Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
ESTABLISHED 1868. Richard THOMAS, PRACTICAL BOOKBINDER, AND BINDER To THE TRADE. 4, ALBERT STREET, MARKET SQUARE, MBRTHYR IWDFIL. ^2 'JUDAS lACCAB/EUS!' J U Dydd Nadolig XJ 3) yn Aberdar D A Oor 0 200 A S Orchestra GyjlawnI S El CrUaAg MvCoAg^nS'.
[No title]
BWBDD Y GOLYGYDD. GARTHWYSON-" Pen y gynhensyddfel ped agorid drjrae."—ac nid ydym yn gweled y gwna cy- Jioeddi eich llythyr ddim amgen nag arwain i ddadl anorpiien ac anfuddiol. T.—Gun eich bod chwi a'ch gxorthwynebydd eisioes wedi trin y pwnc mewn dadl mor helaeth, gwell fyddaiei yadael yn y fan lley mae. •JONATHAN.—Mae y ffrwywd annyddorol yn awr wedi terfynu, felly, ofer cyhoeddi eich sylwadau. 'CTWILYM.—JSfis gallwn gael hamdden i chivilio y fasged am eich llythyr. •JOHN JAMES.-Rhy am'gylchynog ac annyddorol i'w gyhoeddi. Derbyniwyd.—Ymdeithydd, Arnicas, Cynonfryn, Barcut, Atebion i Ap. Tryfan, Ornicron, Gwr o'r Felin, Edmygydd, Carwr ei TViad, Llythyr Arglwyddes Llcmofer, David Jones, Aneurin, Nodion o Lan Derwent, Hen Weithiwr, Hen Arglwyddes Llcmofer, David Jones, Aneurin, Nodion o Lan D&rwent, Hen Weithiwr, Hen Loffwr.
•BA&ANFYDDIADAU STANLEY I…
•BA&ANFYDDIADAU STANLEY I Y mae ein cydwladwr enwog, Mr. Stanley, yn profi ei hun yn olynydd teilwng i'r hyglod Dr. Livingstone, ac y mae ei enw eisioes yn rhesu gydag enwau prif ddarganfyddwyr y byd. Prif amcan ei ymgyrch anturiaethus yn nghanolbarth Affrica ydyw olrhain y Llyn Victoria Nyanza, yr hwn a ddarganfyddwyd gyntaf gan Speke a Grant. Gwir yw fod gan Stanley fwy o'r adtioidau a'r cyflenwadau hyny ag sydd yn angeurheidiol i'r dar- ganfyddwr, nag oedd gan yr holl ddargan- fyddwyr a fuont o'i flaen yn Affrica: ond, 'clon wired a hyny, rhaid ei fod yn ddyn o'r penderfynolrwydd cryfaf. yn ddyn o'r medr arweinyddol a llywyddol perpheithiaf, cyn fyth y gallasai gario ei ystorfeydd mawrion trwy ddiffeithleoedd a dyfn gorsydd a fforestydd canolbarth y cyfandir dieithriaf yn y byd-eu carlo trwy nos-wledydd heb droedlwybr drwyddynt, heb son am brif- 1fordd-i gyd yn ddyogel a di goll hyd at lanau dyfnbell y Yictoria Nyanza. Rhaid i ni hefyd ddal mewn cof fod y llwythau y tramwyai efe trwy eu gwledydd yn far- bariaid, a llaweroedd o honynt yn elynol iawn, fel v gorfu i'r darganfyddwr droi yn rhyfelwr ami i dro, ac ymladd brwydrau poethion. Llwyddodd hefyd i gario llong nid bechau, y Lady -Alice," yn wyneb yr holl anhawsderau hyn, bob cam o Zan- zibar, a'i launchto hi yn fuddugoliaethus ar donau dycithr v Victoria Nyanza. Y mae y gorchestion hyn ymrona bodyn anghred- -adwy, ac yn ymylu ar yr anmhosibl a'r rhamautus, ond y moent wedi eu cyflawni, er syndod i Ewrop, America, a'r holl fyd. Wedi cyrhaedd y Llyn mawr, a sefydlu ei wersyll ar ei lan, hwyliodd y darganfydd- wr dewrfryd, gyda rhyw ddwsin o bigion ei wyr, i olrhain y glanau: ond trodd y "Llyn" yn fuan yn "For" mawr a llydan, a'i giifachau a'i aberoedd