Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
[No title]
--0 POCEDI YN Y QYNAU GWYNION. Nid oes dim yn fwy clymunol gan blentyu na chael poced, ac y mae gwerth anmhrisiadwy ar y trysorau sydd ynddi,—y gyllell geiniog, y marbles, y lhnyn, a'r sialc. Wedi clywed ei rieni yn son am blant yn myned i'r nefoedd, a'u bod yn cael eu gwisgo yno mor brydferth mewn g:)Tna.u gwynion, gofynodd Thomas bach yn sydyn a myfyrgar, '• rx fydd pocedi yn y gynau gwynion, i gaelcadw pethach ynddy' nhw V* COLERIDGE PAN YN BLENTYN.—Yr oedd <3olt d. e y bardd enwog, yn ymgolli mor ddwfn mewn myfyrdod yn fynych, hyd yn nod pan yn blentyn o saith l bedair ar ddeg, fel yr ann^hofiai ei hun. Elai un dxwrnod i lawr trwy y Strand, Llundam, gan,haner byeudd- wydioei fod yn nafio yr Hellespont; taflax ^ddwylaw wrth gerdded fel pe buasai yn nofio. Tarawodd ei law wrth ei thaflu yn erbyn awr boneddig oedd yn myned heibio, T&U hwuw -ei fod yn ce.s.o m,r,ed.. w boeed.. Yr wrt yn dechreu arm ebai. Gwaeddodd y bachgen yn ddihito, a dywedodd mai meddwl ei hunan jn Leander ydoedd yn nofio Hellespont. Oafodd y boneddwr ei foddloni mor fawr wrth ym ddyddan ag ef, fel y taflodd un o lyfrgelloedd soqu Llundain yn agored iddo.
! COLEG Y GWEITHIWR.
COLEG Y GWEITHIWR. ( GANAF COBWYNT. LLYTHYR XXI. • Agrippa.—Dyna'r adyn, Charles Peace, wedi cael ei hebrwng i wyddfod ei Farnwr. Mawr y siarad a'r ysgrifenu sydd wedi bod yn ei gylch. Nid ydwyf fi yn cofio darllen hanes am adyn mwy ysgeler yn holl groniolau yr oesoedd. Wedi'r cyfan, proffesai edifeir- iwch, a chyhoeddai wrth v reporters ei fod yn golygu cael ac wedi cael maddeuant; ond pwy a greda y fath ddyhiryn ? Y mae yn debyg ei fod yn ystod ei garchariad yn gwylio am gyfleusdra i roddi terfyn ar ei einioes. Soniai am dynu a llyncu ei dafod, a dywedai un meddyg fod hyny yn bosibl; ond bum i yn siarad a bechgyn profiadol, yr wythnos ddiweddaf, a dywedent hwy fod y fath beth yn anmhosibl. Golygai efe allu twirfo ei dafod yn ei enau a'i lyncu Ond yn ol pob tebyg, yr oedd yn annichonadwy iddo wneyd hyn. Yr oedd y dyn truenus hwn, wedi'r cyfan, yn dweyd ei fod wedi cael maddeuant, pan, ar yr un pryd, yn awyddus am gyfle i ladd ei hun ac y mae hunanladdiad, yn ol fy marn i, yn bechod damniol. Ni chredwyf fod un dyn a laddo ei hun yn myned i ogon- iant, os na ddygwydd iddo wneyd hyny trwy effeithiau a dylanwad gorphwylledd. Yr wyf fi yn credu na fu y fath ragrithiwr damniol er dyddiau Iscariot a Charles Peace, ac y mae yn hen bryd gadael ei enw a'i goffadwriaeth i bydru yn llwch yr oesau. Y mae yn bur debyg y ceir rhywrai i'w efelychu, os gallant, ac i dori.i dai pobl, ond dylent gymeryd gwers oddiwrth ei ddiwedd truenus ef. Yr oedd yn gofyn am ddyferyn o ddwfr ar y dienydd-glwyd, ond gomeddwyd hyny iddo, er fod afonydd a ffynonau yn llifo a rhedeg yn rhad trwy y wlad, ac ychain, defaid, a cheffylau yn tori eu syched ynddynt. Ond am Peace, aelod o'r gymdeithas ddynol-dyn wedi ei arfaethu i fod yn Arglwydd y greadig- aeth-yn methu a chael y gymwynas fach hono, sef dyferyn o ddwfr. Pell wyf fi o ddymuno drwg i'r creadur, ond hyny o ddrwg a ddaeth arno a achlysurwyd ganddo ef ei hun. John Ffregod.