Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
RHAMANT GYMREIG,
RHAMANT GYMREIG, NEU HELYNTION Y TEULU GORTHRYMEDIG. PENOD YIII. ■>" Cafodd y ddiod gwsg roddedig yr effaith dymmol, a buan yr ymollyngodd Wilson i reichiau caredig cwsg,acyr anghofiodd helynt y dialydd gan gau ei lygaid ar y golygfeydd dychrynllyd a ymddangosett iddo ral mynyd- au yn ol. Goichymynodd y meddyg Jones i Mrs, Wilson i fyned i'r gwely fel y caffai selbiant er bod yn barod erbyn gorchwylion angladdol y dydd cedd ar wawrio; a dywedai ya garedig y buasal ef yn gwylio dros y cysgadux clwyfedig. Wele y dydd gauafol yn gwawrio, a Johnny yn euro wrth ddrws ystafell wely ei dad, er ymholl am dano; ac yna elal dros helynt y caledi dialeddol y noson flaenorol, gan slcrhau ei fod yn ddiysog yn ei grediniaeth mae drychiolaeth oedd y dialydd creulawn, ac y cymeral ef ofal rhag bod allan llw nos mwyach. Cafodd y meddyg lawer o gymhoith chweithln wrth glywed yr etlfedd ieuane yn adrodd ei chwedl, ac yn dwyn yn mlaen el brofion tybiedig i gadarnhan el haeriadau, a gofynai y meddyg angrediniol,— "Pa ddrychiolaeth oedd y dialydd, addarfu i chwi ei adnabod Mr. Johnny ? "Credwyf mae elddo Hopcyn o'r Hafod, yr hwn a syrthiodd yn gelain yn ol pob tebyg with ddychwelyd o'n hebrwng ni boreu heddyw. Yr oedd ei arddull yn debyg i ddull haerllug a phenderfynol Hopcyn, a'i lais crochlefus a dialgar yn cyfateb yn hollol i'r eiddo yntau," atebal Johnny yn eithaf difrifol a chydwybodol. "Credal eich tad mal dynes oedd etch dial- ydd creulawn, a bod llaw gan dealu byw yr Hafod yn yr anfadwaith; elal ef mor bell a haeru mal Gwenllian ei hun oedd el ymosod- ydd beiddgar." Johnny yn colli ei dymher, ac yn gorchymyn i'r meddyg i beidio amheu ei yetoti ef, gan ei bod yn wirlonedd safadwy, ac ymhelaethai,— "Gwn mor sicr mae drychlolaeth oedd yr ymosodydd, a bod yr haul acw yn awr yn cyfodi dros gwr dwyreiniol y Mynydd Du, gan hy ny n is gallaf oddef I c eb feiddio fy amheu." Y meddyg yn edrych tua chyfelriad clwyd y pare, ac yn gofyn i Johnny pwy oedd y gweithiwr hwnw oedd yn brasgamu yn frysiog tua'r palas, yna dywedai Johnny yn alomedig,— "Yn wir, yr wyf wedi camsynled, dacw Hopeyn o'r Hafod yn dyfod at ei waith fel arfer; ond y mae golwg luddedig ac athrist lawn arno." "John bach, dyma eich credo ofergoelus wedi myned yn ddrylliau ar y maen prawf; ni thai haeriadau rhyfygus a disail yn yr oes -oleu bresenol," sylwai Jones gyda gwen gellweirus. "Rhaid mai drychiolaeth rhyvmn arall ydoedd; mi a wnaf lw mal rhyw fod annaear- ol oedd y dialydd creulawn. 