Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
GWEN OR FELIN,I
GWEN OR FELIN, I Neu Y Golledig wedi ei chael." 1 NOFEL FUDDUGOL EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DEHEUDIR CYMRU, 1879. PENOD YI. — (ParhadJ. Yr oeddech y1.1 mentro yn fawr, Mari, i ddweyd wrth Trefor i Owen fod yn y ty. A welsoch chwi fel yr oedd yn dweyd pethau am Owen, i gael gwel'd a ddeallasai wrthyf a oeddwn yn ei garu ai peidio ?" "Dyna fe yn union. Ond diolch byth fod Owen wedi galw yma ar ol yr ym- laddfa." 0 yr wyf yn teimlo fy nghalon- "Ust! dyma fe yn d'od," ebai Mari. "Moistr anwyl, mi hoffwn yn fawr ddeall sut y mae ar Sam. Oni allaf fi gael myned i'w weled ?" Da iawn, Mari, ewch chwi yn fy lie i, tra fyddaf fi. yn malu yr yd yma." Aeth Mari i'r dref, a galwodd gyda Sam. Samuel anwyl! pe gallaswn i rag- weled y diwedd o'r dechreu, mi a weith- redaswn yn hollol wahanol-ni buasai lied troed i Owen yn nhy y Felin erioed. Ond dyna, ddaw ddoe ddim yn ol, ac nis gellir dadwneyd yr hyn a wnaethpwyd. Ond mi a hyderaf fy mod wedi dysgu gwers bwysig oddiwrth yr hyn a ddygwyddodd." "Mari, cofiweh," ebai Sam pan oedd Mari ar gychwyn, am dd'od a photelaid o gin gyda chwi y tro nesaf." Ar hvn, dvma'r meddyg yn d'od. Sam Williams, os ydych am gael par o wefusau a fyddant o ryw wasanaeth i chwi yn y dyfodol, rhaid i chwi beidio siarad dim am wythnoB neu naw diwrnod," ebai y meddyg. Wrth ddyfod adref, galwodd Mari gyda'r Offeiriad Jones yn Llanllyfni. Yr oedd y gwr da adref ar y pryd. Wedi cael ei thafod yn rhydd i ddeehreu siarad, ni theimlodd hi ddim diffyg wed'yn cyn gorphen dweyd pob peth wrtho yn nghylch teulu y Felin, Gwen, Owen, yr ystafell gudd, yr ymladdfa, yr amean i gymeryd bywyd Owen oddiarno, ac am fynediad Owen i'r De i chwilio am fanylion pwysig mewn perthynas â Trefor a Gwen, ac i ddwyn cyfiawnder a'r melinydd wyneb yn wyneb. Ni chaiff Trefor gyrhaedd ei amcan," ebai y- Parchedig. Gellweh ymddiried ynof fi, Mari. Yr wyf yn adnabod Trefor a'i fab melldigedig yn dda. Rhoddwch chwi wybod i mi eu symudiadau, cofiwch." Cyrhaeddodd Mari adref. Trefnwyd fod Mari a Trefor i ymweled & Sam bob yn ail. Gobeithio y daw Owen yn ol yn mhen pythefnos, ac y bydd pob peth yn iawn," ebai Mari mewn atebiad i ryw gwestiwn a gafodd gan Gwen. 0 daw, y mae yn sier o dd'od, oblegyd fe ddywedodd y deuthai," ebai hithau. Daw yn sicr, os gall rywfodd—os gall dd'od o hyd i bob peth fel yr oedd yn dysgwyl." Ni ddywedodd Mari air eto wrth Gwen iddi fod yn ymgynghori a'r Offeiriad Jones. Tra yr oedd y ddwy fel hyn wrthynt eu lunain yn y Felin, un diwrnod, aeth Trefor i roi tro am Sam. Faint o amser a raid i mi fod fan yma, 'nhad ?" "Naw neu ddeg diwrnod, y mae yn debyg, 'machgen i, yn ol fel y dywedodd y meddyg." A ddaethoch chwi â photelaid o gin gyda chwi ?" Naddo; chai di ddim gan y doctor hyd nes y byddi allan o berygl. Ymdrecha di wella, i ti gael priodi. Ti gai ddeg mil o ddarnau aur ar ddydd dy briodas, a chai briodi mor gynted ag y gelli dd'od adref. A addewi i ryw ddyhiryn o fath yr Owen hyna dy guro gyda Gwen ?" Gan roddi rheg fileinig, neidiodd Sam ar ei eistedd yn y gwely, a tharo ei ddwrn yn