Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

" Dylanwad y naill Ddarganfyddiad…

News
Cite
Share

Dylanwad y naill Ddarganfyddiad Celfyddydol ar y llall, a Dylan- wad yr oil ar Wareiddiad." Testyn Eisteddfod Carmel, Treherbert, Nadolig, 1875. Dtlaswad YR OLL ae W AREIDDIA.D.- Dylanwad Trefnidol y Darganfyddiadau.— Edryebidgynt ar bob clefyd a haint fel ymweliad barnol o eiddo Duw, oherwydd rhyw bechod neu gilydd, a mawr y gweddio ar Seintiau y byddid yn yr oesoedd tywyll- ion pan dorai haint neu glefyd allan. Ond fel y cynyddodd gwybodaeth, daeth dynioo i ddeall mai canlyniadau naturiol aflendid ac afradlonedd oedd llawer o'r clefydau a fyddet»t yn dinystrio y gwledydd, ae mai y jfordd i gadw yn glir oddiwrthynt ydoedd nid trwy weddio ar y Saint, nac hyd yn nod trwy weddlo ar Dduw, ac esgeuluso pethau ereill, ond trwy lanweithdra a chv- medroldeb mewn bwydydd a diodydd. Yn y ddeuddegfed ganrif y darganfyddwyd ei bo 2 yn angenrheidiol palmtgntu heolydd Paris er mwyn iechyd y trigolion, gan fod yr arogi mor annyoddefol; ac yn ebrwydd ar ol hyny, cafwyd fod gwahanol fathau o glefydau yn lleihau ynddi. A'r un modd am leoedd ereill. Yna, dilynodd dyfr- ffosydd a ebwterydd er cario ymaith fudr- eddi tai a threfydd; ac ar ol hyny, dechreu- wyd goleuo yr heolydd a'r mynedfeydd cyhoeddus. Ni ddechreuwyd goleuo heol- ydd Llundain hyd y flwyddyn ddiweddaf o deyrnasiad Charles yr Ail, a'r pryd hwnw yn mnig yn y gauaf. Cyn hyny, yr oedd yr heolydd yn heidio o ysbeilwyr, ac yr oeddynt yn ilawn o beryglon, yn enwedig liw nos. Ar y cyntaf, gwneid i'r tai a wynebent yr heolydd gadw canwyllau neu lampau yn eu ffeneetri; wedi hyny, cafwyd lampau cyhoeddus, a gwellhawyd y gyfun- drefn heddgeidwadol, nes gwneyd yr heol- ydd yn gymhariaethol ddiogel hyd yn nod yn y nos. Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg, yr oedd'dyfeisiau peirianol a gwelliantau Uaw- weithfaol yn dylanwadu yn ddwfn ar y bywyd teuluaidd a chymdeithasol. Addurn- id y parwydydd a drychau ae ag awrleisiau, ceid mantelli uwchben y lleoedd tan. Yr oedd y bwrdd yn llwythog o ddanteithion trameraidd, oherwydd dygai masnach gy- nyrchion gwledydd tramor i'r wlad. Daeth pytatws, te, coffi, siwgr, &c., &c., i gymeryd He y diodydd cryfion a arferid mor helaeth gyct. Gwnaeth gogrynu y blawd yn y melinau gwynt beri fod y bara yn wynach a thecach. Daeth carpedau i gymeryd lie y brwyn ar y lloriau; ceid gwell gwelyau i'r bobl gysgu arnyat, a gwelid ganddynt ddillad glanach, y rhai a gyfnewidid gan- ddynt yn amlach. Yn lie huddygl a pharddu, daeth nenau eu hystafelloedd i gael eu haddurno yn brydferth. Os eid allan i'r ystrydpedd, ceid yno gerbydau o wahanol fathau, ac yn y meusydd ceid yno yn mysg y gwladwyr anwybodus fod gwell- iantau peirianyddol yn graddol weithio eu ffordd nea cyrhaedd