Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

COLEG Y GWEITHIWR.

News
Cite
Share

COLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. —5 ^1]:. LLYTHYR XX. Ap Corwynt.—Wei, fechgyn ffiamgoch, faint o valentines dderbyniasoch chwi yr wythnos cyn y ddiweddaf ? Fe gafodd gweis- ion y Hythyrdy waith garw am ddau ddiwrnod i drosglwyddo yr epistolau doniol hyn i'r gwahanol fanau ac mewn rhai trefydd, yr oedd yn angenrheidiol iddynt i gael helpers i gario sacheidiau ohonynt o gwmpas. Cyr» haeddir llawer o amcanion yn nanfoniad y ■valentine* yma. Rhai yn dyferu gan wlith, ac ereill yn persawru gari arogl cariad ac yr oedd bronau llawer mab a mun yn ym- chwyddo wrth eu hagor, a fflamiau serch yn cyneu yn fwy tanbaid, nes oedd dagrau llaweuydd yn croni i'r llygaid. Cyrhaeddir amcan arall, hefyd, gan lawer yn nanfoniad y valentines. Danfonir rhai ohonynt gan y merched cellweirns at hen lanciau oedranus, ar aelwydydd Laplandaidd calonau pa rai y mae pob ymdrech i gyneu tan cariad wedi bod yn hollol aneffeithiol hyd yma. Y mae y llanciau drygionus, hwythau yn eu tro, yn gyru ami un at yr hen ferched sydd wedi eu gadael yn amddifad ar lwm gyfandir unigedd a gweddwdod. Danfonir ereill gan elynion at eu gilydd, i brovokio a chynhyrfu y naill y flail a gellir penderfynu fod teimladau tra gwahanol yn ymgyfodi yn nerbynwyr y valentines y flwyddyn hon fel yn y blynyddau basiodd. Wei, os bydd valentine ehwaethus, heb fod yn vulgar ac enllibus, yn cael ei danfon, nid wyf fi yn gweled rhyw niwed mawr yn hyny ond byddai yn ddymunol cael rhyw amcaniaeth faint o arian wariwyd i brynu ac i bosto folants eleni. Sicr yw eu bod yn mlaen yn filoedd lawer o bunau, a hyny i ddim dyben ond cael tipyn spree, fel y dywedir. Lewis Ffregod.—Cariad a folants ar ol, machan i, a dere i ni gal tipyn o rwbeth mwy sylweddol na rhw dra<h wel hyny. Er mi ges i folant a'r olwg inwya felldith arni a welas i rioed. Wat o scrapen o hen fenyw fawr, bump a deg o daldra, gallwn feddwl wrth i llun hi, a phac o blant rh&csog o bothti'i thrad hi. Rych chi gyd yn gwbod ma hen lane wdw i, a hen lane fydda i, ed, os na cha i rwbeth heb yr hen sgubell odd ar y folant ges i. Dir cato ni 'rodd yr olwg mwya vengans arni, a ffrwd goch o snisin a phethau erith yn llifo i lawr o'i ffroenau, nes yr oedd hi'n ddrychynllyd edrych arni San i ddim ond gwbod mai Sal Frongoch halodd hi i fi, mi rown i wasgfa iddi tro cynta gwelwn i ddi. Ond dewch, fechgyn, â. rhw dicyn o hanes y ddiar, a'r creaduriaid byw sy arni, ofad nid yr un fath a sy gan John Goldsmith. Agrippa.-Oliver Goldsmith, fachgen. Wel yn wir, mawr cyn lleied o hanes da sy gyda fi, beth bynag, i gyfiwyno i chwi. Un peth, y mae cryn lawer o ysbryd ymfudiaeth Wedilefeinio gwahanol ardaloedd yn Nghymru y dyddiau hyn, waeth mae pobl yn gweled nad oes ond y peth nesaf i ddim o argoelion cyffroad er gwell yn masnach y wlad hon; felly, mae llawer o'n cydweithwyr yn beader- fynol i fyned i wledydd pellenig y byd i chwilio am ffortiwn, yn lie aros yn Nhgymru dlawd i bilo esgyrn a mawr Iles i'w calonau. Yr oeddwn i yn pasio heibio i Station y Cross Keys, islaw