Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Y BARDD.I
Y BARDD. I LLITH II. t f Y MAE y gair bardd yn adnabyddus i bob Cymro, ac y mae ganddo, uwchlaw dyn o genedl arall, fantais i gael syniad mwy neu lai perffaith am dano. Y mae rhyw neilldu- olrwydd—rhyw gysegredigrwydd yn perthyn i'r bardd sydd yn ei nodi allan fei peth an- nghyffredin. Y mae yn rhywbeth dyrchaf- i'r bardd sydd yn ei nodi allan fei peth an- nghyffredin. Y mae yn rhywbeth dyrchaf- edig mewn cymdeithas. Y mae y gwahan- iaeth rhyngddo ef a;r anfardd yn llawn mor amlwg a'r hyn oedd rhwng y Pharisead a'r Publican. Efe y w Brahmin a priest ein cym- j deithas. Exe yw creadur glan Barddas. Efe yw Jesuit llenyddiaeth y Cymry. Y mae wedi cymeryd arno ei linn ddyiedswyddau trymion—cadw ei uwchafiaeth ar feddyliau pob oes cadw ei boblogeiddrwydd, pan y mae efe ei hun a'i ymdrechion yn hunan- ddinystriol; bytholi yr iaith Gymraeg drwy siarad y Saesneg ac anfarwoli barddoniaeth drwy gyfryngau marwoi odl a chynghanedd. Y mae yr uu ysbryd yn treiddio Cristionog- aeth Cymru cyn belled ag y mae ein pregeth- wyr a'n haelodau crefyddol yn- cefnogi hynyma. Yn union yr u ein hoffeiriad, ein pregethwr, neu ein haelod egiwysig i awyr- gylch Barddas, try yn ymgnawdoliad o hun- anoldeb. Y canlyniad naturiol yw Cymru y wlad oreu, Cymraeg yr iaith ardderchocaf, ei barddoniaeth (yn odl a chynghanedd) y fendigedicaf, a'r Cymro yr engraifft berifoith- iaf o ddynoliaeth. Ni fyn y bardd Cymreig ymwisgo yn ol ei dyfiant a'i faintioli. Y mae ymddygiad o'r fath bob amser yn ynfyd. Y mae gwisg fach- genaidd am ddyn mewn oed bob amser yn ei wneyd yn rhyfeddol chwerthinus, gan ei fod yn troseddu ar ddeddf brydferthaf natur— deddf priodolder. Y mae esgeuluso hon yn achosi pob digrifwch. ac yn herwydd hyn- yma yr ydym ni yn edrych ar y bardd Cymreig gyda chryn lawer o ddifyrwch, gwawd, a dirmyg, am ei fod ar ei eithaf yn y mdrechu ymdd-iugos yn. bob peth ond natur. Y mae yn mron yn mhob ymgais yn trosi natur. Y mae ei awydd parhaus feallai am ddyfod yn wrthddrych anrhydedd cyffredinol yn ei yru i wynebu natur, er mwyn i'w ddy- eithriwch—i'w wrthgyferbyniad ef a natur, ei wneyd yn fwy amiwg a gweledig. Nid yw natur oud background i roddi mwy o amlyg- rwydd iddo ef ei hun. Nid yw natur ond canvas gwyn i'w ddodi ef (yn ei dduwch) yn fwy eglur. Y mae hyn oil yn cyfodi o hunanoldeb v bardd Cymreig. V mae natur yn syml a dirodres y mae ein bardd yn ymhongar a gwageddus. Y mae rhyw syniad o anrhydedd ynddo sydd yn ei flino yn barhaus, ac y mae yr awgrymiad gwanaf tuag ato ef fel bardd, sydd yn tueddu i daflu y cysgod lleiaf ar ei ddysgleirdeb barddol, yn codi llawer ymrafael newyddiadurol, lie y dygir catrodau aneirif o frawddegau ac ymad- roddion ymffrostfawr a hunan-ddyrchafol i amddiffyn urddas ei gymeriad. Y mae cyffwrdd a'i ffugenw, 0 yn wthio bys i'w lygad Buasai yn well ganddo o lawer ddifrio, neu ddwyn ohonynt ei enw priodol na'i enw ffng. Y mae yn ymffrostio yn nghymaint ag sydd ynddo o anmhriodoldeb a ffug. Mewn