Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Adolygiad y Wasg.
Adolygiad y Wasg. Y BARDD IEUANC, sef gweithiau barddonol y diweddar Mr. William Davies, Gilfach Goch, gan Dafydd o Went. Bu awdwr y llyfryn hwn farw yn ieuanc, sef yn ei unfed flwydd ar ugain o'i oed, a theimlodd rhyw nifer o'i feirdd-gyfeillion ar eu calonau i gasglu ei weithiau at eu gilydd, a'u cyhoeddi yn llyfryn chwe' cheiniog, yr hwn, yn awr, sydd ger ein bron; a gellir dywedyd fod y farddoniaeth, ar y cyfan, yn un bur wych ag ystyried ieuenetyd yr awdwr. Mae yn ddiau, pe eawsai fyw, y gwnelsai fardd o gryn deilyngdod. Cynwysa y llyfryn amrywiaeth o destynau gwreiddiol, chwaeth- us a sylweddol, ac y mae y bardd wedi canu yn llithrig, tyner, a swynol ar lawer ohonynt; ond tybiwn y rhagora y Nos arnynt oil. Y mae yn y gerdd hon feddylddrychau dysglaer a gogoneddus, ac yr ydym, gyda phleser, yn barod i endorsio barn Islwyn ar yr unrhyw Y mae barddoniaeth loew a newydd yn y gerdd hon." Y mae y farddon- iaeth o nodwedd bur a moesol oil, ac yn deilwng o ddarlleniad ystyriol.
Y Glowr.
Y Glowr. 0 bob celfyddyd ag sydd mewn bodolaeth, dyma yr un fwyaf beryglus, dlotaf, ac fwyaf dan sylw yn yr holl fyd adnabyddus. Mae canoedd o lowyr dewr ein gwlad wedi cefnu ar eu cartrefleoedd yn y boreu yn iach ac yn heinyf, ond cyn haner dydd yn caeldychwel&'r rhan anfarwol wedi ehedeg ymaith. Mae y dosbarth hwn yn fwy Iluosog nag ydyw y rhan fwyaf o gelfyddydwyr ein gwlad, a thrwy hyny yn agored i fod dan fwy o drais a gormes na neb o'u cyd-ddeiliaid. Trwy lafur y glowr mae canoedd yn cael eu bara- y peirianwr, y gof, y saer, y pwyswr, y gaffer a'i ffon. Mae y rhai uchod yn cael eu bara yn ddyddiol heb ofn. Dosbarth arall ydyw y siopwr, y dilledydd, y commercial tra- veller, y tafarnwr, a llu ereill. Ni a welwn fod Uafur y glowr yn weithfawr. Mae y glowr yn agored i lawer o drafferthion a gofidiau yn ei gelfyddyd werthfawr (?). Stop lamps, stop waggons, cwymp ar heol ei dalcen, par o goed wedi tori i lawr, y lie yn rhy isel i'r ceffyl, &c. Wel, er cymaint ydyw y trais, y gormes, a'r byehandra ag y mae ef yn gorfod eu dyoddef, efe ydyw ffynonell a gwreiddyn znasnach Prydain. Trwy ei lafur ef mae ein hanwyl Frenines yn cael ei chario a'i symud o un lie i'r llall, a mawrion ein gwlad yr un modd. Ffrwyth ei lafur ef sydd wedi dyfod â. ni yn gydnabyddus 4 gwledydd pellenig y byd. Ar ffrwyth ei lafur ef yr ydym yn alluog i nofio llongau o un wlad i'r llall, ac o'r ynys hon i fyd mawr y gorllewin- America. Ond eto, hen lowr tlawd a di- barch hollol ydyw ef. Mae y glowr, druan, yn gorfod cydymddwyn a'r rhwystrau uchod, ac yn gorfod boddloni ar yr hyn a all ei grafu, fel y lloffwr ar y maes. Eto, disylw a dibarch ydyw. Yn nghanol ei beryglon cyll ei fywyd naturiol, a hyny cyn amser yn ddiamheu. Damweiniau, a son am ddamweiniau, sydd flaenaf yn hanes y flwyddyn bresenol. Cyn ein bod wedi an- nghofio Abercarn, dyma.,Pri-ugain arall (mwy neu lai) yn cael gwynebu trag'wyddol fyd yn y Ddinas, Rhondda. Bum yn siarad ag un o'r personau a gollasant eu bywydau nos Sadwrn cyn y ddamwaiil. Dywedodd wrthym Da fuasai y Ddinas ddim yn ddinas barhaus iddo ef. Felly bu. Terfynodd ei fywyd naturiol yn y ddamwain byth-gofiadwy hon. Dyn hoew, ac un a fawr berchid gan bawb, oedd Thomas Rees. Gadawodd dad, mam, chwiorydd, a brodyr, yn y lIe hwn, i alaru ar ei ol. Ond eto, er yr holl beryglon parhaus y mae y glowr yn gorfod eu gwynebu, di- barch a disylw ydyw. Gobeithio fod yr amser yn agoshau pan y bydd i'r glowr gael ei barchu fel y boneddwr neu y masnachwr cyfrifol sydd yn ei ymyl. Gobeithio na fyddaf yn troseddu wrth eich hadgofio am yr appeal a wnaethum yn fy llith diweddaf ar ran y lluaws sydd yn dyoddef caledi mawr oherwydd y marweidd- dra masnachol presenol yn nghylchoedd Llantwit Fardre. Pan y cyfranwyd ddi- weddaf, caf wyd fod angen dirfawr yn bodoli yma, a diamheu ei bod yr un peth yn awr. LLONFAB.
