Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
Goreu arf, arf dysg." Llandybie, ger Llanelli. CYNELIR EISTEDDFOD FAWREDDOG yn y 11. uchod dydd GWENER, Mehefin 13eg, 1879, mewn jiabell eang a chyfieus. Beirniad y Ganiadaeth :-0. EMLYN EVANS, Ysw. (Beirniad y Farddoniaetk i'w nodi eto). PIUF DESTYNAU I'r cor, heb fod dan 100 o rif, a, gano yn oreu, "And the glorv of the Lord" (Handel); gwobr, 20p. I'r cdr, heb fod dan 40 o rif, a gano yn oreu, Clyw o Dduw fy llefain (D. Jenkins, M.B.C,); gwobr, 5p. I'r Brass Band a chwareuo yn oreu yr Halle- 'lujah Chorus (Handel); gwobr, 5p. I'r cdr, heb fod dan 30 o rif, a gano yn oreu "Y Ffrwd (G-. Gwent); gwobr, 3p. 2p. Am y Bryddest oreu all" Heddwch;" gwobr,2p. Am y Traethawd goreu ar "Gydraddoldeb;" gwobr, Ip. 10s. Cynelir CYNGHERDD" MAWREDDOG yn yr hwyr. Bydd y programmes, yn cynwys yr holl fanylion peilach, yn barod eibyn Ebrill laf, ac i'w cael am y pris arferol gan yr Ysgrifenyddion,— W. MANSEL JOB, Summit Hill, Llandybie, a EVAN MORGAN, Shoemaker, Llandybie. 2063 Ebbw Vale Institution Eisteddfod- MONDAY, APRIL 28TH, 1879. Adjudicator of Music,-Mr. REES EVANS (Leader of Aberdare Choral Union); Poetry, Rev. J. GWRHYD LEWIS, Bargoed. Chorus (Congregational Choir) Their sound is gone out" (Messiah, Novello sEdition); prize, 8p. Sailor's Chorus "Codwn Hwyl" (Dr. Parry), for a Male Voice Party of 8 in number; prize, Ip. Essay (English or Welsh) "Achosion o'r tlodi presenol" (Causes of present distress) p/ize, 15s. Fer further particulars see programmes to be had of Mr. METH LEWIS, 1, Queen Street, 2062 Victoria, Ebbw Vale. WANTED, IN the neighbourhood of Aberdare, a MAB IIIED CO (JPLE (man already having some engage- ment, and wife a GOOD plain Cook) to live in part of business house, take care of same, and attend upon two gentlemen. Boy kept. Letter, only stating references, &c., to — B., GWLADGARWR Office, Aberdare. 2064. Matrimony. A YOUNG MAN (27)—English, going to a farm in North America immediately, wants a wife to accompany him; must thoroughly under- stand farm work, and be of a lovable disposition, and have means at command. Please address— E. P., GWLADGARWR Office, 2061 Aberdare.
--..-----RWRDD Y GOLYGYDD.
RWRDD Y GOLYGYDD. YSGRIFENA Harri Ddu atom yn nghylch beirniad- aeth Dewi Alaw fel y canlyn "Wrth ddarllen beirniadaeth Dewi ar rai o'r cyfansoddiadau, canfyddais fod rhyw frawd wedi dodi fy ffugenw i wrth ei gyfansoddiad gwaUus, pa rai, yn wir, sydd yn rhy luosog i'w nodi allan, yn ol tystiol- aeth y beirniad. Nis gwn beth oedd ei amcan os nad dangos i'r wlad nas gallaswn ysgrifertu Uinell yn briodol yn iaith fy mam, neu ynte, nid oedd ond llafurwr newydd ar y maes llenyddol, ac ni wyddai am danaf; os felly, pob llwydd iddo ddringo bryn enwogrwydd. ond gofaled o hyn allan i beidio cymeryd ffugenw unrhyw fardd neu lenor adnabyddus pan yn cysta llu, os byw yn y dyfodoL—Yr eiddoch yn wylaidd, JOHN HARRIS (Harri Ddu), Aberafon." DYMUNWK hysbysu y sawl sydd mewn amheuaeth nad yr un yw Dic-Shon Dafydd y cyfeirir ato gan Veritas a J. H. P. ag ysgrifenydd Yr Ysgrafell." WEDI eu gorfodi i gael eu gadael allan oherwydd diffyg gofod, eiddo J. H. P., B., Dic-Shon- Dafydd, Undertaker cyfan. DERBYNIWYD-Aderyn y t6 (Penderyn), Llythyr o America, Nid Index, Aelod (Tonypandy), Iago Geler, Cato, Abas, J. T. Lloyd, Pickwick, Orlando, Anwybodus, Gohebydd (Arthog), Aderyn y t6 (Ynysddu), M. 'Evans, Gohebydd (Ystrad, Rhondda).
