Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
LLOSGIAD CHICAGO.
LLOSGIAD CHICAGO. Llosgiad Chicago ydyw y dinystr mwyaf ar feddianau sydd wedi cymeryd lie yn yr oes hon, a'r dinystr mwyaf sydd wedi cymeryd lie yn America erioed. Yr oedd y rhan fwyaf o fasnach y ddinas yn perthyn i'r rhan hono a elwid y South Side. Yma yr oedd y rhan fwyaf o'r yd-fasnachdai, y rhai ar adeg y dinystr a gynwysent 6,000,000 o fwsieli o yd. Yma hefyd yr oedd holl orsafoedd y reilffyrdd, ariandai, Bwyddfaau yswiriol, adeiladau y Llywodr- aeth, y gwestai mawrion, am y rhai yr oedd Chicago mor hynod yn mhlith dinasoedd y West, a'r adeiladau cyhoeddus goreu ereill. Yr oedd masnachwyr Chicago yn ymfalchio mewn adeiladu y masnachdai goreu, a'u llenwi a'r nwyddau goreu yn America. Yn y rhan yma o'r ddinas yr oedd preswyl- feydd masnachwyr cyfoethocaf y lie, prif Eglwysi y gwahanol grefyddwyr, a'r rhan fwyaf o'r holl ysgolion. Y mae y rhan hon o'r ddinas wedi ei hollol ddinystrio, gyda'r eithriad o ychydig dai anorphenedig yn y rhan mwyaf deheuol. Nid oedd ond ychydig fasnach yn cael ei gario yn mlaen yn y rhan gogleddol. Yr oedd yn le hynod o brydferth, gyda thai coed wedi eu hamgylchynu a gerddi. Nid oes dim wedi ei adael yno ond ychydig adeiladau ar yr ymylon allanol. Yn y rhan gorllewinol y preswyliai y dosbarthiadau gweithiol, gyda masnachdai bychain, gwerthfaaucoed, a'r rhan fwyaf o'r factories. Yr oedd y dinystr yr ochr hyn yn llai nag mewn unrhyw le arall. Y mae amryw o weithdai mawrion wedi eu hachub yno, a lluaws o westai ailraddol yn sefyll. Nid yw y rhan sydd yn sefyll ond yr hyn a ellir ei alw yn ymylon allanol y ddinas. Yr oedd pedair rhan o bump o adeiladau Chicago yn goed, yr ystrydoedd wedi eupavio o bloc- iau yn goed taredig, ac ymylon yr heolydd, oddieithr y rhanau mwyaf masnachol, wedi eu gwneud o astellod. Cariodd y gwynt cryf a chwythai ar yr adeg, y ffiamau ar draws yr afon, dinystr- wyd y llougau, difawyd y pontydd, a syrthiai yr adeiladau ag oeddynt wedi cael eu gwneud o geryg, briddfeini, a haiarn, yn garneddai i'r llawr. Pa faint o fywydau sydd wedi eu colli, nid yw yn wybyddus, ond y mae oddeutu 500 ar goll. Y mae yno oddeutu 150,000 yn ddigar- tref. Y mae yr Eglwysi sydd yn sefyll wedi eu gorlenwi o bobi; eanoedd hefydyn byw yn yr awyragored; tra y mae ychydig ganoedd sydd yn fwy ffodus, yn byw mewn pabellau ag y mae y Cadfridog Sheridan wedi eu dwyn yno. Ofnid ar y cyntaf y buasai newyn yn cael ei deimlo yno, ond y mae pob ofnau yn nghylch y gelyn hwnw wedi ei hollol ddileu, a hyny trwy yr haelfrydedd ag y mae y dinas- oedd amgylchynedig wedi