0, Mr. Jones, buasal un olwg ar y ddrychiolaeth yn ddigon 1'eh argyhoeddi am byth fy mod yn gywir; pe buaswn yn gallu tori drwodd tu fewn i'r lien, i fyd yr ysbrydoedd, nis gallaswn byth gael golwg mwy annaearol," meddai Johnny gyda phwyslals ymddiriedol ar bob gair. "Dyna Hopcyn o'r Hafod yn euro wrth y ddor," sylwal Dr. Jones, y mae ei gorff ad- gyfodedig ar ddyfod i'r palas unwaith eto; tebyg ei fod yn ysbryd drychiolaethol nelthlwr, ond druan ag ef y cameJon cyfnewldlol, y mae erbynheddywyn meddu ar gorff ac ysbryd; dywedaf gyda'r Sals Wonders never cease. Johnny yn cochi A phen-grymu, gydag ateb,- "Yr ydych yn anghredadyn rhyfedd, Doctor; os oedd yr oes o'r blaen yn ofergoelus, credwyf fod yr oes hon a enwir genych yn 'oleu' yn myned yn gyflym ar y goriwaered anffyddol, gan amheu pobpeth; ni byddai yn rhyfedd genyf pe amheu ach eich bodolaeth etch hun. Do, do, gwelais ddrychiolaeth neithlwr, dywedwch chwi a fynoch, nis gallaf gredu yn amgeo." "Dacw'r ddrychiolaeth Johnny, yn parhau i guro wrth y drws, gwell rhoddi agoriad iddo, a'i wahodd i fyny, ihag iddo wneud yr un ystranclau eto." Yr etlfedd yn gorchymyn i un o'r gweislon i roddi mynedlad i mewn i Hopcyn Jones, a buau yr oedd yn gwneud ei ymddangosiad yn yr ystafell gyda hwynt. Tarawyd Hopcyn a ayndod mudanus with weled ei feistr yn glwyfedig yn y gwely, a chlywed am yr helynt erwin y noson flaenorol; ond pan ddywedodd y meddyg wrtho fod Wilson yn ei ddrwgdybio o fod a Haw yn y fusnes, ac y credal mai Gwenllian ei briod oedd y dialydd, yna atebai Hopcyn,- "A ydyw eln melstr am ein gwneud yn gyfranog o bob drwg, gan orphen dinystrio «ui teulu? Na, sa, yr oedd Qwenllian ynrhy analluog i gyfodl o'i gwely, fel ag y gwyr amryw o'n cymydoglon; y mae ymadawiad disymwth Llewelyn wedi effeithlo ar ei meddwl gymaint fel y credwyf na fwyty fara iach byth mwy! Y mae ei hiraeth torealonus mor angherdaol o fawr, fel yr ymddengys megys pe yn mhangfeydd angeu ei hun." Ar hyn agoral Wilson ei lygald o'i gwsg, gan hyll dremlo o amgylch yr ystafell, a phan welodd Hopcyn o'r Hafod, llefai allan fel ynfydyn,— "Dyma un o epll felldithiol yr Hafod yn fy ngwyddfod; dos ymaith o'm golwg yr anghen- fit cythreulig, beth sydd a fynot a'm blino fel hyn? A ydyw teulu yr Hafod i gael pobpeth yn ei ffordd eu hunaln, gan gyfrlf mawredd awdurdoiol y Plascoch megys diddim?" John yn nesu at ei wely gan geisio ei berswadlo i beidio cyhuddo Hopeyn ar gam, gan sylwi,— Yr oadd yu ddigon i ddwyn ei fab oddi- arno, heb achos myned i'w erbyn yn ddlaledd- ol ac aoghyfiawn; rhaid i Hopcyn gael lion- yddwch heddyw, rhaid, rhaid, trueni ymddial arno ef am welthiedoedd anfad drychlolaeth o'r byd arall." Mrs. Wilson yn dyfod i'r ystafell i ymholl am ei phriod, a'i mab yn all adrodd wrthi ei sylwadau blaenorol ac ychwanegu,— "Y mae fy nhad yn rhy gas wrth deulu yr Hafod, nis gallaf feddwl am eu herlid a'u poeni fel hyn yn ddlachos; gadawer i Hopcyn i drefnu yr angladd gyda Richard Tymawr, fel y claddom Tom druan cyn y nos." Yna syithlal Wilson eilwaith i gysgu gan adael y siarad i'r lleill o'r cwmnt, ac yna dywedai Mra. Wilson,- "Y mae Wilson wedi gorchymyn mai angladd private yw angladd Tom i fod, heb neb i fod ynddo ond gwasanaeth-ddynlon y palas, a rhaid peidlo bod yn rhy seremoniol gyda'r claddu gan fod llawer o waith yn y ty, ac yn y maes." "Mrs. Wilson, dylem gofio mal nld claddu ei yr ydym, ond bachgen o hen was i'r palas; ac ni byddai fawr