Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
ETN TELERAU.
ETN TELERAU. Bmnfonwn y GWL\DGAI^WB gijda'r post ar y tmerau canh/nol:— a C. Un Qwi/ACGARWR, y chwcvrtw 1 8 Dau 2 9 Nivmaum sylto o unrhyw ohcbiaethau, Sc., fivriedir i'w cyhotddi, os na chyfeirir hwynt fÆ y canlyn: To the Edito-r, "Gwladgarwr" Office, Aberdare. •Panrchebion, taliadmi, a Uythyrau mamachol VU danfon i Walter Lloyd, Gwladgarvrr" Office, Aberdare. Põ6 llyfran, Sc., iwadolygu i'w danfon t :— Mr. T. Davits, (Dewi Wyn o E.yllt), Pontypridd.
RWRDD y GOLYG-YDD.
RWRDD y GOLYG-YDD. DTMUNA Hen Frython" yn garedig ar Ap Valant i gyhoeddi ei feirniadaeth ar gyfansodd- iadau Eisteddfod y Butcher's Arms, Mountain "YR YSGR AFELL. Yr ydym yn cael ar ddeall fod awduraeth y llithiau hyn yn cael ei brioaoli i'r Parch E. Gurnos Jones, yr hyn sydd yn gamsyniad hollol; ac yr ydym yn synu na fyddai dynion yn deall arddull ysgnfau Crurnos yn well. IH'JIUN v David Griffiths, Pontardulaia, hyabyau Ymofvnydd na chafodd efe gymaint a gweled y feirniadaeth, a bod Dewi Alaw wedi addaw wrtho ef y buasai yn ei chyhoeddi. I>ERBYNiWTD-Un mewn gofid Gomerydd, Con- tractor, Dewi, Cystadleuydd, Eryr Cwmdulais, Cynwyd.
Y PROFFESWR LEONE LEVII AR…
Y PROFFESWR LEONE LEVI AR ENILLION Y DOSBARTH GWEITHGAR. Y MAE Proffeswr LEONE LEVI, yn ol dymuniad Mr. T. BASS, A.S., wedi darparu amcan-farn o enillion presenol dosbarthion gweithgar yn y Deyrnas GyfunoI, tebyg i'r un a ddarparwyd gandde. yn ol yr unrhyw ddymuniad, yn 1866. Y mae y gwasgfeuon sydd yn ffynu yn bresenol. yn nghyd a'r sefyllfa teryglus ag y mae y gweithiwr ynddi, wedi arwain Mr. BASS i gredu y byddai y fath ymchwiliad a'r un uehod yn neillduol o ddyddorol a buddiol. Dywed y Proffeswr LEONE Lievi fod poblogaeth y Deyrnas Gyfunol (yr hwn, yn 1871, oedd yn 31,513,000) wedi cynyddu yn ol saith yn y cant, a'i fod yn awr yn 33,799,000. Fod nifer y personau a gyflogir yn mhob math o orchwyliaeth yn gwneyd cyfanswm 7,821,000 o wryw- od, a 3,688,000 o fenywod. Y mae gwasanaeth teuluaidd, llaw-weithfaoedd gweol, a gorchwylion amaethyddol, yn rhoddi gwaith i 90 yn y cant o'r holl fenywod sydd yn ymwneyd a bywyd o ddiwydrwydd. Y mae 6,647,000 o'r boll Wrywod a ymwnant a diwydrwydd yn dilyn gorchwyliaeth amaethyddol, a galwedigaethau diwydiol ereill Y mae Proffeswr LEVI, yn ol edrych dros luaws o gyfrifon dychweledig o barth y cyf- logau a enillir mewn gwahanol alwedig aethau, yn cael allan fod canolbris yr enillion yn y crefftau mwyaf celfyddyd- gar o 33 i 35 swllt yr wythnos. Y mae, meddai, yn natur y diwydrwydd Pryd- einig, yr hwn sydd yh gynwysedig, yn benaf, mewn nwyddau llaw-weithfaol a chynyrchion celfyddydol, i ofyn llawer o lafur, a hyn yw yr acbos fod mwy o wrthymdrech rhwng cyfalaf a llafur yn Lloegr nag mewn gwledydd ereill. Y cyfanswm o enillion