Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
AMRYWIAETHAU.
AMRYWIAETHAU. Y mae rhai dynion, neu o leiaf fodau sydd ar lun dynion, ar ol iddynt ddyfod i allu ysgrifenu pwt o lith i'r wasg na fynant ddim ond cecraeth a llysnafeiddio eu cymydog- ion; ond pell meddaf fi y byddo'r dydd y bydd i'r pen liwn drochi ei hun yn y llygr- iad o dduo gwisg neb, canys os na, chat ryw- beth mwy dyddorol na hynyna gwell genyf ei ollwng o'm Haw fel na chodir ef byth mwy. Amcan mawr a gogoneddus y wasg ydyw moesoli a dyrchafu y bobl, a thyna ddylai fod ein nod bawb o honom pan yn ymgymeryd a'r gorchwyl o ysgrifenu gair. Da gan ein calon glywed. fod y cyfaill athrylithfawr a iiyawdl Brythonfryn yncy- meryd ei ordeinio; ac os gwna talent weini- dog da, bydd y cyfaill hwn yn un o'r cyfryw. Duw fyddo yn nawdd iddo ef a'i eglwys barclius y mae ar gymeryd y gorchwyl o'i bugeilio. Clywsom fod gweinidog talentog Hen-dy- Cwrdd, Trecynon, wedi cymeryd y gorchwyl o draddodi rhes o ddarlithiau ar y bod o Dduw. Ei destyn y tro cyntaf ydoedd "Duw- inyddiaeth," ei raniad mor bell a gallwn ddeall ycloedd Duwijiiaeth goeth, a Duwin- yddiaeth rydd, a'r posiblrwydd i'r naill wneyd niwed, er o ddyben daionus, ac i'r llaIl ateb i'w dyben, sef moesoli y ddaear. Yr ail ddarlith sydd ar "Synwyr cyffredin mewn Crefydd," a thebyg y bydd hon eto yn werth ei chlywed, gan fod yr awdwr nid yn unig ddysgawdwr mawr, ond hefyd yn feddyl- •iwr gwreiddiol, er y credwn ei fod wedi cam- syniecl trwy gymeryd nos Sul, ac na fuasai yn dewis rhyw noswaith yn yr wythnos, er cy- fleustra i bawb. I'n tyb ni, nid ydym dros erlid yn fwy na'n harweinydd Crist, rhydd i bob dyn ei feddwl. Derbyniwyd y llythyr canlynol gan Mrs- Evans, Bell Street, Trecynon, oddiwrth Miss Mary J. Thomas, merch Mr. David Thomas, yr hwn oedd ddiacon parchus iawn yn eglwys y Bedyddwyr yn y lie uchod, ac er hysbys- rwydd a boddlondeb i'r lluaws cyfeillion sydd yma dymunwn arnoch ei gyhoeddi:— "Dycld Gwener, Gorphenaf 7fed, gadaw- som L'erpwl mewn steamer er cyrhaedd y llong yr oeddem i gychwyn, enw yr hon oedd Olbers. Felly, dydd Sadwrn yr 8fed, oddeutu deuddeg o'r gloch, yr oeddem i gychwyn ar ein taith, yr oedd yn ddiwrnod tywyll a chy- mylog iawn. Dydd Sul, cyrhaeddasom Bay of Biscay, heb fod fawr gyfnewidiad yn y tywydd. Dydd Llun eto, bron yr un fath, yn gadael y lie am haner nos. Dydd ulawrth, yn bwrw yn drwm, ac mor ystormus fel nas gallai neb fyned i fwrdd llong; erbyn hyn hefyd, yr oedd pawb o honom yn dechreu teimlo oddiwrth glefyd y mor. Dydd Mer- cher, yr oedd- y gwynt yn ffafriol, a'r llong yn teithio yn gynym. Dydd Ian, oddeutu dau o'r gloch, cyrhaeddasom Lisbon yn y boreu, ac aeth pob un allan yn y lie hwn er prynu yehydig o betliau oedd angenrheidiol. Y mae Lisbon yn dref hardd, y bniklings yn uchel, boneddigaidd, a tliiws yr olwg; hefyd, y mae prisoedd pob peth yn cyfateb i'w harddweh. Dydd Gwener, y prydnawn, yn gadael y lie, ac yn dywydd rhagorol. Sadwrn, dim un cyfnewidiad yn y tywydd, yn teithio yn gyflym. Y Sul a'r Llun eto yr un fath, pawb yn awr wedi llwyr wella o glefyd y mor, felly yn alluog i fwynhau ein hunain ar fwrdd y llong, a thrwy hyny yn gallu gweled rhyfeddodau natur, un o'r cyfryw oedd craig fawreddog, nid tebyg i gveigiau Cymru, ond yn ofnadvvy fwy rhamantus ac annirnadwy ei maintioli; ei henw ydoedd Conoly, ac arni ddau oleudy mawr er ei gcleuo. Dydd Mawrth, pawb yn hapus, y tywydd yn ffafr- iol, a llh o bysg