Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
IA WN AM ENLLIB.
IA WN AM ENLLIB. MR. GOL., Gan fod enllibio yn beth poblogaidd y dyddiau hyn, ftwyrach mai nid allau o le fyddai nodi yr hyn a gymerodd le mewn,eysylltiad a'r cyfryw yn Mrawdlys di- weddaf Caerdydd. Yr eriynydd eedd Mr. John Rowlands, y gwerthwr hosanau poblog- aidd; Dywedai y diffynydd fod Rowlands wedi ei dwyllo o ugain pwys o facwn wrth werthu i un Mr. Jones, Tir Phil, a thraeth- odd y chwedl wrth rai o gwsmeriaid yr erlynydd, nes niweidio y fasnachhosanyddol. Daeth tystion yn mlaen i brofi fod yr erlyn- ydd yn ddieuog, a dyfarnodd y rheithwyr £100 iawn a'r costau i John Rowlands. Ar y twyn yn awr wyt ti, Etifedd Aberteifi. TAFOD o ABERTEIFI.
EISTEDDFOD GADEIRIOL DEHEUDIR…
EISTEDDFOD GADEIRIOL DEHEU- DIR OYMRU. MR. GOL. Y mae yn ddywenydd genyf fod argoelion bywiog am Eisteddfod yn ngwir ystyr y gair i'w chynal yn Nghaerdydd yr hydref nesaf. Y mae y cerddorion yn ymarfogi i'r gad, ac yn gloewi eu harfau drwy bob ewr o Ddeheudir Cymru. Y beirdd a'r llenorion yr un modld-yfi penderfynu eystadlu am y "llawryfau coronog yn yr "Olympia" fawr. Llwyddiant iddynt yw dymuniad ys- gogydd yr ysgrifbin hwn yn mhob ystyr. Fel un o aelodau y cor a fu o Aberdar yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddi- weddaf, o dan arweiniad Gwilym Cynon, y mae awydd arnaf ei weled yn parotoi cor erbyn y gystadleuaeth yn yr Eisteddfod hon etc, oblegyd nid oes dadl nad yw hon yn llawn mor deilwng o'n cefnogaeth a'r Eis- teddfod Genedlaethol. A gaf fi ofyn i Gwilym Cynon, neu rhai o swyddogion y cor hwnw, am "draethu eu barn ar hyn yn y GWLADGARWR nesaf ?—Yr eiddoch, Vox POPULI.
ARIAN Y COE MA WR.
ARIAN Y COE MA WR. MR. GOL.Yn y GFLADGABWR am yr wythnos ddiweddaf gwelaf fod un a gyfenwa ei hun yn Un a ganodd dros ei genedl" yn ceisio penderfynu y peth goreu i'w wneyd a'r ychydig arian sydd weddill yn llaw trysor- ydd y c6r uchod. Dengys yr ysgrifenydd yn gyntaf nad oeddwn yn un o aelodau y cor, ac, mewn canlyniad, nad oedd genyf hawl i gynyg dim. Yn ail, fod y cor wedi gweithio yn galed am yr arian, ac fod llawer un o'r aelodau mewn angen am arian ar hyn o bryd. Yn drydydd, y dylasai pwyllgor Eisteddfod y Deheudir weithio allan yr anturiaeth heb apelio at aelodau y Cor Mawr am gymhorth. Dyna gynwysiad ei lythyr. Gwir nad oeddwn i yn aelod o'r cor, ond mor wir a hyny darfu i mi gyfranu a chaaglu arian, yn ol fy ngallu a'm dawn, i gynorthwyo Un a ganodd," yn ogystal ac ereill o aelodau y cor, i gyrhaedd y clod a'r anrhydedd, hwnw yr wyf mor falch a enillwyd i mi ac ereill drwy eu hofferynol- iaeth. Gwyddai pob Cymro had oedd gan y cor un elw i'w ddysgwyl pe yn fuddugol, ond fod yr holl lafur yn cael ei roddi er anrhydedd cenedlaethol. Hyn a gyfrif am y dyddordeb cyffredinol a deimlid yn y mudiad, ac am y cyfraniadau haelionus a ddylifai i mewn. Pan oedd y cor yn apelio at y wlad, dyma y ffaith fawr a ddaliwyd gerbron yr oedd y cor yn myned i benderfynu gerbron y byd beth oedd safle Cymru mewn ystyr gerddorol. Pwnc cenedlaethol ydoedd o'r dechreu i'r diwedd. Awyddfrydedd i sicrhau clod y genedl oedd yn symbylu y cantorion, a'r un nwyd oedd yn agor genau, calon, a llogell y wlad. Y mae yr Eisteddfod sydd ar droed yn bresenol yn cael ei gweithio allan yn anrhydeddus gan yr un egwyddor ysgogiadol. Nid yw