Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
[No title]
CANEUON Y GWYNFYDAU sef nifer o ddarn- au at wasanaeth yr Ysgol Sul, yn nodiant y Sol-ffa. Y farddoniaeth gan Mynyddog, a'r gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans. Cyhoeddedig gan T. Jones, Treherbert. Pris 4c. Cynwysa y gyfrol fechan hon ddeg o ddarnau. Y geiriau wedi eu dethol o'r burned benod o Matthew, sef pregeth Crist ar y mynydd ac y mae y gerddoriaeth sydd arnynt yn hynod dlws a tharawiadol. Darn- au by chain swynol iawn yw Y tlodion yn yr ysbryd," "Dysgwn wir addfwynder," tri- awd Gwyn fyd y tangnefeddwyr," a Byd o erlidiadau," &e. Y mae y cyhoeddwr yn eu cyhoeddi at wasanaeth yr Ysgol Sul, ond byddant yn fwy neillduol at wasanaeth cyf- arfodydd mewn cysylltiad a'r Yagol Sabothol. Mae yr unawdau, y deuawdau, &c., sydd yn rhai o'r darnau yn eu gwneuthur, braidd, yn annefnyddiol at y cyfryw amgylchiad yn uniongyrchol. Cerddoriaeth ag y gall corff o gantorion ganu yn syml a dirodres sydd yn angenrheidiol at wasanaeth yr Ysgol Sul. Ond y mae y gyfrol fechan dan sylw yn deilwng o gymeradwyaeth uchel. Y mae gwreiddioldeb, freshness, a melodedd y gerdd- oriaeth, yn nghyd a natur y geiriau, yn deilwng o sylw cyffredinol. Hefyd, hyderwn y ca dderbyniad croesawgar gan yr Ysgolion Sabothol a'r Bands of Mope trwy y wlad yn gyffredinol.
ABERDAR.
ABERDAR. DAMWAIN ANGEUOL.-Dydd Iau diweddaf, tra yr oedd dyn o'r enw Isaac Williams, 42 oed, yr hwn oedd yn byw yn Seymour-st., wrth ei orchwyl yn un o byllau y Gadlys syrthiodd careg tua thunell o bwysau arno, gan ei ladd yn y man. Yr oedd wedi bod yn aelod am flynyddau lawer gyda'r Methodist- iaid yn Bethania. Gadawodd dau o blant i alaru eu colled ar ei ol. Claddwyd ef dydd Llun canlynol, yn Ngladdfa Gyhoeddus Aber- dar, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. W. James, Bethania. BODDIAD. -Yehydig wedi naw o'r gloch boreu dydd Mercher diweddaf, deuwyd o hyd i gorff Martha Davies, gwraig John Daviea, glowr, Ynyscynon-terrace, Cwmbach, yn y camlas. Nos Fawrth, gwelwyd y fenyw, druan, tra yr oedd mewn cyflwr feddwol, yn dyfod allan o un o dafarndai y lie wedi bod yn ymofyn diod mewn jack din. Y mae yn rhaid eu bod wedi myned allan a cherdded yn union i'r camlas. BETHESDA, ABERNANT.-Nos Lun, Ionawr 20fed, cynaliwyd cyfarfod adroddiadol a cherddorol yn y lie uchod. Llywydd, Mr. William Watkins, arolygwr Glofeydd Aber- nant, gan yr hwn y cafwyd anerchiad agor- iadol tra phwrpasol. Yna, galwyd ar W. Thomas i ganu unawd. Adroddwyd, hefyd, "Gardd Gethsemane" gan Miss Hopkins, Trecynon, nes oedd y gynulleidfa mewn teimlad teilwng o'r testyn a'r amgylchiad yr adroddai am dano-testyn bythgofiadwy gan holl deulu gwaredigol yma ar y ddaear, ac yn Nef y Nefoedd byth bythoedd. Yna, aeth- pwyd yn mlaen at brif waith y cyfarfod, sef preithiad o gantata Joseph (gwaith Hugh Davies) gan gor y lie, dan arweinyddiaeth Mr. W. Thomas. Y deinofiaid oeddynt Thomas Thomas a Mathew Morgan, y ddau o'r lie. Chwareuwyd yr hannonium gan Mr. A. N. James, R.A.M., yr hwn sydd yn teilyngu parch am ei barodrwydd gwastadol i wasan- aethu ar achosion o'r fath ag oedd yma, a rhoddi cynorthwy i achosion gweiniaid, IH; eglwysi ieuainc. Cyflawnwyd holl ran^u gwaith y cyfarfod yn feistrolgar a dylanwadol, a phawb yn myned o'r cyfarfod wrth eu bodd, gan hiraethu am gael cyfarfod o'r fath eto yn fuan. Da genym ddeall fod y cor yn bwriadu dal yn mlaen yn ei amcan clodwiw, a phreithu amryw ereill o gantatau Mr. Hugh Davies. Boed llwyddiant i'w hym- drechion clodwiw, medd- Un oedd yno.
