Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

wedi ei gychwyn hyd yma wedi troi yn feth- iant hollol; o ganlyniad, rhaid i'r byd Cym- reig wrth gyfundrefn newydd. Gall y Cymry fel cenedl, yn annibynol ar genedloedd ereill, osod i lawr sylfaen cymdeithas barhaol a phrawf o'r gosodiad ydyw, fod mwy o gym- deithasau dyngarol ac elusenol yn mhlith y Cymry nag un genedl arall. Gormod o duedd sydd ynom i redeg a neidio ar ol adar o wled- ydd estronol, a thrwy hyny annghofio cartref, a chael ein hunain mewn tribynu a gofid, a'r diwedd yn fil gwaeth na'r dechreuad o'r hyn lleiaf, dyna fy mhrofiad i yn y byd. 2. Dylai eynildeb fod yn brif arwyddair y gymdeithas, am fod y swllt a gynilir yn gystal a'r un a gyfrenir. Bwriwn fod yn Morganwg, Mynwy, a Myrddin gan' mil o weithwyr, a phob un i gyfranu swllt y mia am y tymhor o chwech mis, byddai y cyfanswm yn ddeg mil ar hugain o bunau. Byddai hyny yn ddigon o ari; n i gludo cant a haner o deuluoedd yn gysurus i un o ddyffrynoedd ffrwythlawn y Gorllewin. Cyn cychwyn, bydd yn ofynol gwneyd y trefniadau yn rbeolaidd, er mwyn cysur a iechyd yr ymsefydlwyr. Credwyf y byddai dyffrynoedd y Gorllewin yn ateb y Cymry yn well na'r gwastad-diroedd agored, am fod dyffrynoedd a mynyddoedd yn fwy cydnaws ag anianawd y Cymrn. Gwn am lawer o Gymry yn yr Amerig ag sydd yn bared i roddi cyfarwyddiadau a phob cynorth- wy ar a allont i sefydlwyr newydd o'r Hen Wlad. Byddai yn ffolineb o'r mwyaf i feddwl am symud minteioedd mawrion i'r talaethau dwyreiniol, am fod y cyfryw yn orlawn o bob math o weithwyr, a llawer mwy, yn ol pob hanes, nag sydd yn alluog i gael gwaith rheol- aidd a chyson. Mae nifer luosocaf gweithwyr Cymru heddyw yn ddynion ag sydd wedi eu magu ar ftermydd yn y wlad, a byddai yn llawer hawddach i'r cyfryw gofio na dysgu. Dywed llawer o hen gyfeillion a fu gynt yn tori glo yn Morganwg, fod amaethu yn y Gorllewin mor hawdd iddynt ag ydoedd tori glo yn v Cwmbach. Nid yw yn debyg y bydd pawb yn cydweled a mi ar y pwnc o ymfudo, ond eto fe all fod miloedd a hoffai symud, a byddent, wrth hyny, yn gwella eu sefyllfaoedd tymhorol, a gadael y sawl fyddo ar ol mewn gwell ffordd i ofyn am ychwaneg o gyflog. Mae gwahanol genedloedd y Cyfan- dir yn gallu symud wrth y canoedd, a phaham nad all y Cymry wneyd yr un modd. Nid wyf yn credu yr enilla Cymry lawer wrth ymuno a chwmniau cyfyngedig, am fod treul- iau y cyfryw beirianau yn llawer mwy na'r lies cyffredinol i'r werin. Mae yn bosibl i finteioedd o ddeg-ar-ugain, deugain, ac yn y blaen deithio yn llawer rhatach na phersonau unigol, a chan fod genyf wybodaeth ymarferol o'r pwnc dan sylw, mae yn sicr na raid i neb ofni cael ei gamarwain yn fwriadol. Gan fod cyfraith y Cartref Rhad yn parhau mewn grym, a breichiau y Weriniaeth fawr yn agored i roesawu hiliogaeth yr hen Frytan- iaid, mae ilwyddiant yn sicr, o dan fendith a gofal Rhagluniaeth. Trwy gydymuniad a ffyddlondeb