Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

GOMER JONES;

News
Cite
Share

GOMER JONES; NEU, YR YMGYBCH- CARWRIAETHOL. GAN MR. TOM EVANS (WEDEOS ) PEST. viir. PAN y gadawsom Gomer Jones y tro diw- eddaf, yr ydoedd ar ei glaf-v-, ely, ag afiechyd peryglus wedi ymaflyd yn ei gyfansoddiad. Bu yn glaf iawn, yn dyoddef yn drwm gan enytfa yr ysgyfaint (inflammation of the lungs), ac nid twymyn, fel y dywedwyd ar y c-yntaf. Bu am yr wythnos gyntuf o'i afiech- yd mewn sefyllfa mor beryglus, fel yr oedd hyd y nod y meddyg yn lied amheus am ei adfcriad ond mewn naw diwrnod cyrhaedd- odd y dclur y crisis, ac yna cymerodd cyfnewidiad le er gwell. Gwellaodd yn raddol. a bu am chwech wythnos gron yn y gwely. W edi iddo ddechreu gadnel ei orweddfa, gwellaodd yn raddol o ddydd i ddydd, ond gan fod y tywydd yn parhau mor oer, bu am gryn dymor cyu myned allan dros y troth wy. Deuai y-no luaws o ymwelwyr i roddi tro am dano, a theimlai yntau ei bun yn gwell a yn rhyfeddol pan y caffai rywun i aros gydag ef i ymgomio o flaen y tan yn y parlwr. Ond yn mha sefyllfa y mae ei feddwl, tybed, yn bresenol mown cysylltiad a Gwendolen? Ah! yn ughanol ei gystudd, yr oedd meddwl am ei anwylyd fel y gwin i'w iron. Pan yn dy- oddef yr arteithiau blinion, yr oedd cofio y prydnawnhwnw y cafodd y fa*h hwyl efo'r dramadeg Saes'nog, yr I love, thou lovest, yn gysur a hedd iddo, a gobeitliiai o hyd ps byddai i'w Dad Nefol ei adforn, y cae weled yr hyfryd ddydd pan fyddai c&T*y?r- iaeth Gwendolen ag yntau yn ffaith. Un prydnawn, tla yr ydoccld yn y parlwr, o flaen y tan glo mawr, e'lrychodd allan drwy ffenestr y cefn; gwelai ryw ddynes yn cyfeirio taag yno, ar draws y cae, ond gan ei bod gryn bellder oddiwrtho, meth- odd a'i hadnabod. Yn mlaen y deuai, a safai Gomer yn y ffenestr, gan lygad-rythu arni er cael allan pwy ydoedd. Yr cedd ei cterddediad ysgafn, a'i hosgo boneddigaidd yn profi ei bod yn rhywun allan o'r cy- ffredin (out of eommon). Yno yr ysbiai arni o wadn y troed i goryn y pen, ond yn fvian. daeth yn ddigon agos iddo i'w hadna- bod. A phwy ydyw ? Ah! y mae y gwrid sydd erbyn hyn yn ymdaenu hyd wyneb Gomer—y galon sydd yn euro mor aflywodraethus o dan ei fron, yn profi mai Gwendolen Hughes, Plasllwyd, ydyw; ac o'r diwedd, wele hi yn agor llidiait y cae ac yn dyfod allan i'r buarth, a 'mlaen y deua i ddrws y gegin* "Holo, Miss Hughes," ebai mam Gomer, yr hon oedd yn y drws, (dynes dew, tua haner cant oed,) "dewch yn mlaen, ac eisteduweh yn y gadair yna. Y mae yn hyfrydwch genyf eich gweled Eisteddodd Gwendolen, a dywedodd, Nid oes genyf fawr o amser i eistedd, Mrs. Jones; bum ar neges y prydnawn hwn, a meddyliais mae doeth fuasai i mi alw yma i roddi tro am gymydog elaf. Sut y mae Gomer ? Y mae yn gwella, diolch i chwi, Miss Hughes; ond y mae er hyny yn wanllyd iawn." Clustfeiniai Gomer, yn y parlwr; ac 0 yr oedd geiriau Gwendolen iddo fel y diliau mel. "Bu yn glaf iawn ? ebai Gwendolen. "Hynod felly," ebai Mrs Jones. "0, wel! dyma