PONTYPRIDD.
PONTYPRIDD. CAPEL SARDIS.-Nos Fercher, Ionawr 21ain, traddodwyd darlith yn y capel uchod gan y Parch. D. Brythonfryn Griffiths, Aberdar, ar Bregethu a Phregethwyr." Cafodd wrandawiad astud ac ymddangos- odd pawb eu bod wedi cael eu llwyr boddloni. Oafwyd cynulleidfa luosog, a darlith rhagor- ol.-Golwbydd.
SCIWEN.
SCIWEN. BODDIAD.-Dydd Sadwrn wythnos i'r di- weddaf, fel yr oedd Hong o'r enw Margaret yn dyfod i fyny hyd Afon Nedd yn llwythog o fwn efydd, gollyngwyd un o'r dwylaw i'r ewch er sicrhau'r rhaff y tu arall i'r afon, ond cyn iddo fyned nemawr o latheni oddiwrth y llong, syrthiodd ar ei ben i'r dyfnder a bodd- odd yn y man. Ni chafwyd ei gorff hyd y prydnawn dydd Llun canlynol, pryd y symudwyd ef i westd £ gerllaw i aros ei gladdu. Perthynai y llong a'r dwylaw i Cornwall.
MOUNTAIN ASH.
MOUNTAIN ASH. UNDEB CANU CYNULLEIDFAOL METHODIST- IAID CALFINAIDD DOSBARTH ABERDAR.—Y mae yn wybyddus, bellach, i ddarllenwyr y GWLADGARWR fod yr undeb dan sylw wedi ei gwneyd yn arferiad i gynal gwyl o'r natur hwn bob blwyddyn. Bwriadant gael cyman- fa eleni eto. Ar gyfer y cymanfaoedd hyn, cynaliant gyfarfodydd rhagbarotoawl (re- hearsals). Nos Iau diweddaf, cynaliasant eu trydydd gyfarfod rhagbarotoawl yn Nghapel y Methodistiaid, Mountain Ash. Llywydd, y Parch. T. C. Phillips (M.C.), Mountain Ash. Arm eiaydd y dosbarth hwn ydyw Mr. Daniel Griffiths, ironmonger, Aberdar. Y noaon hon, canwyd y darnau canlynol: — ft Mi a godaf ac a af at fy nhad (anthem Dr. Parry). "Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel" (cydgan gan J. Thomas), "RhadRas," "Griddfaniad," "Tsalm-don," Presburg," Wele, mae y priodfab yn dyfod" (o Sum y Jiwbili), "Twrgwyn," "Worthy is the Lamb" a'r "Amen" (Handel), Rwy'n gweddio fdrosoch chwi (o Swn y Jiwbili), Gaerwen," ac Alexan- der." Aethant drostynt yn rhagorol o dda ag ystyried mai dyma'r trydydd rehearsal. Yn ystod y cyfarfod, gwnaeth y Parch. W. James, Bethania, Aberdar, sylw buddiol i'r cor-gantorion yn nghanol gwrandawiad astud. Cafwyd, hefyd, byr sylwadau i'r un pwrpas gan y llywydd. Cafwyd cynulleidfa luosog. Yr oedd y corrgantorion wedi dyfod yn nghyd yn bur gryno. Tri chyfarfod rhagbarotoawl gynelir eto cyn y gymanfa-un yn Aber- aman, un yn Nazareth, Aberdar, a'r olaf yn Nghwmbach. Cynelir y gymanfa ar y 26ain o Fai, 1879, pryd y bydd yr enwog a'r galluog Mr. J. Thomas, Llanwrtyd, yn arwain y canu.-Un oedd yno.
RESOLVEN.