perffeithrwyddeindydd- iau ni mewn aredig, hau, medi, dyrnu, &c. Gallai y pethau a nodwyd uchod ym- ddangos yn bethau bychain a dibwys, ond Did feU: y maent mewn gwirionedd, gan eu bod yn elfenau yn cydweithio ag elfenau ereill i gynyrcbu mwy o goethder a gwar- eiddiad yn y gwledydd. Yr oeddynt yn gynyreh gwareiddiad ar un llaw, ffrwyth oeddynt o'r hyn a wnawd yn flaenorol er gwareiddiad y byd ond yr oeddynt, hefyd, ar v Haw arall, yn foddion i'w berffeithio. Er mor fychain y :;all llawer ohonynt ym- ddangos, yr oedd iddynt hwy eu hunain, er 10 h\ nv, eu dylanwad er coethi a gwareiddio meddyliau ac arferion dynion, ac er gwella cyflwr y ddynoliaeth. Ac etc, mor an- mherffaith yw y rhestr hon, bron nad yw yr edifar gan un ddechreu enwi. Nid ydym wedi dweyd dim eto am y gwres- fesarydd (thermometer) a'r hin-fynag (baro- meter), am yr awyren sydd yn cario dyn uwcblaw y cymylau, na'r ymsudd-glooh sydd yn myned ag ef i waelod y mor. Nid ydym wedi dweyd dim am ledaeniad addysg trwy dd. rllen, ysgrifecu, ac ysgol- iori cvhoeddus, ac mewn canlyniad i hyny ffurfio cymundeb darllengar; dim am y dulliau o ffurfio yr opiniwn cyhoeddus trwy y newyddiaduron, Tr adolygiadau, y cylch- gronau, a'r mat;teision a geir trwy y post rhad; dim am ysbytai, asylums, a charchar- au diwygiedig; dim am gamlesydd, pont- ydd, ffyrdd, a phoithladdoedd; dim am y gweithfeydd cotwm, haiarn, dur, a pheir gwe iaDau; dim am y darganfyddiadau mewn fferylliaeth, y rhai, yn wir, ydynt ywlleng; &c., &c. Yn wir, ni ddeuem i ben yn fuan ag enwi yr holl ddyfeisiau, yr holl ddarganfyddiad au a pha rai y mae trefoid- edd ddynol wedi ei chyfoethogi er's ychydig gai rifoedd. Gymaint sydd wedi ei wneyd er gwella a dedwyddoli y ddynoliaeth; a chyn belled ag y mae tuedd i hyny yn yr hyn a wnawd. y mae i'r oil ddylanwad er cynyrchu gwareiddiad. Dylanwad Deallol y Darganfyddiadau.— Un o ffrwythau cyntaf gwareiddiad, yn gystal ag un o'r galluoedd mwj af nerthol yn ngwareiddiad gwlad, ydyw deall wedi ei ] oleuo. Nid oes nemawr obaith o unrhyw wlad na chenedl, os na ellir, trwy ryw foddion, gyrhaedd dealltwriaeth y genedl. Fel yr awgrymwyd eisoes, fe suddodd Ewrop yn dra isel mewn gwybodaeth yn ystod yr oesoedd tywyllion, ac fe suddodd yn gyfatebol mewn gwareiddiad. Oher- wydd rhuthriadau y barbariaid gogleddol a dwyreiniol, y Yisigothiaid, y Ffrancod, y Saxoniaid, yr Huniaid, a'r Ostrogothiaid dros y<merodraeth Rhufain yn y bumed a'r chweched ganrif, acoherwyddtra-arglwydd- iaeth dall-bleidiol y Babaeth, fe roddwyd atalfa effeithiol ar gynydd gwybodaeth yn y gwledydd. Oherwydd fod y blaenaf yn farbariaid eu hunain, nid oeddynt hwy eu hunain yn meddu bron ddim gwybodaeth, neu yn gallu prisio gwybodaeth a gwareidd- iad y gwledydd a oresgynid ganddynt. Ac fel y nodwyd eisoes, gadawodd y barbar- iaid lawer mwy