erbyn erchwyn y gwely, ebai:— Na chaiff. Mi a fynaf ei gweled hi yn gorff marw yn gyntaf." "Gwrando. Nid wyf yn credu fod Gwen yn meddwl dim o gwbl am dano. Pan ddywedais wrth Mari yn ei chlyw i ti roddi digon iddo ef am ei fywyd yn yr ymladdfa, ac nad oedd yn debvg y gwellai efe mwy o'i glwyfau, ni theimlodd ddim; edrychai mor ddifater a phe buasai heb ei weled erioed, neu a phe buaset ond wedi; lladd ceiliog." Da iawn; ae feallai na ddaw yr andras yn ol i'n blino ni mwy." Nid wyf o'r un farn a thi ar hyna. Credaf y daw yn ol. Credaf y gwyr ryw- beth am enedigaeth Gwen ac am ei theulu, a'i fod yn chwilio am bethau i'n dyrysu i gyrhaedd ein bwriad. Ond pan wel ei bod yn wraig gyfreithlawn i ti, bydd ei lafur, druan, yn gwbl ofer a gelli dithau glecian dy fawd arno. Wedi i'r Eglwys eich rhwymo, ni fydd gallu tu yma i angeu a'ch gwahana. Felly, ymro di i wella. Yna, ni fydd angen i ni nodi defaid pobl ereill wed'yn. Hen orchwyl digon peryglus yw hwnw, fel y gwyddost." Y mae Sam yn parhau i wella yn gyflym, a'i nerth yn dychwelyd bob dydd. Y mae Sam yn gwella yn dda," ebai Mari, un prydnawn, ar ol bod yn gweled Sam. Byddai yn dda genyf ei weled yn ol eto adref. Nid oes lie fel cartre'. Ond dyna, nis gallwn ni ei gadw oddiwrth y peth yfed fel y meddyg. Y mae arno fwy o ofn y doctor nag sydd arno o'ch hofn chwi a finau. Buasai diod feddwol wedi ei andwyo; a goreu oil po hwyaf y ca aros yn y dref dan ofal y doctor, rhag ofn y gwirod, oblegyd allwn ni byth ei gadw ef ragddo yma." "Yn wir, Mari, chwi sydd yn iawn; 'chaiff e ddim symud oddiacw hyd nes y y dywedo y meddyg." Y mae pythefnos bron wedi pasio er pan aeth Owen i ffwrdd, ae er pan y mae Sam yn ei wely yn y dref. Mar!, deuwch yma am fynud," ebai Trefor, gan gamu ei fys ami ddyfod i'r felin ato, a hi a aeth. Yn awr, Mari, atebwch fi yn onest a didwyll. A allaf fi ymddiried i chwi ? A fyddwch chwi yn ffyddlon i mi yn yr hyn a ofynaf i chwi ?" Byddaf, cs gallaf fi rywfodd, os na cheisiwch genyf ladd neu ladrata." Nid hyny. Tybiwch pe trefnwn bethau ar gyfer priodas Gwen a Sam-dim ond tybiwch hyny-a helpech chwi fi ?" Gwnawn o ewyllys fy nghalon. Mi a hoffwn ei gweled hi wedi ymsefydlu mewn bywyd. Y mae yn ddigon hen. Yr ydych chwi a fi yn myned yn hen i ofalu llawer rhagor am dani, ac y mae'n ddigon am- ddifad ac eto, mi a obeithiaf na raid i mi ei gadael hi. Mi a hoffwn fod yn ngwas- anaeth Gwen a'i gwr tra y byddwn byw." "'Fydd dim eisieu i chwi newid eich cartre', Mari; gellweh aros tra fyddoch byw gyda fy mhlant i yma. Bore' yfory, byddaf yn d'od a Sam adref; a thuag un- ar-ddeg o'r gloch y bore', bydd yr Offeiriad Jerome hyna o Glynog yma i'w piiodi. Gwnewch bob peth mor gysurus ag y medroch i roesawu yr offeiriad. A wnewch chwi hyn ?" Gwnaf yn sicr." Ond, Mari, peidiwch dweyd gair wrth Gwen am ddyfodiad yr Offeiriad hyd nes y daw." "Pob peth yn iawn. Nid ynganaf air wrthi." "Byddwch chwi yn ffyddlon i mi yn hyn, Mari, a mi a gofiaf yn sylweddol am danoch. Mi a af heno, wedi iddi dywyllu, i Glynog, i ofyn i'r offeiriad am fod yma erbyn haner awr wedi deg. Cofiwch, peidi weh gadael i Gwen wybod dim am y peth." (Tw barhauj.
