Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
Temperance Hall, Aberdare. Under the distinguished patronage of the RIGHT HON. LORD ABERDARE, David Davis, Esq. J P., Maesyiiynon; W. Thomas Lewis, Esq., J.P., Mardy; liev. J. W..Wynne Jonef, M.A., the Vicarage Daniel Rees, Esq.. Glandare; Richard B 'dlixigton. Esq., Gadlys House; Evan Jones, Esq., Ty Mawr. MR. ABRAHAM NEHEMIAH JAMES' (R.A.M.) ANNUAL BENEFIT CONCERT Will take place at the above Hall, On THUHSDAY Evening, Feb. 27th, 1879. Artistes: MISS SARAH ANN WILLIAMS, R.A.M. MISS HANNAH HARRIS. MISS MALtY RICHARDS (LLINOS DAR). MISS LIZZIE JENKINS. MISS ANNIE HUGHES MR. DANIEL EVANS (EOS DAR). MR. DAVID HOWELLS (GW.YNALAW), U.C.W. MR. WILLIAM PHILLIPS (GWILYM CYNON). MR. WILLIAM THOMAS (GWILYM GWENALLT). MR THOMAS HOWELLS (HYWEL CYNON), MR. JOHN LAKE. MR. THOMAS S. THOMAS (TELOR DAR). MR. BENJAMIN THOMAS MR. WILLIAM EVANS. MR. WILLIAM JAMES. The Aberdare Choral Union, Conducted by Mr. REtsa EVANS. Accompanist: Mr. JAMES. DÓors Open at 7-30, to Commence at 8 o'clock. Admission, Front Seats, ls. 6d.; Second, ls.; Back, 6d. 2056 STAFFORDSHIRE BLUE BRICKS, COPINGS, QUARRIES, RIDGES, ROOFING TILES, AND TERRA. METALLIC PAVINGS, SUITABLE FOR STABLES, FOOTPATHS, HOUSES, PIG. GERIES, KENN&LS, COURTYARDS &c. Five Gold and Silver Medals. First Ctaas Awards London, Paris, and Brussels Exhibitions. I e First Class Award, Silver Medal, Paris, 1878. JOSEPH HAMBLET, West Bromwich. 2059 DAVID T SOMAS, PRACTICAL WATCHMAKER, GOLD & SIVER SMITH, eft OPTICIAN, 44, COMMERCIAL STREET, ABERDAR. TDyma Thomas, o Gaerfyrddin, m Yma'n byw er's llawer blwyddyn,— | Gof mewn aor ac arian yw, H A gwerthwr jewels o bob lli w. TT Spectolau gewch i'r llygaid gwan XX OAt bob oedran? dyma'r man „ Ac eto ring priodas, dyma'r lie ( 1 'Gael llestri arian a llwyau t6. lawer sy' mewn 'stor, 1*1" A dd'wed wir amser ar dir a m6r; xfX Awrlei&iau hefyd 'n rhifedi mawr, J\ Yn taro'r gloch yn iawn bob awr. Doctor, meddygwr oriawr wyf, SI roi iachad o bob olwyf, O A'i chadw flwyddyn ar un gost O On'bai rhyw gam neu anhap tost. Gymry lion, o wlad y delyn, A'u lliwiau pert a'u blodeu melyn, A'i phobl hefyd clir eu cAn I siop y Cymro," d'wedwch, dere mla'n." ESTABLISHED 1864. 2058 Agents Wanted TO SELL BIRMINGHAM GOODS, JE- WELLERY, WATCHES, FURNITURE, &c. Illustrated Book and Auctioneer's Price List, Post free. HENRY MAY, Birmingham. 2049 ■fi •VliuD Y GOLYGYDD. BEIKNIABAETH HOPE CHAPEL, PONTARDULAIS.— Daeth y rhan olaf ohoni i law yn rhy ddiweddar i ymddangos yr wythnos hon ymddengys yn y rhifyn nesaf. BAOHGEN o'n LLE. — Y mae eich hysgrif yn rhy bersonol o lawer, ac ond i chwi anfon eich henw a'ch cyfeiriad yn llawn, gellwch gael y stamps yn ol." EMLYN ALAW.-Diffyg gofod yn unig a barodd fod eich hysgrif allan yr wythnos hon. Bydd yn dda genym rhoddi lie i hanes y cyngherdd. DERBYNIWYD-Eos Hafod, Oenin, Castellydd, Vox Populi, Gohebydd (Deri), Machenfab, Llygad- graff, Dewi, Carwr Canu, Un o'r Cywion, Shon F Gwas, G. (Crwys), a Beirniadaeth Eisteddfod Philadelphia, Abertawe.
