Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Y BARDD. 1

News
Cite
Share

Y BARDD. LLITH XXIV. Nid oes dim sydd yn dwyn y bardd proffes- edig dan dynach prawf nag ymgais desgrifio tyner linellau prydferthwch, nen gyflwyno mewn ymadroddion llwyddianus, syml, a melusion ymwybiaethau serchiadol y mae yr ymddangosiadau mor weladwy, ac eto mor anhawdd eu darganfod yn eu lie a'u natur- iaeth-yn rhywbeth sydd yn diflanu wrth chwilio am dano mewn rhanau gwahanedig, fel mai yr vsbrydoledig mewn gwirionedd, a'r hwn a gynysgaethir gan Natnr, yn unig a all ddethol geiriau a'u bywhau i'r gorchwyl. Nid rhyfedd fod Emerson, wrth gydgrynhoi holl feddyliau a theimladau y galon yn euhangerdd a'u gogoniant ysblenydd i un ymdeimlad mawrfrydig, yn cyffesu nad yw Homer na Shakespeare yn feirdd o gwbl Y maent hwy yn feirdd Uwyddianus ond y mae cy- nifer o ymwybiaethau dyfnion ac aflafaradwy yn ein natur fel mai ysmala yw yr ymadrodd hapusaf i'w rhoi allan. Dyna swyddogaeth y bardd—ei waith apwyntiedig-traethu, awgrymu, deffroi ein hymwybiaethau mwyaf cyfoethog,-coffa ein mynudau mwyaf anwyl, yn ogystal a'n hadegau mwyaf prudd a gofid- us, a'u gwneyd mewn dychymyg hyfryd i ail- fyw ac ail-fwynliau ein hyfrydwch, ac ail- dristau yn mhlith ein trallodion ond y mae llwyddo yn yr alwedigaeth. euraidd hon yn anhawdd i bawb ond y gwir fardd. Nid pob odlwr cyffredin a all chwareu ar gyfrin danau y teimlad nid pob cynghaneddwr peirianol a fedr wneyd y galon i ymhyfrydu a thristau uwch ei hadgofion. Y mae megys craig gallestr yn ngwyneb apeliadau anneheuig ac ysmala geiriadaeth drefnedig ond y terfysg, y eyffro, y bywiogrwydd meddyliol sydd yn dilyn un gair, un awgrym o eiddo y natur- fardd Mewn eiliad, bydd un ymadrodd gwynfydedig yn peri i ymwybyddiaethau ac adgofion i groni ac ymgynull gerbron golygon yr enaid, a syrth yr awdwr a fu yn gynyrch- ydd iddynt i annghof am ysbaid ychydig am- ser. Teimlir ar adegau o'r fath awyddfryd cryf i farddoni-y mae rhyw hwyl ddedwydd yn gorlifo y galon ond yn union yr eir i osod hyny mewn geiriau, y mae pob gair yn cynyg ei wasanaeth i'r hyn nad yw yn gymhwys a galluog. Diswyddir nifer o eiriau ar daraw- iad, y rhai a gynygient eu gwasanaeth, a thrallodir yr awen na buasai llafar effeithiol- ach na gair. Yn hyn y daw y gwir fardd i'r golwg gwna'r defnydd effeithiolaf o eiriau, a medr, trwy ryw gyfrin-ddetholiad o ychydig ohonynt, wneyd cyfran fawr o'i feddwl a'i deimlad yn hysbys. Y mae ei lwyddiant yn ddyledus i'w allu i daflu gwawr oleu ar y meddwl, nes ei wneyd i ddarllen cymaint rhwng y geiriau. Bydd ei ymadrodd yn gar- tref i syniadau amrywiol, neu fangre gyfleus i olygfeydd ysbrydol; y mae megys gweddill- ion perthynasau agos yn coffa cynifer o beth- au. Y mae cyfarfod a'r gair rhyfedd hwn fel ymweled ag ysmotyn dyddorol, yn ddiffael gynyrchu yr un ymdeimladau boddhaus. Y mae y gair yn y Geiriadur-y mae mewn myrdd o frawddegau, ond yn hollol ddiegni; ond y mae y bardd wedi ei osod mor chwithig -wedi ei gydgysylltu mor ffodus, fel y mae yn gyfaredd nerthol. Ceir yr athrylithgar yn llawn o ymadroddion hudol o'r fath, a cheir Uuaws o ffug-ymhonwyr yn hollol amddifad ohonynt; ymhelaethant yn drymaidd ac an- nyddorus, gan bentyru a chrugio geiriau yn boenus Cyn ymadael a'r pwnc fu dan sylw genym