teilwng o'r genedl, mae yn bosibl sefydlu Cymru Newydd yn nyffrynoedd y Gorllewin. Nid yw y rhwyatrau ar ffordd sefydlwyr yn bresenol ag ydoedd chwarter canrif yn ol, am fod rheilffyfdd wedi cael eu gwneyd braidd i bob cyfeirtad. fel nad oes ond deugain neu haner can' milldir gan y sefydlwyr pellaf cyn cyrhaedd tref farchnadol a gorsaf rheilffordd. Odid nad yw y GWLAD- GARWR yn myned i swyddfay Drych yn Utica a'r Wang yn Pittsburgh, a chredwyf nad gor- mod y cais ydyw gofyn am ychydig o gyfar- wyddiadau pa fodd i weithredu gyda golwg ar sicrhau darn o'r wlad i fed yn eiddo y Cymry. Pe gellid dechreu ar y gorchwyl o symud ychydig ugeiniau o deuluoedd o'r wlad, dyna yr unig gyfrwng i ddwyn pendefigion y glo- feydd ac arglwyddi tirol Prydain i deimlo y pwys a'r golled o golli dinasyddion heddych- ol, diwyd, a gweithgar. Mae safon gwerth bywydau y dosbarth gweithiol wedi myned yn rhy isel yn ngolwg uchel-wyr ein gwlad, a dim ond gwaghau ychydig ar farchnad llafur, dygai hyny y mwyaf anystyriol ohonynt i feddwl ac ystyried fod y dosbarth gweithiol yn gymaint o anu yn y wlad fel nas gellir ei heogor. Dywed Arglwydd Derby mai caerau cadarnaf Prydain Fawr ydyw ei dinasyddion heddychol, diwyd, a gweithgar a phwy all amheu sylwadau fel yr uchod o eiddo gwlad- weinydd o safle Derby 1 Mae llawer o fon- eddigion ein gwlad yn teimlo yr un ffordd a Derby, ond ni fynant gydnabod hyny yn gyhoeddus, rhag iddynt fod yn achos o gyffro yn mhlith y bobl. Gadawaf y pwnc yn awr gyda nodiad neu ddau yn mhellach am bethau ag sydd yn bosibl eu gwneyd, os cychwynir symudiado'r fath. Mae gwahanol genedloedd, megys y Germani.iid a'r Italiaid, y Menoniaid a'r Mormoniaid o bob cenedl a dosbarth, yn cael teithio yn rhatach dros for a thir na phobl gyffredin sydd yn myned fel y gallont. Gor- wedd y dirgelwch hwn yn yr achos fod cyn- lluniau y bobl uchod yn wahanol i'r eiddom ni y Cymry. Dylai y cytundeb gael ei wneyd er llasiant uniongyrchol yrymfudwyr, achan y gellir sefyll rhyw gymaint i bob un, byddai hyny yn ychwanegu y cynorthwy wedi cyr- haedd pen y daith. Er cael trefn, byddai yn ddoethineb ysgrifenu at Lywodraethwr Tal- aeth Nebraska, nou ryw dalaethau ereill yn yr Undeb Americanaidd, a chael, trwy hyny, gefnogaeth ac amddiffyniad y llywodraeth gyffredinol yn gystal a'r dalaethol. Rhaid i sefydlwyr o dan nawdd cyfraith y Cartref Rhad ddatgan eu bwriadau o sefydlu trwy wneyd yr ymrwymiadau a ofynir yn ol y gyfraith, er meddianu hawliau dinasyddion rheolaidd, fel pawb ereill o drigolion y wlad. Gall nad yw fy nodion yn ddigon cyflawn fel atebiad i gais Caswallea, ac os nad ydynt, anfe ned eto, a gwnaf fy ngoreu i wasaoaethu fy ngwlad a'm cenedl yn y cyfeiriad hwn.- Yr eiddoeh, CYMRO GWYLLT. Llynlleifiad, Chwef. 7fed, 1879.

EISTEDDFOD CWMOGWY.

EISTEDDFOD Y GORDOFIGION,…

AT LOWYR A GWEITHWYR EREILL…

NODIADAU 0 L'ERPWL.

Llofruddiaeth Baimercross.

[No title]

Advertising