Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CAERDYDD.

News
Cite
Share

CAERDYDD. Hydref 16, 1871. Erbyn hyn mae brwydr y Barrister's Court wedi ei hymladd yn y dref hon, ond nid heb lawer o ergydion. o wahanol gyfeiriadau. Bu y Rhyddfrydwyr ar eu goreu er cael allan enwau y rhai a ddylai fod ar y register, a gwnaethant hefyd eu goreu i ddyfod at y rhai hyny na ddyl- ent fod. Yr oedd y Toriaid a'u Ilygaid yn agored hefyd er cyrhaedd yr un amcan, fel y gallwn feddwl ar hyn o bryd fod y register yn lied glir. Mr Josiah Rees oedd y barrister y tro hwn, a gosododd i lawr reol newydd eleni i'r hyn oedd y flwyddyn ddiweddaf, sef fod i bob un i gael y costau os buasai yr objection yn methu, a thrwy hyny gorfu i'r ddwy ochr dalu arian; ond er hyny, gallwn ddweyd fod mwy wedi aros eleni na'r flwyddyn o'r blaen. Cawn wybod yn fuan pa nifer. Buasai fy llith yn rhy hif pe buaswn ond nodi chwarter y gwag siarad a gymerodd le trwy fod y Ceidwadwyr yn treio taflu Rhydd- frydwyr allan; ond diolch fod y barrister wedi gosod pob peth yn ei Ie, os oedd bosibl i wneud hyny. Gwnaeth y Liberal Agent, Mr William Sanders, waith mawr gyda rhes o etholwyr y tro hwn, a gall Rhyddfrydwyr y dref fod yn falch fod ganddynt un mor alluog i gymeryd y gwaith pwysig hwn, a'i gario yn mlaen mor anrhydeddus a llwyddianus, fel ag y gwneir gan Mr Hopkins yn Abertawe. Da iawn; maent wedi dal Rhyddfrydiaeth o flaen y bobl, ac mae'r ethol- wyr megys yn edrych arnynt er gweled pwy sydd yn gofalu oreu am danynt, ac i ba bwrpas y maent yn treio eu gwasanaethu. Bydded i holl Ryddfrydwyr Cymru i gymeryd at eu hys- tyriaeth y pwysigrwydd o gael eu hegwyddorion wedi eu diwyllio a'u lledaenu, ac i wrthsefyll pob trais a gormes o ba gyfeiriad bynag y byddo yn dyfod, oblegyd mae ein rhyddid yn werth ymladd drosto. JtusuATTA.—^iiisxiuiNouAJSTii. — ir oeaa yr wythnos ddiweddaf yn un bur fywiog i bobl y dref hon, trwy fod cymaint o wahanol bethau i'w difyru a'u boddloni,-rhedegfa badau y porthladd, duck hunt, &c.—Yn y Stuart Hall, bu darlithio ar "Gristionogaeth ac Inffideliaeth," ac ar ol y ddarlith yr oedd cyfleusdra yn cael ei roddi i'r sawl a fynai i roi gofyniadau i'r darlith- ydd. Gwnaed hyny; ac er fod y Gwyddelod yno yn gynulleidfa fawr un noswaith, a'u tafod- au yn myned yn rhy gyflym, gwnaeth y darlith- ydd chwareu teg a'i destyn, a rhoddodd atebiad boddhaol i bob gofyniad, yr hyn sydd yn coroni y cyfan. Ymddengys fod braidd pob peth sydd a Hiw arno i wrthbrofi ffydd y Pabydd yn cynhyrfu y Gwyddelod i fyned fel corff cryf er gosod terfyn ar bob dadleuaeth deg. Rhyw der- fysg sydd oreu gan y Gwyddelod, yr hyn a wel- ais nos Iau; nid oedd yn deilwng o farbariaid Affrica. Byddai yn dda i gael ychydig o wasan- aeth yr hen dad o Rufain er cael peth dystaw- rwydd beth bynag. Os dyna yw llythyren oreu eu Beibl hwy, gwareded Duw ni rhag byth cael ein gosod dan y fath ddysgyblaeth. Yr oedd yn warth i ddynoliaeth. CELF A GWYDDOR.—Mae'r amser wedi dyfod fel y gallwn hysbysu sut y mae y dosbarthiadau hyn wedi ymdaro yn yr arholiadau diweddaf, ac y mae yn llawenydd genym hysbysu eu bod wedi pasio mor dda—mwy llwyddianus nag un flwydd- yn er pan y maent mewn gweithrediad. Pasiodd rhai mewn honours, ac enillodd amryw ereill wobrwyon. Mae hyn yn dangos fod yr athraw, Mr James Bush, a'i feddwl ar ei waith, ac yn cyflawni ei orchwyl fel dyn diwyd a gweithgar. Bydd cyfarfod yn cael ei gynal cyn hir er cyf- lwyno y gwobrwyon i'r rhai hyny sydd wedi eu henill. Hefyd, y mae yn fwy na thebyg y daw un o'r medals ag oedd yn agored i Brydain Fawr a'r Iwerddon i Gaerdydd y flwyddyn hon. Bydd hyn yn goron i'n dosbarthiadau, ac fel y dywed- ais flwyddyn yn ol, eu bod yn gweithio yn egniol ganddysgwylcanorhai o'r p•rizes, felly ymddengys fod eu llafur wedi eu coroni a llwyddiant y flwyddyn hon, ac y maent wrthi yn ddiwyd eto, fel i wneud eu goreu i gadw yr enw da y maent wedi ei enill. Ymddengys y bydd brwydr lied boeth yma mewn perthynas a'r Cynghor Trefol; ond gan fod yr amser wedi myned yn hwyr, cewch hanes y cyfryw yr wythnos nesaf. Mae llawer o gyf- arfodydd yn cael eu cynal yn y dref y ddoe ac heddyw, megys cyfarfodydd blynyddol yr Anni- bynwyr Cymreig, y Bedyddwyr Seisnig, Canton, a'r Annibynwyr Seisnig yn cynal rhai mewn cysylltiad a'r London Missionary Society. Gwnaf nodiad arnynt yr wythnos nesaf. -IOAN MEURIG.

- T GADWYN ANKHEG.

Advertising

MARWOLAETH SYR RODERICK MURCHISON.-

Advertising