gwirionedd, y mae ar y ffordd union i edmygu ffug ac arwynebrwydd. Ond yr ydym ni yn bwriadu edrych i mewn i'r enw bardd, er cael dechreu yn yr enw a diweddu mewn sylwedd. Nis gallwn feallai gael gwell gafael yn y pwnc nag wrth y gair bardd. Y mae yn anhawdd cael allan yr hyn a feddylir wrth y gair. Mae geirvddiaeth y Cymry, fel eu hanesiaeth, yn gylchynedig gan niwl dirgelwch. Ychydig mewncymhar- iaeth sydd o oleuni ar yr hyn oedd fardd, ac ychydig ellir gael o lewyrch arno wrth olrhain i wreidd-ystyron y gair a.'i dynoda. Daw, yn ol Dr. Puw, o'r gwreiddyn bar: copa, pen, crib. Wrth hyn y golygir ei fod yn swyddog neu berson o gryn fri a dylanwad-ei fod yn gyfystyr a chief, nobleman, penaeth. Tybir mai y bardd oedd cynghorwr y brenin mai efe oedd yn Hywodraethwr mewn gwirionedd mai efe oedd y barnwr, yr ynad, yr offeiriad, y pregethwr, a'r ysgolfeistr mai efe oedd p 11 pen pob awdurdod, copa pob gallu, a chrib pob enwogrwydd. Dadleua dosbarth o len- orion mai swyddogion gwiadol yn unig oedd- ynt-tleddfwriaethwyr yn yr ystyr ddyblyg o wneuthurwyr yn ogystal a chynalwyr deddf. Yr oedd eu deddfau yn gynwysedig o fraw- ddegau syml ac hyfforddiadol. Hona ereill mai barddoni oedd eu gwaith y pryd hwnw fel heddyw. Sicr yw nad oedd barddoni y pfyd hwnw yn agos fel y gwneir yn awr. Yr oedd eu barddeniaeth yn yrnadroddion byrion gogyhyd, heb nac acen, nac odl, na chyng- hanedd. Y mae hyn yn rhoddi cyfrif am ddoethineb, am wreiddiolder, ac am bryd- ferthwch y cyfryw. Y mae ynddynt feddwl wedi ei wasgu i ffurf-frawddeg dlos, ar gyfrif ei symlder a'i gweddusrwydd. Enaid yw pob meddwl, wedi ei wisgo mewn geiriau addas i roddi llafar egniol ac effeithiol, heb olygu boddio y glust yn y mesur lleiaf. Y mae yr hyn a ysgrifenent yn ddoethineb a synwyr, heb ddeddfau o gwbl ond eiddc natur Ilafar. Yn ol lolo, tardd y gair o wreiddyn yn golygu offeiriad. Y mae hwn, fel y blaen- Z, ffe orol, yn seiliedig ar ddychymyg. Tebyg fod y bardd yn yr amser fu yn offeiriad, megys yr oedd hefyd yn ddysgawdwr a chynghor- wr, &c. Yr -oedd, feallai, yn y gyfundrefn Dderwyddol yn offeiriad, a gallwn gasglu fod barddoniaeth a chy^ylltiad agos iawn a grefydd yn amser mabandod dynoliaeth. Ond os yw yn offeiriad o gwbl heddyw, offeiriad iddo ei hun yw. Y mae yn dduw ac offeiriad-yn aberthu aberth moliant iddo ei hun, ac yn addoli neb gymaint ag ef ei hun. Yn ol arall, daw o'r gwreiddyn par add, givaha'nu, am, meddai, ei fod wedi ei ddethol o blith ereill, ar gyfrif ei dalentau a'i gof rhagorol, at y gwaith penodoL o gyfranu I gwybodaeth. Gyda thipyn o gywreinrwydd gellid olrhain bardd i lawer o wreiddeiriau llawn mor wir a dyddorol. Beth pe cynyg- iem ni ei fod yn tarddu o'r un gwreiddyn, ac yn cadw i raddau yr un ystyr, a pared, am ei fod yn atal cymundeb a natur ? Neu o parhau, gan ei fod yn aros mor ystyfnig yr un yn nghanol cyfnewidioldeb 1 Pan y mae y byd, wedi hen adael ffurfiau, yn treiddio am y sylwedd a'i enaid, y mae efe yn parhau i ymhyfrydu yn A B C bodolaeth. CATO.
Ebion o'r Ogof.