RESOLVEN. CYFARFODYDD PREGETHU.—Dydd Sul, y 19eg cyfisol, cynaliwyd cyfarfodydd chwarter- 01 yn Jerusalem, capel yr Annibynwyr, pryd y bu y Parch. W. Jones, Treforis, yn tra- ddodi tair o bregethau galluog iawn. Yr oedd y cyfeillion y Bedyddwyr wedi tori eu hysgol i fyny yn y prydnawn, er myned i'w wrandaw ac y mae yn dda genym allu dweyd fod ysgol yr Annibynwyr yn cael ei thori fyny pan fo cyfarfodydd o'r fath yn cymeryd lie gyda'r Bedyddwyr. Carem yn fawr weled ein brodyr Methodistaidd yn dangos yr un cariad brawdol. Cymerwch yr hint, frodyr. CYFARFOD LLENYDDOL.—Nos Lun, y 20fed cyfisol, cynaliwyd cyfarfod difyrus iawn yn y Clyne. Rhoddodd Mr. Thompson, goruch- wyliwr pyllau y Clyne, fenthyg yr hen Engine Shed i'r perwyl-efe hefyd oedd cadeirydd y cyfarfod. Cymerwyd rhan flaenllaw ynddo gan Mri. Rees Herbert, Evan Phillips, T. W. Morgan, ac amryw foneddigesau ieuanc. Bwriedir cynal rhes o gyfarfodydd yn ystod misoedd y gauaf yn yr un man. Y PARCH. MOSES THOMAS.—Y mae yn dda genym gael ar ddeall fod ein cyfaill yma wedi cael codiad nid bychan, trwy gael ei wahodd i bregethu mewn eglwys Methodist- aidd yn Llundain, am tis. Nis gwyddom enw yr eglwys a roddodd y gwahoddiad, ond gwyddom hyn, na chawsai Mr. Thomas yr an- rhydedd yna, oni b'ai ei fod yn bregethwr poblogaidd iawn. Nid ydym yn cael y pleser o'i wrando yn fynych, ond bob tro ar ol ei glywed yr ydym yn awchus am ei glywed eilwaith. Llwydd iddo fyned yn mlaen yn ei waith da.-Llew Nedd.
ABERDULAIS.
ABERDULAIS. Dydd Llun, lonawr 13eg, cynaliodd yr U Aberdulais Branch of the Neath Young Men's Christian Association," eu gwyl de flynyddol eleni eto fel arferol, yn yr ysgoldy perthynol i'r Eglwys. Daeth yno dorf ar- uthrol yn nghyd, yn enwedig y dosbarth ieuanc, i fwynhau eu hunain o'r danteithion ag oedd wedi eu parotoi ar eu cyfer. Yr ydym yn teimlo yn dra diolchgar i'r bonedd- igesau am eu serchawgrwydd a'u parodrwydd yn gweinyddu arnom. Am wyth o'r gloch cafwyd cyfarfod ardderchog, pryd yr ethol- wyd Mr. A. Hayman, Fferyllydd, Castell- nedd, yn lywydd ynddo a chawsom anerch- iadau campus gan y gweinidogion canlynol: -D. (lower, Tonnau; S. Davies, Sciwen W. Fairhurst, Ystalyfera. Darllenwyd y report o weithrediadau y Branch uchod am y flwyddyn ddiweddaf gan Mr. Stafford, Ynys- ygerwn, ac yr oedd yn hyfrydwch genym glywed am y gwaith mawr y mae wedi ei wneyd mewn amser byr. Canwyd amryw donau yn hynod soniarus o Swn yJubili, dan arweiniad loan Dulais a chwareuwyd ar yr harmonium gan Miss Stafford. Cawsom gyfarfod ardderchog, a phawb yn teimlo wrth eu bodd wrth ymadael, gan ddymuno cael cyfarfod o'r fath yn fuan eto.-T. S.
TREHAFOD.
TREHAFOD. BETHEL.—Yr oedd nos Iau, y 23ain cyfisol, yn noswaith ag a hir ddysgwylwyd gan gor y capel uchod, fel noswaith ag oedd yn ter- fynu blwyddyn o lafur gan y cor a'r arwein- ydd presenol; ac er mwyn cwblhau y flwyddyn yn anrhydeddus, penderfynodd y c6r ymaflyd yn y cantata poblogaidd, The Nativity, er's rhyw dri mis yn ol, gogyfer a'r gwasanaeth grybwylledig, ac y mae yn dda genym allu hysbysu iddynt gwblhau eu gwaith yn anrhydeddus. Cymerwyd y gwa- hanol rhanau i fyny gan Miss E. Jones (Llinos Rhondda), Treorci; Mrs. Jones, ysgolfeistres, Trefforest; Mr. John Evans, yr arweinydd; a Mr. George Evans (Llew Llyfnwy), Maesteg. Cyfeilliwyd gan Mr. D. Rees, Hopkinstown. Yr oil dan arwein- yddiaeth Mr. John Evans, Trehafod. Y mae yn llawen genym weled fod llafur Mr. J. Evans yn cael ei goroni a llwyddiant mawr, ac yr ydym, fel eglwys ac ardal, yn ddyledus iawn iddo am ei ymdrech diflino gyda cherddoriaeth yn y lie, ac yr ydym yn dymuno iddo bob llwyddiant yn ei antur- iaeth glodwiw. Ar ol myned dros y cantawd, cafwyd cerddoriaeth o natur arall gan y personau crybwylledig, yn cael ei gwneyd i fyny o unawdau a deuawdau, &c., ac yn ol ein barn bach ni, canasant yn dda odiaeth. Dechreuwyd gan Mr. Morgan Evan Phillips, Bryn Eirw, trwy ganu "Fresh blooming violets;" cyfeilliwyd gan ei chwaer, Miss Maggie Phillips, yn hynod dda. Cafwyd Awelon Eryri yn dda iawn gan Mri. J. a G. Evans. Canodd Mrs. Jones, Trefforest, Paham mai Dei mor hir yn d'od ?" mor dda fel y gorfuwyd ei gael drachefn, ond yr ydym o'r farn mai ted y rhan hon oedd "0 gartref yr Eryr" (Blodwen) rhwng Llinos Rhondda a Mr. John Evans, y rhai a'i ganodd yn ardderchog. Yr oedd y fath unoliaeth rhyngddynt, a'r nodau uchaf yn cael eu gwneyd mor glir gan y naill fel y llall, fel yr ydym o dan rwymau i ddweyd ei fod yn ganiad gorphenol iawn. Llywydd- wyd gan Mr. John Evans, ysgolfeistr yr Hafod Schools.—Ewyllysivor da.