EIN RHYFELOEDD.
EIN RHYFELOEDD. RHYBEDD y fath Lywodraeth neu deyrnas ymyrgar a chwerylus yw Prydain Fawr pwy sydd wedi ei chenadu fel hyn, i ym- yru yn ngweinyddiaethau holl deyrnas- oedd gwar ac anwar y byd crwn ? Ni faidd neb gymaint ag awgrymu iddi hi ei dyledswyddau, na chwyd ei gwrychyn fel porcupine; ac os baidd neb arall wrthod ei chynghor hi, dibrisio ei gor- shymynion, a gweithredu yn ol eu barn annibynol eu hunain, actia y gormeswr yn union; chwythir y tanau, ysgogir y peirianau, gwisgir yr arfau, hwylir y Ilongau, ag eir ar yr hynt oresgynol yn ddiymoedi-a gwae y deyrnas hono a faidd ymgynyg at amddiffyn ei hun, ac na phlygo ar ei gliniau i fegian pardwn, am fod mor feiddgar. haerllug, anufudd ac anystyriol, a thywys ei helyntion gwladlywiaethol, yn ol ei hewyllys ddi dramgwydd a'i barn gydwybedol ei hunan. Trethwyd diwydion y wlad o chwech miliwn o bunoedd i godi bwgan i frawychu Rwsia i ymostyngiad a beth yn sylweddol sydd genym i'w ddangos am danynt heddyw ? Dyma ryfeloedd Affghan a Zululand, yn ngwarthaf un Rwsia a Thwrci. a chyst y ddau hyn eto filiynau meithion o bunoedd yn ychwan- egol; trethir y wlad a mynir yr arian, er gwaethaf gwasgfeuon masnachol, ac an- ffodion bancyddol, i gario yn mlaen ryfeloedd nad oedd dim yn galw am danynt ond balchder pendefigaeth, a gwanc uchelgeisiol ein his-lywodraeth- wyr ;• ai nid oes gan ein llywodraethwyr ddigon o waith gydag achosion mewnol ein gwlad ein hunain -paham na threier ar ryw gynllun-paham na chymwysir peth o arian y Trysorlys at leddfu eisieu, gwasgfeuon a gorthrymderau cymdeith- asol ein gwlad, yn lie eu gwastraffu ar waed, tan, ac ysbail, a chreulonderau di- enw mewn gwledydd barbaraidd ? Mewn gwirionedd, buasai yn llawer gwell genym ni gael ein trethu o'r pedair ceiniog a godwyd ar y tybaco, a'r haner coron a godwyd yn nhreth y cwn, tuag at leddfu tlodi ac angen y dosbarthiadau gweithgar—cyfarfod a damweiniau tan- ddaearol y glofeydd, a chynal ac ym- geleddu gweddwon ac amddifaid y trengedig; byddem yn foddlon yfory nesaf i gael ein trethu hyd dair ceiniog y bunt, at yr achosion dyngarol a enwyd, ond dim at anturiaethau goresgynol a llofruddiog y bidog a'r cledd. 0" 0 PAHAM Y DIFRODA Y CLEDD YN ZULULAND ? Wel, gellir cael golwg ar gnewllyn pwnc y Zuluiaid ar unwaith, dim ond i nidori eneuen MICHAEL HICKS-BEACH, yn unig. Yr ydym oil wedi darllen yn mrys-lythyrau penderfynol a thra- awdurdodus Syr BARTLE FRERE, fod y Dirprwywr hunan-ddigonol hwnw yn edrych ar ryfel yn erbyn CBTYWAYO fel peth anocheladwy. Oddiyma, er cymaint y darfu i'n' Ysgrifenydd Trefedigaethol edmygus ond eiddil, wrthdystio y byddai y rhyfel yn ddialw-am-dano, y bu i'r cyndyn Syr BARTLE FRERE, gadw yn un- ion yn ei flaen yn y cwrs ag oedd efe wedi dori allan iddo ei hun, ac y darfu iddo yn effeithiol gyhoeddi rhyfel mewn gwrthwynebiad pendant i ddymuniadau datganedig y Llywodraeth Ymerodrol gartref. Ymddengys hyn yn amlwg oddiwrth un o'r brys-lythyrau cyfeiriedig ato oddiwrth Syr MICHAEL HICKS-BEACH, ar