Ebion o'r Ogof. MAE y byd yn llawn ffwdan ac helbul, a miloedd fel pe yn sefyll ar geulan newyn ac eisieu. Byddwn yn cael ymweliadau mynych a'r Ogof oblegyd prinder gwaith. CLYWSOM fod y doethawr yn dangos ei ddanedd ar gynwys yr Ebion. diweddaf, a mawr fel y melldithia gynwys y GWLADGAKWK fel ysbwriel diffrwyth ond cofied y darllen- ydd nad yw y sylw yn ddim ond barn an- mrwd y Behemoth, yr hwn sydd yn newid ei liw fel y tanbryf, a'i symudiadau fel ceiliog y gwynt. Yn Santo dydd Gwener, a chythraul nos Sadwrn. Gresyn fod dyn o dalent (?) fel efe yn ymollwng gyda Uifeiriant budreddi. Mae yn golled nid yn unig i'r genedl Gymreig, ond i'r byd yn gylircdinol, fel nas gellir cael cymhariaeth gwell na chuddio yr heulwen dan gasgen. Oymaint a hyna fel coffadwr- iaeth barehus o ymadawiad hen gyfaill defos-* iynol oddiar lwybr v gwirionedd. A welaist di, ddarllenydd, grybwyiliad y dyn mawr arall am y gyfundrefn newydd. Och me! meddai Pat, do you think that anyone will give his labour for nothing ? Gall ei fod yn gweled rhyw ragolygon am ddeuddeg swllt yn y dydd, fel un o gyfarwyddwyr y rnudiad. Amser a ddengys nad yw y gyfundrefn yn ddim amgen na chledan fwg. Ti elli di, John, gredu yn nilysrwydd y mater ond cyn sicred a bod dwfr yn yr afon Dar, ti weli dy gamsymad. Pan yn myned ar neges o'r Ogof, y dydd o'r blaen, i siop y cigydd gyf- erbyn ag Ariandy y West of England, clyw- ais ddadl frod rhwng dau gigydd nid anenwog ar deilyngdod y Stondin, a'r hen bapyr bach sydd a'i gylchrediad wedi cyfyngu i ychydig o ugeiniau. Taera y gwr tal fod cynwys erthyglau y papyr bach yn llawer cywirach ar helyntion y byd o'r dydd y ganwyd y Stondin hyd yr awr bresenol. Dim amser i aros i glywed terfyn y ddadl, ond feallai y cawn grynodeb ohoni gan y dyn byr tew. Braint bwysig ydyw cael enw newydd gan awdurdod mor bwysig. Tryblith, ai ie ? Gwell tryblith na Stondin budreddi unrhyw awr o'r dydd. Gresyn na chawsem ein breintio a, neillduolion y daith hono gynt i'r Gogledd, pan oedd y gwr gwenog wedi cael y gwaethaf tra. yn ceisio trawsarglwyddiaethu ar hogyn ieuanc o egwyddorwas. Mae hanes gwibdeithiau o'r fath yn hynod dderbyn- ladwy a davlleniadwy. Fe dyr y wawr-cawn oleu clir Ar feusydd Texas cyn bo hir Y gwych a'r gwael fydd mewn mawrhad Ar wastadeddau'r hyfryd wlad. Pwy oedd y cantwr, meddet ? Neb llai na'r cyfaill hercwlffaidd John Dafydd, y cigydd, yn galw heibio i'r Ogof i ganu ffarwel a'r teulu cyn ymadael a Glenydd Dar a Chynon, ar ei ymdaith i chwilio am well gwlad na'r hon y trigwn ynddi yn bresenol. Hawdd- amor, frawd, cofia am danom wedi dyfod ohonot yn filivnwr, os try ffawd yr olwyn i ti yn y cyfeiriad hwnw. DAETH y newydd i law fod dau frawd neillduol yn gorwedd ar y gwely yn glaf. Adferiad buan, meddaf, a gwn y dywed y miloedd "Amen." Deallwn fod un o'r ddau wedi bod yn ymgodymu a Gideon, ac iddo gael y gwaethaf yn yr ornest. Y llall wedi ceisie dringo yn uwch nag y dylasai yn gyf- atebol i'w safon yn y byd. Mae gormod o ddysg yn niweidiol i ambell i ddyn, os na fydd yn feddianol ar y cydbwysedd gofynol i'w gadw yn ei le priodol-y lie cyfatebol i'w ddoniau. GOBAJTH cryf am gynulliad x llenyddol uwchraddol yn nhref Caerdydd. Gresyn na chawsid ychwaneg o destynau traethodol ar destyn neu destynau yn dal perthynas a'r werin. Faint o les dderbynia neb oddiwrth ffugchwedl 1 Ffug fydd yr oreu, a thebyg ydyw fod digon o ffug yn ein gwlad yn barod, fel y buasai tipyn o wirionedd sylweddol ar destyn poblogaidd yn tra rhagori ar ffug. Mae digon o gyflenwad a ffug-hanesion Cymreig yn gorwedd mewn hen goffrau, yn aros y cyfle i wneyd ymddangosiad. Rhodd- wr y wobr sydd i'w feio am hyn yn fwyaf neillduol ond eto, rhaid cydnabod y gall wneyd a fyno gyda'r arian trwy dalu am ffug neu ffaith. Dylai dyn sydd yn ymwneyd a llenyddiaeth newyddiadurol er's cymaint o flynyddoedd ymgodi yn uwch yn y cylch llenyddol na'r ffug-hanesiol. Cymered yr awgrym, os nad wyf yn camdybio y dyn. DYSGWYL cyfarfod Bardd yr Hendre nos Wener ond torodd ei gyhoeddiad. Hwyr- ach y gellir ei esgusodi, gan ei fod mewn Hawn waith yn ei swyddogaeth newydd. Cael ar ddeall fod y eyfaill Carnelian wedi gorweithio ei hun i eithafion gyda Dinystr Chicago." Mwynhaed ei hun o dan ddy- lanwad y ffaith ei fod wedi curo oewri De a fi'^ledd Cymru, a rhai o brif feirdd yr ••arig. Byd gwyn i aIL aolion isioerawl y 1. :ed fechan a bresvvylir genym, a gwnawn r ;'au fel v gallom yn yr Ogof^er nad yw ein nifer yn lleuy;. MEXXDWY 0 GRAIG Y MYNACH.