hedegog i'w gweled. Dydd Merclier, yn ngolwg St. Vincent Island, craig fawr eto, tebyg i'r hon ydym newydd adael yn ymddangos yn bresenolluaws mawr o for foch. Dydd lau, y gwynt yr un fath, yn cyfarfod ag agerlong ar ei tliaith i Lun- dain, a mawr yr adloniant a gawsom wrth wneyd arwyddion o'r naill long i'r Hall. Dydd Sadwrn, y gwynt yn uchel, ond yn dechreu bwrw yehydig wlaw heddyw, eto yn cyfarfod a llu o longau yn croesi i Awstralia. Sul, y tywydd yn rhagorol, pawb yn mwyn- hau iechyd da, ac felly yn lied hapus. Dydd LInn, am bump o'r gloch, yn croesi y gyhyd- edd, ond heb weled un cyfnewidiad yn y tywydd, am fod y gwynt mor uchel, yn teithio heddyw yn lied gyflym. Dyddiau Mawrbh a Mercher yn dywydd da, a chanddi wynt oer ac iachus. Dydd Iau, yn dwym iawn, ac yn parhau felly hyd ddydd Sadwrn, pryd yr oedd yehydig yn fwy gwyntog, a hwnw o'n tu, felly, yn teithio ychydig yn gyflymach, ac yn parhau hyd ddydd Llun, pryd y daethom i Rio de Janeiro. Aethom i fewn yma oddeutu dau o'r gloch. Y mae hwn eto yn Ie, hardd iawn, ond mai dyn- ion duon sydd yma y rhan fwyaf, a'r rhai hyny yn gaethion. Ni cliredais erioed y cawswn weled dynion yn cael gweithio a byw mor galed ac y darllenais am danynt; yma yr oedd y plant wedi eu cylymu ar gefn eu mamau, ac yna fel yr oedd y menywod druain yn gorfod gweithio ary caeau neuyr heolydd. Dydd Mawrth, am wyth y prydnawn, yn cychwyn allan, ac yn clywydd tlafriol. Dydd Mercher, y gwynt yn uchel, teithio yn lied araf. Dydd Ian, lied ystormus, yn gorfod cadw lawr heddyw trwy'v dydd. Dydd Gwener yn dywydd hyfrydol eto. Sadwrn, yn aros am Monte Video, a'r tir yn ein golwg. Dydd Sul, yn cyrhaedd y lie; y mae hwn eto yn breswylfa tra gwych, y maent yn gweithio yma ddydd Sul fel diwrnod arall. Dydd Llun, yn cymeryd yr afon am oddeutu deuddeg milldir mewn agerlong am Buenos Ayres, pryd y daeth rhai i'n eyfarfod gyda dau gert or cludo ein nwyddau, &c. ac felly, dygasant ni i'r Immigrants' Hotel, yr hwn le yr ydym yn mwynhau ein hunain yn bresenol. Dyna i chwi, yn fyr, yehydig o, hanes ein ] taith i Batagonia, ac er yn awr yn mhell o I dir Gwalia, y mae ei hen lechweddau yn gysegredig yn ein calon. Dymunwn hefyd gofio at bawb o'n hen gydnabod, a phan cawn amser, cewch glywed gair eto ynfanylach." Gwel pawb bellach mai anwiredd oedd yr hen ystori fratiog am y llong, ei bod wedi ei chwythu yn fratiau, a'r teithwyr wedi eu colli yn yr hen eigion trochiog, a diamheu y bydd yn dda gan lawer fel fy hun gael gwybod gwell, ac fod pawb wedi croesi yn iach. Mawr lwydd fyddo iddynt hyd derfyn oes. GOHEBYDD. [Methasom gael lie i'r llythyr uchod yn ein rhifyn di weddaf. -GOL.]
Y NHW.
Y NHW. Mae Nhw yn dweyd fod Cynonfryn yn cael cymaint o waith fel yr ofllir na cliaiff hani- dden i fwyta'r wydd y Nadolig. Mae Nhw yn dweyd fod lioll gantorion Cwm Aberdar yn myned i gyngherddau Judas" y Nadolig. Mae Nhw yn dweyd fod Darlwyn yn bwr- iadu myned i Patagonia yn Ebrill nesaf, gan gymeryd y-wasg Gymreig allan gydag ef. UN 0 HONY' NHW. Mae Nhw yn dweyd fod yn well i gor Tre- foris i fod yn dawel, onide fe ddaw pobl Hirwaun a'u chwipio yn dost. Mae Nhw yn dweyd mai ffolineb mawr yw cael cyfarfodydd llenyddol yn Cap Coch, am fod cymaint tfraeo am y wobr. Mae Nhw yn dweyd y dylai arweinyddion canu y cysegr fod yn ddynion sobr, nid meddwi bob nos Sadwrn PCty, a bod yn y front y Saboth. Mae Nhw yn dweyd mai peth cas iawn yw cystadlu mewn dillad benthyg, fel arferarhai. BENWAG.
