Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
ESTABLISHED 1868. R I C H A E D THOMAS, PRACTICAL BOOKBINDER, AND BINDER To THE TRADE. 4, ALBERT STREET, MARKET SQUARE, MERTHYR TYDFIL. 11 £ 2 TEMPERANCE HALL, Aberdar. DAN NAW.DD Y Teilwng Anrhyd. ARDALYDD BUTE, K.T. Y Gwir Anrh. ARGLWYDD ABERDAR, C. R. M. -Talbot, Ysw., A.S. H. H. Vivian, Ysw., A.s. H. Richard, Ysw., A.S. R. Fothergill, Ysw, A.S. D. Davis, Ysw. 5 Canon Jenkins, tf.D. Dydd Nadolig, 1876, Rhoddir PERFFORMIAD cyfiawn o'r Oratorio,- JUDAS 1ACCAB £ US!' • Gyda Cherddorfa gampus, pryd gweinyddir gan Undeb Corawl Aberdar, 200 mewn nifer; Miss Marie Duval, 0 Gyngherddau yr Alexandra Palace, Llundain; Mr. Bernard Lane, .Primo Tenore yn Nghyngherddau Mdms. Blanche Cole a Lemmens-Sherrington; Mr. Thomas Howells. ORCHESTRA STRING BAND GYFARTHFA, STRING BAND BRYSTE, STRING BAND ABERDAR. CYFEILWYR- Mri. Abraham N. James a D. Bowen. ARWEINYDD-MR. REES EVANS. Nos Nadolig, rhoddir CYNGHERDD A MRYWIOG, Pryd y gweinyddir gan y cantorion uchod. Nos LUN canlynol (Rhag. 27), Rhoddir Ail Berfformiad o Judas' gydag Orchestra Gyflaum. DYDD N ADOLIG. -Y cyngherdd cyntaf i ddechreu am 3 y prydnawn tocynau, 3s., 2s., Is. Yr ail gyngherdd am 8 o'r gloch tocynau, 2s. 6c., Is. 6c. a Is. Nos LUN.-Cyngherdd i ddechreu am 7 tocynau, 2s. 6d.; Is. 6d.; a Is. Tocynau i'w cael yn ygwestai, gan brif fasnachwyr y dief, a chan aelodau yr Undeb CorawL Y D. RHYS, Ysg.
[No title]
HEN I.JOFFWR.-Ofer fyddai cyhoeddi eich ysgrif yr wythnos hon, gan-fod Deheufardd wedi traethu yn alluog ar yr un testyn yr wythnos ddiweddaf. GWR O'R FELIN.-Mae y ddwy blaid eisioes wedi traethu eu barn ar y mater; gan hyny ffolineb fyddai ailgodi y pwnc i sylw. CARWWEI WLAD.-Cydolygon a chwi o barthed i haeddiant M- ond credwn mai doeth- ach gadael llonydd iddo i arllwys ei gwd. Yn sicr, rhaid ei fod ger y gwaelod erbyn hyn. Dymuna Mr. William Rees (Brythynwy), yr hwn fu unwaith yn adnabyddus dan y ffug- enw "Brynfab," hysbysu ein darllenwyr nad efe ywy Brynfab y sonir am dano yn awr ac eilwaith yn ein colofnau. HEN WEITHIWR.— Cymhella y gohebydd hwn feirdd a Uenorion Pontypridd i ymuno a'u gilydd er sefydlu cymdeithas lenyddol yn y lie, fel y gallo yr ieuenctyd yno ei mynychu, yn hytrach na threulio eu hamser a gwas- traffu eu heiddo ar oferedd. Cyflwynwn yr awgrym i sylw Essyllt, Carnelian, Dewi Haran, Owen o Gymru, a'r Archdderwydd. CwYNlON.—Mae gohebydd wedi ysgrifenu atom yn achwyn fod "Un oedd yno," wrth groniclo hanes cyfarfod chwarterol Sardis, Ystradgyn- lais, wedi gadael allan enwau lluaws o rai deilyngent eu cydnabod yn nglyn a'r cyfarfod hwnw; ac wedi talu mwy o sylw i ereill nag a haeddent. — Cwyna cyfaill arall na ddarfu i'n gohebydd ysgrifenodd hanes Eisteddfod Adulam, Pontardawe, roddi enw priodol yr ymgeisydd buddugol ar y beddargraff. Dylai ein cyfeillion gofio nas gallem fforddio gofod i sylwi ar frychau dibwys o'r fath, pan y mae cymaint o faterion pwysicach yn hawlio ein sylw. ■ "JUDAS MACCABEUS" YN ABERDAR.