Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Y Senedd a'i Helynt.
Y Senedd a'i Helynt. MAE'R Senedd bresenol wedi dechreu gweithio o ddifrif er's amser bellach, a diolch lawer am hyny. Yn hyn o beth Y lilae gwahaniaeth dirfawr cydrhyng- ddl a'r un ddiweddaf. Y mae ton a ^^wedd y Ty wedi newid yn hollol. n lie yr yspryd esmwyth a difraw a odweddai'r Ty blaenorol, y mae ys- P yd gwaith a myn'd yn mlaen yn ynu yn awr> j)a genym ddeall fod a' ° yfed gwinoedd drud a dlodydd eddwol eraill yn bod yn nglyn a £ .eS'n y Ty. Gwelsom y dydd o'r •paen y bydd yn rhaid i Bwyllgor BWYdo'rTy Cyffredin apelioamgrallts gario'r gegin yn mlaen. Nis gallant el charïo yn mlaen heb fod ar eu coll- ed. Paham ? Am fod y Seneddwyr yn byw yn symlach ac yn yfed llai o wirodydd. Arwydd dda iawn, yn slcr. Llawenychasom hefyd pan yn arllen am gyfarfod gweddio y pnedd. Ni wnai ychydig o'r elfen iwritanaidd niwed i'n Senedd, ond ,e^ mawr. Gwyn fyd na ddeuai'r ydd pan yr ej0 ejn Seneddwyr oddi- ar eu gliniau at eu gwaith. Awgrymai rhywun i'r enwog Deon Stanley mai dyn rhagrithiol ac insincere oedd yr enwog W E Gladstone. Atebodd y ^eon yn ol, Nage, oblegid gwn fod Gladstone yn myn'd oddiar ei liniau at Waith mawr y Wladwriaeth." Delfryd ardderchog i bob Seneddwr. Ar yr Ilti pryd er mai gweithio yw nodwedd fawr y Senedd hon, teimlwn fod gor- ^od o ymdroi gyda rhai pethau. ^ethwn a gwel'd paham yr arhosid *por hir gyda Diffyndollaeth, Llafur "tineaidd, Arglwydd Milner a De ca. Y mae'r wlad wedi dadgan 1 barn yn bendant ar y pethau hyn, ac yn awyddus i weled y Ty yn ^eithio yn mlaen gyda mesurau |^elliantol a chymdeithasol. Y mae j e Affrica gyda ni o hyd, ac fel yr tyerddon gynt, yn ddraen yn ein Vstlys yn barhaus. Mr Chamberlain ydd yn gyfrifol am hyn, ac nid yw'r iWedd eto. Y Farn yn unig a aengys maint y niwed a wnaeth y Yn hwn. Ac y mae cysgodion yr Jj^smwythder yn awr wedi ymledu i atal. Rhoddodd Llywodraeth Natal dreth etholiadol (Poll 7 ax) ychwan- egol ar y Zulus ieuainc. Dywedir Wrthym mai'r amcan oedd gwthio'r rhai hyn i'r gweithfeydd mwn a'r toedwigoedd cynyrchiol. Dylid cofio ad oes gan y brodorion hyn bleid- ^s> ac felly fe'i trethid heb fod gan- dynt gynrychiolaeth yn y Senedd Wnaeth hyn, na llais o gwbl yn y ,rGthiant. Trethiant heb Gynrych- 'L 10laeth "-y fatii niwed a wnaeth hyn Yo mhob oes. Hwn oedd un o'r pethau jfWeiniodd Siarl I i golli ei ben. ir yn a ddyrysodd synwyr Shior III, lTc a barodd i ni golli'r berl hono, sef nol Dalaethau yr Amerig. Hyn ngerddolodd Prvdain Ymneillduol Yn erbyn Mesur Addysg 1902. Ond wyrach nad yw'r Zulus