Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

" Dylanwad y naill Ddarganfyddiad…

News
Cite
Share

Dylanwad y naill Ddarganfyddiad Celfyddydol ar y llall, a Dylan- wad yr oil ar Wareiddiad." Testyn Eisteddfod Carmel, Treherlert, • Nadolig, 1875. DYLANWAD Y NAILL DDARGANJFYDDIAD AR T LLALL.- Un o ddarganfyddiadau mwyaf pwysig yr oesoedd ydoedd darganfyddiad y galla ager- ol, ac un o'r dyfeisiau mwyaf gwerthfawr ydyw yr agerbeiriant. Nis gellir meddwl am un ddyfais, o'r bron, sydd wedi dyfod mor wasanaetbgar i ddyn, ac yn cael ei dwyn i gyflawni cynifer o orchwylion o bob math, ag y mae v ddvfais hon. Nid oedd gallu ager yn beth cwbl anadnabyddus i'r henafiaid, er na chynygiwyd, hyd yn ddi- weddar, mewn cymhariaeth, ei gymhwyso at ddybenion ymarferol. Y mae Hero, o Alexandria, yr bwn oedd yn byw ryw 120 mlynedd cyn y cyfrif Cristionogol, wedi gadael i ni ddesgrifiad o beiriant a elwid eeliopyle, yr hwn a ellir ei ystyried fel yr agerbeiriant cyntaf a wnawd erioed. Nid yw yn pertbyn i amean y traethawd hwn fod i ni ddesgrifio v peiriant hwn ond gallwn sylwi nad yw yn ymddangos ei fod yn cael ei ystyried yn ddim ond cywrein- beth. Ar ol dyddiau Hero, nid oes prin grybwylliad am y peth am fwy na 1700 o flynyddoedd. Tua dechren yr eilfed ganrif ar bymtheg. gwnawd un neu ddau o geis- iadau i ddwyn ager i ymarferiad, ond gydag ychydig iawn o lwyddiant ar y pryd, gellid meddwl, er y bu hyn yn foddion i alw sylw at y mater, y fath sylw ag a addfedodd yn mherffeithiad y ddyfais werthfawr hon. Yn y flwyddyn 1663, y mae Ardalydd Worcester, yn ei Ganrif o Ddyfemm] yn desgrifio offeryn i godi dwfr trwy alia ymeangol ager yn unig. Un arall a wnaeth ychydig o welliant oedd un Dennis Passin, Ffrancwr wedi ei alltudio o'i wlad, a'i wneuthur yn Broffeswryn Mhrifathrofa Marburg. Efe oedd y cyntaf i gynllunio y drychfeddwl pwysig o gynyrchu gallu symudol trwy foddion gwasglath yn gweithio mewn trolyn, ac yn ddiweddarach, y drychfeddwl o gV- nyrehu gwagle yn y trolyn trwy gyd- dewychiad sydyn ager gan oerni. Fe wnaeth gynllun peiriant ar yr egwyddor hon, ond nid yw yn ymddangos iddo gario allan y drychfeddwl i unrhyw ddyben ym- arferol. Yn y flwyddyn 1698, cafodd un Mr. Savery fraint-lythyr am agerbeiriant, yr hwn oedd y cyntaf a ddygwyd i arfer- iad mewn codi dwfr. Ni oddef ein terfyn- au i ni ddesgrifio y peiriant hwn mwy nag ereill; gan hyny, ni a symudwn yn mlaen. Wedi hyn, daeth Thomas Newcomen a John Cowley (y naill yn of, a'r llall yn Wvdrwr); ae yn y flwyddyn 1705, gwnaeth- ant welliantau ychwanegol yn y ddyfais, ond wedi y cwbl, nid oedd eto ond tra an- mherffaith. Yr un wnaeth fwyaf tuag at berffeithio y ddyfais oedd Mr. James Watt. Mab oedd Watt i fasnachydd parchus yn Greenock, a ganwyd ef lonawr 19eg, 1736. Oherwydd nad