[No title]
Y fordd oreu i gadw dyu marw ydyw ei osod mewn gwirod, a'r ffordd oreu i ladd un byw ydyw gosod gwirod o'i fewn. V mae hapusrwydd yn ami wrth ein hochr, ac yr ydym yn pasio heibio iddo yn ddisylw. Y mae anffodion yn y pellder, ac yr ydym yn myned i'w cytarfod.
MOUNTAIN ASH.
MOUNTAIN ASH. Dymunwyf ddweyd gair bach wrth y pell a'r agos fod Mr. William Bevan, goruchwyl- iwr Mri. Nixon, Taylor a Cory, wedi ymadael er ymgymeryd a llywodraeth Glofa Penrhiw- ceibr. Pan aeth y si allan fod hyn yn cymeryd lie, aeth yn ferw trwy y lie ar un- waith fod yn rhaid cydnabod Mr. Bevan fel dyn, a gofynai hwn a'r llall pa beth oedd oreu ei wneyd, end cyn pen ychydig amser dyma swm fawr o arian wedi eu casglu, a'r rhai hyny yn rhoddion tebyg i'r rhai a gafwydgynt pan yn adeiladu y taberllacl-o wir ewyllys. Y peth gwaethaf yn nglyn a'r rhoddion hyn fel y rhai hyny ydyw y bydd llawer un yn cael ei gwrthod oherwydd bydd digon wedi dyfod i law, a hwythau wedi cychwyn i'w taith. Y mae yr articles wedi eu prynu gan Mr. Thomas, orierydd, Aberdar, sef dwy oriawr aur a'r taclau perthynol iddynt, un o ba rai a gyflwynir i Mrs. Bevan, yr hon sydd foneddiges yn ystyr helaethaf y gair. Gwerth yr hyn a brynwyd ydyw 56p. 2s., ac ychwan- egir at y rhai hyn anerchiad yn costio 8p. felly, bydd yr oil yn 64p. Nis gwyddom yn iawn pa bryd y cymer cyflwyniad y dysteb Ie oherwydd nad yw yr anerchiad wedi dyfod i law.—Constant. DARLITH.—Traddodwyd darlith gan y Parch. B. Evans (Telynfab), Aberdar, yn nghapel y Rhos, nos Lun, Chwef. lOfed, ar "lawn gyfeiriad bywyd." Cymerwyd y gadair gan Mr. B. Williams, meddyg. Y mae rhywbeth rhyfedd mewn cvsylltiad a'r ddarlith hon, sef darlithydd newydd a chad- eirydd newydd, a chafodd pawb eu siomi i'r ochr oreu yn y ddau. Agorwyd y cyfarfod gan Mr. Williams mewn dull boneddigaidd, trwy ddangos i'r gynulleidfa fod yr elw yn myned i gynorthwyo cyfrinfa sydd wedi ei gweithio allan o arian trwy afiechyd ei haelodau; yna, galwodd ar y darlithydd at ei waith, ac ym- aflodd Mr. Evans yn ei destyn fel cawr. Siaradodd yn eglur, effeithiol, ac yn llawn arabedd, fel yr oedd yn bleser ac yn adeilad- aeth i'w wrandawyr. Mynwch glywed Mr. Evans, a bydd hyny yn cadarnhau fod yr oil yma yn wir. Tystiolaeth pawb pan yn ym- adael oedd melus moes eto.—Ap Cynon.
IMAN NODION O'R DERI.