amcan-brisiol y dosbarth gweithiol yn y Deyrnas Gyf- unol, yn ol yr amcan-farn arferol o orchwyliaeth, ac yn ol y cyflogau pre- senol, yw 503,000,000p.; allan o ba un y mae gwrywod yn enill 390,000,000p., a menywod 113,000,000p. Tyner allan o'r cyfrif hwn 71 y cant gogyfer a dyddiau gwyl, a dyspeidiau ereill ar lafnr, yr hyn a amcan-fernir yn bedair wythnos ei bar- had, a 2 £ ar gyfer y nifer o feistri nad ydynt wedi eu gwahan-nodi yn y ddeil- iadeb (census), a bydd 452,000,000p. yn weddill. Ond y mae dad-dyniad pwysig arall i'w wneuthur mewn canlyniad i farweidd-dra masnach, yr hyn sydd yn benaf, hyd yn hyn, yn y diwydion gweol, a'rllaw-weithfaoedd mwnaw! a metelaidd, ac yn mhlith y dosbarth anneffinol hwnw o weithwyr ag sydd, bob amser, yn fwyaf darostyngedig i ddyoddef pan mae gwaith yn araf. Y mae efe yn gosod yr amcan- rif hwn i lawr yn 4,239,000, yn enill 182,000,000p. Yn caniatau ar gyfer colli mewn cyflogau yn y diwydion hyn ddau fis yn ychwanegol, yr hyn sydd yn gyfartal i'r chweched ran o'r incwm blynyddol a wna i fyny yn yr oil y swm o 30,000j000p., bydd enillion y dosbarth gweithiol yn cael eu gostwng, yn y modd hwn, i422,000,000p. -swm agos yn gyfartal i eiddo 1*66 yn cael ei ddosbarthu,, fodd bynag, rhwng nifer llawer mwy o weithwyr. Y mae y cyflogau amcan-gyfrifol yn dangos cyn- ydd, mewn cymhariaeth i'r peth oeddynt yn 1866, o 6.23 yn y cant yn cael eu henill gan ddynion o dan 20 o 6t gan ddynion dros 20 o 12 gan fenywod o dan 20; ac o 24 gan fenywod o a thros yr oedran hyny. Gwelir, wrth hyn, fod cyflogau menywod wedi codi yn fwy, mewn cymhariaeth, nag eiddo y gwryw- od; y mae hyn yn neillduol felly mewn cysylltiad a morwynion teuluol a gwniad yddesau. A'u cymeryd ar wahan, nid yw amcan-gyfrif y cyflogau yn uchel; ond os bydd i'r cyfanswm a enillir gael ei ranu rhwng y 4,800,000 o deuluoedd o bump o aelodau yr un, yn cynrychioli 24,000,000 fel rhifedi y dosbarthion gweithiol, bydd y swm i un teulu yn 94p. y flwyddyn heb ddad-dynu dim gogyfer a dirwasgfa masnach, ac yn 88p y flwyddyn gyda'r dad-dyniad neu 36s. yr wythnos yn yr achos cyntaf, a 33s. yn yr olaf. Dywed y Proffeswr LEVI fod y dosbarthion llafurioI, yn y deuddeg mlynedd diweddaf, wedi cael y cyfleus- derau o droi cryn swm o arian o neilldu, ac na ddylai, gan hyny, fod ein rheswm dros y gor-gyfyngder y cwynir o'i herwydd yn bresenol. Yn y flwyddyn 1866, yr holl swm o arian mewn ymddir- iedaeth a banciau cynilo y llythyrdai oedd 44,503,000p.; yn 1877, yr oedd yn 72,980,000p., yr hyn oedd gynydd o 28,477,000p. Y swm a ddelid gan Gymdeithasau Cyfeillgar, yn 1865, oedd 5,362,000; yn 1874, yr oedd yn 9,038,- OOOp., yr hyn oedd gynydd o 3,676,000p., yn gwneuthur cyfanswm y cynydd yn y bansiau cynilo a Chymdeithasau Cyfeill- I 1 J -1 on 1 I., gar, mewn aeng miyneau, yu 02, no,- OOJp., neu