oedd o gyfansoddiad cryf, a bod ei iechyd yn fynych yn ddrwg, ni chafodd lawer o fanteision addysg yn ei ieuenctyd. Pan yn ddeunaw mlwydd oed, danfonwyd ef i Lundain i ddysgu y gelf- yddyd o wneuthur offerynau gwyddonol; ac yn fuan ar ol ei ddychweliad o'r Brif- ddinas, peaodwyd ef i r swydd hyna i Brifysgol Glasgow, a hyny pan oedd ef tuag un-ar-ugain oed. Tra yn Glasgow, yn y flwyddyn 1763, dygwyd iddo gynllun o agerbeiriant Newcomen i'w adgyweirio, a'r anhawsderau a deimlai i wneuthur hyny fel y dymunai a'i arweiniodd i ddyfeisio y gwelliantau mawrion a ddygwyd ganddo ar 01 hyn i weithrediad. Efe, mewn gwirion- edd, a roes y symbyliad nerthol hwnw i'r byd yn ei flaen yn y eyfeiriad hwn, y fath symbyliad nes y mae agerbeirianau wedi eu dwyn i'r fath berffeithrwydd, ac wedi eu cyfaddasu i gynifer o orchwylion fel y maent yn cael eu defnyddio, bron, i bob amcan a dyben y gellid meddwl am dano. Byddai enwi yr holl orchwylion y mae yr agerbeiriant yn eu eyflawni heddyw yn dra anhawdd, gan mor lluosog ydynt. Y mae yn ymddangos mai |y gwasanaeth cyntaf y gwnawd iddo ei gyflawni oedd yn y gweithfeydd mwn a glo, i ddyhysbyddu y dwfr o'r pyllau, ac i godi y mwn a'r glo. Ond buan y dechreuwyd ei gymhwyso at amcanion ereill, yn enwedig dybenion teithiol; ac yn hyn, efallai, y mae wedi peri y chtfyldroad mwyaf trylwyr a achos- odd mewn dim. CymhwyBwyd ef yn flaenaf at forwriaeth. Tua dechren y gan- rif bresenol y gwnawd yr agerlong gyntaf. Y mae yn debyg mai y gallu symudol cyntaf a ddefhyddiwyd mewn llestri ar y mor ydoedd rhwyfau, wedi hyny daeth- pwyd- i ddefnyddio hwyliau, ac fel y dy- wedwyd, tua deehreu y ganrif bresenol y dechreuwyd defnyddio ager fel y gallu symudol. Yr agerlong gyntaf a wnawd, os, yn wir, yr oedd yn deilwng o'r enw, oedd un a alwyd Charlotte Dundas, ar gamlas y Forth a'r Clyde, yn Ysgotland. Adeiladwyd hi o dan arolygyddiaeth un Mr. Mr. Wm. Symington. Ond ni wnawd nemawr o ddefnydd ohoni, gan yr ofnid y byddai i'r ymdoniad a achosid ganddi niweidio ceulanau y gamlas. Cymerodd hyn le yn 1802. Ond yr agerlong a rodd- wyd gyntaf mewn ymarferiad gweithredol ydoedd y Claremont a adeiladwyd gan Mr. Robert Fulton yn New York, oddiwrth nodiadau a gymerodd o'r Charlotte Dundas. Adeiladwyd hon yn 1807. Nid oedd y Claremont ond llestr fechan ychwa th, o 160 tunell Ond y ddwy lestr fechan hyn oeddynt gyntaf-anedigion byddin ardderch- og yr agerlestri sydd, erbyn hyn, yn rhifo wrth y canoedd, a llawer ohonynt filoedd o dunelli, ae yn Ilestri o'r fath faint a nerth ag a luasai yn gwbl annghredadwy ganrif a haner yn ol. Ond buwyd am flynyddoedd cyn cy mhwyso at gerbydau ar y tir, yr hyn fel hyn gymhwyswyd at forwriaeth yn mlyn- yddoedd cyntaf y ganrif bresenol; ond pan gymhwyswyd ef, achosodd chwyldroad llawn mor