Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

MARI JONES:I

News
Cite
Share

MARI JONES: I Neu Briodferch y Mor-herwr. GAN BULWEE. II PEN. V. AR ei ffordd tuag at y llocgborth cyfar- iyddodd a badwr <■ boatman), a gofynodd iddo, A wyddcch hwi am long yn myned allan yfory i gvfeiiiad L'erpwl neu Ogledd Cymru ? Gwn," ebe fe, y mae lloBg yn awr yn gorwedd yn yr afon y mae yn myned allan yfory i un o'r porthladdoedd agosaf, ac os ydych yn caru myned gyda hwy, mi af fi a chwi hwnt yn y bad, ac a'ch dodaf yn ddyogel ar ei bwrdd, gan fod genyf ddigon o amser i'r perwyl, cyn y dychwela y cadben o'r chwareudy ni fydd yma. am awr Deu ddwy eto. Cymerodd y mater dan ei sylw, ac yn fuan daeth i'r penderfyrdad y buasai yn myned ar fwrdd y llong ar ol cael ei blwch o'r masnaehdy. Ffvvrdd a hwy ill dau i gyfeiriad y lie, ac fel y dygwyddodd nid oeddynt wedi cau. Dywedodd wrth y gwerthwr y rhe- swm ei bod yn dyfod mor gynted i'w ymofyn. Erbyn dychwelyd a'r blwch i'r bad yr oedd y lloer wedi cadi, aderbyniwyd hi i mewn yn llawen gan y prif swyddog; yna aeth y badwr a'r bad i gyfarfod y cadben. Ar ol ei ymadawiad, cyfarchodd y swyddog Maii fel hyn :— Wel, fy mach- gen i, yr ydych yn meddwl myned i for- daith gyda ni yfory." Ydwyf, syr," ebe hithau, "yr wyf yn earu yn fawr i fod ar y mor, ond ar un cyfrif ni charwn fod yn forwr. Pwy amser y daw y cadben i'r bwrdd ? Mae ef yma yn awr i lawr yn y caban yn cysgu, neu yn hytrach ceisio cysgu. Mae yn rhaid i chwi gofio ei fod yr awr hon mewn tymer ddrwg iawn." Pa beth ydyw y rheswm ? Ychydig amser yn ol yr oedd wedi myned i Gymru i aros am ychydig, pryd y cwympodd mewn cariad'ag un o ferched harddaf y wlad hono, yr hon oedd yn ei garu yn fawr. Gadawodd y ferch ei chartref a daeth gydag ef i Glasgow, ond rhywfodd aeth v caru yn ffyn-baglau. Daliwyd y cadben mown ty anedd, am ei fod, me ident hwy, wedi gwneyd ei oreu i ladd ei gariad; ond diangodd o'u dwylaw gan adael ei law-ddryli a'i ddarlun ar ol. Dyn rhyfedd ydyw, oherwydd y mae wedi dyfod yma i fwrdd y llong trwy nofio heb yn wybod i neb, ac y mae yn awr yn y caban." Pan glywodd Mari hyny, meddyliodd ei bod unwaith yn rhagor wedi syrthio i ddwylaw Arthur, yr hwn oedd unwaith yn ei garu, ac os ydoedd y swyddogion yn dywedyd y gwir, yr oedd yntau yn ei charu hithau. Felly penderfynodd wneyd ei hun yn adnabyddus iddo, a gofyn y rheswm iddo am ddyiod a hi i'r fath gyf- yngder. Gwelwn nad oodd ei chalon erbyn ei chwilio wedi ei throi. yn gyfangwbl yn ei erbyn, gan iddi feddwl y gallasai ei garu eto, pe buasai yn ymddwyn yn deilwng tuag ati. Daeth i'w meddwl am yr amser cyfyng yn y Gwesty, ond meddyliodd mai dim ond cloi y drws a wnaeth er mwyn ei threio, a thori y rhafryn ei wylltineb pan ddiangodd, ac mai myned allan heb yn wybod iddo wnaeth y llawddryll, a chofiodd mai llaw- ddryll Arthur oedd wedi ei dyogelu ychydig oriau yn ol, er mai mewn ty isel y collodd efe ef. Yr oedd yn awr yn synu pa fodd y daeth y petbau hyn i'w meddwl, os nad oedd rhyw ysbryd wedi bod yn gwylied drosti, a'r ysbryd hwn yn awr wedi ei har- wain i ddwylaw un oedd hi yn amcanu ffoi •oddi wrtho. PJSW. VI. Pan yn eistedd i lawr ar ol meddwl am -ei holl helbul, daeth Arthur i fwrdd y llong, gan gerdded yn ol ac yn mlaen yn drist ei olwg. Erbyn gweled ei wyneb yr oedd ei chalon yn eiddo iddo eto, oherwydd yr oedd yn credu ei fod yn meddwl am dani trwy yr amser yr oedd o'i golwg, "gan ei tbd yn methu CjSgn. Facbgen," ebe Arthur, "pa beth yr ydwyt yn ei