ABERDAR.
ABERDAR. BUDD-GYNGHERDD.-Nos Iau, y 27ain cyfisol, cynelir budd-gyngherdd blynyddol Mr. A. N. James, R.A,M., dan nawdd prif foneddigion y dref, pryd y cymerir rhan ynddo gan y personau canlynol :-Misses S. A. Williams, R.A.M., Hannah Harries, Mary Richards, L. Jenkins, A. Hughes, a Mri. D. Howells (Gwynalaw), Prifysgol Cymru; D. Evans (Eos Dar) W. Phillips (Gwilym Cynon); T. Howells (Hywel Cynon); T. S. Thomas (Telor Dar); W. Thomas (Gwilym Wenallt); B. Thomas, W. James, W. Evans, a John Lake, yn nghyd ag Undeb Corawl Aberdar, dan arweiniad Mr. Reea Evans. Y cyfeillydd fydd Mr. James ei hun. Nyni a obeithiwn y ceir cyngherdd llwyddianus, oblegyd nid oes amheuaeth nad yw Mr. James yn un o'r dynion mwyaf teilwng o gefnogaeth- pawb, yn gymaint a'i fod bob amser yn barod i wneyd ei oreu er hyrwyddo pob mudiad da yn y blaen.
,CWMBACH.I
CWMBACH. CARMEL.-Nos Fercher, y 5ed cyfisol, caf- wyd cyfarfod adroddiadol a chaniadol gan ddynion ieuainc y 11e. Cafwyd cyfarfod adeiladol iawn. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ganu a gweddio. Wedi hyny, cafwyd anerchiad byr a phwrpasol gan y cadeirydd. Aethant trwy y rhagdrefn yn rhagorol. Y mae y cyfarfodydd hyn i'w cael eu cynal yn wythnosol, yr hyn sydd yn ddyledus i fon- eddigion yJle dan sylw.-E.
EISTEDDFOD Y CROWN & ANCHof,…
EISTEDDFOD Y CROWN & ANCHof, ABERAMAN. Cynaliwyd yr Eisteddfod uchod nos Sadwrn, Chwefror laf. Aethpwyd drwy y programme yn y drefn ganlynol:—Canu yr alto solo, O'r hapus awr;" pump yn cys- tadlu goreu, Mr. Edward Jones, Aberaman. Canu y tenor solo, "Mentra Gwen saith yn cystadlu, ond neb yn deilwng o'r wobr. Cystadlu ar adrodd Y mor yn ceisio dianc o'i wely chwech yn cystadlu goreu, Mr. I William Griffiths, Cwmbach. Canu" Y Cymro;" goreu, Mr. John James, Aber- aman. Dadl ddifyfyr; tri pharti yn cys- tadlu, ond neb yn deilwng o'r wobr. Araeth ddifyfyr rhanwyd y wobr rhwng Mr. John E. Davies a Mr. Wm. Griffiths, y ddau o Gwmbach. Beirniadaeth yr englyn ar Giniaw Nadolig rhanwyd y wobr rhwng P. ac Amana. Canu Myfanwy (i barties o ddeuddeg) un parti yn cystadlu, ac yn teilyngu y wobr, dan arweiniad Mr. John James, Aberaman.-Hiram Jones.
DOWLAIS.