WAUNARLWYDD.
WAUNARLWYDD. REHEARSAL.—Nos Sadwrn wythnos i'r di- weddaf, yn nghapel Seion, yn y lie uchod, cynaliwyd rehearsal gyntaf Undeb Canu Cynulleidfaol Bedyddwyr Gorllewinbarth Morganwg. Y cadeirydd oedd y Parch. Mr. Davies, gweinidog y lie darllenydd yr hymn- au, Parch. Mr. Harris, Casllwchwr ac ar- weinydd y canu, Mr. Seth P. Jones, Three Crosses Board School. Daeth llawer o ieu- enctyd yn nghyd, yn neillduol o'r rhyw fenyw- aidd ac yr oedd y sopranos, o ganlyniad, yn gorbwyso y lleisiau ereill. Pan ystyriwn mai hon oedd y rehearsal gyntaf, ac nad oedd cyd- ddealldwriaeth rhwng y cantorion a'r arwein- ydd, rhaid cyfaddef fod y canu yn wir dda. Yr oedd yn gyfryw ag sydd yn arwyddo cam1 ardderchog erbyn dydd yr wyl, diwedd mis Mawrth nesaf. Cyn ymadael, penderfynwyd fod y rehearsal' nesaf i'w gynal yn nghapel y Bedyddwyr, Gower Road, nos Sadwrn nesaf ac fod y Parch. Mr. Evans, o'r un lie, i fod yn gadeirydd ac fod Mr. Jones i barhau i arwain y canu yn y rehearsals. Un oedd yno.
TRELYN.
TRELYN. MARWEIDD-DRA MASNACH. — Pur anaml y gwelir unrhyw gofnodion mewn un newydd- iadur o'r lie hwn. Y mae sefyllfa masnach yn yr ardal hon, fel y mae mewn llaweroedd o ardaloedd ereill, wedi myned yn isel iawn -nifer luosog o'n cyd-ardalwyr allan o waith, a'r rhai hyny, lawer ohonynt, na wyddant pa le i droi er cael ychydig ymborth iddynt hwy a'u tealuoedd. Y mae yn ddigon i ddolurio calonau wrth wrando yr hanes am benau teuluoedd yn cerdded y wlad oddi- amgylch i chwilio am ychydig waith, er mwyn cael modd cynaliaeth iddynt bwy a'u teulu- oedd ond ar ol cerdded a cherdded, yn gorfod troi eu gwynebau tua'u cartrefi yn hollol aflwyddianus yn y diwedd. Truenus ydyw meddwl fod dynion sydd a chalonau ganddynt i weithio yn methu a chael gwaith ond dyna fel y mae yma y dyddiau presenol, er gofid i laweroedd. Nid yn unig y mae masnach yn isel ond y mae y gweith- feydd sydd yma yn darfod yn rhwydd. Un ohonynt, lie yr oedd nifer Iluosog yn gweithio, wedi darfod eisoes, sef Gwladys, gwaith y Meistri W. ac E. Beddoe, ac y mae gweith- feydd ereill na wyddis pa mor gynted y dar- fyddant. Felly, y mae yn amlwg fod sef- yllfa fasnachol yr ardal hon wedi myned yn isel iawn.-Ap Gwilym.
