai feddiant o'r ysgoldai. Y mae y naill beth a'r llall yn annghyfiawn- er dybryd nid a'r Annghydffurfwyr Yo unig, ond a'r dinesyddion yn Syff^edinol. Nid yw yr hyn a gyfrifai ^Balfour fel rheolaeth gyhoedd- mewn miloedd o blwyfi, o dan y eddf biesenol, am £ en na ffug a "Wyll} a yn y fargen. Yn y niiloedd plwyfi lie nad oes ond ysgol y Llan y mae y rheolaeth ymarferol yn nwylaw y clerigwr ai "anwyl gariadus frodyr," ac mewn Juaws o'r ysgolion hyny y mae yr ftwyr wedi ei thrwytho a dylanwad defodaeth wtig-, o dan yr enw addysg grefyddol," er fod mwyafrif mawr yr Ysgolorion yn blant Annghydffurfwyr. Âc nid oes obaith i Annghydffurfiwr fod yn brifathraw yn yr ysgolion ^yny, oni bydd iddo "droi ei got." ywir fod yn bosibl iddynt gael lie yn lS-athrawon heb hyny-yn is-athraw- ?7Z, beth bynag am eu dysg, a'u dawn ■r, ^dysgu. Sarhiid arall ar yr £ lwyswyr Rhyddion. Nodir y ^ethau hyn i gadw yn nghof ein 'arUenwyr fod gorthrwm y Gyfrait'n |"esenol yn annyoddefol, Dyna p edfryd y wlad yn yr lonawr eleni. ^ag-siarad di-synvvyr yw haeru na P ^wyd archiad yn yr Etholiad j^yffredinol i symud y gorthrwm. °' °s cafodd Llywodraeth archiad gwlad am unrhyw beth erioed j ,^a genym osod ar glawr fod y J^odraeth wedi deall a chydnabod ^rhan yma o'r "Mandate" a rodd- ,(yd iddi, ac wedi gweithredu wrtiio. r ydym yma heddyw," ebai Mr lrre^, wrth ddwyn y Mesur yn aen, i ddefnyddio moddion i wella Y gyfraith mewn cydffurfiad ag ""yll) s gyhoeddedig y bobl." Efe a satodd y rhan olaf o'r ymadrodd c °d yn araeth Mr Balfour pan yn ■^nyg trydydd darlleniad ei Fesur. llv °edd ei wasanaeth i'r dim. Ewy- ddadganedig y bobl yw fod y sv aith hon yn cael ei gwella, trw_y P^ud ymaith ei goftjirwm a'i sarh<id. ^J.^ffurfio a hyn yw gwaith mawr ejr ^irrell; ac y mae efe wedi dechreu dd yn iawn. Gadavver i ni dyweYd yn y fan yma, hefyd, mai y Ddeddf—nid gwneyd un peWydd—a gynygir ac yn mhellach, cawsem ni ein dewis buasai yn §yd Senym yr hen Fyrddau Ysgol, w.a rhai gwelliantau, na pheirian- cynll Modd bynag, « a n y Llywodraeth yw gadael yr dar^urd°d Leol" mal y mae hi, a Vs& iru na chydnabyddir unrhyw ^-n ysS°^ elfenol gyhoeddus oni ac ^i yn ddarparedig ganddi, ar, blwar,,ol> y dydd cyntaf o lonawr, ^iU° *'r nesa^ Dyna wneyd byr 1 a*" Achosion y cwynion a nod- ila, roddir arian y wlad, o doll reth> i'r ysgolion enwadol o'r rh^i a ^°dwyd yn mlaen. Ysgubir cIae^h y person a'i wraig, y curad cyjj0°?|?y^d, a'r ddau gynnrychiolydd Awdi J Us oddiar y ffordd. Gan yr Pen0di °i Addyso Leol y bydd a ia nrawon 1 b°b ysgol rhag Crefydj *}yny heb vmholi i'w credo iu hyn ffafr i'r Annghydffurfiwyr 1 dim ond cyfiawnder noeth a sych, dim ond symud ymaith y gorthrwm a roddwyd arnynt mewn ffafriaeth annghyfiawn i'r blaid glerigol. Nid cydwybod, ond hunanoldeb hollol, sydd yn llefain yn erbyn, uban rhai yn colli moethau na ddylasent erioed eu cael. Ond, beth, meddir, am yr ysgoldai enwadol ? Hawlia Eglwys Loegr fedd- iant, mal y nodwyd, o filoedd o ysgoldai, a lluaws mawr o honypt mewn manau nad oes ysgoldy arall. Beth a wneir yn yr achosion hyny ? Ein cred ni yw fod cynygiad y Llywodraeth yn dra hael- frydig, os nad yn ormod felly. Credwn fod yr Eglwyswyr yn hawlio mwy o gredyd iddynt eu hunain nag a