Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

GOKEE JONES: ]

News
Cite
Share

GOKEE JONES: 't. .1ä .1> 'rj NED. YR YMGYUCH: CAKWiilAETHOL, GAN MR TOM EVANS (WEI>KOS ) PT-X. X. IhRFU i Pi ice weledy cyfnod y bu Gwen- dolen ffwrdd yn faith rhyfedclol. Yr oedd hi, pan yncychwyn, yn bwriada dychwelyd yn ei hoi yn mhcn chwech wytlmos, ond o herwydd rhyw amgylohiadau, yr oedd y cyfnod yna wedi ei ddyblu cyn i hyny gy- meryd lie; felly, bu ffwrdd am dri mis. O, dri mis rhyfedd i Price gwelodd hwynt cyhvd a tli dr blynedd. Treuliai la .or o'i euiper i ddisgwyl am lytfyyr; ond yr oedd y dyddiau yn pasio heibio heb ddwyn yr un nodyri i Price, a gcllid ei weled bob boreu (ar ol dychwdyd o'r llythyrdy) heb yr un wen ar ei wyneb. Wedi i un dydd fyned hcibio, teimlui ei ysbryd yn adfywio, a chredei nad ocdd yn angenrhei -iol ond aros hyd dranoeth, ac yna y byddai iddo gad ei ddymuniad. Fel hyn y treuliodd Price y tri mis,-disgwyl am lythyr, gwonu (yehydig), cysgu, bwyta, ac yfed-dyna hanes ei fywyd, yi. fyr ac i bwrpas, am y cyfnod hwnw. Yn ystod oriau'r nos, blinid efyn rhvfeddol gan freuddwydiou. Gwelai Gwendolen yn caru a rhyw an o Sir For- ganwg; ac un noswaith, gwelodd hio flaea yr allor, yn cael modrwy am ei bys gyda rhyw ddynsawd main ao • ysgyrnog, a'r boreu, pan ddyhunsi, ihyfedd mor falch ydoedd nad oedi y cyfan ond breuddwyd. Wedi hir ddisgwyl, cafodd y pleser di- gyffelyb o welcd Gwendolen un boreu Saboth uwchben y cloc, yn ffrynt yr oriel," yr hyn a brofai ei bod wedi dychwelyd. Anaml yr oedd Price, fel y mae gwaetha'r modd, yn talu llawer o sylw i'r gwasanaeth crefyddol, ond y boreu hwnw yr oedd yn waeth nag arferol. Kid oedd ganddo yr amgyffred lleiaf yn mha le yr oedd y testun, ac am g fio un ran o'r bregeth, yr oedd hyny allan o'r cwestwn, er fod digon o le yn ei ben mawr i gynwys penau y brf'geth i gyd, a'i holl ranau ereill o ran hyny. Gan fod eisteddle Gwendolen u wchben y cloc, ni phasiodd pum mynud, o'r bron, yn ystod y gwasanaeth heb i Price edrych faint o'r gloch ydoedd. Edrychorld ddegau o weith- iau ar hen wyneb crwn y cloc, ac ar y. wyneb hauld uwchbeo, with gwrs, Treul- iodd y rhan fwynf o'i amser y boreu hwn drwy edrych ar y cloc. a gwcuu, a mcddyliai am y dedwyddweh rhyfedd oedd yn ei aros yn hen gegin anwyl y Plas nos dranoeth, a lluaws o bethau ereill oedd mor llawn o ddim a'r penglog a'u dygai i fodolaeth. Dranoeth a ddaeth. Disgwyliai y carwr yn bryderus am y nos, Yr oedd wedi gofyn i'r prentis yn gynar y boreu, a fyddai iddo ddyfod yn gydymaith iddo; ac yr oedd y gwr bychan wedi rhoddi atebiad cadarnhaol. 