Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
TEMPERANCE HALL, ABERDARE. FRIDAY, December 26th, 1879. TWO GRAND PERFORMANCES In Welsh and English) of Dr. Parry's Welsh Opera HLODWEN IN CHAISAOTEE Will be given as stated above. ARTISTES: BLODWEN-LLINOS RHONDDA. IIADT MABLOE—Miss MARY S. JONES, R A.M. ELLEN-Miss H. L. HARRIS SYR HYWEL DDU-MR.- T. EVANS, U.C.W. ARTHUR-MR. B. THOMAS. IOLO (Bard)-L LEW L L W Y F 0. MONK-MR. E. JONES. RHYS GWYN-Mu. WM. EVANS. MESSENGERS—MESSRS. W. THOMAS, D. PHILLIPS, & J. JOHN. CnoRus-ABERDARE CHORAL UNION. Conductor-MB. REES EVANS. Accompanists—Messrs. A. N. JAMES, Professor of Music, & R. HOWELLS. ORCHESTRA— SWANSEA & ABERDARE STRING BANDS Under the leadership of Profetsor COOKE. Morning Performance (Welsh) at 2 30 p.m. Even- ing Performance (English) at 7. p.m. For further particulars! see Small Bills Js Programmes 2194 HYSBYSIAD. DYDDED HYSBYS I BAWB na fyddaf fi, ENOCH EVANS, yn gyfrifol am ddim a roddir ar goel i ESTHER (fy ngwraig) na neb ar ol heddyw. y 15fed o Ragfvr, 1879. 2204. ENOCH EVANS. 26, Bwllfa-road, Cwmdar, Aberdar. Town Hall, Castellnedd. CYNELIR Y BEDWEREDD EISTEDDFOD FLYN lfDDOL yn y lie uchod, DYDD Off ESEll Y GROGLITH, 1880. PRIF DDARN CORA WL Molwch yr Arglwydd" (J. Thomas, Llan- wrtyd); gwobr, £12. Ceir manylion ereill, yn nghyd ag enwau y Beirniaid, mewn rhifynau dyfodol. EVAN WILLIAMS, Bookseller, 2203 Neath, CYDQASTAU JSTEWYDDION I DDAU DENOR A DAU FASS. L-CYDGAN Y MEDELWYR. 2.—CYDGAN Y CHWARELWYR. 3.— RHYFELGAN DDIRWESTOL. Solffa, 2g. yr un; Hen Nodiant, 40. yr un. Pob archebion, gyda'r blaendal, i'w danfon at yr awdwr,- D. JENKINS, Mus. Bac., ABERYSTWYTH. 2202
BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. Dylid anfon copïau hysbysiadau a fycldant am gael eu neivid i ni erbyn dydd Sadwrn o bellaf, yn gymaint a'n bod yn gorfod myned i'r wasg leaver yn ngynt nag oeddem. Yr wythnos hon, daeth rhyw wmbredd o ysgrifau dyddorol i law sydd yn rhy luosog i gael cy- hoeddusrwydd. Bydded i'r awdwyr fod mor amyneddgar ag y gallont, caiff eu cynyrchion ymddangos can gynted ag y mae'n bo.dbL
"Y CYMRY A'R IAITH GYMRAEG."