hunan-les mewn golwg gan un o aelodau y pwyllgor, a phe dygwyddai i elw droi, bydd y pwyllgor yn ei ystyried yn eiddo cenedlaethol, a defn- yddir ef at amcanion cenedlaethol. Os bydd y Cor Mawr yn gweled mantais y pryd hwnw i roddi pleth arall o laureh o gylch anrhydedd Cymru, Cymro, a Chymraeg, bydd ganddynt berffaith hawl i gynyg fod yr arian i gael eu votio i'r perwyl hwnw; a chan mai lies cenedl- aethol sydd mewn golwg gan bwyllgor yr Eis- teddfod, y mae genyf hawl, fel un o'r aelod- au i wneyd y cynygiad a wnaethum. Y mae y pwnc yn bwnc cenedlaethol, ac nid yn beth personol neu adranol. Felly, dyma fy rheswm dros yr hyn a wnaethum. Casglwyd yr arian yn enw y genedl, cyfranwyd er mwyn y gen- edl, ac wedi cyrhaedd yr amcan oedd mewn golwg yn anrhydeddus, y mae gan*bob dyn hawl i awgrymu y peth goreu i'w wneyd o'r arian sydd yn weddill. Dywed yn mhellach, fod y cor wedi gweithio yn a,.t-cd am yr arian. Gwir ac y mae pob un arall a ymgymerodd a gwneyd lies i'w gyd- genedl wedi gorfod gweithio yn galecl cyn cyrhaedd ei amcanion. Camgymeriad dybryd fyddai meddwl fod o les i anrhydedd ein cenedl heb weithio yn galed. Y mae pwyll- gor yr Eisteddfod yn gwneyd felly hefyd. Y mae y trainage o wahanol fanau i Gaerdydd, lie y cyferfydd y pwyllgor, yn costio tipyn mawr, heb son am y diwrnod a aberthir gan bob un. Dyna Mr. Rosser, solicitor, yn pro- fessional man, yn colli diwrnod bob tro, a gwyddom nad dwy Os. Oc. yw eu hamser hwy g y i ychydig bach o gellwair gyda'r frawdoliaeth t, Y hon a olyga six and eightpence. Y mae gweithio caled a cholli amser gyda phob mudiad cenedlaethol. Dywed eto ei fod ef ac ereill mewn eisieu yr arian. Tebyg iawn; ond peidied ag an- nghofio fod degau o'r personau a gyfranasant yn lion y pryd hwnw mewn eisieu arian yn awr fel yntau ond nid ydynt oblegyd hyn yn ceisio awgrymu y dylasai yr arian gael eu dychwelyd. Na, rhoddasant yr arian yn llawen, am eu bod yn gweled mai anrhydedd y genedl oedd mewn golwg ac y maent eto yn foddlawn i'r gweddill gael ei gysegru at yr un amcan, a diau mai dyma yr ysbryd sydd yn ysgogi teimladau y mwyafrif o aelodau y cor. Y mae yr ysgrifenydd yn ddoniol tua di- wedd ei lith pan yn dweyd nad oes arno gywilydd i arddel yr hyn a ddywed. Yn siarad yn ddigywilydd, ac ar yr un pryd yn cuddio o dan ffugenw. Bad logic, sir. Y mae am i'r cyhoedd i gredu yr hyn sydd arno ef gywilydd i'w arddel os amgen, paham na ddeuai allan o dan ei enw priodol ? Yr wyf fi eto, Mr. Gol., yn awgrymu yr un peth ag y gwnaethum yn fy llythyr o'r blaen, sef fod y gweddill arian i gael eu hestyn i drysorydd yr Eisteddfod. Y mae yr hyn a wnaeth y Cor Mawr i'r Cymry yn peri fy mod yn falch i ddweyd mai Cymro ydwyf a gwnes fy ngoreu i'w gynorthwyo, yn ol fy ngallu a chan fod yr amcan wedi ei gyr- haedd-y genius cerddorol wedi ei endorsio ar gymeriad y genedl, ac ychydig arian yn aros yn weddill wedi talu y draul o gyrhaedd yr amcan, yn enw yr anrhydedd hwnw a enill- wyd, trosglwydder y cyfryw swm i law try- sorydd yr Eisteddfod, er rhoddi cymhorth i promoters y mudiad 1 ddangos i'r byd fod galluoedd o natur arall yn perthyn i'r Cymry. Cwestiwn cenedlaethol ydyw, ac yn yr ysbryd hwn yr apelir at y cyhoedd am gymhorth o ganlyniad, y mae o bwys cadw draw y cysgod gwanaf o les ac elw personol drwy son aln ranu yr arian. Maesteg. ALAW DULAIS.