ei ddangos. Daliwyd wyth o bersonau yn rhoddi tan mewn adeiladau, a hyny yn bwrpasol, y mae yn debyg, er mwyn yspeilio. Ymosod- wyd ar y rhai hyny gan y mob, a saethwyd rhai o honynt yn feirw, tra y crogwyd y lleill ar y lamp-posts agosaf Credir mai yr amcangyfrif agosaf o'r golled ydyw yr hwn sydd yn ei osod i lawr yn 100,000,000. Ar adeg y tan gwelid menywod wedi haner wisgo ar hyd yr heolydd, ac yn cario eu plant yn eu breichiau. Rhedeg nid allent, canys ni wyddent pa le i redeg, am fod un heol fel y Hall yn llawn tan. Troent eu golygon fel y mynent, nid oedd ond y ffiamiau i'w canfod, a llefau o drueni yn disgyn ar eu clustiau. Ar adegau clywent drwst syrthiad adeilad uchel, yr hwn ar y pryd a foddai drwst pawb a phob peth arall, a phob yn awr ac eilwaith gwelid llwyth o gyrff dynol yn cael eu trosglwyddo ymaith, y rhai a gafwyd o ganol rhyw bentwr o ddadfeiliou. Fel esiampl o ganoedd ereill o ddinasydd- ion Chicago, dyna Mr Brass, prif berchenog y Chicago Tribune, y newyddiadur mwyaf j. dylanwadol yn y West, yn cael y newydd fod ei swyddfa yn un rhan o'r dref yn garnedd, a'i anedd-dy mewn rhan arall wedi eyfarfod a'r un dynged, fel nad oedd ganddo le i roddi ei ben i lawr; ac wedi colli yr oil yr un dydd. Ond yn nghanol y cwbl, nid yw pobl Chicago wedi llwfrhau; mor gynted ag y deuwyd i wybod y gwaethaf, codasant fel un Haw i wneud y goreu o hono.
AMERICA.
AMERICA. MORMONIAETH.—Ar y 5ed o'r mis hwn —yn mhen tri diwrnod wedi i Brigham Young gael ei gymeryd i fyny gan awdur- dodau yr Unol Dalaethau am amlwreiciaeth -ymgynullodd wyth mil o Formoniaid yn y Tabernael Newydd yn ninas y Llyu Halen. Anrhydeddwyd y cynulliad a phresenoldeb y tri llywydd cyntaf, y Deu- ddeg Apostol, yr Archoffeiriaid, ac urddas- olion ereill yr Eglwys. Condemniodd yr holl siaradwyr awdurdodau yr Undeb yn ddiarbed; ond araeth Brigham Young, ieuangaf, oedd y ffyrnicaf o'r cwbl. Ei gynghor i'r ffyddloniaid oedd, ar iddynt ymddiried yn ddiysgog yn Nuw, a chadw eu pylor yn sych, gan ofalu am gadw cyf- lenwad da o gad-ddarpariaethau. "Dyma," ebe fe. y wir ffydd a dywedodd yr holl gynulleidfa" Amen!" gan floeddio yn uchel, a churo eu dwylaw. SCALPIO GAN INDIAID AMERICA. Y n ol y newyddion diweddaraf o'r Tiriogaethau Indiaidd, y mae y dynion cochion yn parhau i ddifyru eu hunain drwy ladd a scalpio y sefydlwyr. Ychydig ddyddiau yn ol lladd- wyd a scalpiwyd nifer o ddynion gan y Kiowas yn nghymydogaeth Fort Sill, ac yn ddiweddarach fyth lladdwyd dau ddyn oedd- ynt yn edrych ar ol anifeiliaid yn ngolwg y gaerfa. Cafwyd o hyd i'w cyrff wedi eu han- ffurfio tuhwnt i adnabyddiaeth.