"Y CYMRY A'R IAITH GYMRAEG." Y PENIAD uchod yw testyn erthygl rhyw "was y gwcw" i Mr. SIIAW, a eilw ei hun yn NEATHIENSIS, yn y Western Mail am y pedwerydd o'r mis presenol. Dech- reua y cat's paw hwn drwy ddywed- yd:—"Facts are stubborn things, and the arguments urged by the advocates of the Welsh language have not depreciat- ed in the slightest degree the solid truths brought forward by Mr. SHAW." Nid oes fodd fod y NEATHIENSIS hwn, Mr. SHAW, na Mr. PROOF, yn credu yn ddi- ysgog fod y pethau a ddywedant am danom ni a'n hiaith yn wirionedd; neu os ydynt, y maent yn llafurio o dan y monomania mwyaf camsyniol ag a y1^" aflodd yn nychyinyg dyn erioed. G-ad- ewch i ni gael gweled beth yw y "sorid truthsy mae Mr. SHAW wedi eu cy- hoeddi am danom. Wel, dyma hwy- nad yw cenedl y Cymry wedi codi un dyn gwir fawr yn y ganrif hon—nas gall y Cymry siarad iaith eu hunain yn ramadegol a chywir-nad ydynt yn caru llenyddiaeth, ac mai hwynt-hwy yw y genedl worst educated in Europe Dyna solid, truths" NEATHIENSIS Yn awr, mae y camgyhuddiadau enllibgar hyn wedi cael eu gwrthbrofi lawer o weithiau trosodd, a hyny drwy y rhesymau mwyaf argyhoeddiadol a di-droi-yn-ol, seflfeith- iau. Y mae y Uythyrau eglur a galluog ag sydd wedi ymddangos yn y Western Mail o bryd i bryd ar y pwnc, yn nghyd a'r ymdriniaeth lwyr a tiysbyddol a fu arno yn Nghynghorfa Abertawe, yn rhwym o fod yn ddigon i argyhoeddi pob dyn ag sydd yn berchen ar ronyn o syn- wyr cyffredin nad yw y camgyhuddiadau bryntion uchod yn truths o gwbl, chwaethach bod yn solid truths." Y mae yn syndod meddwl fod y tri cablwr uchod yn gallu magu yr haerllug- 0 rwydd a'r preswynebedd i ddyfalbarhau yn eu camgyhuddiadau, pa rai sydd drwy t, y resymau mor gedyrn, wedi cael eu profi yn gelwyddau noethion. Nid oes un cyfrif i'w roddi am hyn, ond yn unig fod y sawl ag sydd yn eu maentumio yn rhwym o fod wedi eu hamgaesu (incasedj mewn rhagfarn, eu pwdlo mewn anwir- edd, eu caregeiddio (petrified) gan ddy- gasedd, a'u cythreuleiddio gan genfigen a malais, ac yn rhai hollol amddifad o bob syniad moesol (moral sense). Os yw y pethau a haerant yn wirioneddau, paham na ddangosant hyny drwy ffeith- iau ? Paham na ddeuant at, ac na safant wrth faen-prawf ystadegaeth ? 0 Medd ein sophist anwyl yn mhellach —" If the Welsh are as well educated .as the English-as they would have us believe, why do their leaders clamour university advantages ? They say they do not possess the educational opportu- nities of the English, and yet they con- tend that they possess equal knowledge. If, under such disadvantages, they con- trive to be on an equality, what will be the limit of their progress when the opportunities asked for are granted?" Nid yw ein "clamour for university ad- vantages," a'n diffyg o educational op- portunities yn profi dim ein bod yn anwybodusach na rhyw genedl arall, Ilawer llai mai ein cenedl