—Mi fum i allan yn y 14d pwy ddiwrnod, ac yr wyf yn meddwl fod amser gwell i ddyfod ar fyd cyn bo hir. Dyma ni eto wedi cael gwared ar y rhew a'r eira, a hyny, gobeithio, am flwyddyn ta beth. Gauaf y filen i ni wedi gal, ac y mae wedi dodi arna i 'n arw iawn; ond dyma fis Mawrth wedi dyfod i mewn, a. gobeithio, yn enw'r rhinweddau moesol, y cawn ni dyner- ach hin. Y syndod yw ein bod ni wedi byw gystal yn ystod y misoedd Greenlandaidd i ni wedi gal. Mae da a defaid, a rhai dyriion wedi trengu, ond y mae yn destyn diolch ein bod wedi dianc mor dda. Tomos Eben.—Fi glywas i fod argoel y daw hi'n well ar y gwithwrs cyn pen hir. Y mae petha yn drychid tuag i fyny yn y Merica, a darogefir fod hyny yn rhagarwyddo petha gwell yn y lad hon. Y mae yn an., mhosibl iddi bara yn ddrwg fel hyn o hyd. Rhaid cael cyfnewidiad, a hyny cyn canol haf, chi allwch fentro. Dyna'r Llywodrath wedi câl ei llorio yr wsnoth ddiwetha, trw fwyafrif o 31. Garw byth na welem ni yr haid Doriaidd yn câJ. eu sgubo oddiar y meinciau, a Bill Gladstone a'i griw eto yn eistedd wrth lyw y wlad. John o'r Deri.-Daw y wlad hon a gwled- ydd ereill, cyn hir, i wir astudio beth ydynt y mesurau fyddont o duedd i hyrwyddo ffyn- iant y rhan fwyaf o'r deiliaid. Y mae yr aristocratiaid, er's blynyddau, a'u holl egni yn ceisio deddfu yn ffafriol iddynt hwy a'u buddianau, gan annghofio corff mawr y werin. Ond y gwleidyddwr penaf ydyw hwnw ag a fydd yn ddigon mawr a rhyddfrydig. ei feddwl i geisio nid lies ei hunan, ond lies llaweroedd hefyd. Lewis Typica.-Welweh chi, rhyw fyd od iawn ydi'n byd ni-y rhai ddarfu wneyd mwya 0 ddioni iddo, miwn ystyr foesol a chymdithasol yw y rhai a gant leia o ddiolch ganddo. Dyma'r GLADWR, yn awr, yn llanc ifane cryf, un-ar-ugain oed; ac er ei ym- ddangosiad, y mae wedi cyhoeddi carneddau o erthyglau, oil yn bleidiol i'r gwithwrs ond fe fyn rhai ffusto yn mhena'r lad fod rhyw sheets erith yn i guro fe mewn politics. Pan y mae pob dyn o synwyr cyffredin canolig yn gwybod yn dra gwahanol. Beth! y mae prif lenorions Cymru wedi bod yn sgrifenu i'r GLADWR ac y mae y prif rai sy'n awr yn fyw yn para "mlaen Ond lie ma beirniad- aeth Hwfa Mon ar awdlau Cadair y Gor- dofigion ? Y mae isha i chal hi, yn lie bod rhyw gyfarthgwn yn pendwmpian, ac yn gweyd rhyw lol. John Ebill.—Y mae cenedl y Cymry ar ol yn mhell i gydnabod y rhai sydd wedi bod yn anrhydedd a chlod iddi. Bu cenedl y Saeson yn euog, hefyd, o hyn; ond y maent hwy wedi gwella llawer er's cant a haner o flyn- yddau. Talant eu beirdd a'u llenorion yn anrhydeddus, er i Milton ac ereill gael eu gwarthus iselbrisio ganddynt. Ond os dan- fonwcli chi ysgrif neu gan o ddim gwerth i'r Saeson, chi gewch d&l anrhydeddus am dan- ynt, ac nid piim' punt, fel y cafodd Milton am "Goll Gwynfa." Mae rhyw ganenwog gan Sponbilfardd ar," Let wad," ac y mae gan- ddo ffydd fawr ynddi fel campwaith disebon ond tase fo'n ei danfon hi i Hughes, Wrex- ham Humphreys, Carnarfon; neu Gee, Dinbych 'dwy ddim yn meddwl y cawse fe dros ddoler a haner am dani hi. Y gwir am dani, os yw dyn am dori ffigwr yn y byd yma, rhaid iddo, rhag blaen, i astudio iaith bara chaws (chwedl Kilsby), sef y Sasneg; ac yna, fe fydd gobaith am ei lwyddiant. Dyna Lewis Morris, y bardd Cymreig Seis- nig; mi ddala i fod hwna wedi gneyd ceiniog go dda, rhwng pob peth, o'i Epic of Hades a'i weithiau ereill. Tase fe wedi cyhoeddi nhw yn y Gymr&g, mwy na thebyg na ctIelaifo ddim digon i dalu'r printer am dano. Lebanfardd.