ieuainc hyn OH •GU ^YsSu a u disgyblu yn bri- °1 i arfer eu hawlfraint pe caent hi. ^ls gwyddom am hyny. Ond dylai atal fod yn ofalus a phwyllog gyda t, a pheidio mabvvysiadu polisi eddol i gynhyrfu. Modd bynag, j^rthwynebai'r brodorion yr anghyf- Wnder hwn, a dyna hi yn helynt byr sydyn. Yn yr helynt lladdwyd yr rcnwiliwr Hunt a milwr. Ar hyn /na r drefedjgaeth yn ferw drwyddi 1 dyn gwyn mewn perygl, gan fod y o ddengwaith o frodorion yno fttjf ° ddynion gwyn. Cofiodd pawb 0 y .Boeriaid a'u cri o wthio'r dyn ynyn i'r mor. Rhaid oedd ymaflyd lb Yr anigylchiadau gyda Haw gref, 1r Pet^ ymledu drwy Dde ^at^a -^Pe^°dd Llywodraeth filwyr Prydeinig i ysgubo r ymaith. Yr oedd gwaed dyn ^air Wed* a rhaid talu am Waedunifer o ddynion duon. yr wlad a hwy gan ddinystrio, ,jmpwrn difetha cnydau, a llosgi pentrefydd. O'r diwedd daliwyd y rhai a feddant rhyw gymaint o ran uniongyrchol yn y llofruddiaeth. Saethwyd dau o hon- ynt. Condemniwyd deuddeg eraill gan lys milwrol cyfansoddedig o swyddogion y Milisia. Argymellai y Llywodraethwr yn gryf am ddiddymu'r ddedfryd, a'u hail brofi ger bron y Llysoedd Gwladol. Gwrthodwyd hyn. Wedi derbyn gwy- bodaeth anmherffaith ar y mater, fe gyfryngodd ein Llywodraeth i ohirio gweinyddiad y ddedfryd nes gwybod rhagor am yr amgylchiadau. Ar hyn, dyma firi mawr. Dacw bapurau Tori- aidd y wlad hon yn ceisio gwaethygu pethau, a Gweinyddiaeth Natal yn ym- ddiswyddo. Ar hyn fe dynwyd y cyf- ryngiad yn ol. A'r diwedd fu i'r deuddeg dyn du gael eu dienyddio gyda brys mawr. Dyma'r safle annymunol a wynebai'r Senedd y noson o'r blaen. Crybwyllwn ef er dangos y modd y gweithredodd-felldatguddiad i'r wlad. Yn un peth, dengys yspryd y blaid Geid- wadol. Mae'n amlwg y carent roddi De Affrica ar dan pe gallent—rhywbeth i faglu a dyrysu'r Llywodraeth bresenol. Briwiedig iawn eu tymer ydynt ar ol y gurfa dost a gawsant yn yr etholiad di- weddaf. Teimlant i'r byw fod yr awenau wedi myned o'u dwylaw, ac wedi myned o'r diwedd, nid i ddwylaw yblaid Wydd- elig, fel y proffwydent, ond i ddwylaw y blaid Radicalaidd yn hollol. Dywedent yn fostfawr nad oedd y blaid hon yn deilwng o awenau ein gwlad-nad oedd- ent yn un a'u gilydd. Ac yn surni eu hyspryd parod ydynt i wneyd niwed os dyrysa byny'r Weinyddiaeth. Meddyl- iasent y tro hwn y gallent roddi Natal ar dan yn erbyn Prydain. Ond druan o honynt! Mynydd mewn gwewyr yn esgor ar lygodena brofodd y cyfan oil. z;1 Ni chafodd y Weinyddiaeth lawer o anhawster i ddangos iddynt wneyd y peth iawn yn yr amgylchiad. Fe ad- roddir holl weithrediadau Natal yn ddyddiol gan y Llywodraethwr