ymron yn ddirifedi, a'i ddyfroedd yn ddigon dyfuion i gludo llynges Prydain Fawr yn esmwyth ar eu mytiwes. Pwy all draethu y dyfodol. gogoneddus ag sydd yn awr yn cael ei agor o flaen Affrica, yn ngwydd byd synedig! Cyn bo hir iawn bydd llyngesoedd o longau marsiandol yn hwylio ar hyd y Mor mawr hwn, a phorthladdoedd eang a dinasoedd poblog yn blodeuo ar ei lanau. Pan ysgritenodd Stanley ei lythyrau diweddaf, yr oedd efe wedi olrhain glanau y Mor amgylch ogylch, oddigerth darn byehan ar •un ochr iddo: ac, yn mhell cyn hyn, y mae yn bur sicr ei fod wedi olrhain yr ochr hono hefyd, fel y gellir dysgwyl yn ei lythyrau nesaf amlinelliad perphaith o'r tir-for eang i gyd. Yn wir, y mae ei fesuriadau mor wyddonol a pherphaith, fel y mae daearvddwyr hyfedr yn Llundaiu -msioeawedigalluilMio map cynawn or holl Victoria Nyanza, oddigerth yn unig yr "ochr" grybwyliedig. Gellir gweled y Ma/p dyddorfawr hwn yn y Daily lelsgraph am ddydd Mawrth, yr 16eg o'r mis hwn; a gall y neb a ewyllysio gael yr ol-rifyn dim -ond anfon i'w archu i'r Swyddfa. Darganfyddodd Stanley afon fawr o'r -enw Shimeeyu yn llifo o'r Deau; ac y mae yn filltir o led, hyd yn nod ar y tymor sych, yn y man y mae yn ymarllwys i'r Nyanaa! Ymddengyg mai yr afon hon ydyw flfynonell uchaf a phellaf y Nile fawreddog, a phrif feeder y Victoria Nyanza. Y mae, bellach, bron yn ddiameuol mai y mor hwn ydyw prif gronfa (reservoir) y Nile. Ar ol gorphen.ei olrheiniad o'r mor hwn, bwriadai Stanley groesi drwodd, a'i "Lady Alice" gydag ef, i olrhain yr Albert Nyanza, Llyn neu For mewn-dirol arall, am yrhwn ni wyr daearyddwyr yn bresenol nemawr ddim. Ond tybiry bydd Stanley wedi cael ei ragfiaenu yn hyn o fwriad gan y dewr Colonel Gordon, vr hwn sydd, gydag ereill ddarganfyddwyr, ar yr 44 Upper Nile," a'r hwn sydd wedillwyddo i weithio ei agerlong i fyny uwchlaw y prif raiadrai ar yr afon-uwehlaw y chief rapids?' a dywedir fod y ffordd, aroi. ap myned uwchlaw y" priruipal rapidsyn lied ddirwystr- hyd yr Albert Nyanza. Pwy wyr nad yw y "Lady Alice" Stanley,- ac agerlong Gordon, y fynud hon, yn cyd- hwylio hyd yr Albert-For, wedi pender- fynu am byth ddirgelwch daearyddol penaf y byd, sef y cwestiwh oesol o barthed i Ffynonau y Nile!" Dyddorus dros ben ydyw desgrifiad Stanley o'i gyfarfyddiad a Mtesa, brenin galluog iawn, a thra goleuedig, hynaws, a boneddigaidd yn ei ymddygiad. Teyrn- asa Mtesa ar diriogaethau eangfawr, a chyfrifir* fod rhifedi ei ddeiliaid yn ddwy filiwn. Y mae ei brifddiaas yn sefyll ar lan Ogleddol y Victoria Nyanza. Dy- chwelwyd y brenin a'i ddeiliaid, ychydig amser yn ol, oddiwrth baganiaeth at Faho- metaniaeth, trwy offerynoliaath Arab cy- foethog a selog, o'r enw Khamis Bin Abdulluh. Er gwaeled yw crefydd Maho- met, v mae yn rhagori yn fawr ar eilun- addoliaeth y paganiaM, ac y mae wedi lled-oleuo deall a diwygio moesau y wlad. Ond, yn ei ymddyddan a'r brenin, clodd- iodd Stanley o dan sylfeini