CAERFFILI.i
CAERFFILI. MASTBR TOM BARKER.—Dydd Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, oedd dydd mynediad y telynwr ieuanc enwog uchod i'r Royal Academy of Music, Llundain. Arholwyd ef gan Pencerdd Gwalia a Dr. Macfarren, a phasiodd yn anrhydeddus. Ymddengys fod y Saeson yn cymeryd dyddordeb annghy- ffredin yn y llanc rhyfeddol hwn. Cyn ei gychwyniad oddicartref, derbyniodd lythyr oddiwrth yr Anrhydeddus P. Donie, ger York, yn cynwys dau fill pum'-punt, ac yn dymuno pob llwyddiant iddo yn ei efryd- iaeth. Derbynindd, hefyd, alwar aur yn rhodd gan foneddwr yn Ngnaerffili, ar ei ym- adawiad. Dyma esiamplau eto i foneddwyr Cymru i gefnogi talent Gymreig. MARWOLAETH DDISYFYD.—Nos Iau, y 23ain o'r mis hwn, cymerodd marwolaeth sydyn iawn le yn Nglofa Energlyn, Caerffili. Yr oedd Thomas Davies, brodor o Fleurdelis, yn gweithio yn y turn o ddau i ddeg ar yr adeg uchod. Wedi bod yn tyllu yn galed yn ei "dalcen," ymuniawnodd, ac yn y fan efe a syrthiodd i ddram wag oedd tu ol iddo yn gorff marw. Dydd Sadwrn canlynol, cynal- iwyd trengholiad ar y corff o flaen Mr. E. B. Reece, crwner dosbarth Caerdydd, yn y Railway Inn. Tystiodd Dr. Llewelyn, yr hwn oedd wedi gwneyd ymchwiliad (post mortem), fod y trancedig wedi marw drwy doriad y rhedweli (artery), yr hyn a frysiwyd drwy orchestweithio mewn awyr afiach. Wedi ymchwiliad maith a difrifol, dygwyd rheitbfarn Marwolaeth drwy achosion naturiol. COFADAIL EURGLAWDD.—Bwriada pwyllgor y gofadail hon gael y Parch. T. T. Jones, F.C.S., Rhymni, yn y man, i draddodi ei ddarlith glasurol ar Fferylliaeth," er chwyddo dipynr ar y drysorfa sydd mewn llaw i gael maen teilwng ar fedd y pregethwr poblogaidd, a'r bardd tlws y diweddar Barch. T. E. Rowlands. Mae Mr. Edward Evans, engineer, a Mr. Isaac Harding, timber mer- chant, yn benderfynol o gario'r gwaith alla.n yn anrhydeddus. Llwyddiant iddynt. — Castellydd.
ART UNION IFORAIDD Y ROCK.
ART UNION IFORAIDD Y ROCK. Derbyniais y symiau hyn oddiwrth y per- sonau canlynol :—Mri. J. Bowen, Llanavon, i. 6c.; T. Williams, Newbridge, Mon., 10s. i Mniel Thomas, Morriston, 10s. Richard > ivies, Dowlais, 10a. David Skym, Treorci, LOs. Isaac Williams, Oymmer, 4s. 3c. C. ab Bran, Dowlais, 4s. 9c. David Thomas, Dowlais, 12s. David Evans, Dowlais, 12s. T. Morton, Taff's Well, 10s. Rees Thomas, Ogmore Valley, 6e. John Thomas, Ystaly- fera, 12s. Thos. Phillips, Mountain Ash, 5s. 6c. Rees Jenkins, Llanelli C. Hope, Aberdar, 4s. 9|c. G. J. Evans, Llanfyrn- ach, 2a. 6c. Da.vid Williams, Pontardulais; Is. 6c. Wm. Owen, Llanelli, 9s. Tc. D. Davies, Aberaman, Is. T. Wm. Williams, Pontlottyn, 5a. James Lewis, Pontypridd, 5s. Thomas Evans, Llanelli, 3s. John Jones, Dowlais, lp. Wm. Brown, Rhymni, 5s. George Jones, Darren, 5s.—Ydwyf, dros y Pwyllgor Iforaidd,— Wm. L, Williams (Gwilym Craig y Tyle).
TYNEWYDD, CWMOGWY.