ddylent. Rhoddant bris anferth ar eu hysgoldai, gan gymeryd yn ganiataol mai a'u harian eu hunain y talwyd am danynt. Eithr nid yw hyny yn gywir, ond mewn rhan. Beth am rad-roddion y Llywodraeth ? A pha beth am arian lluoedd o Annghyd- ffurfwyr, yn enwedig mewn lleoedd gwledig, a fnont yn ddigon ffol i gym- eryd eu perswadio i'w cyfranu er mwyn gochei treth Bwrdd Ysgol Y mae yn bryd i'n cyfeillion Eglwysig gymeryd gwersi mewn substruction. Credwn mai digon yw i'r Awdurdod Leol (lie na b'ont yn prynu) dalu rhent am wasan- aeth yr ysgoldy, a dwyn y draul o'igadw yn ddi-adtail, tra, ar wahan i oriau yr ysgol, y gall ei feddianwyr ei ddefnyddio mal y mynont a chyda hyny, gael rhan o ddau foreu yn yr wythnos i gyfranu eu haddysg grefyddol eu hunain (ar eu traul eu hunain, wrth reswm) i'r plant yr ewyllysia eu rhieni hyny. Y mae gofyn am fwy na hyn yn haerllugrwydd. Yr ydym mewn llawn gydymdeimlad a'r Methodist Times yn ei awgrym fod yr ysgoldy yn cael ei adael i'r person i wneyd a fyno ag ef, ac fod ysgoldy cym- wys rhydd yn cael ei adeiladu yn ei le Arbedid y rhent a'r draul o gadw medd- iant pobl eraill mewn cywair. Beth pe byddai i'r Llywodraeth am ddwy flynedd neu dair i adael heibio adeiladu llongau rhyfel, a throi at adeiladu ysgoldai yn lie hyny Yr anhawsder mawr yw cwestiwn add- ysg grefyddol. Y mae dosparth o bobl yn y wlad (nid oes eisiau dyweyd pwy ydynt) yn anwybyddu darllen y Beibl fel addysg grefyddol. Pwysicach o lawer yw y Catecism JDywed Esgob LJun- dain na siaradai yn ysgafn am addysg Bwrdd Ysgol diweddar Llundain, ac nad oes neb yn anrhydeddu y gwirion- eddau mawrion sydd yn gyffredin i'r holl gyrff Cristionogol uniongred nag ef; ac eto y mae efe yn achwyn yn erbyn cyfranu Addysg Grefyddol y Bwrdd Ysgol am dri boreu yn yr wyth- nos yn yr ysgoldai a adeiladwyd i oche) iddi gael ei dwyn i mewn !—" built to avoid it to be ijitrochtcedV Dywed y Parch C Ensor Walters (olynydd Hugh Price Hughes yn Nghenadae'.h Gor- llewin Llundain) iddo fod am chwe' blynedd yn rheolwr o dan Fwrdd Ysgol Llundain, ac iddo wylio canlyniadau yr addysg yno gyda gofal, a'i fod yn ym- lawenhau wrth weled yr effeithiau yn mhlith y tlodion. Ychydig o bobl sydd yn sylweddoli," ebai efe, fel y mae gan hyd yn nod blant y slums wybodaeth am ffeithiau hanfodol Cristionogaeth wedi ei derbyn yn hollol trwy addysg Ysgol y Bwrdd. Llawer gwaith (ebai efe) yr ymwelais a'r ysgolion, y gwyliais y plant yn ymgynull, clywais y gweidiau, a sylwais ar yr addysg Ysgrythyrol, a chredaf fod y dylanwad er buddiant goreu y bobl." Gwyr Mr Walters hefyd rywbeth am Lundain, ac nid diwerth ei farn Siaradodd Mr Birrell yn gryf o blaid lie y Beibl yn yr ysgol, ac y mae y Mesur yn dyogelu parhad addysg gref- yddol o'r fath y cyfeirir ati gan Mr Walters, a roddir yn bresenol yn Ysgol- ion y Cyngorau, a'i bod i'w chyfranu yn y cyn-ysgolion enwadol, gyda'r eithriad- au a nodwyd ond ni orfodir y rhieni i anfori eu plant erbyn yr adeg ei rhoddir. Ofnwn fod yn y bedwaredd Adran ddefnydd achlysuron helbul dibaid. Cynwys yr Adran hon yw darpar- iaeth i roddi addysg grefyddol neill- duol i blant pedair rhan o bump o'r rhieni y bydd ganddynt blant yn yr ysgol hono a fyddant yn gofyn hyny. Nid yw yr addysg hon 