BRYNDU.
BRYNDU. Traddodwyd darlith gan y Parch. T. Hughes, Machynlleth, ar "Rhai o brif enw- ogion Cymru," yn Ysgoldy y Bryndu, nos Iau, y 9fed cyfisol. Yr enwau y bu yn sylwi fwyaf arnynt oedd John Elias, o Fon; Christmas Evans, o'r Wern; a Charles, Caerfyrddin. Cafwyd darlith dda, cynulleid- fa astud, a chadeirydd .rhagorol, yn mherson Mr. David Davies, Traffic Department, Bryn- du. Yr oedd yr elw i fyned tuag at gael cofadail ar fedd y diweddar Barch. W. Watson, Mynydd Cynftig. — To<Mi. Gynffig.
IPENUEL, YSTRADFELLTE. -
PENUEL, YSTRADFELLTE. CYFARFOD LLENYDDOL—.Cynaliwyd y cyntaf o'r cyfarfodydd uchod yn nghapel Penuel nos Sadwrn, Tacliwedd yr 20fed. Etholwyd Mr. D. Jones, Garn Fawr Farm, i'r gadair. Yn ei anerchiad agoriadol, siaradodd yn wir feistrolgor ar y cyfarfod llenyddol, ei ffurfiad, ei ddygiad yn mlaen, dylanwad y cyfarfod ar ieuenctyd yr ardal, y daioni deilliedig ohono, a'r dyben o'i gynaliad. Gan fod y GWLAD- GARWR yn dal cysylltiad mor agos &'r wlad, erfyniaf, drwy eich caniatad, am gongl fechan i enwau y rhai fuont yn gwasanaethu yn y cyfarfod. Yn yr adran adroddiadol, cymer- wyd rhan gan Misses Mary Havard, Sarah Mathews, Ann Jenkins, Ann Mathews, Mary Jones, Elizabeth Mathews, a Jennet Evans. Darllenwyd gan David Jones, R. W. Price, David a Morgan Evans, a David Jenkins. Cafwyd can gan Miss Elizabeth iles. Dyma gamp na ddaethai end ychydig o ferched ieuanc o'i oed i fyny ag ef. Can- odd yn dda iawn, ac aetli i lawr pddiar y stage yn nghanol cymeradwyaeth. Aeth- pwyd trwy yr holl weithrediadau yn hynod lewyrchus. Cynygiwyd diolchgarwch i'r cadeirydd am lywyddu mor ddeheuig gan R. W. Price, ac eiliwyd gan Preswylydd y G'areg.—M. E.
[No title]
NI CHEDWIR HWYNL-Y mae y eyhoedd yn cael eu rhybuddio yn erbyn pejrianau gwnior had- lawn ac o wneutliuriad gwael, y rhai yn fynyck a argymellir ar y prjaiwyr olierwydd yr elw mawr a geir, rhagor rhai o wneutkuriad da., am bris rhes- ymol, y rhai ni chedwir ganddynt, ae yr ydym yn anog prynwyr i fynu gweled Taylor's Patent, a phan na chedwir hwjut, anfoner ain y darlunlen at TAYLOK'B PATENT SEWING MACHINE COMPANY, Great Driffield, neu 97, Cheapside London, E.C. 1177. RHYBUDD.—Y mae Mri. Reckitt a'i Feibion wedi dewis y ffurf pedair-onglog i wneyd eu Paris Blue, a hyny oherwydd fod cymaint o liwiau glas gwael yn cael eu gweyd yn fodiau, peleni, a phow- dwr; ond eto, y maent yn gorfod rhybuddio y cyhoedd yn erbyn matliau gwael o liw glils sydd yn cael eu gwneyd o'r un ffurf, yr hwn a werthir oherwydd yr elw ychwanegol a geir trwy hyny. Gofider, gan hyny, am gael y Paris Blue pedair- onglog, yn dwyn enwau I. RECKITT A'I FEIB- ION yn nghyda/r arwyddnod masnachol. 1177. PELENI HOLLO WAY.—YR YKGYFAINT A'R CYLLA —Y mae tywydd twym'a boreiau a phryclnawnau oerion bob amser yn creu anhwylderau yn rhanau treuliol y corff, y rhai ddylai gael gofal prydlawn. Nid oes dim yn debyg i Beleni Holloway am wella y treuliad. Maent yn cael eu cydnabod yn gar- trefol a thramor fel y feddyginiaeth sicraf ac effeithiolaf at benau anhwylus, poen yn y cylla, diffyg treuliad, gwynt, chwyddiad, gwrthwyneb- edd, pob math o ryddni, clefyd y gwaed, sychdery croen, a bol-rwymedd. Y mae y Peleni hyn yn amddiffyn y cyfansoddiad rhag y niweidiau am- rywiol sydd yn dilyn cyfnewidiadau y tywydd, ac felly o werth mawr yn y tymor hwn o'r flwyddyn. Nid ydynt yn ymyraeth dim a gwaith na phleser. THE HAIR.-—For 40 years Mrs. S. A. ALLEN'S WORLD'S HAIR RESTORER has received the com- mendation and favour of the public. It has acquired the highest place that can be obtained for any modeaate enterprise, and contributed to the adornment of tens of thousands of persons, who have the proof of its serviceable character. It will peaitivcly renew and restore the original and natural colour of grey, white. and faded Hair. It will strengthen and invigorate the Hair, stop its falling, and induce a healthy and luxuriant growth. No other preparation can produce the same beneficial result. Sold by all Chemists and Perfumers in large bottles, 6s. Dopdt, 114 & 116, Southampton Row. L«ad«a. 1090
-rONGWYNLAIS A'R AM }YLCHOEDD.