i'r Swyddfa Drefedigaethol. Ondymddeng- ys na wneir hyny yn nglyn a'r llysoedd milwrol. Mae rhan o'r wlad o dan Ddeddf Filwrol (Martial Law), ond ni adroddir gweithrediadau'r llysoedd mil- wrol i'r wlad hon. Yn awr, dyma bell- ebyr sydyn yn d'od i Arglwydd Elgin, yn hysbysu fod deuddeg o frodorion i gael eu dienyddio—dim ond pellebyr yn hysbysu'r ffaith, heb air o eglurhad o gwbl. Yn wyneb hyn, nis gallai Ar- glwydd Elgin, nac unryw Ysgrifenydd Gwladol arall, wneyd ond yr hyn a wnaed, sef gofyn am ohirio'r dienyddio nes cael rhagor o wybodaeth ar y mater. Yr oedd hyn yn berffaith iawn. Ond pa fodd y gellir cyfiawnhau'r sel derfynol a roddwyd ar y ddedfryd ? Atebiad y Llywodraeth ydyw fod y llys a'u condemniodd wedi ei gario yn mlaen ar yr un llinellau a Llys Gwladol, ac fod y Llywodraethwr wedi chwilio'n fanwl i achos, a'r dystiolaeth yn erbyn, pob un yn bersonol, ac nad oedd rhithyn o am- heuaeth yn meddwl neb o berthynas i euogrwydd bob un. Ac felly, rhaid oedd gadael i bethau gymeryd eu cwrs priodol. Ond er fod hyn yn berffaith glir, nid yw'r wlad na'r Senedd yn gallu edrych yn hapus ar ddylanwad a gwasanaeth Deddf Filwrol yn Ne Affrica. Mae rhagfarn mawr yno yn erbyn y brodorion, a'r syniad fod y dynion duon a melynion i fod yn ddarostyngedig i'r dyn gwyn. Mor hir y mae hwn yn marw allan, onide ? Datganodd Prif Lys yr Amerig flynyddau lawer yn ol—" Nad oedd y Negroaid yn ddynion yn ystyr gyffredin y gair." Ond mae Haw drom Amser a syniad cyhoeddus byd goleuedig wedi dadymchwel y syniad barbaraidd ac Anghristionogol hwn. Ond, ysywaeth, y mae rhyw gymaint o'i gysgod yn aros mewn culni a rhagfarn. Ac fel yr aw- gryma un papur dyddiol, nis gall neb ddyweyd yn sicr a phendant fod y deu- ddeg hyn wedi cael prawf teg a hollol di- ragfarn. Dyma'r geiriau :—"No one in the Colony or at home would be prepared honourably toguarantee that each of these individual men had had a fair and un- biassed trial and could be certified, with all the unchallenged guarantees of English justice, to be guilty of murder." Modd bynag, rhaid i'r Llywodraeth gadw ei llygad yn fanwl ar bethau fel hyn, a gofalu fod y brodorion yn cael eu hawl- iau mor glir a diragfarn a'r dyn gwyn ei hunan. Teimlwn yn ddiolchgar iawn am fod y miri wedi chwythu heibio mor esmwyth ag y gwnaeth o dan yr am- gylchiadau. Gallasai'r Toriaid gyda'u hannoethineb sur ac iselwael chwythu gwynt ar y tan nes gosod De Affrica yn goelcerth ysol. Gwnaed y Rhyddfryd- wyr ymgais i osod De Affrica ar sylfaen iawn, a bydd bendith y Nef, ni a gredwn, ar eu llafur.
§o§ — Crist Ein Pasc Ni."