amcan-gyfrif o 3,000,000p. yn y flwyddyn. Ond, meddai y Proffes- wr, y mae rhan fawr o'r swm sydd dros ben yn cael eu gwario mewn treuliau gormodol ar fwyta, yfed, ac ysmygu. Nid mewn un gwlad arall, meddai efe, y mae y cyflogau mor haelionus, nac mewn un gwlad arall y maent yn cael eu gwario mor wastraffus. Yr oedd y treuliad, y pen, a'r nwyddau atglud- iadol, yn y blynyddoedd 1866 a 1867, yn dangos cynydd mawr yn y flwyddyn olaf. Yn 1866, y cantoll ar facwn a ham a dreulid y pen oedd 2-13; yn 1877, yr oedd yn 8'04, yn dangos cynydd o 227. Yr oedd gwenith a blawd gwenith (lbs.), yn 1866, yn 104-50 yn 1877, yr oedd yn 203-26, yn dangos cynydd o 94. Ac felly yn y blaen, mewn cyfartaledd, gyda nwyddau megys siwgr, te, gwirod- ydd, a brag. Y rhifedi o dlo don plwyf- ol, yn derbyn cynorthwy ar y laf o Ionawr, 1878, yn Lloegr a Chymru, oedd 742,703; yn Ysgotland, yn Mai y 14eg, 1877, 96,404; ac yn yr Iwerddon, yn yr wythnos gyntaf yn Ionawr, i 878, 85,530, yn gwneyd cyfanswm o 924,437. Dyna yw barn y Proffeswr LEVI am sefyllfa ein gwlad yn bresenol, sef nad yw yr amser un mymryn gwaeth yn awr na'r blynyddoedd sydd wedi pasio, a chymeryd pob peth gyda'u gilydd o dan ystyriaeth. Os yw y cyflogau yn is yn awr nag oeddynt, fod pob math o ym- borth yn is yn gyferbyniol a hynv ac y gall dyn, y mae yn debyg, wneyd cy- maint o 15s. yn awr ag a allai o 20s. y pryd hwnw; ac fod mwy o arian yn y banciau cynilo, &c., gan y dosbarth gweithgar y blynyddoedd diweddaf hyn nag oedd yn y blynyddoedd blaenorol. Wel, fe ddichon hyn fod. Y mae, wedi y cwbl, rhyw ddirgelwch yn bod, canys nis gall neb wadu nad oes mwy o wasgfa yn bodoli eleni nag y mae yr hynaf ohonom yn gofio. Pa fodd, ynte, y mae cysoni ystadegau ac agwedd pethau yn bresenol ?
Trysorfa Gynorthwyol Barhaol…
Trysorfa Gynorthwyol Barhaol Glowyr. Gwelsom mewn dyddiolyn am y 5ed cyfisol, fod math o gynllun ar droed yny Midlands tuag at ffurfio trysorfa gynorthwyol barhaol i lowyr. Un rhan o'r cynllun hwn ydyw gosod toll o un geiniog y dunell ar y glo, a chan ei bod yn debygol y syrth hyn ar y sawl a losgant y glo, y mae yn gofyn ystyr- iaeth.
Dyn wedi tagu yn Mountain…
Dyn wedi tagu yn Mountain Ash. Dydd Mawrth, y 4ydd cyfisol, fel yr oedd Alexander Clayton, 45 mlwydd oed, dilled- ydd, 5, Seymour-street, Mountain Ash, yn ciniawa tra o dan effaith yfed, glynodd darn o gig yn ei lwne, a chyn i gymhorth meddyg- 01 ddyfod bu farw, er i bob ymdrech i gael ei wneyd i achub ei fywyd gan y Sawl oeddent yn y ty,
Glofa Aberdar-Merthyr, Hirwain.
Glofa Aberdar-Merthyr, Hirwain. Mae gweithwyr glofa Aberdar-Merthyr, Hirwain, wedi dechreu ail weithio, ar ol bod allan am fwy na mis o amser. Y mae y si allan fod un o'r swyddogion i ymadael, a bod boneddwr o Lundain i gymeryd ei le ef yn y lofa.
MASNACH LO DEHEUDIR GYMRU.