llwyr yn y dull o deithio ar y tir ag a achosodd yn y dull o deithio ar y mor. Y mae yn debyg mai un o'r moddion symlaf a mwyaf henafol o deithio ydoedd trwy roddi llafur dynol ar waith i gario pethau; a defnyddir y dull hwn eto mewn rhai gwledydd, yn enwedig gwledydd mynyddig pell o gyrhaedd dylanwadau gwareiddiad, lie nad oes digon o yni a medr i ddwyn y creaduriaid i fod yn wasanaeth- gar i ddyn. Wedi hyny, daethpwyd i ddefnyddio y camel, yr asyn, yr ych, a'r march i gario. Ceir gwledydd fel hyn heddyw, lie nad oes odid i gerbyd o'u mewn, a'r cerbydau sydd yn rhai hynod annghelfydd, Felly yr oedd rhai ardaloedd yn Nghymru yn nghof rhai sydd yn fyw heddyw. Buom yn siarad a rhai, flynydd- oedd yn ol, oeddynt yn cofio pryd nad oedd odid cert yn yr ardaloedd yr oeddynt yo byw ynddynt; ond ceryd calch a mawn at wasanaeth y fferm ar gefnau y ceffylau, ac aent a'r y-d i'r felin ac yn ol yr un modd, tra y ceryd y cnydau td a gwair ar gefnau dynion. Ond yn lie anifeiliaid i gario pob peth ar eu cefnau, daeth dynion yn raddol i arfer math o gerbydau, yn cael eu tynu gan yr anifeiliaid a nodwyd. Efallai mai math o gar llusg oedd y math cyntaf o gerbyd, yr hwn a dynid gyda llafur mawr gan yr anifeiliaid ar hyd y llawr garw. Wedi hyny, dyfeisiwyd olwynion annhelf- ydd i'r dyben o leihau rhathiad y corff symudol. Yn raddol, dyfeisiwyd gwell- iantau pellach yn y cerbydau ac yn y ffyrdd; ond nid cyn y flwyddyn 1830 y defnyddiwyd agergerbydau ar reilffyrdd ar gynllun eang, i'r dyben a nodwyd. Def- nyddiwyd math o reilffordd mewn amryw amgylchiadau yn yr eilfed ganrif ar bym- theg, <er cario glo oddiwrth y gwaith i gyfleusdragwellPw gludo ymaith. Rhwng y blynyddoedd 1820 a 1830, pa fodd bynag, gwnawd llawer o fan linellan o reilffyrdd yn yr ardalaedd gweithfaol yn Ngogledd Lloegr a Scotland. Ond y rheilffordd gyntaf a wnawd i gario teitbwyr yn gystal a nwyddau ydoedd yr un rhwng Stocktpn a Darlington, jubilee yr hon a gadwyd ychydig wythnosau yn ol. Agorwyd hon yn y flwyddyn 1825. Ond y rheilffordd gyntaf yn y byd ar gynllun eang oedd yr un rhwng L'erpwl a Machester, yr hon a agorwyd ar y 15fed o Fedi, 1830. Er y pryd hwnw, y mae miloedd lawer o filldir- oedd o reilffyrdd wedi cael eu gwneuthur yn mhob parth o'r byd. Dyfais arall ag sydd wedi gadael ei hol yn ddofn ar y byd, ac wedi bod yn ffrwyth- lawn mewn cynyrchu darganfyddiadau newyddion, yw ewmpawd y morwr. Fel llawer dyfais arall ag y mae y ddynoliaeth yn dra rhwymedig am danynt, nid oes sier rwydd pwy a ddyfeisiodd y cwmpawd. Priodolir ei ddyfeisiad gan rai i Flavio Gioia, dinesydd o Amalphi, yn Itali, yr hwn oedd yn byw tua deehreu y bedwar- edd ganrif ar ddeg. Yn erbyn hyn, fe ddadleuir yn awr fod priodoleddau y tyn- faen yn adnabyddus i'r Chineaid, a'u bod yn ei ddefnyddio i