§o§ — Crist Ein Pasc Ni." Yr hyn oedd cen y Pasc i'r Israeliaid fel arwyddlun, yw Crist i'w bobl mewn gwirionedd. Dysgai y ddefod o aberthu yr oen mai eiddo Duw oedd y genedl, ac ei bod yn eiddo iddo trwy aberth. Cyn aberthu'r oen clirid allan o bob ty yr holl "rara lefeinllyd"; ac wedi ei aberthu cedwid gwyl am saith niwrnod- Yn gyffelyb y mae aberthiad Crist yn ein dysgu ninau, mai nid eiddom ein hunain ydym, a'n bod ninau i garthu allan yr hen lefain" a pharotoi ein hunain i "gadw gwyl." Adeg sefydliad y Pasc, meddianodd Duw y genedl yn eiddo iddo'i Hun. Mynai Pharaoh ei chael, ond gyda ''llawgadarn ac a braich estynedig" y gwaredwyd hi o afael y gorthrymydd. Felly hefyd yn aberthiad Crist, meddiana Duw ninau iddo'i Hun. Talodd y pridwerth drud er ein cael o'n caethiwed. Wrth aberthu ei Hun yn ein natur ni, cydnabyddodd Crist yn enw y ddynoliaeth hawl Duw ami, ac wrth aberthu ei Hun hefyd gwnaeth yn bosibl i bob dyn drosto'i hun, aberthu ei hun i Dduw, Amcan aberthiad Crist oedd ein dwyn ni i aberthu ein hunain. Heb ei aberthiad Ef nis gallasem ni aberthu ein hunain, ac heb ein haberthiad ni, y mae ei aberthiad Ef yn ddirym ac ofer. Y cwestiwn mawr i ni ei benderfynu yw hwn, A yw Crist yn ei aberth yn weith- redol yn ein cynrychioli ni ? Mewn un ystyr, y mae'n cynrychioli pob dyn. Y mae'n gynrychiolydd yr holl ddynoliaeth. Efe yw Mab y dyn." Efe yw Mab y dyn am mai Efe yw Mab Duw. Yn ei fywyd Ef fel Mab Duw y gwreiddia bywyd y ddynoliaeth, ac ynddo Ef fel Mab y dyn y ceir ei blodeuyn tecaf, a'i ffrwyth perffeithiaf. Ond gall Crist fod yn hyn oil, heb fod i ni yn weithredol a gwirioneddol ran yn ei gynrychiolaeth. Yn ei berthynas a'r hil ddynol, yr hyn ganfyddwn yw y posiblrwydd sydd o flaen pob aelod o'r ddynoliaeth, -y del- fryd a ddelir o flaen pob dyn i ymgyraedd ato. Ond nid yw y posiblrwydd hwn o unrhyw werth ymarfetol heb ymdrech i'w sylweddoli. Daw Crist yn gynrych- iolydd i ni yn weithredol, daw i osod allan yn wirioneddol yr hyn ydym ni,- a dyna yw ystyr gwir gynrychiolaeth- pan y bydd ein hyspryd ni o ran eg- wyddor yn cyfateb i'w yspryd Ef,-pan y bydd ynom ni yr yspryd aberthol oedd ynddo Ef. Bydd genym ni ran yn Weithredol yn aberth Crist pan fydd y meddwl a barodd iddo Ef aberthu ei Hun yn feddwl llywcdraethol ynom ni. Rhaid fod i aberth Crist ei wrthran (1counterpart) mewn edifeirwch a ffydd ynom ni cyn y boddlonir calon y Dad- olaeth Ddwyfol. Nid ystyr hyn, cofier yw nad yw y "Tad Sanctaidd yn gwbl toddlon yn aberth ei Anwyl Fab. Na ato Duw i ni ddweyd hyny. Ond wedi'r cwbl, moddion oedd aberthiad y Mab i enill y plant afradlon i'r cartref yn ol, ac yn nychweliad yr afradloniaid y bodd- lonir calon y Tad Nefol. Felly, os yw Crist i fod yn Base i ni, rhaid i ni, yn ei aberth Ef a thrwyddo, aberthu ein hun- ain. A golyga hyny fod ini fwrw allan yr hen lefain." Ni wneir cam a geiriau yr Apostol wrth newid eu trefn,—" Crist ein Pasc ni a aberthwyd drosom ni"; u am hyny certhwch allan yr hen lefain." Yr anghysondeb a'r rhyfyg mwyaf yn ngolwg yr Iuddew a fuasai fod oen y Pasc wedi ei ladd, a'r hen lefain heb ei fwrw allan. Yr oedd y lefain yn aflan ac yr