Beirniadaeth Eisteddfod Tresimwnt.
Beirniadaeth Eisteddfod Tresimwnt. TBAETHAWD All ODYDDIAETH." Daeth pump o draethodau i law, sef eiddo Odydd o'r gwraidd ydwyf, Aaron, Scribe, Nid Die Shon Dafydd, ac Amor et Yeritas. Mae dau o'r traethodau hyn wedi eu hysgrifenu yn y Gymraeg, a thri yn yr iaith Saesonaeg. Sylwn ychydig, yn gyntaf, ar eiddo Odydd o'r gwraidd ydwyf.—Ymddengys yr awdwr hwn yn gryn dipyn o henafiaeth- ydd; ond tybiwn ei fod, with olrhain dechreuad Odyddiaeth, yn myned i ryw orphenol pell ac amheus iawn. Ymddi- byna, feallai, yn ormodol ar debygrwydd geiriau i'w gilydd, am unrhywiaeth eu hystyr; ond nid yw cyd-debygrwydd geir- iau i'w gilydd yn ddigon o warant eu bod, bob amser, o'r un wreiddyn ac o'r un ystyr. O'r braidd y gallwn ni gredu fod perthynas agos iawn rhwng y geiriau Knud," Nod," ac Odd &'u gilydd, fel ag i'n gwarantu eu bod o'r un darddiad ac ystyr, neu fod y ddau flaenaf yn esboniad ar ystyr yr olaf. Y mae y traethawd yn un dy- ddorol a darllenadwy, ond nid yw yn rhoddi i ni olwg gyflawn ar Odyddiaeth yn eg- wyddorol nac ymarferol. Aaron and Scribo.-These two authors bear traits of great similarity in the arrange* ment and treatment of their subject. They have both treated largely on the funda- mental principles, or rather the religious aspect of Oddfellowship, which, so far as I can see, differ but very little from those of other Benefit Societies and like institutions. We think the writers ought to have kept more closely to what we may term The individualism, or the distinctive features of Oddfellowship." Both authors also have committed errors in sentiment and language, thought and expression. Scribe has" con- tusion" for con/usion," and such strange a doctrine as that man is composed of instability." In another sentence, the author has essential virtues, and that con- versation is a great blessing in life, as it is through that medium we become acquain- ted with the passions of others." Is it not with the thoughts of others we are becoming acquainted, rather than with their passions ? -Aaron has The laws teaches instead of "The laws teach," and "they enjoins" instead of they enjoin." He has also two 8 in distress," where there should be but one. These are but few of the many inaccuracies in thought and language which might be pointed out, and which the authors would do well to avoid in their fature competitions. Nid Die Shon Dafydd ac Amor et Veritas. —Dau draethawd da yw y rhai hyn. Y maent yn tynu y llinellau gwahaniaethol rhwng Odyddiaeth a Budd-gymdeithasau ereill yn oleu ac yn eglur, ae yn cynwys mwy o amrywiaeth mater, a llawnach desgrifiad o amcanion, egwyddorion, rhagor- iaethau, a bywyd ymarferol yr Urdd nag un o'r ymgeiswyr ereill. Ac o'r ddau ym- geisydd hyn, tybiwn mai eiddo Amor et Veritas yw y mwyaf coeth, cydwasgol, a chynwysfawr; ac efe, o gymaint a hyny, a ddyfarnwn yn oraf. MARWNAD MR. WILLIAM BASSETT. Derbyniwyd pedwar eyfansoddiad yn dwyn y ffugenwau o Cymydog, Dim ond y gwir, Calon y gwir, a Cyfaill Calon iddo. Cymydog.