Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
MARI JONES:I
MARI JONES: I Neu Briodferch y Mor-herwr. GAN BULWEE. II PEN. V. AR ei ffordd tuag at y llocgborth cyfar- iyddodd a badwr <■ boatman), a gofynodd iddo, A wyddcch hwi am long yn myned allan yfory i gvfeiiiad L'erpwl neu Ogledd Cymru ? Gwn," ebe fe, y mae lloBg yn awr yn gorwedd yn yr afon y mae yn myned allan yfory i un o'r porthladdoedd agosaf, ac os ydych yn caru myned gyda hwy, mi af fi a chwi hwnt yn y bad, ac a'ch dodaf yn ddyogel ar ei bwrdd, gan fod genyf ddigon o amser i'r perwyl, cyn y dychwela y cadben o'r chwareudy ni fydd yma. am awr Deu ddwy eto. Cymerodd y mater dan ei sylw, ac yn fuan daeth i'r penderfyrdad y buasai yn myned ar fwrdd y llong ar ol cael ei blwch o'r masnaehdy. Ffvvrdd a hwy ill dau i gyfeiriad y lie, ac fel y dygwyddodd nid oeddynt wedi cau. Dywedodd wrth y gwerthwr y rhe- swm ei bod yn dyfod mor gynted i'w ymofyn. Erbyn dychwelyd a'r blwch i'r bad yr oedd y lloer wedi cadi, aderbyniwyd hi i mewn yn llawen gan y prif swyddog; yna aeth y badwr a'r bad i gyfarfod y cadben. Ar ol ei ymadawiad, cyfarchodd y swyddog Maii fel hyn :— Wel, fy mach- gen i, yr ydych yn meddwl myned i for- daith gyda ni yfory." Ydwyf, syr," ebe hithau, "yr wyf yn earu yn fawr i fod ar y mor, ond ar un cyfrif ni charwn fod yn forwr. Pwy amser y daw y cadben i'r bwrdd ? Mae ef yma yn awr i lawr yn y caban yn cysgu, neu yn hytrach ceisio cysgu. Mae yn rhaid i chwi gofio ei fod yr awr hon mewn tymer ddrwg iawn." Pa beth ydyw y rheswm ? Ychydig amser yn ol yr oedd wedi myned i Gymru i aros am ychydig, pryd y cwympodd mewn cariad'ag un o ferched harddaf y wlad hono, yr hon oedd yn ei garu yn fawr. Gadawodd y ferch ei chartref a daeth gydag ef i Glasgow, ond rhywfodd aeth v caru yn ffyn-baglau. Daliwyd y cadben mown ty anedd, am ei fod, me ident hwy, wedi gwneyd ei oreu i ladd ei gariad; ond diangodd o'u dwylaw gan adael ei law-ddryli a'i ddarlun ar ol. Dyn rhyfedd ydyw, oherwydd y mae wedi dyfod yma i fwrdd y llong trwy nofio heb yn wybod i neb, ac y mae yn awr yn y caban." Pan glywodd Mari hyny, meddyliodd ei bod unwaith yn rhagor wedi syrthio i ddwylaw Arthur, yr hwn oedd unwaith yn ei garu, ac os ydoedd y swyddogion yn dywedyd y gwir, yr oedd yntau yn ei charu hithau. Felly penderfynodd wneyd ei hun yn adnabyddus iddo, a gofyn y rheswm iddo am ddyiod a hi i'r fath gyf- yngder. Gwelwn nad oodd ei chalon erbyn ei chwilio wedi ei throi. yn gyfangwbl yn ei erbyn, gan iddi feddwl y gallasai ei garu eto, pe buasai yn ymddwyn yn deilwng tuag ati. Daeth i'w meddwl am yr amser cyfyng yn y Gwesty, ond meddyliodd mai dim ond cloi y drws a wnaeth er mwyn ei threio, a thori y rhafryn ei wylltineb pan ddiangodd, ac mai myned allan heb yn wybod iddo wnaeth y llawddryll, a chofiodd mai llaw- ddryll Arthur oedd wedi ei dyogelu ychydig oriau yn ol, er mai mewn ty isel y collodd efe ef. Yr oedd yn awr yn synu pa fodd y daeth y petbau hyn i'w meddwl, os nad oedd rhyw ysbryd wedi bod yn gwylied drosti, a'r ysbryd hwn yn awr wedi ei har- wain i ddwylaw un oedd hi yn amcanu ffoi •oddi wrtho. PJSW. VI. Pan yn eistedd i lawr ar ol meddwl am -ei holl helbul, daeth Arthur i fwrdd y llong, gan gerdded yn ol ac yn mlaen yn drist ei olwg. Erbyn gweled ei wyneb yr oedd ei chalon yn eiddo iddo eto, oherwydd yr oedd yn credu ei fod yn meddwl am dani trwy yr amser yr oedd o'i golwg, "gan ei tbd yn methu CjSgn. Facbgen," ebe Arthur, "pa beth yr ydwyt yn ei ymofya?" os rhywbeth, cerdda at y swyddog blaenaf—efe sydd i fod yn gadben heno." Oerdded yn ol ac yn mlaen yr oedd Arthur 6 hyd, ond o'r diwedd dywedodd wltho ei hun, Pe buasai Mari ddim ond yn gwybod fy nghalon, byddr.i yn sicr o fy ngharu; 0 na allwn gael cyfle i ddweyd y cwbl wrthi." Mae hi ytaa," ebe MaTi, gau redeg i'w gyfarfod. A ydyw yn bosibl fod fy anwylyd yma," meddai Arthur. Ydyw, yn bosibl," Jmeddai hithau, a'r dagrau yn treiglo i lawr mewn llawenydd dros ei gruddiau," yr ydwyf yma fel ag yr ydych yn gweled. ond cofiwch nid yn y wisg ofidd am daaaf yn ymadaela'r Hendre. Yr ydwyf yn sicr yr edrychwch* dros y cwbl pan y meddylioch am y gweithred oedd yr wyf wedi eu cyfla wnl a'r temtas- jynau sydd wedi dyfod i fy nghyfaIfod. Yr wyf yn awr yn eich dwylaw chwi, fy anwylyd, eto." ,1' ArweiDioddhi yn awr i'l; caban, yn mha le y dywedodd wrtho yr hanes cyffrous. Synodd yn fawr am ei dewrder, ond dy- wedodd wrthi,- Ni feddyliais i erioed i wneyd yr un ddrwg weithred a chwi; dim ond cloi y drws wnaethum er mwyn cael gweled a fuasai braw arnoch yn yrystafell wrth eich hunan, na meddwl am dori y rhaff, a myned maes wnaeth y llaw-ddryll o'm llogell pan yn edrych trwy y ffenestr, a'r un oedd wedi addaw yn ddifrifol y buasfii yn fy ngharu tra byddwyf byw." Dywed odd wrthi ei fod yn gobeithio na fuasai y peth yn dryllio ei theimlad. "Uis gallaf oedi heb ei wneyd yn amlwg fy mod wedi bod trwy y blynyddau diweddaf yn prynu a gwerthu dynion, lladrata cynwysiad llongau, ac yn fwy na'r cwbl, y mae y morwyr yma wedi cymeryd ymaith fywyd- au lluaws mawr o forwyr diniwed; ond eto, cofiwch nid ydwyf wedi eich twyllo ni ofynasoch i mi eiioed o ba le v daethum. felly ni ddywedais wrthych rhoddais fy enw yn iawn i chwi pan y gwelais chwi ar y cyntaf. Y mae yn angenrheidiol i mi ymadael a'r lie hwn yfory; pe adnabydd- erit myfi a'm dwylaw, cymerent ein byw- ydau oddiwrthym ar unwaith ac os bodd- lawn ydych, boreu yfory, myfi a'ch priodaf a chewch y caban i chwi eich hunan heno. Mor gynted ag y bydd y wawr yn tori, danfonaf y prifswyddog i'r ddinas i ymofyn am offeiriad i'n priodi. Ar ol i'r gwasanaeth fyned drosodd, codwn yr angor ac awn oddiyma. Yn awr, Mari, rbowch i mi un cusan yn deilwng o'r un cyntaf a gefais genych, ac yna gobeithiaf nos da i chwi, oblegyd yr ydwyf yn gwybod eich bod yn flinedig; yr ydych yn deilwng ;o o honoch eich hunan, gan eieb bod wedi dal mor ardderchog o dan y gwahanol demtasiynau. Pob peth sydd wedi bod yn feius ynom mewn meddwl, gair, neu weithred, na feddyliwch mwy am danynt, ond rhoddwch eich hunan i orphwys yh dawel. Yn awr y cusan ac yna bydd y nefoedd yn gwylied drosoch." Rhoddodd Arthur y cusan, felly Mari hefyd, ac yn y fan aeth Arthur i'r bwrdd i wylied dros y llong am y nos. Ar ol cael y cusan yr oedd llawenydd mawr yn ei mjnwes, "Yr oeddwn," ebe Mari, Wyn teimlo erbyn hyn fy mod yn fwy hapus pan yn myned i gysgu y noson hono nac er cof genyf, ac yn sicr yn fy meddwl fod Arthur yn fy ngbaru ac yn sicr o'm priodi, ond yr unig beth oedd yn fy mlino ydoedd, mai mor-leidr ydoedd ond er ei holl feiau, yr oeddwn yn ei garu, ac yn credu y buasai yn dyner i mi." (l'w barhau.)
Mr. Harding Giffard, Q C.
Mr. Harding Giffard, Q C. Hysbysir yn swyddogol fod y dadleuydd uchod, yr hwn sydd mor adnabyddus ar Gylchdaith Deheudir Cymiu, wedi ei apwyntio, gan Mr. Disraeli, i'r swydd o Gyfreithiwr Cyffredinol. Y mae y Western Mail yn ymogoneddu yn y ffaith hon, ac yn rhoi gwers hallt i etholwyr Caerdydd, am ei wrthod yn y ddau etholiad diweddaf. Y mae Mr. Giffard yn ddyn o dalentau I dysglaer, yn ddadleuydd galluog, ac yn Dori o'r radd flaenaf. Nid yw wedi cael eedd yn Nhy y Cyffredin, ond diau y ceir un iddo erbyn Chwefror.
Brwydr yn Herzegovinia.
Brwydr yn Herzegovinia. Ymladdwyd brwydr rhwng y Tyrciaid a'r gwrthryfelwyr ger Gatschko, yn mha un y gorchfygwyd y catrodau Tyrcaidd gyda cholled o 800 wedi eu lladd, a 600 wedi eu clwyfo. Cymerwyd hefyd eu gwersyll. Parhaodd y frwydr am ddau ddiwrnod. Cafodd y gwrthryfelwyr hefyd golledion trymion, ac yr oeddynt yn rhy analluog i ymlid ar ol y Tyrciaid. Hys- bysir ddarfod i'r gwrthryfelwyr golli 56 o laddedigion.
[No title]
BREAKFAST EPPS'S COCOA. — GRATEFUL AND COMFORTING.—"By a thorough knowledge of the natural laws which govern the operations of diges- tion and nutrition, and by a careful application of the fine properties of well selected cocoa, Mr. Epps has provided our breakfast fables with a deli- cately flavoured beverage which may save us many heavy doctors' bills. "-Civil Service Gazette. Made simply with boiling water or milk. Each packet is labelled—" James Epps and Co., Homoeopathic Chemists, London. L332 Boneddigesau hyny nad ydynt wedi defnyddio Starch Glenfield, dymunir ar iddynt wneyd un prawf o hono, a bob yn ofalus am ganlyn y cafaro wyddiadau argraffedig ar bob pacyn. Y mae yn ychydig anhawddach ei wneyd na Starches ereill, ond pan y deuir dros yr anhawsdra. dywedir fel Golchwraig y Frenhines, mai y Starch goreu. a ddefnyddiwyd erioed ydyw. L92 THE HAIR.—For 40 years Mrs. S. A. ALLEN'S WORLD'S HAIR RESTORER has received the com- mendation and favour of the public. Jt has acquired the highest place that can be obtained for any modeaate enterprise, and contributed to the adornment of tens of thousands of persons, who have the proof of its serviceable character. It will positively renew and restore the original and natural colour •of grey, white, and faded Hair. It will strengthen and invigorate the Hair, stop its falling, and induce a healthy and luxuriant growth. No other preparation can produce the same beneficial result. Sold by all Chemists and Perfumers in large bottles, 6s. I)ep6t, 114 & 116, Southampton Bow, London. 1090
Eisteddfod Mynydd Cynffig.
Eisteddfod Mynydd Cynffig. BEIRNIABAETH Y CYFANSODDIADAU. Traethawd ar Ddethreuad a Chynydd Gyrn- deithasau Dyngarol Mynydd Cynffig a'r Cylchoead. Derby ni wj d dau draethawd, sef eiddo' Hanesydd yr Hen Oesau, a Brysiog. Traethawd byr yw eiddo Hanesydd wedi ei ysgrifenu yn ddestlus, a chyn belled ag y mae yn myned y mae yn drefnus, crynOj a cnynwysfawr. Rhydd gyfrif am un gym- deithas na cheir yn eiddo Brysiog, sef Court Rose of Glamorgan,' Coedwigwyr, yr hon a sefydlwyd yn y flwyddyn 1864, yn v Three Horse Shoes, Cefacribwr; ond gadawa amryw gymdeithasau yn y cylch- oedd heb son dim am danynt. Rhagora gryn lawer ar Brysiog mewn teilyngdo i llenyddol, a theilynga ganmoliaeth uchel, yn ol hyd ei draetbawd, yr hyn nid yw ond tri thudalen foolscap. Brysiog.—Traethawd yn cynwys llawer mwy o lafur ac ymchwiliad i hanes ac an. sawdd cymdeithasau dyngarol y gymydog- y z, aeth. Rhydd yr awdwr hwn fanylach hanes am sefydliad, yn nghyd a dygiad yn mlaen y gwahanol gymdeithasau. Cawn gan yr awdwr hwn hanes -naw o gymdeith- asau dyngarol yn yr ardal, na sonir gair am danynt gan Hanesydd yr Hen Oesau; sef Centre of Glamorgan' (Odyddion), a'r Margam Castle' (Alffrediaid), y ddwy yn y Royal Oak' Mynydd Cynffig; y Loval Mansel Philanthropic Institution,' Mansel Arms, Mynydd Cynffig; y Friendly So- ciety of Women,' Collier's Arms; Lilly of the Valley,' Butcher's Arms; 'Cyfrinfa Amddiffynfa y Ffos', Farmer's Arms, Cefn- cribwr; Cymdeithas y Funds,' Trysorfa Elusen i'r Gleifion Wr Acghenus,' a'r Unitive Friendly Society of Workmen,' Royal Oak. Gellid tybied, a dyweyd y lleiaf, fod Brysiog wedi bod ar ei oreu yn easglu yn nghyd elfenau ei draethawd. Rhttid iddo ymroddi yn egniol i astudio cywirdeb orgraffyddol; y mae ychydig yn ddiffygiol yn hyn. Os bwriedir argraffu y traethawd buddugol, rhaid i'r awdwr weled gwella yr ychydig. wallau sillebol sydd ynddo, gosod rhai llythyrenau penigol yn eu lie, ac atalnodi yn gywir. Mae y traeth- awd yn un rhagorol dda, fel y mae, a chy- w hoeddwn Brysiog yn deilwng iawn o'r wobr.—Yr eiddoch, R. AB MOJRGAN. Brynawen, Aberafon.
Eisteddfod y Neuadd Gyhoeddus,…
Eisteddfod y Neuadd Gyhoeddus, Aberafon. BEIBNIADAEIH Y CYFAKSODDIADAU. lJau lenill i lJ. T. Daniel, Y»w, Derbyniwyd pump cyfansoddiad. Twm o'r Wlad.—Cyfansoddiad cyffredin ac annghelfydd. YsgritenajJn#"am prif; y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng y ddau air. Gwastraffa y pedair llinell gyntaJ i anerch yr awen. Mwy coeth a chlasurol yw gadael heibio yr hen arddull yma mewn cyfansoddiadau maith a phwysig, llai fyth y dylid ei arfer mewn cyfansoddiad o ddau benill. Cawn ganddo syrydd am sirydd Ceisied eto, Dyfalbarhad yw'r ffordd i lwyddiant." Hoffwr Rhinwedd. — Penillion cryf a barddonol, ond heb fod mor nodweddiadol o Mr. Daniel ag y dymunem hwynt. Onid oes gormodiaeth gan yr awdwr yn y llinell: hon ?— Gweithredwyr anwiredd arswydant ei wedd. Mae'r penill cyntaf yn un gwir dda, ond nid yw yr ail cystal. Hen Brydydd. — Penillion ystwyth a chanmoladwy, ond nid mor farddonol ag eiddo Hoffwr Rhinwedd. Er hyny y maent yn eangach eu syniadaeth, ac yn cymeryd golwg fwy cyffredinol ar y gwrthdarych. Alcanydd.—Fel cyfansoddiad mae yn dda iawn, ac yn rhagori ar y rhai a enwyd yn flaenorol, ond nid ydym yn unfarn hollol a'i olygiadau. Edmygwn rinweddau y gwrth- ddrych, ond mwy priodol i hen arivr dir- westol, nag iddo ef, yw y llinellau canlynol Mae'r diafol a'i fyddin o feddwon ein tref Yn gwybod o'r goreu mai gwron yw ef, Dychrynant a gwelwant pan^gyfyd ei lef. Mae ganddo ychydig wallau orgraffyddol el yn y penillion. Nid yw y terfyniadau pri- odol ganddo i'r genedl a'r Dyivysogaeth, Cyrnry a Cyrnru. Gesyd y "naill yn lle'r Hall; y derfyna'r genedl, ac u y Dywysog- aeth. Un Gwylaidd iawn ei Galon.—Dyma'r cyfansoddiad goreu o ddigon yn y gystad- leuaeth. Mae yn llednais, coeth, a bardd- onol, ac yn llawer mwy na gwerth y wobr. Y bardd hwn sydd i'w goroni heddyw. R. AB MORGAN.
[No title]
ENAINT HOLLOWAY.—Yn awr pan y mae y flwyddyn yn troi, doethineb fyddai ceisio gwella unrhyw glefyd a all fod yn y corff, yn enwedig y sawl sydd yn dj oddef oddiwrth glwyfau a chle- fydau cyffelyb, ac os esgeulusir pwy a wyr y can- lyniadau all ddilyn. Bydd yr Enaint hwn yn sicr o'u gwella yn drwyadl. Y mae yn glanhau y clwyfau, ac yn tynu y drwg allan o'i wraidd, ac yn adnewyddu iechyd perffaith. Drwy rinwedd di- gymar yr Enaint hwn, iacheir y coesau clwyfus, a hyny yn hollol. Yr oedd y fath obaith i'r claf yn annghymeradwy yn yr amser gynt.
Damwain Angeuol yn Abertawe.
Damwain Angeuol yn Abertawe. Dydd Sadwrn cynhaliwyd trengholiad yn y New York Botel, o flaen Mr. Strick, Crwner, i wneyd ymchwiliad i angeu bach- genyn bychan o'r enw James Tomlin, yr hwn a laddwyd trwy i wagen redeg drosto yn Goat street, a hyny o dan amgylchiadau ag oedd yn ei gwneyd yn bur agos i esgeu- lusdod o dy y gyrwr. Wedi gwrando y tystiolaethau, dygwyd y rheithfarn a gan- lyt! Fod y trengedig wedi cyfarfod a'i angeu trwy gael ei ddryllio gan wagen, wedi iddo yn flaenorol gael ei ddychrynu gan gi.
Dyn wedi ei frathu ger Pontypool
Dyn wedi ei frathu ger Pontypool Dydd Sadwrn cyhuddwyd dyn ieuane o'r enw George Felton, o glwyfo Isaac Tudgay, ya Garnddiffaith, ar yr 16eg cyf. Ymddengys eu bod yn cydyfed yn y Rose, and Crown, a thorodd cweryl allan rhyng- ddynt, pan y brathwyd Tudgay, ac aeth y gyllell yn erbyn un o'i asenau, yr hyn fu 5 yn foddion achub ei fywyd. Trosglwydd- t, wyd Felton i aros ei brawf i'r brawdlys chwarterol
Brenin Denmark.
Brenin Denmark. Ysgrifenodd Brenin Denmark lythyr at Marshal MacMahon yn datgan ei ofid am ei fod yn analluog i ddyfod trwy Paris ar ei ffordd i Loegr, ac yn hysbysu y deuai y Frenines a'i merch i Paris i dreulio rhai dyddiau tua dechreu Rhagfyr.
Y Gwrthryfel Tyrcaidd.
Y Gwrthryfel Tyrcaidd. Nid oes ond rhagolygon pur dywyll fod y gwrthryfelwyr yn cael eu darostwng yn Herzegovina a manau ereill, ac y mae eyflwr y dyn claf o Twrci yn parhau i dyuu sylw galluoedd Ewrop.
Ymgais at Hunanladdiad yn…
Ymgais at Hunanladdiad yn Chep- stow. Dydd Ian wythnos i ddoe yn Llys yr Ynadon, Chepstow, dygwyd gwasanaeth- yddes o'r enw Alice Dibdin gerbron ar y cyhuddiad o geisio lladd ei hun trwy gy- meryd dose o laudanum,. Oddiwrth y tyst- iolaethau ymddengys ddarfod iddi, ar y 30ain o'r mis diweddaf, anfon dyn ieuanc o'r enw William Priest, yr hwn oedd yn cadw cwmni i'w chydwasanaethyddes, i ymofyn gwerth swllt. o laudanum i siop Mr. Mills, fferyllydd, gan ddweyd fod arni ei eisieu i wella'r ddanodd. Boreu dydd Mercher canlynol dywedodd wrth ei chyd- forwyn Eliza Grant, ei bod yn penderfynu cymeryd dose o laudanum a myned i gysgu i beidio dihuno mwy. Ymdrechodd hono ei pherswadio i beidio, ond yn ofer. Yna aeth i fynegu i'w meistres yr hyn yr oedd y garchares yn fygwth wneyd. Pan aeth yn ei hoi i'r ystafell yn mha un y cymerth yr ymddyddan Ie, darfu i'r garchares redeg fyny y grisiau, a dilynwyd hi gan y ferch arall yn nghyd a'i meistres. Pan gyrhaedd- odd yr olaf i'r ystafell yr oedd Grant yn ceisio cael y botel oddiwrth y garchares. Gofyn- odd i'r garchares roddi y botel i fyny iddi hi. ond gomeddodd. Yna aeth ei meistres i lawr y grisiau i gyrchu ei nai, a thra yno gwaeddodd Grant allan ei bod wedi cymeryd y gwenwyn. Yna rhoddwyd wyau oerion a dwfr claiar iddi, ac anfonwyd am y meddyg a'r heddgeidwad. Daeth Dr. White, a dywedodd ei bod yn dyoddef oddiwrth gymeryd dose mawr o laudanum. Addefodd ei bod wedi ei gymeryd, a mynegodd ei bod yn edifeiriol iawn. Rhoddwyd. cyfoglyn iddi a chyfogodd yn heheth. Wedi iddi fod yn y carchar am rai dyddiau rhyddha- wyd hi, wedi iddi yn gyntaf gael gwers dda gas yr ynad. Ymddengys yr erlynir Air. Mills, y fferyllydd, am na ddarfu iddo ys- grifenu yn ei lyfr ddarfod iddo werthu y gwenwyn.
Yr Anturwyr Gogleddol
Yr Anturwyr Gogleddol Wele ddyfyniad o lythyr ddanfonwyd gan Cadben Nares at ei wraig. Diau y darllenir ef gyda dyddordeb ullong ei Mawrhydi, Albert, Ynysoedd Carey, Qorph. 27. Yr wyf yn gadael yma mewn cuddfan creigiog rybudd i ddanfon adref, os yn bosibl, fy newyddion diweddaraf. Yr ydym wedi cael y llwyddiant mwyaf anarferol. Mae y tymhor wedi profi y goreu a fa erioed, a thrwy dawelwch ffodus am ddau ddydd, yr wyf wedi ei droi i'r fath ddef- nydd fel yr ydym wedi gwneyd y fordaith gyflymaf hyd yma a wnaed erioed, a hyny mor gynar yn y tyruhor. Gwnaeth yr Americaniaid ef yn Awst, ond yr ydym ni yma yn Gorphenaf, gyda mis clir o'n blaen, a dim ia yn y golwg; ac yr wyf yn sicr nad oes ond yehydig o'n blaen. Wrth gwrs, yr ydym yn frwdfrydig gyda golwg ar ein rhagolygon. Yr oedd ein hen bysgotwyr morfilod yn tybied fy mod yn orphwyllog i ddewis cwrs newydd, ond bu, fel y rhesym- wn y byddai, yn llwyddianus. Awn mor agos at y pegwm ag y mae y tir yn myned, ac yna ein bai ni fydd os na orphenir y gwaith. Gadawaf lythyr yfory yn ein harosfa nesaf. S. NABES."
Mr. H. Richard, A.S., yn Aberdar.
Mr. H. Richard, A.S., yn Aberdar. Nos Iau wythnos i neithiwr, anerch wyd yr etholwyr yn Abordar gan Mr. Richard, yn y Neuadd Ddirwestol. Yr oedd amryw o wein- idogion a phrif fasnachwyr y dref yn bresenoL Llywyddwyd gan Mr. D. Davis, Maesyffynon, yr hwn, wedi ychydig eiriau, a alwodd ar Mr. Richard. Derbyniwyd Mr. Richard gyda banllefau cymeradwyol, a dywedodd- "Mr. Cadeirydd, foneddigesau, a bonedd- igion Yr wyf yn fynych yn cael fy hun mewn sefyllfa o gryn .anhawsder, yn ystod yr ym- weliadau blynyddol hyn a Merthyr ac Aber- dar. Droswyf fy hun, yr wyf yh meddwl fod fy achos yn un hollol eithriadol. Y mae aelodau ereill yn myned i waered at eu hetholwyr i draddodi un araeth, i ba un y taflant hyny o nerth areithyddol sydd yn eu meddiant, ac yn ol hyny y bernir hwynt. Ond yr ydych chwi—pa fodcl y dodaf ef? efallai yn y ffordd fwyaf fiafriol i mi fy hun- yr ydych chwi mor lioff o honwyf, fel na fedrwch gael digon arnaf; fel y mae genyf yn wastad i draddodi i chwi lawer o areithiau, ac yn fynych, yr hyn sydd yn mwyhau yr an- hawsder yw hyn, fod ein cyfeillion da sydd yn nglyn a'r was,, yn fy nilyn; a rhoddant i cliwi yn mron bob gair a syrthia, oddiar fy ngwefusau, ac yi: wyf yn rhvvyni o ddweyd eu bod yn ei wneyd gyda llawnder a fiyddlondeb, yr hyn sydd yn glodadwy iawn i'r feistrolaeth a gyrhaeddasant dros eu celfyddyd n.nhawdd." Aeth yn ndaen i grybwyll amrai o'r materion y cyfeiriasai atynt yn Merthyr. Sylwodd yn gyntaf ar yr "Offences against the person Bill. Nid oedd efe yn cydymdeimlo ar rhai a gurent ac a yniosodent ar y rhyw fenywaidd. Y dyn a gicia ddynes sydd yn anifail, ond methai a chanfod pa fodd yr oedd i beidio bod yn anifail o herwydd fod y gyfaith yn efelychu ei anifeiliaeth. Sylwodd yn nesaf ar y cynyg a wnaed i ranu esgobaeth Rochester- yn ddwy, a chreu esgob newydd, yr hwn oedd i gael ei alw yn esgob St. Alban. Teimlai ei bod yn ddyledswydd arno i wrthwynebu y mesur hwnw. Pe buasai yr Eglwys Esgob- aethol yn y wlad hon yn Eglwys wirfoddol, fel y mae yn America, ni fuasai gan neb hawl i ymyraeth a'r esgobaeth ond y mae esgob- aeth y wlad hon yn hawlio bod yn Eglwys Genedlaethol. a da w i Dy y Cyffredin, yr hwn a lywodraetha ei holl amgylchiadau, a theimlwn fod genyf hawl, fel aelod o'r cynidliad hwnw, i ddweyd fy marn, a gwrthwynebais y mesur. Yr oedclwn yn alluog i osod gerbron y Ty dystiolaeth hynod gyda golwg ar y teimlad a fynwesid gan aelodau o Eglwys Loegr tuag at y corff esgobaetliol. Fy mhwnc i oedd dangos nad oedd neb, mewn gwirionedd, yn ymofyn rhagOr o esgobion (chwerthin). Yn sicr, nid ydyw yr Annghydffurfwyr, oblegyd nid ydynt yn cydnabod eu hawdurdod (clywch, clywcli); a dygais yn mlaen dystiolaethau e bapyrau offeiriadol ac eglwysig—yn cynrychioli bron bob adran o'r eglwys—i cldangos fod y farn a goleddid gan gorff mawr aelodau Eglwys Loegr ei hun yn wrthwynebol i gymeriad a chymhwysderau y rhai oeddynt yn esgobion eisoes, fel nad allem gasglu fod ynddynt un dymuniad i luosogi yr urdd (clywch, clywch). Bydd yn ddifyrwch genych, yr wyf yn meddwl, i glywed beth ddywedwyd gan rai eglwys wyr eu hunain o berthynas i'r esgobion. Dyma fel y dywed y Church Nid oes, mae'n debyg, un corff o ddynion yn y byd y rhai—mor belled ag y mae tystiolaeth allanol yn myned—ydynt yn gofalu llai am ledaeniad crefydd na'r Esgobion Seisnig.' ("0!" a chwerthin.) Dywed y Church Herald:—' Ni fu erioed amser pan yr oedd aelodau esgobaethol yn cael eu dal mewn llai o barch a chlod nac yn bresenol, neu pan yr oedd eu gallu i lywodraethu, oddigerth trwy rym cyfraith, mor wan.' Y Sock, yr hwn sydd yn cynrychioli y blaid efengylaidd yn Eglwys Loegr, a gynwys yr iaith a ganlyn :— A ydyw ein Hesgobion yn eistedd yn Nhy yr Arglwyddi i ddyogelu iawnderau eu hurdd ? Os felly, y maent wedi eu bradychu. A ydynt yn eistedd yno i gynal achos y grefydd Sefydl- iedig a brofTesantl Y maent wedi bradychu hyn hefyd yn ysbryd y ceiliogyn, a sky da gwaelder nad oes dim cyfochrog iddo yn hanes y Senedd. A ydynt yn eistedd yno yn achos yr ymerodraeth Brotostallaidcll Y maent wedi bradychu hyn hefyd, ac nid yn unig bradychu, ond wedi taflu holl bwys eu dylan- wad i fantol wrthwynebol Pabyddiaeth.' (Cymeradwyaeth.) Sylwodd yn nesaf ar ysgrif y Claddu, ac ysgrif Addysg, a dywed- odd nad oedd efe yn ymofyn addysg heb grefydd. Pwy bynag oedd yn ei gyhuddo ef o bleidio y fath gyfundraeth, yr oedd yn ei ateb, ac yn ei daflu yn ol gyda dirmyg. Addysg heb grefydd fyddai yn gyffelyb fr bydysawd heb yr haul—heb yr cgwyddorion a ddysga cretydd, y gobaith a gynyrcha crefydd, y cysur a ddarboda crefydd, y fath beth gwael fyddai y bywyd dynol hwn o'r eiddom (cymeradwyaeth), a plian glywaf rai o'n cyfeillion Eglwysig yn dweyd ein bod ni yn wrthwynebus i'r Beibl, nis gallaf lai na theimlo rhywbeth fel ysgorn yn cyfodi yn fy meddwl; yn enwedig pan gymhwysir hyny at Gymru; canys gofynaf, pwy a wnaeth fwyaf i roi Beiblau i bobl C}Trnru? a phwy a wnaeth fwyaf i ddwyu addysgiadau y Beibl gartref i galonau pobl Cymru ? Pwy ond yr Annghyd- tFurfwyr, ac nid pobi yr eglwys." Yna gwnaeth Mr. Richard gyfeiriad at yr hyn a ddywedasai Esgob Llandaf, yn ei siars i'r offeiriaid, sof fod capeli Ymneillduol yn cael eu codi fel math o speculation. Nid oedd hyn yn wirionedd. Buasai yn dda genym allu rhoi arseth Mr..Richard gerbron yn llawn, ond palla ein gofod. Talwyd y diolchiadau arferol, a siaradwyd gan Mr. John Thomas, Cyvmaman Mr. J. Johns, Cardiff Street Mr. J. Williams, London Warehouse Parch. Morris Morgan,, Dr. Price, a'r Parch. E. W. Lloyd, Cwmbach. Cafodd Mr. Richard wrandawiad astud, ac yr oedd cynulleidfa barchus yn nghyd.