Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Y Cyhuddiad o Lofruddiaeth…

News
Cite
Share

Y Cyhuddiad o Lofruddiaeth yn y Rhondda. Dydd Mercher, y lOfed cyfisol, dygwyd Ellen James, 25 oed, gweddw, Pentre, a Esther Price; 50 oed, dynes briod, Trealaw, gerbron y fainc yn Mhontypridd, ar y cyhudd- iad o lofruddiaeth wirfoddol y plentyn a ddar- ganfyddwyd yn ddiweddar gan Mr. John Wil- liams, mewn hen bwll glo yn Trealaw, ger Tonypandy. Yr oedd y llys yn orlawn. Mr. Price (Spickett a Price) oedd dros yr awdur- dodau, Mr. Walter Morgan dros Mrs. Ellen James, a Mr. David Rosser dros Mrs. Price. Y tyst cyntaf a alwyd oedd Sarah Ann Davies, yr hon a ddywedodd Yr oeddwn yn ddi- weddar yn ngwasanaeth Mrs. James fel mor- wyn gyffredinol yn y Pentre am tua 4 mis. Parheais i fyw gyda hi hyd y 24ain o'r mis diweddaf, ac oddiar hyny bum yn byw, ac yr wyf yn awr yn byw, gyda fy modryb yn Brook Street, Pentre. Y mae Mrs. James yn cadw busnen fel green-grocer, ac yn cymeryd lodgers, yn y Pentre. Arferwn gysgu yn yr un gwely a hi. Yr oedd hefyd yn y gwely blentyn i Mrs. James, tua 3 neu 4 blwydd oed. Ar foreu y 7fed o Dachwedd, dygwyddodd rhyw- beth. Aethai Mrs. James i'w gwely y nos flaenorol am lli o'r gloch. Aethum inau i'r gwely tua 2 o'r gloch boreu dranoeth. Yr oeddwn wedi eistedd i fyny hyd yr awr hono, gan fy mod ar ol gyda'm gwaith. Tra yr oeddwn yn ymddihatru yn ystafell wely Mrs. James, dywedodd wrthyf, 'Yr wyf yn sal iawn peidiwch ymddiosg.' Gofynais iddi beth oedd y mater. Dywedodd, Yr wyf yn y family way* Gofynais iddi os cawn fyned i gyrchu bydwraig. Atebodd hithau, Na, ni ellwch.' Yna yr oedd tystiolaeth y ferch yn dangos na wnaeth Mrs. James ddim i ddi- ogelu bywyd y plentyn. Gwelais hi yn codi y plentyn oddiar y llawr. Bu y plentyn rhwng ei breichiau cyn hyny. Galwodd arnaf i'w gymeryd. Gosodais y plentyn ar wely Mrs. James, yr unig wely yn yr ystafell. Rhoddais ffedog wlanen Mrs. James dan y plentyn, a thros ei goesau. Gwnaethum hyn yn ddigais. Ni ddywedodd fy meistres wrthyf am ei orchuddio o gwbl." Mr. Price A ddarfu iddi roddi i chwi ryw gyfarwyddiadau ereill ? Tyst Cyn myned i'r gwely. Mr. Price Yr wyf yn siarad am yr amser ar ol i'r plentyn gael ei eni. Tyst: Ni roddodd i mi unrhyw gyfarwydd- iadau y pryd hwnw. Sylwais mai bachgen oedd y plentyn. Rhoddodd y plentyn lef wanaidd-golygwyf ysgrech. Yr oedd Mrs. James yn ymyl ochr y gwely. Ni roddodd Mrs. James i mi unrhyw gyfarwyddiadau pan lefai y plentyn. Yn nesaf aethum i gynorth- wyo Mrs. James i wisgo, canys wedi diosg yn rhanol oedd pan roddodd enedigaeth i'r plen- tyn, ac yr oedd yn ewyllysio newid. Yna aeth Mrs. James yn ol i'r gwely. Gorfu i mi roi fy llaw iddi i'w chodi oddiar y llawr. Yr oedd ar ei phenliniau. Cyn myned i'r gwely, dywed- odd wrthyf am gymeryd y plentyn oddiarno, er iddi hi fyned yno. Gwnes hyny. Ni ofyn- odd Mrs. James am i mi roddi y plentyn iddi. Dywedais wrth fy meistres fod y plentyn yn hollol oer a stiff. Yr oedd hyn wedi iddi ddy- chwelyd i'r gwely. Dywedais hyn yn union- gyrchol wedi i mi gymeryd y plentyn o'r gwely, a thra yr ydoedd hi yn myned i'r