ni yw y worst educated in Europe." Y mae yn mysg- cenedl y Cymry heddyw, yn ol ei rhif, gymaint o ddynion mawr a dysgedig ag 'D I zn zn sydd gan unrhyw genedl yn y byd ac nid ydym yn ceisio cyfleusderau yr higher education y sonir cymaint am dani, oblegyd ein bod yn llwyr amddifad o ddynion yn ei meddu, eithr ein bod am ei chael ar yr un telerau a'n cydgenedl- oedd yr Ysgotiaid, y Gwyddelod, a'r Saeson. Nid heb y ddysgeidiaeth yn llwyr y mae Cymru, eithr heb y cyfleusderau, y manteision, a'r breintiau, y mae ereill yn eu cael i'w chyrhaedd. Paham y gwrthodir gwaddol oddiwrth y Llywodr- aeth tuag at addysg y Cymry, yn fwy na thuag at addysg yr Ysgotyn, y Sais, a'r Z' Z:) Gwyddel ? Y mae dysg a gwybodaeth, moes a rhinwedd, yn Nghymru ddigon, ond yr ydym yn gorfod eu maentumio yn gwbl o'n llogellau ein hunain; ac am gynorthwy i ddwyn ein beichiau hyn y mae ein clamour," ac nid am y material sydd yn gwneyd y baich i fyny. Grwydd- z' om nad oes sefydliad yn Nghymru eto, er cyfranu yr higher education; ond na thybier nad oes neb yn Nghymru yn ei meddu oblegyd hyny—nid oes dim mawr, da, a nodedig, yn cael ei ddwyn yn mlaen yn un gwlad nad yw y Cymro, drwy ryw fodd neu gilydd, yn rnynu bod yn gyfranog, ohono. ZD Perthyn i ba ryw radd o ddysgeidiaeth y mae hono ag y mae axhrawon ein colegau a'n hathrofeydd yn ei meddu ? Beth am ddysgeidiaeth y rhai hyny hefyd ag sydd yn llenwi ein pwlpudau Eglwys- ig ? Beth hefyd am addysg uchel Ilawer iawn o'r pendefigion Cymreig ? Nonsense! Y mae addysg a gwybodaeth yn Nghymru, y tn. ond ein bod yn gorfod goddef yr an- nghyjleimler o fyned dros ein terfynau i'w hymofyn, a hyny yn gwbl ar ein traul ein hunain. A ydym ni i gredu fod NEATHIENSIS heb ddim dwfr yr. ei dy, oblegyd nad oes un ffynon yn tarddu ar lawr y parth ? Nid yw cyfleusder o train i'w gael i fyned o bob man i Gaerdydd; ond nid yw hyny yn un rheswm i gredu nad ydyw preswylwyr y lleoedd hyny yn myned weithiau i Gaerdydd-mi warantaf eu bod yn myned naill ai ar droed neu ar farch, neu mewn cerbyd, tuag yno, pan byddo'r fusnes yn galw; felly, Cymru, er ei bod heb y cyfleusderau y soniwyd am danynt i gael addysg, nid ydym i gredu oblegyd hyny, na wyr y byd am dani. Mewn gwirionedd, y Cymry yw y genedl fwyaf heddychol ei hysbryd, fwyaf gynes ei theimlad, fwyaf oleuedig ei syniad, a mwyaf pur ei gwareiddiad, o holl genedl- oedd Ewrop a'r byd. Mae yn wir nad oes niferi mawrion ohoni wedi cyrhaedd y peth a elwir yn higher education; ond nid yw yn y peth hwn ond yr un peth yn gymhwys a phob gwlad arall. Nid oes ond ychydig mewn unrhyw wlad wedi dringo cangenau uwchaf pren gwybod- aeth, ac nis gall ond ychydig wneuthur hyny ychwaith, faint bynag fyddo y cyfleusderau a geir i'r pwrpas hyny. Nid yw ond breudclwyd gwag i ni gredu, os gwnawn ond dysgu a meistroli yr iaith Saesonaeg, a chael holl gyfleusderau a f manteision yr higher education, y