-Mewn atebiad i lythyr Glynogwr dymuna ysgrif- ydd y pwyllgor hysbysu1. Bydd y per- fformiad i ddechreu am dri prydnawn Nadolig. 2. Ail berftormiad nos Lun can. lynol. 3. Bydd trains y Taff Vale yn gyfleus i gyfeilion o Gwm Rhondda ddyfod i'r cy- ngherdd dydd Nadolig, a gellir dychwelyd o Aberdar gyda'r train ugain mynud cyn saith yr hwyr. Gwelir y manylion ar yr hysbys- leni ac yn yrthysbysiadau. NAI TELOR TAWE. — Byddai cyhoeddi eich Sylwadau gwawdlym ar gastiau rhagrithiol golygydd (?) y papyr y cyfeirwch ato yn hollol groesi'n llwybrarferol; er fodcelwyddau y gwr hwnw yn ein raynych demtio. Gwyr holl ohebwyr y GWLADGARWR yn dda fod iddynt—er ys pedwar mis ar ddeg, o leiaf- ryddid trwyadl i amddiffyn eu hunain ond bu amser, fe ddichon, pan na chaniateid hyny iddynt a thebyg mai at yr adeg hono y cy- feirir yn mwrdd golygydd cydwythnosolyn. Y fath yw cyfnewidiadau amser fel y mae y troseddwf wedi troi'n gyhuddwr, a'r gwr an- mherffaith yn bigwr brychau EISTEDDFOD PONTYBEREM. — Cymro Teg, Llan- elli, oedd Beremiad" i'r hwn y dyfarnwydy wohr ant yr englyn i geiliog gwynt yn yr eisteddfod uchod. Deisyfa Cystadleuydd ar ysgrifenydd eisteddfod Pontardawe hysbysu enw y buddugwr ar y Beddargraff yn yr eisteddfod hono.
AT EIN GOIIEBWYR.
AT EIN GOIIEBWYR. Dymunem argraffu ar gof ein gohebwyr ei fod o bwys neillduol i. gyfeirio pob peth fwriedir i'w gyhoeddi fel y wnlyn To the EDITOR, GWLADGARWR Office, Aberdare. Ychyduf fydd y drafferth i'n gohebywr, a bydd yn gymwynas ani. Ac yn mhellach, ni ddaliwn ein hunain yn gyfi'tfol am ddim gyfeirir yn wahanol.
GWAHODDIAD Y BRENIN AFFRICANAIDD.
GWAHODDIAD Y BRENIN AFFRICANAIDD. Yn ein rhifyn diweddaf galwasom sylw ein darllenwyr at y gwahoddiad a ddan- fonasid at Gymdeithasau Cenadol Prydain, oddiwrth brenin Mtesa, yr hwn sydd yn llywodraethu ar wledydd eangfawr yn gorwedd ar hyd lanau y Victoria Nyanza Fe gofir i'r gwahoddiad croesawus ein cyrhaedd trwy law y darganfyddwr mawr, Mr. Stanley. Rhoddodd Stanley gyfar- wyddiadau manwl o'r cyflen wadau, a'r offerynau celfyddydol ac amaethyddol, ag y buasai yn fuddiol i'r Genadaeth wahodd- edig eu dwyn gyda hi, a chyfrifai y byddai y cyfangost yn bum mil o bunau. Can gynted ag y gwnaed y newyddion gogon- eddus yn hysbys trwy golofnau y Daily Telegraph, eyffrowyd a chynhyrfwyd teim- lad Oristionogol ein gwlad i'r pwynt uchel- af, a diluwiwyd swyddfa y newyddiadur hwnw a llythyrau o bob cyfeiriad, yn cefnogi y mudiad arfaethedig yn y modd mwyaf gwresog, ac yn addaw y cynorthwy mwyaf sylweddol i'w ddwyn i fuddygol- iaeth. Ar y 18fed o'r mis hwn, derbyn- iodd Ysgrifenydd y Church, Missionary Society lythyr oddiwrth foneddwr hael- frydig yn cynyg y swm godidog o bum' mil o bunau at yr amcan, os gwnai y Gymdeithas hono ddanfon allan i Affrica Genadaeth o'r fath a ddesgrifiasid gan Stanley. Nid yw y boneddwr haeddfawr hwn am i'w enw gael ei gyhoeddi o flaen y wlad, a chyfenwa ei hun yn 4< Was An- fuddiol." Dyma, yn wir, esiampl o elusengarwch Oristionogol nas cyfarfyddir yn