Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

GOMER JONES:

News
Cite
Share

GOMER JONES: NEU, YR YMGYRCH CARWRIAETHOL, GAN MR. TOM EVANS (WEDROS.) rJêN. XII. "UN boreu tesog o Wr wyn, pan oedd yr haulwen. yn gwenu, y ddaear yn adfywio ar ol y gauaf ystormus, a'r adar yn telori odd! rhwcg y cangau, gwelwn Gomer Jones Z, yn ymaflyd yn yr ysgrif-bin, ac yn ysgrifenu yr hyn a ganlyn :— tify anwyl Miss Hughes, Yn gymaint ac i chwi fod mor Jiycaws a'm gwahodd i ddyfod i'r Plas i dreulio prydnawn, yr ydwyf yn dymuno eich hysbysu y byddaf yna cyn dau pryd- nawn heddyw.—Yr eiddoch yn gywir, GOMER JONES." O'r fath gymysg deimladau a lanwai fynwes Gomer tra yn ysgrifenu y nodyn uchod; 0 na allwn, meddai, gael cipolwg ar y dyfodol, a gweled yno gyfeillgarwch Gwendolen a minau wedi ymdoddi i ryw- beth parach ac anwylach. Rhoddodd y llythyr i'r gwas bach i fyned ag ef i'r Plas- llwyd. Pan gafodd Gwendolen ef, a'i ddarllen, gallesid gweled gwrid yn ymdaenu dros ei gwynebpryd, a churodd ei cnalon yn gyf- lymach ac nis gallwn hysbysu pa un ynte Gwendolen a'i Gomer Jones ydoedd y mwyaf pryderus o barth i'r hyn oedd yn myned i gymeryd lie y prydnawn hwn. Ceisia Gwendolen reoli ei theimladau, a llwydda i wneyd hyny i raddau, yn fwy felly na Gomer er hyny, sylwodd Mary y forwyn fod rhywbeth allan o Ie, a theimlai gymaint dros ei meistres ieuanc, fel y darfu iddi ofyn a oedd wedi cael newydd annghysurus yn y nodyn ddygodd gwas Brynllefrith iddi ? 0, IJEtC oes dim," meddai Gwendolen. Rhaid i ni frysio orphen y gwaith, bydd Gomer Jones yn dyfod yma y prydnawn. Mae yn dda genyf glywed ei fod yn gwella, 'does dim gwell bachgen nag ef yn y sir." A gwn am lawer o ferched y byddai yn dda ganddynt gael cynvg arno," ebai Mary, a thaflodd ei llygaid yn lladradaidd ar Gwendolen, yr hon a wrandawai ar sraeth Mary gyda mynwes derfysglyd. Ar ol ciniaw, gwelid Gomer Jones yn wynebu ar y Plasllwyd gyda cherddediad cyflym a boneddigaidd, a'i feddwl yn canol- bwyntio ar y prydnawn ag oedd yn myned i dreulio gyda Gwendolen, a phenderfynai roddi ei achos o'i blaen, a dychrynai rhag y drjehfeddwl y byddai iddi ei wrthod. Felly, gyda chalon bron llesmeirio, rhwng ofn a gobaitb, cyrhaeddodd darws y Plus, a phwy ddaeth i'w agor ond Gwendolen. Ysgydwasant ddwylaw, ac yf ydym. yn meddwl i Gomer ddelio dipyn yn galed a llaw Gwendolen; beth bynag, ymdaenodd gwrid dros ei gruddiau hardd, nes gwneyd y rhai hyny yn harddach nag yr oeddynt mewn gwirionedd. Edrychai yn hynod brydferth yr adeg hon,'heb yr un addurn celfyddydol o gwmpas ei pherson gwisgai mewn dress blaen o wincey cartref, gyda choler wen fecban am ei gwddf, a'i gwallt du wedi ei drefnu yn dlws yn ol y ffasiwn. Wedi arwain Gomer i gadair yn y parlwr, dywedodd Gwendolen, "Mae yn ddrwg genyf fod fy nhad oddicartref." Ceisiodd Gomer ffugio fod yn ddrwg ganddo yntau hefyd. Nid oes dim i wneyd," meddai, "gellwch chwi wneyd y diffyg yna i fyny yn rhwydd." 