Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

[No title]

COR MAWR Y PALAS GWYDR.

AT BWYLLGOR EISTEDDFOD Y GORON,…

[No title]

GASTELLNEDD A OHANU GORAWL.

O'R OGOF NEU O'R GLYN.

News
Cite
Share

O'R OGOF NEU O'R GLYN. MR. GOL Mae'n dda genym gael ar ddeall fod cymaint o hen ohebwyr y GWLAB- GARWR wedi eich anrhegu a'u cynyrchion yn ddiweddar. Profa hyn nad yw eu cariad wedi oeri i'r fath raddau fel ag i annghofio y newyddiadur a fu yn gymhorth iddynt i ddringo i'r safleoedd y maent heddyw wedi eu cyrhaedd yn nglyn a llenyddiaeth. Wel, fel un sydd yn teimlo ein bod wedi derbyn yr un fraint, teimlwn, mewn canlyniad, ei bod yn ddyledswydd arnom i wneyd yr hyn a allom dros lwyddiant y GWLADGABWR, y Cyhoeddwr, a'u gefnogwyr ac o hyn allan bwriadwn ysgrifenu yn achlysurol dan y penawd uchod, a gobeithio na fydd ein nod- iadau i syrthio yn fyr o gyrhaedd eu ham- canion, gan mai gwneyd lies yn benaf sydd genym mewn golwg trwy ymgymeryd 4 hyn o orchwyl. Pa bryd y mae Eisteddfodau Nadolig a'u heffeithiau i gael eu hannghofio gan gystad- leuwyr aflwyddianusi Os ydym yn barnu yn iawn, nid ydyw'r ymryson ond prin wedi dechreu. Bernir gan lawer mai ffolineb ydyw ymgymeryd a chwrs o'r fath. Wel, ar ryw olwg, y mae hyn yn wirionedd ond ein barn ni ydyw, tra y cedwir rhag llychwino cymeriadau, fod hawl gyfreithlon gan ym- geiswyr aflwyddianus i fynu gwybod gan feirniaid eu rhesymau dros eu hymddygiadau ffol a dialw am danynt, ac heb i ystranciau rhai gael eu dynoethi, ni ellir llai na dysg- wyl gwaradwydd i ddilyn ein prif wyliau a thra yr etholir y beirniaid sydd yn euog o wendidaujamlwg a didroi-yn-ol i'r fath awydd gan bwyllgorau, mae'n naturiol i ni farnu mai ychydig o bwys a roddir mewn amser i ddyfod ar feirniaid Eisteddfodol. Meddai rhywun, Sut y mae cael diwygiad? Nid trwy i bwyllgorau ddethol beirniaid annghy- mhwys i'w gwasanaethu. Beth arall. Ni ddylid roi gormod o bwys ar fod person yn arweinydd neu ganwr da, fod y cyfryw yn alluog i feirniadu eyfansoddiadau cerddorol, mwy nag ydyw iddynt gymeryd adroddwr da yn ddigon o safon dros iddo fod yn fardd- feirniad ac os parheir i gefnogi rhai felly, ni ellir llai na dysgwyl aflwyddiant, canys mae'n ffaith rhy sicr na wrthodant engage- ment yn herwydd eu hanallu yn unig i feirn- iadu cyfansoddiadau. Gwyddom oddiar brofiad fod dynion hollol annghymhwys yn ymgymeryd â- gorchwyl o'r fath. 'Does dim yn well safon i gystadleuwyr nag iddynt, cyn anturio cystadlu, ddwys ystyried y gallu- oedd y mae y beirniad a fydd i'w pwyso yn feddianol arnynt. Y mae profiad, beth bynag, wedi ein dysgu ni i fod ar ein gwyliadwr- aeth, gan fod aberthu ychydig o ddyddiau at wneyd cyfansoddiad yn ormod o beth i ni edrych arno fel peth i bob math o bleidwyr y gerdd i'w wrthod yn herwydd yr ychydig an- nghydseiniaid a fyddo yn ei fritho yn achlys- urol. A ydyw peth felly yn dygwydd 1 meddai rhywun. Mae yn fwy na thebyg mai rheol rhai wrth feirniadu yw, cael ychydig o gyfeillion i ganu y parts, ac os bydd y gynghanedd yn swnio yn gydseiniol ar y glust, dyna gynghaneddiad ysblen- ydd," ac efallai ar yr un pryd yn an- nghywir ond os dygwydd i annghydseiniaid fod yma a thraw, fel yr awgrymwyd, dyna waith i'r