0 mor arafaidd y gwelai y diwrnod yn pasio. Suddodcl cawr y dydd i'r Gorllewin, ac yn fuan yr oedd y byd wedi ei fantellu mewn tywyllwch; a phan oedd Price a'r prentis ar gau y siop am y noson, wele ryw ddynsawd main yn agor y drws ac yn dyfod i fewn. Profai y blawd oedd ar ei ddillad mai Wil y Felin ydoedd. Nos da i chwi, Price," ebai Wil, « Sut yr ydych heno? 0, dear me, ti sydd yna, Wil ? ebai Price, gan ymsythu. Eistedd fan hyn," a chyfeiriodd y llefarydd a'i fys tywysog- aidd at gadair oedd gerllaw. Eisteddodd Wil, a thu ol iddo, ar y cownter, yr unig wrthddrychau gweledig oeddynt y prentis a'r pownd siwgwr. « Tyr'd ag wns o dybaco i fi," ebai Wil wrth y prentis; ac yno y bu y blaenaf am gryn amser yn chwilio ei bibell, a phan oedd wrth y gwaith defnyddiol hwn, gofyn- odd, "Joseph, a fuost ti yn fy mhoced? yr wyt ti neu'r pownd siwgwr wedi myned a'm pib." "Naddo fi," ebai Joseph. Ie, nid ti, ydwyfyn feddwl," ebai Wil, ond a fu dy law yno; waeth pe buaset ti yn myned i fewn, yr wyf yn siwr yr aet i golli yn y lining, ac na fyddai i neb dy weled byth." Erbyn iddo orphen y sylw treiddgar hwn, cafodd y bibell a'r myglys, ac yn fuan yr oedd yn tynu "mygyn o'r cetyn cwta" nes creu cymylau o fwg yn awyrgylch y siop, a "pwl o beswch o fown rhanau o gorff yr enwog Price. Wedi yehydig ymddyddan am bethau y byd a'r bywyd hwn, gofynodd Price i Wil, tra yr ocdd v prentis yn nghwr pellaf _yr adeilad yn bwyta melusion, a ddeaai i'w hebrwng y noson hono, gan ei fod yn bwr- iadu myned i garu i'r Plas; a dywedodd, os byddai iddo dd'od, y buasai WIiS arall o fyglus at ei wasanaeth. Cydsyniodd Wil ys union, ac allan yr aethant i'r tywyllwch. Yr oedd yr hin wedi cyfnewid yn fawr er y noson y bu Price yn y Plas ddiweddaf— y gauaf blin wedi cilio, a'r gwanwyn mwyn wedi cymeryd ei sedd; eto, yr oedd y noson yn oer ac yn hynod o dywyll. Ond rhaid aros hyd y benod nesaf cyn cael hanes y Doson ryfedd hon. PEN. XI. CIKEIKIODD Price a Wil eu camrau tua'r Flas. y blaenaf a'i ffydd yn gref ya llwydd- iant y noson, ac fel arfer wedi ei ddilladu yn ei goat of arms carwriaethol. Cafodd yr esgidiau gwichianllyd orphwys mewn tangnefedddrwy yr amser y bu Gwendolen i ffarrdd, fel na fyddai iddynt golli eu "peraidd sain." "A ydwyt ti, fachgen, yn caru' Mary morwyn y Plas?" gofynai Price i Wil tra y prysurent yn mlaen. Ei charuhi wir, Price," ebai Wil, "na, choclia i fawr. Yr ydwyf yn meddwL byw yn hen fab gweddw hyny o amser fydda i byw yn y blaned hon." Y mae Mary yn lodes fach bert," ebai Price eilwaith. Pert, yn wir," ebai Wil, gan wenu, "er pa bryd ? Y mae yn debyg iawn o ran shap, Price, i far o sebon; a beth yw rhyw grcadur fel yna i fi ? Ond yn gymaint a bed yn xhaid i chwi gael ewmni i dd'od gartref yn y boreu, hidia i ddim blewyn moustache i geisio noswaith gyda Mary heno." 0, y mae yn hyfryd genyf dy glywed," ebai Price, yn dweyd y deui yn gwmni i fi boreu fory," a chymerodd lam ysgafn o ddwy fodfedd. Yn fuan cyrhaeddasant y Plas, ac yr oedd y distawrwydd pruddglwyfus a deyrn- asai o gwmpas yr anedd-dy hwnw yn profi fod y preswylwyr yn eu gwelyau. Wel 'nawr te, Price," ebai Wil, "gad- ewch i fi fyned yn mlaen i gnoco yn gyntaf. Sefwch chwithau yn nhalcen y ty, a gelwch arnaf fi yn union os gwelwch ysbryd; ac os caf fyned i mewn, bydded i chwithau gnoco yn union ar fy ol." All right, 'te," ebai Price, ffwrdd a ti." 1. Yn mlaen yr aeth Wil, yn un rhibyn gwyn, tenau; ac ar ol llanw ei ddwylaw a phridd coch, nid pastwn, fel arfer,- nesaodd at ffenestr ystafell Mary y forwyn, yna cafodd y pridd coch fyned, ac yn fuan agorwyd y ffenestr. Estynodd Mary ei phen allan, ac yno y bu am ysbaid yn llygadrythu ar y bod gwyn oeddo'i blaen, a'i gwefusai wedi eu selio a mudandod. Agor dy ben, a dwed rywbeth," ebai Wil. Pwy sydd yna ar yr adeg hyn o'r nos?" gofynai Mary. Fi sydd yma," ebai Wil, nid y llyth- yren V, cofia, ond ft." 0, wel, ti Wil y Felin sydd yna," ebai Mary, mewn llais mwy serchog nag o'r blaen, Sut yr wyt ti heno ? Symol," ebai Wil, y mae genyf le i fod yn well, a lie i fod yn waeth. Byddaf well os caf dd'od mewn, a tipyn bach yn ivaeth, efallai, os caf fyn'd adref. Dyna i ti dipyn o'm profiad, ac fel yna y terfyna y llith gyntaf." Wel, beth yw dy neges heno ? Wil." Wel, Mary, nid 'mofyn barlys i'r Felin yr ydwyf heno, ond 'mofyn ymgeledd gymwys' "Ymgeledd gymwys," ebai Mary, gan chwertbin, "lie yr wyt yn meddwl ei chael ? "Dy gael eli, wrth gwrs, Mary. Wyddet ti ddim fod menyw yn myned o dan yr enw yna." Anghymwys iawn fyddai i ti fy nghael i, Wil bach." "Taw son, y fagddu dywyll, 'dwed wrthyf yn awr, a gaf fi dd'od i mewn." "Dim heno, Wil." Wel 'te, Mary, un gas ofnadwy wyt ti. Ond dwed wrthyf pwy wyt yn garu yn awr? y creadur anllythrenog." Mr. Nobody, os gwyddost pwy ydyw, Wil." "Gwn yn burion, Mary fach, bum yn caru ei chwaer am flynyddoedd." Gyda hyn chwarddodd Mary a Wil yn iachus Wel wir," ebai Mary wedy'n, yr wyt yn hwylus iawn heao 'rwyt fel y dyn oodd yn arwain yr eisteddfod yn B —— yr haf diweddaf." Diolch i ti am dy feddwl uchel am fy ngalluoedd," ebai Wil. Glywaist ti mai fi sydd i arwain yr eisteddfod yr haf nesaf." Yn mha le y bydd hono yn cael ei chynal, Wil ? Pabell yr eisteddfod fydd het Price y shop, os bydd i'r gwr hwnw ei rhenti am y diwrnod. Dyna wirionedd syml i ti, Mary." "Taw a son, Wil, paid a tynu cariad Gwendolen mor isel." "Ie, wir Mary, nid yw yn mhell oddi yma yn awr, y mae i fyny yn y talcen yna. Taleen y ty wyfyn feddwl, ac nid dy dalcen di. Rhaid i ni hefyd beidio siarad yn uchel, rhog ofn y clyw. Ond a oes siawns, dywed, iddo gael derbyniad heno ? "Na, chaiff Price byth dderbyniad, tra bo pen ar ei gorff, Wil