-Y mae y farwnad hon yn gwisgo arddull rhy gyffredin a baledaidd; yn brin mewn desgrifiad nodweddiadol, ac yn ymddangos fel cynyrch ymgeisydd o awen a chyneddfau anaddfed. Dim, ond y gwir.-Mae hon yn bryddest lied wych, ond heb feddu digon o neillduol- rwydd nodweddiadol, yr hyn sydd yn myned yn mhell i brofi nad oedd yr awdwr yn ddigon eydnabyddus a gwrthddrych y testyn. Y mae y bryddest hefyd yn un led farddonol o ran ei syniadaeth a'i hym- adrodd, ond heb fod felly yn gwbl o ran ei theimladaeth. Pe buasai mwy o ysbrydol- iaeth galar wedi ei thaflu iddi, buasai yn fwy effeithiol ac argraffiadol. Calon y gwir a Cyfaill calon iddo.—Dwy farwnad wych yw y rhai hyn, ac yn llawer mwy eu gwerth na'r wobr a gynygir am danynt. Nid yn gyffredin y ceir rhagor- ach y rhai hyn. Y mae eiddo Calon y gwir yn Ilawn o'r teimlad mwyaf tyner a thoddedig, ac yn farddonol iawn drwyddi, ac yn un bur ddesgrifiadol o'r trengedig. Y mae y ddau awdwr yn ymddangos i mi ea bod yn llwyr gydnabyddus & gwrth- ddrych y testyn. Y mae Calon y gwir yn fwy barddonol a theimladwy nag eiddo Cyfaill calon iddo ond y mae Cyfaill calon iddo yn fwy coeth, cryno, a chynwysfawr, ac yn meddu mwy o neillduolrwydd a manylder desgrifiadol nag eiddo Calon y gwir. Ond wedi gosod pob peth ar gyfer eu gilydd, nid ydym yn canfod y gellir gwneyd dim a fyddo gwell na rhanu y wobr rhyngddynt. "CAPEL SOAR." Derbyniwyd ar y testyn hwn bedwar eyfansoddiad yn dwyn y ffugenwau o Doli o Bendeulwyn, Hen bererin, Luther, a Cyfranwr at ei ddyled. Doli o Bendeulwyn.-Daeth y cyfansodd- iad hwn i law yn rhy ddiweddar o wyth diwrnod; o ganlyniad, allan o gystadleu- aeth. Hen Bererin.—Can fach dyner a dy- munol, ond dipyn yn brin mewn cyfeiriadau perthynasol a neillduol. Y mae rhyw bethau yn gysylltiedig a Soar nad ydynt gysylltiedig a pbob capel arall. Dylasai yr awdwr chwilio am y cyfryw, a'u cofnodi yn ei gyfansoddiad. Luther a Cyfranwr at ei ddyled.-Dwy gân fach syml, dyner, dlos, a hapus ryfeddol eto. Cynwysant fwy o neillduolion Soar, ac feallai fwy o deimlad dymunol, ac o syn- iadaeth bur ac addfed, nag eiddo Hen bererin. Y mae eiddo Luther a Cyfranwr at ei ddyled yn dwyn cymaint o debygol- rwydd mewn cofnodion, teimlad, a dymun- iad i'w gilydd, fel nad oes dim gwell i'w wneuthur na rhanu y wobr rhyngddynt. CASTELL HENSOL." Un eyfansoddiad dderbyniwyd ar y testyn hwn, yn dwyn y ffugenw o Maen o'r Mur; ac fel cerdd ddesgrifiadol o'r castell a'i amgylchoedd, y mae yn bur gymeradwy, ac yn deilwng o'r wobr. ENQLYHT I'R "LLOER." Derbyniwyd aT y testyn hwn gynifer a phymtheg o englynion, pa rai a renir i bedwar dosbarth. Dosbarth IV.