MAN NODION O'R DERI. Y GWEITHFEYDD. — Arafwch pruddaidd a dygn dlodi sydd yn nodweddu amgyichiadau gweithfaol y gymydogaeth. Pawb yn canu yn y cywair lleddf, ac heb un gobaith buan am drawsgyweiriad i'r lion. Rhybuddion wedi cael eu gesod ar ben y pyllau oddiat ddechreu y flwyddyn, yn hysbysu (fel mewn amryw leoedd ereill) terfyniad cytundebau y Bwrdd Cymodol ar ddiwedd chwech mis. Y mae hyn wedi peri i rai pobl feddwl fod gwelliant yn ein sefyllfa ni, fel glowyr, i gael y ei ddwyn oddiamgylch ar derfyn y tymor pryderus hwn. Hyderwn y try pethau allan yn well na'r dysgwyliad goreu, ac fe oddefir i'r ysgrifenydd ddwyn i gof ei gydweithwyr y frawddeg eirwir, Circumstances alter cases." A chaniatau geirwiredd y dywediad y bnaswn yn uwch ein huriau heddyw oni bai am gytundeb y Sliding Scale, a ydyw hyny, gyfeillion, yn profi. y bydd diddymiad y Scale dan yr amgyichiadau presenol yn enill i ni ? Na fydded i un glowr yn y Deheudir fod heb ystyried y cwestiwn hwn. Na fydded i nwydau dialeddol gael llywodraethu yn lie synwyr cyffredin. Gwell y drwg a wyddom na'r posiblrwydd o wneyd drwg yn waeth. Y GYMDEITHAS YMFUDOL.—Yr wyf wedi cael fy moddhau yn fawr wrth glywed amryw o'n cydlafurwyr yn datgan eu golygiadau ar y pwnc hwn. Y mae yr ystyriol a'r pwyllog yn unfryd unfarn parthed angenrheidrwydd y sefydliad er gwaghau marchnad llafur. z, Amryw yn siarad am yrnuno a hi mor fuan ag y gosodir y machinery mewn ivorhing order. Meibion Gwalia, cyfodwn, awn a meddianwn diriogaeth Gymreig. Na fydded i neb sefyll draw ond bydded i bawb osod eu hysgwyddau wtth yr olwyn, ac yna yn ddios fe ddaw 'meistri glofaol Mynwy a'r Deheudir yn fuan iawn i osod gwerth ar lafur a bywydau gwerthfawr y dosbarth tan- ddaearol. Blin genyf orfod credu fod y dew.rder oedd gynt yn ein nodweddu, fel cenedl, i ryw raddau wedi diflanu, ac fod cymaint o lwfrda a diffyg-yrnddiried wedi ein meddianu. Rhaid diwygio yn hyn, os oes gwelliant buan i fod.—Gohebydd.
'YSTRADFELLTE.
YSTRADFELLTE. HERMON. — Cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn y lie uchod nos Fercher, y 12fed cyfisol. Llywyddwyd gan y Parch. D. Morgans, gweinjdog y lie, gan yr hwn y cafwyd anerch- iad tra phwrpasol. Yna galwyd ar wahanol gyfeillion yr ardal yn mlaen i adrodd, canu, a darllen darnau dewisiedig ar gyfer y cyf- arfod. Canwyd amryw solos a duetts yn ystod y cyfarfod gan Mr. a Mrs. Bevan, Mellte Castle, yn effeithiol iawn. Cafwyd ton gan Gor Penuel, dan arweiniad Mr. Wyndham Bevan, Mellte Castle. Mae clod mawr yn ddyledus i Mr. Bevan am ei ym- drech gyda'r canu yn y lie. Cafwyd araeth byrfvfyr ddiwedd y cyfa.rfod ar yr "Awr- lais," a rhanwyd y wobr rhwng Morgan Price William Powell. Cyflawuwyd holl ralJan gwaith y cyfarfod yn feistrolgar a dylauwadol. Wedi talu diolch i'r cadeirydd, canwyd Fy nghartre' ey'n awr yn y nef," ac yna aeth pawb gartref wedi eu llwyr foddloni. —Llew Mellte.
I.RESOLYEN.
RESOLYEN. Nfes.Lun. Chwef. lOfed, cynaliwyd cyfar- fod llenyddol yn nghapel Seion yn y He uchod, pryd y llywyddwyd gan Mr. Lewis Evans. Beirniad yr adroddiadau a'r areithio oedd Mr. J. Thomas, gorucliwyliwr glofeydd Resolvcn. Cymerwyd rhan yn ngwaith y cyfarfod gan y person an canlynol :-W. Evans, W. Thomas, D. Duncan, a D. Herbert. Enillwyd y gwobrwyon am adrodd ac areithio gan Mary Evans, Mary Herbert, John Evans, a Thomas Jones. Canodd parti o'r lie, dan arweiniad D. Herbert, yn ardderchog. Y mae clod mawr yn ddyledus i noddwyr y cyfarfodydd hyn am eu hymdrech egniol a di-ildio i gael rhywbeth a fyddo o leshad i dreulio eu horiau hamddenol yn ystod y gauaf.-Gomer.
DINAS POWIS.
DINAS POWIS. SOCIAL ENTERTAINMENT.—Nos Fawrth, Chwef. lleg, cynaliwyd un arall o'r cyfarfod- ydd adloniadol hyn, pryd y daeth cynulleidfa luosog yn nghyd, a phawb yn ymddangos wrth eu bodd. Cymerwyd rhan ynddo y tro hwn gan Mrs. a Miss Guthrie, Mrs. Rimron (merch Cynonwyson), Miss Evans, a Mri. England, Jones, Miller, Williams, Morris, W. Harry, a J. Edwards. Camvyd amryw ddeuawdau yn swynol iawn gan Mr. Miller a Jones. Y mae yn dda genym hysbysu, erfod y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynal bob pythefnos, a phoblogaeth y lie yn ychydig, nad yw y dyddordeb a deimlir ynddynt yn lleihau y mymryn lleiaf, eithr credwn y teimlir colled ar eu hoi pan y darfyddant. Melus moes eto.-Gohebydd.