Cwmamam, sir Gaer, yr wythnos ddiweddaf, ac mi dybiais ei bod hi wedi troi yn Paddington ar unwaith, gan y fath dorf oedd yno. Beth oedd yno ond tri brawd ieuanc yn hwylio eu camrau tua Queensland, a'u perthynasau a'u cyfeillion yn dyfod i'w danfon at y tren. Chi ellwch chwi bender- fynu, fechgyn, pe buasai cymanfa fawr o'r gweithwyr yn eu dilyn i wahanol wledydd y ddaear, fe ddeuech chwi sydd ar ol i gael gwell parch a mwy o gyflog, a byddai yr ym- fudwyr, heblaw llesoli eu hunain, yn eich llesoli chwithau, hefyd. Gan hyny, pob un ohonoch a alio, ar bob cyfrif, ffwrdd a chwi i rywle-dewiswch chwi eich gwlad eich hun- ain, fel y dywedais o'r blaen. John Abram.—Mae'n bryd i ni fynd i rywle o'r wlad hon, canya y mae ar ben yma, oa na ddaw rhyw dro ar fyd yn fllan. Pob ctfmwd ac ardal yn griddfan dan fraich gor- lethol adfyd ac iselder. Ap Corwynt.—Bu eich ufudd was yn rhoddi tro trwy y wlad yn ddiweddar, a dygwydd- odd iddo basio trwy Landeilo Fawr ar ddydd tffair Mis Bach, fel y gel wir hi, neu Ffair Pys a Ffa. Pwy gymrfyddwn, yn ddam- weiniol ar yr heol ond y bardd Teilo. Y mae efe newydd gael cwpanaid o ddyfroedd Mara trwy golli cydmar ei fywyd. Pan yn ym- gomio ar ei dywydi garw, saerniwyd yr englyn canlynol:— Yr anwyl, o feddu rhinwedd,— angel I A ddringa o'i gwaeledd Daw'r awr y cwyd i fawredd, I wir fyw tudraw i fedd." Cyfarfyddais a rhai hen adnabyddion yn nhref St. Teilo, ac yr oedd yn iechyd i ysbryd a chalon i weled gwynebau iachus y gwladwyr, yn wyr a gwragedd, bechgyn a genethod. Arafaidd yw masnach yn rhanau amaethyddol, fel yn ardaloedd gweithfaol y wlad. Yr un gwyn a'r un gau sydd yn mhob man. „ „ Dewi Dinorben.-Yr ydwyf fi yn credu y daw rhagfvnegiad fflamychol Ap Crychydd yn y cyfarfod diweddaf i ben cyn hir. Nis gall pethau sefyll yn zero o hyd, ac y mae y ffaith fod amgylchiadau wedi myned ir iselder dwfn presenol yn darogau y cawn rywadfyw- iad heb fod yn faith Os yw pethau yn farwaidd yn myd masnacli, y Y11 yYio§ lawn vn myd y beirdd, oanys y maeut yn ymbaffio yn annghyffredin ar dndalenan Y GWLADGARWR. yn mhersonau J. B. P., Veritas, B., ac ereill. Ond yr ydwyf fi yn hollol gredu mai doethineb yw tynu pen ar y ddadl ddiddefnydd hon, canys ni chredaf fod xin o bob cant o ddarllenwyr y GWLADJARWR yn teimlo rhyw ddyddordeb mawr yn y firi hon. Da iawn oedd y dyfyniadau o awdl Elias yn y rhifyn diweddaf. Deued ag ychwaneg ohoni eto. Byddai yn dda genym weled y ddwy awdl, sef eiddo Mabon ac Elias, yn ymddangos drwy y wasg, fel y gallo y wlad fwrw barn arnynt yn ogystal a Cynfaen ac Elis Wyn. Hefyd, y mae yn hen bryd i brogramme Eisteddfod Gadeiriol Daheudir Cymru ddod allan o'r wasg. Yn yr hysbysiad dywedir fod deg gini am bryddest, ond ni nodir y testyn. Dylai hyny fod wedi ei wneyd cyn hyn, onide efallai y cyfansodda rhywun bryddest ar Lyffan," neu Gorgi." John Scregyn. — Ble ma'r Sais odd yn sharad yma wsnoth i heno Rwy i'n fotio nag os dim rbagor o Sasneg i fod yn ein cwrdd ni. Be sy wedi dod o r Gohebydd Llundain, tybed ? A ydyw y Cockneys wedi ei dransmogrifflo ? Hefyd, dyna hen frawd sy wedi tewi er's llawer dydd yw Hen Domos." Clywsom ei fod yn para yn hen lane hyd yma. Felly, y mae yn sicr nad yw gwraig a phlant yn un rhwystr iddo ysgrif- enu. Yr oedd ei lithiau yn dra derbyniol, a buasai yn dda genyf weled ei enw eto ar faes y GWJLADGAKWR. Agrippa.