byddwn ni oil yn freninoedd ac yn offeiriaid neu os byddwn, byddwn yn wahanol iawn i'r peth yw yr Ysgotiaid a'r Gwyddelod, yr wyf yn siwr. Y maent hwy, er cymaint y bostir eu bod yn cael eu cydnabod drwy yr holl fyd, fel rhai clever, straightfor- ward, and persevering,1' heb adael cario eu paciau, na rhoddi i fyny y rag and bone trade hyd eto. Pa bryd y gwna addysg- uwchafol a Seisnigeiddiwch ffodus yr Ysgotyn ei gadw yn ei wlad ei hun i fyw arnynt, yn lie dyfod fel heicliau o locust- iaid drosodd i Gymru i ddifa cynyreh ei thir, a myned ar bwyd o benau ei brodor- ion ? Paham na byddai pryf difaol hyn yn trigo yn nghartref, a byw o dan gysgod yr iaith sydd i fod yn universal yn lie dyfod drosodd i Gymru i ddangos eu hanghysondeb, drwy ddiraddio y genedl, ei hiaith, a'i llenyddiaeth, ac ar yr un pryd, yn methu a byw heb gael eu help ? *Yn lie gofyn fel ag y gwna NEATHIENSIS, beth a ddaethai o'r Cymry, oni buasai i'r Saeson, yr Ysgotiaid, a r Gwyddelod i ddyfod i'w plith, byddai yn briodolach gofyn beth a ddaethai o lawer 0 ysgoegynod o'r eiddynt hwy, oni buasai iddynt allu bod mor ffodus a chael lie ar ddaear Cymry i osod eu traed Sepsiwn- aidd ar lawr, ac i wan eu cegau crychydd- 01 i'n mwngloddiau ? Nid oes ar y Cymry ddim o'u heisieu. Yr oedd gan y Cymry eu gweithfeydd tin, &c., cyn fod na Sais, Ysgotyn, na Gwyddel, wedi croesi un o derfynau eu gwlad erioed. Gwyddent beth oedd gweithio delidau, a'u troi yn arfau ac offerynau o bob math, cyn i Iwi, CiESAR ymweled a'n glanau erioed. A beth oedd trafnidio a'r Portugiaid mewn tin a delidau ereill, y pryd nas gwyddai yr Ysgotyn am ddim gwell i'w wneuthur na chwyrnu yn ei "pibroch" oddeutu'r heolydd; a cheir rhai o'r urddasolion hyn o gylch ein heolydcl y dydd heddyw. Er cywilydd i'r iaith Saesonaeg yr wyf yn dywedyd hyn. Grresyn na byddai y "thrice mightiers" bob copa walltog ohonynt yn mhell uwchlaw amgylchiad- au fel hyn-y sensible people" yn byw fel hyn A oes posibi ? Yr oedd genym ni ein gweithfeydd haiarn a glo wedi cael eu hagor gan Gymry cyn i'r estroniaid presenol erioed weled ein gwlad. Os nad yw y Cymry yn fwy defnyddiol, medrus, a chymeradwy, ag na Gwyddel nac Ys- gotyn, paham y gelwir am danynt wrth y miloedd i Stockton-on-Tees, Darling- ton, &c., i reoli a gweithio eu gweith- feydd glo a haiarn ? G\vyr Ewrop a'r byd nad oes mo debyg y Cymro am ddiwydrwydd, medr, ymroad, a dyfal- barhad—onestrwydd, a phurdeb cymer- iad.
TAITH 0 LUNDAIN I FFRAINC.