1 fod ar ffordd addysg reolaidd plant y rhieni na fyddant yn gofyn am dani. Gall athrawon rheolaidd yr ysgol gyfranu yr addysg hon, ond nid yw Awdurdod Addysg i dalu iddynt am dani. Ofni yr Z, y ydym fod yma gyfleusdra i ganfasio, ac i achosi yr holl aflwydd cysylltiol a hyny. Yn yr amgylchiadau y mae yn debyg nad oes bosibl osgoi yr amcan sydd i'r Adran. A oes gwell modd i'w gyraedd nis gwyddom. Yr ydym yn aros i wybod beth a ddywedir, a pha beth a wneir. Y mae yn amlwg iawn fod y Llywodr- aeth yn ceisio yn deg i wneyd cyfraith gyfiawn. Ei phwynt yw talu yn unig am addysg fydol, gan ddechreu yr ysgol trwy ddefosiwn crefyddol heb gynwys dim ond sydd yn gyffredin i bawb sydd yn derbyn y Beibl, ac heb orfodaeth o gwbl ar blant y rhiaint sydd mor an- tfodus a bod heb ei gredu, i fod yn bresenol; a phan y rhoddircyfleusdrarr rhai sydd yn ei geisio i gyfranu addysg neillduol, rhaid iddynt dalu am dani. Diau mai dyma y cais tecaf eto i wneyd cyfiawnder a phawb, a'r un nesaf i wneyd yi ysgolion yn wirioneddol Genedlaeth- ol. Yr ydym yn gobeithio y saif pob Rhydd-Eglwyswr yn bybyr o'i blaid. Nid am ei fod yn darparu unrhyw ffafr neillduol iddynt, namyn y ffafr o wneyd cyfiawnder a hwynt. Ac o ran hyny, y mae cael cyfiawnder yn ffafr fawr, pur amheuthyn iddynt. Ac nid ydynt, nac yn dysgwyi nacyn gofyn am ddim ond yr un chwareu teg a'u cyd-ddeiliaid. Digrif yw fod Esgob Llundain yn cyhuddo y Llywodraeth o ddwyn yn mlaen Fesur sydd yn troseddu yn erbyn rhai o egwyddorion cyntaf cydraddoldeb cre- fyddol." Pa rai o naddynt, ys gwyddom tiwell i'w Arglwyddiaeth dewi a son am gydraddoldeb crefyddol. Y mae gan rywrai eraill air i'w ddyweyd ar y mater hwnw. Grtsyn fod plaid Llafur yn cymeryd y cwrs a gymerant. A chaniatau eu bod yn iawn, y rnie eu cais yn an- mhosibl. Y cwbl a wna eu gwrthwyn- ebiad a fydd cefnogi y Toriaid. Y mae genym bob parch i feibion Llafur, ac yr ydym yn aiddgar am iddynt gael eu holl iawnderau, ond byddai yn dda genym pe byddai rai o'i harweinwyr gryn dipyn yn ddoethach. Yn mbedwaredd Ran y Mesur darperir ar gyfer "sefydlu awdurdod addysg ganolog i Gymru a elwir Cyngor Cymru." Darperir fod i gyngor pob Sir, a Chyngor pob Bwrdeisdref Sir, benodi o leiaf ddau gynnrychiolydd. Bydd gan Gyngor Cymru awdurdod i gyflenwi addysg o bob math i Gymru, ac i gynorthwyo y cyflenwad hwnw. Bydd gallu a dyledswyddau Bwrdd A'ddysg (cyn belled ag y perthynant i Gymru) yn gorphwys arrio, yn nghyda gallu a dyledswyddau Bwrdd Amaeth- yddiaeth parth addysg amaethyddol a choedwigol, a gallu a dyledswyddau Bwrdd Canolog Cymru. Bydd Bwrdd Addysg y Llywodraeth yn talu i'r Cyngor yr arian a bleidleisir gan y Senedd i Gymru, gyda'r eithriad o'r rhoddion i'r Brifysgol a'i Cholegau. Bydd gan y Cyngor awdurdod i godi arian at ei wasanaeth. Yn y cynllun hwn y mae Sir Fynwy yn Nghymru. Nid ymhelaethwn nes gweled drafft o'r Order. Os ydym yn cofio yn iawn bydd y cyfarfod i barotoi y Draift, yn Llan- drindod, y iaf o Fehefin nesaf. Yr ydym yn credu fod dyddiau gwell yn aros Cymru. Os ceidw hi ddeddfau a barnedigaethau ARGLWYDD y lluoedd y maent yn sicr o ddytod.

-fof--Eisteddfod Caer.

Gwyl y Pasc.

Bygyihiad Cywilyddus.

Barn yr Athrawon ar y Mesur…

Y Genadaeth Dramor. ___ ^