oedd ychydig ohono yn ddigon i "lefeinio'r holl does." Oblegid hyny rhaid oedd ei garthu i gyd allan. Cyn yr wyl ceid yr Israeliaid gyda chan. hwyllau yn chwilio holl gonglau eu tai, ac yn ysgubo'r cwb] yn fanwl, rhag bod un tipyn o'r lefain wedi ei adael. Ac felly y mae'n rhiid i ninau fwrw allan "lefain malais a drygioni." Os yw ein haberthiad i Dduw trwy Grist yn un gonest y mae'n aberthiad llwyr. Bodd- lonir iddo gael y cwbl. Os y'm yn gwir edifarhau, yr ydym am adael pob pechod. Os oes rhyw bechod ag yr ydym ni yn ei anwylo, os oes rhyw ran o'n bywyd ag yr ydym yn anfoddlon i Grist ei gael iddo'i Hun, yna nid yw ein hedifeirweh yn un gwirioneddol, ac nid yw ein hym- gysegriad yn un cywir. Gwna ychydig lefain ei waith mor effeithiol a llawer o hono. Onid yr hyn sydd yn damnio miloedd yn ein gwlad heddyw yw an- mharodrwydd i fwrw allan yr hen lefain yn llwyr ? Os wedi carthu allan yr hen lefain," byddCrist wed'yn yn wirioneddol yn Base i ni, a byddwn yn barod i gadw gwyl." Sefydliad crefyddol oedd pob gwyl yn wreiddiol. Diwrnod neillduedig i was- anaeth grefyddol ydoedd, ac nid cyfleua- dra i loddest a chnawdolrwydd. Y mae bywyd y Cristion ar ei hyd i fod yn gadw gwyl i'r Arglwydd,' yn ddathliad buddugoliaeth mewn can a moliant. Y bywyd ymgysegredig yw y bywyd ded wydd. Y mae ein bywyd yn dlawd o lawenydd am ein bod yn wan o ewyllys i gario allan ein hymgysegriad. "Joy i-Iz the Holy Spirit is a phrase, the mean- ing of which is lost in these days of scant spiritual experience," ebai un ysgrifen- ydd yn y Spectator beth amser yn ol, ac y mie ei eiriau yn rhy wir. Achos pessimism crefyddol yw bywyd crefyddol iseJ. Clywir rhai yn dweyd y dyddiau hyn nad yw'n rhesymol disgwyl i'r hwyl a'r gwres oedd yn nglyn a'r Diwygiad flwyddyn yn ol barhau yn yr Eglwys Sonir am y Diwygiad fel ton o ddylan- wad ddaeth dros y wlad, ac mai oferedd yw disgwyl i'r dylanwad barhau. Wei, os mai ystyr hyn yw fod gan yr Arglwydd amseroedd a phrydiau yn hanes ei Eglwys, credwn fod elfen bwysig o wir- ionedd ynddo ond os mai ei ystyr yw nad yw bywyd y Cristion ar ei hyd i fod yn fywyd o orfoledd, yn fywyd o gadw gwyl," yna dywedwn ei fod yn heresi damniol. Cyn myned i benderfynu fod y Diwygiad wedi myned heibio, a cheisio profi ei fod yn fethiant, fel y gwneir mewn rhai o'r newyddiaduron Seisnig, priodol yw ini ofyn, Pa faint o'r meth- iant sydd i'w briodoli i'n hanffyddlondeb ni i fyw yn ol yr adduned i ymgysegru a wnawd pan dan y dylanwad ysprydol a weithiai mor rymus yn y Diwygiad ? Addunedodd llawer, flwyddyn yn iol, i garthu allan yr hen lefain. Penderfyn- wyd rhoddi heibio y "pethau amheits." A barheir heddyw i gadw'n glir a hwy ? Os na wneir, nid diystyr yr ymholiad, Ai nid hyny yw achos ymadawiad y gor- foledd a'r llawenydd ? Da yw meddwl nad yw'n rhy ddiweddar i edifarhau, a gwneyd y gweithredoedd cyntaf." A allwn ni dreulio gwyliau y Groglith a'r Pasc i well pwrpas nag i brofi ein hun- ain yn ngoleuni yr egwyddorion gogon- eddus a ddatguddir yn aberthiad "Crist ein Pasc ni ? Am hyny cadwn wyl, nid a hen lefain, nac a lefain malais a drygioni ond a bara croyw purdeb a gwirionedd."