TAITH 0 LUNDAIN I FFRAINC. GAN LLWYDWEDD, LLUNDAIN. YR oedd Napoleon 1. feddyliwn i, dipyn yn amheus a fuasai ei gydwladwyr,ar ol ei farwol- aeth, j'n'parchujei gofFadwriaeth acryn mawrygu ei fuddogoliaethau mewn modd a fyddai yn unol 1.i ewyllys. Efallai, hefyd, eifodi raddau yn teimlo yn ymwybodol o'i annheilyngdod fel llywodraethwr, ac o;annghyfiawnder"ac ysgeler. derau ei frwydrau, ac y byddai i £ geaedlaethau y dyfodol pan y deuent i ddarllen hanes ei fywyd a'i weithredoedd yn bwyllog ac yn ystyriol, farnu ei fod ef a'i fuddugoliaethau yn fwy haeddianol o'u melldithion nag o'u parch a'u hedmygedd. Ac felly, yn hytrach nag ym- ddiried ei goffadwriaeth i drugaredd yr 61- genedlaethau, yn y gobaith y byddai iddynt ei fawrygu yn ddyladwy, barnodd hwyrach nas gallasai wneyd dim yn well nag achub yr adeg, a bloeddio ei udgorn ei hun. Gan nad beth am hyny, hyn sydd sicr—ddarfod i Napoleon pan yn anterth ei awdurdod, ei boblogrwydd, a'i ogoniant, wneyd ei oreu i godi cofadeiladau iddo ei hun yn Paris. Adeiladodd bont ardderchog yn groes i'r Seine er coffadwriaeth am ei fudd- ugoliaeth ar y Prwsiaid yn Mrwydr Jena. Pan oedd Eglwys y Madeleine yn cael ei hadeiladu, rhoddodcl orchymyn ar i'r adeilad gael ei gwbl- hau yn ddioedi, er ei gysegru 'yn Demi Gogon- iant iddo ef a'i fyddin fuddugoliaethus Yn y Place du Vend6me adeiladodd golofn ardderchog, a gosododd gerflnn ohono ei hun ar ei phen. Gorchuddiodd y golofn hon, o'i bonsang i'w chopa, a metel 1,200 o fagnelau a gymerasai oddiar ei elynion yn ystod cad-dymor y flwydd- yn 1805, ac addurnodd hi o ben-bwy-gilydd a bas-reliefs, yn darlunio ei helyntion milwrol yn ystod y flwyddyn hono. Y mae yn gofus hwyrach gan y darllenydd i'r golofn hon gael ei thynu i lawr yn garnedd gan y Communistiaid wyth mlynedd yn ol. Y mae yn awr wedi ei hail-adeiladu. Dechreuodd adeiladu Bwiiau Gorfoleddol gogoneddus er coffadwriacth am ei brif frwydrau, ac, fel y crybwyllais mewn llythyr blaenorol, y mae dau ohonynt wedi eu cwblhau, sef yr Arc de Triomplie a'r Arc du Carrousel. Ond nid oedd achos iddo drafferthu yn y byd, oblegyd yr oedd La Belle France yn feddw ddall gan wfig-ogoaianfc' cenedlaethol oherwydd ei fuddugoliaethau milwrol. Nid yw wedi sobri yn iawn eto, ac oddiar amser ei deyrnasiad hyd yn awr nid yw wedi ystyried dim yn ormod i'w wneyd er anrhydeddu coffa- dwriaeth a buddugoliaethau ei Le Petit Cor- poral." Rhaid cydnabod fod Bonaparte yn meddu ar athrylith jfilwrol o radd uchel; ond, ysywaeth, ar ol talu y deymged yma iddo, y mae yn anmhosibl lai na'i ystyried yn un o'r dynion gwaethaf a welodd y byd erioed. Ydoedd yn un o'r gelynion mwyaf i ryddid a gofnodir ar dudalenau hanesyddiaeth, ac nid eisteddodd ar I penach na chreulonach gormcswr ar orsedd I Ffrainc, na gorsedd unrhyw wlad arall, erioed nag efe. Rhoddodd atalfa hollol ar ymdaith _A gwareiddiad a Jlwyddiant yn Ewrop cyhyd ag y bu mewn awdnrdod, a gwnaeth ei eithaf i all- tudio rhyddid allan ohoni. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf amddifad o ddynoliaeth ag sydd genym hanes am dano. Bu yn foddion i hyrddio canoedd o filoedd o eneidiau i drag'wyddoldeb -ini(I er mwyn amddiffyn -ei wlad a'i hiawn- derau, nac er ei llesoli mewn modd yn y byd, eithr yn unig er porthi ei oruchelgais ef ei hun am ogoniaut milwrol! Eto, er anrhydeddu coffadwriaeth yr adyri annheihvn?, y gormeswr diail, a'rangenfil dicteimlad hwn, a llofiodd mewn gwaed dynol am gynifer o flynyddoedd, ac nad ymladdodd frwydr gyfiawn yn ei fyw erioed, y darfu i'w wlad, yn nilien blynyddoedd ar ol ei farwolaeth, fyned i'r draul a'r drafferth o gyrchu ei weddillion marwol o Ynys St. Helena i Ffrainc, a'u rhoddi i orphwya gyda rhwysg- fawredd digyifdyb vn yr Hotel de3 Invalides yn Paris, ac yno, o dan dome nchel a goreurawg yr adeilad mawr hwnw, y mae ei wlad wedi myned i'r gost anferfchol o wneyd beddrod iddo ag sydd, o ran gorwychder, yn taflu pob bedd- rod a chofadail a gafodd neb erioed, oddiar y cread hyd yn awr, yn mhell o'r golwg yn y cysgodion. Ysbytdy milwrol, tebyg i Ysbytdy Chelsea, yw yr Hotel des Invalides. Sefydlwyd ef gan Louis XIV., er sicrhau cartrefle cysurus i filwyr methedig. Y mae yn sefyll ar ochr aswy y Seine, a thua chwarter milldir oddiwrth Balas y Tuileries Y mae yn agos i gan' mil o bunau yn y flwyddyn o waddoliad yn perthyn i'r sef- ydliad. Y mae yn ddigon mawr i letya 6,000 o bobl; ond y mae'n debyg mai rhwng tair a phedair mil sydd ynddo yn bresenol. BAm heddyw'r boreu yn rhodiana drwy yr adeilad. Y mae yn cynwys crynodeb mawr a dyddorol o greiriau milwrol ag sydd yn werth eu gweled. Y mae yr eglwys yn un brydferth ia.wn, ac yn cynwys lluaws o fanerau miiwrol a gymerwyd yn y Crimea, Itali, China, a Mexico. Ond, wrth gwrs, y peth hynotaf yn yr Hotel des Invalides yw Beddrocl Napoleon, a hwn o ddigon yw y peth arddei'chocaf sydd i'w weled yn Paris. Wrth fyned i mewn iddo y mae dyn yn sefyll yn hurt ac yn syn gan odidogrwydd annrhaethadwy y lie. Ni ddileir yr argraff a wnaeth ei orwychder ar fy meddwl tra y bydd- wyf byw.' Ofer hollol fyddai ceisio rhoddi dar- luniad o'r lie, oblegyd y mae yn rhaid gweled Tomb Napoleon cyn y gellir ffurfio un math o feddylddrych am ei ardderchogrwydd.
NEWYDDION DIWEDDAR&F.
NEWYDDION DIWEDDAR&F. GYDA'B PELLEBYR. SWYDDFA'R "GWLADGARWR." Nos FA WRTH. ETHOLIAD SWYDD DONEGAL. Cyraerodd etholiad le yn swydd Donegal, Iwerddon, a chawn ar ddeall mai Rhyddfryd- iaeth sydd ar y blaen ynddo. Dim ond dan safodd-Rhyddfrydwr a Cheidwadwr. Yn canlyn, wele mynegiad y ooM ;— Mr. Lee (R.).2313 Mr. Me. Corkell (C.) 1G30 Mwyafrif i Lee o 683 ETHOLIAD SHEFFIELD. Y mae etholiad Sheffield wedi ei benodi i gymeryd lie dydd Llun nesaf. Derbyniwyd yr ysgrifwys (writ) boreu heddyw. Y mae dau ymgeisydd ar y maes, sef Mr. Waddy, Q.O. (Rhyddfrydwr) a Mr. Wortley (Ceid- wadwr).
Marwolaeth Disymwth Mr. T.…
Wi- Marwolaeth Disymwth Mr. T. J. Jones (Ap Oynonwyaon). Yr wythnos hon, y mae yn wir ofidus genym orfod cofnodi marwolaeth disymwth ein cyfaill Mr. Thomas John Jones, aef mab yr hen batri- arch fardd Cynonwyson, Aberdar, yr hyn gymer- odd le canol dydd dydd Mawrth. Ceir hanes manylach o farwolaeth ein cyfaill yn ein rhifyn nesaf.