HYN A'R LLALL 0 GWM RHONDDA.
HYN A'R LLALL 0 GWM RHONDDA. DigOfi tyn yw hi yma yn bresenol i ddyfod a'r ddau ben i'r llinyn yn nghyd ond er y cyfan, gwerir llawer o arian am yr hyn nid yw fara, gwelir yma lawer o dan ddylanv/ad Sion Heiddyn, pan ar yr un pryd y mae y gell fwyd yn ddigon gwag. Y trethdalwyr, druain, yn gorfod myned yn is i'w llogellau, oherwydd fod y relieving officer wedi gweled yn dda i'w gadael, ac arian y trethdalwyr yn ei feddiant. Pa bryd y "darperir pethau gonest yn ngolwg pob dyn ?" Bu yr hen geffylau bron a myned i gynal cyfarfod o ddiolchgarwch yma yn ddiweddar, am fod swyddogion cymdeithas amddiffynol y creaduriaid mud wedi ymweled a rhai o'r pyllau glo, yn mha le y trinir y ceffyl, druan, yn y modd mwyaf didrugaredd a barbaraidd. Gobgithia yr ymwelant yn fwy mynych, canys i. yr ydym wedi arswydo lawer gwaith wrth weled y ceffyl- yn cael ei gamdrin gan fodau ag sydd yn galw eu hunain yn ddynion ac yr oeddem fel pe yn dysgwyl am i ryw farn i ddyfod ar eu gwarthaf oddiwrth Greawdwr y ceffyl. Ai tybed na fydd dim rhaid rhoddi cyfrif pa fodd yr ymddygir at y creadur sydd wedi cael ei greu er bod yn wasanaethgar i ddyn, ac nid er mwyn porthi natur ddrwg wrth ei gamdrin ? Bydd, bydd, ac ni ddi- engir rhag y gosb heblaw edifarhau a diwygio. Y mae rhywun yn trin tipyn ar un dosbarth o feirniaid cerddorol yn y GWL.VDGARWR di- weddaf wel, y mae yn ei le os nad yw ef am fyned i'r swydd ei hunan, ac y mae yn llawn bryd eu gosod oil yn y gogr a'u gogru yn dda nes byddo'r pilcots yn dyfod allan i gyd drwy'r tyllau, ac yna bydd gobaith cael bechgyn o ymddiried a gwir gerddorion i esgyn i'r fame feirniadol. Y mae rhyw ysfa rhyfedd mewn am bell un am fod yn arwein- ydd canu-abertha bob peth braidd er mwyn cael siglo ei law o flaen ychydig o gantorion. Canfyddwn bethau fel hyn yn fynych yma ar lanau y Rhondda, ac, yn ol pob tebyg, ei bod yr un fath mewn llawer man arall. Cymer- wch bwyll, boys, a gofalwch am gartref.— Abas.
PONTYEATS.
PONTYEATS. GWEITHIAU GXO.—Mae'n wybyddus i lawer. fod yma ychydig ohonynt ond nid yw pawb yn gwybod pa mor araf y mae yr oKvynion yn troi-rhai ohonynt ni chyflqgant ond ychydig angenrheidiol o weithwyr er cadw y gwaith rhag cau i fyny. Mae yn dda genym ailu nodi fod ychydig gyfnewidiad wedi cymeryd lie yn ddiweddar yn ngwaith glo Carway ac y mae yma amryw o weithwyr o'r newydd wedi eu cyflogi, yr hyn fu yn fendith fawr i'r gymydogaeth ar adeg mor anobeithiol. Mae yn dda genym, hefyd, allu hysbysu fod yr hen weithwyr wedi derbyn yr hyn oedd yn aros iddynt heb daiu o'u henillion ac y maent, hefyd, yn derbyn tal mwy cyson. Gobaith liawer heblaw fy hunan yw, i fod amser gwell ar wawrio yn y gymydogaeth hon a phob cymydogaeth arall sydd yn dyoddef oddiwrth farweidd-dra masnach, onide bydd amgyichiadau llawer ohonorn yn ddigon gresyn vis a thrallodus. Ac os parhau a wna masnach fel y mae yn bresenol, bydd yr hen chwedl yr wyf wedi ei glywed er's llawer dydd yn sicr o gael ei gwirioneddu, sef Tra bo'r borfa yn tyfu fe fydd marw'r march." Tebyg, y bydd liawer ohonom, os na chawn gyfnewidiad buan, a chydymdeimlad adfywiol o ryw gyfeiriad neu gilydd.-Dewi.