MASNACH LO DEHEUDIR GYMRU. CYFARFOD Y MEISTRI GLO A DIR- PRWYWYR Y GWEITHWYR YN NGHAERDYDD. Dydd Llun diweddaf, yn y Royal Hotel, Caerdydd, cynaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Sliding Scale Oymdeithas Glofeydd sir Fynwy a Deheudir Cymru, o dan lywyddiaeth Mr. D. Davis, Blaengwawr. Yr aelodau perth- ynol i'r Gymdeithas yn bresenol oedd- ynt Mr. W. S. Cartwright, Mr. Menelaus, Mr. Lewis, a Mr. Alexander Dalziel, ysgrif- enydd. Dirprwywyr y gweithwyr oeddynt Mr Abraham, Mr. Halliday, Mr. S. Davies, Mr. Prosser, Mr. J. Lewis, a Mr. Andrews, ysgrifenydd y gweithwyr. Dyben y cyfarfod ydoedd gosod gerbron y gweithwyr fynegiad haner-blynyddol yr auditors, trwy ba un yr ymddengys fod pris y glo yn parhau i gwympo, a bod yn rhaid parhau ar y radd iselaf (minimum, scale) o enillion. Yr oedd y gweithrediadau yn dra chyfrinachol ond hysbysodd un ag ydoedd yn bresenol i'r cad- eirydd osod gerbron dirprwywyr y gweithwyr sefyllfa bresenol masnach y glo, a chyfeiriodd at yr amgylchiad fod mewn un enghraifffc ostyngiad o 10 yn y cant yn enillion y glowyr wedi cael ei dderbyn, ac fod rhybudd am ostyngiad wedi cael ei roddi gan rai meistri ereill. Gwasgai ar ddirprwywyr y gweith- wyr y dymunoldeb iddynt eto osod o flaen y glowyr a gynrychiolent y manteision o iddynt gydsynio ag ail-lunio trefniad presenol y Sliding Scale, fel ag i ddwyn oddiamgylch os- tyngiad yn yr enillion cyn yr amser penodedig trwy eu rhybuddion i derfynu y dyfarniad (award), a thrwy hyny barhau trefniadau y Slidwtg Scale bresenol ar ol Mehefin nesaf. Addawodd y clirprwywyr osod yr achos o flaen y gweithwyr, ac i wneyd hysbysiad am hyny i gyfarfod arall a gynelir yn fuan o Bwyllgor y Sliding Scale. Yr oeddis yn go- geithio yr arosai Mr. Halliday i ddarbwyllo y gweithwyr; ond yr oedd ef yn rhwym o ddychwelyd yn ol y prydnawn hwnw i Man- chester. CYFARFOD 0 LOWYR CWMPEINI POWELL DYFFRYN. Ymgynullodd gweithwyr Owmpeini Powell .Y Dyffryn ar ben eu gwahanol byllau boreu dydd Llun, a chytunwyd i gynal cyfarfod cyffredinol (mass meeting) ar y Gasworks' Tips, Aberaman, am un o'r gloch. Ar yr amser apwyntiedig, daeth yn nghyd tua 1,500 o'r gweithwyr. Etholwyd Mr. Thomas Thomas i'r gadair, yr hwn a alwodd ar gynrychiolydd o bob pwll i fynegu beth oedd golygiadau y glowyr yn y gwahanol lofeydd. Dywedodd pawb ohonynt mai barn y gweith- wyr ydoedd fod y rhybuddion i ddybenu y cytundebau yn annghyfreithlawn, ac mai eu dyledswydd hwy oedd eu gwrthod. Yn y diwedd penderfynwyd fod dirprwyaeth ben- odol i fyned at y lly wodraethwr er cael eglur- had ar y rhybuddion. Yna gohiriwyd y eyf- arfod hyd 4 o'r gloch, er mwyn cael yr atebiad. Cyfarfyddwyd eilwaith am bedwar o'r gloch, pan yr hysbysodd y dirprwywyr nad oedd yr ateb wedi dyfod i law, a phender- fynodd y cyfarfod nad oeddynt hwy i ddechreu gweithio hyd nes y cawsent ateb. Hefyd, cytunwyd yn unfrydol ar y penderfyniad canlynol Fod y cyfarfod hwn o'r farn, os ydyw perchenogion y glofeydd yn teimlo effaith marweidd-dra masnach, ein bod ni, weithwyr, mewn gwaeth sefyllfa na hwynt, ac o ganlyniad nid ydym ni mewn sefyllfa idd eu cynorthwyo. Teimlwn hefyd ei bod yn ddyledswydd arnorq^i fynu deall pa beth yw yr achos o farweidd-dra presenol masnach ac yr ydym yma yn awgrymu fod cynadledd i gael ei chynal yn Nghaerdydd o holl feistri gwaith sir Fynwy a Deheudir Cymru, yn nghyd a dirprwywr o bob pwll, er mwyn ystyried yr achos, ac i geisio trefnu mesurau, os ydyw yn bosibl, er symud ymaith y cyfryw achos. Mewn canlyniad i'r annealldwriaeth a fodolai rhwng gweithwyr Powell Dyffryn a'u Cwmni, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus o'r glowyr a weithiai yn Aberaman a'r cylchoedd ger y Gas Works, dydd Mawrth diweddaf, dan lywydd- iaeth Mr. T. Thomas (Gwron Dar). Yr oedd yn bresenol Mri. J. Prosser a S. Davies, cynrych- iolwyr y glowyr, pa rai a roddasant eu barn a; y pwnc. Etholwyd Mri. Prosser a Davies i ym- weled a Mr. Llewelyn, goruchwyliwr Cwmni Powell Dyftryn, er cyflwyno iddo y telerau yn ol pa rai yr ymfoddlonai y gweithwyr i weithio arnynt, a chan na allai efe roddi atebiad iddynt y pryd hwnw, penderfynwyd cynal cyfarfod am wyth o'r gloch yr un noson yn y Lamb & Flag Inn, i dderbyn atebiad y cwmni.
