Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Y Senedd a'i Helynt.

News
Cite
Share

Y Senedd a'i Helynt. MAE'R Senedd bresenol wedi dechreu gweithio o ddifrif er's amser bellach, a diolch lawer am hyny. Yn hyn o beth Y lilae gwahaniaeth dirfawr cydrhyng- ddl a'r un ddiweddaf. Y mae ton a ^^wedd y Ty wedi newid yn hollol. n lie yr yspryd esmwyth a difraw a odweddai'r Ty blaenorol, y mae ys- P yd gwaith a myn'd yn mlaen yn ynu yn awr> j)a genym ddeall fod a' ° yfed gwinoedd drud a dlodydd eddwol eraill yn bod yn nglyn a £ .eS'n y Ty. Gwelsom y dydd o'r •paen y bydd yn rhaid i Bwyllgor BWYdo'rTy Cyffredin apelioamgrallts gario'r gegin yn mlaen. Nis gallant el charïo yn mlaen heb fod ar eu coll- ed. Paham ? Am fod y Seneddwyr yn byw yn symlach ac yn yfed llai o wirodydd. Arwydd dda iawn, yn slcr. Llawenychasom hefyd pan yn arllen am gyfarfod gweddio y pnedd. Ni wnai ychydig o'r elfen iwritanaidd niwed i'n Senedd, ond ,e^ mawr. Gwyn fyd na ddeuai'r ydd pan yr ej0 ejn Seneddwyr oddi- ar eu gliniau at eu gwaith. Awgrymai rhywun i'r enwog Deon Stanley mai dyn rhagrithiol ac insincere oedd yr enwog W E Gladstone. Atebodd y ^eon yn ol, Nage, oblegid gwn fod Gladstone yn myn'd oddiar ei liniau at Waith mawr y Wladwriaeth." Delfryd ardderchog i bob Seneddwr. Ar yr Ilti pryd er mai gweithio yw nodwedd fawr y Senedd hon, teimlwn fod gor- ^od o ymdroi gyda rhai pethau. ^ethwn a gwel'd paham yr arhosid *por hir gyda Diffyndollaeth, Llafur "tineaidd, Arglwydd Milner a De ca. Y mae'r wlad wedi dadgan 1 barn yn bendant ar y pethau hyn, ac yn awyddus i weled y Ty yn ^eithio yn mlaen gyda mesurau |^elliantol a chymdeithasol. Y mae j e Affrica gyda ni o hyd, ac fel yr tyerddon gynt, yn ddraen yn ein Vstlys yn barhaus. Mr Chamberlain ydd yn gyfrifol am hyn, ac nid yw'r iWedd eto. Y Farn yn unig a aengys maint y niwed a wnaeth y Yn hwn. Ac y mae cysgodion yr Jj^smwythder yn awr wedi ymledu i atal. Rhoddodd Llywodraeth Natal dreth etholiadol (Poll 7 ax) ychwan- egol ar y Zulus ieuainc. Dywedir Wrthym mai'r amcan oedd gwthio'r rhai hyn i'r gweithfeydd mwn a'r toedwigoedd cynyrchiol. Dylid cofio ad oes gan y brodorion hyn bleid- ^s> ac felly fe'i trethid heb fod gan- dynt gynrychiolaeth yn y Senedd Wnaeth hyn, na llais o gwbl yn y ,rGthiant. Trethiant heb Gynrych- 'L 10laeth "-y fatii niwed a wnaeth hyn Yo mhob oes. Hwn oedd un o'r pethau jfWeiniodd Siarl I i golli ei ben. ir yn a ddyrysodd synwyr Shior III, lTc a barodd i ni golli'r berl hono, sef nol Dalaethau yr Amerig. Hyn ngerddolodd Prvdain Ymneillduol Yn erbyn Mesur Addysg 1902. Ond wyrach nad yw'r Zulus ieuainc hyn OH •GU ^YsSu a u disgyblu yn bri- °1 i arfer eu hawlfraint pe caent hi. ^ls gwyddom am hyny. Ond dylai atal fod yn ofalus a phwyllog gyda t, a pheidio mabvvysiadu polisi eddol i gynhyrfu. Modd bynag, j^rthwynebai'r brodorion yr anghyf- Wnder hwn, a dyna hi yn helynt byr sydyn. Yn yr helynt lladdwyd yr rcnwiliwr Hunt a milwr. Ar hyn /na r drefedjgaeth yn ferw drwyddi 1 dyn gwyn mewn perygl, gan fod y o ddengwaith o frodorion yno fttjf ° ddynion gwyn. Cofiodd pawb 0 y .Boeriaid a'u cri o wthio'r dyn ynyn i'r mor. Rhaid oedd ymaflyd lb Yr anigylchiadau gyda Haw gref, 1r Pet^ ymledu drwy Dde ^at^a -^Pe^°dd Llywodraeth filwyr Prydeinig i ysgubo r ymaith. Yr oedd gwaed dyn ^air Wed* a rhaid talu am Waedunifer o ddynion duon. yr wlad a hwy gan ddinystrio, ,jmpwrn difetha cnydau, a llosgi pentrefydd. O'r diwedd daliwyd y rhai a feddant rhyw gymaint o ran uniongyrchol yn y llofruddiaeth. Saethwyd dau o hon- ynt. Condemniwyd deuddeg eraill gan lys milwrol cyfansoddedig o swyddogion y Milisia. Argymellai y Llywodraethwr yn gryf am ddiddymu'r ddedfryd, a'u hail brofi ger bron y Llysoedd Gwladol. Gwrthodwyd hyn. Wedi derbyn gwy- bodaeth anmherffaith ar y mater, fe gyfryngodd ein Llywodraeth i ohirio gweinyddiad y ddedfryd nes gwybod rhagor am yr amgylchiadau. Ar hyn, dyma firi mawr. Dacw bapurau Tori- aidd