.YSTRANCIAU MASNACHOL.
YSTRANCIAU MASNACHOL. RIIYFEDD yw y cynllunio a.'r dyfeisio sydd gan rhai masnachwyr, yn neillduol felly y dosbarth. hwnw ohonynt a elwir yn grocers, er ceisio hudo dynion diniw- aid i brynu eu nwyddau, ac er iddynt hwy eu hunain gael gwneuthur arian, ac ymgyfoethogi, serch i'w i bawb masnach- wyr ereill newynu mewn canlyniad nid oes diwedd ar ffurfio ac ymarfer y cyn- lluniau mwyaf ystrywgar ac hocedus, er mwyn cyrhaedd eu hamcanion hunan- garol ac annheilwng y rnae yn resynus i'w feddwl fod y fath ddynion rheibus a diegwyddor yn y modd hwn, yn march- ogaeth ar gefn y gweithiwr caled, ac elwa ar anwybodaeth y werin, drwy eu twyllo i gredu eu bod hwy yn gallu rhoddi iddynt fargenion mwy na neb arall. Canys, wele (!) y mae ganddynt hwy famed, tebot, Uyfr, spectol, ac yn amlfochyn 'i'w rhoddi yn anrheg gyda'r pump, deg, neu ddeuddeg pwys o de a fyddo'r cwsmer yn ei brynu—ond yr hon, mewn gwirion- ionedd; pe gwybyddai y cwsmer, y mae efe, druan, yn gorfod talu yn (fdrud am dai, yn ««»</ israddol y pwys te y mae yn ei brynu. Trueni na byddai y pryn- wr yn ymresymu tipyn ag ef ei nun, a o-ofyn o ba le y gall y te-werthwr hwn, mwy na rhyw de-werthwr arall, fforddio rhoi y fath anrhegion gyda ei nwyddau nid oes ganddo ond yr un manau i brynu ei de yn gyfanwerth, ag sydd gan siop- wyr ereill, ac nis gall ei brynu un ffyrling y pwys yn rhatach; wel, yn mha le ynte y mae y dirgelwcb yn bod ?—yn ansawdd y nwyddau a. brynir, fel ag y mae llawer un wedi gorfod deall pan aethant i wneyd y prawf ohonynt. Oredwsh fy ngair, weithwyr, mai rhyw genteel, but safe way of robbing, yw yr holl ffug-fargenjon sydd gan y Cheap-Johns hyn, un ac oil ohonynt —siwgr ar wyneb y bilsen er mwyn eich denu i'w llyncu-efelychiad o'r pren derw a'r pren mahogany ar y dodrefnyn pren deal-ymenyn wedi ei rwbio ar grofen cosyn "skim," neugilt ar bapyr Ilwyd Y rheol gyffredin gyda y Cheap-John hyn yw, fod yn rhaid i chwi brynu hyn a hyn 0 bwysi o de, cyn y bydd yr anrheg i gael ei rhoddi, fel y gallont hwy gael He i dynu pris yr anrheg i fewn yn quantity, yn gystal ag yn quality y te; canys, heb- law fod yn rhaid i'r quality fod yn ddrwg. bydd yn rhaid fod hyn a hyn o quantity hefyd, cyn y gellir cael pris yr anrheg yn rhydd; felly, rhwng fod y quality yn is- raddol, a'r quantity wedi cyrhaedd marc neillduol, bydd yr anrheg yn rhydd yn yr elw; a'r dyn, druan, yn gorfod talu yn ddiarwybod iddo, am anrheg nad oedd arno un gronyn o wir angen am dani, ac fel hyn yn talu ei arian am beth nad oedd arno ei eisieu, a thrwy hyny yn gorfod bod heb y peth ag oedd arno wir angen am dano. Rhoddwn yn y fan hon enghreifftiau o'r modd y mae y ffug- fargen-roddwyr hyn yn dwyn eu twyll a'u hud oddiamgylch :—Yn gyffredin, bydd papyr yn ffenestr y siop yn hysbysu y bydd mochyn gwerth deg swllt yn cael ei roddi yn y fargen i bwy bynag a bryno ddeuddeg pwys o de ay prynwr i mewn i r siop, a gofyna am y deuddeg pwys o de, a bydd i'w gael, ond ar yr amod fod y te i fod yn 3s. 6c. y pwys. Yn awr, dyma „ j F £ s. c. £ s. c. 12 pwys o de am 3s. 6c. y s. t_, s. c. Pwys yn dyfod i'r swm o. 2 2 0 Cyst y 12 pwys te i'r siopwr 2s. y pwys 1 4 0 Cyst y mochyn 10s. 0 10 0 -.——— 1 14 0 Enill i'r Siopwr 0 8 0 Fel hyn, chwi a welwch y bydd gan y Cheap-John wyth swllt o elw ar ol talu am y te a'r mochyn canys ni fydd y te a gewch ganddo ef am eich 3s. 6c. ond yr un te ag a gewch am 2s. y pwys gan bob siopwr parchus a chyfrifol arall; ac fel hyn, fe wely cwsmer ei fod ef wedi talu am ei fochyn, yn nghyd a rhoddi icyth swllt o elw i'r Cheap-John, allan o quality y te y mae efe wedi ei brynu. Yn awr, ddarllenwyr anwyl, credwch fy ngair,—y mae y triciau a nodwyd yn ffeithiau di- ymwad. Dull arall o dwyllo neu dynu pobl i fewn." gan rai siopwyr, nad ydyw yn gredyd yn y byd iddynt, eu bod yn gwneyd felly, ydyw gwneuthur pwys o siwgr am lai na'r pris, a gostiodd, er mwyn denu pobl i gredu eu bod yn gwerthu pob nwydd arall yn rhad yn yr un modd; ond gydag hyn o clause, sef fod yn rhaid i'r cwsmer brynu dwy wns o de gyda'r pwys siwgr; er enghraifft:— 1 pwys o siwgr gan y siopwr twyllodrus am 3c. 2 wns ode am 4c. — 7c. 1 pwys or un rhyw siwgr gan y siopwr goriest am 3|c. 2 wns o'r un quality o de am 3c. 1 6:ïc. Enill i'r siopwr twyllodrus 0|c. Gwelir fod y siopwr goriest yn gwerthu yn rhatach o ddimai yn y ddau nwydd uchod, nag y mae y siopwr twyllodrus yn y diwedd; ac felly, anwyl ddarllen wyr, y cewch ei bod gyda phob'math arall o nwyddau wrth ddelio a'r siopwr gonest; ac mi a'ch cynghorwn i-fyned bob amser at y siopwr gonest ac anrhydeddus, canys byddwch yn sicr o gael gwerth eich harian ganddo ef, yr hyn ni chewch gan y twyllodrus.
Eisteddfod Gadeiriol Deheudir…
Eisteddfod Gadeiriol Deheudir Cymru. Dydd Sadwrn, y laf eyfisol, cyfarfyddodd pwyllgor yr Eisteddfod uchod yn Nghaer- dydd, i'r dyben o gwblhau y rhagdrefn tes- tynol, yr hwn a gyhoeddir yn fuan. Myn- egodd y cenadon a apwyntiwyd i ymweled &g Undeb Corawl Aberdar o barthed y cytun- deb a hwynt i ganu Blodwen, fod y.cor hwnw yn gadael yr achos yn Haw pwyllgor yr Eisteddfod yn gyfangwbl. Yna penderfyn- wyd derbyn cynygiad Cymdeithas Gorawl ac Offergerddawl Caerdydd i gyflawni y Creation yn rhad mewn un gyngherdd hwyrol. Yr oeddynt hwy wedi arnlygu eu bwriad i beidio cystadlu am un o'r gwobrau. Derbyniwyd hysbysiad oddiwrth Col. Tynte, yn mynegu y rhoddai ef wobr o bum' gini am y traethawd goreu, yn Gymraeg neu Saesneg, yn dangos "Y priodoldeb o gadw y Gymraeg, nid yn unig er mwyn cadarnhau cenedligrwydd Cymreig, eithr hefyd i'r dyben o gynorthwyo myfyrwyr Seisnig i egluro gairdarddiad neu dadogaeth llawer o eiriau yn eu tafodiaith eu hunain, amryw o ba rai ydynt ranol, a rhai yn gwbl darddedig, o'r Gymraeg." Dymunai y pwyllgor gyflwyno eu diolchgarwch gwres- ocaf i Colonel Tynte am ei haelioni a'i destyn addas. Gan nad ydyw y pwyllgor wedi der- byn unrhyw gefnogaeth oddiwrth gyfeiltion ac edmygwyr y diweddar Mathetes, pender- fynwyd peidio cynyg mwy na deg gini am draethawd bywgraffyddol ohono. Beirniaid y traethawd hwn ydynt y Parchn. E. Roberts, Pontypridd, ac E. Davies, Rhymni. Deg gini hefyd yw'r swm a gynygir am bryddest ar ol y diweddar Islwyn. Penderfynwyd fod y rhagdrefn i gael ei gyhoeddi yn Gymraeg it Saesneg. Hefyd, fod y pwyllgor i ohirio ei gyhoeddiad am fis, ac- yn y cyfaaiser fod y prif bethau yn y rhagdrefniant i gael eu cyhoeddi yn mhapyrau dyddiol Caerdydd. Awgrymwyd gan rai o'r pwyllgor fod corau mawrion yn cael eu ffurfio mewn amryw fanau, ac wrth bob tebyg bydd y brif gys- tadleuaeth gorawl yn un galed. Mae y si allan fod Cor buddugol Eryri yn bwriadu dod i gystadlu. Diolchwyd yn gynes i Mr. Rosser am ei fedrusrwydd fel cadeirydd.
- -------- --Tanchwa Abercarn.
Tanchwa Abercarn. Mae yn wir flin genym orfod cofnodi pen- derfyniad perchenogion glofa, anffodns Aber- carn, i beidio myned yn mlaen yn mhellach ag ymchwiliad am gyrff y dynion hyny a. Ia.dd- wyd trwy y danchwa ddychrynllyd a gymer- odd le yn ddiweddar. Mae y penderfyniad hwn o eiddo y perchenogion, mor'afresy mol, annynol, ac annghristionogol, fel ac yr ydym yn rhy ddolurus a chyffrous ein tymerau, i anturio i wneuthur unrhyw nodiadau ar y fath ymddygiad dideimlad, ac annaturiol, amgen na gesod vma gerbron ein darllenwyr lluosog, y llythyr canlynol oddiwrth Mr. Macdonald, A.S., yr hwn a ysgrifenodd at Mr. Thomas Harris, o Abercarn Ty y Cyffredin, Chwef. 20fed, 1879. ANWYL SYR,—Chwi a welwch yr atebiad a gefais gan yr Ysgrifenydd Cartrefol, nos Lun, o barthed i berthynasau y dynion tlodion 'nawr ydynt gauedig yn nglofa anffodus Abercarn. Mae atebiad y perchenogion yn cauad allan un- rhyw obaith am agoriad y lofa, er cael gafael yn y cyrff. Penderfyniad gresynus a dideimlad y mae ef wedi dyfod iddo, a dichon fod eu harian hwy wedi darfod, neu ddichon fod eu trysor. feydd wedi eu dihysbyddu cymaint, fel nas gallant gario yn mlaen yr ymchwiliadau ond yn ddiau, os mai hyn yw eu gwir sefyllfa, a wna gwlad a gyfenwa ei hunan yn Gristionogol, ac a hawlia ddynoliaeth, ganiatau hyn ? Chwi a welwch i mi ofyn i Mr. Cross os oedd ddim un gyfraith ar yr achos, neu a fuasai ef yn dyfod ag Ysgrif i wneuthur darpariaethau i gyfarfod a'r fath amgylchiad ? Ei atebiad ydoedd Nad oedd." Mae sefyllfa bresenol ein mwngloddwyr, ac edrych arno o safle neillduol, yn un dorcalon- us iawn. Yn ol cyfiaith y wlad ffurfiedig gan y barnwyr, y mae ef yn cytuno am y gyflog wael o ddau neu dri swllt y dydd i gael ei chwythu yn yfflon ac yn mhellach, yn amodi nad ydyw y perchenogion ddim yn rhwym o gasglu yn nghyd y darnau hyn i'w rhoddi i ddwylaw perthynasau galarus. Unrhyw beth mwy dideimlad, un- rhyw beth mwy dieflig, nis gellir ei ddychym- ygu. Atolwg, mynegwch i'r amddifaid tlodion y chwenychwn i chwi gyrhaedd fy nymuniadau goraf. Yr wyf wedi gwneuthur yr holl a allasem tuag at gyrhaedd iddynt weddillion eu hanwyl- iaid y mae yr ymdrech yn ofer, ac a fydd felly hyd nes y clywir llais y gweithwyr, eu gwrag- edd a'u plant yn codi i fyny yn mhell uwchlaw bryniau eu gwlad—yn croch lefain allan na fydd iddynt i'w oddef, nes y byddo eu llefain yn llanw pob cwm—ac hyd nes y byddo un waedd gyffredinol i'w chlywed trwy Dde a Gog- ledd Cymru—y Midlands, Gogledd a Gorllewin Lloegr, a thrwy yr Alban yr un modd,—os chwychwi a ddinystriwch ein hanwyliaid, fod yn rhaid i chwi i adferyd i ni eu gweddillion. — V r eiddoch yn ffyddlawn, ALEX. MACDONALD. Mr. Thomas flarris. 4
Tanchwa y Ddinaa.
Tanchwa y Ddinaa. RHAI O'R CtRFF WEDI EU CAEL. NERTH ARUTHROL Y FFRWYDRIAD. Ar ol ysbaid o weithio cyson, a di-ildio, y mae llafur ffyddlawn yr ymchwilwyr dowrion wedi ei goroni a llwyddiant. Deuwyd o hyd i gorff un o'r cysylltwyr (hitchers) tua un o'r gloch, dydd Gwener. Yr oedd yn gorwedd odditan y cawell, pa un a orcbuddiai y corff. oil oddigerth y cluniau. Yr ,oedd y truan wedi ei anafu cynddrwg, fel mai wrth ei ddillad yr adnabyddwyd ef. Ei enw oedd John Griffiths, ac efe oedd y diweddaf a ollyngwyd i lawr i'r pwll ar noson y ddam- wain. Gellir dychymygu am nerch y flrwydr- iad pan ddywedwn fod y cawell wedi ei godi i fyny amryw droedfeddi oddiar y gwaelod, a'r trams wedi cael eu chwythu oddiar y dram- wyfa i lawr i'r suddfa odditano. Cafwyd j corff arall dydd Sadwrn, yr hwn a adwaen- wyd, wrth ei glust-fodrwyau, mai William Jenkins, cysylltwr, ydoedd. Dydd Sadwrn, y laf eyfisol, yn y Butcher's Arms, Penygraig, agorwyd trengholiad rhag- arweiniol gerbron E. B. Reece, Ysw., treng- holydd, a'r rheithwyr canlynol :—Meistri D. Jones (Graig Ddu), blaenor, David Davies, William Williams (stationer), D. ,W. Davies (draper), Thomas Naunton, R. T. George {draper). R. F. Richards, Thomas Richards, Thomas Williams, R. L. Smith (Homo Ddu), W. Howells, W. Rees, Parch. J. R. Jones, Parch. T. Quayle, Mri. H. Llewellyn. Edward Jenkins, Edward Meredith, Hopkin Knill, a Richard Cook. Ar ol ymweled a'r cyrff, a gwrando tystiolaeth y sawl a'u cawsant, gohiriwyd y trengholiad hyd 10 o'r gloch, y laf 0 Ebrill, pryd y dysgwylir y deuir o hyd i'r rhan fwyaf o'r cyrff, ac yn y cyfamser galluogir Mr. Wales i archwilio y mwnglawdd. Mae gwraig Esgob Llandaf wedi danfon sypyn o ddillad i Mrs. Ishmael Williams, idd eu rhanu rhwng y gweddwon a'r plant. Dydd Sul, rhyddhawyd y cawell, a chaf- wyd ef i'r lan i'r wyneb, ond nid heb ei ddarnio yn yfflon. Heddyw (dydd Llun), tra yr oedd y glan- wyr (bankmen) yn dadlwytho y bwced, cawsant law dyn yn yr ysbwriel.
Rhyfel Zulu.
Rhyfel Zulu. YMWELIAD BWRIADEDIG Y TYWYSOG YMHERODROL A MAES Y RHYFEL. BANER Y 24TH WEDI EI CHAEL. Dydd Mercher, y 26ain cyfisol, yn Ports- mouth, byrddiwyd y 58th gatrawd o wyr traed, ac yn Southampton byrddiwyd y 94th gatrawd a'r 17th Lancers. Cafodd y milwyr eu llongyfarch yn galonog gan y lluaws pobl. Dydd Iau cychwynodd y ddosran gyntaf o Feirch-filwyr tua maes y rhyfel. Cymerwyd a'r fwrdd yr ageriong Spain (o dan arolygiad y Tywysog Edward o Saxe Weinar), rhan o'r 1st Dragoon Guards, pa rai a ddaethant o Aldershot. Plymouth, prydnawn dydd Mercher, y 26ain eyfisol, cyrhaeddodd yr agerlong Asiatic (perthynol i'r Union Company) y porthladd hwh, ond nid oedd eu newyddion n fawr pwys a dyddordeb. Cychwynodd adref- ar y 29ain 6 Ionawr, dau ddiwrnod ar ol y Dnnrobin Castle yr hon a ddaeth a'r newydd am yr aflwydd mawr, a chwech diwrnod o flaen yr American, yr un a ddy- sgwylir yma y fory. Fe ddywedir nad oes terfyn ar ryfeddod- au, ac un o'r rhyfeddodau diweddaf ydyw fod un o'r Napoleons yn ymresu yn wirfoddolwr yn myddin Lloegr. Cychwynodd allan y Tywysog Ymherodrol Ffrengig (mab y diweddar Louis Napoleon) yn yr agerddlong Danube prydnawn y 27ain eyfisol, i faes y rhyfel Zuluaidd. Yr oedd 218 o'r 3rd Batt. o'r 60th Rifles yn yr un Llong a'r Tywysog. Mae Mr. Francis Melville, o Ethy," Los- twithill, wedi derbyn telegram, trwy Madeira, oddiwrth swyddog llywyddol Catrawd y 24ain, yn Maritzburg, yn ei hysbysu fod corff ei fab (Lieutenant Melville) wedi el gael A baner y gatrawd yn ei gol, yn yr ymdrechfa i gadw pa un y collodd ei fywyd."
..,Affghanis tan.
Affghanis tan. MARWOLAETH SHERE ALL CYNYGIADAU HEDDYCHOL. YMOSODIAD AR WARCHODLU Y CAD- FRIDOG BIDDULPH. Y GELYNION YN ORCHFYGEDIG. Y llythyr isod a ddanfonwyd o'r Swyddfa Indiaidd i'w gyhoeddi:— Oddiwrth y Rhaglaw, Mawrth laf, 1879. Y llythyr canlynol a dderbyniwyd oddiwrth Yakoob Khan, dyddiedig y 26ain o Chwefror Oddiar fy llythyr diweddaf, cyrhaeddodd y newydd o Cabul, ar y 26ain o Chwefror, am farw- olaeth fy nhad ar yr 21ain o Chwefror. Gan fod fy nhad yn hen gyfaill i'r Lywodraeth Brydeinig, danfonwyf hysbysiad o hyn oddiar gyfeillgarwch. Dymunwyd ar gludydd y llythyr (yr hwn sydd yn nai i Shaghasi Shirdil Khan) i fyned âg ef mor fuan ag yr oedd yn bosibl., CALCUTTA, dydd Sul.—Derbyniwyd Ilythyr gan Arglwydd Lytton oddiwrth Yakoob Khan, dyddiedig Cabul, Chwefror 20fed, yn rhoddi cynygiadau am adnewyddiad cyfathrach gyf- eillgar a'r Llywodraeth Brydeinig. Dywed gohebydd y New York Herald, 0 Tashkend, ei fod wedi cael ymweliod a Phrif- weinidog yr Ameer, ac. iddo i ofyn i'r Prif- weinidog pa beth ydoedd amcan ei gehadwri. Ei atebiad oedd mai i ofyn cynghor Rwsia ydoedd, ac y buasai yr Ameer yn eanlyn y cyfryw gynghor yn hyderus ac os ydoedd yr Ameer wedi maiw, mai Yakoob Khan fuasai ei ganlynydd, yr hwn oedd yn berffaith hysbys o ddyben y genadaeth, ac y buasai ef, o barch i'w dad, yu siwr o lynu wrth eu cyt- u deb. Os y cynghorai Rwsia heddwch, y buasent yn gwneyd heddwch; neu, os na chynghorai Rwsia heddwch, y carient yn mlaen y rhyfel, gan gredn y buddugoliaeth- ent mewn amser. Telegram oddiwrth y Rhaglaw, dyddiedig y 3ydd eyfisol, a ddywed :—" Hysbysa Stewart fod ol-fyddin Biddulph, Third Sind Horse, pan ar daith ddych weliadol o Girishk, wedi cael eu ymosod arnynt, yn Kushi-I- Nakud, gan o bymtheg cant i ddwy fil o'r Alizai Duranis. Gyrwyd y gelynion i ffwrdd gyda cholled amcan-gyfrifol o 150 o laddedig- .Y ion, a dilynwyd hwynt hyd wyll y nos. Ein colled ni oedd Major Reynolds a phump o'r :owariaid wedi eu lladd. Y mae Colonel :\Ialcolmson ac un-ar-ddeg o'r Sowriaid wedi cael eu clwyfo. <
'.\ MfV.V PRIODAS.
MfV.V PRIODAS. Mawrth 3ydd yn swyddfa y cofrestydd yn Merthyr, Mr. William Thomas, engine-driver, a Miss Margaret Edward (merch henaf Mr. Williiun Edward, Gadlys Street), y ddau o Aberdar.
MARWOLAETHAU.
MARWOLAETHAU. Chwefror 16eg, ar ol pymtheg wythnos o gystudd, yu hynod o amyneddgar, Mary, anwyl briod Mr. T< Pritchard Evans (Collwyn), Ystrad Mynach. Claddwyd hi y dydd Gwener canlyn- ol yn Mynwent Bethania, Ystrad Mynach, lie yr oedd yn aelod er's llawer o flynyddau. Yr oedd yn ferch i'r hen lenor parchus, Mr. T. Thomas, Bedwallt, ac yr oedd yn Ysgrifenydd Cymdeithas Mynwent y Crynwyr a chafodd ei urddo ar y Maen Chwyf," o dan yr enw Eos Elian, yr un pryd a Gwenynen Gwent. Chwefror 19eg, yn 66 mlwydd oed, yr hen frawd parchus, Rees Lloyd, Blaenafon. Cafodd ergyd gan y parlys ryw bedwar mis yn ol, yr hyn a'i analluogodd i ddilyn ei alwedicraeth braidd, hyd ei fedd. Bu yn gweithio °ddau ddiwrnod cyn ei farwolaeth. Yr oedd llawer o bethau yn y trance dig yn teilyngu eu cofio a'u hefelychu. Bu yn aelod gyda'r Methodistiaid y?/enU0l. am flynyddoedd lawer. Sylweddol- odd enw ei enedigol sir, sef Caredigion, trwy ei fywyd. Heddwch i'w lwch hyd ddydd yr ad- gyfodiad.—Samuel Davies,
Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwch…
Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwch yr hyn sydd Wir. GWILY>I E FANS' Qt I.< Vi. !ITT I V Iitlii 1 Hl i- TONI "V"N nhywvd'.i a H-.vivr» y par- fyddogy corff ey«v»n ar yn thvfrhautarwy WTO- DID CORFKOR-L O U"I';IJwt.ath,. neu Oii iiau y meddwl, d -A, i drio v F'l>l)YaiW« IABTH ARDDKBOHUG !J N -.faJer "fvn tr- QUi, NINE BITTBHS • JVVILVM KVANS," mewn potelau v Xn.eM '\e- l'' "'d Quinine Powders neu rhyw Quinine Mixt»'e eiddo y druggist ei hun. Ar werth yn iiihoi) t"c.T Rhoddwn yma Dyatiol- aethau a dderbyniwyd vr wvtuiios hon. \'id yd- yw y perchnnog yn eu hadiiabod vn bergonol. ond cred eu bed yn ddynioa parchus yn eu hardaloedd eu hun in. Gelur cael. pellacl. oddiwrth- ynt hwy, os bydd AttgeD 5, Dolrbedyn IVrrace, Tanygrisiau, Ffestiniog, Gojfiedd Cymru. Meliefin 26ain 1S78. ANWYL SYR,—Yr wvf wedi cael fy llwyr well- hau wedi bod yn dyoddef poenau annesgrifiadwy y diffyg treuliad atn bymtherf mlynedri." Gan fv mod wedi gwneyi prawf ar bob meddvglyn y clywais son am dauo. yr oeddwn wedi 11 wyr o-redu nas cawn esmwytltdn byth, ond cymhellwyd fi i dreio, fel dyfais diweddaf, eich QuinineBifcterV. Yr oeddwn yn c.el fy mlino gan boenau angherddol rhwng fy YMWYltdau, yn fy mreet, yn fy mben. no yn taflu i fyny rhvw fSadredd glydiog. chwerw, melynwyrdd, rhv wr-thwynebus i'w ddesgriSo. Iselder ysbryd a diffyg ymbonh oeddent elynicn parbaus. Cefais fy llwvr wellhau trwy gymeryd eich Quinine Bittei's chwi. ac it ydwyf yn llwyr gredu eu N,4 wedi synmd yinaitli hadau fy afiecn- yd. Buaswn yn vssrifenu yn srynt, ond yr oeddwn am brofi fod y gw*'li;*>it yn barhaus, ac nid dres ryw ychydig am^r. Cymerais ddwy hotel 28. 9e., ac un 4s. 6c.—Yr eiddoch yn hynud ddiolchgar. ELLIS JONES (Amos Hebog). Yorath Terrace, Greenhill, Abertawe, ANWYL SYR.—Byddwch cystal a derbyn fy niolchgarwch gwre^ocaf am yr erfaith mawr a. ga'dd y Quinine Bitters arnaf. Yr wyf wedi bod yn wael—*mor waeled fel yr oedd fy mherthynasan ag»saf wedi rhoddi f.yny pnb gobait*. Bu'm yn gweithio mewn llawer iawn o sulphur, ac yr oedd hwnw wedi lladd fy ystumog. Yr oedd fy anadl yn boenus o gyfyng, a gallesid fy rghlywed yn anadlu o bellder. Nis gallaswn fyned allan dros y drw* gan wendid, na symud fy Haw ddeheu at fy mhen. Yr oedd dau o fy nghydwejthwyr wedi eu claddu yn ddiweddar o'r un dolur. Bum inau yn y tj" dros dair wvthnof dan driniaeth nteddyg, ond gwaelu bob dydd, nes yr reddwn wedi gwneyd i fyny fy meddwl mai marw oedd rhaid i minau. Y pryd hwn y galwodd cvf&ill anwyl i mi, a od'd arnaf i gymeryd eich Quinine Bitters ehwX Cymerais dair potelaid 4s. 6c., ac un box o'ch pills chwi. Yr ydwyf wedi cael iachad ac yn dechreu gweithio. Yr wyf fi a fy ngwraIc: a llawer o'm cymydogion yma yn credu y bx aswn mewn bedd heddyw, oni buasai eich meddyginiaeth chwi. Nis gallwn egluro maint ein diolchgarwch.—Yr eidd- och yn barchus, WILLIAM RICHARDS. DEAR Sm --I have much pleasure in bearing testimony to the high opinion I entertain of your Quinine Bitters. I have used it extensively whilst ravelling through the tropics, and always with r. :nost happy results. I consider it a very reliaM remedy in debilityespecially of the eli. -a, t gestivi' rgans, and can cordially recommend it as an invaluable medicine. ANEIJBIN JENKINS, M.R.C.S.L., M. R.C.P.E. S. S. TENIERS, Rio de Janeiro, South America, Feb. 10th, 1877. Nanclwyd Lime Works, Llancleddau, Ruthin, Mehefln 29ain, 1878. SYR,- Yr wyf wedi bod er's misoedd, bellach yn cael fy mlino gan boen yn fy mrest a chur yn fy mhen, nes ceddwn yn digaloni i fyned at fy ngwaith. Treiais lawer o gynghorlon, ond y Cwbl yn ofer. Cymerais ddwy botelaid o'ch moddion ac yr ydwyf wedi gwella yn gampus. Erfynaf ar bawb o'm cyfeillion anwyl sydd yn dyoddef oddi- wrth y fath anhwylderau i dreio y Quinine Bitters -Yr eiddoch yn gywir, GRIFFITH HUGHES. Trecynon, Aberdare, June 26th. • DEAR SIR,—I have been suffering from a very bad wrist—having three holes in it. I procured two bottles of your Quinine Bitters from Mr William?, Chemist, Aberdare, which completely cured me. Without any superfluous remarks I may say that I did not fail to follow my usual work for a single day while taking it, and I am prepared to give further particulars of this extra- ordinary medicine on being applied to by anyone anxious about the stat^ of their health.—T rpma;„ yours faithfully, DAYID DAVIES, Butcher To Mr. Gwilym Evans. QUININE BITTERS. FY NGHYDWLAJ .WYR,—Yr wyf er's rhai blvnvdd oedd, bellach, wedi bod yn yr arferiad o .gvmerari y Quinine Bitters i ddynion yn dyoddef dS amrywiol anhwyiderau, ac y mae yn dda genyf allu hysbysu fy mod wedi eigaelvn ateb fy nvso-wvl iadau yn mhob achos, i raddau pell iawn Yr wyf wedi cael mantais, nid yn unigi weled ei ddylanwad daionus arereil., ond hefyd i'w deimlo fy hunan. Oddiar ymbrawf hir a theg ohono, yr wyf yn y modd mwyaf di-bryder a chydwybodol, yi gymeradwyo i'r cyhoedd, fel cymysgedd llysieuol ragornl. Y mac yn gymysgedd o ddarpariaethau o r liysiau goreu. Cynghorwn ddynion gweiiiiaid mall-dreulio, isel ysbryd, &c., yn nghyd a'r rhai yn cael eu blino gan darddiadau ac anmhuredd gwaed, i wneyd defnydd amserol ohono, yn on- wedig yn yr Hydref a'r Gwar wyn. Y r eiddoch, yn hoffus, &c., J. H. ROWLAND Carmel Hall, Awst lOfed, 1878. • Llundain, Medi laf 1«7« Mr. Gwifei Evans. 1878- ANWYL Sri^-Mae yn dda genyf ddwyn tystiol laeth 1 rinwedd eich darpariaeth racorol t r\ NINE BITTERS, trwy yr hwn yr ydwyfwedi LX lleshad mawr yn fy nhaith faith a'm fSnf^f haus am bedwar mis-teithio a phrerethnL-fj bob dydd, ac yn ami ddwy a tha& ^th Jfe? Yr ydwyf yn hynod ddiolchgar am^lles a £ f5 ac os caf y framt o gyrhaedd cartref, bydd genyf ei reccomendo i ereill, yn gystal a £ defnydd ohono i fy hun a'm teulu. YJW6^ eich bed vn gymwynaswr maicr dyaoliaot^1W^^ darganfyddiad hwn. Ewch rhagoS—iwJ?1 Z parEaus, ac oes hir o ddefnyddioldeb. jffilk fyned 1 Pans heno. iSerch calon awT 7 j j diolchgarwch eto.—Ydwyf, yr eiddoch 87 DAYID HARRIES W. Hamson-street. Chica-o' U A A Gweinidog y Methodistiaid Calfin^W, 1.41 I