Mahomotun- iaeth, ac argyhoeddodd ef o dra ragoriaeth y g efydd Gristionogol. Archodd y brenin ar fod i'r Saboth Cristionogol gael ei gynal trwy ei holl deyrnas; a mynodd baentio ar astyllen to Weddi yr Arglwydd," a'r "Deg Gorchymyn," a'r euraidd arwyddair, Gwnewch i ereill fel y dymunech wneuthur o ereill i chwi," fel y gallai efe eu darllen bob dydd. Amlygodd y Brenin awyddfryd cryf am i Brydain ddanfon Canadon i'w wlad, i'w addysgu yn mhell- ach yn y ffordd hon." Y mae yn fodd- Ion roi pobpeth i'r Cenadon os deuant i'w deyrnas—tai, tiroedd, anifeiliaid, ifori, &c. Gwna Stanley yr apeliad mwyaf taer a chynes at gydwybod Gristionogol Prydain Fawr, a diameu genym yr anfonir allan yn fuan Genadaeth Gristionogol o'r fath ag sydd yn rheidiol i'r bobl hyn, ag y clywir Efengyl y deyrnas yn cael ei pherseinio o amgylch ogylch i'r Mor dyeithr ag y mae enw ein BreniDes dirion arno! Y mae perchenogion y Daily Telegraph a'r New York Herald yn haeddu y clod uchaf am eu dyngarwch digyffelyb yn anfon Mr. Stanley allan i Affrica, a'i gyflenwi, ar eu traul unol eu hunain, a phob darpariaeth angenrheidiol. Dyma y prawf godidocaf a gaed eto o Allu y Wasg." Uigon tebyg y bydd Affrica dan fwy o rwymedigaeth ddiolchus i'r ddau bapur hyn, nag i holl deyrnasoedd Ewrop ae America gyda'u gilydd.
CRWYDRIAID SANCTAIDD.
CRWYDRIAID SANCTAIDD. Deheubarth America yn gwrthod rhoi derbyniad i offeiriaid Jesuitaidd! Pwy a gredasai hyn ychydig flynyddau yn ol! Ond y mae y peth yn ffaith. Wedi i Guatemala eu bwrw allan o'i therfynau, hwyliasant eu camrau pererinol tua chy- feiriad gweriniaeth Costa Rica, ond ni fynai y weriniaeth mo honynt* ar unrhyw gyfrif yn y byd, a chauwyd y drws yn eu herbyn fel y gwneir y nos yn erbyn drwg-weithredwyr. Ymgasglodd llu mawr o Rydd-Saerniaid i wrthdystio yn erbyn eu dyfodiad i'r wlad, a chydunodd y Llywydd a'r Senedd i_roi ataliad arnynt, oddiar yr ystyriaeth nad oeddynt yn ddynioti addas i droi mown cymdeithas. Meddylier am gyfundrefn grefyddol, ie, cyfundrefn an- flfaeledig," yr hon y mae ei gweinidogion yn ddynion rhy anfad i hyd yn nod drigol- ion Deheubarth tywyll America eu derbyn i'w plith! Pe gwnelsid hyn a lladron tir, neu a mor-ladron, ni fuasem yn synu: ond dychrynol ydyw meddwl fod yn rhaid gwneyd hyn ag offeiriaid crefydd, mewn trefn i ddyogelu purdeb cymdeithasol a rhyddid gwladol. At.fonwyd swm o arian i'r pererinion, rhag iddynt newynu ar y ffordd, ond gwaharddwyd hwynt yn aw- durdodol rhag croesi y terfynau. I ba le yr ant bellach? Os ffaelant yn mhobman arall, deuant i Loegr wrth gwrs—rhaid i ni, rwyfodd, dderbyn pob sothach. Ouid rhyfedd. ydyw meddwl fod cyfundrefn sy'n cynyychu offeiriaid mor wrthodedig gan gymdeithas, yn llwyddo mor fawr yn Mhrydain. oleuedig! Dywedir fod y Pab- yddion yn myned i adeiladu eglwys yn Llundain yr hon a .gostia dri chan' mil o bunau! A ydyw Gwareiddiad yn myned yn ei wrthol yn ein plith?
NODIADAU OYFFRBDINOJi.