rONGWYNLAIS A'R AM }YLCHOEDD. Yr oedd dydd Iau Rhagfyr y 9fed yn ddi- wrnod a liir gofir yn yr ardaloedd hyn, am mai dyma y dydd y gosodwyd o'r neilldu weddillion y trueiniaid. hyny a gyfarfuasant a'u diwedd drwy y danchwa ofnadwy hyny a gymerodd le y Llun blaenorol yn nglofa y Lan, Pentyrch, pa rai sydd erbyn hyn yn 14 mewn nifer. Gallasai unrhyw ddyeithrddyn a fuasai yn ymweled a'r gymydogaeth hon ganfod yn rhwydd fod rhyw beth mawr i gymeryd lie. Yr oedd yr holl weithfeydd wedi eu hatal—nid oedd cymaint a morthwyl i'w glywed mewn un man drwy y lie, y mas- nachdai wedi eu cau, ylleni gwynion yn y 1:1 gorchuddio bron bob ffenestr trwy yr holl ardal, a prudd-der a dwysder yn argraffedig ar bob gwedd. Yr oedd y mwyafrif or tru- einiaid a gyfarfuant a'u diwedd yn preswylio' yn nghymydogaeth Pentyrch, yn yr hwn le ni welwyd gan neb sydd yn fyw y fath olygfa dorcalonus a welwyd yno ar y dydd hwn, pan yr oedd chwech neu tfaith o angladdau yn cydgwrdd yn un angladd fawr, a hyny dan amgylchiadau mor gynhyrfus. Aeth eich 11 y gohebydd i Tongwynlas i dalu y gymwynas olaf i weddillion y cyfaill trylwyr, y Cristion gonest, didwyll, a; didderbynwyneb, Daniel Evans. Yn mhell cyn dau o'r gloch dechreu- odd y dyrfa ymgasglu yn nghyd, fel erbyn dau, yr oedd yno olygfa na welwyd mo'i chy- ffelyb yn Tongwynlais er ys tro. Trefnwyd yr orymdaith gan Mr. Jeremy, masnachydd. Gosododd y dorf i gerdded bob yn ddau yn y blaen, yna Cor Undebol y lie, o'r hwn yr oedd Daniel Evans yn aelod ffyddlawn, yna y corff, y perthynasau, ac ereill. Cyn cychwyn, rhoddodd y Parch. Mr. Morris, Bethesda, benill allan i ganu, pryd y canwyd yr hen "Eifionydd" mewn teimlad dwys a gafaelgar iawn. Cychwynodd yr angladd tua Bethel, Treforgan, lie mae claddfa y teulu, y cor yn lleddfus ganu gan mwyaf o'r ffordd; wedi cyrhaedd y capel, yn nghyd ag angladd un arall o'r trueiniaid, sef Moses Llewelyn, bachgen ieuanc tua 13 oed. Perthynai rhyw neillduolrwydd arbenig i'r bachgen hwn yn ei gysylltiad a'r Ysgol Sabothol a Society y Plant yn Bethel. Byddai yn blino ei rieni ac ereill a chwestiynau mawr, y rhai fyddent yn ddigon i ddrysu yr athronydd mwyaf dwfn-ddysg. Teimlir yn ddwys ar ei olgan bawb a'i hadwaenai. Darllenwyd y gwasan- aeth allan yn y fynwent, yn herwydd maint y dyrfa. Darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. Mr. Morris, Bethesda, a phregethwyd gan y Parch. T. Rees, Tabor. Cyfarchwyd y dorf hefyd gan Mr. Morris, a gweddiwyd mewn modd hynod 6 ddwys a theimladwy gan y Parch. J. Thomas (B.). Ainon. Wedi i'r cor ganu Yn y man," aeth pawb adref o un o'r angladdau mwyaf effeithiol y bum ynddo erioed. Yr Hwn sydd a phob llyw- odraeth yn ei law a ofalo am y teuluoedd hyn yn nghanol y dyfroedd dyfnion. Da genym ddeall fod y Cwmpeini, sef T. W. Booker & Co., yn wir ofalus o honynt.—Gohebydd.