BLAENAFON.!
BLAENAFON. Er pan ysgrifenais y pwt llythyr a ym- ddangosodd yn y GWLADGARWR yr wythnos ddiweddaf, cymerodd un cyfnewidiad le yma ag a garwn ei wneuthur yn hysbys, rhag iddo fod ya foddion mewu un modd i garoarwain yr un dyn. Hyny yw, y mae y gw^i.thwyr h&iarn a dur wedi gorfod derbyn gostyngiad er y 5ed o'r mis hwn. Y mae ypuddling o hyd yn sefyll, a lla.ver allan o waith. Y PWYLLGOE CYNORTHWYOL.—Y mae y pwyllgor uchod yn parhau i weithio yn gan- moladwy, ac yn cyfranu bara ddwy waith yr wythnos. CJywais fod Arglwyddi Absrdar a Thredegar wedi danfon deg punt yr uu i'r pwyllgor, ac yr wyf fi yn teimlo awydd diolch yn fawr iddynt am danynt.-T. O. CYFARFOD LLENYDDOL.—Nos Sadwrn, Chwefror Idfed, y cynaliwyd cyfarfod cyntaf cymdeithas y Gobeithlu, yr hon a gychwyn- wyd yn Ebenezer, o dan avweinyddiaeth medrus a galluog Mr. James Jones. Cafwyd adroddiadau, dadleuon, yn nghyd ag amryw ddarnau mewn cerddoriaeth, gan y Gobeithlu. Yr oedd y cyfan, o eiddo y plant, yn mhell tuhwnt i'n dysgwyliad. Y mae parch mawr yn ddyleddus i Mr. Jones am gychwvniad y sefydliad hwn yn ein plith. Ychydig fisoedd sydd er pan ddaeth in plith; eto, er dad- blygu ei allu i wneyd daioni, daeth yma o Gaersalem, Dowlais. Gallaf sicrhau, os .oaf- odd eglwys Caersalem golled, fel yr wyf yn deall, ar ei ol, fod eu colled hwy wedi troi yn elw annhraethiadwy i ni yn y lie hwn. Cadeirydd y eyfarfod oedd Mr. William Williams, diacon, yr hwn wnaeth ei ran yn rhagorol.—Gynonlanr..
BRECHFA.
BRECHFA. Nos Lun wythnos i'r diweddaf, ynnghapel y Trefnyddiou Calfiaaidd yn y lie uchod, cynaliwyd cyfarfod llenyddol o d ;u lywydd- iaeth y Parch. Mr. Price, bugail y lie. Cymerwyd rhan yn yr adroddiadau a'r dad- leuon gan fechgyn a merched ieuainc y gymydogaeth, a gwnaethanfc eu rhan yn gan- moladwy. Gwasanaethwyd gan gor y He, o dan arweiniad Evan Davies (Ifan Ddu), Llwyn Griffith, yr hwn, yn n'?hyd a Mr. Evans, o'r un 110, sydd yn gaifaeliad Dewydd a gwerthfawr i'r ardal gyda phob mudiad lltnyddol a chrefyddol. Gwneler yn fawr ohonynt. Cynorfchwyid yn v canu gan barti o Horeb, dan arweiniad Daniel Williams, Cwmdolfawi'; a pharti o Pontynysywen,'dan lywyddiaeth Richard Thomas, >i aungranod. Aeth y cor a'r ddau barti'trwy eu darnau yn deilwng o ganmoliaeth uchel. Y mae dyfod- 01 llwyddianus i'r bachgen hwn os na laesa ei ddwylaw. Yimvelodd Ehedvdd, Nantysaer, hefyd a'r Ile, a chaed anerchiad a dwy unawd ganddo. Dyma'r tro cyntaf iddo ef ym- ddangos yn Mreehfa, ond os caiff fywyd am dipyn, tebyg nad dyma'r olaf. Caed dwy awr o gyfarfod difyr ac adeiladol iawn. o dan lywydd teilwng a deheuig. Moeswch eto blant. — Ymwelydd.