o bwys genyf pe buasal fy amser inau i gael fy ngladdu gydag ef, gan fy mod wedi blino byw, y mae fy mywyd yn faich i mi, oddiar y bu Tom druan yn galw yn ein ty ni y noson hono. Os na chaf lonydd o hyn allan, bydd ar ben arnaf yn gynt nag y meddyllwch; y mae Gwenllian a mlnau bron a rhoddi pob gobaith I fyny, gan ymollwng a gadael i'n hanffodion i'n cludo ymaith gyda'r cenlllf dlaleddol," sylwai Hopcyn gan fynych ocheneidlo cyn gorphen ei ymadrodd. Dr. Jones yn sibrwd yn nglust Mrs. Wilson,— "Credwyf fod Hopcyn yn berffalth ddieuog o'r bai a roddir yn ei erbyn, canys anfonwyd am danaf i'r Hafod at Gwenllian oddeutu'r amser y dywedwch fod yr ellyll ddlalydd yn chwareu ei yetranclau yn elch herbyn, ond methais a myned yno gan fod galwad am danaf mewn lie arall ar y pryd; ymatelials i beidlo hysbysu hyny yn gynt, er eael tlpyn o spris i weled Johnny mor dyn yn dal at ei ofergoeliaeth. Gellwch ryddhau teulu yr Hafod o bob cysylltlad a helynt yr ymosodiad, yn ol pob tebyg." Gwedi peth seibiant, wele yr hen Wilson yn deffro drachefn ac yn adfeddianu ei hun, ac yn cael ymddyddan maith gyda'r meddyg Jones ar fater yr ymosodiad dlaleddol y noson flaenorol, ac yna daeth pwnc yr angladd i'r bwrdd, pryd y dywedal,- "Cladder Tom yn ddiaddurn a diseremonl fel y gweddai i was o'i fath ef; Kate (Mrs. Wilson) anfoner at yr Offeiriad i beldio bod yn faith gyda'r gwasanaeth claddedigol, gan fod amser fy ngwasanaeth-ddynlon yn brin; rhaid i'r llafurwyr orphen aredig y caeau gwenith yn ddiymaros; a'r morwynion, rhaid iddynt ddarparu ar gyfer y ddawns fwriadedig. Cychwyner yr orymdaith am ddau o'r gloch, a chan cad yw mynwent y Llan yn mhell, gallfd dychwelyd erbyn haner awr wedi tri o'r gloch y fan pellaf; nid oes amser I ymdrwsio, aed pawb yn eu dillad gwaith, fel y gwypo y babl mai angladd gweithiwr tlawd fydd y cya- hebrwng; rhaid dangos gwahaniaeth rhwng angladd boneddwr ac eiddo dyn cyffredin." Mrs. Wilson yn grwgnach yn erbyn caeth- der y gorchymyn, ond yn gorfod tewi ac addaw cario y gweithredladau allan o dan berygl gyru Wilson i'w ynfydrwydd nwydus blaenor- ol. Sylwai Dr. Jones hefyd ar annoethineb y trefniadau angladdol, ond nid oedd dim yn ttcio, rhaid oedd i Wilson i gael carlo allan ei gynlluniau iselhaol. Wilson yn ymhyfhau gan sylwl,- "Ni chewch chwi Kate fyned i'r angladd na Johnny ychwaith; byddai yn ddianrhydedd i foneddigion fel y ni i fyned i angladd gwas, na, na, rhaid cadw urddas y teulu i fyny. Y mae Mr. Reberts o lofa'r Cwm, yn arfer myned i angladd ei weithwyr; a phaham nas gallaf flnau gael myned i gynhebrWng angladd- ol poor Tom?" gofynai Johnny. "A wyt ti yn ystyried Roberts o'r Cwm yn foneddwr o tcoed fel tydi, a phawb o deulu anrhydeddus ac hynafol y Plascoch?" gofynai Wilson yn gellwelrus gan sylwi, "rhaid i ti Mr. Johnny i ymgymysgu llai gyda'r gweislon a phobl dlodion, neu bydd i ti gael achos I edifarhau." Dr. Jones yn crafa el gernau mewn anfodd- lonrwydd, ac yn tremio yn Uygaid Wilson gan ddywedyd,— "Dyn rhagorol