BRITON FERRY.
BRITON FERRY. CYFLWYNIAD TY:TEB.-J\![ae'n wybyddus i'r rhan fwyaf fod Charles Morris, Ysw., prif oruchwyuwr Gwaith Alcan Briton Ferry, wedi dewis iddo ei hun gydmar bywyd yn ddiweddar. Boneddige3 ieuanc ydyw ei briod o Gaerfyrddin. Aeth y diwrnod hyny heibio gyda rhwysg a mawredd, eto nid oedd dim yn sylweddol wedi ei wneyd gan y gweithwyr er dangos eu parch i Mr. Morris hyd Rhagfyr 4, pryd y daeth teimladau da yr holl weithwyr, yn wryw a benyw, tuag Mr. Morris i'r amlwg ar ffurf tysteb. Yehydig yn ol ymgasglodd canoedd o'r gweithwyr o flaen swyddfa y gwaith i'r dyben o gyflwyno y dysteb, yr hon oedd yn gynwysedig mewn set o ffyrch a llwyau arian pur at wasanaeth ciniaw. Yr oeddynt yn costio oddeutu haner can' punt. Am chwarter i bedwar y pryd- nawn ydoedd yr amser yr ymgyfarfuwyd. Wedi i bawb o'r gweithwyr edrych ar y dysteb, cyflwynwyd hi i Mr. Morris, ar ran y gweithwyr, gan un o'r gweithwyr henaf. Wrth dderbyn y rhodd, dywedai Mr. Morris fod yn ddrwg ganddo nad oedd amgylchiadau yn caniatau i Mrs. Morris fod yn bresenol er mwyn iddynt allu cyd-ddangos eu diolchgar- wch i'r gweithwyr am eu rhodd, yr hyn a arddangosai deimladau da y gweithwyr tuag ato ef a'i briod, a hyderai y byddai i'r cyfryw deimladau da i barhau cydrhyng- ddynt. Wedi rhoddi tair banllef o hwre i Mr. a Mrs. Morris ymwahanwyd.—Un o'i Weithwyr.
CROSS INN, LLANDYBIE.
CROSS INN, LLANDYBIE. Cynaliwyd eisteddfod yn y lie uchod dydd Sadwrn, yr lleg o'r mis hwn. Llywydd a beirniad yr adroddiadau oedd Mr. J. Harris, Cross Inn; a beirniadid y canu gan Mr. C. J. Thomas, Blaenau. Enillwyd y gwobrwyon ar y gwahanol destynau fel y canlyn:—Dad- ganu y gan a'r gydgan' Mae 'nghalon yn Nghymru," tri pharti yn cystadlu, goreu, parti Brynfferws solo tenor, "MorfaRhuddlan," wyth yn cystadlu, T. Jones, Cross Inn, ac Ap Morgan, Brynfferws, yn gydfuddugol; dadganu y Sailor's Chorus," un parti ddaeth yn mlaen, a chawsant y wobr solo treble, dwy yn cystadlu, goreu, Rachel Davies, Pontar- aulais solo bass, Clyw o Arglwydd," ped- war yn cystadlu, rhanwyd y wobr rhwng W. Morris a Glan Gwily cystadleaaeth gorawl, "Erfyniad," dau gor yn cystadlu, goreu, cor Brynfferws; darllen cerddoriaeth ar y pryd gan bedwar, tri pharti yn cynyg, a rhanwyd y wobr rhyngddynt cystadleuaeth ar y prif ddarn, "Molwch yr Arglwydd," dau gor yn cystadlu, sef cor Brynfferws dan arweiniad Alaw Fferws, a chor Moriah dan arweiniad D. -Morris, rhanwyd y wobr rhyngddynt. Yr oedd y blaenaf yn gor o'r un gynulleidfa, tra yr oedd yr ail yn cael ei wneyd i fyny o bigion o wyth o wahanol gapelau, er hyny darfu i gor bychan a dewr y Bryn ddangos iddynt nad gwaith rhwydd oedd eu trechu. Trodd yr eisteddfod allan yn grand success yn mhob ystyr.—Tubal. <
YSTRADGYNLAIS.