ami a'i chyffelyb: dyma, yn wir, "wneuthur daioni" er mwyn "daioni," ac nid er mwyn clod. Un o nodweddau mwyaf rhagorol y Cymeriad Prydeinig yw, yr arian dirfawr, ond dystaw, a gyf- rcnir at achosion daionus, gan luoedd o gyfoethogion yn ein plith, heb fod enwau y eyfranwyr ond yn anaml yn dod yn hysbys i'r eyhoedd: ie, dymaddynion "y rhai y mae eu clod nid o ddynion, ond o Dduw." Y mae yn amlwg oddiwrth y teimlad a ddangosir, a'r llythyrau agos dirif *a gy- hoeddir, fod llaweroedd eto yn ein gwlad yn barod i gyfranu eu canoedd a'u miloedd mewn nefol ddystawrwydd, a sicr ydyw, na fydd i'r Genadaeth Newydd dori i lawer o eisieu aiian. Mewn canlyniad i gynvg- iad y Gwas Anfuddiol," darfa i Ysgrif- envdd Mygedol y Gymdeithas Genadol Eglwysig alw Pwyllgor neillduol yn nghyd, a phasiwyd fel penderfyniad: — "Fod y Pwyllgor, gan ystyried mai amcan arbenig y Gymdeithas hon ydoedd gwasanaethu ar Affrica a'r Dwyrain, yn derbyn yn ddiolch- gar y cynyg o fil o bunau oddiwrth fonedd- wr dienw; ae, mewn ymddibyniad ar Dduw, yn ymgymeryd a sefydlu Cenadaeth ar ymylau y Victoria Nyanza, yn y gobaith y bydd iddi droi allan yn ganolbwynt o oleuni a bendith i'r llwythau a breswyliant ganolbarth Affrica." Hefyd, penodwyd ar Is bwyllgor i ystyried ac i reportio i'r Pwyllgor ar y mesurau goreu i gario y penderfyniad allan, ac ar fod cronfa arbenig i gael ei hagor i gyfarfod a'r treuliadau. Y mae yn hyfryd troi am dro oddiwrth dwrf gwladyddiaeth, i edrych ar "Ethiopia yn estyn ei dwylaw yn brysur at Dduw," a Duw yn ateb trwy gynhyrfu ei bobl i ddanfon iddi fendithion Efengyl a Gwar- eiddiad.
I; :Cyhuddiad Pwysig yn erbyn…
Cyhuddiad Pwysig yn erbyn Masnachwr. Dydd Mercher cyn y diweddaf, gwysiwyd masnachwr cyfrifol, o'r enw Henry Rees, o flaen yr ynadon yn Merthyr, ar y cyhuddiad o /mosod yn anweddaidd ar Annie Thomas, gwraig i siopwr yn Nowlais. Oddiwrth dystiolaeth Mrs. Thomas, ym- ddengys i Mr. Rees, yr hwn oedd yn arfer gwerthu blawd i'w gwr, alw yn y t^, gan ofyn pa le yr oedd Mr. Thomas. Dywedodd yr erlynes ei fod allan, ac ar ol ychydig o ym- ddiddan taflodd Rees hi i, lawr, a gwnaeth ymgais at ei threisio. Cynerodd hyn oll le yn yr ystafell nesaf at y siop, lie yr oedd brawd ei gwr—Uanc ieuanc-yn gweini ar y pryd. Wrth ei chroesholi, cyfaddefodd Mrs. Thomas fod ar ei gwr swm mawr o arian i'r cyhudd- edig. Ategwyd ei thystiolaeth gan William Thomas, brawd-yn-nghyfraith Mrs. Thomas, yr erlynes a clian wasanaeth ddynes o'r enw Sarah Prosser, ond nid oedd cymeriad y llances hon rywbeth yn foddhaol iawn, canys cawn iddi fod ar y spree yn ddiweddar yn nghwmni personau isel. Gwadodd y diffynydd nad oedd ef wedi ceisio ymosod a'r Mrs. Thomas o gwbl, ond cyfaddefodd ei fod wedi ei dal gerfydd ei breichiau pan wnaeth hi ymgais i gydio am wddf, gan dybio ei bod hi yn waligof. Rhoddwyd dwys ystyriaeth i'r achos gan yr ynadon, a rhyddhawyd y cyhuddedig ar ol pump awr o ymholiad. Derbyniwyd y dded- fryd gyda banllefau o gymeradwyaeth yn a thu allan i'r llys.
,YR ARSYLLFA.