—Y mae genyf fi bryddest ar Gacwn gystal a dim sy wedi ymddangos yn y Sasneg ne'r Gymrag, a mi cyhoedda hi cyn pen hir. Mi ddylswn gael pac o bunoedd am dani hi gan un publisher yn y byd. John, Cap Coch. ha, ha, ha. Ti yn fardd Ha, ha, ha. Oddiar pryd, gwed ? Na, mi guras i di yn Steddfod Ffrwdgrech, amyrawdl ar "Ffwlbart." Mi ddarluniais i y pryfyn ftyrnig hwnw gyda'r fath fanyl- wch, ebe y beirniad, nes nad oedd dim shar rhyngwy i a thydi. Evan, Caerffili.—Fechgyn 'dyw hi ddim gwerth i chi fusnasa sha'ch barddoniaeth a'ch pryddesta pilboaidd. Ma hi'n burion peth pan bo rhywun fel Carnelian yn gallu saethu doi ergyd llwyddianus ag un dryll i Chicago, ond nid yn ami ma petha wel hyny yn digwdd. Fi glwas i fod rhyw haner tebygolr rwydd na fydd dim o Steddfod Treffynon i gael ei chynal eleni. Be 'dy'r achos, tybed ? Ai am fod Steddfod Gadeiriol Deheudir Cymru wedi neidio i fodolaeth mor ddi- ddysgwyliad ? Wel, yr oedd yn hen bryd i dro dd'od ar fyd, yn lie bod gwyr y North yn cael y brog Eisteddfodol oil i gyd. Awdl Cariad oedd i fod yn destyn Cadair yno. Wel, os oedd englyn Cariad y Goron, fel y gwelsom, yn creu cymaint hullabaloo, be wnai awdl ar y testyn, wys 1 Richard Betws.—Ma rhw fothers rhyfedd gyda chi am englynion, a rhw stramboons felly, ys dywedai loan Emlyn mewn llythyr ryw dro wrth-neu, ebe fe yn mhellach :— Y caeth reolau cythreulig. Eled y cynghaneddion i'w crogi, o'm rhan i. Y mae yn destyn llawenydd i bob rhecsyn o ddyn fod y gauaf ofnadwy hwn, bellach, dros- odd. Gauaf cethin fu hwn am rewi gwaed dyn, anifail, ac aderyn. Y mae pob un o'r rhywogaeth hyna wedi gorfod talu teyrnged angeu yn ystod y tywydd cated diweddaf, a diau y bydd ei effeithiau i redeg yn nghyfan- soddiadau dynion am fisoedd eto. Er hyny, y mae genym fis Mawrth, bron i gyd, i deithio drwyddo, os cawn fyw, a mis savage yw efe yn arfer bod. Anfynych iawn yr ymwela ef & ni na fydd yn dangos tipyn o'i ffyrnigrwydd arferol. Agrippa.—Ydyw, Richard, y mae yn fen- dith i' ni gael gwared a'r hen Boreas fu yn teyrnasu mor haiarnaidd arnom trwy y gauaf. Mi ddalia i fod yr hen auafau yn dyfod yn ol, a rhai gwaeth na'r rhai hyny, 03 yw hwn yn specimen. Ond y mae Twm Dilli a Lili Wen fach yn tyfu er's dyddiau ar ei fedd, ac yn rhagarwyddo na phoena ni yn rhyw hir iawn mwy. Peth arall yw y dysgwyliad cryf sydd yn mhob dosbarth trwy y wlad, fod cyffroad masnachol i fod y Gwanwyn hwn. Y mae llawer o bethau' yn pwyntio at hyny. Gwel- som fod rhai o Weithfeydd Haiarn Bolckow Vaughan, ger Middlesbro', wedi derbyn eirchion am filoedd lawer o dunelli o rails i wledydd tramor. Y mae America, hefyd, mewn rhyw fath o wewyr yn dyheu am dor- iad gwawr, ac yn wir, y mae y wawr wedi Í)ori yno. Felly, rhwng pob peth a'u gilydd, y mae lie cryf a chysurol i obeithio fod amser gwell yn agoshau. Cofnodydd.—Da iawn. Cofiwch ddyfod yn gryno wythnos i heno, gan y bydd mwy nag un pwnc o ddyddordeb i ddyfod dan sylw. Felly, gan ei bod yn hwyr. Nos da i chi gyd.
AT BWYLLGOB EISTEDDFOD PANTYFFYNON.
AT BWYLLGOB EISTEDDFOD PANTYFFYNON. FoNEDDiGMN,—Ar ol darllen hysbysiad yr Eisteddfod uchod yn y GWLADGARWR, yr hwn hysbysiad sydd yn crybwyll fod gwobr- wyon yn cael eu rhoddi am farddoniaeth, danfonais am brogramme; ond er fy siom- iant, nid oes yr un linell farddonol i fod yn gystadleuol ynddi o gwbl. Yn awr, hyd oni y ceir eglurhad boddhaol genych, fel pwyll- gor, credaf eich bod yn wirfoddol wedi gosod trap i ddwyn arian y beirdd. Tegwch a'r cyhoedd fyddai cael goleuni ar yr annghyson- deb uchod yr wythnos nasaf. LLYGADGRAFF.
COB GWILYM GYNON.
COB GWILYM GYNON. MR. GOL.Teimlaf yn wir ddiolchgar i chwi am gongl fechan o'ch newyddiadur i anerch aelodau y cor uchod. Yr ydym ni wedi myned yn dawel iawn gyda'r canu cor- awl oddiar, adeg Eisteddfod Penybedw, ac y mae llawer un yn' barod i gredu ein bod wedi colli ein hysbryd yn gystal a'r wobr yn yr Eisteddfod uchod, ond da genyf ddweyd mai camsynied yw hynyna, fel ag y profwyd yn Abertawe dydd Nadolig diweddaf. Ond yr hyn wyf am wneyd yn bresenol ydyw tynu sylw aelodau y c6r at y cyfle sydd genym eto i brofi ein gallu oedd drwy gyatadlu ar y prif darn yn Eisteddfod Gadeiriol Deheudir Cymru, mis Medi nesaf, a dim ond.i ni gael undeb a chydweithrediad, nid oes achos i ni ofni rhyw lawer. Y mae rhai ohonom wedi addaw wrth bwyllgor yr Eisteddfod y byddai i g6r ddyfod i gystadlu i'r Eisteddfod o'r ardaloedd hyn, o dap arweiniad Gwilym Cynon, a chan ein bod wedi addaw yn bendant i fyned, bydded i ni gymeryd y fegin yn ein dwy law a dechreu chwythu y tan. Yr wyf wedi cael ar ddeall fod y pwyllgor yn cau y cor fyddo yn gwas- anaethu yn yr Eisteddfod allan o'r gystadleu- aeth, yr hyn sydd yn glod i'r pwyllgor. Yr y t, ydwyf wedi clywed gair oddiwrth ein har- weinydd medrus ei fod yn hoffi y ddau ddernyn sydd wedi eu dewis i'r corau yn fawr, a'i fod yn awyddus am ddechreu gweithio. Gwell ydyw gormod o amser na rhy fach, gan hyny, ati a ni, fechgyn, o ddifrif.'—Yr eiddoch, Hirwain. ALAW CYNLAIS.
Advertising
Y- Mae gan y QUININE BITTERS un cymer- adwyaeth anarferol, sef bod meddygon o bob gradd yn cydnabod eu heffeithiau trwy eu rhoddi i'w cleif- Ion (patients), pan yn fynych y methant gyda'u cyfferi meddyginiaethol eu hun am. Gwelir manylion ar dudalen arall o'r papyr hwn. L. 163
EIN BEIRNIAID CEBDDOBOL.
EIN BEIRNIAID CEBDDOBOL. MR. GoL.,—Dull arall o feirniadu, yn gy- ffredin iawn, yw dweyd fod eyfansoddiadau yn debyg i gyfansoddiadau rhyw awdwr wedi cyfansoddi o'i flaen. Ceir hyn yn ami iawn gan ein beirniaid presenol, yr hyn nad oedd ein hen feirniaid yn gwneyd fawr sylw o hyny. Tra yn darllen beirniadaeth Mr. Jenkins, Mus. Bac., ar y cantawd yn Nhre- herbert, cawn lawer iawn o hyn. Ac yn wir; Mr. Gol., byddaf yn teimlo yn chwithig iawn fod y feirniadaeth hon wedi ymddangos I mewn papyr mor anmhoblogaidd a'r Genedl Gymreig yn y gymydogaeth hon, tra mae yma newyddiaduron llawer mwy poblogaidd, a'r Eisteddfod, hefyd, yn y gymydogaeth; ond nid oes dim a fynwyf fi 4 hyn ar hyn o bryd. Amryw wedi yfed yn helaeth," meddai, "o Dr. Parry." Rhai wedi yfed mor helaeth fel ag yn gosod y Dr. o'i flaen yn fyw, a braidd, wrth hyny, yn dweyd en bod wedi tori y gorchymyn, sef Na ladrata." Ond ar yr un pryd, os nad oedd yn euog o hyny, yn godiad mawr iddo, er bod heb y wobr. Mae tri o'r eyfansoddiadau yma wedi bod dafIJ fy sylw cyn erioed i Mr. Jenkins eu gweled, a gwyddwn fod yno lawer o symud- iadau yn debyg i wahanol awdwyr, ac yn eu plith rai yn debyg i Dr. Parry. Ond hyn sydd gwestiwn, ac yn gwestiwn ag a ddylai gael llawer o sylw ein beirniaid cerddorol a barddonol, sef os mai y personau hyny y priodolir y seiniau neu frawddegau iddynt oedd y rhai cyntaf a'u canodd, os mai hwy oedd wedi eu creu, a hyny cyn cyhoeddi y feirniadaeth. Rhyw ddeuddeg sain yn yr holl o'r cyfansoddiad hwn sydd yn debyg i Dr. Parry, a hyny mewn cyfansoddiad yn cynwys rhyw 50 o dudalenau, ac y mae y seiniau hyny mewn dau fan, sef chwech yn mhob man. Byddaf yn ystyried hyn yn fyr iawn mewn unrhyw feirniad igondemnio cyf- ansoddiad o'r byd yma, am fod ynddo ryw ddwsino seiniau yn debyg i eiddo Dr. Parry, os Dr. Parry hefyd ond gallaf ddweyd gyda sicrwydd nad Dr. Parry yw awdwr y seiniau yma. Eu bod wedi eu canu cyn geni Dr. Parry ac os yw Mr. Jenkins yn gyfarwydd a gweithiau Caraffa, cenfydd yr un seiniau yn union. Hefyd, pe byddwn yn meddwl am astudio gwreiddiolder, nid byth y dewiswn Dr. Parry yn safon, oherwydd byddai yn well genyf ddewis pawb, yn mron, o flaen y Dr., am fod ei holl gyfansoddiadau, a'r cyf- ansoddiadau mwyaf caniadwy a phoblogaidd o'i eiddo, yn arwynebol iawn, os mai bod yn debyg i rywun arall yw arwynebedd, a bod yn annhebyg yw bod yn wreiddiol. Yn ol yr ystyr yma, mae y Dr. yn fwy arwynebol na neb o'r cyfansoddwyr Cymreig. Ond ar yr un pryd, mae genyf ormod o barch i'r Dr. i gredu ei fod yn euog o ladrata oddiar neb, ac hefyd o'r farn ei fod yn haws iddo gyfansoddi carddoriaeth newydd na chymeryd amser i ddwyn oddiar neb. A'r un fath gallwn ddweyd am Emlyn, Alaw Ddu, ac yn olaf oil am ein beirniad yn Nhreherbert; ac ond iddo edrych i'w gyfansoddiau ei hun, gwel fod hyn yn gywir, ac yn ol ei syniad ef, ei fod yn euog o dori y gorchymyn, "Na ladrata. Edryched unwaith eto cyn ei fedd ar y deuawd, Dring, dring," ac feallai ycawn glywed ganddo ai Handel neu ei eiddo ei hun yw y cychwyniad. Gwel y eyfarwydd yn union mai eiddo Handel yw, ac nid eiddo Mr. Jenkins, ac felly yn euog o dori y gor- chymyn. Mae llawer iawn o wirionedd yn y geiriau hyny, ac nid llawer, ond gwir i fyd, Y meddyg, iacha dy hun." Hefyd, mae yn bwnc genyf, yn ol syniad Mr. Jenkins am ladrata, fod Handel, er cymaint ei allu, yn un o'r lladron mwyaf a welodd ein daear erioed, oherwydd eawn ganddo nid dwsin o seiniau, ond brawddegau cyfain o gerddor- iaeth yr un fath sain ar ol sain a gawn gan ein cyfarxsoddwr Italaidd oedd wedi bod yn byw ganrif o'i flaen a phwy fydd mor ben- ysgafn a chredu fod eyfansoddwr fel Handel wedi bod yn euog 0 ladrata, am ei fod wedi canu yn debyg i rywrai a ganodd o'i flaen. Na, Mr. Jenkins, a phawb ereill, nid dyna'r dull goreu o feirniadu ac nid dwyn mae pob dyn ag sydd yn canu yn debyg i arall, ac nid yn ami y ceir cyfansoddiad na fydd cyfan- soddiad, braidd, o'r un fath, nodyn ar ol nodyn, wedi ymddangos yn y dyddiau pre- senol. Ac ond i Mr. Jenkins ddarllen Dr. Marx (yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg), un o'r awdurdodau uchaf fel athronydd cerddorol, cenfydd yn union nad oes neb gwreiddiol; oherwydd rhoddai Dr. Marx