-Yn y dosbarth hwn, saif eiddo Garddwr, Ab Simwn, South Walian, Un o fro Merganwg, Bugail y nos, ac Annghof. Nid oes gan yr awdwyr hyn fawr amcan ar gynghanedd, ac nid yw eu henglynion yn cynwys ond ychydig o syn- wyr, chwaithach o farddoniaeth ddiledryw. Dosbarth IIl-Yn y dosbarth hwn y saif eiddo Herschel, Gwyliedydd, ac Ed", mygydd. Cynwysa englynion y dosbarth hwn loewach a grymusach syniadaeth na'r dosbarth blaenorol, ac mae eu cynghanedd- iad yn fwy cywir, er nad ydynt hwythau wedi cyrhaedd y perffeithrwydd gofynol. Dosbarth IL-Yn y dosbarth hwn y saif eiddo Newton bach, Newton, ac S. J. N. Y mae yr englynion yn rhai rheolaidd, oddieithr eiddo Newton. Y mae ei eiddo ef yn pallu mewn cynghanedd yn y dryd- edd llinell. Y mae y rhai hyn yn englyn- ion da, ond nid mor gynwysfawr a chyflawn mewn desgrifiadaeth ag y dymunesid. Dosbarth L-Yn y dosbarth hwn y saif eiddo Aderyn y nos, Rhinon, ae Arsyllydd. Englyn urddasol a barddonol iawn yw eiddo Aderyn y nos, ond nid yw mor gynwysfawr a desgrifiadol ag eiddo Rhinon ac Arsyllydd. Yr un gwr yw Rhinon ac Arsyllydd, ac y mae yn anhawdd dywedyd pa un o'i englynion yw y goraf, gan mai yr un meddylddrychau a gynwys y ddau, ond eu bod wedi eu mynegu mewn gwa- hanol foddau; ond tueddir ni, rhywsut, i roddi y flaenoriaeth i eiddo Arsyllydd. Caffed y wobr yntau. BLODEUYK Y GLASWELLTYN." Daeth pump o englynion i mewn ar y testyn hwn, yn dwyn yr arwyddenwau o Un hoff o flodau, Anianydd, Buxtie, Garddwr, ac Ap Huan. Un hoff o floclau.-Dim cyngbanedd o gwbl. Anianydd.—Englyn da, ond fod rhyw dywyllwch syniadol yn hongian oddeutu y llinell gyntaf. .Buxtie.-Englyn gwych, ond fod gwall cynghanedd yn y llinell gyntaf, a cham- sillebiad yn y gair hemes yn y llinell olaf. Gar-dclwr. -Englyn gwych eto, ond fod gwall cynghanedd yn y llinell gyntaf, ac hefyd yn y Gair Cyrch. Mae y Toddaid sydd yn ei ddiweddu yn un darluniadol, prydferth, a rhagorol; a'r englyn trwyddo, o ran syniadaeth ac addysg, yn un tra chymeradwy a dymunol. Ap Huan.-Dyma'r englyn llithricaf, crynhoaf, a pherffeithiaf ei gyfansoddiad o'r cwbl; ac i Ap Huan y mae yn rhaid dyfarnu y wobr. DEWI WYN o ESSYLLT. Pontypridd, Tachwedd 20fed, 1879.
Masnach yr Haiarn a'r Glo.
Masnach yr Haiarn a'r Glo. WRTH: daflu golwg dros fasnach yn y gweithfeydd haiarn a glo Cymreig, nid ydym yn awr yn cael achosion digalondid ajgwelwder. Yn SIR AMWYTHIG A GOGLEDD CYMRT7, er nad oes rhyw welliant nodedig yn sef- yllfa masnach y glo, y mae teimlad go- beithiol yn bodoli fod y gwaethaf wedi myned drosodd, ac fod gwell amser yn nghadw yma, fel yn mhob lie arall. Cymedrol yn bresenol yw y cais am lo-ager, a'r prisoedd yn aros yn isel a digyfnewid. Mae mwy o fasnach yn y nwy-lo a'r glo teuluaidd, a gwell cais am y glo man. Gwerthir mwn haiarn a golosglo yn rhwydd. Mae masnach yr haiarn yn aros yn firm. Er cyfarfod y cais ychwanegol am haiarn-bwrw, mae y galluoedd cynyrch- iol yn cael eu mwyhau mor gyflym ag y mae yn ddichonadwy. Mae y prisoedd am bob math o haiarn-bwrw yn dringo tua'r lan. Y mae gweithfeydd yr haiarn gorphen-wneuthurol yn weddol fywiog. Archebion arforiadol, nid ydynt yn hynod luosog; ond v mae cyfiawnder mawr o waith yn cael ei wneyd ar gyfrif cartrefol. Mae yr arwyddion prisiadol yn y gangen hon o fasnach yn sicr o fod ar i fyny. Wrth ymdreulio rhai dyddiau yr wythnos ddiweddaf yn MERTHYR A DOWLAIS, deallais fod teimlad gobeithiol yn bodoli yno mewn perthynas i fasnach yr haiarn a'r glo, a gellir cyfeirio ato mewn