DOWLAIS. "JosEPH."—PerSbrmiwyd y cantata hwn gan Obeithlu Moriah, yn cael eu cynorthwyo gan glee party o'r un capel. Arweinydd, y cerddor ieuane athrylithgar, John Thomas. Cyfeillydd, Mr. Daniel Davies, Dowlais. Llywydd, yr hen gyfaill mynwesol, Mr. Thomas James, gan yr hwn y cafwyd ych- ydig sylwadau byrion hynod o gynwysfawr. Y darn cyntaf a ganwyd ydoedd Myfanwy gan y parti. Yn nesaf, cafwyd adroddiad, Ty a theulu'r meddwyn," gan David Howells, yn hynod o ddylanwadol. C&n gafwyd nesaf, sef Y boreu glas," gan Miss Sophia Davies. Canwyd" Dowch ac an- nghofiwch gan y parti, ac felly y diwedd- wyd y rhan gyntaf o'r cyfarfod. Y perfform- iad oedd nesaf. Cynrychiolwyr y prif gymer- iadau :—JoK;o&, D. Thomas Joseph, John James; yr Haneswyr, William a Richard Jones yn nghyd ag amryw ereill. Aethant trwy eu gwaith yn anrhydeddus a chaaodd cor y plant yn fendigedig, yn enwedig y chweched corawd, "Ffarwel, bellach, gyfaill ffyddlon," sef y brodyr yn canu ffarwel i Joseph ar ol ei werthu i'r Ismaeliaid. Yna, cafwyd can Ymson Joseph yn y carchar," caniad yr hon, ysywaeth, oedd yn anfri i'r cyngherdd. Anthem ar y Salm gyntaf, Gwyn ei fyd y gwr ni rodia, &c. gafwyd nesaf, yr hwn oedd yn ganmoladwy iawn. Canwyd anthem" Treigla dy ffordd er yr Arglwydd," hefyd, yn dda iawn. Yn nesaf, canwyd y corawd bach syml, Yn awr, mae ei frodyr yn dyfod yn nghyd," yr hyn a wnawd yn hynod o dlws. Cafwyd datganiad da iawn o'r corawd yn mha un y cawn frodyr Joseph yn sefyll o'i flaen. Wedi hyny, cawn y brodyr yn cychwyn &'r newydd idd eu tad fod Joseph eto'n fyw, yr hyn a ddatganwyd yn effeithiol iawn. Yna, eawn y rhan olaf yn dangos yr orymdaith i Gosen, yr hyn ddygodd y perfformiad i ben gyda chymeradwyaeth uchel i'r arweinydd a'r plant. Talwyd diolchgarwch i'r cadeirydd, ac yna aeth pawb tua'u ffordd wedi eu llwyr foddloni.— Un oedd yno.
FERNDALE.
FERNDALE. LLWYDDIANT.-Darfu i Mr. David W. Thomas, glowr, o'r lie hwn, a diweddar o Gwmtwrch, basio ei arholiad yn llwyddianus o dan Ddeddf Rheoleiddiad y M wngloddiau yn yr arholiad a gymerodd le yn Nghaerdydd, yr wythnos olaf o Ionawr. Y mae y llwyddiant hwn i'w gymeradwyo yn arbenig, am fod fy nghyfaill wedi llafurio yn galed wrth ymbaro- toi er cyrhaedd yr amcan bwriededig. Nid yn unig y llafuriai yn galed gyda dilyn ei orchwyl beunyddiol, ond ni fu y teulu, hefyd, yn ystod y eyfryw amser yn rhydd o'r profed- igaethau mynych hyny ag ydynt yn dyfod i ben teulu lluosog, megys symudiadau, afiechyd, claddu, &c. Cafodd ef ei ran o'r cyfryw, ond ni thyciodd dim, a daeth allan yn fuddugoliaethus y tro cyntaf. Dyledus, hefyd, ydyw hysbysu mai hunan-ddysgol yn gwbl fu yr holl ymbarotoad—yr hyn ydys yn gyflwyno i sylw bechgyn gweithgar a difantais Cymru fel ffaith deilwng o efelychiad. Dy- munwyf ei lwyddiant pellach gydag ychwan- egiad- Gyfaill, bydd da it' gofio-er hyny, Mai rhinwedd fydd gweithio Yn ddiatal, dda eto, Y mwy fyth, er dim a fo. Nerth rhagoriaeth yw'r gore'—ymlyniad Yn mlaen ddyry safle Yn mhell hwnt eto mae lie, A choryn uwch i chware'. 0 radd i radd cyrhaeddir-y pim,acl, Os pwnio a wnelir Trwy rwystrau, diau, hyd dir Yr angel felly dringir. -Gwilym Ourwen.
TREALAW.