YR ARSYLLFA. RHAG. 2XL, 1875. Buy BWRDD CYMODOL yn eistedd am ddyddiau lawer yn Nghaer- dydd yn cydymddiddan ar bwnc pwysig y sliding scale. Anvresymau neillduol y rhai a welir mewn colofn arall, cerid y gweithrediad- au yn mlaen yn ddirgel, ac ni chaniateid cynrychiolwyr y Wasg i fod yn bresenol. Am y priodoldeb o hyn, nid ydym yn dadgan un farn, ond clywsom weithwyr profiadol yn mynegu y buasai yn well ganddynt hwy, ac y buasai yn fwy boddhaol pe cyhoeddid ad- roddiad dyddiol o'r gweithrediadau. Yr ydym yn deall fod rhesymau cryfion wedi eu dwyn yn mlaen o bob ochr, ac mor gryfion fel y methwyd dyfod i gytundeb terfynol ar y basis i weithredu wrtho yn y dyfodol, fel y penderfynodd y ddwy blaid o'r diwedd i ymddiried y mater pwysig i ganolwr. Clyw- som fod dosbarth tra Iluosog o'r gweithwyr yn amlygu anfoddlonrwydd i arwyddo y llyfrau wrth y glofeydd yn ol Bwrdd Cymodol, a'u rhesymau dros hyny ydynt am y byddant trwy hyny yn arwydd-nodi cytundeb am yr hwn na wyddant ddinf o'i amodau sylfaenol a chyfansoddol. Y mae cynrychiolwyr y glo- wyr, beth bynag, yn sicrhau nad ydyw arwyddo y llyfrau yn golygu dim yn mhellach nag ymrwymo i sefyll at ddyfarniad y Canol- wr, ac na fydd dim perygl na chyfrifoldeb pellach iddynt wneyd hyny. Eithr y maent hwythau yn ewyllysio gwybod beth yw y basis sydd gan y Canolwr i sylfaenu ei ddy- farniad arno 1 Gan unwaith y gwneir hwnw, bydd yn rhwymawl am chwe' mis. Y mae y cynrychiolwyr oedd gan y gweithwyr ar y Jbwrdd yn eu cynghori i wneyd yr uchod, ac nid ydym yn gweled dan yr amgylchiadau y gallant wneyd dim yn well na gweithredu yn ol eu cynghor a'u cyfarwyddyd yn hyn o fater, gan eu bod wedi eu hethol i'w cynrychioli. Y mae MORIEN BACH, BACH, Y C c MAIL I I yn para i wneyd blunders lon'd ei gwilsen bob wythnos. Dydd Llun wythnos i'r diweddaf, yr oedd yn tadogi ysgrif i Brythonfryn a ys- grifenwyd gan ohebydd arall rai ugeiniau o filldiroedd o Aberdar. Ail-adroddodd hefyd yr hen stori am Myfyr yn dod i'w dJ pan yr oedd Brythonfryn yno, yr hyn, mewn effaith, a wadodd yn mhresenoldeb Mr. Tom Williams Pontypridd a Brythonfryn yn Aberdar Gwelir wrth hyn faint o ofal a pharch sydd gan Morien i'r gwirionedd. Aed yn mlaen i ymbalfalu yn ei dywyllwch llenyddol, y mae bechgyn Cymru weithian yn deall ei size fel llenor, ac yn gwybod nad ydyw ond rhyw gripianwr ebychlyd, a'i wyneb yn hiraethus edrych i fyny tua neuadd orwech llenyddiaeth, ond ei goesau diymadferth, a'i ysgrifell ddi- ymadferthach na hyny, yn methu yn deg a rhoi lift iddo tuag i fyny.
NODIADAU CYFFREDINOL.