YSTRADGYNLAIS. Y DIWEDDAR CHURCHWARDEN THOMAS.— Pan yn traddodi pregeth angladdol ar ol y boneddwr uchod, gwnaeth y Parch. Dr. Wal- ters y sylwadau canlynol:—" Y tro diweddaf y bum yn pregethu o'r pulput hwn oedd y pryd y tarddodais fy mhregeth ymadawol. Yr oedd ein cyfaill ymadawedig yn fyw ac yn iach y pryd hwnw ac yn mysg y dyrfa oedd yn yingynulledig. Yr ydym oil yn teimlo gofid a thristweh wrth ymadael a'n gilycld, ac oddiar yr amser hwnw y mae llawer o ddig- wyddiadau pwysig wedi cymeryd lie, a dyma un o nodwedd tra difrifol. Ar ddymuniad ein cyfaill ymadawedig cyn ei farw, a chyfeill- ion yr ymadawedig wedi iddo farw, yn nghyd a chaniatad y parchus beriglor, y cydsyniais i bregethu ar yr achlysur." Wedi iddo wneyd rhai sylwadau pellach ar bregethau angladdol yn gyffredinol, cyfeiriodd at yr ymadawedig, gan ddweyd "ei fod am amryw flynyddoedd wedi bod yn weithgar, ac yn ddyn bywiog a hynod benderfynol; ac fel y cyfryw, feallai iddo fod yn dramgwydd i rai, ond fe deimlir ei golli yn fawr yn Cwmtwrch. Yr oedd yn ddyn gwasanaethgar mewn llawer modd. Iddo ef, i fesur mawr, yr oeddid yn ddyledus am y llythyr swyddfa, y colofn-flychau (pillar boxes), y brif ffordd trwy y dyffryn, a'r capel [Esgobyddol yn Cwmtwrch. Yr oedd yn gyfaill mynwesol pa le bynag yr ymgymerai, ac feallai yehydig yn rhy benderfynol oddi- wrth y rhai yr oedd yn gwahaniaetha. Pan ymwelais ag ef y tro diweddaf, hysbysodd fi fod ei fwriadau bob amser yn dda, ac na wnaeth erioed gamsynied gwirfoddol. Treul- iodd y rhan fwyaf o'r cyfnod y bu yn glaf mewn gweddi ar Dduw. Yr oedd ei weinydd meddygol a'i gyfeillion yn ceisio ei gysuro, ac yn dweyd wrtho y byddai yn fuan wedi cael gwared o'i glefyd ond nid oedd yn .eu credu, a dywedai ei fod yn gwybod gwell, ei deimladau oedd ei fod yn marw. Treuliodd ei amser fel un oedd yn gwybod ei fod yn wynebu tragwyddoldeb. Yr oedd amryw yno y diwrnod hwnw yn galaru eu colled ar ei ol -y teulu oeddynt yn hiraethus, cyfeillion a pherthynasau yn galaru, ac yr oedd efe ei hun yn eithaf hiraethlon ar ei ol, a theimlai fod un cwlwm rhyngddo a plilwyf Ystradgynlais wedi ei rwygo, ond yr oedd yn hyderus fod y cwbl er daioni. Bu yr ymadawedig yn dal y swydd bwysig o eglwys-wyliwr am flynydd- oedd meithion, a llanwodd hi yn gydwybodol a ffyddlawn, ac yr oedd ganddo feddwl uchel iawn am y swydd. Yr oedd yn dda ganddo ef (Dr. Walters) ddwyn tystiolaeth i ffydcllon- deb yr ymadawedig a'i gydswyddog fel eglwys- wyliwr. Ni chafodd yr un plwyf erioed well swyddogion nag oedd gan Ystradgynlais pan ymadewais. Fel yr oeddynt yn gwybod, yr oedd cryn drafodaeth yn rhwym o fod rhyng- ddo ef, fel periglor, a'r ymadawedig, fel un o eglwyswylwyr y plwyf, ac yr oedd yn dda ganddo hysbysu fod y cydwelediad llwyraf rhyngddynt, a'n bod yn gyfeillion mynwesol, ac yn teimlo ymlyniad mawr wrth eu gilydd." Wedi sylwi yn mhellach ar y golled a deimlicl ar ol y cyfaill ymadawedig, gwasgodd ar ei wrandawyr, mewn iaith deimladwy a dirgymhellol, y pwysigrwydd i bawb ymbaro- toi gogyfer a marw. Yr oedd yr eghyys yn orlawn, a gwrandawai y clorf fawr gyda difrif- oldeb ar y bregeth, a phan y cyfeiriodd at amryw o hen gyfeillion oedd wedhuno er pan ymadawodd a'r plwyf, ac at ei atiechyd peryglus ei hun, yr oedd y gynulleidfa fawr yn foddfa o ddagrau. Cafodd y Dr. dderbyn- iad cynes gan ei hen blwyfolion, a plirawf o'u cariad ato oedd eu hawydd i gael ysgwyd llaw ag ef. Yr oedd holl offeiriaid y gymydogaeth, ac amryw weiuidogion Ymneillduol yn bres- enol ar yr aingylcliiad. --Rees Poivell.
CWMAFON.