— Dymunol iawn yn ein newydd- iaduron Cymreig fyddai iddynt ymgadw rhag rhoi cymaint o ofod i fan-gecrwyr i drin pynciau annyddorol. Byddai yn werth i ni gymeryd dalen oddiwrth ein cymydogion y Saeson yn hyn o beth. Yn wir, y mae rhai papyrau Cymreig yn ystod y blynyddau di- weddaf hyn wedi cyhoeddi digon o libels i'w crogi. Dyna'r peth ddylai fod yn llanw ein colofnau newyddiadurol yw gwybodaeth fuddiol ac angenrheidiol i'r gweithiwr, fel y gallo wybod ansawdd prif bynciau y dydd. Yn amser Alun, y bardd hedegog a diguro hwnw, yr hwn, ar ran ddiweddaf ei oes, fu yn Ficer Manordeifi, Penfro, cychwynwyd mis- olyn dan ei olygiaeth ef, o'r enw Y Oylch- grawn. Yr oedd hwnw yn un gwir ddydd- orol ac addysgiadol i'r lluaws, a chynwysai gronfa o wybodaeth gyffredinol. Gwnaed cynyg i'r un cyfeiriad gan y cyhoeddwr an- turiaethus, Mr. Humphreys, Caernarfon, flynyddau yn ol, trwy gyhoeddi y misolyn Golud yr Oes; ond yn niffyg cefnogaeth ddigonol syrthiodd hwnw i'r llawr. Trueni na fuasai genym rywbeth o'r un nodwedd yn ymddangos yn y Gymraeg. Y mae ein cy- mydogion, y Saeson, hefyd yn colli tir yn y cyfeiriad hwn, canys nid wyf fi yn gweled dim yn dod allan o'u gwasg hwy i gystadlu a'r hen Saturday Review fu mor enwog flyn- yddau yn ol. John Fleming.—Yr wyt yn dweyd llawer o wir, frawd. Gormod o lenyddiaeth wag a llygredig-dadleuon a checru diles, sydd yn ffynu, pan y dylai rhywbeth sylweddol ddylifo o'r wasg. Rhys o'r North.-Wel, rwan, rwy i'n dod o 'Stiniog, ac wedi bod yn darllen papyre'r North acw e& blynyddau; ond rwy'n reit siwr fod mwy o duedd yn mhapre'r South yma i ffraeo nag sydd efo ni acw. Braidd y mafia i yn un papyr yma na fydd ynddo ryw gecreth, yr hyn sy'n wirion o boenus. Dewch i mi &g erthygl sylweddol ar bwnc addysg- iadol, ac mi adawa i y ffraeo a'r pastynu o'r neilldu rhag blan. Tomos Ashtons.-O machan i, mi weles i ffraeo gyda chi sha'r North acw cyn yma. Rwy'n cofio'n ddigon da am y ffraeo gwyllt fu am awdlau y Greadigaeth," ac wedi hyny am lesu Golyddan, ac arwrgerdd Dafydd," pan fu Aaron Mochnant a Cyn- ddylan yn mesur arfau. Gwyr cedyrn oedd- ynt hwy, mae'n wir, a thrinwyr iawn. Yr wyf yn cofio am un linell y chwerthinid llawer am ei phen yn arwrgerdd Cynddylan, sef,— Fel cythraul yn chwerthin yn y gwlaw," ne rywbeth felly. Llew Llwyfo aeth a'r wobr y pryd hwnw ond yr wyf fi yn styried fod y Llew wedi cyfansoddi gwell cerddi na hono. Drwg genyf fod "yr hen Lew" wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar, nes methu myned i'r 'Merica, i 'Steddfod y Na- dolig. Tase fe ddim ond gyru y tocyn saloon i fi, mi awn i'n groes i'r Atlantig yn ei le fo'n union. Da genyf wele4 fod yr hen frawd ar fin cael tysteb. John Sol-ffa. — Mae rhyw Parry, o'r 'Merica, yn ddiweddar wedi ysgrifenu yn y Drych mai C6r Waunfawr bia pluen gerdd- orol Cymru y dyddiau rhain, tra mae rhyw frawd yn gwrth haeru mai Cor Mawr Caradog