Tanchwa y Dinas.
Tanchwa y Dinas. Mae gweithrediadau yr archwilwyr dswr- ion yn parhau i fyned yn mlaen yn llwydd ianus ac er fod genym y gorchwyl dymuno o hysbysu fod yr archwilwyr wedi llwyddo i wneyd tramwyfa agored rhwng y ddau bwll y mae yn flin iawn genym orfod dweyd nad ydys, hyd yn hyn, wedi gallu cyrhaedd neb o gyrff y trueiniaid a gollasant eu bywydau yn y lofa. Dau o'r enw Wm. Sam well a John Morley a gant yr anrhydedd o fod â'\j henwau fel y rhai cyntaf a agorasant y ffordd ac a aethant trwy y cyfryw agoriad o'r down- cast i'r upcast pit; ond yr oedd y fat1.! ogwyddfa ynddo fel mai cael eu tynu i fyny wrth raffau a gawsant o'r downcast i'r upcast pit. Ystyrir, bellach, y bydd yr awyr yi tramwy o un pwll i'r llall; o ganlyniad, galluogir yr archwilwyr i wthio eu ffordd yn llawer yn gynt a mwy diberygl. Cawsant afael ar rai o gyrff y ceffylau meirwon. Ei pob gofal a medr a ddangosir, gorfodir y gweithwyr yn ami i droi ymaith, oherwydc mynych gwympiadau, a chrynhoad nwy fel canlyniad o'r cyfryw syrthiadau.
LLBFRUDDIAETH YN LLANELLI.
LLBFRUDDIAETH YN LLANELLI. MAM YN LLADD EI BABAN. Prydn iwn dydd Mawrth, y 4ydd cyfisol, of laliwyd trengholiad o flaen Mr. Rowlands, t engholydd, yn y Stepney Arms Hotel, Llanelli, ar gorff Florence Howells, merch Cabden Howells, Llanelli. Mr. William Howell, cyfreithiwr, a ymddangosai ar ran Mrs. Howells. Y boneddigion canlynol oeddynt y rlleitb wyr: -John Jones (blaenor), David James, E. Colliner, R. C. Jenkins, Thomas Jones, David Evans, J. F. Young, J. Pitt, E. Auckland, F. Anthony, D. Davies, J. Harris, a John Thomas. Y tyst cyntaf a alwyd oedd Margaret Williams (merch Ebenezer Williams, New Dock, Llan- elli), yr hon sydd wedi bod yn ngwasanaeth Mrs. Howells am y ddau fis diweddaf. Dy- wedodd y tyst Y mae Cadben Howells oddicartref yn bresenol—y mae ar y mor er's tair wythnos, Dydd Sul (yr 2il cyfisol), codais am chwarter wedi wyth o'r gloch i wneyd gwaith y tf. Gadewais fy meistres a'r baban yn y gwely. Yr oeddwn wedi bod yn cydgysgu a hi. Ni ynganodd air pan y codais-ac yr oedd y baban yn ddihun. Aethum yn ol i'r ystafell wely am 9 o'r gloch i gyneu y tan, a phan y cyrhaeddais ben y grisiau (landing) galwodd fy meistres arnaf, Margaret, yr wyf wedi ei wneyd yn awr, yr wyf wedi ei wneyd yn awr Gofynais iddi pa beth yr oedd hi wedi ei wneyd. Atebodd hithau, Yr wyf wedi lladd y baban. Clym- aia ribbon o amgylch ei wddf." Aethutri i edrych ar y baban, a gwelais ribbon o amgylch i'w wddf, ac yr oedd y plentyn yn ymddangos wedi marw. Yr oedd fy meistres yn wylo, ond ni ddywedal un gair. Yna, aethum i ymofyn Mrs. Cox ydoedd yn byw y drws I nesaf; dychwelais, a daeth Mrs. Cox yn union i'r ty ar fy ol. Cydiodd Mrs. Cox yn y baban a thynodd y ribbon ymaith oddiar ei I wddf, a cheisiodd genyf i ddyfod a dwfr twym iddi. Deuais a'r dwfr iddi mewn padell, a hi a'm danfonodd i geisio Dr. Buckley. Cyrhaeddodd ef y ty o fy mlaen i. Deuais i wasanaethu yma ar ddydd Sadwrn, a gwelywyd Mrs. Howells dranoeth. Dr. Buckley a weinyddai arni. Yr oeddwn yn ei gweled hi bob dydd a deuai yn mlaen yn dda yn ystod y pythefnos cyntaf, ac yna, gwaethygodd, ac y mae wedi parhau felly