challenge, pan yn son am wreiddioldeb, nad oes neb gwreiddiol yn bresenol. Dygwch i mi ddarn o gerddoriaeth," meddai, "a minau a ddeuaf ag un yr un fath yn union." Byddaf yn ystyried hyn yn dweyd llawer mewn ychydig eiriau. Hefyd, dywed Shak- spere bron yr un geiriau-nad oes yr un meddwl nad oes rhywun wedi ei feddwl o'r blaen.' A dywed Solomon nad oedd dim newydd dan haul. Ond gan ein bod wedi meddwl am wneyd rhyw fath -o analysis ar ar ein gwahanol gyfansoddwyr Cymreig, a hyny er lies i ni ein hunain, nyni adawn y pethau yma nes byddwn wedi dibenu a'r dull y bydd ein beirniaid yn cario eu gwaith allan. NID INDEX. MR. GOL.Da iawn genyf ddeall fod fv llythyr cyntaf yn dechreu dwyn ffrwyth. Gobeithiaf y ceir cyfres o lythyrau ar y mater yn awr gan amrywiol bersonau. Mae ysgrifenydd y llythyr diweddaf wedi agor maes newydd, ond buddiol. Nid oeddwn i wedi meddwl am fyned y ffordd yna, ond cadw yn unig at annghymhwysder beirniaid oherwydd anwybodaeth ac anallu, er, ar yr un pryd, yr wyf yn cydnabod fod y dosbarth arall mor deilwng o sylw, a dweyd y lleiaf. sef y rhai sydd yn deall eu gwaith yn drwyadl, ond heb ddigon o gydbwysedd yn en cyneddfau i wneyd yr hyn ddylent wneyd. Maent yn teimlo rhyw gyaylltiadau maanachol neu grefyddol, politicaidd neu lenyddol, yn eu rhwymo i wneuthur fel hyn neu fel arall, ac nid edrych ar y cystadleuwyr fel cystad- leuwyr, ac edrych amynt yn well neu yn waelach na'u gilydd yn eu perthynas a'u gilydd, ac nid yn eu perthynas a. hwy fel beirniaid. Os nad oes gan un ddigon o ddyn- oliaeth ynddo ei hunan i wneuthur cyfiawn- der mewn barn hyd y nod a'r un y mae yn ystyried yn elyn, nid yw yn deilwng i farnu. Nid pwy ydyw arweinydd y cor, neu o ba le maent yn dod, na phwy ydyw awdwr y darn neu'r ysgrif, ysly w'r pethau i- iyl*i beirniaid ofalu am danynt, ond pwy yw v goreu, heb adnabod neb yn ol y cnawd, nac ychwaith yn ol yr awen. Dyna beth arall a nodir, sef edrych ar y post-mark. Gwyddom am rai cystadleuwyr sydd yn ddigon llygadgraff i ddeall tuedd- iadau y cyfryw feirniaid, ac yn ddigon llwynogaidd i fyned a'u cyfansoddiadau i leoedd neillduol i'w postio, ac yn cael y wobr (a'r personau oeddynt yn byw yn y cyfryw leoedd heb geisio wrth gwrs). Yna yn chwerthin yn fraf mewn ymffrost annuwiol uwchben eu gwydriad cwrw, ac yn dweyd fod y beirniad yn "edrych fel ffwl," pan yn gweled mai nid yr un neillduol ddaeth yn mlaen. 0 gyfiawnder, uniondeb, a barn Ti, dduwies hawddgaraf A gladdwyd ti 1 Neu a alltudiwyd ti gan fodau ar lun dynion 1 Ai yntau wedi digio yr wyt, ac ymneillduo ? Maddeu, O dduwies, a thyred yn ol Esgyn dy orseddfainc, a theyrnasa o hyn hyd yn dragywydd. Peth arall a nodir, sef fod beirtliadaethau fel pe wedi eu gwneyd un waith ya y fath fodd fel ag nad oes eisieu ond eu hail- adrodd. Gwnant yn mhob amgyichiad "lights and shades" of course mewn dat- ganu. Ha w £ r bach y colegau a'r prif- ysgolion, pwy rydd oleuni ar lights and shades mewn datganu i un awyddus am dano '? Veritas, beth yw ? Beth am gyfryw feirniad- aeth a'r ganlynol tra yr oedd y tri chor oedd yn cystadlu mor wahanol yn eu hamser a'u harddull ag oedd yn bosibl fod bron :— "CHOIR No. 1.—Amser splendid, intona- tion campus, a lights and shades rhagorol o'r dechreu i'r diwedd. Ciaoir. No. 2.