"EWYLLYSIWB DA" Y OWD GLO.
"EWYLLYSIWB DA" Y OWD GLO. MR. GOL.Rhyngoch chwi a minau, yr wyf yn teimlo yn bur ofnus a digalon, ac yn sicr nid heb achos. Mewn gwirionedd, rhaid fy mod yn feddianol ar gryn dipyn o haerliug- rwydd cyn fyth yr ymgymerwn a'r gorchwyl o wrthwynebu cawr o fath Ewyllysiwr da y Gwd Glo. Dyma i chwi wr sydd wedi bod yn brysur yn cyflawni gorchestion (?) llenydd- 01 am o leiaf y deuddeg mlynedd diweddaf. Gwir ddigon fod rhyw dipyn o amheuaeth yn marn y cyhoedd parthed gallu ymenyddol y brawd ymfflamychol. Gwir ddigon hefyd y myn rhai rhoddi safle bur isel iddo ar list Clic y Bont. Ond gan nad beth yn y byd am ei allu fel bardd a lienor, y mae pawb yn unfryd unfarn parthed ei safle fel blackguard. Efe yn ddios yw Al y profession. Ie, yn wir, dyma'r anghenfil ofnadwy y ceisia yr Oenin egwan ei wrthwynebu. Eithaf gwir fod y fath beth yn afresymol, ond waeth beth yn y byd am hyny, rhaid ymdaraw, goreu y gellir, dan yr amgylchiadau. Dyweded ein "Ewyllysiwr Da a fyn am y gwall gramadegol yn mhenawd ei ysgrif, y mae yn Mhontypridd un-ar-bymtheg-ar-ngain o dystion byw mae I I Eisteddfod Fwriededig" ac nid Fwriadedig" rhoddodd Oenin ar y Post Garda ddanfonwyd i alw yn nghyd y Pwyllgor cyntaf. Dyweded hefyd a fyn mae yr un nifer o foneddwyr yn dystion na chrybwyllwyd gair am gynal yr Eisteddfod' dan nawdd unrhyw Association ar y Pod Caids. Edryched y brawd yn fanylach, ac edryched drwy y spectol y sonia am dani, ac yna, hwyrach ca weled fod yr hyn ddywed- wn yn gywir. Gwad ein "Ewyllysiwr Da fod yr ewin fforchog at Gurnos yn dyfod i'r golwg yn ei lythyr. Pa raid gwadu cyn cyhuddo, frawd? Nis cyhuddasom ni ef o ddangos yr ewin fforchog tuag at Gurnos, eithr cyhuddasom ef, ac yr ydym yn ei gyhuddo eto o'i ddangos tuagat un sydd fwyddengwaith nag ef yn marn pob llenor Cymreig. Gwyr ef yn dda pwy ydym ni yn feddwl. Dywed ein cyfaill iddo fod yn ffair Llandaf, a gallasai fyned gam bach yn mhellach, a dweyd ei fod yno yn mhlith ei ddynion. Mae yr Ewyllysiwr Da yn ein rhybuddio, fel pwyllgor, i wylied rhag i'r trychineb o'n tapio ein goddiweddid. Diolch- caredig iddo am ei rybudd amserol, ac yn at-daliad am ei ddymuniad da goddefed yntau i ninau ei rybuddio ef o'r unrhyw drychineb, oblegyd 0 y fath wreck druenus gyflwynid i'w sylw pe gwnaed hyny iddo ef. Peidied neb fyth dirmygu gwynt. Na, na, mae gwynt yn un o'r elfenau mwyaf defnydd- iol feddwn. Mae rhai yn medru byw yn hollol a chyfangwbl ar yr elfen hon. Siarad am dapio, yn wir Wrth gwrs, pe gellid tynu y gwynt allan a'i rhoddi i fewn eilwaith, byddem ni yn berffaith foddlawn i'r oruch- wyliaeth, pe ond yn unig er dangos i'r byd y fath greadur gwael fyddai — pwy ?—wel, maddeuir i ni am nodi Twmpathfab fel enghraifft am y dygwydd fod y goreu wrth law-pe amddifedid ef am wythnos o'r elfen werthfawr hon. Ond gan na ellir cyflawni y seremoni o dapio heb drwy hyny lwyr ddi- nystrio y dyoddefydd, yr ydym ni yn sefyll nerth braich a bando yn ei herbyn. Ym- ddengys fod crybwylliadau pellach gan yr Ewyllysiwr Da" i'w rhoddi i Bwyllgor Eisteddfod Pontypridd, os gwna Oenin ym- ostwng i wneyd sylw o'i lith. Yn sicr, nid ymostyngiad ar ein rhan ni o gwbl yw gwneyd sylw o lithiau rhamantus gwr o safle yr ysgrifenydd hwn. Byddwn ni bob amser yn dysgwyl gyda dyddordeb neillduol am gynyrch toreithog awen ac ymenydd cangfawr y gwr hwn. Bydded i'n beirdd, ac nid yn unig fel y bu hyd yma ein sprats, i gofio am dano yn y dyfodol. Mae ein cyfaill, eisoes, yn ym- gyfeillachu a disgynyddion pobl barchus a anfarwolodd eu henwau, drwy weithredoedd gyflawnasent liw dydd goleu ac yr ydym yn hyderu y gwna yntau anfarwoli ei enw, ac nid yn yr un modd eithr yn nglyn a'r Owd Glo. OENIN.
[No title]
CERYDD YN ANHYFRYD.—Gofynai tad i'w øblentyn oedd wedi troseddu, pa un oedd oreu ganddo, fod yn fachgen i Iesu Grist a chael ei geryddu, ai bod yn fachgen i Satan a chael llonydd i fyw fel y mynai. Bod yn fachgen i Iesu Grist, a chael fy ngheryddu," ebai'r plentyn. Ond wedi i'r tad ymaflyd yn y wialen, a dechreu gweinyddu y 'cerydd, new- idiodd y llanc ei feddwl, a gwaeddai allan, Nage, 'nhad, bachgen Satan bachgen Satan, 'nhad bach
NODIADAU 0 L'ERPWL.
NODIADAU 0 L'ERPWL. Y SEFYLL ALLAN.-Daeth y rhyfel i derfyn- iad, fel yr awgrymais yn fy nodion diweddaf, — ffaith bwysig nad yw y gweithwyr yn enill dim trwy ymgiprys & chyfalaf, pan fyddo y farchnad yn orlawn o weithwyr. Cyfrifir y golled achos- wyd gan y sefyll allan tua phedwar can' mil o bunau Annghydfod sydd yn achos llawer o aflwydd yn y byd, a thlodi ar filoedd o weith- wyr sydd yn gorfod dibynu ar lafurwaith dydd- iol. Pa bryd y dysga gweithwyr Prydain i wybod y ffordd i ymddyrchafu yn y byd heb ymrafaelio byth a hefyd gyda pherchenogion cyfalaf ? Achosodd yr annghydfod dros ychydig wythnosau golledion mawr i fasnachwyr allfor- awl, gan i gymaint o nwyddau bwytadwy, megys cig eidion a wystrys, fyned yn ddiwerth. Collodd un masnachydd ugeiniau o dynelli o gig, drwy iddo gael ei gadw yn y gwahanol ager- longau yn rhy hir cyn cael ei ddadlwytho. Mas- nachydd arall mewn wystrys a drawsgludir o'r Amerig wedi colli miloedd o farilau o'r llymeirch goreu a gludwyd erioed i Brydain. Mae yn resyn mawr fod dynion ag sydd yn gwneyd daioni i'r byd trwy eu masnachaeth yn cael y fath golledion trwy ystyfnigrwydd meistri a gweithwyr. Beth, tybed, fuasai pris y cig yn marchnadoedd y wlad hon oni buasai fod mas- nachwyr anturiaethus o wlad Jonathan wedi ymgymeryd ag allforio pob math o gigoedd dros y Werydd, pan oedd prinder yn dangos ei hun yn nhrefydd a dinasoedd ein gwlad ? Mae cyf- raith leol wedi ei Ilawnodi gan y Senedd er galluogi Bwrdd y Dociau i adeiladu lladd-dai yn mhen gogleddol y dref, a'r un modd yn Birken- head. Bydd hyn yn gaffaeliad newydd i'r all- forwyr o'r Amerigf a Canada, am y gellir cludo anifeiliaid byw mewn gwell cyflwr, a'i lladd wedi glanio. Bernir bydd y cyfryw drefniadau yn welliant mawr, ac yn lies mawr i'r fasnach anifeilaidd. GWYL DEWI SANT.-Nos"Sadwrn, fe gynal- iwyd cyngherdd amrywiol yn y Concert Hall, pryd yr ymddangosodd Llew Llwyfo am y tro cyntaf yn gyhoeddus ar ol ei waeledd diweddar. Mae y dyn oddiallan yn edrych yn hynod dda, er fod y salwch wedi anmharu cryn dipyn ar y babell glai. Canodd yn dda, a chafodd dder- byniad croesawgar, fel arferol, gan Gymry L'er- pwl. Mr. J. Skeaf yn chwareu y berdoneg, T. J" Hughes a'i fab yn gwasanaethu, a Miss Cor- delia Edwards (ond Mrs. rhywbeth yn awr), a Miss Lilian