NODIADAU OYFFRBDINOJi. Yn mhlith y digwyddiadau diweddaraf y. ceir priodas Miss Edith Wynne: Cymraes ac ,sydd wedi enill anrhydedd a dyrchafiad yn y byd ceid(frol, ac adnabyddir "Eos Cymru," pfincerddes y genedl Gymreig, yn nriilith holl- genhedloedd y byd gwareiddiedig. Priodododd Edith Wyn, Mae hyny'n ddiamheuol; A dywed pawb fel hyn— Hi gafodd ddyn rhagorol:" Cyfreithiwr mawr ei ddawn, Yn llawn o bob dillynwedd, Bydd ef yn gydmar iawn I Edith Wyn siriolwedd. Erteithiogwiadathref Angorodd yn Armenia, A byclded gwenau'r nef Ar brif gantores Gwalia Pob calon llawn o dan Cymreig ddymuna'u llwyddiant, Yn rhinwedd Dwyfol gan Yr elont i ogoniant. Maddeued Islwyn. i mi am fyned i mewn trwy ddrws y cefn; ond, gan nad ystyriwyf fy hun yn perthyn i'r urdd farddol, nid yw yn gymaint pwys a phe buaswn yii, un o'r beirdd. Talodd Gwr yr Hafod oleu" deyrn- ged o barch i'r amgylchiad, yn y Faner am Tachwedd yr 17eg, trwy ysgrifenu erthygl gyfan ar helynt y briodas. Talodd y papyrau Seisnig sylw i'r amgylchiad, gan ddatgan clodydd Miss Wynne fel Cymraes o nod- weddion gwir wladgarol. Er codi o honi i sylw y'byd cerddorol, ac enill enw na ddiflana am oesoedd can, nid anngiiofiodd y wlad a'i mhagodd, ac itid wyf yn meddwl fod neb all ddweyd ddarfod iddi gymaint ag unwaith ddiystyru y genedl Gymreig. Natur a clialon Gymreig sydd ganddi, a phrofodd hyny fil- waith drosodd. Nid yw yn debyg y gwna hi byth annghofio y wlad a'i mhagodd ac hen gyfeillion boreu oes. Prawf o ymlyniad greddfol Miss Wynne ydyw, na ddarfu iddi annghofio ei mam, er codi o honi yn uchel yn y byd, yr hyn. a brawf yn mhellach na fydd iddi byth annghofio Gwlad y Bryniau. Mae y llanc, neu y ferch, alio galedu digon i an- nghofio ei fam yn sicr o fod yn ddigon o ffwl i annghofio cartref, a gwadu ei enedigol wlad, 0 9 ao yn wir, ychydig iawn yw y golled ar ol y cyfryw, yn ol fy marn fach bersonol i. Dywedir fod yn y byd yma agos cymaint o opiniynau ag sydd o benau, a chan fod y byd yn ddigon helaeth, chwareu teg i bawb i gael yr hyfrydwch o feddwl fel y myno; ond gyda Haw, rhaid dweyd mai cydymuniad yw y gallu m ,vyaf nerthol ar y ddaear. Lie y byddo dynion yn unfryd-unfarn ar ryw bwnc, mwyaf tebyg ydynt o lwyddo i gyrhaedd yr amc.an mewn golwg, yn liytrach nag wrth ymgroesi y naill a'r llall. Gallu a dylanwad Prydain a orphwys yn fwyaf neillduol yn nghyd-ym- nniad y fyddin a'r llynges, a'i mawredd mas- nachol; ac asgwrn cefn y cyfan ydyw y gweithiwr, a diamheu genyf nad efe ydyw yr un mwyaf esgeulusedig o bawb. Paladr mas- nachol ein gwlad ydyw y dosbarth gweithiol, a gresyn nad ellid cael y cyfangorff mawr, ar dir a mor, i weled y priodoldeb o gyd-ymuno, nid er mwyn rhyfela, ond i amddiftyn hawliau cyfiawnder. Dichon y claw y dydd pan welir cyfiawnder yn cael y sedd a deilynga, ac er cyrhaedd yr amean hwn, rhaid wrth gyd- weitlirediad pwyllog ac ystyriol i gael hyd i'r sylfaen gadarngryf. .ry Daeth i fy Haw yn ddiweddar." Gân y Tywysog," gan Emlyn Evans; y geiriau Cymreig gan Mynyddog, a'r Seisnig gan y lienor dysgedig, .Titns Lewis, Ysw. Cenir y gan hon, fel y ddwy arall o'r gyfres, gan Eos Morlais, a diamheu y cyduna y darllenydd i ddweyd nas gellid gwell yr Eos i ddwyn allan o flaen y byd ganiadau ardderchog Emlyn. Odid na fydcLeich adolygydd yn taflu ei linyn mesur drosti yn fuan, pryd y cawn ei farn griticyddol ar y gerddoriaeth.—Yr eiddoch, NAI 'RHEN DDYRNWR.
• Abercarn
• Abercarn Traddodwyd darlith yn nghapel yr An- nibynwyr y lie uchod nos Iau, Tach. 18fed, gan y Parch. T. Levi, Abertawe, ar "Ym- weliad a'r Aipht a Chanaan." Cymerwyd y gadair gan Mr. Williams, gweinidog y die. Yr oedd y darlithydd yn ei wyliau goreu. Cawsom ddarlith ragorol, a dymunem gael ei wrando eto. W. B.