—Amser splendid, intona- tion campus, a lights and shades neillduol iawn all through. "CHOIR No. S.—Amser splendid, intona- tion rhagorol, a'r lights and shades o'r quality goreu." Y goreu o lawer ydoedd No. 3, a'r cyfryw gor wedi rhedeg un symudiad yn hollol ddi- lywodraeth. Eto No. 1.— Canwr campus, quality splendid, ond lights a shades drwg iawn. "No. 2.—Canwr gwael iawn, accidentals annghywir, ond expression rhagorol yn y lights and shades. "No. 3.— Silvery ooice-top notes yn glir iawn. '4 No. 4.—Canwr gwael, canu yn annghy wir iawn, dim lights and shctdes, ond expression rhagorol. Pethau cyffredin ydyw y rhai hyn. Dos- barth o greaduriaid wedi clywed rhai oeddynt hwy yn edmygu yn fawr yn defnyddio'r ymadroddion, ac yna yn ceisio gwneyd def- nydd ohonynt eu hunain yn mhob cyfle, heb ddeall dim o'r hyn oeddynt yn ei wneyd, ond gwneyd fel hwn a hwn. Un arall dra- chefn yn codi ar ei draed ar esgynlawr Eis- teddfod i ddweyd ei farn ar y canu corawl (yr ydym oil wedi bod yn dvstion ohoRo), ac yn dweyd fod yr alto yn rnethu yn y G sharp, a'r tenor drachefn yn methu yn y D flat, pan nad oedd na G sharp na D fiat yn y cyfansoddiad. Y bass yn dechreu yn rhy gryf yn y fuge ac yn methu dal y subject i fyny, pan nad oedd na fuge na dim o'r cyfryw yn y dernyn. Un arall drachefn yn dweyd fod y don hon yn iiawn o iân waiiau, megys y pumed yn cael ei ddyblu, trydeddau dilynol, a'r bass yn symud i'r tonydd cyn y diwedd-yn gwneyd y don fel pe buasai yn darfod yn y canol, &c. Canmola un arall fel ton ragorol, yn llawn o newydd-deb, ac yn sicr o fod yn un gampus os dygid hi i ymar- feriad, a dim cymaint ng uu mefr-r neu bedwar o gordiau yn olynol yn gywir, yn llawn o 8fedau a 5edau dilynol, a gwaeth na hyny. Y dosbarth hyna, ïe, ddarlleiiydd, y creaduriaid ymffrostgar, gwyntog, hyna yn cael eu dwyn i ddirmygu dynion a merched ieuainc ein gwlad, ac yn derbyn t&i a oharch (gan ynfydion) gwyr galluog. Dvnion yn cymeryd arnynt y gorchwyl o feirniadu cyf- ansoddiadau, ac yn ymffrostio na ddarfu iddynt erioed golli deng mynud o amser i astudio cerddoriaeth. 0 ynfydrwydd, wedi ei berffeithio.gan wag ymffrbst a hunanoldeb ffiaxdd ac annynol. Ereill yn ddigon di- egwyddor i ymgymeryd a'r cyfrifoldeb o feirniadu cyfansoddiadau am fod ganddynt gyfaill allai wneyd hyny iddynt, ac yn talu yn ddrud iddynt am wneyd hyny, er mwyn iddynt hwy gael yr anrhydedd, a thaiu yn ddrud i ereill drachefn am rocidi gwerth 5s. o sebou meddal," fel y dywedir/ar ddalen y papyr newydd. Gall y rhai hyn wneuthur unrhyw beth er mwyn enill ychydig o barch gan ffyliaid, a chael dangos eu hunain <?o<*on- eddus ar 1 wyf an Eisteddfod. & ° Ceir llinell neu ddwy mewn cyfoiriad arall yn fuan, os byddwn byw ac mch. Mae eisieu galw sylw ein beirniaid blauuaf at rai pethau ag sydd yn deilwng iawn 0 syIw. Gobeithio y daw ereill allan i'r frwydi. Deuwch allan gyfeiihon, fel un g-r, i amddiffyn anrhydedd yr her., seiydliad anwyl. CARWR CYSONDEB.
[No title]
Ysgrifena "bachgenyn" o. Wiikesbarre, nad yw loan yn son gair y-, Uyft- D^tguddiad 61 tod. v,edi gweled greenback* yn v nefoedd— aur, arian a meini gwermfW oedd pob peth yno yr hyn sydd yn awgrymu i ni beth lydci tynged Ben Butler a H. W. Evans, Plainesville."
Masnach yr Haiam a'r Glo.
