Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Y BARDD.I

News
Cite
Share

Y BARDD. I LLITH II. t f Y MAE y gair bardd yn adnabyddus i bob Cymro, ac y mae ganddo, uwchlaw dyn o genedl arall, fantais i gael syniad mwy neu lai perffaith am dano. Y mae rhyw neilldu- olrwydd—rhyw gysegredigrwydd yn perthyn i'r bardd sydd yn ei nodi allan fei peth an- nghyffredin. Y mae yn rhywbeth dyrchaf- i'r bardd sydd yn ei nodi allan fei peth an- nghyffredin. Y mae yn rhywbeth dyrchaf- edig mewn cymdeithas. Y mae y gwahan- iaeth rhyngddo ef a;r anfardd yn llawn mor amlwg a'r hyn oedd rhwng y Pharisead a'r Publican. Efe y w Brahmin a priest ein cym- j deithas. Exe yw creadur glan Barddas. Efe yw Jesuit llenyddiaeth y Cymry. Y mae wedi cymeryd arno ei linn ddyiedswyddau trymion—cadw ei uwchafiaeth ar feddyliau pob oes cadw ei boblogeiddrwydd, pan y mae efe ei hun a'i ymdrechion yn hunan- ddinystriol; bytholi yr iaith Gymraeg drwy siarad y Saesneg ac anfarwoli barddoniaeth drwy gyfryngau marwoi odl a chynghanedd. Y mae yr uu ysbryd yn treiddio Cristionog- aeth Cymru cyn belled ag y mae ein pregeth- wyr a'n haelodau crefyddol yn- cefnogi hynyma. Yn union yr u ein hoffeiriad, ein pregethwr, neu ein haelod egiwysig i awyr- gylch Barddas, try yn ymgnawdoliad o hun- anoldeb. Y canlyniad naturiol yw Cymru y wlad oreu, Cymraeg yr iaith ardderchocaf, ei barddoniaeth (yn odl a chynghanedd) y fendigedicaf, a'r Cymro yr engraifft berifoith- iaf o ddynoliaeth. Ni fyn y bardd Cymreig ymwisgo yn ol ei dyfiant a'i faintioli. Y mae ymddygiad o'r fath bob amser yn ynfyd. Y mae gwisg fach- genaidd am ddyn mewn oed bob amser yn ei wneyd yn rhyfeddol chwerthinus, gan ei fod yn troseddu ar ddeddf brydferthaf natur— deddf priodolder. Y mae esgeuluso hon yn achosi pob digrifwch. ac yn herwydd hyn- yma yr ydym ni yn edrych ar y bardd Cymreig gyda chryn lawer o ddifyrwch, gwawd, a dirmyg, am ei fod ar ei eithaf yn y mdrechu ymdd-iugos yn. bob peth ond natur. Y mae yn mron yn mhob ymgais yn trosi natur. Y mae ei awydd parhaus feallai am ddyfod yn wrthddrych anrhydedd cyffredinol yn ei yru i wynebu natur, er mwyn i'w ddy- eithriwch—i'w wrthgyferbyniad ef a natur, ei wneyd yn fwy amiwg a gweledig. Nid yw natur oud background i roddi mwy o amlyg- rwydd iddo ef ei hun. Nid yw natur ond canvas gwyn i'w ddodi ef (yn ei dduwch) yn fwy eglur. Y mae hyn oil yn cyfodi o hunanoldeb v bardd Cymreig. V mae natur yn syml a dirodres y mae ein bardd yn ymhongar a gwageddus. Y mae rhyw syniad o anrhydedd ynddo sydd yn ei flino yn barhaus, ac y mae yr awgrymiad gwanaf tuag ato ef fel bardd, sydd yn tueddu i daflu y cysgod lleiaf ar ei ddysgleirdeb barddol, yn codi llawer ymrafael newyddiadurol, lie y dygir catrodau aneirif o frawddegau ac ymad- roddion ymffrostfawr a hunan-ddyrchafol i amddiffyn urddas ei gymeriad. Y mae cyffwrdd a'i ffugenw, 0 yn wthio bys i'w lygad Buasai yn well ganddo o lawer ddifrio, neu ddwyn ohonynt ei enw priodol na'i enw ffng. Y mae yn ymffrostio yn nghymaint ag sydd ynddo o anmhriodoldeb a ffug. Mewn gwirionedd, y mae ar y ffordd union i edmygu ffug ac arwynebrwydd. Ond yr ydym ni yn bwriadu edrych i mewn i'r enw bardd, er cael dechreu yn yr enw a diweddu mewn sylwedd. Nis gallwn feallai gael gwell gafael yn y pwnc nag wrth y gair bardd. Y mae yn anhawdd cael allan yr hyn a feddylir wrth y gair. Mae geirvddiaeth y Cymry, fel eu hanesiaeth, yn gylchynedig gan niwl dirgelwch. Ychydig mewncymhar- iaeth sydd o oleuni ar yr hyn oedd fardd, ac ychydig ellir gael o lewyrch arno wrth olrhain i wreidd-ystyron y gair a.'i dynoda. Daw, yn ol Dr. Puw, o'r gwreiddyn bar: copa, pen, crib. Wrth hyn y golygir ei fod yn swyddog neu berson o gryn fri a dylanwad-ei fod yn gyfystyr a chief, nobleman, penaeth. Tybir mai y bardd oedd cynghorwr y brenin mai efe oedd yn Hywodraethwr mewn gwirionedd mai efe oedd y barnwr, yr ynad, yr offeiriad, y pregethwr, a'r ysgolfeistr mai efe oedd p 11 pen pob awdurdod, copa pob gallu, a chrib pob enwogrwydd. Dadleua dosbarth o len- orion mai swyddogion gwiadol yn unig oedd- ynt-tleddfwriaethwyr yn yr ystyr ddyblyg o wneuthurwyr yn ogystal a chynalwyr deddf. Yr oedd eu deddfau yn gynwysedig o fraw- ddegau syml ac hyfforddiadol. Hona ereill mai barddoni oedd eu gwaith y pryd hwnw fel heddyw. Sicr yw nad oedd barddoni y pfyd hwnw yn agos fel y gwneir yn awr. Yr oedd eu barddeniaeth yn yrnadroddion byrion gogyhyd, heb nac acen, nac odl, na chyng- hanedd. Y mae hyn yn rhoddi cyfrif am ddoethineb, am wreiddiolder, ac am bryd- ferthwch y cyfryw. Y mae ynddynt feddwl wedi ei wasgu i ffurf-frawddeg dlos, ar gyfrif ei symlder a'i gweddusrwydd. Enaid yw pob meddwl, wedi ei wisgo mewn geiriau addas i roddi llafar egniol ac effeithiol, heb olygu boddio y glust yn y mesur lleiaf. Y mae yr hyn a ysgrifenent yn ddoethineb a synwyr, heb ddeddfau o gwbl ond eiddc natur Ilafar. Yn ol lolo, tardd y gair o wreiddyn yn golygu offeiriad. Y mae hwn, fel y blaen- Z, ffe orol, yn seiliedig ar ddychymyg. Tebyg fod y bardd yn yr amser fu yn offeiriad, megys yr oedd hefyd yn ddysgawdwr a chynghor- wr, &c. Yr -oedd, feallai, yn y gyfundrefn Dderwyddol yn offeiriad, a gallwn gasglu fod barddoniaeth a chy^ylltiad agos iawn a grefydd yn amser mabandod dynoliaeth. Ond os yw yn offeiriad o gwbl heddyw, offeiriad iddo ei hun yw. Y mae yn dduw ac offeiriad-yn aberthu aberth moliant iddo ei hun, ac yn addoli neb gymaint ag ef ei hun. Yn ol arall, daw o'r gwreiddyn par add, givaha'nu, am, meddai, ei fod wedi ei ddethol o blith ereill, ar gyfrif ei dalentau a'i gof rhagorol, at y gwaith penodoL o gyfranu I gwybodaeth. Gyda thipyn o gywreinrwydd gellid olrhain bardd i lawer o wreiddeiriau llawn mor wir a dyddorol. Beth pe cynyg- iem ni ei fod yn tarddu o'r un gwreiddyn, ac yn cadw i raddau yr un ystyr, a pared, am ei fod yn atal cymundeb a natur ? Neu o parhau, gan ei fod yn aros mor ystyfnig yr un yn nghanol cyfnewidioldeb 1 Pan y mae y byd, wedi hen adael ffurfiau, yn treiddio am y sylwedd a'i enaid, y mae efe yn parhau i ymhyfrydu yn A B C bodolaeth. CATO.

Ebion o'r Ogof.

[No title]

MOUNTAIN ASH.

IMAN NODION O'R DERI.

'YSTRADFELLTE.

I.RESOLYEN.

DINAS POWIS.

HYN A'R LLALL 0 GWM RHONDDA.

PONTYEATS.

BLAENAFON.!

BRECHFA.

DAMWAIN OFIDUS YN NGWAITH…

LLANISAN.

MAESYCWMWR.