TREALAW. CYNGHERDD. — Cynaliwyd cyngherdd yn nghapel Bethlehem, yn y lIe uchod, nos Iau diweddaf, er cynorthwyo ychydig ar y bardd ieuanc Uthr Wyon, yr hwn sydd, yn nghyd a'i deulu, wedi dyoddef yn erwin oherwydd afiechyd blin a pharhaus. Cymerwyd rhan yn y gweithrediadau gan y cantorion can- lynol :-Meistri T. John a J. W. Jones, ysgolfeistriaid Mri. Thomas a Henry Felix, Treorci; Mr. C. Edmunds a'i barti, o'r Ystr;;< Misses M. A. Davies a Jenkins, Treon-i; Eos Aman, ac Eos Llwynpia. CyfeUyddes-Miss Gertrude Williams, Pen. tre. Digon yw dweyd i bob un ohonynt wneyd ei ran yn ardderchog. Gwnaeth Miss Williams ei rhan yn ganmoladwy iawn. Llywyddwyd, yn absenoldeb Dr. Idris Davies, gan Mr. Evan Davies, Foundry House, Trealaw. Yr oedd y cynulliad yn fach ag ystyried teilyngdod y gwrthddrych ond gellir dweyd "Mwyaf awn llestri gweigion." Y rhai a gad want fwyaf o fms gyda'r mudiad oedd y rhai pellaf yn ol o wneyd dim. -Oyfaill iddo.
BARGOED.
BARGOED. DARLITH AR YR "ALCORAN."—Nos Lun, Chwef. 3ydd, traddododd y Parch. J. Gwrhyd Lewis ddarlith ar y testyn uchod i gynull- eidfa luosog yn Nghalfaria. Prawf hyn fod gan bobl ei ofal feddwl uchel am eu gwein- idog, ac y mae yn lion genym allu dweyd i'w ddarlith droi allan yn llwyddiant perffaith- yn llawer mwy felly nag y dysgwyliai y mwyaf hyderus. Yr oedd, o ran ei chynwys- iad, yn bob peth allesid ddymuno. Siaradodd am awr a thri chwarter, ac yr oedd pob gwyneb yn y gynulleidfa yn dangos yn eglur nad oedd neb yn blino i'r diwedd. Y mae Gwrhyd wedi cyflawni gorchest yn ei arwr- gerdd ar Joshua," fel y gellir gweled wrth feirniadaeth Dr. Edwards (Bala), adolygiadau y GWLADGARWR a'r Darian, yn nghyd a'r dyfyniadau helaeth o'r unrhyw a fu yn y Western Mail yn ddiweddar. Ond, yn sicr, fel darlithydd y mae yn rhagori yn benaf. Yr ydym yn galonog yn cymhell y ddarlith a'r darlithydd i sylw yr eglwysi, ac yn sicr- hau y bydd iddynt gael llawer mwy na ddys- gwyliant am eu harian. Y mae'r dyddorol a'r adeiladol wedi eu cymhlethu drwyddi oil yn y modd mwyaf hapus a dymunol. Llyw- yddwyd yn fedrus a deheuig gan y Parch. T. J. Hughes, Maesycwmwr. — (Jn fu yn ei wrando.
BLAENAFON.
BLAENAFON. Y GWEITHFEYDD. — Y mae glowyr y lie hwn wedi gwrthod derbyn y gostyngiad cynygiedig o 10 punt y cant ac y mae y gweithwyr haiarn a dur wedi gweled yn briodol i wneyd yr un modd. Oherwydd hyny, neu rywbeth arall, y mae y puddling i gyd wedi ei atal oddiar dydd Sadwrn pythef- nos i'r diweddaf. Fe welwch, gan hyny, nad gwych ydyw hi ar wyr y puddling. Y mae y Felin Fawr hyd yma yn cael gweithio yn weddol gyson; ond am y ddwy arall, nid ydynt yn cael gweithio haner eu hamser. Nid oes ond ychydig o haiarn yn cael ei weithio yma yn bresenol. Dur ydyw y go yn agos i gyd, a dyna y rheswm feallai fod y Felin Fawr yn cael ei chadw i weithio mor gyson, ac fod archebion ar law ag sydd yn rhaid iddynt gael eu gwneuthur, sef archeb- ion am gledrau dur. Gan fod y cwmni wedi myned i'r sefyllfa ag y maent ynddo, hyny yw, i Lys y Liquidation, a'r gweithwyr yn gomedd derbyn y gostyngiad, gallwn feddwl, er cymaint o broffwydo sydd yma, nad oes yr un dewin a fedr ddweyd beth ddaw o'r lie. Dywedir fod y gweithwyr yn foddlawn gwneuthur pob peth ag sydd o fewn eu gallu er cynorthwyo y cwmni i ddyfod allan o'r dyryswch, dim ond iddynt gael gwaredigaeth o'r cadben, yr hwn aeth a'r llestr yn erbyn y creigiau. Wel, beth bynag a ddywedir am weithwyr Blaenafon, yr wyf yn credu eu bod yn wir haeddianol o glod am actio mor ddoeth. Yr odddwn yn gofyn i un o'r gweithwyr y dydd o'r blaen beth oedd y rheswm fod