Garth, Maesteg.
Garth, Maesteg EBENEZER.—Nos Sul, Tachwedd 7fed, cy- naliodd yr Ysgol Sabothol perthynol i'r capel uchod ei chyfarfod llenyddol. Cymerwyd y gadair am chwech o'r gloch gan Mr. E. Edwards, blaenor ffyddlon a gweithgar iawn yn yr eglwys. Yr hwn a gyilawnodd ei swydd yn anrhydeddus. Yr oedd y plant yn canu ac yn adrodd eu darnau tlysion a byrion yn dda odiaeth; ac yr oedd areithiau y brodyr J. Jones, Morris Williams, William Treharne, Phillip Phillips, a Evan Jeftkins, yn alluog a hwylus. Dangosodd yr ysgrifen- ydd, R. Morgan, ddoethineb mawr yn nhrefn- jad y programme, fel yr oedd y cyfarfod yn gwella wrth fynod yn mlaen; ac yr oedd cor y plant yn canno dan arweiniad Mr. Isaac Evans yn soniarus a bywiog. Terfynwyd y cyfarfod yn y fath deimlad cynes, .fel mai dymuniad pawb wrth yinadael oedd cael cyfarfod cyffelyb yn fuan eto.
[No title]
Arglwydd Byron, mewn nodyn cyfrinachol at gyfaill, a ddywedodd,—' '.Mae Boneddiges t,Y wedi bod yn beryglus o wael, ond hyn rydd gysur i chwi, mae'n beryglus o iach eto." "A ydych yn credu mewn ysbrydion?" meddai boneddiges wrth Coleridge. Na, 'r ydwyf wedi gweled gormod i gredu yn- ddynt," oedd yr ateb.
YR ARSYLLFA.
YR ARSYLLFA. TACS. 25FED, 1875. Daeth ein haelod anrhydeddus, MR. HENRY RICHARD, yn ei lawn arfau yr wythnos ddiweddaf, ac areithiodd yn y gwahanol fanau gydag arddel- iad mawr. Yn wir, clywsom ddynion galluog a phrofiadol yn traethu eu barn ei fod yn eu bryd hwy yn gwella fel areithiwr. Y mae yn feistr ar iaith fain y Saeson, ac y mae yn troi ei holl adnoddau eyfoethog yn ufudd at ei alwad. Cafodd Dadgysylltiad dipyn o sylw ganddo, ac y mae hwn yn un o'i hoff bynciau. Y mae wedi pregethu llawer ar y testyn hwn yn ystod ei oes, ac wedi cydweithio a Miall ac ereill yn ei blaid. Tarawyd ni a syndod a gofid mawr ar dderbyniad y newydd am farwolaeth isydyn ac annysgwyliadwy MR. HUGHES, FLEUR-DE-LIS, yr hyn a gymerodd le ycliydig ddyddiau yn ol. Cawsom y fraint o aros dwy noson dan ei gronglwyd dro yn ol, ac yn sicr ni chyf- arfyddasom erioed a. dyn o'i sefyllfa ef mor gyflawn o wybodaeth yn mhob cangen. Yr oedd wedi darllen, bron, yr holl feirdd a'r prif ysgrifenwyr Seisnig, ac yn orgyfarwydd yn hanes bywydauprifwiadweinwyr Prydain Fawr. Deallwn iddo fyned i'w wely yn y mwynhad o'i iechyd arferol, a chlywyd ef yn ocheneidio. Pan aed a goleu i'w ystafell, caf- wyd fod y wreichionen fywiol wedi dianc. Y mae yn d.- byg mai stroke o ryw natur a gafodd. Yr ydym yn dwys gydymdeimlo a'i Weddw a'i berthynasau anwyl yn eu trallod a'u galar, Bydded nodded rhagluniaeth nef iddynt yn yr ystorm fawr.
Prifysgol Cymru"
Prifysgol Cymru Yr ysgoloriaethau cerddorol (gwerth ugain punt y flwyddyn, am dair blynedd) a enillwyd gan yr efrydwyr canlynol Cyfansoddiaut-D. Jenkins, Trecastell; ac uchel ganmoliaeth i M. Edwards, Llanafan. Lleisiaeth a chynghanedd—R. C. Jenkins, Llanelli; uchel ganmoliaeth i W. Hopkins, Mountainash. Perdoneg a chynghanedd — Miss Hattie Davies a Gershom Davies, America, yn gyf- ochrog; uchel ganmoliaeth i Miss Price, a D. Parry, Llanberis. Lleisiaeth a chynghanedd — Miss Annie Williams, Caerdydd uchel ganmoliaeth i Miss Cordelia Edwards. EniUwyd Ysgoloriaeth (gyfyngedig) Ffes- tiniog gan Miss Maggie Edwards.