CWMAFON. DARLITH.-N os Lun, Ged o'r mis hwn, traddodwyd darlith gan y Parch. W. Nichol- son, Groeswen, yn nghapel Annibynol y Rock. Y testyn oedd Hunan-orchfygiad;" cafwyd darlith ragorol, a chynulleidfa luosog. Cyflwynir yr elw er cynarthwyo y brawd ieuanc gobeithiol John Rees, Sardis, Efailfach, yr liwn sydd yn parotoi i waith y weinidogaeth, ac yr ydym yn hyderu fod swm anrhydeddus wedi ei chyflwyno tnag at yr amcan daionus hwn, a dymunwn bob llwyddiant i'r brawd ieuanc yn ei anturiaeth bwysig. MARWOLAETH,-Goficlq.s iawn genym gof- nodi marwolaeth y chwaer Ann Davies, merch Dafydd a Charlotte Davies, Brynbryddan,' yr hyn a gymerodd le prydnawn dydd Gwener lOfed o'r mis hwn, pan yn 21 ml. oed. Dyoddefodd gystudcl trwm ac hirfaith, ond yn berffaith barod i'r gelyn diweddaf ymosod, a gadawodd dystiolaeth diymwad ar ei hoi, fod crefydd Mab Duw yn gysur ar wely angeu. Bu yn aelod ffyddlawn a diwyd am flynyddau gada'r Annibynwyr yn "Zion," y a theimlir colled mawr ar ei hoi yn enwedig felly mewn cysylliad a'r canu. Cymerodd yr angladd le y dydd Llun canlynol, ac oddi- wrth y dyrfa fawr oedd wedi ymgynull at eu gilydd i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion marwol, profir yn gadarnhaol ei bod yn cael ei pharchu yn fawr gan ei chyd-ieuenctyd a phawb ereill. Bydded i'r Arglwydd wylio dros ei hanwyl chwaer, yr hon sydd ar wely cystudd er's hir amser bellach, yiighyd a cliysuro'r teulu a'r perthynasau oil- yn eu galar. EISTEDDFOD. — Dydd Sadwrn, yr lleg cyfisol, cynaliwyd Eisteddfod yn Ysgoldy'r' Bechgyn, o dan lywyddiaeth Mr. John Evans, Corlannau, yr hon swydd a gyflawn- odd yn ddeheuig. Clorianwyd y. cantorion gan Mr. Jason Richards, a'r beirdd, &c., gan Dewi Afan. Cafwyd eisteddfod lewyrchus iawn, lluaws yn cystadlu ar y gwahanol destynau, a'r ysgoldy eang yn llawn o wran- dawyr astud. A ganlyn yw trefn y cyfar- fodydd :—Cyfarfod 3 o'r gloch :-1. Canu, "Cyflafan y Beirdd," goreu, Mr. W. Evans. 2. Canu duet, The Old House at Home," rhanwyd rhwng Misses M. Nicholson a C. Eaton, a Martha Morgans a Rachel Llywellyn. 3. Adrodd, "Diniweidrwydd," goreu, Mr. D Davies, Castellnedd, a Dewi Bach, Aberafon. 4. Canu, "Ti wyddost beth ddywed fy nghanol," goreu, Miss M. Nicholas. 5. Canu, "Mi grwydrais Ian yr Afon," goreu, Mri. L. Thomas a'i barti. 6. Adrodd, Paid tori cymeriad dy Dad a dy Fam," goreu, Mr. D. Davies. 7. Canu (corawl), "Boddlondeb," rhanwyd rhwng yr Avon Vale Glee.Parti o dan arweiniad Mr. L. Thomas, a Chor Undebol Bethania o dan. arweiniad Mr. P. HillCyfarfod 7 o'r gloch:—1. Canu, "Cyneuwchy Fflamdyrch," goreu, Mr. W. Thomas. 2. Adrodd, "Y Gawod Wlaw," goreu, Mr. D. Evans (Dewi bach). 3. Canu, Y Glowr a'r Chwarelwr," goreu, Mri. J. Harries a J. Richards. 4. Chwareu Selections gan Drum and Fife Bands," rhoddwyd y wobr i'r unig Band oedd yn cystadlu, sef y Cwmafon Templar's Band," yr hwn a chwareuodd yn ganmol- adwy. Canu, "Y Fam yn Paris," goreu, Miss M. Nicholas. 6. Beirniadaeth y penill- ionoglod i Mr. D. Nicholas, ieu., am ei ymdrech diflino gyda cherddoriaeth, rhanwyd y wobr rhwng Dewi Bach a Mr. Rees John. 7. Canu y prif ddarn corawl "Yr Alarch," goreu, Avon Vale Glee Barti, o dan arwein- iad Mr. L. Thomas. Felly terfynwyd yr eisteddfod, yr hon a drodd allan yn lwydd- iant i'r pwyllgor. — 1-fT. II. Bees.
DIN AS.