dull hollol wahanol i'r hyn oeddwn yn wneyd bedwar mis yn ol. Mae Gweithfeydd Haiarn y Gyfarthfa yn myned yn mlaen yn rhagorol, a dysgwylir y bydd yr holl le mewn tanau gweithiol cyn canol mis Mawrth—ie, y bydd pob rhan mewn gwaith cyflawn. Nid gorchwyl hawdd oedd cychwyn gweithfeydd a fuont yn segur am tua phum' mlynedd, er fod gofal rhyfeddol yr hen Haiarn Frenin ymadawedig wedi eu cadw mewn sefyllfa mor rhagorol. Eto, er yr holl ofal, dim ond bob yn damaid y gellir cychwyn y gwahanol gangenau. Fel y nodais yr wythnos ddiweddaf, mae ffwrneisi blast yr Ynys Fach yn gweithio, a'r wythnos hon eto rhoddir cam yn mlaen yn yr un cyfeir- iad. Mae symiau o fariau a rheiliau yn cael eu hanfon o'r Gyfarthfa tua Chaerdydd bob dydd, a symiau mawrion o fwn Ysbaen- aidd yn dyfod i mewn hefyd yn ddyddiol. Nid oes gair o'r newydd i'w adrodd am v Plymouth, er y tybir fod gobaith, gan foa y gweithfeydd sydd yn segur wedi bod yn cael edrych drostynt gan ddyeithriaid. Dichon y daw rhyw gyfalafwyr yn mlaen er gwneyd rhywbeth o'r gweithfeydd hyn. Mae cryn lawer o valuable plant yma. Siaredir am Weithfeydd Penydarren, yn Merthyr, a'r Gadlys efo chwi yna yn Aber- dar, fel eiddo rhagorol. Mae y blaenaf yn dra chymhwys i'w droi yn waith alcan. Tua THREDEOAB, yn ystod yr wythnos ddiweddaf, yr oedd arddangosiadau o welliant masnachol. Mae gweithfeydd gwyrs y Meistriaid Price a'u Cwmni wedi eu troi i weithio haiarn, tra y mae gweithfeydd ereill mwy eang yn y gymydogaeth yn gwneyd ymdrechion rhy- feddol i gyfarfod y ceisiadau cynyddol sydd yn dyfod i mewn. Mae masnach yma yn bynod fywiog. Yn y BLAENAU, dywedir fod yr holl weithfeydd glo yn gweithio yn rhagorol, ac yu gwneyd mas- nach rhyfeddol o dda, a thra thebyg y bydd i'r gweithfeydd hael eu hadgychwyn yn fuan. Mae y si allan hefyd fod cychwyn- iad ar gael ei wneyd yn Mlaenafon. Yn KHYMM, mewn ychwanegiad at y ffwrneisi blast a chwythwyd i mewn yn ddiweddar, mae yn debygol y bydd y lleill oil i gael eu cychwyn heb fod yn hir. Mae masnach y glo yma, a thrwy y cwm, yn parhau yr un, ag yn yr adroddiad diweddaf. Yn NGLYN EBWY, mae y bywiogrwydd mwyaf yn cael ei ddwyn yn mlaen yn holl gangenau gweith- yddol y lie, fel canolfan mawr y cwmni, ae yn Abersychan a Sirhowy mae yr holl ffwr- neisi mewn gwaith—yn gweithio haiarn- bwrw yn benaf, yr hwn sydd yn cael ei droi allan yn ol y raddfa o bum' cant i bum* cant a haner o dunelli yr wythnos o bob ffwrnes. Mae symiau mawrion o'r haiarn hwn yn cael ei anfqn i'r farchnad, ac yn cael ei werthu, fel y dywedwyd wrthyf, am bris y mae elw oddiwrtho. Tua'r CASNEWYDD. AR- WYSG, mae symiau mawrion o lo yn cael ei lwytho mewn llongau yn barhaus i'w allforio i wledydd tramor. Allforiwyd yr wythnos ddiweddaf 21,498 o dunelli o lo, ac yn agos i ddwy fil o dunelli o haiarn a dur. Aeth y rhan fwyaf o'r haiarn i Baltimore, Santander, a Lisbon. Nid oes hyd eto yr un si am godiad yn mhris y glo yn cy- meryd lie. Daeth i mewn amryw o ager- longau a mwn haiarn o'r Ysbaen a Mor y Canoldir. Mae y cais am longau i gario haiarn i'r Unol