Y Bwrdd Cymodol.
Y Bwrdd Cymodol. AT LOWYR A MWNWYR MYNWY A DEHEUDIR CYMRU. GYDWEITHWYR.—Gwelir yii ol y cytundeb a roddir isod ei fod wedi ei drefrtu rhwng cynrych- iolwyr Cymdeithas y Meistri a ninau, eich cynrychiolwyr chwi, fod yr holl gytundebau sydd yn bodoli yn bresenol i derfynu yn eil heffaith ar yr 31ain o Ragfyr, 1875 a bod yr holl gytnndeban dyfodol, os yn angenrheidiol, i derfynu trwy fis o rybudd, i'w roddi ar y dydd cyntaf o bob mis, i ddechreit ar y dydd cyntaf o Ionawr, 1876. Yn y cyfamser, yr ydym yn erfyn barn gyilafareddol y canolwr i benderfynu yr hur sydd i fFurfio safon i'r raddfa sydd i'w mabwysiadu er ein llywodraethiad dyfodol. Ac ni ellir cyfnewid y cyfryw raddfa gan y riaill na'r llall o'r pleidiau heb chwe' mis o rybudd i dynu oddiwrth egwyddor y cyfryw raddfa symudol. Amcan y oytundeb a roddir genym isod yn syml ydyw sicrwydd cydgyfranogol meistri a gweithwyr yn y dyfodol. Felly yr ydym yn gofyn i chwi arwyddo yr unrhyw mewn llyfr a ddarperir wrth y glofeydd. Fe fydd y perehenog, llywodraethwr, neu oruch- wyliwr i arwyddo yr unrhyw. Deisyfir arnoch, er mwyn amcanion a manteision cydweithrediad, i fod yn unfrydol fel cortf o weithwyr yn y weithred hon, yn gymaint ag y bydd yr un mor fanteisiol i chwi gwympo i mewn a'r drefn. (Arwyddwyd), HENRY MITOHAUD, W. ABRAHAM, DAVID MORGAN, JOIIN PROSSER. Cymeradwywyd gan y goruchwylwyr presenol yn y cyfarfod heddyw. PHILIP JONES, ISAAC CONNICK, SAMUEL DAVIES, GEORGE COLES, JAMES WINDSOR, W. WILLIAMS. W. WILLIAMS. Y CYTUNDEB. Cofnodiad o gytundeb awnaedheddyw, yr 22ain o Tachwedd, 1875, rhwng y personau y mae eu henwau yn gynwysedig yn y chaneg-len (schedule) gyntaf. a ysgrifenir yma yn olllaw, y rhai ydynt aelodlu y pwyllgor unol pAnnJerHg I gario allan y cytundeb, yn ol ila-\ii*a gyfeirir ato yma yn y rhan gyntaf, y person y mae ei arwyddnod yn yr ail ganeg-leni(selieditle) a gyfeirir ati yma yn olllaw, ydyw perchenog, goruchwyliwr, neu ly wodraethwr glofa a chanddo awdurdod i gyfiogi gweith- wyr i'r unrhyw, neu i arwyddriodi y cytundeb hwn o'r ail ran. Y personau y mae eu henwau yn gy- nwysedig yn y drydeddJ ganeg-len (schedule) a gyfeirir ati yma "Yn ol llaw, ydynt weithwyr cyflogedig y lofa. a grybwyllwyd ddiiveddaf o'r drydedd ran :-Lle, dan gytundeb yr aed iddo ar yr 28ain o Fai, 1875, rhwng Pwyllgor Glofeydd Cymdeithasol Mynwy a Deheudir Cymru a. dir- prwyaeth o weithwyr y glofeydd yn y. cyfryw gymdeithas, ac a ad-drefnwyd dnvy gytundeiJ arall dyddiedig Tachwedd yr 28ain, pryd y cytun- wyd fod unrhyw gyfnewidiad yn yr huriau yn y cyfryw lofeydd, ar derfyniad tri mis o'r 31ain o Fai diweddaf, i ymddibynu ar raddfa huriau symudol, i'w llywodraethu gan bris gvverthiad y glo y ddyfais o ffurfio y cyfryw raddfa i gael cytuno arni gan bwyllgor unol o ddeg o bersonau, pump i gael eu nodi gan y meistri a phump gan y