Nodion Golygyddol.
Nodion Golygyddol.
Brymbo.
Brymbo. Y dyddordeb neillduol y cyfeir- iwn ato yw mai yno y cafwyd y bregeth Gymraeg gynlaf erioed gan Weinidog Wesleyaidd. Ar nos Sul, Awst 23, 1800, y bu hyny. Y Parch John Hughes (o Aberhonddu), ail weinidog cylch- daith newydd Rhuthyn-yr ail weinidog pan nad oedd ond dau weinidog Wesley- aidd Cymreig ar y ddaear, ac nid oedd ond rhyw dair wythnos er pan y sefyd- Jwyd hwynt—oedd y pregethwr, a'i destyn oedd Job xxii—21. Rhyfeddai y pregethwr ddaioni Duwyn ei alluogi i lefaru mor rwydd yn y Gymraeg canys yr oedd efe yn y Weinidogaeth Seisnig er's pedair blynedd. Dangosid y ty lie y cynelid y moddion, adeg dathliad y Canmlwyddiant. Teimlai John Hughes ar ol ei lafur cyntaf yn Mrymbo yn galonog a gobeithiol am achos yno. Y mae hyn oil yn rhywbeth i bob Wesleyad Cymreig. Ac y mae yn rhywbeth i bob Wesleyad Cymreig hefyd fod gobeithion John Hughes wedi troi yn fwynhad." Y mae capel eang Bethel, yr eglwys gref, a'r gynulleidfa fawr, a'r Ysgol Sul lwyddianus a berthyn iddo yn brawf o hyny. Ac y mae cylchdaith gref Coed- poeth, yr ydym yn credu, wedi deilliaw o'r dechreuad bychan a nodwyd. Y mae i'r Porth a Cholwyn, hefyd, eu hanes, ond wedi dechreu yn ddiwedd- arach. Gobeithio y rhydd y Cyfarfod- ydd Talaethol eleni arbenigrwydd new- ydd yn hanes y tri lie, a'r Talaethau y perthynent iddynt.
Y Mynydd Tanllyd.
Y Mynydd Tanllyd. Y mae Vesuvius er's rhai dyddiau yn bwrw allan ffrwd ddofn. lydan, o hylif tanllyd er dychryn a cholled aruthrol i filoedd o bobl am gylch eang o gwmpas ei odreuon. Daw cawodydd tewion o ludw dros ranau helaeth o'r wlad. Y mae v bobl wedi gadael amrai drefi. Dywedir fod cant a haner o filoedd wedi dianc am eu heinioes, ac na wyr neb pa nifer o fywydau sydd wedi eu colli.
- Addewid y Prifweinidog.