hyd yn hyn. Yr wyf wedi siarad a hi bob dydd ond ni ymddangosai ei bod hi yn deall yr hyn a ddywedwn. Pan sychodd ei llaeth yr aeth hi yn glaf. Am ysbaid oddeutu mis ni ymddangosai ei bod hi yn gwybod am beth y siaradai, ond yr oedd yn well yr wyth- nos ddiweddaf. Yr oedd yn arfer dyfod i lawr y grisiau. Arferai eistedd, ond nid oedd yn cerdded llawer o amgylch. Arferai siarad Ilawer a ni, ac wrthi ei hun, ond nis gallasem bob amser ddeall yr hyn a ddywedai. Yr oedd hi ei hun yn arfer magu y baban. Ni ymddangosai yn ofidus pan yr aeth ei gwr oddicartref, ac ni waethygodd wedi iddo ym- adael. Yr oedd hi, y pryd hyny, yn nh £ ei thad, yn Marine street. Bu yno am fis, a dychwelodd i Mina-street, dydd Iau diwedd- af ac oddiar y dychwelodd yr wyf fi wedi cydgysgu a hi, ac nid wyf wedi sylwi dim neillduol arni. Ymddangosai yn hoff o'i gwr a'r plentyn. Oedran y plentyn oedd dau fis y Sul diweddaf." Croes-holwyd y tyst gan Mr. Howells Cydgysgais a hi nos Iau, oherwydd iddi ofyn i mi am gysgu gyda hi. Mr. Clement, ei thad, a ddywedodd wrthyf fy mod i gydgysgu a hi. Ni ddywedodd paham. Fy meistres, hefyd, a ofynodd i mi i gydgysgu a hi. Cysgodd Mr. Clement yno bob nos oddiar y dychwelodd hi i Mina- street. Nis gwn beth oedd y rheswm ei fod ef yn cysgu yno. Bu y baban gartref gyda mi am wythnos ar ol i meistres fyned i lawr i Marine-street. Y rheswm i'r baban gael ei sidael gyda mi ydoedd oherwydd nas gallasai Mrs. Clement ofalu am dano, a bod fy meistres yn rhy wael ar y pryd, yr hyn, feddyliwyf, ydyw fod ei meddwl hi yn anhwylu3." Ni chaniata ein gofod i ni i roddi yn gyflawn dystiolaeth y forwyn am ei meistres anhapus. Cadarnhawyd tystiolaeth y forwyn gan Mrs. Cox (drws nesaf iddynt), yr hon a dystiol- aethai ei fod yn siarad cyhoeddus fod Mrs. Howells allan o'i phwyll cadarnhawyd hyn yn mhellach gan y meddyg a weinyddodd arni, sef Dr. Buckley. Dychwelodd y rheith- wyr y rheithfarn o "Lofruddiaeth Wirfodd- ol yn erbyn mam y baban. Mae yr am- gylchiad torcalonus wedi creu y teimlad I mwyaf gofidus, ac amlygir y cydymdeimlad d »vysaf a'r fam annedwydd, Mrs. Howells, yr h .ii a gerid yn fawr yn mhob man am ei cfialon-dynerwch a'i hymarweddiad serchog. tlvwedodd y trengholydd, or nad oedd un a aheuaeth nad oedd y fam yn orphwyllog, fod y rheithwyr yn rhwym o ddychwelyd y rheithfarn "Lofruddiaeth Wirfoddol." Yn canlyn i hyn, traddododd yr ynadon hi i aros ei phrawf, gan amlygu cydymdeimlad dwysaf a'r wraig druenus. Deallwn fod apeliad ar ei rhan i gael ei wneyd at yr Ysgrifenydd Cartrefol.
Methiant Ariandy yn Helstone.
Methiant Ariandy yn Helstone. Y mae Mri. Vivian, Grylls, a Kendwall, o'r Union Bank, Helstone, wedi atal taliadau oddiar boreu dydd Mawrth. Y maent wedi mfon cylch-lythyr allan ond heb rhoddi un rheswm am y methiant. Dywedant y bydd y llyfrau yn cael eu gosod yn nwylaw yr accountants yn union, a bydd cyfarfod o'r gofynwvr i gael ei gynal mor fuan ag y byddo bosibl. Dywedir fod swm y dyledion yn dyfod i 90,000p. ac y mae'r meddianau yn dyfod i tua 70,000p. gan hyny, byddy gofyn- wyr yn erfyn tua 15s. yn y bunt. Achosodd methiant y Cornish Bank, y dydd o'r blaen, rhedeg mawr ar yr ariandy hwn.