y 23ain o Ionawr diweddaf Mewn trefn i roddi nawdd i fywydau ac eiddo y trefedigaethau, mae yr adgyf- nerthion a ofynwyd wedi eu caniatau; ac wrth eich hysbysu am benderfyniadau Llywodraeth ei Mawrhydi, defnyddiais y cyfleusdra er gwasgu arnoch y pwysig- rwydd o arfer pob ymdrech i ochelyd rhyfel. Ond mae y telerau ag ydych wedi eu cynyg i'r Brenin Zuluaidd, gan nad faint all fod yr anghenrheidrwydd am ryddhau a diogelu y drefedigaeth yn 0 Z3 y dyfodol oddiwrth berygl ymhongiawl a ZD chynyddol, ydynt. y mae yn amlwg y fath ag y bydd efe yn debyg o'u gwrthod, serch gorfod anturio myned i ryfel; ac y mae yn ddrwg genyf fod yr anghenrheid rwydd am weithrediad uniongyrchol wedi ymddangos i chwi mor rhwymedig, fel ag i warafun i chwi yr oediad a fyddai yn ofynol er ymgynghori a Llywodraeth ei Mawrhydi, ar bwnc o gymaint pwys ag yw y telerau y byddai yn ofynol i CETY- WAYO eu derbyn, cyn fod y cyfryw deler- au wedi cael eu cyflwyno yn weithredol i Frenin y Zuluiaid. Wrth wneuthur y sylwadau hyn, nid wyf, fodd bynag, yn chwenych cwestiwnio priodoldeb y wlad- lywiaeth ydych wedi ei mabwysilidu yn ngwyneb sefyllfa anbawdd a dyryslyd yr amgylchiadau. Wedi cyflwyno eich hun er eich dyfodiad i Natal, gyda gofal di- wydrwydd diflino i chwilio i mewn i'r pwnc, gyda y fantais (yr hon ni all fod gan neb ond y sawl sydd ar yr ysmotyn) o.fod yn alluog i ffurfio barn am effeith- iau uniongyrchol y cyfryw gyfnewidiadau yn' agwedd a chyffroadau llywodraethwr anwareiddiedig, megys ag y mae yn was- tad yn rhwym o ddygwydd—yr ydych wedi ffurfio tybiaeth gref, mewn ategiacl i ba un yr ydych wedi dwyn rhesymau grymus, o barth i angenrheidrwydd y cwrs ydych wedi ei gymeryd er diogel- wch, neu hyd yn nod, fodolaeth parhaol y cyfundeb Ewropeaidd yn Neheudir Affrica." Dyma hefyd, a ddywed Syr CHARLES PILKE yn ei gynyg o flaen y Weinydd- iaeth :—u Fod y ty hwn, tra yn foddlawn i ategu Llywodraeth ei Mawrhydi, gyda phob mesurau anghenrheidiol er adenill y sefyllfa filwrol yn Neheudir Affrica, ac er nawdd bywyd ac eiddo yn Natal, o'r dyb fod y rhesymau dros oresgyn y Deyrnas Zuluaidd, fel ag yr adroddir yn 5 y papyrau a gyflwynwyd i sylw y Senedd, | yn annigonol, ac yn gofidio fod telerau I bwriadedigi gynyrchu rhyfel uniongyrch- ol, wedi cael eu cymheli ar Frenin y Zuluiaid." Dyna olygiadau rhai o fedd- yliau mwyaf goleuedig ein gwlad ar uniondeb y rhyfel Zuluaidd; ond dywed ir wrthym mai llywodraethwr creulawn a llawruddiog yw CETTWAYO. Wel, beth beth os mai e, nid nyni sydd i ddial arno-" Na ddielwch fy rhai anwyl, myfi bia dial, medd yr Arglwydd;" ac os yw CETYWAYO yn dienyddio am droseddau onid yw Lloegr oleuedig yn dienyddio am droseddau hefyd ? Pa faint o wahan- iaeth sydd rhwng dienyddio drwy y crog- Iren a dienyddio drwy y tomohawk, neu yr azegai ? Nid oes wahaniaeth mewn dim, oddieithr ychydig yn natur a phwys troseddau y ddwy wlad, ac yn ngwein- yddiad eu cyfreithiau. Y Zulu barbar- aidd yn lladd a'r Prydeiniwr Cristionogol yn lladd! Pwy yw y gwaethaf ?
RHYFEL ZULU.
RHYFEL ZULU. MYNEDIAD ALLAN Y GYFRAN GYNTAF O'N HADGYFNERTHION. Am un o'r gloch ar y 19eg cyfisol, cychwynodd y rhan gyntaf o adgyfnerthion i'r Cape, sef .Y adran o'r 91st Highlanders (the Princess Louies own), allan o borthladd Southampton, yn yr agerlong Proetoria, Cadben Lariner, perthynol i'r Union Company. Yr oedd y ddosran hon yn eyn wys 898 o privates, 7 staff-sergeants, a phump o wirfoddolion (volunteet"1) o fyddinoedd eraill, yn nghyd a thua 27ain o swyddogion. Dangoswyd y brwdfrydedd mwyaf calonog ar yr achlysnr gan filoedd o edrychwyr, pa rai a floeddient yn fyddarus eu cymeradwyaeth i'r milwyr, y rhai a'u hatebasant yn yr unrhyw ddull calonog. Chwareuai seindorf y fyddin yr I hen alaw swynol "A uld Lang Syne. Byrddiwyd y milwyr mewn pnm' mynnd o dan yr awr. r BUDDUGOLIAETH PRYDEINIG. Ar y 24am o Ionawr ymosododd tua 4,000 o Zuluiaid ar adran y Milwriad Wood; bu y milwyr Prydeinig yn fuddugoliaethus, a llwyr wasgarwyd y gelynion. Ni fu ein colled ni ond bychain. Mae byddin y Milwriad Wood yn syrthio yn ol i Utrecht. Mae amryw ymosodiadan wedi eu gwneyd ar adran Milwriad Pearson a dosranau ereill, eithr bob tro yn aflwyddiantis, gan fod ein milwyr ni wedi eu curo yn ol ar bob amgylchiad. Mae yr hanesion diweddaf yn canmol dewr- der a gwrhydri ein milwyr yn yr ymosodiad arnynt yn Rourke's Drift.
.--Shere Ali yn Glaf.
Shere Ali yn Glaf. A ganlyn sydd o Tashkend, 'dyddiedig Chwef. 22ain :—" Llythyr a dderbyniwyd oddiwrth feddyg milwrol, yr hwn a osodwyd gan y Cadfridog Kauffmann at wasanaeth y Brenin Shere Ali, dyddiedig Tashcourgan, Chwefror 13eg, a hysbysa fod bywyd yr Ameer mewn perygl, gan fod madredd (gan- grene) wedi gafaelyd yn yr holl o'i ochr aswy. Y mae yr Ameer er's amryw wythnosau wedi bod yn dyoddef yn dost oddiwrth ymosodiad ffyrnig o'r dolur a elwir laryngitis, neu enyn- iad y gwddf, oherwydd pa un y rhoddodd i fyny ei daith i Tashkend." Yn ol y newydd- ion diweddaraf ymddengys nad ydyw y Brenin Shere Ali cynddrwg ag y tybiwyd ei fod.
Cyfarfod Pwysig Cynrychiolwyr…
Cyfarfod Pwysig Cynrychiolwyr y Gweithwyr yn Merthyr. Boreu dydd Llun diweddaf, yn y Cross Keys Inn, Merthyr, cynaliwyd cyfarfod neillduol o gynrychiolwyr o wahanol adranau glofaol Deheu- barth Cymru a sir Fynwy, yn mha un yr ym- driniwyd a sefyllfa bresenol y fasnach loawl a gweithwyr yn gyffredinol. Galwyd y cyfarfod yn nghyd gan gynrychiolwyr y gweithwyr ag oeddynt ar bwyllgor y Sliding Scale, mewn canlyniad i gais y meistri fod y gweithwyr i gymeryd gostyngiad cyn terfyniad y chwech mis rhybudd a roddwyd iddynt. Yr oedd nifer mawr o genadon yn bresenol, ac yn eu plith bob un o aelodau y gweithwyr ag oeddynt ar bwyllgor y Sliding S^ale. Agorodd y cadeirydd (un o'r glowyr eu hunain) y cyfar- fod gyda sylwadau pwyllog, craffus, a gwir synwyrlawn. Cymhellodd ei gydweithwyr i arfer pwyll a manylder mawr wrth ystyried yr amgylchiadau cyfyng y mae gweithwyr ynddynt. Anerchwyd y cyfarfod yn bwrpasol iawn, a chyda difrifoldeb a dwysedd mawr, ac addas i amgylchiadau adfydus y wlad yn gyffredinol, gan Mri. Halliday, Abraham, Davies, Morgan, ac amryw ereill. Wedi pasio cynygiad o ym. ddiriedaeth yn M'ri. Prosser a Davies, cytunwyd i ohirio y cyfarfod am bythefnos, er mwyn cael meddwl pellach y glowyr ar yr achos.
Advertising
GWERTH SYLW DYMUNA REES EVANS, 45, COMMERCIAL-STREET, ABERDAR, HYSBYSU y cyhoedd ei fod wedi p rvTiu stock o FRETHYNAU O BOB MATH oddiwrth Mr. John Price, Tailor & Draper, Canon Street (yr hwn sydd wedi rhoddi fyny ei fusnes yn Aberdar), yn llawer is na phrisoedd y farchnad yn bresenol. Y maent yn nwyddau o'r fath oreu. Deuioch, gwelwch, a barnwch drosoch eich hunain. 2052 GEORGE GRIFFITHS JONES, Registrar of Marriages, OFFICE:—5, CANON-ST., ABERDARE. 1998
IDIENYDDIAD CHARLES PEACE.
I DIENYDDIAD CHARLES PEACE. EI GYFADDEFIAD. BORBU dydd Mawrth, y 25ain cyfisol, yn Ngharchar Armley, Leeds, dienyddiwyd y carn- leidr cyfrwysgall a llofruddiog, Charles Peace, am lofruddiaeth Mr. Dyson, Bannercross. Ym- neillduodd i'w .orphwysfa olaf ar y ddaear am chwarter i un-ar-ddeg o'r gloch, nos Lun. Cod. odd am haner wedi un-ar-ddeg, ar ol cysgu yn drwm am dri chwarter awr, ac yna bu oeidwad, Mr. Keene, mewn ymddyddan ag ef hyd ugain mynud i uu boreu dranoeth. Sicrhaai wrth Mr. Keene ei fod ef yn gwybod ei fod yn myned i'r nefoedd. Mor gynted ag yr ymadaw- odd Mr. Keene, aeth y Caplan (yr hwn a arosai yn y carchar trwy gydol y nos) i mewn i'r cell yn uniongyrchol, a pharhaodd i weddio ac anog Peace i edifeirwch hyd o fewn dau o'r gloch, pan y dangosodd y carcharor arwydd o gysgad- rwydd. Yna ymadawodd yr offeiriad, a syrth- iodd y carcharor i drwm gwsg, a chysgodd yn dawel hyd chwarter i chwech o'r gloch. Y Caplan eilwaith a weddïodd gydag ef; ond yr oedd Peace yn parhau i ddweyd yr hyn a ddy- wedai o hyd, sef iddo danio yr ergyd cyntaf at Dyson er ei ddychrynu, ac yna iddynt ymaflyd yn eu gilydd, ac i'r ergyd augenol fyned allan yn ddamweiniol. Ymddangosai yn gwbl ym- ostynged i'w dynged, gan dalu sylw mawr i weinyddiadau y Caplan., Daeth Marwood, y dienyddiwr, i'r carchar prydnawn dydd Llun, a chysgodd yno. Oher- wydd fod rhyw gyfnewidiadau yn cael eu gwneyd o gylch y carchar, dywedir fod gan y dyn truenus tna haner can' Hath i gerdded at y grogbren. Cerddodd y carcharor yn ddigryn, gan godi ei olygon at y grogbren. Aeth i'r lan i'r grisiau, a phan yr oedd Marwood yn myned i osod y cap ar ei ben, dymunodd y carcharor iddo ymatal am fynud. Yna unodd yn y "Gwasanaeth Angladdol," gan ddweyd "0 Dduw, cymer drugaredd arnaf fi," "0 Ar. glwy dd, cymer drugaredd arnaf fi," "0 Grist, cymer drugaredd arnaf fl." Yna anerchodd y reporters fel y canlyn Chwychwi, foneddigion, y reporters,—Yr wyf yn dymuno arnoch i sylwi ar yr ychydig eiriau wyf yn myned i'w traddodi. Gwyddoch fod fy muchedd wedi bod yn frwnt a drygionus. Yr wyf yn dymuno ar i chwi hysbysu i'r byd pa fath yw fy angeu. Yr wyf yn gofyn, pa ddyn a ddichon farw fel yr wyf fi yn marw ? Nid wyf yn marw yn ofn yr Arglwydd. Foneddigion, mynegwch i fy nghyfeillion fy mod yn teimlo yn sicr