pencil ar unwaith, ac annghy meradwyaeth mewn ink coch ar ei gyfer Am nad oedd yn swnio yn gydseiniol ar y glust, dyna golledigaeth yn cael ei gy- hoeddi arno, ac mewn canlyniad llafurwaith y cerddor diniwed wedi ei farnu yn ddiwerth, a'i waelach o'r haner efallai yn cael ei wobr- wyo. Mae meddwl am ymddygiadau fel hyn, weithiau, yn ddigon i beri bob dyn a fyddo yn berchen ar synwyr cyffredin i beidio a chystadlu o gwbl, ac yn neillduol felly dan rai a broffesant eu hunain yn ar- weinwyr a chantorion. Wrth grybwyll hyn, nid ydym yn credu fod yr holl o'r ddau ddos- barth a nodwyd yn analluog. 0, na, pell ydym o ddychymygu felly ond credwn yn ddiysgog fod y rhan fwyaf ohonynt yn hollol annghymhwys i gyffawni yr hyn y mynant i ni gredu eu bod yn alluog i'w wneyd. Clywsom i'r gyngherdd a gynaliwyd dro yn ol, yn Bethania, Treorci, droi allan yn llwyddianus. Ni welwyd cynulleidfa fwy parchus erioed mewn lie o'r fath nag a wel- wyd ar y noson grybwylledig; ac am y rheswm mai Caridog a'i gor oedd i berfformio yr Elijah y daeth cymaint yn nghyd. Mae'n dda genym fod trigolion Cwm Rhondda yn medru gosod y fath safon i'w tybiadau, ac os byddant mor sicr yn mhob peth ag yn hyn, ni chyfarfyddant a siomedigaethau, gan fod enw Caradog yn ddigon o iawn i ddileu pob amheuaeth hyd y nod yn y rhai mwyaf centigenus 'a chrebachlyd eu barn, gan mai i efe yw y prif arweinydd, a hyny beyond doubt. Rhoddodd y cor, yr arweinydd, a'r boneddwr a gymerodd ran y "Prophwyd" (D. Morgan, Ysw.), berffaith foddlonrwydd, a theimlad cyffredinol ydyw am gael mwy o'r pur a'r dyrchafedig. Dywenydd o'r mwyaf oedd genym glywed fod ein cyfaill ieuanc talentog, Mr. W. Pen- nant, Gilfach Goch, wedi pasio ei arholiad i fyned fel efrydydd i Goleg Battersea. Deall- wn y bydd yn dechreu ar ei efrydiaeth ar y laf o Chwefror. I brofi ei fod yn ddyn ieuanc hynaws a charedig, gwnaeth ei ddos- barth (yr hwn oedd dan ei ofal yn Ysgol ddydd- iol Heolfach, Ystrad Rhondda) ei anrhegu 4g inkstand gwerthfawr, yn nghyd a phethau ereill, ar ei ymadawiad a'r gymydogaeth. "Gweithredoedd a siaradant gyfrolau." Felly, i bawb sylwgar, nid oes gwell esboniad na chyfnodi ffaith fel yr uchod. Dymunwn. bob llwyddiant iddo yn ei faes newydd, ac hefyd y bydd i'w ymdrechion fod o wasan- aeth cyffredinol i blant y wlad a'i magodd. Mae'n dda iawn genym fod enw y diweddar Barch. W. Thomas (Islwyn) yn cael cymaint o'i edmygu, a theilwng i fardd a phregethwr o'i safle i gael yr hyn a wir deilyngai. Mae y llith a welsom dan y penawd Nyth y Dryw," yn nghyd ag un arall a ymddangos- odd yn y Frythones, y goreu a welsom, ac ni allesid dweyd mwy o wirionedd am neb nag a ddywedir gan awdwyr y rhai uchod. Yr ydym ninau yn hiraethu ar ol Islwyn, a sicr ydyw mai mewn cyfnod i ddyfod y caiff ei alluoedd eu hiawn farnu a'u gwerthfawrogi. Gobeithio y cawn yr hyfrydwch o gael pwr. casu cyfrol o'i weithiau. Pwy. gymer at y gorchwyl, tybed 1 Neb, allem ni feddwl, yn fwy eymhwys at y gorchwyl na'r bardd coeth a chyrhaeddbell, Dewi Wyn o Essyllt, a thaer erfynwn mai i'w ran ef y dysgyna gweithiau ein hanwyl Islwyn i gael eu hadolygu. MEUDWY Y GLYN.

BETH FYDD SEFYLLFA PETRAU…

LLYTHYR O'R AMERICA.

RE YDDFR YDIAETH V. Y DARIAN.