gweithwyr, y cyfryw bwyllgor i eistedd cyn y byddo un rhybudd i'w roddi am godiad neu ostyngiad; a phe byddai i'r cyfryw bwyllgor fod yn analluog i benderfynu ar safon dyfais i'r cyfryw raddfa o hur- iau symudol, neu unrhyw fanylwch perthynol iddi. fod datodiad y cyxrvW gwestiwn i gael ei roddi i ganolwr, barn yr hwn sydd i fod yn derfynol. Ac y mae i fod yn delerau yr unrhyw ddirfais, y gall y naill neu y Hall o'r pleidiau derfynu y cytundeb o tani drwy roddi chwe' misjo rybudd. Ac fod y pleidiau hyn perthynol i'r r»ian gyntaf, fel yjr addefant yoia, ac y.lynt wedi eisted i ..mryw weithiau ar y mater dan sylw, ac mewn eyd.)rtiiad a'r cytundeb y inrfa rhy)uiit).i i ,v rhoddi er ter- d,3b liy fynu y contract:: sydd ya 1) Jl Hi yn brese.>i ia y glofeydd cyindsithisol ar yr '.L iia o Ragfyr, io75; ond y mas yn fwriadol i'r /waitn gael ,ei gario yn mlaen fel arfer yn y cyfry v i:>fjydd. i^ally. cytunir yma gan y pleidiau cynwy^jdig yu vr ail a'r drydedd ran, y bydd iddyas •ilerbyo -L; aros wrth ddyfarniad y cyfryw nwyligor rieu ganolwr, fol y gall yr achtw fod ar y mater o'u blaenau, heu y naill nauV i ail o honynt; a bod y personau cymvysedig, pleidiau yn y dryd i Id ran yma, yn cytuno i barhau i weithin yn y I" —— ar, ac wedi y dydd o/ntai o ionawr nesaf, yn ddarorftyhgedig i iis o rTIllUJr ddau tu, i'w ar y dydd cyntaf, as i d<srfyua ar y dydd ¡iaf o unrhyw iis, yn ol yr huriau fydd gymhwysiadol o bryd i bryd yn y cyfryw ij.a. o'r dydd eyntat o Ionawr nesaf, o Jan anrhyw fath ddyfais neu raddfa, neu dan bjnd irfynia 1 neu ddyfarniad y pwyllgor crybwyliedig, neu ganolwr. (Arwyddwyd) D. DAVIS, Cadeirydd W. MEXELAUS W. S. CAKTWITI(}H:R W. THOMAS LEWIS T. CHALONER SMITH WI LI.IAST ABRAHAM, IS- Gadjirj'dd HY. MrretfAiiD J IHN PJUWSEH V -R DVVLU .VIOIIAIN THOMAS HALLIDAY.
Advertising
Eisteddfod Iforaidd Aberdar. CYNELIR yr EISTEDDFOD uckod DYDTt LLUN SIJLGWYN, 187*0, dan na.wdd Adran Iforaidd Aberdar. Testyn Ychwanvjo!. Am y 12eg Englyn Unodl Union goreu i'r di- weddar "Cynddeiw," gwobr 3p. 3s. UEIKNIAID:— Y C'-nu—J. Parry, M.B., Abei-ystwith, a John Thomas, Blaenanerch. Y Farddonkveth—Parch. W. Thomas (Islwyn). Tracthodau—Parch. J. JOllr; (Mathates). Ymddengys hysbysiad cyfiawn yn fuan. Arwyddwyd ar ran y pwyllgor, ,.1" D. R. LEWIS, YRg., 1144 33, Wind street, Aberdar. Libanus, Pontardulais. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod c uchod DYDD NADOLIG, 1375. ,Prif ddarn CÔI,twl, Clyw, (*! Dduw, fy llefain," o'r Gerduorfa, rhif 10 a 11. Gwobr, 3p Anfonir p-, o:jraramc, yn cynwys pob many lion pellach, drwy anfon lie. at yr ysgrifenydd, REES HARRIES. Grocer, &0" 1193 Pontardulais, R.S.Or Ysgoldy Brutanaidd Clydach. BYDDED hysbys y cynelir EISTEDDFOD yn y lie uchod DYDD SADWRN, UHAGFYR 18fed, 1875, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol mewn Oaniadaeth, Barddomaeth, &c. PRIF DESTYNAU. 