haiarn a dur. Oddiwrth yr adroddiadau o'r :adran hon, ymddengya fod gan rai o'r gweithfeydd haiarn fwy o waith. Maent yn gwneyd hytrach fwy o haiarn, ond, ysyw- aeth, nid yw y prisoedd yn well. Ychydig o reiliau haiarn a wneir ond y mae rheiliau Bessemer yn cael eu troi allan yn symiau rhesymol. Marwaidd y w masnach y bariau haiarn. Mae adfywiad gwerth son am dano yn masnach yr alcan. Mae Gweithfeydd Pontymeistr, y rhai sydd yn mherchenogaeth Mr. Whitehouse, yn debyg o gael eu had- gychwyn mewn amser byr, a gobeithir yr un peth am Weithfeydd Rhiwderyn. Mae pethau felly yn newyddion rhagorol o dda. Mae y puddlers yn Nglyn Ebwy wedi cael gweithio yn well am y pythefnos diweddaf. Yn Nhredegar, ychydig o waith sydd yn cael ei ddwyn yn mlaen, oddieithr y gweith- feydd glo-mae y rhai hyn yn gweithio yn brysur. Mae yn dda i feddwl fod masnach y glo at wasanaeth teuluol yn dal ei dir mewn sefyllfa wellhaol, a gwell swn drwy yr holl byllau. Glo agor yn dal yr un peth ag oedd yn fy adroddiadau blaenorol. Yn Rhymni, gwael yw hi ar y puddlers, ac nid oes gobaith am adgychwyniad i gymeryd lie yn y forges sydd wedi bod yn segur er's mwy na blwyddyn. Yn NGHAERDYDD, yn ystod yr wythnos ddiweddaf, mae ein coal shipping wedi parhau i fod yn ddiwyd. Allforiwyd oddiyma yr wythnos ddiweddaf 82,379 o dunelli o lo, 2,590 o dunelli o batent fuel, a 130 o dunelli o haiarn a dur. Mae yma yn awr ddigonedd o waith, a'r allfor- iadau yn dal eu tir yn lied lewyrchus. Mae y dybiaeth y rhaid i ostyngiad cyffredinol gymeryd lie drwy yr adran wedi rhoddi gwendid yn fFerau y prisoedd ond nid oes yr un cyfnewidiad neillduol wedi cymeryd He. Mae ychydig welliant wedi cymeryd lie yn hur-gludiadau y llongau, yr hyn sydd wedi sirioli cryn dipyn arnom fel rhai sydd a rhanddaliadau mewn llongau. Mae gwell huriau i longau mewn teithiau byrion i borthladdoedd Mor y Canoldir. Yr oedd y mordrosiad i fewn yma o fwn haiarn yr wythnos ddiweddaf yn 1,320 o dunelli o'r Ysbaen 1,310 o dunelli o Itali a 1,028 o dunelli o adnoddau cartrefol y wlad hon. Yn adran ABERTAWE, yr oedd yr allforiadau (heblaw yr ychydig a aUforiwyd o Gastellnedd) yr wythnos ddi- weddaf yn 13,705 o dunelli o lo 3,083 o dunelli o batent fael a 75 o dunelli o haiarn. Mae masnach gyffredinol y llaw-weithfeydd drwy yr adran hon yn parhau yn y sefyllfa fwyaf ddigalon, trychinebus, a gwael. Mae Gweithfeydd pwysig Glandwr yn weddol weithgar. Ond er fod hyn o adroddiad am y gweithfeydd haiarn, yr ymyl ddu sydd i'r cwmwl masnachol. Mae y gweithfeydd alcan yn arddangoa yn hollol i'r gwrtliwyneb i'r gweithfeydd ereill. Maent yn gweithio yn rheolaidd ddwy ran o dair o bob wythnos, a hyny yn fywiog, ac yn enill cyflogau weddol dda ag ystyried sefyllfa pethau. Nid oeS rhyw gais bywiog am batent fuel wedi bod yr wythnos ddiweddaf. Mae pris y glo yn dal yn yr iselderau yn barhaus, ac felly y gwna yma, fel yn mhob lie arall, nes y delo y cais yn fwy na'r cyflenwad. Mae masnach y glo, yn LLUNDAIN, wedi bod yr wythnos ddiweddaf yn well na'r wythnos cyn hyny ond mae prisoedd y glo- feydd a enfyn y glo yno gyda y rheilffordd, a thros y mor, yn hynod isel y tymor hwn o'r flwyddyn. Yn nechreu yr wythnos, yn ngwyneb fod cymaint o longau llwythog ar yr afon, a'r tywydd yn weddol fwynaidd, gostyngwyd y prisoedd to an unprecedented extent. Glo yn gwerthu mor isel a 16s. y dunell. Cymerodd gostyngiad o tua dau swllt dunell le, ond cyn y diwedd newid- iodd y don. Daeth y rhew a'r eira, a chod- odd y tanwent. Yr oedd marchnad haiarn GLASGOW yn weddol fywiog yr wythnoa ddiweddaf, a taasnach helaeth yn cael ei wneyd. Y pris- oedd wedi adfywio. Mwy o ymofyn am lo at wasanaeth tai ar gyfrif yr hiu oer. Mae masnach yr haiarn A. FFRAINC, mewn rhai dosranau, yn fwy bywiog. ond masnach y glo wedi llacio. Mae masnach y glo yn Belgium wedi adfywio ychydig, a dywedir fod rhai cytundebau yn marchnad yr haiarn wedi cael eu gwneyd. MASNACHDEITHIWR. Caerdydd, Mawrth 3ydd, 1879.