Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Y BARDD.I

Ebion o'r Ogof.

[No title]

MOUNTAIN ASH.

IMAN NODION O'R DERI.

News
Cite
Share

MAN NODION O'R DERI. Y GWEITHFEYDD. — Arafwch pruddaidd a dygn dlodi sydd yn nodweddu amgyichiadau gweithfaol y gymydogaeth. Pawb yn canu yn y cywair lleddf, ac heb un gobaith buan am drawsgyweiriad i'r lion. Rhybuddion wedi cael eu gesod ar ben y pyllau oddiat ddechreu y flwyddyn, yn hysbysu (fel mewn amryw leoedd ereill) terfyniad cytundebau y Bwrdd Cymodol ar ddiwedd chwech mis. Y mae hyn wedi peri i rai pobl feddwl fod gwelliant yn ein sefyllfa ni, fel glowyr, i gael y ei ddwyn oddiamgylch ar derfyn y tymor pryderus hwn. Hyderwn y try pethau allan yn well na'r dysgwyliad goreu, ac fe oddefir i'r ysgrifenydd ddwyn i gof ei gydweithwyr y frawddeg eirwir, Circumstances alter cases." A chaniatau geirwiredd y dywediad y bnaswn yn uwch ein huriau heddyw oni bai am gytundeb y Sliding Scale, a ydyw hyny, gyfeillion, yn profi. y bydd diddymiad y Scale dan yr amgyichiadau presenol yn enill i ni ? Na fydded i un glowr yn y Deheudir fod heb ystyried y cwestiwn hwn. Na fydded i nwydau dialeddol gael llywodraethu yn lie synwyr cyffredin. Gwell y drwg a wyddom na'r posiblrwydd o wneyd drwg yn waeth. Y GYMDEITHAS YMFUDOL.—Yr wyf wedi cael fy moddhau yn fawr wrth glywed amryw o'n cydlafurwyr yn datgan eu golygiadau ar y pwnc hwn. Y mae yr ystyriol a'r pwyllog yn unfryd unfarn parthed angenrheidrwydd y sefydliad er gwaghau marchnad llafur. z, Amryw yn siarad am yrnuno a hi mor fuan ag y gosodir y machinery mewn ivorhing order. Meibion Gwalia, cyfodwn, awn a meddianwn diriogaeth Gymreig. Na fydded i neb sefyll draw ond bydded i bawb osod eu hysgwyddau wtth yr olwyn, ac yna yn ddios fe ddaw 'meistri glofaol Mynwy a'r Deheudir yn fuan iawn i osod gwerth ar lafur a bywydau gwerthfawr y dosbarth tan- ddaearol. Blin genyf orfod credu fod y dew.rder oedd gynt yn ein nodweddu, fel cenedl, i ryw raddau wedi diflanu, ac fod cymaint o lwfrda a diffyg-yrnddiried wedi ein meddianu. Rhaid diwygio yn hyn, os oes gwelliant buan i fod.—Gohebydd.

'YSTRADFELLTE.

I.RESOLYEN.

DINAS POWIS.

HYN A'R LLALL 0 GWM RHONDDA.

PONTYEATS.

BLAENAFON.!

BRECHFA.

DAMWAIN OFIDUS YN NGWAITH…

LLANISAN.

MAESYCWMWR.