y gweithwyr mor awyddus am newid y cadben oedd arnynt yn bresenol, ac efe a'm atebodd fel y canlyn Golygwch chwi eich bod yn borchenog ar ddwy long, a'ch bod yn rhoddi llywyddiaeth un ohonynt i ddyn o ymddangosiad medrus; ond wrth fyned ar daith, efe a yrodd y Hong yn erbyn rhyw graig, a hi a aeth yn ddrylliau. Wei, a garech chwi roddi llywyddiaeth y llong arall i'r un gwr 1" "Na charwn, yn wir," meddwn inau. "A gadael fod y cadben," ebe fe drachefn, wedi gyru dwy long yn ddrylliau, a hyny yn erbyn yr un graig—a ddylai efe gael cynyg ar lywyddu llong byth mwy?" Dywedais inau, Na ddylai, myn caib a rhaw; ond dylai gilio i edrych am ryw swydd arall, a bod yn falch na chafodd fyned ar eu hoi hwynt." Ebai'r dyn dra- chefn, Bydded i chwi dynu y casgliad a fynoch o'r uchod." Y PWYLLGOR CYNORTHWYOL. —Y mae yma luaws o foneddigion yn gweithio yn ddiwyd o blaid y mudiad daionus hwn, ac yn rhoddi yn haelienus hefyd. Yr wyf wedi cael ar ddeall eu bod wedi derbyn JB20 oddiwrth Mr. H. Richard, A.S. Bendith fyddo ar ei ben ef. Y mae Cor Undebol y lie yn cynal cyngherdd heno (Chwef 3ydd) yn y Town Hall, pryd y byddant yn perfforraio y can- tata Esther," a'r elw i fyned at y mudiad uchod. Gobeithio y bydd iddynt gael swm weddol o dda, oherwydd y mae yr angen yn fawr yn ddiddadl.-T. C.
GOPPA, PONTARDULAIS.
GOPPA, PONTARDULAIS. Cynaliwyd cyfarfod dyddorol dros ben yn y lie uchod nos Iau, Ionawr 30ain, ar yr achlysur o gyflwyno tysteb i Mr. Jenkin Thomas (Llew o'r Llwyn), am ei lafur a'i egni gyda'r canu yn ei wahanol agweddau mewn cysylltiad a'r eglwys uchod. Daeth torf luosog yn nghyd i ddangos eu cymerad- wyaeth o'r symudiad. Yr oedd y cyfarfod yn gymysgedig o adrodd a chanu ac fe aeth pawb oedd yn cymeryd rhan ynddo trwy eu gwaith yn ganmoladwy. Darfu i'r cyfarfod oedi rhyw gymaint cyn dechreu oherwydd fod y cadeirydd yn absenol, a thrwy hyny nis gallesid ei agor yn rheolaidd ond o'r diwedd torwyd ar y rheol gyffredinol, ac aethant yn mlaen yn ol y rhaglen ddarparedig, heb gael un araeth agoriadol. Ond wedi i ryw gyfran ohono fyned heibio, daeth y cadeirydd (Parch. Daniel Thomas), a gweinyddodd ei swydd yn ddeheuig. Y mae yn dda genym weledfod y cyfarfod hwn wedi rhoddi geuedigaeth i fardd newydd yn ardal Pontardulais; gobeithio bydd iddo ddal ati yn ddillino hyd nes y daw yn seren lachar yn myd y beirdd. Y mae Mr. Thomas yn gwir deilyngu y riiodd hon o eiddo'r eglwys, am ei ymdrech diorphwys gyda y rhan hon o addoliad cysgegredig. Yr ogdd yr anrheg yn gynwysedig o swm o arian aqrhydeddus, wedi ei amgau mewn cwdyn deatlus o waith Miss Jones, Pontardulais; ac fel t461 am ei thrafferth cafodd arwisgo y brawd hoff, y derbyaydd; ac ar ol myned trwy y gorchwyl hwn, diolchodd Mr. Thomas am eu rhodd haelionus, gan ddweyd yn hynod hunan-ymwadol a gostyngedig nad oedd efe yn ystyried ei hun yn deilwng o'r fath gymwynas oddiar eu llaw—ac mae nid fel t&l yr oedd efe yn ei dderbyn, ond fel rhodd rhad o eiddo'r eglwys, gan ei fod yn derbyn tal digonol wrth ymwneyd a'r gwaith sydd yn enill cymaint o'i fryd a'i serch. Ar ol cyflwyno pleidlais o ddiolchgarwch i'r cadeirydd, a chanu yr anthem genedlaethol, terfynwyd y cyfarfod, ac aeth pawb adref wedi eu llwyr foddloni. Diau nad pell oedd teimlad y Llew wrth dderbyn y wobr o fod yn cyduno ag ysbryd y llinellau canlynol :— I Llew o'r Llwyn, y cnewllyn—sydd felus, Ac hefyd y plisgyn Nid da yw gwrthod derbyn Hael rodd dda o'r natur hyn. Mae clod i Miss Jones yn ddyledus-am Wneyd cwdyn mor ddestlus A'r eglwys yn haelionus Am rhoi darn aur, nid dwrn o fts. —Morien o'r Glyn.