TYNEWYDD, CWMOGWY. CYFARFODYDD BLYNYDDOL. — Cynaliodd Bedyddwyr Seisnig y lie hwn eu cyfarfodydd blynyddol ar ddyddiau Sul a Llun, Ionawr 19eg a'r 20fed, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Dr. Thomas, Castellnedd; W. Morgan, Tondu T. A. Pryce, Maesteg; a Mr, John Thomas, Maesteg. Bachgen ieuanc yw yr olaf, newydd ddechreu pregetbu, ac y mae rhagolygon gobeithiol am dano. Yr oedd y genadwri yn cael ei thraethu gyda bias a hyawdledd, y gwrandawiad yn astud, y cenadon yn eu hwyliau goreu, a chafwyd arwyddion amlwg fod y Nefoedd yn gwenu. Yr oedd y casgliadau tuhwnt i'r dysgwyliad. Da genym allu dweyd fod agwedd lewyrchus ar yr eglwys fechan hon yn bresenol. BETHANIA.-Nos Fercher, Ionawr 22ain, cynaliwyd cyngherdd yn y capel hwn, pryd y gwasanaethwyd gan amryw o gantorion y lie, yn cael eu cynorthwyo gan Eos Afan, a Chor Undebol Nantymoel, o dan arweiniad Mr. P. Evans. Gwasanaethwyd wrth yr harmonium, gan Mr. John Morris, yr hwn a chwareuodd yn hynod o feistrolgar ag ystyried ei anfan- tais. Llywyddwyd yn ddeheuig iawn gan y Parch. J. Jones (B.), yr hwn a roddodd amryw gynghorion gwerthfawr i'r cantorion yn ystod y cyfarfod. Cafodd lawer 0 dra- fferth rai prydiau i reoleiddio'r gynulleidfa, gan gymaint oedd eu hawydd i encorio, yn enwedig pan fuasai yr Eos yn canu, yr hon, pan wnaeth ei hymddangosiad ar y llwyfan, a gafodd gymeradwyaeth uchel. Canodd 0 dywed im' awel y nefoedd yn gampus, a Somebody yn hynod o dda, a chafodd encore brwdfrydig. Ond yn ol tystiolaeth y lluaws, u Y Gardotes fach oedd y goreu a ganodd, yr hon hefyd a encoriwyd. Canodd J. Harris" Y Cymro dewr," a Jenkin Davies Death of Nelson," yn dda iawn. Cafwyd cynulliad rhagorol, er fod yr hin dipyn yn oer.—Cynwyd.
CYMANFA GERDDOROL GWENT A'…
CYMANFA GERDDOROL GWENT A MORGANWG, 1879. Y mae programme y gymanfa uchod o'r diwedd wedi dyfod i law o'r diwedd, medd- wn, oblegyd o'r braidd nad oeddym, erbyn hyn, wedi rhoddi i fyny i ddysgwyl am dano, gan gyhyd y bu cyn dyfod allan. Cafodd amser a lie y gymanfa eu penodi, yr arwein- wyr a'r llywyddion eu hethol, a'r hymnau a'r tonau eu dewis er yn gynar yn yr Hydref; ac eto dyma dri mis o amser gwerthfawr wedi ei golli cyn i'r programme gael ei roddi yn nwylaw y cantorion. I ba beth y bu y golled hon 1 Dylai fod gan yr ysgrifenydd, os mai arno ef y gosodwyd gofal y gwaith hwn, resymau digonol i'w rhoddi am oediad mor faith-oediad ag sydd yn sicr o adael ei 61 ar y gymanfa oni fydd i'r cantorion, am y gweddill sydd yn ol o'r amser, ddyblu diwyd- rwydd, a thorchi eu llewys o ddifrif at y gwaith. Gobeithiwn mai felly y bydd, oblegyd byddai yn ddrwg iawn genym weled y gymanfa hon eto yn colli y tir uchel ag y mae wedi gyrhaedd yn mysg cymanfaoedd cerddorol yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o'i bodolaeth. Yr ydym yn gwele,l fod y nesaf i gael ei chynal dydd Llun, Mehefin 23ain, yn yr un lie a'r tro o'r blaen, sef yn yr adeilad eang a ddefnyddid gynt fel Music Hall, yn Temperance Town, Caerdydd. Am y programme, y mae yn cynwys detholiad rhagorol o hymnau a th6nau, y rhai, o'u dysgu yn dda, a fyddant yn ychwanegiad pwysig at gyfoeth ein caniadaeth gysegredig. Yr oedd y pwyllgor hwn wedi bod wrthi yn hufenu cymaint ar y Llyfr Hymnau a'r Llyfr Tonau Cynulleidfaol wrth ddethol ar gyfer y ddwy gymanfa gyntaf, nes yr oeddwn yn teimlo, i raddau, yn bryderus rhag na fyddai y programme hwn yn deilwng o'i ragflaenor- iaid ond da