Price, yn mhlith y cantorion. Cyngherdd rhagorol ar y cyfan, a chynulliad da iawn ag, ystyried fod cyngherddau ereill yn y dref. Yr enw a roddir i'r cynulliadau hyn ydyw Cyngherddau Prydnawnol, a sylfaenwyr y mud- iad ydynt Mr. J. Skeaf a T. J. Hughes. Mae cyfarfodydd adloniadol fel hyn yn bethau dy- munol er treulio awr neu ddwy i annghofio y byd a'i drafferthion yn swn can a nodau swynol y berdoneg. Hwtio bydd rhai ar bethau fel hyn; ond gellir priodoli hyny i gulni meddwl a cheintachrwydd crebachlyd. Bid a fyno, mae y cynulliadau yn haeddu eefnogaeth, a phe ceid ychwaneg ohonynt, byddent yn foddion i atal llawer o ddireidi nosawl a gyflawnir gan fech- gynos difeddwl o ganlyniadau y dyfodol. Yr unig ffordd i ddyrchafu y byd o lygredigaeth ydyw coethi chwaeth y werin trwy gerddoriaeth a Ilenyddiaeth. CYFYNGKER MAsNAcHoL. Ymddengys fod amgylchiadau gweithwyr yn Lloegr yn isel a thlawd. Preswylwyr tref Sheffield yn dyoddef caledi mawr; y drysorfa leol, yr hon, er's ychydig yn ol, oedd yn werth miloedd o bunau, erbyn heddyw agos a bod wedi cael ei rhanu i gyd. Maer y dref yn apelio am danysgrifiadau er cynorthwyo yr anghenus, y rhai ydynt yn fil- oedd mewn rhifedi ar fin newynu. Mae sefyllfa felly yn druenus i'r eithaf, a phawb yn dymuno gweled gwelliant o ryw gyfeiriad, ond fod y rhagolygon am hyny yn hollol dywyll ar hyn o bryd. Ysgrifena gohebydd yn un o bapyrau dyddiol Efrog Newydd, a chymer olwg lied gyffredinol ar fasnach y byd, a sylwa yn lied fanwl ar fasnach yn y wlad hon. Dywed fod y gweithwyr yn y wlad hon wedi gwneyd ymgais ddirgelaidd i gyrhaedd amcanion annheilwng, a chael yr oruchafiaeth ar gyfalaf, yr hwn allu, yn gysylltiedig a llafur, ydyw nerth masnachol Prydain. Sylwa fod y gweithwyr yn Amerig wedi bod yn ddigon call a synwyrol i dderbyn "gostyngiad yn y cyflogau yn adeg y eyfyngder masnachol, ond fod Prydeinwyr wedi sefyll yn ystyfnig yn erbyn gostyngiad yn y cyflogau, gan dybio y gallasent orchfygu ond yn hyn gwnaethant gamsyniad mawr. Dyryswyd ein masnach, a gyrwyd ein trafnidaeth i wledydd ereill, ac weithian mae y werin yn dyoddef caledi enfawr, a'r sawl a'i camarweiniodd yn ceisio gwneyd pob math o esgusodion er mwyn cyfiawnhau eu hunain. Ofer taflu llwch i lygaid gwlad wedi gwneyd y fath gamwri a Ilusgo gwlad o bobl i drobwil tribynu. Cymered y darllenydd drem yn ol am y deng mlynedd di- weddaf, a sylwed yn ddiragfarn ar helyntion y byd masnachol, a gwel ar unwaith fod y bobl weithgar wedi myned trwy fyrdd o anffodion trwy fod dynion yn ategu camsyniadau fel ffeithiau. Deil y gwirionedd ei hun yn ngwyneb haeriadau mwyaf herfeiddiol ffug-ymhonwyr taeog a chegrwth. Rhaid ymatal eto, er bod yn brydlon yn y swyddfa.—Yr eiddoch, OYMRO GWYLLT. a
Dydd Gwyl Dewi yn Llundain.