DIN AS. Cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn Long Room y Ty'n-y-Cymer Arms, dan nawdd cyfrinfa "William Morgan" o Undeb Man- ceinion. Llywydd, Mr. Michael Thomas, Porth; beirniad y canu, Mr. Hughes (Ab Arwystl); y farddoniaeth, &c., Mr. E. Ed- wards (Trodynfab). Y cystadleuwyr llwydd- ianus ar y gwahanol destynau ar y canu oeddynt, Mr. S. Owen a'i barti y farddon- iaeth, Carw Cynon, a Casnodyn, Blackwood, Mon ar y traethawd, Mr. M. Griffiths, Porth ar y ddadl ddifyfyr, Mr. M. Griffiths a'i gyfaill; yr areithiau, Carw Cynon, Mr. D. LI. Davies, Dinas Mr. G. Ablett, a Mr. M. Griffiths, Porth. Nid oedd y cynulliad mor luosog yn y prydnawn am fod y gweith- wyr heb adael eu gorchwylion, ond cafwyd cyfarfod lluosog iawll yn yr liwyr. Ymddyg- odd pawb yn deilwng o honynt eu hunain, a. chafwyd cyfarfod llwyddianus yn mliob ystyr. Yr elw i fyned i gynorthwyo y brodyr hyny sydd ag olddyledion arnynt yn herwydd y strike ddiweddar.
Peiriant i Ehedeg. -
Peiriant i Ehedeg. G wneir cynyg ar ol cynyg gan eiddil ddyn i ddringo llwybrau y nefoedd yn nghwmni yr adar, a dyma gynyg eto gan un Mr. Simmons, perthynol i'r fyddin. Bwriada wneyd y peiriant hwn yn wasanaethgar yn adeg rhyfel, trwy alluogi un i esgyn ynddo er sylwi ar ysgogiadau y gelyn. z;1 Y mae ffurf y peiriant hwn yn debyg i wlawlen (umbrella). Yr oedd dau wedi eu gwneyd—un bach ac un mawr; ond er pob ymgais methwyd a'u cael i godi oddiar y ddaear uwchlaw rhyw gan' troedfedd. Y mae Mr. Simmons er hyny yn dra ffyddiog yn llwyddiant y ddyfais.
Llofrudd wadi ei Ddedfrydu…
Llofrudd wadi ei Ddedfrydu i Farw. Yn Leicester cyhuddwyd George Fordham, 62 mlwydd oed, o lofruddio John Smith, yn y Nawdd-dy. Yr oedd y trengedig yn swyddog yno, a'r llofrudd i fewnpel un gor- phwyllog. Brathwyd Smith gan Fordham a chyllell, a dywedodd, yr wyf wedi cael fy nialedd, gellwch fy nghrogi can gynted ag y mynoch. Cafodd y rheithwyr ef yn euog, ond cymeradwywyd ef i drngaredd. Pas- iwyd dedfryd marwolaeth arno.
Nodion am y Beirdd, &c.
Nodion am y Beirdd, &c. Y mae ein hen gyfaill Iorwerth Goch, Mountain'Ash, wedi ymroddi yn llwyr i'w fasnach fel nad yw llenyddiaeth newyddiad- urol Cymru, yn enwedig nynon enllib, yn cael fawr na dim o'i sylw, ac nid oedd wedi gweled dim o'r truth maleisus. Nid rhyfedd fod y papur hwnw wedi ei ddarostwng iil o raddau yn marn llenorion goleubwyll a boneddigeiddfoes Cymru. Yr ydym wedi darllen fod rhyw fathau o ddynion yn byw mewn fools' paradise—tybio eu hunain yn trigo yn ddyogel pan mewn gwirionedd nad oes dim ond trobyllau peryglus yn eu hamgylchynu: ac yr ydym wedi gweled yn ddiweddar fod rhywun yn dystaw ysgriblian buddugoliaeth pan ar yr un pryd y mae yn ymdrabaecldu yn ei waed! ei darian a'i lurig wedi eu teilchioni a'i ddifyn gleddyf wedi dod yn rhydd o'r earn. Yr un peth fyddai i Napoleon Trydydd floeddio buddugoliaeth yn nghanol taranau byddarol Sedan, ag i'r brawd egwanbwyll dan sylw dybied ei fod ar fryn. concwest, pan y mae Cymru yn gwybod fel arall. Cawsom nodyn oddiwrth ein hen gyfaill Alaw Buallt, a da genym ddeall ei fod yn dyfod i Mountain Ash tua'r Nadolig yma, pan y gobeithiwn ei gyfarfod yn rliywle neu gilydd. Deallwn ei fod i feirniadu yno yn eisteddfod y Nadolig. Dyna yr amser y gwelir llenyddiaetli farddol Cymru yn blodeuo pan fydd pawb 9c eu hegni i ymburo mewn iaith a syniadaeth, a chynorthwyo eu gilydd mewn ysbryd cariad ac addfwynder, ac nid cnoi a thraf- lyncu eu gilydd, fel y mae anianawd rhai yn. y dyddiau diweddaf hyn. Nadolig llawen a dedwydd i feirdd a darllenwyr y GWLADG4R- WR bob yr un.