MAS WOLAETHA U.
MAS WOLAETHA U. Chwefror y 3ydd, Winifred Mary, merch Mr. H. W. Southey, Swyddfa'r Express, Merthyr, yn flwydd a haner oed.
Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwcb…
Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwcb yr hyn sydd Wir. GWILYM E QUININE. BITTEKS. NED VEGETABLE TONIC. YN nhywydd oer a gwlyb y i^auaf pan fyddopy corlf egwan a'r galon yn ilwfrhau trwy WEN- DID COBPFOROL o unrhyw fath, neu Otidiau y meddwl, dymunein ar bawl, i drio v FEDDYGIN- TAETH ARDDERCHOG hon Gofaler ofyn am "QUI NINE BITTERS GWILYM EVANS," mewn potelau 2s. 9s., neu 4s. 6c., ac nid Quinine Powders neu rhyw Quinine Mixture o eiddo y druggist ei hun. Ar werth yn mhob tref. Rhoddwn yma Dystiol- aethau a dderbyniwyd yr wythnos hon. Nid yd- yw y perchenog yn eu hadnabod yn bersonol, ond cred eu bod yn ddynion parchus yn eu hardaloedd eu hunuiin. Gellir cael manylion pallach oddiwrth- ynt hwy, os bydd angen 5, Dolrhedyn Terrace, Tanvgrisiau, Ffestiniog, Gogledd Cvmru, Mehefin 26ain, 1878. ANWYL STU,—Yr wyf wedi ca,el fy llwyr well- hau wedi bod yn dyoddef poenau annesgrifiadwy y fHffvg treuliad am bymtheg mlynedd. Gan fy mod wedi gwneyd prawf ar hob meddyglyn y clywais son am dano, yr oeddwn wedi llwyr gredu nas cawn esmwytlulri byth, ond cymhellwyd fi i dreio, feldyfais diweddaf, eich Quinine Bitters. Yr oeddwn yn cael fy mlino gan boenau angherddol rhwng fy ysgwyddau, yn fy mrest, yn fy mhen, ac yn taflu i fyny rhyw ffiadredd glydiog. chwerw, melynwyrdd, rhy wrthwynebus i'w ddesgrifio. Iselder ysbryd a diffyg ymborth oeddent elynion parbaus. Cefais fy llwyr wellhau trwy gymeryd eich Quinine Bitters chwi, ac vr ydwyf yn llwyr gredu eu bod wedi symud ymaith hadau iy afiech- yd. Buaswn yn vsgrifenu yn gynt, ond yr oeddwn am brofi fod y gwellia.nt yn barhaus, ac nid dres ryw ychydig amser. Cymerais ddwy botel 28. 9c., ac un 4a. 6c.—Yr eiddoch yn liynud ddiolchgar, ELLIS JONES (Amos Hebog). Yorath Terrace, Greenhil!, Abertawe. ANWYL SYR -13yddwch cy?tal a derbyn fy niolchgarwch gwre.ocaf am yr effaith mawr a ga'dd y Quinine Bitters arnaf. Yr wyf -uedi bod yn wael—mor waeled fel yr oedd fy mherthvnasau agwsaf wedi rhoddi fyny pob gobaitt. Bu'm yn gweithio mewn llawer iawn o sulphur, ac yr oedd hwnw wedi lladd fy ystumog. Yr oedd fy anadl yn boenus o gyfyng, a gallesid fy nghlywed yn anadlu o bellder. Nis gallaswn fyned allan dros y drw* gan wendid. na symud fy llaw ddeheu at fy mhen. Yr oedd dau o fy nghyJwejthwyr wedi eu claddu yn ddiweddar o'r un dolur. Bum inau yn y tj dros dair wythno? dan driniaeth meddyg, ond gwaelu bob dydd, nes yr < eddwn wedi gwneyd i fyny fy meddwl mai marw oedd rhaid i minau. Y pryd hwn y galwodd cvMll anwyl i mi, a gwasg. odd arnaf i gymeryd eich Quinine Bitters chwi. Cymerais dair potelaid 4s. 6c., ac un box o'ch pills chwi. Yr ydwyf wedi ca.el iachad ac yn dechreu gweithio. Yr wyf fi a fy ngwraig a llawer o'm cymydogion yma yn credu y bv aswn mewn bedd heddyw, oni buasai eich meddyginiaeth cbwi. Nis gallwn egluro maint ein diolchgarwch.