gwely. Yr oeddwn ar y pryd yn dal y plen- tyn ar fy mreichiau. Pan wneuthum y sylw a nodwyd, gofynodd, "Yn hollol oar?" Ateb- ais "Ydyw, ma'm." Sylwodd hithau: Gosodwch ef ar y bwrdd, a thaflwch y sheet drosto." I fyny hyd yr amser hwn, ni ofyn- odd am y plentyn o gwbl, ac ni roddodd i mi unrhyw gyfarwyddiadau o barthed iddo. Gosodais y plentyn ar y bwrdd, gan ei orchuddio a sheet. Wedi i meistres fyned i'r gwely, yr oeddwn yn ddiwyd yn yr ystafell yn gosod pethau yn eu lie. Dywedodd wrthyf am wneyd bara dwfr iddi. Gwnes ef yn y gegin lawr y grisiau. Bwytaodd ryw gymaint ohono. Yr oedd tan yn yr ystafell wely, ac yn llosgi pan aned y plentyn. Yr oedd yn arferol fod tan yno bob amser, gan fod y plentyn a gysgai gyda hi yn aiiach iawn. Ni jroddwyd dim dillad baban ar y tan. Gwelais lieiniau baban yn y ty yn drawers Mrs. James. Yr oedd y rhai hyny yn hen. Ni ddywedodd hi ddim wrthyf am danynt. Treuliais y gweddill o'r nos i lawr yn y gegin. Y boreu nesaf am haner awr wedi naw, gwelais Mrs. James eto. Cymerais de iddi. Yr oedd eto yn y gwely, a'r pleutyn yn yr un man ar y bwrdd. Bu yno o'r boreu hwnw (Gwener) hyd nos Lun canlynol. Gofynodd Mrs. James i mi, foreu dydd Gwener, a aethai y lletywyr at eu gwaith. Dywedais nad aethant. Gofynodd i mi y rheswm. Atebais am nad oedd gwaith yn y Pentre. Dywedais wrthi iddynt fyned allan. Ni ofynodd i mi pa un a oaddynt wedi dweyd unrhyw beth wrthyf, na minau wrthynt hwy, ac ni soniodd am y plentyn. Cysgais gyda Mrs. Jones nos Wener. Ni ofynais pwy oedd tad y plentyn, ond gwnes hyny prydnawn dydd Sadwrn. Enwodd rywun—dywedodd pwy oedd ei dad. (Yr oedd Mr. James wedi marw cyn i mi fyned i wasanaeth Mrs. James). Cododd Mrs. James i (0- ei„ J r or gweiy iore ayuu onuv/m, gan lyueu v amgylch y ty, ac oddeutu ei busnes fel arfer. Ni ddywedais ddim wrth neb am enedigaeth y plentyn. Dywedodd Mrs. James wrthyf, foreu dydd Sadwrn, gan fod y peth wedi pasio mor dawel, y byddai yn well i mi ei gadw i mi fy hun. Yr oedd hyn cyn iddi fyned am y blwch. Nid oedd y pryd hwnw wedi dweyd wrthyf pa beth oedd i'w wneyd a'r plentyn. Yna, rhoddodd dystiolaeth am ei danfoniad i siop Mr. David Thomas, grocer, i ymofyn blwch, a'r gorchymyn a gafodd i fyned a'r plentyn ynddo, i dy Esther Price, Trealaw. Cafwyd tystiolaeth Mr. John Williams am ddarganfyddiad y.corff, a thystiolaethau y meddygon; ac wedi iddynt bleidio "Dieuog," Sylwodd yr Ynad Yr ydym yn lwyr- frydig wedi dyfod i'r penderfyniad i anfon Mrs. James i gael ei phrofi ar y cyhuddiad o ddynladdiad, ac anfonwn y garchares arall i sefyll ei phrawf ar y cyhuddiad o fod yn gyfranog. Nid ocs amheuaeth genym am ei bai yn mherthynas i hyn. Yr ydym hefyd yn danfon y ddwy garchares i'w prawf ar y cyhuddiad o gelu genedigaeth." Derbyniwyd meichiau Mrs. James mewn £ 200, a dau ereill (ei thad yn un) yn £ 100 yr un. Mrs. Price yn y swm o £100, a dau yn y swm o JE50 yr un. Nid ymddengys fod .Y Mrs. Pries wedi cael meichiau.

Marwolaeth y Parch W. Thomas…

[No title]

NODIADAU 0 L'ERPWL.

Cyfarfod Torwyr Glo Tai.

Family Notices

Ystyriwch, Darllenwch, a Chredwcb…

Eisteddfod Gadeiriol Deheudir…