ABERDULAIS.
ABERDULAIS. Da genym hysbysu fod gweithfa newydd y Tin Plate Company, yn y He uchod, yn myned yn y blaen yn rhagorol gyson. Y mae yma ddigon o alw am alcan ac er nad yw y prisfram dano fel ag y gwelwyd, eto, yr ydym yn gobeithio y try pethau yn well yn y dyfodol, ac y cawn weled masnach yn gyffredinol yn gwisgo gwedd newydd. Nid oes yma ond tair side yn gweithio hyd yn hyn (er bod yma le i chwech), ond gallaf eich hysbysu fod y rhai hyn yn troi allan yn wythnosol y swm gerllaw saith cant o flychau. Wel, llwyddiant a'ch dilyno yw fy nymun- iad. Y mae yma weithfa alcan arall yn perthyn i'r lie hwn, ond rhyfedd y eyfnewidiadau sydd wedi eymeryd lie yma yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Y mae yma deuluoedd wedi cael eu gwasgaru ar hyd a lied y wlad, a hyny oherwydd bad management. Bu yn strike yma yn ystod y tair wythnos ddiweddaf, gan wyr y Wash-house. Daethant allan i gyd fel un gwr, gan benderfynu sefyll dros eu hiawnderau ond fel mae Judas yn mhob cymdeithas, methodd rhai sefyll, aethant yn ol gan fradychu eu cydweithwyr ond y mae yn dda genyf ddweyd fod rhai ereill wedi sefyll sydd yn glod i'r alcanwyr. Aeth dau frawd i mewn i weithio yn lie rhai ohonynt -un wedi bod yn cyneu t&n yn Neath T. P. Co., a'r llall yn picklo yn y weithfa olaf-a dau assorter, os mynwch chwi, wedi myned yn Ile y Heill. Onid yw hyn yn gywilydd wyneb i'r cyfryw bersonau 1 Nid ffug yw hyn, Mr. Gol., ond dyna ffeithiau gwirion- eddol i chwi, oblegyd "Facts are stubborn things." Mae y morthwylwyr, erbyn hyn, wedi derbyn y rhybudd o ostyngiad ond yn hytrach na'i dderbyn, y maent wedi dyfod i'r penderfyniad i bob un roddi turn y mia i'r meistri, ond y maent hwythau, erbyn hyn, yn sefyll dros gael turn yr wythnos. Go- beithio na fydd yr annealltwriaeth hwn ddim i barhau yn hir iawn, ond y deuant i gyd- weled a'u gilydd yn fuan eto. Gobeithiwn, hefyd, y cawn glywed swn yr olwynion yn chwyrnyllu yn ein cymydogaeth eto fel ag y gwelwyd.—A Icamvr.
PENDERYN-O'R NYTH.
PENDERYN-O'R NYTH. Gerllaw copa Craig y Dinas mae ein nyth, ac yr ydym yn saith mewn nifer yn dal cysylltiad Ag ef. Diolch am arwyddion ein bod i gael cyf- newidiad yn yr hin bellach. Bu yn dywydd rhyfedd gyda ni-y fath na welsom erioed. Clywsom yr hen bobl yn dweyd am dywydd o'r fath er's blynyddau yn ol, ond ni raid i ni mwyach wrth eu tystiolaeth. Gwnaeth Mr. Rhew ddifrod enbyd yn nghymydogaeth y nyth, er pob ymdrech i'w gadw allan, a chadw pethau rhagddo. Priodol iawn y can- odd Glan Alun iddo Njd oes unlle uwch daear na threiddia y rhew, Mae yn llithrig fel neidr, ac yn gryf fel llew. Fel dystaw gawr a ar ei daith, Nis gwelir ac nis clywir 'chwaith; Ond teimlir fod aruthrol rym Yn perthyn i'w weithrediad llym. Yr wyf yn gwneyd defnydd o fy adenydd, ac yn ehedeg i'r pentrefydd cyfagos yn awr ac yn y man ac yr wyf yn gwneyd y defnydd priodol o'm llygaid a'm clustiau pan ar fy ymweliad a hwy. Pan oeddwn ar ymweliad & phentref yr Adar yr wythnos ddiweddaf, clywais fod pregeth wir alluog wedi ei thra- ddodi yn nghapel C—n—1 ar Goatyngeidd- rwydd a balchder," a bod y V fawr yn ei chael hi yn ddidrugaredd. Yr oedd y cap yn ffitio amryw i'r dim, a dylai gael ei wisgo. Ond digon tebyg mai yr un fath y bydd