NODIADAU CYFFREDINOL. Digrif o beth ydyw sylwi ar y gohebwyr mawr yn ymfflamychu un wythnos yn erbyn addolwyr Bacchus, a'r wythnos ddilynol yn troi i siarad am urddas a pharch y dynion sydd yn trwyddedu i werthu gwin a diod gadarn. Yn mha le mae cysondeb y dynion hyn, dywedwch, pan y llefant yn erbyn y drwg, ac ar yr un pryd yn mynychu y gwest- dai ag sydd yn eu tyb hwy yn ffynonau pob llygredigaeth 1 Swyddogaeth urddasol ydyw canmol ar gyhoedd gwlad ddynion na wyddant fwy am lenyddiaeth y genedl Gymreig na'r Indiad buandroed yn mhellafoedd coedwig- oedd y Gorllewin. Mae yn syndod nad allai pigwyr brychau weled yr annghysonderau hyn, a hwythau mor amlwg a phelydrau dysglaerwych yr haul ar foreu hafaidd yn Mehefin Gall fod ar y cyfryw ofn i ffwrnes digofaint dysgedigion i ferwi dros yr ymylon, ac ysgubo y cyfan i for llosgadwy difod- iant. Rhaid bod yn dawel rhag cyffro digof- aint a llidiawgrwydd y cawrfil, ac iddo ym- ysgwyd a chrynu pedryfan creadigaetliau llenyddol y byd ba.h Cymreig; a tharaw dynion eiddil, fel eich gohebydd, i ebargofiant bythol. Braidd nad wyf yn dychrynu pan welwyf y geiriau hirion ac hunan-greuedig; ond myn cyfaill i mi gredu fod mawredd a gogoniant y cyfryw yn gorwedd yn gyfan gwbl mewn geiriau hirion. Gellir cydnabod dysgeidiaeth wirioneddol gyda pharch dylad- adwy, teilwng o urddas ond lie byddo tro- bwll yn ewynu, nid oes all wybod ei ddyfnder. Os mai geiriau hirion a dwfn-gordeddawl sydd yn cyfansoddi mawredd dyn fel lienor rhaid i mi gyfaddef yn ostyngedig nad wyf hyd yma wedi dysgu dim o raddeb ysgrifen- yddiaeth -ymreig, ac nad yw ,y pethau a ddarllenwyd genyf yn ddim tuag at ychwanegu fy ngwybodaeth yn y byd llenyddol. Gallaf edmygu darluniadau hedegog a byw-gynhyrf- iol Glasynys yn ei gan odidog, "Golwg ar Oymru," caniadau godidawg Essyllt, a phryddestau darluniadol Islwyn ond mae yn anhawdd gweled na theimlo dim mewn geiriau hirwyntog ac ymgordeddawg wedi eu pentyru i ddim yn amgen na dychrynu y darllenydd. Yn iach, fawrion, rhaid ym- foddloni ar fyw i lawr gyda'r tlws a'r pryd- ferth ar y ddaear. Mae yn eithaf amlwg bellach fod ein beirn- iaid beirniadol mor agored i wneyd camsyn- iadau ag ydyw y man ohebwyr. Fel un o'r cyffredinolion, ymfoddlonaf fi ar y mwynhad o fyw yn mhlith daearolion, ac edrych ar yr eryrod mawrion yn ymysgwyd trwy yr eang- derau. anhygyrch, yn mro y cymylau. Mae plant dynolryw yn gydmarol debyg i'r llu asgellawg yn amrywio mewn maintioli a nerth. Hen aderyn digon anhylaw ydyw y barcutan, fel y myn fod yn frenin, er nad yw yn feddianol ar y neillduolion gofynol i lywodraethu; un arall tebyg iddo ydyw y gigfran; hen aderyn digon hunanol ac ar- glwyddiaethol. Nid annhebyg ydyw yr olaf i awdwr yr erthyglau dirmygedig ar Ysbryd y wasg rymreig." Mae y gigfran yn sicr o gael hyd i'r gelain lie bynag y byddo yn gor- wedd; felly, hefyd, y cawn ohebydd llygad- graff y Mail o Gaerdydd. Gwleddoedd ei enaid ydyw gwendidau y genedl, fel y prawf yr ysbwriel a ysgrifenir ganddo y naill wyth- nos ar ol. y Hall. Budreddi a baw ydyw hoffder ei fywyd; a gresyn fod un bachgen a fagwyd yn Morganwg wedi myned mor isel ei chwaeth ag ymdroi cymaint mewn huddygl a llwch drewedig. Y drwg mwyaf allaf ddy- muno iddo ydyw, y bydd iddo ddiwygio, ac ymgymeryd a rhywbeth mwy urddasol na gorwedd mown llygredd a chrafu gwendidau. Cydnabyddaf, gyda dyledus barch, ei fod yn feddianol ar dalent a doniau uwchlaw y cyffredin o honom