ddybenion morwrol, ac i wneyd teithiau meithion ar hyd y tir er yn foreu iawn. Dywedir, hefyd, fod y tynfaen yn cael ei ddefnyddio gan forwyr Japan, India, ac Arabia, oesoedd lawer cyn ei fod yn adnabyddus yn Ewrop. Dywedir fod llongau Chineaidd yn arfer mordwyo yn y Culfor Persiaidd ac yn y Mor Coch yn y nawfed ganrif, ac oddiwrth hyny fe gesglir fod ganddynt ryw fath o gwmpawd yn cael ei ddefnyddio ganddynt i ddyben- ion morwrawl y pryd hwnw, ac wedi boi felly am dymor maith, ac onide na welsid hwy mor bell oddicartref, ac wedi anturio ar draws cefnfor mor lydan. Pa fodd bynag, nid yw yn ymddangos ei fod yn adnabyddus yn Ewrop hyd tua chanol y i ddeuddegfed ganrif, os yn wir yr oedd yn ] adnabyddus mor foreu a hyny. Ac er y gallai fod priodoleddau y tynfaen yn ad- j nabyddus, nid yw yn canlyn y defnyddid ef i ddybenion morwrawl. Nid oes un < prawf y detnyddiai yr un genedl Ewrope i aidd ef i'r dyben hwn yr adeg y eyfeirir ati. 1 Ac felly, wedi y cwbl, digon tebyg mai i Gioia oedd dyfeisydd Ewropeaidd y cwmp- i awd, ac mai efe oedd y cyntaf i'w gy- < mhwyso a'i gyfaddasu at y gelfyddyd for- i wrawl, er na wnawd defnydd cyffredinol o- hono mewn morwriaeth hyd yn mhell ar ol amser Gioia. Y mae Mr. Hallam yn gwneyd sylw felly ar y pwnc i—" Y mae yn dra theilwng o sylw na wnawd def- nydd eyffredinol o'r cwmpawd o'r nodwydd ddur-dynol mewn mordwyaeth dros ysbaid maith ar ol darganfod ei phriodolaethau, a tieall ei phwysigrwydd arbenig; a'r unig reswm a ellir ei roi am hyny yw cyndyn- rwydd naturiol dynion i dderbyn unrhyw ddiwygiad. Y mae ysgrifenwyr y dry- dedd ganrif ar ddeg, y rhai a grybwyllant am begynedd y nodwydd yn crybwyll, hefyd, am ei gwasanaeth mewn mordwy- aeth eto, methodd Campany gael unrhyw brawf eglur o'i ddefnyddiad hyd y flwyddyn 1403." Dilynwyd dyfeisiad a defnyddiad morwr- awl y cwmpawd a llawer o ddarganfydd- iadan newyddion, mewn ystyr ddaearyddol. Pan ganfu y morwyr y gallent bob amser, ac yn mhob lie, gael allan gyfeiriad y gogledd a'r de mor hawdd ac mor gywir trwy offerynoldeb y cwmpawd, daethant i deimlo nad oedd yn angenrheidiol iddynt mwyach ddibynu yn unig ar oleuni y ser, ac ar arsylwadaeth ar yr arfordir, a phethau o'r fath; ac felly, daethant yn raddol i ddefnyddio y cwmpawd. Dechreuasant, cyn hir, adael eu cwrs gyda'r glanau, ac anturient yn hyf allan i'r cefDfor; a chan ymddiried yn yr arweinydd newydd hwn, daethant i allu mordwyo yn y nosweithiau tywyllaf gyda'r fath gywirdeb a diogelwch ag oedd, hyd yn hyn, yn gwbl anadna- byddus. Gellir dweyd fod y cwmpawd wedi agor i ddyn arglwyddiaeth y mor, gan ei roddi mewn meddiant o'r holl ddaear, trwy ei alluogi i ymweled a phob rhan ohoni yn ol ei ewyllys. (Pw barhau.)

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

COLEG Y GWEITHIWR*