mewn cysylltiad a'r bregeth ag y bu gyda ni yn y nyth yma unwaith. Cododd ymrafael rhwng preswylwyr y nyth ac wedi ffraeo yn ddychrynllyd am oddeutu haner awr, peidiodd y terfysg. Yna, aethpwyd i geisio cael allan beth oedd achos y terfysg, a chaf- wyd allan nad oedd un achos cyfreithlon iddo o gwbl, ond mai un ohonom oedd wedi gweithredu, yn ol arfer, fel pwt y gynen." Penderfynwyd yn unfrydol idd ei alltudio o freintiau y nyth am beth amser, modd bynag. Ond y pwnc mawr nesaf oedd cael allan pa un ohonom ydoedd. Er pob ymgais, methwyd yn deg cael allan pwy ydoedd, oblegyd haerai pob un yn ddidaw nad oedd yn bosibl fod y cap neu'r pwt y gynen yn ateb iddo ef; ac o ganlyniad, aeth y cwbl yn ofer. Ciywais fod Eisteddfod i gael ei chynal yn y lie. Goddefed cyfeillion y pwyllgor air o 0 gyngbor. Gofalwch am feirniaid o fri, test- ynau chwaethus, a thestynau yn ateb maint- ioli y g wobr wyon yna, bydd gobaith i chwi am Eisteddfod lwyddianus. Clywais fod gostyngiad gwarthus o isel wedi cymeryd lie yn y weithfa graian (tand). Gostyngiad o dri a chwech y bunt i ran o'r gweithwyr, a dau a chwech y bunt i'r lleilL Faint fydd y nesaf, wys ? Penderfynodd y gweithwyr, gyda'r eithriad o ddau, i dderbyn y gostyngiad er cymaint ydoedd, oblegyd yr oedd yn well ganddynt gael enill ychydig na bod heb enill dim, er ymdrechu eu goreu i rwystro angen i ddyfod i mewn i'w teulu- oedd. Clywais, hefyd, fod y galw am y ceryg calch yn myned yn llai o hyd, ac yr oedd y si ar led fod chwareli Mr. Powell i gael eu hatal am ryw gymaint o amser. Yn wir, nis gwn beth ddaw ohonom, os nad yw henolwyn fawr Rhagluniaeth bron troi tuag i fyny. Gobeithiwn ei bod, ac y daw etc amser gwell yn fuan. Ar hyn, gwelais un o'r gelynion yn dyfod i waered o ben y bryniau, a'r offeryn dinystriol o dan ei gesail. Yr oedd yr olwg arno mor ffres a sionc, fel yr ofnais ef yn ddirfawr. Ffoais am fy einioes, dychwelais i'r nyth, a chawsom ymgom bleserus ar y newyddion. Cofion cynes at yr adar all o ben Craig y Dinas i ben Craig Moel Allt.-Un o'r Cyiv- ion.
EISTEDDFOD PONTYPRIDD.
EISTEDDFOD PONTYPRIDD. Bwriedir cynal Eisteddfod fawreddog yn Mhontypridd mewn ychydig fisoedd. Mae y pwyllgor yn cynwys prif lenorion a rhai o brif foneddwyr y dref. Cynaliwyd y cyfar- fod cyntaf yn ngwestdy y Malster's Arms, nos Lun, y 27ain cynfisol. Gwnawd gwaith gymaint allesid wneyd y noson gyntaf, a chafwyd addewidion am tua <612. Mae y ffaith fod y pwyllgor yn cynwys boneddwyr fel Mri. D. Leyshon, W. Nicholas, E. Williams, H. W. Thomas, T. Evans, Dewi Wyn o Essyllt, Dewi Haran, H. Mills, T. Williams, Llwch Arian, Gwilym Dar, Ap Arwystl, ac ereill, yn sierhau ar unwaith y ceir Eisteddfod gwir deilwng o'r enw ac o drbf Pontypridd. Ymddengys hysbysiad yn y GWLADGARWR, yn cynwys pob manylion, mor fuan ag y byddo modd. Cyfeiriwyd ein sylw yr wythnos cyn y ddi- weddaf at bwt o lythyr yn nglyn a'n Heisteddfod a ymddangosodd yn y Darian (" Y cwd glo sy'n wastad yn frwnt"), gan un yn cyfenwi ei hun "Ewyllysiwr Da." Nid drwg o beth fyddai pe dechreuai y brawd hwn, pwy bynag ydyw, ewyllysio daioni i'w hunan drwy ym- gydnabyddu tipyn a rheolau symlaf grama- deg, oblegyd mae yn methu geirio yn gywir hyd y nod benawd ei ysgrif. Dylasai wneyd hyny