yw Mr. Roberts, gwyr ef y ffordd i ymddwyn o flaen y brenln; y mae ef yn ddiarhebol am ei good manners; credwyf ei fod yn foneddwr campus er fod rhai o'r gweithwyr yn barod i achwyn arno." "Syndod y byd! mab John y crydd— Roberts yr hwn a fu yn gweithio a'i ddwylaw ei hun yn foneddwr! rhaid fod dynion yn eyfrif urddas boneddigion yn dra isel cyn y gellid rhyfygu i resu meistrl y gweithfeydd yma gyda boneddigion parchus ein tir," sylwai Wilson, gan watgu ei ddanedd mewn dig- llonedd. Mrs. Wilson yn gorchymyn i Hopcyn ym- barotoi ar gyfer yr angladd, gan fyned a'r gorchymyn yn gysylltiedig a'r trefniadau i Richard Tymawr; afi yna ymadawodd y meddyg wedi gweled fod Wilson wedi bwrw ymaith yr ofn, ac yn ymddangos ar wellhad. Yr adeg i gychwyn yr orymdaith angladdol a ddaeth, pryd yr oedd gwelsion, morwynion, a gweithwyr y palas yn bresenol yn eu dillad eyffredin yn ol y gorchymyn, a Richard Ty- mawr yn brif arweinydd. "Gadewch i ni gael rhoddi gair allan i ganu cyn cychwyn," meddai Hopcyn, gyda delgryn cydymdeimlol yn trelglo dros ei rudd; a chyda bod gwr yr Hafod ar haner ei roddi allan, wele Mrs. Wilsrn yn gwneud el hym- ddangosled yn y bow window ar gals ei phriod, ac yn gwaeddi,— "Dim canu, dim seremonl, cychwyner yn ddiarofyn, nid oes amser IV golli, mae'r gwaith yn galw!" Y cwmnl angladdol yn edrych ar eu gtlydd yn stomedig, gan slbrwd i'w gilydd fod hyny yn rhy ddrwg, ac yn rhy galed i'w oddef. Yr angladd yn codi ymaith o yetafell y golchdy, lie dodasld corff anmharus Tom Hiley druan, ac yn eymeryd ei redfa trwy glwyd y pare, ac yna droa yr hen ffordd eglwys tua'r Llan. Pan ar ganol y ffordd, clywai yr angladdwyr drwst carlamiad march ar eu holau, a phwy oedd y gyrwr brystog ond Johnny leuanc wedi tori ar draws gorchymyn ei dad er dllyn yr elor i'r gladdfa; erbyn iddynt gyrhaedd eneyd yn mhellach, dyna swn helfa galed yn taraw ar eu clustlau, gan barhau i gynyddu nes i'r cwmni angladdol gyrhaedd hyd glwyd mynwent y Llan; ond nid oedd yno yr un offeiriad yn eu haros. "Y mae hyn yn rhy ddrwg," meddai Hopcyn, talu i berson am wasanaethu dros y plwyfolion, ac yntau yn segura yn ddlofal." "Ust! clywch," meddai Mr. Johnny, "dyna lais Mr. Wilkins yr offeiriad yn mysg yr helwyr!"
[No title]
Meddyginiaeth i anwyd a Fheswch trwy Wafers Pul- monic Dr. Locock.—Mr. Gilea, Yagolfeistr y Fyddin, Shorncllffe, a jBgrifena Taoh. 16, 1869:—'Wedi bod am flynyddoedd yn dyoddef oherwydd chest wan, trwy yr hynyroeddwn yn hynod o sgored i anwyd a pheawoh, dymuirwyf ddwyn fy nhystiolaeth i effeithioliwydd Wa- dymuirwyf ddwyn fy nhystiolaeth i effeithioliwydd Wa- fers Dr. Looook, y rhai yr ydwyf wedi eu defnyddio gyda lhryddiant mawr, alr rhai yn ddieithriad alm rhyddhant oddiwrth y pesweh mwyaf annyoddefol.—(Arwyddwyd,) N. Giles.' Rhydd y Wafers hyn ryddhad uniongyrohol oddiwrth Asthma, Darfodfdigaeth, Pesweh, Anwyd, ao anhwylderan y gwddf a'r ysgyfaint. Y mae iddynt flaa d,munol. is. lo. y blychaid. Ar werth gan bob drug- gis t.
LLAWDYRNU SAMSON.