—Yr eidd- och yn barchus, WILLIAM RICHARDS. DEAR SIR,I have much pleasure in bearing testimony to the high opinion I entertain of your Quinine Bitters. I have used it extensively whilst travelling through the tropics, and always with tmost happy results. I consider it a very reliabi ■ remedy in debility, especially of the di- gestive organs, and can cordially recommend it as an invaluable medicine. ANEURIN JENKINS, ,-d. R. M. R. C.S. L., M. R. C.P.E. S. S. TENIERS, Rio de Janeiro, South Ariferica, Feb. 10th, 1877. Nanclwyd Lime Works, Llancleddau, Ruthin, -Mehefiii 29ain, 1878. SYR Yr wyf wedi bod er's misoedd, bellach, yn cael fy mlino gan boen yn fy mrest a chur yn fy mhen, nes oeddwn yn d'galon i i fyned at fv ngwaith. Treiais lawer o gynghorion, ond y cwbl yn ofer. Cymerais ddwy botelaid o'ch moddion, ac yr ydwyf wedi gwella yn gampus. Erfynaf ar bawb o'm cyfeillion anwyl sydd yn dyoddef oddi- wrth y fath anhwylderau i dreio y Quinine Bitters. -Yr eiddoch Jon gywir, GRIFFITH HUGHES. Trecynon, Aberdare, June 26th. DEAR SIR,—I have' been suffering from a very bad -wrist—having three holes in it. I procured two bottles of your Quinine Bitters from Mr. Williams, Chemist, Aberdare, which completely cuied me. Without any superfluous remarks, I may sav that I did not fail to follow my usual work for a single day while taking it, and I am prepared to give further particulars of this extra- ordinary medicine on being applied to by anyone anxious about the stat- of their health.—I remain, yours faithfully, DAVID DAVIES, Butcher. To Mr. Gwilym Evans. QUININE BITTERS. Fy N GHYDWLADWYB,- Y r wyf er's rhai blynydd- oedd, bellach, wedibodynyrarferiadogymeradwyo y "Quinine Bitters" i ddynion yn dyoddef dan amrywiol anhwyllleran, ac y mae yn dda genyf allu hysbysufymodwedieigaelynateb fynysgwyl- iadau yn mhob achos, i raddau pell iawn. Yr wyf wedi cael mantais, nid yn unigi weled ei ddylanwad daionua ar ereill, ond hefyd i'w deimlo fy hunan. Oddiar ymbrawf hir a theg ohono, yr wyf yn y modd mwyaf di-hryder a chydwybodol, yn ei gymeradwyo i'r cyhoedd, fel cymysgedd llysieuol ragorol. Y mae yn gymysgedd o ddarpariaethau o'r llysiau goreu. Cynghorwn ddynion gweir iaid mall-dreulio, isel ysbryd, &c., yn nghyd a'r rhai yn cael eu blino gan darddiadau ac anmhuredd gwaed, i wneyd defnydd amserol ohono, yn en- wedig yn yr Hydref a'r Gwacwyn.—Yr eiddoch, yn hoffus, &c., J- ROWLAND. Carmel Hall, Awst lOfed, 1878. Llundain, Medi laf, 187& Mr. Gwilym Evans. ANWYL SYR,—M!).e yn dda genyf ddwyn tystiol- iaeth i rinwedd eich darpariaeth ragorol, y QUI- NINE BITTERS, trwy yr hwn yr ydwyf wedi derby- lleshad mawr yn iy nhaith faith a'm llafur par- haus am bedwar mis—teithio a phregethu tiraidd bob dydd, ac yn ami ddwy a thair gwaith y dydd. Yr ydwyf yn hynod ddiolchgar am y lies a gefais, ac os caf y fraint o gyrhaedd cartref, bydd yn dda genyf ei recctmendo i ereill, yn gystal a gwneyd defnydd ohono i fy hun a'm teulu. Ystyriwyf eich bod yn gvmwynaswr mawr dynoliaeth yn y darganfyddiad hwn. Ewch rhagoch-llwyddiant parhaus, ac oes hir o ddt fnyddioldeb. Meddyliaf Fyned i Paris heno. Serch calon atoch, gyda diolchgarwch eto.—Ydwyf, yr eiddoch, DAVID HARRIES, 7462, W. Hamson-street, Chicago, U.S.A., Gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd.