Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

COLEG Y GWEITHIWR.

News
Cite
Share

COLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. Brwynfardd.—I agor y cyfarfod heno, beth pe bawn yn adrodd wrthych benill a wnaeth- nm i'r Nadolig Dyma'r N'dolig bron a dyfod, 'Nawr alltudied pawb eu trallod,- Mynwn wledd o bob pasteiod Ar ein haelwyd lan Doed aelodau gwych y Coleg At y gwaith yn ddi-ffiloreg, Ac adroddwn 'nawr yn ddifreg Bawb ei bill neu gan. Bydded gwydd neu dwrci Ar bob bwrdd eleni- Ginger beer neu sham-pine 0 Lanau'r Rhine fo'n berwi; Dai a Mali, Twm a Deio, Fyddo 'leni yn enjoyo, Cofied pawb rhaif cael y bendro Trwy 'goholic dan. Evan Pegor Jones.—Fachgen, yr wyt wedi dod yn fardd splenditious, ac yn deall y mesurau. Pwy fesur ydi hwna, dwed? Brwynfardd. — Mesur "Pant Corlan yr Wyn." Clerenfardd.—Dyna gyd wyt ti'n deall am y mesurau Ymdaith gwyr Harlech yw'r penill yna, o'r peth ag yw e. Ond yr wyf fi yn cynyg nad ydym i fyned ar ol y mesurau na dim arall heno yn y line farddonol, ond ymgadw at rywbeth o fuddioldeb ymarferol. Colled fawr dynion yn y byd yw eu bod yn ymdrin a llawer o bethau nad ydynt yn re- turns un bensen iddynt yn mhen blwyddyn, nac am eu hoes. Dyna'r gweillfeirdd, a'r cawnfeirdd, a'r brwynfeirdd, yn pilffran ac yn flingran sha cyfansoddi englynion am oriau goreu eu hoes, heb enill dim oddiwrth -hyny Hefyd, dyna'r man gerddorion er engnraifft. Y mae hwynt a'u sol-ffa, yn toncan wrthi byth a hefyd ond byth yn cael dim returns. Dyna beth yw eiu pwnc ni boys, yw troi amser yn awr, ac arian yn fara a chaws, yn legs of mutton, ac yn rounding eidion ond ni wneir hyny wrth benhewcan hefo englyn- ion a llyfrau sol-ffa. Stephen Pitchfork Lewis.—Howit Fi dy screga di miwn mynud ar y tir yna. 'Dyw barddoni na chanu yn taki dim o'u ffordd wedest ti 1 Mi fues i yn grondo merch yn canu yn Llundain town, a ma hi yn fyw nawr, ac wedi priodi; ond mexch ifanc oedd hi pryt hyny, sef Miss Christine Neilason. 'Roedd hi'n cal J6200 bob nos am ganu pan glwes i hi. Edrych ar Edith Wynne-y mae wedi dod yn lady wrth ganu a dyna'n cydwladwr ninau, Eos Morlais, yn gallu pyrnu tai, ac wn i beth i gyd,-a rhai yn gweyd y gall e retiro yn fuan, a hyny i gyd oddiwrth ganu. Cymaint a hyna o bothti'r canu. Nawr at farddoni. Nid jobbin drwg onte, fydde derbyn gwobr o £ 5, £ 10, £12, JE15, neu £20, am bryddest neu awdl, a'r un cyffelyb symiau am draeth- odau. Does neb ohonoch chi sydd a'ch llais a'ch llaw yn erbyd eisteddfodau, na charech yn eich calon gael cuamp ar y gwobrau yna, a chadeiriau gyda hwy yn y fargen. Ond fedrwch chi ddim o'u cyrhadd nhw. Agrippa.-Ni raid amheu nad yw athrylith gerddorol a barddol yn talu, o'r hyn leiaf, fe ddylai dalu, lie mae hi yn bresenol ond dylem gofio nad yw pawb yn Christine Neilsson, Edith Wynne, ac Eos Morlais. A baich rhesymau yr hwn fu yn siarad yma yn .erbyn y canu a'r barddoni, feddyliwn, yw ceisio perswadio yr epa-gerddor a'r epa-fardd am beidio ofer-dreulio eu hamser wrth beth nad oes obaith y bydd iddynt byth ragori ynddo. Dylai pob un ymdrechu adnabod ei hun, a chael allan y ddawn a'r cymhwysder aydd ynddo, a throi y cyfan i ymarferiad buddiol. Gwelir ambell un wedi hyny yn treio'i law at amryw bethau, a heb allu rhagori mewn dim, pan, pe dilynai yn mlaen i un cyfeiriad, deg i un na chyrhaeddai binaclau llwyddiant. John Stacan Jones.—Myn scerbwd i, rych chi'n wleua yn ffein, boys; ond paragraff nawr, sglwch chi'n dda. Pwy yw'r Dr. Prim na, sgwddoch chi ? Er mai doctor ydi o, ma ishe rhoi pilsen yn druenus iddo fe, nes bydde hi yn hala ticyn o (folic sha'i berfeddion e, am attacko dyno'n trw'r llwyni. Wy'n nabod pwy sdag e miwn llaw, a gwel pawb ed i fod e'n saethid at erith heb hwnw, ydynt yn ddoctoriaid duwinyddol, y rhai nas gall y creadur Prim ddod hyd o fewn milldir o ergyd «MWOM. hyd ati nhw. Tomos Ashtons.-O, wy'n nabod y gwalch yn rite dda, a fe gaiff ynte y pleser o'n nabod ine ed pan gwrddwn ni. Ond gadewch idde, mae'n fflat ar y ddiar nawr, a brwyneneidd- iwch fydde taro dyn yn y picil hwnw. John Arfengos Perkins.—Mar gwmniath yn mynd dicyn yn rhy bell i ni'r gwithwrs ma i ddeall hi. Beth wyddom ni am Dr. Prim, a rhwy stragglers felly. Gadewch i ni gal rhwy dicyn o hanas y gweithfeydd. James Scyborddu Abram.-Wel, sicr yw e fechgyn, nad yw y glo yn marchnadoedd Abertawe, Llanelli, Caerdydd, a Chasnewydd, wedi codi un ddimai yn ei bris hyd yma. Ond y mae yn ffaith ei fod wedi codi yn rhyw barthau o Loegr, a'r glowyr, mewn canlyn- iad, wedi cael codiad yn eu cyflogau. Nis gall hyny lai nag arwyddo y daw y codiad yma i Gymru, canys profwyd glo Cymru, nid yn unig yn gystal, ond yn well na glo Lloegr; a phaham y rhaid i ni werthu o dan y Sais ? Ond yr ydym yn cyflym agoshau at ddiwedd y flwyddyn, a dechreu'r flwyddyn, neu o liyny i Fawrth ac Ebrill, ddwed pa fodd y inry pethau. Rhaid i ni wasgu ein clustiau eto am ddau fis neu dri, cyn y cawn un cyffro- ad sylweddol, 'rwyf yn ofni. Dyna reilffordd, os pasia hi trwy Senedd, sydd i gael ei gwneyd yn fuan yw hono o Dreherbert mas i Hirwain. Fe fydd yma waith i ganoedd o weithwyr wrth y tunnel yna am flynyddau. Rhydd hyny spurt mawr yn ddiau i fasnach Hirwain a'r rhan uchaf o Gwm Rhondda. Y mae rhai yn darogan hefyd fod gobaith y -troir amryw o'r gweithiau haiarn ydynt yn awr yn segur yn weithiau tin. Clywsom ibneddwr yn dweyd yn ddiweddar, yr hwn sydd yn dra phrofiadol yn y fasnach alcan, y gellid, ar ychydig iawn o draul, droi gwaith haiarn y Gadlys, Aberdar, ya waith tin, a gellir dweyd yr un peth am Abernant a Phentrebach. Pe cymerai pethau felly Ie, fe geid cyffroad yn y gwersyll eto. Ap Corwynt.—Eglur yw pe ceid mwy o weithiau nag sydd, byddent hwy o nodwedd i ddifa rhagor o lo, ac fe ddeuai y nwydd hwnw yn brinach, a'r canlyniad fyddai mwy o alw am dano hawliau yntau fwy o bris, a'r canlyniad anocheladwy fyddai codiad yn eich cyflogau chwi, y glowyr. Y mae y dos- barth mwyaf deallgar a goleuedig o lawer o'r glowyr hefyd yn erbyn ymgyfathrachu ag estroniaid, ac ymofyn am eu gwasanaeth rhyngddynt a'r meistri byth ond hyny. Clyw- ais un yn ddiweddar yn dweyd am adnabydd- iaeth iddo oedd yn dadleu ac yn credu yn deg mai Halliday ddaeth a'r tide mawr llwyddianus yn 1872 a 1873. Cred rhyfedd Ond tybiwyf nad oes un o bob pum' mil o'r glowyr yn ei choleddu erbyn heddyw. Anogir chwi o wahanol gyfeiriadau i ffurfio sliding scale, ac nid heb lawer o reswm canys y mae gwfv North o Loegr, luaws ohonynt, wedi gwneyd. Bydd y scale yn rhoi stability i'r farchnad, a goreu gyd pa gyntaf i'w mabwys- iadu, er mwyn cael sefydlogrwydd gweithfaol yn Mynwy a Morgan wg. Huw Ffradach.—Fechgyn disebon, fe ddaw y byd yn well bob yn ronyn, ond cael amyn- edd i aros yr amser. Yn awr, chwi fyddweh chwi a minau yn parotoi ar gyfer y Nadolig yma ond fe gynghorwn bawb ohonoch, wýr y Coleg hwn a phob coleg arall trwy y wlad, i fyned i gael eithaf scwriad yn y Turkish Baths, Merthyr, yr hwn, gyda throad y tym- hor, a fydd yn fendithiol iawn i'ch corpysau. Yr wyf fi yn hen brofiadol ohono, ac wedi ei brofi yn elyn i anwyd yn ei wahanol agwedd- au lawer gwaith a'r syndod yw na byddai mwy o'n gweithwyr, ein masnachwyr, a phawb yn gwneyd mwy o ddefnydd ohono. Ewch iddo, a chewch driniaeth gampus dan law gelfydd y cyfaill siriol Atkins. Cawn gwrdd unwaith eto, gobeithio, cyn y Nadolig.

Hanes Taith trwy Texas.

ARAETH GURNOS YN NGHAERDYDD.

DR. PRIM A'R VACCINATION FARDDOL.

PERFFORMIA. D "BLODWEN" YN…

Eisteddfod Gadeiriol Deheudir…