Yr Ymgais at Fywyd Arglwydd…
Yr Ymgais at Fywyd Arglwydd Lytton. Hysbysir ni o Calcutta, dydd Gwener, fod y dyn a daniodd at Arglwydd Lytton yn Eurasian yn perthyn i deulu cyfrifol, ac wedi bod yn ngwabanaeth y Llywodraeth. Fel yr oedd y Rhaglaw yn gyru yn ei gerbyd dros Bont Hooghly, taniodd y dyn ato ddwywaith. Ni sylwyd ar yr ergydion ond'gan y Milwriad Colley, ysgrifenydd preifat,Arglwydd Lytton, yr hwn oedd yn y cerbyd nesaf i'r Rhaglaw. Darfu iddo ef a Cadben Rose neidio i lawr yn uniongyrchol, gan redeg ar ol y dyn, yr hwn oedd a revolver yn ei law, a thair o'r barilau yn llwythog. Wedi iddynt ymaflyd ynddo ni chynygiodd un gwrthwynebiad. Pan ddaliwyd ef yr oedd yn feddw.
Advertising
Rhyfel Rhyfel! Ehyfel! Yn erbyn prisoedd uchel! SHOP NEWYDD GAN RICHARD JONES, WATCH- TOP CANON-ST., ABERDAR, LLE gellir cael-Oriadurotl (Watches), Awr- leisiau (Cl-ocks), Drychwydrau (Spectacled), &c., &c., am y prisoedd iseiaf. Moarwyau Priodas hefyd beb amser mewn stJc. Dynsunwyf hefyd hysbysu y cyhoedd fy mod yn parijau fei arfer ar fy nghylchdeithiau drwy gymoedd Atte.da.r ar Rhondda. Di' lcliaf hefyd am barhad o'r gefnog- aeth ag y mae fy nhad a miuau wedi gaei tr's 65 o flynyddau. 2180 GAN ":rEIIdLAD SERCR;" VN Y DDAU NODIANT. Y geiriau Cym- x _raeg s an Wat,cyn \Vyn a'r ge riau Seising gan W. L. Gardner. Y gerddui-iaeth gan T, D. WiiliaKs (Eos Dyfiryn), R.A.M. Pris, Cc. Yr elw arferol i Ivfrwerthwyr. Tw cLae) gan yr awdwr:—1APuiross-road, Brixton, London, S.W. Bydd Eoa DiFPimJ yfi agored i dderbyn en- gagements i gann mewn cyngherddau, ac i feirniadu mewn Eisteddfodau. 2188 OERDDOEIAETE Oyhoeddedig gan D. L. JONES (Oynalaw), B R I TON FERRY. "NIOLWCH YK ARGbWYDD Anthem newydd, pris 4c., Sol ffa, 2g. Gan JOHN THOMAS (Blaenanerch), Llanwrtyd. Dywedai y diweddar leuan Gwyllt wythnos cj7n ei farwolaeth, Yr wyf yr mcddwl y dylech ddwyn allan yr anthem 'Mol- wch yr Arghvydd' ar unwaith. fel y galler ei chael i fewn i waith ein Cymanfaoedd Cerddorol y flwyddyn nesaf. "LLA.WENYDD Y GWANWYN:" Rhan- gùn i T. T. B. B Pris 4c., Sol-ffa, 2g. Gan Proff. W. A. WILLIAMS (Gwilym Gwent), America. Y i mae y aeniyn newydd hwn yn un rhagorol iawn at wasanaeth Cyngherddau ac Eisteddfodau. "Y CYMRO DEWM C;tn wladgarol i lais baritone, o gwmpas hawdd. Yn y ddau nodiant, pris 6c. Gan JAMES PETERS (Afan Alaw). "DEWRION FILWYR. IESUTdn i gfirau plant. Yn y Sol-ffa, pris 19. Gan JAMES PETERS (Afan Alaw); y farddoniaeth gan CYNALAW, CYMRU, GWLAD EIN TADAU Can a Chydgan. Yn y ddau nodiant, pris Gc. Gan D. L. JONES (Cynalaw) gyda geiiian Cyjnraeg a Saesonaeg