fod fy meiau wedi ea maddeu i mi, ac fy mod yn myned i'r Nefoedd, neu i'r lie y mae y sawl sydd yn marw yn gorphwys hyd ddydd y farn fawr. Nid oea neb ar y ddaear hon ac y teimlaf unrhyw beth yn ei erbyn, ac yr wyf yn gobeithio y teimla fy ngelynion yr un modd ataf fi. Yr wyf yn dymuno yn dda iddynt. Yr wyf yn dymuno iddynt i ddyfod i Deyrnas Nefoedd. ac i farw megys ag yr wyf fi yn marw. Wrth un ac oil yr wyf yn dweyd, byddweh wych, a bendithied y Nefoedd chwi, a boed i chwi ddyfod i Deyrnas Nefoedd yn y diwedd Myn- egwch mai fy nymuniadau olaf-mai fy serch- iadau olaf ydynt i fy mhlant anwyl a'u mam anwyl. Yr wyf yn gobeithio na ddiraddia neb ei hunan trwy eu gwawdio o'm herwydd i, eithr i gymeryd trugaredd arnynt. Duw a'ch bendithio chwi, fy mhlant anwyl. Byddweh wych, a'r Nef a'ch bendithio chwi. Amen." Dywedodd hyn oil yn hollol ddigyffro, a dywedai braidd ar yr un anadl Hollalluog Dduw, cymer drugaredd arnaf. Buasai yn dda genyf pe cawswn rhywbeth i'w yfed." Ail- adroddodd y weddi olaf hon, pan y sicrhawyd y cap am ei wddf. Ei eiriau olaf oeddynt, Duw a'ch bendithio chwi; byddweh wych," ac yna hyrddiwyd ef i clragywyddoldeb. Dydd Mercher diweddaf, darhi i Pea-je gyf- addef ei fod wedi llofruddio heddgeidwad yn y flwyddyn 1876, mewn lie a elwir Whalley Range, Manchester, am ba lofruddiaeth, fel y dywedodd ef, y mae dyn yn bresenol yn y Penitentiary.
Family Notices
PRIODAS. Dydd M-!<v-rth diweddaf, yn Eglwys St. Elvan, Abcur, T. B. Jones, Ysw., oyfreith- iwr, Barrow tu-furness, & Miss Jennie Davis, merch ieuen. M D. Davis, Ysw., Y.H., Maesy ffynon, AbClur. Gweinyddwyd y wasanaeth briodasol ga., dad y priodfab, y Parch. Mr. Jones, Crug-Hywel. Ar gynydd I eu cariad hwy Boed heddweh mwy 'n eu hanedd Oes hir i fyw nes d61 hen oed I'w diwedd boed tangnefedd. MAR WOLAETHA U. Chwefror 20fed, Mrs. Rebecca Ashtons, No. 3, Bridge Street, Roberts' Town, yn 60 mlwydd oed, gweddw y diweddar Mr. Thomas Ashtons, furnace manager, Abernant, Aberdar. Cladd- wyd hi y Sadwrn canlynol yn Nghladdfa Gy- hoeddus, Aberdar, pan yr ymgynullodd tyrfa luosog a pharchus i'w hebrwng i'w hir gartref. < »weinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch Mr. Evans, gweimdog eglwys Fedyddiol y Gadlys. Chwefror 21ain, yn 65 mlwydd oed, Mr. John Thomas, Crown Inn, Cwmtwrch. Apo. plexy fit fu yr achos o'i farwolaeth. Yr oedd yn UD, a5 bercliid yn ei ardal. Yr oedd yn aelod ffyddlon a llesiol gyda'r Alffrediaid. Tua dwy flynedd yn ol, sefydlwyd cyfrinfa yn nhy y trancedig; ac oherwydd nodedigrwydd ei ffyddlondeb gyda'r urdd Alffredaidd, ac o barch iddo, enwyd y gyfrinfa yn "Loyal Thomas." Gadawodd weddw a phlant i alaru ar ei ol. Oladdwyd ef dydd Mercher diweddaf, yn myn- went henafol Y stradgyn lais. -Galarwr. Dymunir ar y Drych (America) i godi yr uchod.]
: Darllenwch, Ystyriwch, a…
Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwch yr hyn sydd Wir. GWILYM EYANS' i UMNINE BITTERS. NEU V b. GET ABLE TONIC. Vs nilvw- rid -a- a gwlyb y gauar" p;v>, fy,Mo«y X cui-ii eg wan a r g.Uon yn iiwfrh»u trwy Wisir- DID COKFFOROL o unrhyw fath, neu OS'liau y med Hv,. 'Umvinem n\ >>awb i drio y FKI>TIYOI]S«. IABTH AiiiiDKKCHDG hon Gofaler nfyn atvj 'Qnr NINE J51TTKBS (rVVXLYil EVANS," mewn potelau 28 9. jioii 48. be.. ;1c nid Quinine nett rhyw Qniume Mixtn e .» eiddo y druggist ei hun. Ar wcrtil yn ruhob tref. Rhoddwn > ai i. Dy.stiol- aetha'i a dtiei-bvniwyd yr wythnos hon. Nid yd- yw y perch 'flOg- yn eu badnabod yn bersonol, ond treae-i o yn dd.vni-m parchus yn "U hardaioedd eu hun I. inanylion peliacii oddiwrth- ynt hwy. c byad iwtgeD 5 Dolrhedyn Terrace, Tanvgrisiau, Ffestiniog, Gogledd Cymru. Mehefiii 26ain, 1878. ANWYL SYR,- Yr wrf wedi cael fy llwyr well- hau wedi bod yn dyoddef poenau annesgrifiadwy y difhg treuliail am bymtheg mlynedd. Gan fy mod wedi gwneyd prawf ar bob meddyglyn y clywais aon am daDo, yr oeddwn wedi U^yy gTedtl nas e Nvn esmwythdr-s. byth, ond cymhellwyd fi i dreio, fe! dyfais diweddaf, eich Quinine Bitters. Yr oeddwn vn o- el fy mlino gan boecau angherddol rhvro^ fy ys.wyddau, yn fy mrest. yn fy mhen, ae yn taflu i fyny rhyw ffiadredd glydiog. chwerw, melyr.wyrdd, rhv wrthwynebus j'w ddesgrifio. Iselder ysbrvd a diffyg ymbonh oeddent elynicn parbaus. Gefais fy llwvr wellhau trwy gymeryi eich Quinine Bitters chwi, ac yr ydwyf yn llwyr gredu eu bori wedi symud ymaith hadau fy afiech- yd. Buaswn yn ysgTifenu yn gynt, ond yr oedrlwn am brofi fod y gwelliant yn barhaus, ac nid dres ryw vchvdig amser. Cymerais ddwy botel 2s. 9c., ac un 48 Sc.—Yr eiddoch yn hynud ddiolchgar, ELLIS JONES (Amos Hebog). y orath Terrace, Greenhill, Aber: awe. ANWYL SYK Byddwch cys-tal a. derbyn fy niolchgarv/ch givre»oeaf am yr effaith mawr a ga'dd v Quinine Bitters arnaf. Yr wyf ".edi bod yn wael —m^r waeled fel yr oedd fy agosaf wedi rhoddi.Jfyny pob gobait;. Bn'm yn gweithio mewn llawer iawn o sulphur, ac yr wsdd hwnw wedi lladd fy ystumo^. Yr oedd fy anadl yn boenus o gyfyng, a gallesid fy nghlywed yn anadlu o bellder. Nis gallaswn fyned allan dros y drw4 gan wendid, na symud fy llaw ddehen at fy mhen Yr.oedd dau o fy nghydweithwyr Avp(ti ea claddu yn ddiweddar o'r un dolur. Bum inau yn y ty dros dair wythnoe dan driniaeth meddyg, ond gwaeiu bob dydd, nes yr ceddwn wedi gwneyd i fyny fy meddwl mai marw oedd rhaid i minau. Y pryd hwn y galwodd cyfaill anwyl i rai, a gwas°-- odd arnaf i gymeryd eich Quinine Bitters chwi. Cymerais dair potelaid 4s. 6c., ac un box o'eh pills chwi. Yr ydwyf wedi cael iaeliad ac yn dcchreu gweithio. Yr wyf fi a fy ngwraig a liawer o'm cymydogion yma yn credu y braswn mewn bedd heddyw, oni buasai eich meddyginiaeth chwi. Nis gallwn egluro maint ein diolchgarwch.—Yr eidd- och yn barchus, WILLIAM RICHARDS. DEAR SIB,—I have mjich pleasure in bearing testimony to the high opinion I entertain of your Quirine Bitters. I have used it extensively whilst travelling + hrough the tropics, and ahvavs with the most h;; :.?