41 Mae'n atnheus genyf," atebai Gwen- dolen, gyda gwen." "Nid oes .eisieu i chwi arneu hyna," ebai Gomer, y mae cael bod yn eich cwmni chwi yn ddigon i wneyd dyn yn hollol hapus a chartrefol, Mae eich hyfryd wen yn abl liadd Y Hinder dan y fron." "Peidiwch cellwair, ac arfer gormod- iaith, fel yna, Gomer Jones," ac er mwyn osgoi ychwaneg o ymddiddan yn y cyfeiriad hwn, gofynai Gwendolen a garai ef gael ton ar y berdoneg, i'r hyn y cydsyniodd ac aeth hithau at y gorchwyl, a chwareuodd iddo yr hen alaw Y Gwenith Gwyn," a dilynai yr offeryn gyda'i llais peraidd, nes peri i Gomer lwyr annghofio ei hun, a phob peth ond Gwendolen. Wedi iddi orphen, canodd yntau yr un don. Meddai ar lais tenor campus, a phan yn myned dros y geiriau hyny, Pa un a'i mi, ai arall Gwen, Sy'n anwyl gan dy galon," -syllai yn myw llygaid Gwendolen, a cheisiai ddarllen ei dynged ynddynt. Gyda hyn, hysbysodd Mary y forwyn fod y tegell wedi berwi, ac aetb Gwendolen i'r gegin i barotoi te, gan adael Gomer i syn- fyfyrioar yr hyn oedd wedi pasio. Ni bu yn hir cyn dod yn ol eilwaith gyda tray fawr, a llestri te, &c., arni. u Symudwch eich cadair at y bwrdd, os gwelwch yn dda," ebai Gwendolen, gyda gwen a barodd i galon Gomer iamti. "Helpwch eich hun a siwgr, a gwnewch eich hun mor hapus ag y mae modd," ebai eilwaith. "Siwgr, yn wir," meddai ynteu, "mae eich presenoldeb chwi yn ddigon i felusi pob peth." "Peidiweh cellwair, Jones, gadewch i'r siarad teg yna hyd ryw amser gwell." ? Siarad teg, yn wir; pe buaaai iaith ddealladwy gan y galon yma sydd yn curo dan fy mron, byddai yn rhoddi ei sel i'r ymadrodd yna," meddai Gomer, yn ddifrifol. "Mae'r adeg wedi dyfod, Gwendolen, i mi roddi tafod i'm teimladau, ac i gael gwybod fy nghynged; a hyny oddiar eich gwefusau chwi." Gwridodd Gwendolen, a gostyngodd ei phen yn wylaidd o'i flaen, Adeg ryfedd oedd hon i Gomer; teimlai fod yr amser wedi dyfod, i'w holl-obeithion wyyyo neu ynte i ymagor mewn Gwanwyn adnewyddol. Ac yn awr, gadewch i mi ofyn i chwi, (maddeuwch fy hyfdra, os wyf yn ceisio gormod,) ameieh Haw a'ch calon; nid oes dim cellwair yn hyn yna o gwbl. Ac 0 Gwendolen anwyl, atebwch fl. Y mae yn eich meddiant y gallu i'm gwneyd, cyn pen ychydig o fynudai, yn un o'r creaduriaid dedwyddaf tu yma i drigle yr hedd dragy- wyddol, neu ynte yr annedwyddaf yr ochr hon i'r gagendor." Peidiwch siarad mor garlamus, Gomer." WeI, y nefoedd a faddeuo i mi, Gwen- dolen, os felly yr ydwyf yn gwneyd, a maddeuwch chwithau i mi hefyd, ac yr wyf' yn sicr y bydd i chwi, os cofiwch y cynyrf- ydd mawr a'r gwreiddiol achos o'r cyfan. Ac 0 yn awr, Gwendolen, gadewch i ryw air bach lithro dros y gwefusau cwrelaidd yna a wnaiff Gomer yn llawen ac yn iach." Gomer Jones," ebai Gwendolen eil- waith, gan wrido, "yr ydych yn fy adnabod er's blynyddoedd, paham na fuasech yn amlygu eich teimlad yn gynt ? Nid ag us y mae dal