gan CKETDIOL. Devbynia y gzln hon ganmoliaeth nchaf ein prif gerddorion. "HEN WALIA, GWLAD Y GAN Cfm a Chydgan, p is 4c. (Jan D. L. JOXES (Cynalaw); y farddoniaeth gan D. JOKEPHUS DAVIES. Dy- wedai un banid-gerddor am hon, Pa le bynag y clywaf ei ohariu, mae yn swyno fynghalon yn lan." GWAED PUR CROEN IACH! NERVES CADAEN Y rhai a sicrheir trwy gymeryd y Feddyginiaeth fwyaf hvyddianu3 yr oes at BURO A CHRYFHAU Y GWAED, sef- Li (itBsca-xs'x'Es.inis.) il, W Yw'r achos o'r Scurvy, Clefyd y Brenin rcur Manwyniau, Biast, Piles, Gwynegon. Penddynod Cornwydon, Hen Glwyfau, a. phob Tarddiant ar y Cnawd, Chwydcl y Glands, Inflammation y Llygaid, Stitches yr Ochrau, Poen Pen, Diffvg Traul, Danodd, Spleen neu Rheums, Gout, Fits, Clefyd Melyc, Nerves Egwan, a llawer o'r Clefydau Benywaidd. Hen Ddystemper, etc. Y mae y Pills Effeithiol hyn yn DADWIiEIDDIO pcm AFIECHYD O'R GWAED Y mae yn deihvng o sylw fod y Pills Hynod hyn yn cryfhau ac nid yn [/vxmJiau y Gwaed, oblegyd eu bod yn cynwys yr essence, neu'r rhan weithredol o'r Llysiau mwyaf effeithiol a welodd byd tuag at BURO A CIIRYFAU Y GWAED, a thrwy hyny yn dwyn yr Afu, y Cylla, y Galon, yr Arenau, y Ch-oen, y Nerves, a'r Ymenydd i'w naturiol a pherffaith weithrediad. Y maent yn safe ac yn hawdd eu cymeryd, ac nid oes eisieu cadw mewn yn yr an,ser. Pan bydd y Clefyd o hir barhad, dilvner arnynt am beth amser. TYSTIOLAETH BWYSIG. SYR,—Gyda diolch yr wyf yn eich hysbysu o'r gwellhad gwyrthiol a wnaeth eich Pills, sef Hughes Patent Blood Pills i mi. Yr oeddv a wedi bod mewn blinder mawr gan Darddiant drcs yr holl gnawd, ac wedi cymeryd llawer o foddica Doctor am flwyddyn a chwaneg, eto dim lies, hycl i mi gael eich Pills chwi, y rhai yn bur fuan am gwellhasant. Yn awr, yr wyf yn holl iach. Mi allaf hefyd dystio eu bod yn anffaeledig rhag y Lumbago. Hefyd, yr wyf yn brofiadol eu bodyn dda neiilduolrhag y Gwynegon. Yr wyf yn anfon hyn er budd y cyhoedd. WM. JAKES. 4, Pontypridd Road, Ferndale. Llawer ereill y gellir eu dodi yma wedi eu llwyr welihau oddiwrth Fits, Inflammation y LIygaid, Rheumatism, Blast, Piles, Hen Glwyfau, Diffyg Traul, &c., &c. RHYBUDD.—Mae llwyddiant y Peiem hyn wedi achosi llawer i'w dynwared, feily go i tr cael y "Trade Mark" uchod (sef llun Ctn n) ar bob blwch, a'r geiriau Blood Pills oddii wn a'r enw Jacob Hughes ar stamp y Llywodraeth; heb hyn twyll ydyw. THADEMABK "BLOOD PILLS." Cosbir •■!) ffu^iad. Ar werth d/wy yr noil ae^-t >-■ ■ Is. iff., 28.. 9c., 4s. 6c. Gpda'?' JXilir ù. 3s. 116. a 48.. 9c., oddiwrth y Perdu — ■Jacob Hughes, Apothecarie's jf aU, Llanelly.