Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

trwy ddangos iddo yr asmhosiblrwydd i Tvythieui glo fod fod yn y parth hwnw ond ei ddywediad parliaua yn ngwyneb y cwbl oedd Y mae o yma." Er iddo wario llawer iawn o'i arian ei hun ac arian pobl ereill i suddo'r pwll, ac na welwvd un argoel fod glo yno, mynodd yr hen frawd lynu wrth Y mae o yma." 3. Oeir engraifffc arall yn hanes yr Iuddew- on. Yr oeddynt wedi dychymygu a ffurfio tyb am ddull dyfodiad y Messiah, ac yn dysgwyl iddo ddyfod yn unol a'u dychymyg- ion hwy; ond gan na ddaeth felly, ac iddo ddyfod mewn dull gwahanol, er iddynt ei weled, mynent haeru mai nid efe oedd— gwrthodasant ef, ac yn y diwedd, hwy a'i I lladdaaant. CyfFelyb i hyn yw ymddygiad y Darian at wirionedd. Yr oedd wedi tybied, neu ddy- chymygu, neu freuddwydio, oblegyd fod Mesur Addysg 1870 wedi cael ei wrthwynebu gan nifer o Ryddfrydwyr i holl Ymneilldu- wyr y deyrnas-" yn mhob rhan o'r wlad" -wrthod pleidleisio yn unol a'u hegwyddor- ion yn etholiad 1874. Ond erbyn edrych ar return," yr etholiad hwnw, y maent yn dangos yn eglur i bob dyn sydd -a gronyn o syflwyr a rheswm yn ei feddiant, fod yr Ymneilldu- wyr wedi gweithredu yn unol a'r egwyddor- ion a broffesant, ac wedi rhoddi mwyafrif Bhyddfrydol i Gladstone yn Nghymru ac Ysgotland, sef yr unig barthau Ymneillduol yn y deyrnas. Ond er y cwbl, gan fod y Darian wedi dechreu haeru, myn barhau i wneyd, a hyny yn .ngwyneb ffeithiau nas gellir eu troi yn ol, mwy na diffodd yr haul. Haera mai ffug a thwyll yw ffeithiau ystad- egol, am nad ydynt yn unol a thybiau dy- chymygol. Gesyd y Darian ni (yr Ymneillduwyr) j allan fel llu o ragrithwyr J udasaidd, twyll- odrus, a diegwyddor ac nad ydym yn ddim amgen na charn-fradwyr diymddiried. A ydyw yn tybied ein bod morgibddall, fel nad ydym yn gweled pwyaigrwydd y camgyhudd- iada ddwg yn ein herbyn? Neu, ynte, a yw yn tybied mai peth dibwys yw haeru ein bod"wedi gwadu ein hegwyddorion, a gweith- redu yn fradychwyr dieflig, am ein bod yn cael oyagod y ballot 1 Dichon yr haera y Darian eto mai am- ddiffyn Ymneillduwyr ae Ymneillduaeth yw peth fel hyn. Yn gymaint a bod y Darian wedi ac yn parhau i haeru fod yr Ymneilldu- wyr yn mhob rhan o'r wlad wedi gadael rhwng Gladstone a'i gyfeillion (y Toriaid) yn etholiad 1874, ac felly wrthwd roddi ei votes i'r blaid Ryddfrydig, ac yn gymaint a bod bwrdeisdref Merthyr, Aberdar, a'r Vaenor, yn rhyw fan yn y wlad hon, caniat- ewch i mi ofyn i chwi, Ymneillduwyr y fwr- deisdref hon i ddechreu, ai rhagrith a thwyll oedd yr holl gyfarfodydd a gynaliasoch yn amser yr etholiad ? A ddarfu i chwi oil droi yn fradwyr gan wadu, ar ddydd yr etholiad, yr hyn a broffesech yn y cyfarfodydd hyny 1 Gesyd y Dotiian ni i lawr fel y rascals mwyaf diegwyddor fu yn y byd erioed, trwy haeru na roddodd neb ohonom ein votes i Henry Richard, am ei fod yn un o blaid Gladstone. Ceisia wneyd shift i'n herio i brofi fod yr haeriad