DAMWAIN OFIDUS YN NGWAITH…
DAMWAIN OFIDUS YN NGWAITH GLO EXCELSIOR. YN AGOS I BEACON, IOWA. Cyfarfyddodd un o'r enw John L. Jones a'i ddiwedd mewn ffordd annysgwyliedig ar yr 16eg o Ionawr. Tebyg ei fod yn bwr- iadu tanio dau dwll cyn myned i giniaw. Dy wedodd wrth ei fab oedd yn gweithio gan- ddo i fyned—y buasai yntau yn canlyn yn fuan—fod eisieu arno osod y tyILm allan fel byddo y mwg yn clirio amser bwyta. Tebyg iddo ddodi un allan ac iddo danio y llall, ac iddo gredu ei fod wedi methu myned allan, ac iddo fyned yn ol i'w ail danio, ond pan oedd yn y fan aeth yr ergyd allan ac a'i tarawodd ef a thalp o lo ar ei ben nes ei ladd ar darawiad. Wrth ei weled ef cyhyd cyn dyfod i giniaw aeth ei fab i edrych am dano a chafodd ef yn hollol farw 0 anhawdd ydyw darlunio teimlad y bachgen. Yr oedd y eyfaill ymadawedig yn enedigol o Gaerffili., I yn y flwyddyn 1825. Enwau ei rieni oedd- .1 ynt John a Betsy Jones un brawd iddo yn yr Hen Wlad, un arall yn y wlad hon. Priododd yn yr Eglwys yn agos i'r Llwyni ag nn o'r euw Janet Edwards, merch i Edward Edwards, o Benderyn, yr hon a fu yn wraig f ffyddlon iddo hyd ei fedd. Oawsa.nt 11 o blunt, 5 wedi marw, 6 yn fyw, 4 gartref, a dwy ferch yn briod. Da,ethant i'r wlad yma yn 1859, o'r He a elwir Capcoch, yn agos i i Aberdar yr oedd llawer yn ei "tlw;a'i adnabod wrth yr enw hwnw. Sefydlasant yn agos i Pittsburgh am o 6 i 7 mlynedd symudasant i Beacon, Illinois wedi hyny daethant i Mangona a Newton, Iowa, yn 1865 a daethant i'r lie hwn tua 6 i 7 mlynedd yn ol, sef Beacon Iowa, yn yr hwn Ie y mae y teula galarus yn bresenol. Cladd- wyd ei ran (Idaei-rol y Sabboth canlynol i'w farwolaeth yn mynwent Beacon. Gweinvdd- wyd gwasanaeth crefyddol yn y capel gan y Parch. Lewis, Giver, yn Gymraeg yn claraw- iadol ar yr achlysur, a chan' y Parch. Carpenter, o Oskaloosa, yn Saesneg, yn hynod bwrpasol a chan yr Odyddion ar laii y bedd. Yr oedd yr olwg yn deimladol gweled pob bra.wd yn ol ei seremoni yn taflu bythddeiliog (evergreen) ar ei fedd, o barch i'w weddillion ac o deirnlad galarus <> goili brawd ffyddlon. Yr oedd dyfodiad y fath dorf ao forth o bobl o bell ae agos o wahanol genedloadd yn ogystal a Ohymry i'r angladd, yn brawf o'i safie uchel a'i barchedigaeth trwy yr holl gylchoedd. Yr oedd yn hen grefyddwr ffyddlon er's liawer o flynyddau. Yr oedd duwioldeb i'w ganfod yn amlwg ynddo yr oedd mor oaest a'r haul godi. Sicr fod marw wedi troi yn elw iddo. Gadawodd ar ei ol briod a chwech o blant i alaru ar ei ol. Yr Arglwydd a roddo gymhorth iddynt i sefyll y brofedigaeth eh werw, a Duw y cariad fyddo gyda'nt o'r awr hon hyd byth.-D. S. Davis.
LLANISAN.
LLANISAN. Nos Wener, y Meg, cynaliwyd cyngherdd yn yr ysgoidy yn y lie hwn. Cauwyd amryw ddarnau gan gyfeihion o'r ardal. Chwareu- wyd ar y berdoneg gin ddwy eneth ieuanc Mr. Jenkins, Mount Pleasant, s lysfaetf. Y prif ddadganwyr oedd eat Mr. Jenkins, Llys- faen Mr. D. Jones, Eghvysnewydd Mr. W. Rees, Melingruttydd Miss John, Mount Pleasant; a Miss S. Edwards, Llysfaen. Yr oedd y Misses Jenkins yn arddangos llawer o fedr yn eu chwareuad ar y berdoneg. Os byw fyddant, credwyf y gwnant chwareuydd- ion medrus ar y berdoneg. Datganodd Miss John yn dyner iawn. Yr oedd datganiad Mr. D. Jones yn fedrus. Dim ond nn gau Gyrn- reig a gawsom Diolch i Mr. Jenkins|am hyny a gawsom. Llywyddwyd gan y Ficer. Yr oedd yr elw i drysorfa Eglwys Llysfaen.
MAESYCWMWR.
MAESYCWMWR. TABOR.-—Cynaliwyd ptuned cvfarfod llen- yddol yr ysgol uchod nos lau, Chwefror 13eg. Cadeiriwyd yn fedrus gan y Parch. T. J. Hughes, gweinidog y lie. Trefn y. cyfarfod oedd fel y canlyn :—Can, Miss Williams; adroddiad, W. Hopkins can, R. J. Jones darlieuiad, C. Baker can, Miss L. Richards adroddiad, Thus. Jenkins deuawd, Mrs.