Addewid y Prifweinidog. Wythncs i heddyw derbyniodd y Prifweinidog ddirprwy o fwy na chant o Aelodau Senedd, yn apelio am i Fesur yn mhlaid Achos Sobrwydd gael lie uchel ar raglen y Senedd-dymor nesaf. Yr oedd Mr Gladstone gyda Syr Henry. Yn mhlith y siaradwyr yr oedd Mr Her- bert Roberts, yn cynnrychioli Cymru. Yn ei atebiad dywedodd Syr Henry nad oedd eisiau ymhelaethu, "oblegyd yr ydym oil yn cytuno," ebai efe. Ac mewn atebrad i apeliad Syr Wilfrid Lawson am Fesur "effeithiol," efe a ddywedodd, Gallaf addaw i'm cyfaili, ac i chwi oil, pan y deuwn i drafod y mater hwn y bydd hyny gyda Mesur effeithiol. Y mae nid yn unig yn bryd i ymwneyd gyda thrwyddedu, ond yn bryd terfynu, a'u gosod ar y fath safle na bydd eisiau cyfnewidiad am flynyddau a chenedlaethau. Dylid terfynu y mater ar seiliau rhesymol wedi eu sicrhau ar egwyddorion nas gellir eu diddymu." Dylai yr atebiad hwn fod yn foddhaol i bawb. Yr oedd felly i'r Ddirprwyaeth.
Nodion Golygyddol.
Y Cyfarfodydd Talaethol. Teimlai hen Wesleyaid selog y dyddiau gynt ddyddordeb arbenig yn y Cyfarfod Talaethol. Cerddodd llawer o'r tadau, a llawer o'r mamau hefyd, o ran hyny, lawer iawn er mwyn cael y Seiat, a'r pregethau, y "diwrnod mawr," a byddent yn meddwl ac yn siarad am yr hyn a wrandawsant, ddyddiau lawer. Gwir yw mai y Seiat fawr" a'r pre- gethau oedd y "Distric" i'r lluaws. Ychydig oedd y dyddordeb yn yr hyn a elwid yn "Gyfarfodydd Dirgelaidd ychydig o leygwyr a'i gwnelent yn fater o gydwybod i fod yn bresenol ac nid oedd ond ychydig iawn o hanes y gwe-ithrediadau yn yr u Eurgrawn," ac nid bob amser y ceid hanes o gwbl. Tua thu dalen a haner a geir o hanes Cyfarfod Talaeth y De am 1856, ac yr oedd hwn gystal a'r goreu yn yr oes hono-wedi ei ysgrifenu gan Hamilus. Methasom a gweled gair o hanes Cyfar- fod Talaethol y Gogledd am y flwyddyn hono. Y canlyniad oedd fod yn rhaid myn'd i'r Cyfarfod, neu wrando yr hanes -hanes y Seiat a'r pregethu-gan y rhai a fuont yno cyn y gellid gwybod am danynt. Ond byddai yr hen bobl dda yn llawen iawn o gael ychydig o dameidiau bychain. Bu son am bregeth Rowland Hughes yn Nghyfarfod Tal- aethol Llanelwy yn 1836 (ar Rhut. i, 19-23), yn ymdreiglo er syndod a bodd- had, gan adael maeth a melusder ffordd yr elai, am lawer blwyddyn. Yr ydym yn nodi y pethau hyn er mwyn argymell Wesleyaid y dyddiau hyn i ddefnyddio eu manteision mwy rhagoiol i sicrhau cymaint o elw ag fyddo'n bosibl i'w deall a'u calon, trwy fod yn bresenol, hyd y gellir, a thrwy ddarllen y GWYL- IEDYDD i gael yr hanes yn newydd, a'r Eurgrawn wedi hyny, cyn ei gadw i gyfeirio ato yn y dyfodol. Diau fod ein darllenwyr wedi sylwi y cynelir y Cyfar- fodydd eleni yn y tair Talaeth mewn lie na bu Cyfarfod Talaethol o'r blaen Cyfarfod y De yn y Porth (cylchdaith Ferndale) Talaeth gyntaf y Gogledd yn Mrymbo (Coedpoeth) ar Ail eto yn Ngholwyn (Conwy). Perthyna dydd- ordeb neillduol i Frymbo.