LLAWDYRNU SAMSON. LLITH XVI. Mr. Gol.,—Y mae amryw lythyrau wedi d'od i'r ysgubor yn canmol y darn bendigeid- lawn hwnw « ymddangosodd yn fy 111th ddi- weddaf ar y Fynwent. Cofiwch chwi, bardd oedd awdwr rheiny, ac nid jaekfardd na gmill- fardd. Yr oedd yn dda genyf weled sylwad- au synwyrlawn Gwilym Elian yn y GWLAD. GARWR diweddaf ar Eisteddfod Towyn. Yr wyf fi, ac y mae teulu yr ysgubor, yn cydolygu ag ef bob gair a brawddeg. Paham nad allesld cael bechgyn o'r South i feirniadu neu gyd- feirniadu yn Elsteddfodau y North? Ym- ddangosodd llythyr yn yr Herald Cymnig yr wythnos ddlweddaf yn demandio i fehrniad- aeth Towyn gael ei chyhoeddi. Beth yw y rheswm na fyddai hono wedi gweled goleu dydd cyn hyn ? Efallal fod ar y barnwyr dipyn oyswildodobetthynas iddi.5 Y gwiram danl, y mae y toddaid fu Gwilym Elian yn analyso yn dra annheilwng o fod yn fuddugol, pan yr oedd cynifer o doddeidiau da i fewn. Dyma un ddaeth i'r ysgubor heddyw :— 41 Ah dyma arwr I dy y meirwon Oadd fyw awenydd, un o r addfwynioo, Saia gor hwylua ei swyngar alawon A bar t eynn ya ber ei swynion, Wiw deulu y duwlollon-hyd nea ant I nef ogonlaat ein Naf a'i geinion." Y Mae un o'r belrniaid, saf Mynyddog, wedi bod yn priodi yn ddiweddar, ac efallal fod duwles cariad wedi dallu ei lygaid I'r fath raddau nes methai ganfod rhagoriaethau y darnau oeddynt yn y gystadleuaeth. Sicr yw fod ganddo ef a Ceiriog hen gount trwm i'w roddi am y bonglereiddiwch a gyflawnasant yn Nhowyn. Yr ydym ni vn mawr a thrylwyr gydym- deimlo a Eos Wyn yn ei gystudd trwm a hir; ond gyda llaw, dymunwn ei hysbysu ei fod wedi cael enald a syniad ei gerdd yn Mhrudd- gan Telynog. Y mae y syniadaeth mor debyg, nes y mae parfb ag sydd wedi darllen Telynog yn rhwym o gydolygu a ni. Teg i bawb ei eiddo, a theg fuasai i Eos Wyn gydnabod hyn yma. Yr oeddem ni yma wedi meddwl cyfansoddi englyn neu doddald i etlfedd y Cymro Gwyllt yr wythnos hon, ond fe'n lluddiwyd gan orchwylion amryfath yr ysgubor. Dichon y daw yn barod erbyn yr wythnos nesaf; ac 08 na fydd ynwell na phenill Llyfnwy, ni rown y grefft farddol o'r neilldu ar unwaith. An- fonwyd llythyr yma heddyw yn gofyn am engralfft o benllllon triban. Dyma hwy:— Pechodau In aneiri', Rhyw ganoedd ga'dd eu geni; OAd eto balchder drwg el Inn Yw'r hynaf un o'r rheioy Mae balchder brwnt nffernol Mor groea i'r enaid grae61, Er ei fod yn digio Daw, Dlofid yw i'r dtafol f'" YD wIr mae'r aDlan yma Yn tyfu trwy blant Adda; Hwy ant yn mlaen o gam i gam Mor awchns am yr nwcha. Mae ambell lodes Uwdeg Yn bwydo hwn bob adeg Tywy falchdtr CM yn zoyn'd o'n oo', Bydd 'mron s'n hado i hedeg." Dyna ddigon o engraffau triban. Cofiwch fi yn fawr, yn hir, a qwresog at Llwydwedd, Caeiodor, a gofynwch iddo pa bryd y mae yn myned i gyhoeddi enwau beirniad neu feirniaid Eisteddfod Bryste. Y mae yn rhaid i ni gael gwybod pwy sydd i feirniadu cyn rhoi pin ar bapyr. 'Dyw hi ddim use yn y byd lolan, a threio tynu bech- gyn i gyfansoddi, pan ysgatfydd y bydd rhyw frwyn yn belrniadu. De'wch ag enwan. y belrniaid, Bristolians, onide dim llinell o'r ysgubor. Fe fu gwyneb slriol Eurglawdd heibio yma yn ddiweddar, yn nghyd a'r bardd-bregethwr Cunllo Griffiths. Bechgyn noble yw y ddau. Cofiwch alw eto yn fuan. Y mae Cadfwch a Ffradach yn ffraeo yn go ami y dyddiau hyn o baithed i deithi amryw. logsain cynghanedd. Y mae galwad mynych arnaf i gyfryngu rhyngddynt. Y maent yn graddol enill tlr yn y gynghanedd, a dios genyfydeuantyn gampwyr cyn hir. Oofion byrbwyll at y barddonwrs. SAMSON.