ond, eto, rhaid dweyd ei fod yn ddiffygiol o'r gallu llywodraethol o wneyd y defnydd goreu o'r gallu sydd ganddo er gwneyd daioni. Os myn waith cyfieithu, mi allaf anfon iddo bethau gwir werthfawr i'w Cymreigio, a fydd yn anrhydedd i'w ben a'i galon; a gwn yr edmygir ei ddawn gan bob Cymro Cymreier ar wyneb y blaned is- loerawl. Nid y w o gymaint pwys i mi beth a ddywed am y "Wasg Gymreig," ond cyhyd ag y pery i ddal ar wendidau y genedl Gym- reig, fe fydd i minau gadw y llawr dyrnu yn lan, a'r ffust mewn trefn, i gael rhoi ambell gurfa iddo. Cofied, nid o dan ddylanwad cenfigen a dygasedd y bwriadwyf ei ddilyn, ond fel amddiffynydd rhinwedd a daioni y genedl, gan hyderu y llwyddaf i'w ddwyn i weled y priodoldeb o droedio llwybrau dyrchafiad. Hyn sydd sicr, os na fydd iddo gyfnewid cwrfe ei fywyd, mae lie i ofni na fydd iddo ddyddiau dedwydd mewn henaint, am y bydd adgof o'r presenol yn ei ddilyn i'r dyfodol, a'i fod wedi treulio bywyd yn fradwr ei genedl. Af heibio iddo y tro hwn dipyn yn ysgafn, ond os bydd raid i mi wneyd sylw pellach o hono, nid wyf yn addaw bod mor dyner wrtho ac os na wna'r ffust y tro, mynaf gael ffrewyll o fan reffynau i'w chy- mhwvso ato. Mae hyd yn nod y Pigwr Brychau wedi cael gwrthwynebydd teilwng ar ei dir ei hun, a gobeithiwyf gael y mwynhad o ddarllen ysgrifau doniol yr ymfflamychwyr hyn. Ewch rhagoch, weis doniol, mae y byd llenyddol Cymreig yn ymhyfrydu mewn gweled cewri yn ymgodymu yn deg wrth reol cyfiawnder a barn. Ymddengys fod y Pigwr Trawstiau yn deall ei waith yn dda, o ganlyniad, fe ellir dysgwyl ymgom ddoniol, os nad ymollyngant i fod yn bigog a phe/sonol. Rhad arnoch, gan obeithio y rhwyfwch y cychod ar ol y frwydr i hafan ddymunol tangnefedd. Mae ambell i ffrae yn dda i glirio yr awyrgylch, a chredwyf y cawn am y tro presenol dipyn o ddoniolwch a dyddordeb yn y ffrae, gan fod y maes yn ddigon llydan, a'r ddau ryfelwr yn wyr cyfarwydd a deheuig. Dymunol fyddai gweled y Gwr o'r Gadair yn dyfod allan etc., gan ei fod yn frawd dysg- edig a galluog wedi cael manteision rhagor llawer o honom ag sydd yn sathru eich colofnau y naill wythnos ar ol y llall. Byd gwych i bawb o bob gradd a dosbarth, a gwyliau llawen pan y delo i feirdd, traethod- wyr, o cherddorion Gwlad y Cenin. Braidd nad ellir rhifo cyfarfodydd y Nadolig yn lleng, a thebyg ydyw y bydd y gystadleuaeth yn frwd a thanllyd yn mhob cwmwd a chornel. Mae pwyllgor Seisnig Wrexham wedi cam- synied, debygwyf, drwy gyhoeddi y testynau yn Saesonaeg, a'r Eisteddfod wedi ei chy- hoeddi yn genedlaethol a Chymreig. Gresyn nad allai y genedl gael un cyfarfod Cymreig mewn blwyddyn, heb achos llusgo y Saeson- aeg i'r unig sefydliad cenedlaethol a feddwn. Byddai un araeth Seisnig yn llawn digon gyda'r holl ganu Seisnig a geir yn y cyfarfod- ydd. Mae un wobr yn cael ei chynyg am gyfieithiad i'r Gymraeg o'r Vicar of Wake- field, tra mae y cyfansoddiad hwnw wedi ei Gymreigio gan y diweddar Alfardd, a'i gy- hoeddi yn yr Herald Cymraeg. Nid yw yn debyg y ceir gwell cyfieithiad o ddwylaw y pwyllgor Seisnigyddol sydd yn preswylio y tudraw i Glawdd Offa. Cyfyngant y gwobrau corawl i'r corau Gogleddol oddigerth y brif wobr, yr hyn a dybiwyf sydd yn mhell o fod yn genedlaethol. Dylai yr holl wobrau fod yn agored i bawb o Caergybi i Caerdydd, cyn y gellir ystyried yr Eisteddfod yn wir genedl- aethol. Traethed ereill farn ar hyn er gweled a ellir cael cyfnewidiad.—Yr eiddoch, NAI 'RHEN DDYRNWR.