ymofya?" os rhywbeth, cerdda at y swyddog blaenaf—efe sydd i fod yn gadben heno." Oerdded yn ol ac yn mlaen yr oedd Arthur 6 hyd, ond o'r diwedd dywedodd wltho ei hun, Pe buasai Mari ddim ond yn gwybod fy nghalon, byddr.i yn sicr o fy ngharu; 0 na allwn gael cyfle i ddweyd y cwbl wrthi." Mae hi ytaa," ebe MaTi, gau redeg i'w gyfarfod. A ydyw yn bosibl fod fy anwylyd yma," meddai Arthur. Ydyw, yn bosibl," Jmeddai hithau, a'r dagrau yn treiglo i lawr mewn llawenydd dros ei gruddiau," yr ydwyf yma fel ag yr ydych yn gweled. ond cofiwch nid yn y wisg ofidd am daaaf yn ymadaela'r Hendre. Yr ydwyf yn sicr yr edrychwch* dros y cwbl pan y meddylioch am y gweithred oedd yr wyf wedi eu cyfla wnl a'r temtas- jynau sydd wedi dyfod i fy nghyfaIfod. Yr wyf yn awr yn eich dwylaw chwi, fy anwylyd, eto." ,1' ArweiDioddhi yn awr i'l; caban, yn mha le y dywedodd wrtho yr hanes cyffrous. Synodd yn fawr am ei dewrder, ond dy- wedodd wrthi,- Ni feddyliais i erioed i wneyd yr un ddrwg weithred a chwi; dim ond cloi y drws wnaethum er mwyn cael gweled a fuasai braw arnoch yn yrystafell wrth eich hunan, na meddwl am dori y rhaff, a myned maes wnaeth y llaw-ddryll o'm llogell pan yn edrych trwy y ffenestr, a'r un oedd wedi addaw yn ddifrifol y buasfii yn fy ngharu tra byddwyf byw." Dywed odd wrthi ei fod yn gobeithio na fuasai y peth yn dryllio ei theimlad. "Uis gallaf oedi heb ei wneyd yn amlwg fy mod wedi bod trwy y blynyddau diweddaf yn prynu a gwerthu dynion, lladrata cynwysiad llongau, ac yn fwy na'r cwbl, y mae y morwyr yma wedi cymeryd ymaith fywyd- au lluaws mawr o forwyr diniwed; ond eto, cofiwch nid ydwyf wedi eich twyllo ni ofynasoch i mi eiioed o ba le v daethum. felly ni ddywedais wrthych rhoddais fy enw yn iawn i chwi pan y gwelais chwi ar y cyntaf. Y mae yn angenrheidiol i mi ymadael a'r lie hwn yfory; pe adnabydd- erit myfi a'm dwylaw, cymerent ein byw- ydau oddiwrthym ar unwaith ac os bodd- lawn ydych, boreu yfory, myfi a'ch priodaf a chewch y caban i chwi eich hunan heno. Mor gynted ag y bydd y wawr yn tori, danfonaf y prifswyddog i'r ddinas i ymofyn am offeiriad i'n priodi. Ar ol i'r gwasanaeth fyned drosodd, codwn yr angor ac awn oddiyma. Yn awr, Mari, rbowch i mi un cusan yn deilwng o'r un cyntaf a gefais genych, ac yna gobeithiaf nos da i chwi, oblegyd yr ydwyf yn gwybod eich bod yn flinedig; yr ydych yn deilwng ;o o honoch eich hunan, gan eieb bod wedi dal mor ardderchog o dan y gwahanol demtasiynau. Pob peth sydd wedi bod yn feius ynom mewn meddwl, gair, neu weithred, na feddyliwch mwy am danynt, ond rhoddwch eich hunan i orphwys yh dawel. Yn awr y cusan ac yna bydd y nefoedd yn gwylied drosoch." Rhoddodd Arthur y cusan, felly Mari hefyd, ac yn y fan aeth Arthur i'r bwrdd i wylied dros y llong am y nos. Ar ol cael y cusan yr oedd llawenydd mawr yn ei mjnwes, "Yr oeddwn," ebe Mari, Wyn teimlo erbyn hyn fy mod yn fwy hapus pan yn myned i gysgu y noson hono nac er cof genyf, ac yn sicr yn fy meddwl fod Arthur yn fy ngbaru ac yn sicr o'm priodi, ond yr unig beth oedd yn fy mlino ydoedd, mai mor-leidr ydoedd ond er ei holl feiau, yr oeddwn yn ei garu, ac yn credu y buasai yn dyner i mi." (l'w barhau.)

Mr. Harding Giffard, Q C.

Brwydr yn Herzegovinia.

[No title]

Eisteddfod Mynydd Cynffig.

Eisteddfod y Neuadd Gyhoeddus,…

[No title]

Damwain Angeuol yn Abertawe.

Dyn wedi ei frathu ger Pontypool

Brenin Denmark.

Y Gwrthryfel Tyrcaidd.

Ymgais at Hunanladdiad yn…

Yr Anturwyr Gogleddol

Mr. H. Richard, A.S., yn Aberdar.