yn ein llithiau diweddaf, estynwn ein sylwad- au ychydig yn mhellach, gan ein bod yn an- foddlon alltudio ein hunain o deyrnas y teimladau tyner a'i thywyniadau heulog, a dynoethi ein henaid i oerllydrwydd cynyrch- ion yr Awen Gymreig. Rhoddwn enghreifft- iau i gyfeiriad ein sylwadau uchod, a chaiff ein darllenydd sydd yn ieddianol ar feddyl- garwch chwaethus oleu eglurach ar yr hyn y golygwn eu dangos. Bydd y tri dyfyniad yn ddesgrifiadol o'r ffurf fenywaidd, yn nghyd a'n deongliad ni arnynt. Dyfynwn yn gyntaf o Eben Fardd. Ystyrir ef yn un o benaf feirdd y Cymry. Y mae ei allu i daesgrifio ynfynych uwchlawy cyffredin. Yn ddiau, y mae ei ddawn fedrus i droi a gwyrdroi geiriau yn aruthrol Yr ydym wedi chwilio ei weithiau benbwygilydd am ei ddesgrifiadau serchiadol, a'u cael oil yn "clumsy and pedantic," ys dywed T. Ste- phens. Y mae a ganlyn o'r cyfansoddiad ysmala hwnw, Afaon, y Bardd Ieuanc o Balas Anian — Sefydlai'i serch ar fenyw brid, Yr hon a elwid Olwen; Ei gwedd oedd brydferth oil gan wrid, Fel lliwiad y flod-ddeilen, A'i swynol wen yn lleddfu llid,— Ni welwyd mwynach meinwen Un ddiwair ei thuedd, yn meddu callineb, Un. tybiai, a'i henaid yn ateb i'w hwyneb. Y mae annhynerwch y bardd yn amlwg yn y gair cyntaf-sefydlai. Y mae rhyw wres, rhyw dan, rhyw ffiam ysol, rhyw aflonyddwch yn y gair serch, fel y mae son am ei sefydlu yn rhy bwl a hurt i'w gymeradwyo. Y mae oerllydrwydd y bardd yn amlwg yn ei air cyntaf. Gellid dwyn gerbron ddeg o eiriau llawer cymhwysach. Ei gwedd oedd brydferth oil gan wrid. Oil gan wrid Hyny yw, y mae ei hwyneb oil yn wrid Nid yn unig y mae ei grudd- iau, ond y mae ei thalcen, ei haeliau, a chyfanedd ei gwedd yn wridgoch More white or red than doves or roses are, medd y portreadydd deheuig. Ond dyma ddynes a'i hwyneb yn un darn annaturiol o wridgochni Eel lliwiad y flod-ddeilen. Oil yn wrid fel llywiad blod-ddeilen, bydded hi o unrhyw liw bynag Yn wrid, yr oil fel lliwiad y flod-ddeilen felen Y mae digon o'r Uiw i'w gael. Y mae Ei swynol wen yn lleddfu llid yn rhagori, feallai, ar yr oil o'r penill. Buasa I yr hit yn effeithiolach o ddweyd fod ei gwen I yn aflonyddu ar galonau, ac yn llawer mwy 1 serchiadol. Ond beth a ddywedir am Un ddiwair ei thuedd, yn meddu callineb, Un, tybiai, a'i henaid yn atcb i'w hwyneb. Y mae tybio yn air rhy gyffredin a sathredig i olygu y ffydd serchiadol. Os oedd ei serch ami o gwbl, credai yn ddiysgog. Nid oes an- ffyddiaeth mewn serch-yn hytrach, hygoel- iaeth. Ond os oedd ei henaid mor anolygus a'i hwyneb oll-wridog, yr oedd drych arno. Ond pa fodd y gellir dysgwyl desgrifiadau delicate gan fardd yn ymhel a chariad yn y dull clogyrnog ac angenfilaidd a ganlyn Y gwarch glawcld goruwch y glyn—o cura Cariad yn ei erbyn Wele teifl ei eiliad tyn Acw ar ogwydd, bob crugyn. Y mae'r oil yn ysmala, a'r ddwy linell olaf yn anesboniadwy. Mor ysblenydd y desgrifia Shakespeare Lucretia, fel yr ymddangosai i olygon halog Tarquinius Her lily hand her rosy cheek lies under, Cozening the pillow of a lawful kiss, Who, therefore, angry, seems to part asunder, Swelling on either side to want bis bliss Between whose hills her head entombed is; Where like a virtuous monument she lies, To be admired of lewd, unhallow'd eyes. Without the bed her other fair hand