1. I'r' C6r, heb fod dan ddeg ar hugain o rif, a gano'n oreu "Ntmt y Mynydd," o'r Cerddor Gymreig. Gwobr, 4p. 2. Eto, i'r Cor heb fod dan yr un rhif a gano yn oreu "Hymn Marseillaise," o'r Cerddor Cymreig. Gwobr, 2p. 3. I'r Cor o Blant. heb fod dan ugain o rif, a. gano'n oreu, "Sweet by and by," o SanTcey and Moody's Songs. (Caniateir i Chwech mewn oed i ganu gyda'r Plant). GVlObr, Ip. 4. I'r Fife and Drum Band a chwarcuo yn oreu "Glamorganshire March." Gwobr, lp. 10s., a Fife hardd i'r Arweinydd. BEIRNIAD. 4-Air. j. H. ROWLANDS (Asaph Glan Dyn), Ystalyfera. Y mae y programme yn awr yn barod, ac i\v gael, yn ngliyda'r holl o'r ilyfrau, trwy anfon at yr ysgrifenydd, W. GRIFFITHS. ] 176 Bookseller, Clydach, Swansea. Eisteddfod Gadeiriol Treherbert. CYNELIR yr Wyl' Flvnyddol uchod yn y PUBLIC HALL. DYDD GWENER Y GROGLITH, 1876. PIUF DDARNAU. Cerddoriaeth—I'r cor o'r un gyiralleidfa, heh fod dan 60 o rif, a gano ya oreu Y Glowr (G v^ilym Gwent), buddugol yn Eisteddfod Ton- ypandy, 1874. I'w chael gan y cjdsoeddwi-, I. Jones, Trelierbert. Gwobr, 20u, a medal aur i'r arweinydd. I'r COr. heb fod dan 50 mewn rhif, a gano'n. oreu "FyNgwlad" (J. Thomas, Llanwrtyd). Gwobr, lOp. 1'1' Parti a gano'n oreu "Deweh i'r Gild" (Gwilym Gwent). Y gercldoriaeth i'w gael gan 1. Joijes, Trelierbert. Gwobr, 2p. I'r hon a gano'n oreu Gyda'r II-Tawr Thomas). Gwobr, 10s. 6e. I'r hwn a gano'n oreu Y Bachgen Dewr (J. Parry). Gwobr, 10s. 6e. Barddoniaeih—Am y Bryddest oreu ar Gor- esgyniad Palestina o dan Joshua." Gwobr, 5p. a chadair hardd, Ehyddiaeth—Am y Traetliawd goreu ar Ber- yglon yr oes bresenol." Gwobr, 2p. 2s. BEIRNIAID. Y Gerddoriaeth—PENCERDD AMERICA. Y Farddoniadh, <•<—MYNYDDOG. 'Cynelir CYNGIIEIlDD mawreddog yn yr hwyr. Yr elio I fyned at Brif ysgol Cymru.- D. P LJ-.VVI?, D mj-ifriES-H treet, ) iT G. M. REES, Station-street, i j-BSn- 116'9 CHWEGHED GYLGHWYL LENYDDOL Silo am, Gvfeillon. BYDDED hysbys y cynelir yr uchod DYDIJ GWENER Y GROGLITH, 1870. Gwel y rhifynau dyfodol am liysbysiad pellach.—Dros y Pwyllgor, W. B. ITHYS, Ysgrifenydd, 1183 Gyfeillion, Pontypridd. Yn ngwyneb haul a llygad goleuni." MUSIC HALL, ABERTAWE. BYDDICD hysbvs y cynelir EISTEDDFOD fAWEED EKi.Gr DYFFRYN TAWEyny Neuadd uchod DYDD GWEXER Y GROGLITH, Ebrill 14eg, 1876, dan nawdd rhai obrif fonedd- igion yr ardal, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugoi jnewn Caniatlaeth, Chwariiadaeth, Barddoniaeth, Areithyddiaeth, Adroddiadaeth, &c. Chwi gerddorion a seinorion pres yr ardaloedd cylchynol, olewiwch eich [iil-ellau yn dda y mae y pv/yllgor yn prysur ddarparn darnau a beirniaid cymeradwy ar eich cyfer. Deuwch i'r Eisteddfod yn unfrydol. "Mewn undeb mae grym." Heb Ddliw, heb ddim." Ceir y manyliou eiddach, T. WILLIAMS (Efell Trefor), ) Morris^on, Swansea, > Ysgn. W. G, JAMKS, Diihvyn, ) 1201