Temperance Hall, Merthyr Tydfil
Temperance Hall, Merthyr Tydfil CYNELIR EISTEDDFOD FAWREDDOG yn y lie uchod DYDD LLUN Y PASG, Ebrill 17, 1876, pryd y gwobrwyir ymgeiswyr llwydd- ianus mewn Cerddoriaeth a Barddoniaeth, &c. 1. I'r C6r, heb fod dan 100 mewn rhif, a gano yn oreu, Teyrnasoedd y ddaear." Gwobr, 30p. 2. I'r C6r o'r un Gynulleidfa, heb fod dan 40 mewn rhif, a gano yn oreu y Cwmwl," o waith Gwilym Gwent, Rhan 1 a'r 2, o'r Gerddorfa. Gwobr, 8p. 3. I'r C6r o Blant a gano yu oreu, "Follow your Leader, or onward," No. 118, vol. 10, April, 1875. Caniateir i wyth o rai mewn oedran i ganu gyda y Plant. Gwobr, 2p. 4. Am y Farwnad oreu i'r diweddar Barch. R. Ellis (Cynddelw). Gwobr, 3p. 3s. Bydd y gweddill o'r Te3tynau i'w cael yn y programme, i'w gael gan yr Ysgrifenydd am gein- 11 1 iog, drwy y post, ceiniog a dimai. Beimiad y GaniadaAli—J. THOMAS, Ysw., Llanwrtyd. Beirniad y Farddoniacth, Rhyddiatith, a'r Adroddiadau—Parcii. D. T. Williams (Tydfil- n), Merthyr. JOHN Vaug^AN, Pentrebach Cottage, Merthyr. Ysg. 1206
Temperance Hall, Aberdar.
Temperance Hall, Aberdar. 0 dan nawdd rhai o brif Foneddujion y lie. CYNELIR EISTEDDFOD FAWREDDOG VY yn y lie uchod DYDD GWENER Y GROGLITH, 1876, pryd y gwobrwyir ymgeiswyr llwyddianua mewn Cerddoriaeth. Barddoniaeth, Rhyddiaeth. Adrodd, &c. RHESTR O'R TESTYNAU. C'lrimdatth. (t I'r Cdr, heb fod dan 100 mewn rhif, a gano oreu, 'Ar ben mae'r gogoneddus waith." o'r Creation. Gwobr, 30p., ac Oriawr aur (!fold Watch), gwerth lOp., i'r arweinydd. I'r heb fod dan GO mewn rhif, a gano oreu, "YBlodeuyn Olaf," J. A. Lioyd. Gwobr, 10p., a darlun (oil ptdntinjt), gwerth 3p.. i'r arweinydd. I'r Parti o Wrywod, heb fod daii 20 mewn rhif, a, gano yn oreu, Y Wawr," Smart. Gwobr, 3p., a Baton hardd i'r arweinydd. Rhyddiaith. Am y Traethawd goreu ar v Swydd Arch- offeiriadol, o gysegriad Aaron hyd farwolaeth Crist." Gwobr, 3p. Bardd o niaeth. Am y Bryddest Farwnadol oreu, heb fod dan 300 0 linellau, i'r diweddar "Barch. Josuah Tliomas," gweinidog yr Annibynwyr yn Salem, Aberdar, Gwobr, 2p. Bydd enwau y Beirniaid, a'r gwecHill o'r testynau i'w cael yn y programme, yr hwn sydd yn barod yn awr, ac i'w gael ganyr Y sgrifcllyddioll am geiniog drwy y post, ceiniog a dimai.—Dros y pwyllgor, JOlIN DA VIES. 24, Regent street, D. EVANS, 362, Carditf Road, 1136 Aberaman. LLINELL Y "NATIONAL" I NEW
Advertising
YORK. YMa;< y Owmni hwn yn cymeryd arnyut en -L hunain y cyfrifoldeb o insnrio pub un o'r llestri i'r swm o £ 100,030, ac felly, yn rhoddi y sicrwydd goreu i'r ymfudwyr am t u dyogelwch ac y maent hefyd bob amser wedi mabwysiaiiu y llwybr deheuol er mwyn osgoi y rhew a phen- oedd. 1 YR AGERLONGAU MWYAF 0 Liverpool i New York bob dvdd Mercher ? phob yn ail- ddydd Gwener i Boston a New York. Mercher, Tach. 24 vnvv'p Mercher, Rhag. 1 LGYP1 Mercher, Rhag. 8 Yn gadael Queen-town y dyddiau canivnol. Rhedant o Llundain i New York fel hyn HOLLAND Mercher, Tach. 24 Mercher, Rhag. 1 GREECE Mercher, Rliag. 8 Y mae cyfleusderau saloons yr Agerlongau hyn ym dra rhagorol, trwy fod y state-rooins yn eaii" an- arferol, ac yn agoryd i'r saJoons, pa rai sydd vn r poop ar y deck. Pris y cludiad, 10, 12, 15, a 17 gini, yn ol cyf- leusderau y state-room. Pamb yn cael yr un luitet yn y saloon. Pris y cludiad yn y Steerage yw £ 5. Return Tickets—24 Guineas. Y mae eangder, goleuni, ac awyr y steerage, ya anghydmarol, ac y mae digonedd o ymbortli jrcM. yn cael ei barotoi gan Stewardiaid y Owmpeini ae ni cheir cludiad rhatrach gydag unrhyw linell Gall ymfudwyr bookio drwodd i bob parth o Ga-nada, ar lalaetliau Unedig am brisoedd iseL Am fanylion pellach, ymofyner a'r NATIONAL STEAM SHIP CO., 23, Water-street, Liverpool neu at SMITH, SUNDTOS. & Co., Agents, 33, Grace- church-street, London. Neu at JOHN THOMAS, 1, Prospect Place, George Town, Tredegar; GEORGE OWEN" Upper High-street, Rhymny; HENPY A* LEWIS, Newtown, Ebbw Vale: D. THOMAS Clydach and Brynmawr; HERBERT T. REES* Pentre Ystrad, Rhondda Valley; neu at F. W. CAUNT. 4, Whitcombe-street, Aberdare. L.36& TNMAN ROYAL MAIL TNMAN ROYAL MAIL fluffs, i-STEAMERS, LIVERPOOL to NEW YORK. SDvddiau Maiortk a Iau. ALOON,_12, 15, 18 a 21 Gini; Steerage am brit _llawer is. nag arferol, gyda digonedd o vm- borth wedi ei goginio yn dda, a lleoedd cyfleus. Trosglydir Teithwyr y Steerage i Boston a Philadelphia heb dal ychwanegol. Booldr teith- wyr i unrhyw ran o'r Taleithiau o Canada am brisiau neillduoL Rhoddir tocynau a phob cyfarwyddyd gan WILLIAM INMAN, 22, Water-street. Liverpool, nets rywrai o oruchwylwyr yr Inman Line. L.153 LLINELL Y "WHITE STAR" 0 rHCk> UNITED STATES MAIL STEAMERS. O Liverpool i ac o New York. A^PTA^PV^ Iau, Tach. 18 Dydd Iau, Tach. 25 RFPTTRT TP £ yd,d, lau' Rhas" 2 "U BLIC Dvdd Iau Q GERMANIC Dydd Iau? RhafT 16 0 NEW YORK. Dydd Sadwrn, Tach. 6 BALTIC Dydd Sadwrn, Tach. 13 Gan alw yn Queenstown, i dderbyn teithwyr, as ddydd Gwener. Y mae yn yr agerlongau hyn. gyfleusderau neillduol i gaban-deithwyr; y mae y saloon, state-room, ystafell smocio yn midships. Y mae meddyg a goruchwylwyr ar bob Hong. SALOON,—1.5 gini a 18 gmL Return tickets am OD gini. Steerage, at reduced rates. Am hysbysleni a manylion pellach, ymofyner a •p T j* T ^^AY, IMRIE, & Co, i-ast India-avenue, London, a 10, Water-street, Liverpool. L.369 AT YMFUDWYR- TO EMIGRANTS. General Agent to all American and Australian Sailing Ships and Steamers. NM. JONES (CYMRO GWYLLT), Passenger Broker, 34, Union-street, Liverpool, Gor- wyliwr ir Llinellau canlynol :—Inman Line, Cunard Line, Guion Line, Allan Line, National Line, White Star Line, Dominion Line, State Line, and American Line. Gan fod yr Agerlongau uchod yn hwylio i wa- hanol borthladdoedd yn y Talaethau Unedig, a'i Tiriogaethau Prydeinig, gall yr ymfudwyr gael} cyfarwyddiadaugofynol drwy anfon Uythyr i'r cyfeiriad hwn. Caiff pawb a ymddiriedo eu gofai iddo y sylw manylaf. Cynorthwyir y Cymm gan Mr. JAS. REES, brodor o Merthyr Tydfil. Y mae genym dy pr.-ivate eang a chyfleus a cyfarfod ag angenrheicliau y fasnach. Cofier y Cyfeiriad,— N. M. JOUES (CYMRO GWYLLT), Tk a r< 34, Union-street, I.iverpooL D.o. uellir yrJioli yn Aberdar a John James Crown Hotel,