Ga fe dderbyniad os symudir y pen i ffwrdd, Miry ? Ond druan o Price, nid oes ganddo mo'r help fod ei benglog o'r fath anferth faintioli, nac oes ddim, a'r unig ffordd iddo osgoi cael ei fiino yn ei gylch yw, drwy ddweyd nad efe yw ei berchenog Pe buaswn i yn lie Price, ni fyddai i mi ei arddel o gwbl. Ond gad i Price a'i ben yn llonydd, a dwed a wyf fi yn cael d'od i fewn heno." Ond i ni gael prysuro yn mlaen, cafodd Wil vn fuan addewid i fyned i mewn. Tra yr oedd Mary yn agor y drws iddo, rhedodd Price yn mlaen, gan waeddi, 0 Wil bach, dyma ysbryd." Rhedodd Wil ato yn union, ond nid oedd y bwgan yn ddim amgen na chath wen y Plas, yn ymsymud yn y tywyllwch. Ar ol i Wil ei ddarbwyllo, drwy resymeg gref, nad oedd yr ysbryd ond cath, ffwrdd yr aeth ef at Mary, gan ddyweyd wrth ei gydymaith am dd'od yn mlaen i gnoco fel dyn. Yn mlaen yr aeth Price, a'i ddwylaw yn !lawn o bridd, ac ni bu yn hir cyn cael ei hun o flaen ffenestr Gwendolen. Wedi euro cryn dipyn, agorwyd y ffenestr. "Pwy sydd yna?" gofynai Gwendolen mewn llais awclurdodol, ar yr amser hyn o'r nos. A'i chwi Price ? 0 Gwendolen fach, anwyl," ebai Price, gan gymeryd dwy droedfedd o lam, a gwenu yn fendigedig (?) fel arferol, gadewch i fi dd'od i fewn. 0 dear." Peidiwch a cadw 'stwr, Price," ebai Gwendolen, "bvddwch yn fwy call, a mwy tebyg i ddyn." "O'r un fach, net," ebai Price, "gad- ewch i fi dd'od i fewn, y maent yn. dweyd ein bod yn caru." Yr oedd Price yn ffolach y noson hon, yr ydym bron a chredu, nag yr arferai fod, Trueni fod neb yn dyweyd peth mor ddisajl," ebai Gwendolen "0 gadewch i fi dd'od i fewn," ebai Price eilwaith, gan wneyd i'r esgidiau wichian fel porchell, a'r pres oedd yn ei logell dincian. 'Nawr, nawr, 0 deuweh i'r drws," ac yno yr ydoedd mor anesmwyth a phe buasai lleng o chwain ar ei gefn. Dim, yn wir Price ebai Gwendolen, a chynghorwn chwi i fyned gartref mor gynted ag y galloch, a pheidiweh byth a bod mor ff'ol a dyfod yma eto, cewchferched gwell na mi o ddigon a phan fyddoch yn myned at y gwaith eto, ewch yn ngoleu dydd, fel na byddo eisieu i chwi fyned a neb i'ch canlyn." Yn y cyfwng hwn, daeth Wil allan, ac yno y bu yn eiriol dros Price yn hynod ddoniol, ac awgrymu am y cyfoeth a ddeuai i'w ran. Ond wele'r ffenestr yn cael ei ehau yn ddisymwth, gan ddangos nad merch i'w siglo ag addewidion teg a gweniaeth ydoedd Gwendolen. Y mae ar ben arnoch heno, Price," ebai Wil, "deuweh gartref. Goodnight, Mary fach. rhaid i fi fyned i gymeryd gofal Price o yma i'r siop, a tarfu'r ysbrydion. Druan o Price! yr oedd ei galon ar dori, ac ni addurnai yr un wen ei wyneb er's meityn. Poor John Price I'w barhau.

BEIRNIADAETH EISTEDDFOD GAD-EIRfOL…

[No title]

EISTEDDFOD FAWREDDOG WORKINGTON.

PENTRE YSIR jD.

[No title]