fenyw ddyeithr," ebai Thywun a ddeuai i lawr y grisiau, o'r lloft, (chwaer Gomer, yr hon oedd tuag un-ar- bymtheg oed, hytrach yn dal, a phrydferth.) "Ddim mwy felly," ebai Gwendolen, gan wenu, "nag yr ydych chwithau i'r Plasllwyd. Ond pa Ie y mae Gomer? Ydyw ef ar y lloft, Sarah Jane ? Na. Miss Hughes," ebai Sarah Jane, yr wyf bron a chredu ei fod yn y parlwr." Yn ystod yr holl amser, gwrandawai Gomer yn astud ar yr holl ymdrafodaeth; ac 0! yr oedd llais Gwendolen yn fiwsig i'w glustiau. Bu mewn cyngherddau la- weroedd o weithiau yn ystod ei arosiad yn Caerfyrddin, ond teimlai fod mwy o swyn a miwsig, iddo ef, yn y gair bychan Gomer' o enau Gwendolen, nag oedd yn h:11 ddarnau Handel efo'u gilydd "Gadeweh i nifyned lawr i'r parlwr," ebai Mrs. Jones, yn serchog, wrth Gwen- dolen, "i gael gweled Gomer." Curodd calon Gomer yn waeth eto, pan y clywodd ei fam yn dywedyd hyn. Agorwyd drws y parlwr, a mewn yr aeth c' Mrs Jones, yn cael ei dilyn gan Gwendolen. Eisteddai y claf yn ymyl y tan, gyda llyfr yn ei law. "Wel Gomer Jones," ebai Gwendolen, yrria yr ydych, o flaen y tan, mi welaf. Su l yr ydych yn tnimlo? gwella, gobeithio," a gweraodd yn fendigaid arno. Ar ol i'r claf ateb yn grynedig ei fod yn gwella-yn teimlo yn llawer iawn gwell, eisteddodd Mrs. Jones mewn cadair yn ymyl Gomer, a chymerodd Gwendolen gadair arall yn ymyl y ffenestr. "Rhyfedd mor ddyeithr ydych," ebai Gomer wrth Gwsnoulen. Yr oedd y gwrid ar ei rucldiau yn ymdaenu yn fwy fwy o iyd. "Wel, Gomer Jones," ebai Gwendolen, ystyriwch, nid wyf ond newydd ddych- welyd o Sir Forganwg; felly, nid oes genych hawl i fy meio." Cyfododd Gomer ei ben, a gwnaeth ym- drech i orchfygu ei yswildod, ac edrychodd yn myw llygaid Gwendolen, ac O! edrychai hithau arno yntau mor swyno] a phe buasai angyles o'i flaen. Yna dywedodd, "Y mae yn rhaid maddeu, mi welaf, i chwi y waith hon eto. Gobeithio i chwi fwynhau eich hun yn Mro Morganwg." Do, yn hynpd dda," etai Gwendolen. Yr oedd llygaid Gomer erbyn hyn yn boddi mewn serch, a'i galon yn curo yn ddi-lywodraeth. A r ol siarad am luaws o bethau am gryn ugain mynud, cododd Gwendolen i fyned allan, a dywedodd wrth Gomer, Gan fy mod wedi dyfod i ymweled a chwi, fel na byddoch yn fy nyled o ddim, yr ydwyf yn eich gwahodd.i ddyfod drosodd i'r Plasllwyd yn fuan. am dro. Cofiwch am dd'od." O! eiriaubendigedigi Gomer. Diolch- odd yn fawr iddi am y gwahoddiad, .a dy- wedodd y byddai yn bleser mawr ganddo dreulio prydnawn yn y Plas. Yr oedd ei galon erbyn hyn bron yn rhy law gan lawenydd iddo siarad dim a hi yn mhellach. Cofiwch am ddyfod," ebai Gwendolen eilwaith, "ac anfonwch wybod i mi eto yr amser y deuwch," ac wrth orphen y fraw- ddeg, symudodd i gyfeiriad y drws, yn cael ei dilyn gan Mrs. Jones. Diolch yn fawr am alw yma," ebai Gomer,eilwaith. 