yn sicr cyn hysbysu'r byd ei fod yn gymhwys i ddewis beirniaid i'n Heisteddfod. Mae Mabonwyson yn un o'i ddewis ddynion. Wel, yn wir i chwi, gallem ni gael ffolach un na Mabonwyson yn mblith meibion ein bryniau. Y mae y eyfaill Gurnos hefyd yn un o'i favourites. Paham y eyfeirir at Gurnos fel awdwr y traethawd cynghan- eddol am gadair aur Bangor ?" Ah, ah, frawd, methasoch beidio dangos eich dant blaen. Yr ewin fforchog yn cropio yn amlwg i'r golwg. Nid bychanu Gurnos yn unig ydoedd yr amcan, eithr ceisiodd yr ysgrifen- ydd clogyrnaidd gyrhaedd ergyd dwrn chwith at un sydd ddengwaith fwy nag ef ei hunan. Mae cynyg am gadair aur yn burion peth eithr, os methir, peidier digio yn aruthr na chicio yn ofnadwy. Chwyrned ein Hewyll- ysiwr Da faint a fyno yn y dyfodol-mae iddo groesaw, oblegyd rhyfedd mor lleied fydd effaith ei chwyrnu ar ein Heisteddfod. Afraid yw hyBbysu na wna y pwyllgor ymos- twng i wneyd sylw o'r bledren wynt. OENIN, Ysg. Cyff. O.Y.—Bum bron annghofio. Mae ein "Hewyllysiwr Da" yn hysbysu miliynau darllenwyr y Cwd Glo" fod ein Heistedd- fod i'w chynal dan nawdd y Licensed Vic- tuallers' Association." Mae yn y byd dri dosbarth o ddynion-un heb wybod y cyfan am bethau, un yn gwybod y cyfan, ac un arall yn gwybod hyd y nod fwy na'r cyfan am bethau. Rhaid rhestru ein "Hewyllysiwr Da" yn mhlith yr olaf, oblegyd gwyr fwy na'r pwyllgor eu hunain. Wele broffwyd wedi cyfodi yn ein plith, ac yr ydym yn hyderu y ca anrhydedd yn ngwlad ei hun. Un grcwid attempt eto am gadair aur, frawd. -0. -w-
EISTEDDFOD CYMREIGYDDION GYVENT…
EISTEDDFOD CYMREIGYDDION GYVENT MAWRTH 3ydd, 1879. Derbyniwyd 57 o gyfansoddiadau ar walianol destynau cystadleuol yr Eisteddfod uchod, dan y ffugenwau canlynol Y Traethawd.—Tubal Mynwy, a Gwyliedydd. "Cwymp Dynoliaeth." — Moses, Pechadur, Abel, Mab Adda, Abel (2), Ifor ab Efa, Abel (3), Dienw, ac Adyn câ8 o dan y owymp. Y ddafad a'r oen "-LIane o'r Llywel, Wyf hen fynyddwr, Bugail am flwyddi bagad, Oliver Goldsmith, Brebis, Tom as, Dafydd, Mab Gwilym y bugeilydd, Hen fugail Penbilwgan, a Hen fugail ga'dd ei fagu Yn nawdd dwrn y Mynydd Du. "Defnyddioldeb Gwlân, Buga.il am flwydd1 bagad, Bugail Berw, a Gwas glew mewn gwisg o wlân. ° Y Beddargraff. —loan, Gwirionedd y gair union, Owen, Hen wylwr o'r enw William, Deigryn o garedigrwydd, Llwch y llawr, Galar- wr, Awen y gwlith, Amos, Awel yn mrig yr ywen, Ab Deigryn, Ochenaid uwch ei hanedd. Tad, Teimlad. "Y goleuni gwefreiddiol."— Alarch o Lan Elyrch, Mellton, Osseo, Lamplighter, Yr hen Fardd, Anianydd, Canwyll, Trydanydd, Gwyl- iedydd, Sion Cent, Jablochkoff, Gronynog Franklin, dau gan Edmygydd, Syr haeddaf fod yn Seryddwr, Rhynwyf cyn dod yn Athronydd, Mab ei dad yn mhob dull, ac Un a'i gwelodd nid yn Gwalia.-D. W. Jones (Dewt Glan Tdf). Derbyniais y ffugenwau canlynol oddiwrth Eryr Eryri i gystadlu ar y Don yn yr Eis- teddfod uchod Cadwgan Bach, Madawfr Llwyd, Pilgrim, Shon Dafydd, Italian Bach° Alawydd o Lwel, Philomel, John Blake, Oeraidd, Chwerwoer, Cymro Bach, Sir Roger, lolo Goch yn ail gychwyn, Tant Telyn, Gwilym Bach, Dafydd, Cerddor Bach, Ap Dewi, Hwyrol, Un o Tredegar, Cymro am Byth, Cymro Dewr, Limel.—23. Credwyf fod pob un a dderbyniais wedi eu henwi uchod.-T. G. Jones, Ysg.