pia hi. Pwy by nag yw y Parry hwnw, y mae yn dra sicr ei fod yn benbwl gwirion cyn byth y meiddiai geisio cymylu gogoniant y Cor Mawr wnaeth gymaint o wrhydri ar yr Handel Orchestra. Pur debyg fod rhai gwyr o'r North yn haner meddwl, trwy i Gor Waenfawr guro Corau Gwilym Cynon ac Eos Cynlais, yn Birkenhead, ddarfod i Gor Caradog gael ei guro. O'r bitw gwirion. Beth? Nid oedd gan Gwilym Cynon ond rhyw nifer dan 150, o Hirwain i Mountain Ash, ac Eos Cynlais rywbeth yn debyg- o Gwm Rhondda, pan yr oedd y Cor Mawr yn rhifo 450 strong, yn gynwysedig o brif gan- torion y llefydd canlynol :-Llanelli, Aber- tawe, Castellnedd, Cwmafon, Maesteg, Dow- lais, Merthyr, Aberdar, Cwm Rhondda, Pontypridd, Mountain Ash, Hirwain, Ton- gwynlais, a manau ereill. Heblaw hyny, yr oedd yr enwogion cerddorol a ganlyn yn perthyn i Gor Caradog :-Emlyn Evans (y flwyddyn gyntaf), Alaw Ddu, Dewi Alaw, Eos Rhondda, Eos Cynlais, Gwilym Cynon, Silas Evans, Eos Morlais, Alaw Buallt, Mr. D. Rosser, Mr. Dan. Griffiths, a llu mawr o fechgyn hyfedr heblaw. Gellir sierhau gwyr y North mai corau tra gwahanol i'r Gor Mawr oedd y ddau fu yn cystadlu yn Birkenhead, ac na feddylient mai hwy sydd yn dal llawryf gerddorol Cymru ar hyn o bryd. Sicr yw na fu y fath gor o Gymryyn cydganu erioed ag oedd gan b Caradog dan ei arweiniad yn y Palas Grisial, a chyflawnasant,orchestwaith a fydd ar got a chadw, trwy guro "trained choristers" Mr. Proudman. Y mae yn gas clywed hen gyfarthiadau bychanus gan ryw bibrwyn o'r 'Merica, na wyddant, fe ddichon, ond y peth nesaf i ddim am yr amgylchiadau. =Y Ap Pibonw. — Dyna ddigon am ganu, bachan, am heno ta beth. Does dim son fawr gan neb o chi am farddas, ac am feirdd anian a barddoniaeth. Y mae yna rywun yn y GWLADGAKWR jjn cymryd arno i ysgrifenu ar Y Bardd." Gellid meddwl, wrth yr hyn sy wedi ymddangos eisoes, mai rhyw dalp o hunanoldeb yw y bardd Cymreig. Wel, fallai bod rhai o honyn nhw yn cyfateb i'r desgrifiad yna ond hyn a wn, nad ydynt oil 11 y felly, canys adwaenaf fi lawer ohonynt gyda'r mwyaf gostyngedig a difombast a ellwch. gyfarfod. Be feddyliwch chi am y tri englyn canlynol ges i yr wythnos ddiweddaf :— DIM. Cryd a hedyn y cread ydyw-dim, 0 law'r Duw uchelryw; Difater. eel, a rhelyw, O'r hyn nas gwel angel yw." Eto :— Y DWFR. Y dwfr sydd elfen dirion-o naws iach, Dyr syched bywiolion; Yn loew rhed o law yr IOn, Yn iraidd ffrydiau oerion." Eto Y FESEN. "Yn eiddilaidd fry gyda'r ddeilen-gain, Y genir y fesen; Eilw&ith yn ar dan wlith nen, Hi ddeora ar dderwen." Treied un ohonoch chi wneyd englyn i'r Fesen i guro hwna. Dim at all. Wel, bachan bach o ardal Merthyr wnaeth y tri, sef y brawd dirodres Hywel Morganwg, yr hwn a oganir ac a fychanir gan rywrai yn ddiachos y dyddiau diweddaf hyn. Cofnodydd.—Y nos a gerddodd yn mhell, fechgyn. Rhaid tynu pen heno eto, gan obeithio y cyfarfyddwn yn iach a heinyf yr wythnos nesaf. Mae Zadkiel, yn ei Almanac, yn deyd fod gwell amser i fod tua mis Ebrill nesaf. Hwyl wynt iddo, weda i.

if AT BEIRDDGARWR.

ARIAN Y OOR MAWR.

EIN BEIRNIAID CERDDOROL.

EISTEDDFOD ENWOG Y GORON.

[No title]

AT Y PROFOUND LINGUIST-B.