yn gyfeiliornus, yn gymaint a'n bod yn gweithredu yn yr etholiad dan gysgod y ballot! A ydym i gredu y Dariap,, ein bed wedi defnyddio y ballot i weithredu fel carn- fradwyr i'n hegwyddorion? Heb gyfyngu ein hunain at y fwrdeisdref hon, nid wyf yn meddwl fy mod yn eyfeiliorni wrth ddweyd fod air Forganwg yn cyawys mwy o Ym- neillduwyr nag un sir yn Nghymru ac er fod mwy o Aelodau Seneddol yn perthyn i'r sir hon rhwng y air a'r bwrdeisdrefi, nag un sir arall yn y Dywysogaeth, Rhyddfrydwyr etholwyd bob un yn ddieithriad. Ai Eglwys- wyr a Thoriiaid a'u dychwelasant, wys ? Na, na er i rai broffwydo yn amser dadl y Mesur Addysg yn 1870, y buasem yn troi ein cefn- au ar ein hegwyddorion Rhyddfrydol yn 1874, y mae returns yr etholiad yn profi i ni, yr Ymneillduwyr, barhau yn ffyddlon i'n plaid. Y cwbl y mae'r Dan-ian yn ei wneyd yw ail gyhoeddi y proffwydoliaethau a wnawd cyn yr etholiad, ond y mae ystadegau yr etholiad ei hun yn profi mai gau-broffwydi oeddynt bob un mor bell ag yr oedd a fynai Ymneill- duwyr a'r etholiad. Paham na rydd y Dar- ian engreifftau o'r mauau lie y gwrthododd yr Ymneillduwyr bleidleisio dros y blaid Ryddfrydol yn yr etholiad, oherwydd y Mesur Addysg ? Enwed y siroedd a'r bwr- deisdrefi lie y mae mwyafrif y trigolion yn Ymneillduwyr, y rhai a ddychwelasant aelodau Toriaidd newyddion i'r Senedd, gan daflu yr ymgeiswyr Rhyddfrydol allan, am eu bod yn perthyn i blaid Gladstone. Neu, os na fedr wneyd hyn, profed fod y rhifnod- au (figures) ag wyf wedi ddyfynu o returns yr etholiad, gan wtr Birmingham, yn an- aghy wir. Nid yw yr holl faldorddi a wna y Darian am yr hyn a wnawd cyn yr etholiad yn profi dim mewn perthynas a'r hyn a wnawd ar neu yn yr etholiad, ac nis gall yn dragywydd. Yr hyn a wnaeth yr Ymneilldu- wyr ar ddydd yr etholiad yw y prawf, ac nid yr hyn a siaradwyd cyn hyny. Nis gwn am un sarhad mwy sarhaus a budr i'w daflu arnom fel Ymneillduwyr nag awgrymu yn wawdlyd ein bod wedi defnyddio y ballot yn gysgod i arfer twyll, trwy beidio votio yn unol &'n proffes. Eto, gwna y Darian hyn. Dylai y sawl a wnaeth hyn wneyd public apology i Ymneillduwyr y wlad, ac wedi hyny gwthio ei ben i ffetan, rhag cywilydd, am y gweddill o'i oea. Gyda golwg ar y gofyniad paham na fuaswn yn cario y ddadl yn mlaen yn y Darian, y jnae'r Darian ei hun wedi ateb hyn er's tro, aef am fod screw o'i lie yn mheiriant fy rheawm, am dybio y cawswn wrthwynebu y ° Darian yn y Darian ei hun. Y llythyr olaf ysgrifenais yno, darniwyd ef yn yfflon ac yr wyf yn sicr y buasai mwy nag un screw allan o'i lie yn mheiriant fy rheswm pe buaswn yn danfon rhagor yno. DAFTDD MORGAN WG. O.Y.—Drwg genyf i frawddeg gael ei < gadael allan o'm llythyr diweddaf, gan mai ■ dyfyniad o'r Darian oedd, sef Anmhosibl ( i'r cyfryw (Eglwyswyr) fod yn Rhyddfryd- wyr cyson." Ond na hidiwch, mae'r ystad- egaiI yn sefyll yr un peth.—D. M.

AT J. H. P. A VERITAS.

NODIADAU 0 L'ERPWL.

Advertising