hen adac, agwenodd yn swynol arno. "Ond yfwch de, (yr oedd Gomer wedi rhoddi hyn heibio er's meityn,) ac yna hwyrach y deuweh yn veil." IS a, na, Gwendolen, nid oes digon o de o fewn canisters siopawl y greadigaeth i'.m gwneyd yn well, rhaid cael rhywbeth heb de i ddwyn hyny oddiamgylch-rhywbeth arall, rhywbeth arall a wnaiff Gomer yn llawen a dedwydd, a gwynfydedig ac iach ac 0 yr wyf laweroedd o weithiau wedi bwriadu amlygu fy nheimladau i chwi cyn heddyw, ond yr oeddwn bob amser yn teimlo yn rhi yswil i wneyd hyny. Yr oeddwn wedi meddwl gwneyd cyn mvned yn ol i Caerfyrddin, ond rywfodd llithrodd yr amser heibio heb i mi wneyd hyny; ae, a dweyd y gwir i chwi, yr oedd yn well genyf, mewn rhyw ystyr, ddychwelyd yn y eyflwr hwnw, waeth yr oeddwn yn ofni na wnaech ddim ond fy nirmygu pe buaswn yn hysbysu fy holl gyfrinion i chwi; ie, yr oedd yn well genyf fyned yn ol i wledda ar y meddwl swynol y cawn eilwaith, yn mhen chwe' mis, weled eich gwyneb hawddgar, a my- negu i chwi bob iota o'm eyffes ffydd. Felly, ffwrdd yr aetbum, ac yn Caerfyrddin y bum am y chwe' mis hwn. Yr ydoedd i mi fel rhyw chwarter tragwyddoldeb-yn pwndro efo'r llyfrau yn yr hen ysgoldy llwyd, a hyny heb fy nghalon. Ah! yr oedd hono yn gaeth yn meddiant rhywun oedd bell! Ond, Gwendolen anwyl, dy- wedwch ryw air a wasanaetha fel llusern i daflu goleuni ar y caddug anferth hwn-y tywyllwch Aiphtaidd sydd yn fy ngordoi." "Wel wir," ebai Gwendolen, gan chwerthin, yr ydwyf bron a chredu y gwnaech bregethwr campus; yr ydych yn hynod hyawdl." "Pregethwr neu beidio," ebai Gomer eilwaith, a'i ruddiaufel yrhos; "'nawr, 'nawr." "Wei wir, yr ydych yn siaradwr da," ebai Gwendolen eilwaith, yn gellweirus. 'N awr, Gwendolen, dim jokes, rhoddwch atebiad i mi." "I Wel, Gomer, yr ydych mewn sefyllfa hytrach yn gritical o ran iechyd; byddai yn drueni dweyd dim a wna eich gyru yn waeth." "Gwaeth neu beidio, dywedwch y gwir Gwendolen." "Wel, i gaelllonydd genych Gomer, yr wyf yn addaw anfon gwybodaeth i chwi yfory, mewn cysylltiad a'r cwestiwn Bydd 'nawr o I flaen y ty.' Na, na, Gwendolen, 'nawr, 'nawr. Y mae yn hynod dywyll arnaf." Wei, Gomer Jones, y mae rhyw air yn dweyd Po d'wllaf fydd y nos, Agosaf yw y wawr.' Meddyliwch am y gair yna hyd yfory." Ar ol iddi ddweyd hyn, diangodd ochen- aid lwythog o fynwes Gomer, a theimlodd ei hun, ar unwaith, mor hapua ag angel mewn gogoniant. Gorphenwyd yfed te, ond nid oedd fawr yn llai o ran yfwyd. Yn fuan dechreuodd y ffordd tua chartref, gan hymian yr hen benill, Po d'wllaf fydd y nos, Agosaf yw y wawr." Ond ah ofnai, er hyny, nad oedd y cyfan mewn cysylltiad a'r hen benill ond ffug- fod Gwendolen yn ei sibrwd wrtho rhag ofn y buasai yn my ned yn waeth o ran sefyllfa ei iechyd. Cyrhaeddodd gartref a'i feddwl i gyd yn canolbwyntio ar dranoeth. I'w iarhau,

BEIRNIADAETH EISTEDDFOD GADEIBIOL…

[No title]

LLANSAMLET A'R STRIKE.

"TWYLLO Y CYHOEDD."