Dalaethau yn fwy sefydlog- a galwadol, ac y mae 10s. y dunjll yn cael. ei gynyg yn rhwydd fel hur llongau hwyliau i Efrog Newydd, ac y mae galw- adau hefyd am longau i gyfeiriadau ereill. Er fod y pris yn isel am y glo, mae y ceisiadau am dano yn parhau yn rhagorol o< dda, ac y mae hyny yn arwydd er daioni, ac fod cyfnewidiad er gwell am brisoedd i wawrio arnom. Cais rhagorol o dda am lo fel tan went teuluol. Mae y glofeydd yn gyffredinol yn gweithio yn well. Mae y fasnach mewn haiarn yn fywiog drwy yr adran hon. Galwadau da am reiliau haiarn a dur, a'r prisoedd yn well. Mae hen reiliau a hen faterials yn cael eu prynu ar gvfer America, ac y mae mwy o fywiog- rwydd yn masnach y bariau haiarn. Mae y gweithfeydd alean drwy yr holl adran. hon yn weddol fywiog. Y mae adran ABERTAWE, yn ei sefyllfa fasnachol, yn parhau i ddyfod yn well o wythnos i wythnos. Mae yr allforiadau o lo a patent fuel yn cynyddu. Mae y trosforiadau mewnol yn weddol luosog hefyd. Mae cais am longau i lwytho- ,torap-tron a hen reiliau i Efrog Newydd, a chynygir huriau o 10s. i 10s. 6c. y dunell. Mae yma welliant graddol mewn masnach yn ystod y tri mis diweddaf. Mae mas- nach yr haiarn drwy yr holl adran yn. dangos arwyddion o welliant o ddydd i ddydd. Mwy o fywiogrwydd wrth y gweithfeydd, a gwell ceisiadau o lawer, er nad oes cynydd gweithredol yn y prisoedd. Mae gwneuthuriad dur yn Glandwr yn llawn cymaint ag arferol, a'r prisoedd yn well. Y gweithfeydd alcan mewn sefyllfa dda, a'r melinau yn gweithio yn rheolaidd. Masnach y glo yn dangos arwyddion o welliant. Yn adran CAERDYDD, mae yr allforiad o lo yn lleihau; ond nid yw y cliriadau allan lawer yn llai ar gyfar- taledd. Allforiwyd yr wythnos ddiweddaf, i wledydd tramor, 78,531 o dunelli o lo,. 2,564 o dunelli o haiarn a dur, a 1,749 o* dunelli o batent fuel. Gwell gweithio yn gyffredinol yn y gweithfeydd glo, er fod thai pyllau mawrion yn Nghwm Rhondda- nad ydynt yn gweithio yn awr mwy neib dau neu dri diwrnod yr wythnos. Mae. gweithfeydd alcan yr adran hon yn weddol fywiog, ond y mae tuedd gostwng yn y prisoedd. MASNACHDEITHIWB.
Glofeydd Caerffili.
Glofeydd Caerffili. Dywedir fod glofeydd yr ardal hon yn awr- yn gweithio eu hamser yn llawn, er ys rhai misoedd ond nid oes codiad eto yn mhris y glo, er fod disgwyliad y cymer hyny Ie: dechreu y flwyddyn ddyfodol.
Golygfa Boenus yn MhontypooL
Golygfa Boenus yn MhontypooL Yn Ilys yr heddgeidwad Pontypool, dydd Mercher y lOfed o'r mis hwn, cyhuddid dynes ienanc o'r enw Hannah Aubrey, yr hon a ymddangosodd gyda phlentyn mis oed yn ei breichiau, o ladrata JE3 10a. 5^. oddiwrth Frederick Buckley, Union Inn, Abersychan. Addefai hi iddi gymeryd yr arian, a dangos- odd yr allwedd i'r heddgeidwad gyda pha un yr agorodd y blwch. Gofynai yr erlynvdd i'r fainc fod yn dirion wrthi ar gyfrif ei chymeriad da yn flaenorol. Dedfrydwyd hi i fis o garchar. Yna, torodd hi allan i lefain, gan waeddi 0 mam, mam." Gofynodd ei mam mewn teimlad drylliog i'r Ifaino am ganiatad i fyned i'r carchar yn lie ei march, ond gwrthodwyd ei chais.