BEIRNIADAETH EISTEDDFOD ALBAN…
BEIRNIADAETH EISTEDDFOD ALBAN ELFED ABERDARE, 1871. I. YR ANFFYDDIWR. 13.-Af ddolvw.- "A gwedy awdurdod eu dilya fynegion." Yr unig fat o bwys yn yr awdwr hwn ydyw ysgrifenu y gair gwadu yn y ffurf uehod. Dylai awdwr ol alLu ef ystyried pa ferfau a elllr eu terfynu yn y llafariad y, yn yr amser presenol a'r dyfodol. Yn awr at y dystlolaeth ynte :-NI ddylid terfynu un math o ferf a orpheno yn wrelddlol gydag u yn y, yn y pre- senol na'r dyfodol. "Terfyna earn yn u, oni wna?" ebe UD. Atebaf, y gwna. "Y mae genyf adnod I brofi fy mhwnc," ebe yr amheu- wr (nld wyf yn meddwl Addolwt), "a dyma hi,—'Cery yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, &c. Nid eery, ond ceri geir yn y Beibl. Y perwyddlaid hyny a derfynant yn a ac o a droir i y yn y presenol neu y dyfodol. Dyma y rheol:—" A ot the penult (y sill olaf ond un mewn gair), and a or e of the ultima (y sill derfynol), are changed into e, y, respec- tlvely; as attal, ettyl; para, pery; ateb, etyb gwared, gweryd; darllen, derllyn. Bwyta Is also changed Into bwyty. A and o of the pennlt, and o (or aw) of the ultima are changed Into e, y, respectively, as aros, erys; marchog, merchyg; adrodd, edrydd; dangos, dengys j cwrandaw, gwrendy taraw, tery; gadaw, gedy; addayr, eddy; gosod, gesyd. 0 In monosyllables, or in the ultima of words of more than one syllable, is very frequently changed into y aa tro, try; tor, tyr; rho, dyry; rhodd, rhydd; ffo, ffy; golch, gylch; dod, dyd; clo, cly; coll, cyll; llosg, llysg; cyfod, cyfvd; deffro, deffry; cyffro, cyffry; diffodd, dlffydd; ymdro, ymdry; gwrthod, gwr thy d." Felly gwelir fod y sill ddiweddaf a'r ddlweddaf ond un yn newld wrth reol, ac nid fel math o F/eniam yn gwneud fel y mynont. Gwel Gram. Rowland, (3rd edition), daL 72, (d), (e), (f). EsgeulusdodAddolwr ynddiau fu yrachos o'i goll uchod, ac 1 minau wneud y sylw hyn. Mae Addolwr yn canu mor llithrig ag anadl dyner bore Mai, el gy strawlad ynddldramgwy dd, ei gydmariaethau yn naturiol ac awchlym, ei wawdlaeth yn finlog, ei iaith yn bur a choeth, a'i feddylddrychau yn wir awenyddol a gafael- gar. Dyfynu ei gan fyddai myned at el omega. Hen Gristion, Gwlr Giistlon. Credadyn, ac Addolwr a ystyriwyf yn rhagori yn y gystadl- euaeth hon; ac wedi manwl ddarllen, mantoH, a barnu, nis gallaf wneud dim yn well na rhanu y wobr rhwng Credadyn ac Addolwr. Ond yn wir dylai y ddau Gristion gael eu cydnabod, os yn bosibl. Y maent oil yn y gystadleuaeth oddigeith tri neu bedwar yn weith y wobr; ond y mae y pedwar a enwals ddlweddaf yma yn werth llawer mwy. Nt. ddylasld cynyg gwobr mor fechan am ganu ar y fath destyn. II. Llinellau Oydymdeimlad d Mr. a Mm. Evans, Aberdar, yn eu trallod yn ngwymb marwolaeth eu tri phlentyn. Derbyniwyd 7. 