genyf weled yn awr nad oedd achos am y cyfryw bryder. Nid oes angen am uwch tystiolaeth i gymeriad y detholiad hwn na dweyd ei fod yn cynwys tonau o ragoriaeth amrywiol, sef "Moriah," "Gwa- hoddiad," "Caerllyngoed," "Trefeglwys," "Erfyniad," "Beulah," "Braint," "Rhad Ras," "Waterstock," "Nashville," "Man- heim," Dusseldorf," ac amryw ereill o'r un dosbarth oil yn dda, yn orlawn o fawl, ac heb un d6n gyffredin yn eu mysg. Yr wyf yn gweled hefyd fod yr Hallelujah Choras" i gael ei chanu yn y gymanfa nesaf eto da iawn ydyw hyn, ac nid ar fyr y gallwn annghofio y canu rhagorol a gafwyd ar y dernyn ardderchog hwn yn y gymanfa ddiweddaf, ac yn blysio am glywed y cyffelyb ganu arno eto. Nid oes genyf ddim i'w ddweyd am yr anthemau a'r salmdonau, gan eu bod oil, oddieithr yr hen anthem boblog- aidd "Pari mi wybod dy ffyrdd," wedi eu cymeryd o'r Llyfr Anthemau a Salmdonau Cynulleidfaol—llyfr ag nad wyf hyd yn hyn wedi cael mantais i'w weled, ond gellir bod yn bur sicr fod y rhai hyn yn deilwng o'r darnau ereill sydd i'w canu yn y gymanfa, gan eu bod wedi cael eu dethol gan wr mor gymhwys ag Alaw Ddu, golygydd y Llyfr Anthemau. Tra y mae yr arweinyddion i fod yr un rhai a'r tro o'r blaen, sef Mr. D. Jenkins, M.B. Alaw Ddu, a'r Pencerdd o Flaen- anerch, yr ydym yn gweled fod y llywyddion wedi eu newid y tro hwn. Llywyddir y gymanfa nesaf gan Gwilym Williams, Ysw., a'r Parch. E. Mathews. Nid ydym yn gwybod am neb mwy teilwng i gymeryd lie y bonedd- wr hael o Landinam na'r Yswain serchog o Fiskin; gall pob Cymro, a phob Methodist yn neillduol, ddwey4 am dano fel y dywed- wyd am Dafydd, brenin Israel:—" Y mae i ni rhan ynddo ef," a gwyddom ei fod yntau ei hun yn fyw i'r berthynas. Da genyf hefyd weled gwr o safle uchel Mr. Mathews, un o gedyrn cyntaf y pwlpud Cymreig, yn taflu pwysau ei ddylanwad o blaid symudiad ag sydd a'i unig amcan i buro a dyrchafu y canu cynulleidfaol; ac y mae yn dda genym allu dweyd ei fod yn cael ei ddilyn yn hyn gan lawer o weinidogion ereill ar hyd For- ganwg a Myriwy, y rhai ydynt yn gweithio yn egniol o blaid y gymanfa yn y gwahanol ardaloedd y maent yn byw ynddynt. Cy- huddiry gweinidogion mewn rhai manatto esgeuluso eu dyledswyddau yn y cyfeiriad hwn, ond nid ydym yn tybied y gellir gwneyd hyny yn y dalaeth o fewn cylch y gymanfa hon, oblegyd gwyddom eu bod yn llafurio yn egniol gyda'r canu mewn amrywiol ffyrdd, trwy ei godi i sylw yn eu pregethau, a thrwy flaenori gyda phob trefniadau perthynol i'r ysgolion canu lleol, a'r rehearsals dosbarth- iadol, ac y mae yn gydnabyddiaeth ddyledus hefyd i'r blaenoriaid. Prawf o'r dyddordeb a deimla y gweinidogion a'r blaenoriaid yn yr achos ydyw presenoldeb y fath nifer luosog ohonynt yn y cymanfaoedd hyn. Anfynyeh iawn y gwelir cynifer o weinidogion a blaen- oriaid yn nghyd yn yr un lie, ag a welwyd yn y ddwy gymanfa a gynaliwyd yn Nghaer- dydd, oddieithr mewn rhai o'r cyfarfodydd misol mwyaf poblogaidd, ac yn y gym- deithasfa. Gallwn dybied fod pwyllgor y gymanfa yn bwriadu gwneyd i ffwrdd a'r "siarad llanw" ag sydd yn difa cymaint o amser cyfarfodydd o'r fath hyn, gan eu bod wedi sicrhau yn mlaenllaw waaanieth y fath ddynion a'r Parch. W. Howell, Prifathraw Trefecca; y Parch. J. Cynddylan Jones; a'r Parch. W. James, Aberdar, i draddodi anerchiadau yn y gwahanol gyfarfodydd ar faterion perthynol i amcan y sefydliad. Bydd y rhai hyn yn sicr o fod yn ychwanegiad pwysig at werth y gymanfa, a gellir