0, 'does raid i chwi," atebai Gwen- dolen. HPrydnawnda i chwi oil," ac ) maith yr aeth, mor ysgafndroed a'r 'deryn; ac aeth calon Gomer i'w chanlyn. PKS". IX. TEIMLAI Gomer yii hynod ddedwydd sir ol y" prydnawh hwnw y talodd Gwendolen ymweliad ag ef, er iddo fod am fisoedd yn drachtio "taoddion doctor, to be taken three times a day." Yr oedd potelaid foddion Gwendolen, dyfod drosodd i'r Plasllwyd, to be taken all day, yn gwneyd llawer mwy o les i'r cyfansoddiad. Treuliai ei amser yn y parlwr bob dydd, a'i galon yn gorlifo o lawenydd, gan wledda ar y meddylddrych gogoneddus o dalu ymweliad a'r Plas. Dechreuodd fyned allan o'r ty yr wythnos ddilynol; teimlai ei hun yn cryfhau yn ddyddiol, ac mewn wythnos eilwaith aeth mor bell a'r pentref. Pan yn dychwelyd adref, cyfarfyddodd a Wil y Felin. Yr oedd y cerbyd ganddo yn llawn o flawd, ac yntau ar ben y cyfan, yn y nen, yn mygu yn hamddenol, a bron mor wya a'r sachaid wynaf oedd o dano, a phas- twn mawr yn ei law, yr hwn a wasanaethai fel swmbwl yn y cnawd J' i'r aayn olaf. "Holo, Wil, sut yr ydwyt yn teimlo," gofynai Gomer i'r bod urddasol hwnw. Campus, diolch i chwi, Gomer Jones," ebai Wil, a gwen chwaroqgar ar ei wyneb, y mae'r hen asynod, y blawd, a finau am y goreu. Sut yr ydych chwi ? Y mae eich gwedd yn dangos eich bod wedi bod yn ymladd ag angeu, ac y mae eich bod ar y ffordd yn awr rhwng y Brynllefrith a'r pentref, yn profi eich bod wedi concro." "N a, Wil, paid siarad mor gellweirus," ebai Gomer. "Pwy gellwair yw hyna," ebai Wil. Dyna 'wedodd Dai Dinah, pan y clywodd. fod Twm, eifrawa,wedi marw, 'Hen leban oedd Twmi 'mrawd drwy 'i oes; ond buasai Shoni 'mrawd yno, 'rwy'n siwr y buasai yn con-" "Taw, taw, Wil," ebai Gomer, "paid cellwair. Y mae yn rhy gysegredig i ti gellwair y ffordd yna." "Eithaf da, Gomer Jones," ebai Wil eilwaith, "what next." I ba le yr wyt yn myn'd a'r blawd Wil." "Y mae'r asynod yn myn'd ag ef i'r Plasllwyd, Gomer Jones." 0, wel, i'r Plasllwyd, i dad-yn-nghyf- raith Price y siop/' ebai Gomer dan wenu. Tad-yn.nghyfraid Price, yn wir," ebai Wil, Na, na, y mae yn all over ar Price druan." Er pa bryd Wil," gofynai Gomer. Wel, er yr wythnos ddiweddaf," ebai Wil. Bum yno gyda Price, i'w ddyogelu rhag ysbrydion ffwrdd yr aethom-yr esgidiau yn gwichial am ei draed, y watch aur yn ei boced, a gwagder yn ei ben ond myn brain, Gomer Jones, 'rol ifi gadw pob ysbryd ffwrdd, siarad dipyn drosto, a'i gan- mol fel dyn, Cristion, a siopwr, cafodd Pi,ice I gwd.' Dyna y long and short i chwi, Gomer Jones; ond rhaid i fi fyn'd." Erbyn hyn, yr oedd Wil yn codi y pastwn onen tua'r nen, ac yn gwneyd i'r asyn olaf deimlo ei flas, a ffwrdd yr aeth gyda rhoddi "pryd- nawn da" i Gomer. Creadur rhyfedd ydyw Wil," meddyl- iai Gomer ynddo eihun, wedi iddo ymadael. Cefais ganddo newydd hynod o gysurlawn, y mae yn llawer iawn mwy llesol i mi na photelaid o foddion doctor." Yn mlaen yr aeth yn llawen, ac ni bu yn hir cyn cyrhaedd Brynllefrith. Penderfyn- odd y noson hono y mynai dalu ymweliad a'r Plasllwyd yn fuan fuan. Y mae'r crw's yn ymyl. ]'w larhm. r V -■ •- w v-'

EISTEDDFOD MOUNTAIN ASH, NADOLIG,…

YR ANNGHYDFOD PRESSTFOL ?…