1. Gwylledydd.-Mae gwallau yr awdwr yn rhy luosog t mi i'w nodi yma: anfoned am ei gopi yn ol, ac edryched drosto, a cha weled rhai o'i gollladau wedi eu nodi allan ag inc coch. Myfyried Rammadeg. Darllened welth- lau'r prif feirdd gyda mwy o sylw, a gweith- lau'r in in feirdd gyda Hal o sylw. Na ddl- galoned mewn ua modd. Na ddigied am fy ughynghor Iddo. Daeth ei gyfansoddiad I law yn rhy ddiweddar. 2. Wylofus.—Ychydlg neu ddim o gydym- deimlad sy ganddo ef. Ni wyr ddim am y lie I ddefnyddio y prif lythyrenau. Cofied fod prif lythyren i'w rhoi ar ddechreu ymadrodd, iddechreupob llinell mown bardd oniaeth, I ddechren pob enw pr)odol, ac i ddechreu pob term a ddefnyddir i osod allan y Bod. Dwyfol, ac hyd yn nod i ddechreu rhagenwau a safant am un o enwau Duw. Myfyried sefyllfa yr A. Mewn gair, dysged Rammadeg. Mae yr hen h fel rhyw Fenian derfysglyd yn nheyrnas j llythyrenau i'r belrdd a'r llenorion ieuainc, a hen hefyd. Rhaid i mi gredu fod genym ni yn Morganwg fwy o waith rhyfela a hi (A) na neb—nag un sir yn Nghymru—cyn ei gorch- fygu. Hoffwn weled rhai o'r beirdd yn cyfan- soddi ychydlg englynion i'r llythyren h. Dan- foned Wylofus am ei gopl, a cha weled llawer o'i feiau wedi eu nodi allan. Na ddlgaloned er dim. Pryned Rammadeg a Geiriadur bychan. Myfyried y blaenaf, a thioad bob gair na wyr ei sillebiaeth yn yr olaf cyn rhoi pin ar bapyr. Ni hoffwn, er dim, ddigaloni neb: bum, ac yr wyf eto, yn wan fy hun. 3. Marah.— Heb wrandaw ar weddiau ofynai arbediad." Heb wrandaw gweddiau ofynent arbediad 81 Rammadegol: mae gweddiau yn air trislll, ac yn gofyn y ferf lywodraethir ganddo yn yr un rhif ag yntau-y lluosog yma. Y llinell— Tra llawer planigyn yn plygu dan ffrwythan," sydd linell hynod o ran ei meddwl i mi: plan- igyn yn plygu dan ffrwythau! Myned ei gopt yn ol ac edryched drosto. Mae ynddo, er ei wallau, gryn dipyn o gydymdeimlad. Gall ddod yn fardd ond ymdrechu. 4. Un tyner dan y tonau.—"Ar yllawr"yn el benill cyntaf sy lanw er mwyn odl. Cofied yntau fed tolnodi ar ol cydsain yn feius lawn: "i ni rhai byw," llanw gwallus yw: "ti" am fu: "hoi" am nol: "ag" am ac: "calon-gur" am gur calon. Edryched dros el gopl. Na ddigied am gael cynghor caredig. Ymroed, a daw yn fardd. 5. Homoepathy.-Nis gwyr ef y ffordd 1 ys- grifenu ei ftugenw yn lawn. Paham na allasai ddewis enw bach syml ac hawdd ei slllebu, megys "Dryw," neu rywbeth tebyg? Onid rhywbeth fel Homeopathy neu Homeopathy feddyliodd ysgrifenu? Rosynau heirddion heb flodeuo'n 11awn, Yn flydd dan wlith o ddinfweidrwydd pnr, A'u aawrarledar hydyraelwydglyid [Ehosyn ar aelwyd I Heb eatron law i'w cyffwrdd er eu cut" Nid oes un cysylltlad rhwng y llinellau uchod A dim. ou blaen nac A dim ar eu hoi; fIP,