o'u hoi ar Eglwys Rhufain nag a adawodd yr Eglwys o'i hoi arnynt hwy. Ac yr oedd yr Eglwys, yn yr oes- oedd tywyllion, yn meddu dylanwad an- nherfynol o'r bron ar feddyliau llywodr- aethol Ewrop. Tua chanol yr wythfed ganrif, yr ydym yn cael Pepin yn gwneuthur y Pab yn ben gwladol, fel yr oedd yn cael ei gydnabod yn ben Eglwysig yn flaenorol. Yn ganlynol i hyn, daeth dylanwad y Bab- aeth, trwy uchelgais anniwall y Pabau, i gael ei theimlo trwy holl Ewrop; ac yn gymaint ag mai mantais y Babaeth ydoedd eadw trigolion y gwledydd mewn anwybod- aeth mor ddwfn ag y gellid, gwneid pob petb i gadw moddion gwybodaeth oddi- wrthynt, yn gymaint felly, fel y gellir dweyd am y Babaeth mai ei harwyddair ydyw ac ydoedd "Mai mamaeth duwiol- deb yw anwybodaeth." Y mae bron yn anmhosibl rhoi darluniad cyflawn a chywir o'r anwybodaeth yr hwn yr oedd yr Eglwys Babaidd fel moddion i gadw y gwledydd ynddo, ac o ganlyniad y trueni a'r barbar- eidd-dra a orehuddiaiEwrop o'r seithfed ganrif a Qhyn hyny, hyd y drydedd ar ddeg ac yn ddiweddaraeh. Fel y dywed un awdwr, Yr oedd Ewrop wedi suddo mor ddwfn i dywyllwch a diraddiad cyn diwedd y ddegfed ganrif, fel y gellid meddwl nad oedd yn bosibl myned yn ddyfnach." Ond pan adfywiodd gwybodaeth a llenyddiaeth yn y ddeuddegfed ganrif, dyna pryd, mewn gwirionedd, y dechreuodd cenedloedd Ewrop ymddyrehafu o'r dyfnder yr oeddynt 'wedi bod yn gorwedd ynddo er's oeaaedd- meithion. Yr oedd yma gryn lawer o nerth, a'rhyw fath o fywyd yn flaenorol, ond nerth y gorthrymwr yn malu y gor- thrymedig ydoedd, a iau ddieflig y Babaeth vn cyd-grymu gwarau y ddau i'r ddaear. Yr ydoedd yma gryn lawer o fawredd a gwychder o'r blaen, ond mawredd bar- baraidd oedd, a hwnw wedi gosod gwedd tarbaraidd ar y gwledydd. Yn wir, pa fawredd a pha wychder bynag a ellwch roi ar ddyn, os na roir cryn lawer o oleuni yn y deall, buan y diraddia y gwychder yn rhyw ymddangosiad dichwaeth, Ac felly, un o'r pethau cyntaf a wneir tuag at war- eiddio cenedl yw estyn iddi foddion gwy- bodaeth, ceisio gafael ar y deall rywfodd. Ond wedi y caffer gafael unwaith ar y deall, nid hir yr erys cenedl, drachefn, mewn dyfnder barbareiddiwch o ran ei harferion. Nid oes un engraifft yn holl hanes y byd o genedl wedi dyfod yn genedl ddeallgar a gwybodus, ac wedi aros mewn sefyllfa anwaraidd mwy nag sydd o genedl wedi codi o sefyllfa anwaraidd, ac eto wedi aros yn genedl hollol anwybodus. Y mae deall llawer am ddeddfau natuift yn rhoi mantais i ddyn i ddwyn y deddfau hyny o dan warogaeth iddo ei hun, i wasanaethu i'w angenion. Ac nid yw dyn, un amser, yn fyr o wneuthur i bob peth a all wasan- aethu iddo ef. Nid yw yr anwariad yn fyr o hyny, er mai yehydig iawn o wrth- ddrychau natur y gwyr ef pa fodd i'w meistroli. (Tw harhau.)

Eisteddfod y Crown Hotel,…

Masnach yr Haiarn a'r Glo.