was, On the green coverlet; whose perfect white Show'd like an April daisy on the grass, With pearly sweat resembling dew of night; Her eyes, like marigold, had sheath'd their light, And canopied in darkness, sweetly lay Till they might open to adorn the day. The Rape of L ucrcce. Nid yn unig y mae y portread yn ogoneddus, ond y mae pob ymadrodd yn llawn awgrym- iadau-y mae y meddwl yn canfod cymaint rhwng y geiriau. Y mae y llaw wenliw o dan y rudd wridgoch" yn gysylltiad mor hapus am awgrymiadau, fel ag yr ymddengys y ffurf gerbron y darllenydd mewn amlyg- rwydd. Y mae "cozening the pillow of a lawful kiss," &c., yn dwyn i'r golwg holl am- ( gylchoedd lledorweddiad yr arwres orenwog ac fel yr awgrymir harddwch a dysgleirdeb dau lygad amgauedig ag oedd wrth ymagor i addurno'r dydd Fe sylwa ein darllenydd hefyd fod triniaeth y lliwiau yn fedrus a chywir. Cymharer" rosy cheek a gwedd yn brydferth oll gan wrid." Ond gadawn hyd y nod Shakespeare i sylwi ar ddesgrifiad Propertius o'i gariad, yr hwn sydd yn ymddangos i ni yn un o'r darnau mwyaf prydferth ar gyfrif portread cywrain a delicate, a'r ymwybyddiaethau serchiadol sydd yn wasgaredig drwyddo. Dywed Boileau fod yn rhaid i fardd y teimladau tyner fod yn garwr a chyffesa Propertius yn y cychwyn mai yn herwydd ei deimlad dolurus, yn fwy na'i athrylith, y trodd efe i farddoni. Cynthia yw enw'r fun. Hi fu dechreu ei ddolur, ac yn debyg o fod yn derfyn iddo, oblegyd yr oedd yn teimlo y byddai raid iddo farw dan drais ei arglwyddes ddidrugaredd. Yr oedd iddi wallt melynwawr, dwylaw hirion glan- deg, ac yn "rnaxirna toto corpore "—yn fawr yn mhob rhan ac aelod. Tebyg ei bod yn ddynes o daldra a rhodiad gogoneddus ac urddasol. Yr oedd ein bardd wedi pender- fynu byw yn weddw, a chadw ei galon o fewn oerllydrwydd annghariad ond pan gyfarfu a. Cynthia, toddodd ei holl benderfyniadau, ac aeth ei fynwes yn un danllwyth cyneuedig Dan deimladau poenus, y rhai sydd drwy y llinellau, yn dirgrynu, yn gyffrous, y mae ei anniddigrwydd yn tori allan yn y llinell hono -Paham y rhoddid gwyneb benyw i aflon- yddu daear Duw ? Mewn gwirionedd, y mae wedi dymchwelyd holl gyfundraeth serchiadol y bardd. Y mae yn ei ddirdynu a'i ddirdroi yn greulon. Y mae yn methu deall fod gormeswr a threisiwr mor ddigydymdeimlad yn cael rhodio yn rhydd ar hyd heolydd y ddinas. Gwynach yw na'r lili, ac y mae lliw ei grudd fel y wawr a dafla dalen rhosyn ar wynlaeth pur. Ei dau lygad-dyna ei ser- yddiaeth ef Myfyrio eu tywyniadau a'u cylchdroadau yw ei holl hyfrydwch a'i drueni! Y cyfnewid lleiaf ynddynt yn dylanwadu yn boenus ar dywydd ei galon i beri ystormydd dinystriol! Rhyw ail Helen yw hi; ac os bu harddwch hono yn achos rhyfel gwaedlyd rhwng dau gyfandir, ni synai efe glywed fod rhyw ymrafael pwysig i gymeryd lie yn her- wydd glendid Cynthia Ac os oedd rhywun am flaenu ar Zeuxis, Apelles, a Parrhasius mewn arluniaeth, am iddo dynu llun Cynthia. A pha le bynag yr elo-i ororau y dwyrain neu'r gorllewin—y mae yn sicr o wneyd pob man lie yr elo yn serch dan gwynias. Ni welai efe ddim arall yn achos priodol ymryson ond Cynthia! Dyna grynhoad o ddernyn ] gwir farddonol a phrydferth. 1

Helyntion Americanaidd.

Ymgom rhyngwyf a Modryb Catws…

BRITON FERRY.

GLYNCORWG.

LLANSAMLET.

SCIWEN.

LLANSADWRN.