dysgwyl ffrwyth lawer mewn canlyniad iddynt. Goddefer i mi, wrth derfynu, i gyflwyno i sylw y nodiadau canlynol ar ganu cynulleid- faol a geir yn y Cylchgraxvn am y mis pre- senol, mewn adolygiad o. eiddo y golygydd (y Parch. E. Mathews), ar "Ganiadau y Cysegr a'r Teulu," y rhai, heblaw eu bodyn ateb i'r amcan sydd mewn golwg wrth ysgrif- enu yllinellau hyn, ydynt hefyd yn haeddu cael eu gwneyd yn llawer mwy cyhoeddus nag y mae yn bosibl eu gwneyd trwy gyfrwng y Cylchgrawn: Yr ydym yn llawenhau wrth weled y fath welliant mewn canu cysegr- edig ac yn dymuno, hyd y mae ynom, gyd- weithio gydag ieuenctyd yr oes yn y gorchwyl dymunol hwn. Ewch rhagoch, a llwyddwch. Canu cysegredig, cofiwch; y canu sydd yn creu ysbryd addoliad ynoch, yn tyneru eich meddyliau, nes yr ydych yn teimlo at wrth- ddrych addoliad, a pharch gorwyledd gar ei fron. Ie, yr hwn sydd fel olew nefol, yn eich hysfcwytho i ymostwng gerbron eich Cre- awdwr; dyna'r canu. Y mae yn wir, nid ydym yn cymeradwyo pob math o ganu, .eto yr ydym yn cymeradwyo pob ymdrech i wella caniadaeth y cysegr, neu ganu er cynyrchu addoliad. Nid ydym yn cymeradwyo def- nyddio y cysegr, na'i gylchoedd, i ganu pethau anweddus nid ydym yn cymeradwye defnyddio meddianau cynulleidfa i'r dyben-o arfer pethau croes i amcan y sefydliad nid ydym yn cymeradwyo gwaith corau yn dyfod yn nghyd ar nos Sul i ganu er darparu ar gyfer Eiateddfod, a dywedyd wrth y pregeth- wr am gwtogi, oherwydd fod y corau yn dyfod yn nghyd o'r gwahanol gapelau. I'r canu hyna a'r cytfelyb yr ydym yn teimlo annghymeradwyaeth; ond canu y cysegr, canu i ddyben addoliad dwyfol, yr ydym yn dywedyd eto, ewch rhagoch, a llwyddwch. Yr oedd y canu yn Nghymanfa ddiweddaf Gwent a Morganwg mor deimladwy, mor Efengylaidd, ac mor nefol, fel yr ydym, .os byw ac iach, ac YD gyfleus, yn meddwl y bydd yn anhawdd iawn i ni i beidio myned yno eto, ac er na wyddom ddim oddiwrth ganu, ac na wyddom nemawr oddiwrth siarad, yn enwedig yn hyglyw i gynulleidfa mor fawr, eto, yr ydym am ddangos ein bod yn cymeradwyo yr ymdrechion, a rhoddi pleid- lais ddystaw drostynt, trwy fod yn bresenol yn unig. "-Asaph.
Y FFORDD I ENWOGRWYDD.
Y FFORDD I ENWOGRWYDD. H CAn di benill mwyn i'th nain, Fe gan dy nain i tithau." Os bod yn enwog ydyw'th point, A llwyddo mewn rhyw amcan, Gofala, frawd, am fod yn joint, A rhywrai oddi allan A'th waith bob dydd f'o canmol rhai'n Am hyn ti gei eu gorau, Oblegid "can di'n fwyn i'th nain, Fe gan dy nain i tithau." Os wyt yn bwt o ganwr coch," Paid byth a digaloni, Enwogwyd llawer breflo croch, Trwy'i arall ei seboni Ac ond i tithau foli rhain, Y bobl deg eu geiriau, Neu ganu penill mwyn i'th nain Fe gan dy nain i tithau." Os wyt mewn swydd, le swydd ryw fath, 'Does dim o bwys beth ydyw, Dy glod ddadgenir wrth y llath, Fe'th wneir nad oes dy gyfryw, Er cael y swydd fel Twm, Caerdrain, Trwy newid dy syniadau, Dim ond it' ganu'n fwyn i'th nain, Fe gan dy nain i tithau." Rho' lety nos, a chroesaw hael I lenor neu ryw 'gethwr, Ac os d'wed neb un gair f'on wael Am danat-gwae i'r boddrwr; Dy fawl a geir mewn melus sain, Trwy'r wasg am faith wythnosau, 'R un peth yw hyn a chanu'th nain, A'th njiia yn canu i tithau. LLO O'R LLAIN.
[No title]
Y CORFF YN FWY NA'R DILLAD.—Pan ddar- llenid yr adnod Onid yw y corff yn fwy na'r dillad yn y dosbarth yn yr Ysgol Sul, unwaith, gofynai bachgenyn meddylgar i'r athraw, "Os felly, sut oedd yn gallu rhoi y dillad am dano V