Dydd Gwyl Dewi yn Llundain. Cynaliodd Cymdeithas yr Hen Frythoniaid ei 164fed wyl flynyddol dydd Sadwrn, y laf o Fawrth, drwy giniawa yn Willis Rooms. Sefydlwyd y gymdeithas hon yn y flwyddyn 1714, i arddangos ymlyniad nifer 0 foneddig- ion Cymreig wrth deulu breninol Hanover, a chynaliwyd ei gwyl gyntaf ar ddydd pen blwydd Caroline, Tywysoges Cymru, hyny yn cymeryd lie ar Ddydd Gwyl Dewi. Wedi ei chychwyniad, cymerodd gyfeiriad newydd, trwy droi yn gymwynasgarol i blant Cymreig tlodion ac amddifaid. Wedi dechreu y gwaith hwn trwy gymhorthi nifer 0 blant diymgeledd, agorwyd ysgol yn 1718, a chy- maint yw y llwyddiant sydd wedi dilyn y cynllun fbl y mae ganddynt, erbyn heddyw, adeilad eang fel ysgoldy yn Ashford, swydd Middlesex, yr hwn a agorwyd gan y Tywysog Albert yn 1857. Oddiar ei sefydliad, y mae 5,537 o fechgyn a 819 0 ferched wedi eu cymeryd i mewn, eu cynal, a'u haddysgu. Cymer gwyl flynyddol y gymdeithas le ar Ddydd Gwyl Dewi. Llywydd y dydd ydoedd Mr. Thomas Wood, Gwernyfed Park, Brych- einiog, yn cael ei gynorthwyo gan amryv, foneddigion. Yr oedd Arglwyddes Llanover wedi bod can garediced a danfon ei thelynwr, Gruffydd, yn nghyd a'i ferch, i wasanaethu ar yr achlysur, a chwareuodd y ddau yr hen alawon Codiad yr haul" a Thriban Gwy-r Harlech ar delyn teirdant Cymru. Yr oedd Gruffydd yn ei wisg laes ddu, a'r ferch yn ei dillad Cymreig. Daeth y plant, ar hyn, i mewn, gan gerdded o amgylch y bwrdd, a chanasant "Llwyn On" ar eiriau gan Syr Francis Hastings. Cyfeilliai Mr. Brinley Richards. Yr oedd y casgliadau ar gyfer yr ysgol yn agos l,000p. Nos Sadwrn, cynaliwyd cyngherdd mawr- eddog yn Neuadd Albert, dan arweiniad William Carter, Edwin Bending, a Dan. Godfrey. Arweiniai y cyntaf y c6r, chwar- euai yr ail yr organ, a'r trydydd a arweiniai semdorf y Grenadier Guards, y rhai oeddynt, drwy garedigrwydd y swyddog, yn gwasan- aethu ar yr achlysur. Nid oedd y programme mor ddysglaer ag ellesid ddysgwyl. Am 8 o'r gloch, tarawodd y seindorf Gw £ r Har- lech gydag ysbryd a nwyf gwir filwrol, a dilynwyd a nifer o alawon Cymreig poblog- aidd. Ar ol hyny canwyd Gwkr Harlech gan y cor, yn cael ei arwain gan William Carter. Datganiad mwyn, und6nog, ond yn amddifad o'r egni y mae y dernyn yn ei ofyn. I wooed her in the spring-time," gan Eos Morlais. Lied ddihwyl oedd yr Eos. An- hawdd deall gofynion y neuadd anferth ar unwaith o'r braidd y deallodd hyny wrth ganu y linell olaf, "In heaven love reigns alone." "Toriad y dydd," gan Madame Edith Wynne. Canu cynefin ddigon, yn cael ei ddilyn a chymeradwyaeth oerllyd. "Adieu to dear Cambria," gan Madame Antoinette Sterling. Datganiad melus a swynol iawn digon o lais ganddi, a llywodraeth lwyr arno -natur ei lonaid. Wedi terfynu, cafodd ^anllef o gymeradwyaeth, a gorfu iddi ganu r^awywaith. Rhangan, The Fairies," gan f cor. Comin' thro' the rye," gan Madame Lemmens-Sherrington. Ymdrechfawr, drwy ymddangosiad ac ystumiau, i foddhau, ond dim derbyniad. Loudly proclaim," gan Mr. Lucils Wiliiams. Canu rhagorol llais rhagorol, yn llanw y neuadd yn mhob congl; yn geirio yn eglur, a thine hyfrydol yn mhob sain. Dilynodd Madame Edith Wynne a Mr. Hollins. "Lo! hear the gentle lark," gan Miss Agnes Lorkeom. Cafodd y foneddiges ieuanc hon gymeradwyaeth wresog iawn. Canodd yr hyfrydol, a braidd na chenfigenai yr ehedydd wrthi am ddynwared ei gan am- rywiol mor llwyddianus. "An ocean grave," gan Signor Brccolini. The martial spirit" (Blodwen), gan Eos Morlais a Mr. Lucas Williams. The lost chord," gan Madame Antoinette Sterling. Canwyd Cwynfan Prydain yn dra effeithiol gan y c6r. Baner ein gwlad," gan Eos Morlais, mewn hwyl a chyda mawrhydi. Death of Nelson," gan ME, Hollins, yn nghyd a seindorf y Grenadier Guards, gyda dylanwad a nerth. "I fear no foe," gan Signor Brocolini. Mejjan was beautiful," gan y c6r. Y Gadlys," gan Ap Herbert. Terfynwyd trwy ganu God save the Queen," gyda chyfeilliant yr organ a'r seindorf.
Eisteddfod Cymreigyddion Gwent.
Eisteddfod Cymreigyddion Gwent. Cynaliwyd yr Eisteddfod uchod dydd Llun, Mawrth y 3ydd, yn Neuadd Ddirwestol Trede- gar. Cymerwyd y gadair gan yr arweinydd penodedig am y dydd—y Parch. W. Walters (Thalmai), Sirhowy. Agorodd y cyfarfod gydag araeth bwrpasol a llawn o ffraethineb, yn ol ei ddull arferol. Wedi hyn, cawd anerchiadau gan y beirdd. Yna awd yn mlaen fel y canlyn -Canu "Y bwthyn ar y traeth," 9 yn cystadlu; goreu, Thos. Lewis, Ebbw Vale, o dan feirniad- aeth Eryr Eryri, y beirniad cerddorol, yr liwn oedd arweinydd Cdr y Waun Fawy, a fu yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Birken- head. Beirniadaeth Dewi Glan Taf, beirniad y farddoniaeth, &c., ar y caneuon ar "Ddefn- yddioldeb Gwlan;" goreu, Gwyddonfryn, Mer- thyr Tydfil. Gan loan ab Dewi, Bargoed, oedd yr englynion goreu i'r "Goleuni gwefr- eiddiol," allan o 19 o ymgeiswyr. Am ganu unrhyw ddeuawd, Thomas Lewis a'i gyfaill, Dyffryn Ebwy, oeddynt oreu. Rhanu'r wobr wnaethpwyd am adrodd "Mi gollais y trên" rhwng Abia Bach a Bachgenyn. Yr oedd 14 o gystadleuwyr ar y beddargraff Hir a Thoddaid i ddau blentyn Mr. R. Phillips (Gelynoa), Tre- degar, a'r goreu ohonynt oil oedd un o dan y ffugenw Llwch y Llawr, yr hwn oedd yn ab- senol. Ar y tonau cynulleidfaol ar y mesur 35 (6-8-6) goreu, John Cledan Williams, Rhymni. Y parti ganodd Morgan Hen (Ieuan Brych- an) oreu ydoedd eiddo John Price, Rhymni. CYFARFOD Y PRYDNAWN. Araeth gan y llywydd, ac anerchiadau gan Gwilym Craig y Tyle a Gwilym ab loan. Y feirniadaeth ar y traethawd yr hwn deilyngodd y wobr oedd Dd. Weeks (Honddu), Treherbert. Canu "To thee, Cherubin," (Handel); 3 chOr yn cystadlu rhanwyd y wobr rhwng C6r Rhymni (No. 1), dan arweiniad John Jones, a ChorMor- iah, Rhymni, dan arweiniad Henry Williams, A.C. Beiruiadaetn y gan oreu i'r "Ddafad a'r Oen;" cydfuddugol, Gwilym Craig y Tyle a Dyfnwal Dyfed. B..irniadaeth y darnau o farddoniaeth ar "<iwymp Dynoliaeth;" cyd. fuddugol, Myfyr Wyn ac loan ab Dewi. Dau g6r yn cystadlu ar Duw sydd Noddfa;" goreu, C6r Moriah, Rhymni. Canu "Gwenau y Gwan. wyn;" goreu, Paiti o Rhymni. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyngherdd, pan y gwasanaethwyd gan yr enwog Eos Morlais, Llinos Rhondda, a Huw Peris.
Advertising
Mertnyr Tydfil Union. CONTRACT FOR SUPPLIES FOR 111:. WORKHOUSE MERTHVR AND THE ABERDARE INDUSTRIAL SCHOOL. THE Guardians desire TENDERS fer the JL Supply of Sides of Beef, a art Legs cut close to thernmp. Mutton. Pork, Bacon. Australiam Meat. (All of the best quality). Bread, Flour (plain tie), Oatmeal (Irish) and Peas. Groceries. Drapery, Hosiery, and Clothing. v Boots, Shoes. and Clogs. Potatoes and Greengrocery. Ironmongery and Earthenware. Coal, Coke, and Firewood. Beer, Porter, Wine and Spirits—by inièriaJ Measure. Butter, Cheese, and Milk. Printing, Bt oks, and Stationery. Hair Cutting, per dozen. Shaving ditto Glazing. Best Howard's Quinine in sealed bottles, and Cod Liver Oil. Linseed Meal. Patent Brown Soap. v Soft Black Soap. v. Granulated Cocoa-in casks. Coffins and Funerals. Dascription and Specification of the coffins to be had at the Aberdare Industrial School and' the Mert^yr Workhouse. I. Horsing the Ambulance at Merthyr and at Aberdare. 12 dozen pairs of Grey Stockings (Boys). 12 ditto ditto (Girls). 160 yards Brown Check for Girls' stilnaer frocks. 60 Straw Hats for Girls. 60 yards Black Ribbon for Hats. Out-door Supplies at Merthyr, Dowlais, Hvtjwwi/n,, Aberdare, and Mountain Ash. ,¡.. Beef, and Mutton. Beer, and Porter-by Imperial Measure. Wine, and Spirits ditto. Best Howard's Quinine in sealed bottlts. aid Cod Liver Oil. The Tenders for Bread. Meat, Bacon, Butter, Cheese, FI.ur, Oatmeal. Milk, Potatoes, Coal, amt Coke, to be for Three Months oaly, viz., from March 29th, 1879, to June 27th, 1879, both inclus- ive the remainder for Twelve Months, viz., fro. March 29th, 1879, to March 29th, 1880, both in- clusive. Sureties to be Lamed ii Tender. Samples where practicable, except coal, milk, beer, and spirits, and all out door supplies. All goods to be delivered at the Workhouse, or at the Aberdare Industrial School, at the option of the Guardians Payments quarterly, but Bakers. Butchers, and Grocers may draw on account once in the middle of the quarter. Tenders may be Pei-,t in on or before SATURDAY, March 15th, 1879 in the Forms to be had «n application to the Mast r at the Workhouse, or at the Aberdare Industrial School, who will iumish all other partieulars. Tenders, unless received on SATURDAY, March 15th, 1879, at Ten a.m., will not be opened. By order, FRANK JAMES, Clerk. High-street, Merthyr, February 22nd, 1879. No Goods to be supplied, or work done for the Workhouse or Industrial School without a writte* Order, signed by the Clerk. All accounts for the March quarter to be made un to March 26th, and sent in to the Master by that day. 2060 CERDDORIAETH NEWYDD Gan H. Davies, Garth, Ruabon. Cantata: Debora; ♦ Prig Is. yn Sol-ffa; Hen Nodiant, 2s. 6c. Gellir cael y rhanau canlynol ohoni ar wahan AWN TUA'R CADFAES; CydganiT.T.B.B.; Pris ltc. yn Sol ffa; Hen Nodiant, 4c. OS YMFYDDINA ISRAEL Deuawd i T.B. Pris l|c. yn Sol-ffa Hen Nodiant, 4c. I LAWR MEDDAI'R MILOEDD; Cydgan i S.A.T.B.; Pris Pc. yn Sol-ffa; Hen Nodiant. 6c. GWAE NI GANAANEAID; Cydgan i T.T. B.B. Pris 3c. yn Sol-ffa; Hen Nodiant, 6c. AC FELLY 0 AUGLWYDD Cydgan i S.A. T.B. Pris 2c. yn Sol-ffa; Hen Nodiant, 4c. Oantawd: Moses a Joshua; Pris 6c. yn Sol-ffa; Hen Nodiant, Is. 6c. Cantawd: Samuel; Pris 6c. yn Sol-ffa; Hen Nodiant, Is. 6c. (Mae'r geiriau gyda.'r Hen Nodiant). ANTHEM GOFFAWDWRIAETHOL DR. CHA-RLES; Pris 2c. yn Sol ffa; Hen Nodiant, 4c. (Yn cynwys hen d6n Gymreig syqd allan o arferiad). 0 DOWCH AC ANNGHOFIWCH; Pedrawd i T.T.B.B. Pris 2c. yn Sol ffa; Hen Nodiant, 4c. Y GADAIR WAG; Can a Chydgan yn y ddau Nodiant, Pris 6c. I'w cael gan yr Awdwr neu'r Cyhoeddwr- D. JONES, Argraffydd, Rhosymedre, Ruabon. Anfonir Catalogue cynawn ond anfon am dano. 2048 GWERTH SYLW! V DYMUNA ;IN REES EVANS, 45, COMMERCIAL-STREET, ABERDAR, HYSBYSU y cyhoedd ei fod wedi prvnu stock o- FRETHYNAU O BOB Math oddiwrth Mr. John Price, Tailor & Draper, Canon- Street (yr hwn sydd wedi rhoddi fyny ei fusnes yn Aberd&r), yn llawer is na phrisoedd y farchnad yn bresenol. Y maent yn nwyddau o'r fath oreu. Deuwch, gwelwch, a barnweh drosoch eich hunain. 2052 GELLIR CAEL pOB MATH 0 A RGRAFFWAITH WEDI EI WNEYD AM BHISOEDD BHESYMOE, AC AR Y EHIBUDD LLEIAF, Ylf SWYDDFA'B "GWLADGARWR."