Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

.-Ebion o'r Qgof.

News
Cite
Share

Ebion o'r Qgof. CAFWYD ymgomio brwd yn mhlith plant yr Ogof ar nodweddion Eisteddfod Dalaethol y De. Y fara oedd y dyJid cyflogi y beirniaid, a thalu iddynt yn anrhydeddus, fcIna. byddai iddynt gael un esgus dros gystadlu. Dylid cadw sectyddiaeth y tuallan i'r cylch yn holl- ol, a gosod y ffrwyn yn ddigon tyn ar war Seisnigyddiaeth, er mwyn bri ac anrhydedd yr Eisteddfod fel cynulliad cenedlaethol. DAETH ymwelydd a Llai, y Wlad yn ei law, a gwelwn ynddo fod Clywedog alias Tudno yn bwrw ei boer ar y Gwyn o Essyllt am feiddio dweyd ei farn ar ddyfarniad Cad air y -ordofigion. Pan yn darllen am- bell ffrvvgwd Eisteddfodol, daw adgof am yr anfarwol Cynddelw o flaen llygaid y ipeddwl fel un o feirdd-feirniaid goreu ein gwlad. Cafodd yr ysgrifenydd wobr ganddo pan nad oedd oud hoglanc bychan, felly fe faddeua y dariienydd i mi am feddwl yn uchel ohono. Mwy na hyny eto, ni chlywais neb ond Gwer- fyl yn rhegi Cynddelw, pan gollodd y wobr yn Mhontypridd ar Draethawd y "Beibl," pryd y barnwyd Gwaleh yn fuddugol ar y fintai Jackyddol. Er ei farw, y mae efe eto yn fyw yn ei weithiau, a chedwir ei goffadwriaeth mewn adgof anwyl gan filoedd o Gymry y tu yma a tliudraw i'r Werydd. 'Dyn ei genedl a'i wlad y bu ef trwy ei fywyd, ac aeth i'w fedd a'i gymeriad fel y papyr gwyn. GOBBITHIO y cymer y pwyllgor yr awgrym i gadw pob peth uwchlaw y bwrdd, fel na byddo achos grwgnach ar ol yr Wyl. GRESYN nad allai wythnosolion Cymreig fodoli heb chwilota o newyddiaduron Ameri- canaidd, ac heb gymaint a. chydnabod hyny, er mwyn ymddangos o flaen y byd yn fwy na'u cyfoedion o dan fantell ffug. Ffei! blentyneiddiweh llenyddol a thylodi o r fath. iselaf i'w gofrestru ar dudalenau hanesydd- iaeth Gymreig. Mae y cyfeillion hyn yn fwy o wrthddrychau tosturi na dirmyg am hyny, gadawer iddynt yn llonydd i ddihoeni yn naturiol a marw yn dawel o drwst y byd. Rhaid i'r byd redeg ei gwrs, a ninau gael ein cario o flaen y llifeiriant i for y dyfodol, ac odid na fydd i ni gael ein hunain mewn rhyw hydred neu gilydd ar dfaethell y byd mawr, lie na bydd trythill na stondin i ddal llygred- igaethau dynolion. Hwyrach bydd y Behe- moth ar gael yn rhyw gongl neu gilydd. BRYSGENAD wedi dyfod i law fod Eistedd- fod Treffynnon wedi myned i'r clawdd, heb obaith am ailgyfodiad. Cynygiwyd y swydd- ogaeth o ysgrifenydd i Mr. Dan Rhys, gynt o y papyr swyddfa hwn ond pan welodd nad oedd un gobaith am lwyddiant yr Eisteddfod, efe a wrthododd yr anrhydedd, abellachmaey drychfeddwl yn mhlith y pethau a fu. Nych. dod penaf y sefydliad ydyw y cynulliadau yn y Dehau a'r Gogledd. Nid yw rhifedi y genedl ond byehan mewn cymhariaeth i gen- edloedd ereill; felly, byddai un cynulliad blynyddol yn fwy dymunol i ateb amgylch- iadau y werin, a dylid gwneyd y cyfryw fel hen Eisteddfodau y Fenni, er mwyn hawlio cefnogaeth eyffredinol o Gaergybi yn Mon hyd Gaerdydd yn Morganwg. BETH sydd i ddyfod, tybed, o'r byd mas- nachol? Mae pob peth yn ddigon cymylog ar hyn o bryd, ond gall y sylweddolir yr hen ddiareb cyn hir-" Tywyllaf y nos agosaf y wawr;" a chan fod y nos fasnachol wedi teyrnasu cyhyd, mae lie cryf i ddysgwyl am godiad yr haul. MAE rhyw ebychiad yn y Drych yn dangos ei ddanedd ar fy hen gyfaill Gwalch Ebrill, am ei fod wedi bod mor ffodus a chipio gwobr yn un o Eisteddfodau y Dalaeth. Y truan bach, gwell iddo ddysgu adnabed ei hun cyn ymoflod ar gyfaill a brawd mor hunanymwad- ol. Gesydy corach ymchwyddedig yr enw Eryr" wrth gynffon ei dipyn ysgrif ond nid yw yn gallu ehedeg yn uwch na llwyd y berth. Estyned y Gwalch fonclust iddo, .fel y gwypo yn y dyfodol nad eiddo pob corgi ei ffordd yn y byd llenyddol. Ai gwir fod y cyfaill Watcyn Wyn wedi cael cynyg myned yn drafnodwr dan y llyw- odraeth Arianin yn Mhatagonia? Os ydyw yn myned, deued am dro i lanau Dar a Chynon, a chaiff bob croesaw gan ei gyfeill- ion yn yr Ogof. Gall y bydd Carnelian wedi gorphen perffeithio y flying machine cyn y oychwyn os bydd, fe ga Watcyn fyned ar adenydd i'r fro fras, heb fyned ar hyd yr hen lwybr mewn agerlong. Ofnwyf mai main iawn fydd hi yno arnat, os gwir a ddywedir am nodweddion y wlad. Cofia am danom wedi y disgynot y tu arall i'r nant. CYFEIRIED golygydd y Drych ein cofion cynesaf i Lewys Roberts, Bellevue, a dy- weded wrtho nad yw yn barnu yn umongred am ffydd wleidyddol y GWLADGARWR a'i oheb- wyr. Gwir fod ambell i Philistiad yn dyfod i'r gwersyll ar dro, ond pell ydym o fod yn Amaleciaid i gyd.—Yr eiddoch yn werinol, MEXTDWY 0 GRAIG Y MYNACH.

ABERDAR.

CWMBACH..

CEFN-COED-Y-CYMER.

i CRWYS.

HENDRE, LLANDYBIE.

---..-CAERFFILI.

PONTARDAWE.

PONTYEATS.

CAERFYRDDIN.

LLITH O'R DERI.