y wlad hon yn ceisio gwaethygu pethau, a Gweinyddiaeth Natal yn ym- ddiswyddo. Ar hyn fe dynwyd y cyf- ryngiad yn ol. A'r diwedd fu i'r deuddeg dyn du gael eu dienyddio gyda brys mawr. Dyma'r safle annymunol a wynebai'r Senedd y noson o'r blaen. Crybwyllwn ef er dangos y modd y gweithredodd-felldatguddiad i'r wlad. Yn un peth, dengys yspryd y blaid Geid- wadol. Mae'n amlwg y carent roddi De Affrica ar dan pe gallent—rhywbeth i faglu a dyrysu'r Llywodraeth bresenol. Briwiedig iawn eu tymer ydynt ar ol y gurfa dost a gawsant yn yr etholiad di- weddaf. Teimlant i'r byw fod yr awenau wedi myned o'u dwylaw, ac wedi myned o'r diwedd, nid i ddwylaw yblaid Wydd- elig, fel y proffwydent, ond i ddwylaw y blaid Radicalaidd yn hollol. Dywedent yn fostfawr nad oedd y blaid hon yn deilwng o awenau ein gwlad-nad oedd- ent yn un a'u gilydd. Ac yn surni eu hyspryd parod ydynt i wneyd niwed os dyrysa byny'r Weinyddiaeth. Meddyl- iasent y tro hwn y gallent roddi Natal ar dan yn erbyn Prydain. Ond druan o honynt! Mynydd mewn gwewyr yn esgor ar lygodena brofodd y cyfan oil. z;1 Ni chafodd y Weinyddiaeth lawer o anhawster i ddangos iddynt wneyd y peth iawn yn yr amgylchiad. Fe ad- roddir holl weithrediadau Natal yn ddyddiol gan y Llywodraethwr i'r Swyddfa Drefedigaethol. Ondymddeng- ys na wneir hyny yn nglyn a'r llysoedd milwrol. Mae rhan o'r wlad o dan Ddeddf Filwrol (Martial Law), ond ni adroddir gweithrediadau'r llysoedd mil- wrol i'r wlad hon. Yn awr, dyma bell- ebyr sydyn yn d'od i Arglwydd Elgin, yn hysbysu fod deuddeg o frodorion i gael eu dienyddio—dim ond pellebyr yn hysbysu'r ffaith, heb air o eglurhad o gwbl. Yn wyneb hyn, nis gallai Ar- glwydd Elgin, nac unryw Ysgrifenydd Gwladol arall, wneyd ond yr hyn a wnaed, sef gofyn am ohirio'r dienyddio nes cael rhagor o wybodaeth ar y mater. Yr oedd hyn yn berffaith iawn. Ond pa fodd y gellir cyfiawnhau'r sel derfynol a roddwyd ar y ddedfryd ? Atebiad y Llywodraeth ydyw fod y llys a'u condemniodd wedi ei gario yn mlaen ar yr un llinellau a Llys Gwladol, ac fod y Llywodraethwr wedi chwilio'n fanwl i achos, a'r dystiolaeth yn erbyn, pob un yn bersonol, ac nad oedd rhithyn o am- heuaeth yn meddwl neb o berthynas i euogrwydd bob un. Ac felly, rhaid oedd gadael i bethau gymeryd eu cwrs priodol. Ond er fod hyn yn berffaith glir, nid yw'r wlad na'r Senedd yn gallu edrych yn hapus ar ddylanwad a gwasanaeth Deddf Filwrol yn Ne Affrica. Mae rhagfarn mawr yno yn erbyn y brodorion, a'r syniad fod y dynion duon a melynion i fod yn ddarostyngedig i'r dyn gwyn. Mor hir y mae hwn yn marw allan, onide ? Datganodd Prif Lys yr Amerig flynyddau lawer yn ol—" Nad oedd y Negroaid yn ddynion yn ystyr gyffredin y gair." Ond mae Haw drom Amser a syniad cyhoeddus byd goleuedig wedi dadymchwel y syniad barbaraidd ac Anghristionogol hwn. Ond, ysywaeth, y mae rhyw gymaint o'i gysgod yn aros mewn culni a rhagfarn. Ac fel yr aw- gryma un papur dyddiol, nis gall neb ddyweyd yn sicr a phendant fod y deu- ddeg hyn wedi cael prawf teg a hollol di- ragfarn. Dyma'r geiriau :—"No one in the Colony or at home would be prepared honourably toguarantee that each of these individual men had had a fair and un- biassed trial and could be certified, with all the unchallenged guarantees of English justice, to be guilty of murder." Modd bynag, rhaid i'r Llywodraeth gadw ei llygad yn fanwl ar bethau fel hyn, a gofalu fod y brodorion yn cael eu hawl- iau mor glir a diragfarn a'r dyn gwyn ei hunan. Teimlwn yn ddiolchgar iawn am fod y miri wedi chwythu heibio mor esmwyth ag y gwnaeth o dan yr am- gylchiadau. Gallasai'r Toriaid gyda'u hannoethineb sur ac iselwael chwythu gwynt ar y tan nes gosod De Affrica yn goelcerth ysol. Gwnaed y Rhyddfryd- wyr ymgais i osod De Affrica ar sylfaen iawn, a bydd bendith y Nef, ni a gredwn, ar eu llafur.

§o§ — Crist Ein Pasc Ni."

Nodion Golygyddol.

Brymbo.

Y Mynydd Tanllyd.

- Addewid y Prifweinidog.

Nodion Golygyddol.