>y results. I consider it a very reliable remedy debility, especIally of the di- gestive organs, au i can cordially recommend it as an invaluable medicine. ANEURIN JENKINS, M. R. C. S. L., M. R. C. P. E. S. S. TENIERS, Rio de Janeiro, South America, ■ • Feb. 10th, 1877. r Nanclwyd Lime Works, Llancleddau. Ruthin, Mehefin 29ain, 1S7S. SYB,—Yr wyf wedi bod er's misoedd, bellach. yn cael fy mlino gan been yn fy mrest a chur yn fy mhen, nes ceddwn yn digaloni i fyned at fy ngwaith. Treiais lawer o gynghorion, ond v cvvbl yn ofer. Cymerais ddwy botelaid o'ch moddion N ac yr ydwyf wedi gwella yn gampus. Erfynaf ar bawb o'm cyfeillion anwyl sydd yn dyoddef oddi- wrth y fath anhwylderau i dreio y Quinine Bittei-s. —Yr eiddoch n gywir, GRIFFITH HUGHES. Trecynon, Aberdare, June 26th. DEAR SIR -I have been suffering from a very bad wrist—having three holes in it. I procured two bottles of your Quinine Bitters frouj Mr. Williams, Chemist, Aberdare, which completely cuied me. Without any superfluous remarks I may say that I did not fail to follow my usual work for a single day while taking it, an<-i fam prepared to give further particulars of this extra- ordinary medicine on being applied to by anyone anxious about the stat' of their health.—i remain yours faithfully, DAVID DAVIES, Butcher To Mr. Gwilym Evans. QUININE BITTERS. FY NGHYDWLADWTB,—Yr wyf er's rhai blynydd oedd, bellach, wedibodynyrarferiadogymerariwyo y Quinine Bitters i ddyni-n yn dyoddef dan amrywiol anhwylderau, ac y mae yn dda genyf allu hysbysu fymodwedieigaeiynateb fy nys^wyl- iadau yn mhob achos, i raddau pell iawn. Yr wyf wedi cael mantais, nid yn unigi weled ei ddylanwad daionus ar ereill, ODd hefyd i'w deimlo fy hunan. Oddiar ymbrawf hir a theg oh one, yr wyf yn y modd mwyaf di-bvyder a chydwybodol, j'n ei gymeradwyo i'r cyhoedd, fel cymysgedd llysieuol ragorol. Y mae yn gymysgedd o ddarpariaethan o'r llysiau goreu. Cynghorwn ddynion gweii iaid mall-dreulio, isel ysbryd, &c., yn nghyd a'r rhai yn cael eu blino gan darddiadau ac anmhuredd gwaed, i wneyd defnydd amseroi ohouo, yn en- wedig yn yr Hydref a'r Gwanwyn.—Yr eiddoch" yn bonus, Ac., J. H. ROWLAND Carmel Hall, Awst lOfed, 1S78. Llundain, Medi laf 187fi Mr. Gwilym Evans. A"WJL SYB,-Mae yn dda genyf ddwyn tvsti.d- iaeth 1 rinwedd eich darpariaeth ragorol v On NINE BITTEBS, trwy yr hwn yr ydwyf wedi derby- llesh&d mawr yn fy nhaith faith a'm Hafur n^r haus am bedwar mis—teithio a phregethu br^dd bob dydd, ac yn ami ddwy a thair gwaith y dvdd Yr yd^Tf yn hynod ddiolchgar am y Ues a ce-fais' ac os caf y fraint o gyrhaedd cartref, bydd vn dda genyf ei reccomendo i ereill, yn gystal a gwnevd defnydd ohono i fy hun a'm teulu. Ystviiwvf eich bed yn gymwynaswr mawr dynoliaeth vn v darganfyddiad hwn. Ewch rhagoch-llwyddSnt parhaus, ac oes hir o ddefnyddioldeb. MeddvH*f fyned i Paris heno Serch calon atich diolchgarwch eto.—Ydwyf, yr eiddoch DAVID HARRIES W. Hamson-street, Chicago, U.S.A, Gweimdog y Methodistiaid Calfinaldd.