Advertising
A GENTLEMAN, having been cured of the results of YOUTHFUL ERROR and PRIVATE DISEASES, after years of suffering, will be happy to send a copy of th- prescription used, on receipt of One Stamp, -Address, Arthur Jones, Esq., 4, Frederick's Place, Shacklewell, London. AT FLAENORIAID CORAU. YN eisieu yn ddioed, dyn cymwys i ddysgu a blaenori canu yn eglwys Ynysgau, Merthyr. Cyflog, f,8 y tlwyddyn. Rhaid iddo fodyn berson galluog, ac o gymeriad diargy- hoedd. Am fanylion pellach, ymofyner a Joseph Williams, argraffydd, &c., 21, Heol Glebeland, Merthyr. TRYDYDD EISTEDDFOD GERDD- OBOL, ADRODDIADOL, &c., SOAR, PONTLOTTYN, RHYMNI, NADOLIG, 1871. I'r Cor Undebol, heb fod dan 80 o rif: a gano yn oreu yr H Hallelujah Chorus," o'r Messiah £ 15 0 0 Am y gweddill o'r Testynau gwel y Programme. Cyfarfodydd am 10 a 2. Cyngherdd am 7. Swllt i'r tri chyfarfod 6- i blant dan 15eg oed. I'r Gyngherdd yn unig, 6c. plant dan 15eg oed, 3c. Cadeirydd a Beirniad yr Adroddiadau,- Y Parch. D. O. Edwards. Glyn Ebbw. Beirniad y Cann,- Mr. C. D. Lewis, (Cerddor GwaUa) Arwein dd,—Y Parch. J. P. Williams. Trysorydd,-Mr. John Llewellyn. Programmes, Ceiniog yr un; drwy y Po-t, Ceiniog a dimai yr un. I'w cael gan yr Ysgrifenydd, MR. WM. LEWIS WILLIAMS, (Gwilym Craig y Tyle), Pontlottyn, Rhymni, Ffugenwau y cystadleuwyr mewn canu ac adrodd i fod yn Haw yr Ysgrifenydd cyn neu ar y 23atn p Rhagfyr.
GWYL GERDDOROL CASTELLNEDD.
GWYL GERDDOROL CASTELL- NEDD. "DYDDED hysbys y cynelir yr wyl hon yn y dref uchod, dydd GWENER Y GROG- LITH nesaf, dan nawdd rhai o brif foneddigion y dref, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwydd- ianus ar wahanol destynau. £ s. c. I'r C6r o'r un gynulleidfa, heb fod dan 40 o rif, a gano yn oreu Bendi- y > gedig fydd Arglwydd Dduw Israel," gan John Thomas, Blaenanerch, ac i'w chael gan Hughes a'i Fab, Wrexham. 12 0 0 I'r C6r o'r un gynulleidfa, heb fod dan 30 o rif. a gano yn oreu "Y Ffrwd," gan Gwilym Gwent, o'r Qerddor Cy- mreig.300 I'r C6r o Blant, heb fod dan 30 o rif, na thros 15 oed, a gano yn oreu Cyngherdd y Plant," allan o Gor y n K,- Plant. Caniateir i bedwar mewn oed eu cynorthwyo. 1 5 0 Beirniad,—EOS MORLAIS. Bydd Programmes yn cynwys y gweddill o'r testynau a'r amodau yn barod yn fuan, am y pris arferol, ac i'w cael gan yr ysgrifenydd. Bydd Cyngherdd yn yr hwyr, pryd y gwasan- aethir gan y beirniad, ac amryw gantorion enwog ereill. D.S.—Ni chaniateir i unrhyw gôra fydd wedi enill gwobr o JElo ac uchod o'r blaen i gystadlu. Dros y Pwyllgor, LLEW O'R LLWYN, 5 • Aberdulais, Neath,
Advertising
CYNELIR EISTEDDFOD GERDDOROL I YN LIB ANUS. TREFORIS, Dydd Nadoliq, Rhagfyr 25, 1871. TESTYNAU. 1 Am y dadsraniad goreu gan Gor o'r nn ffyutillbidfft, o How lovely ate the messengers." (St. Paul), gwobr £ 15 2. Am y dadganiad goren gan Gor o'r un gynulleidfa. o Round our Gteen," o'r (Opera Chorus Book, III,) gwobr £7. 3. Am y dadganiad goieu gan Gor o blant. heb fod dan 30 mewn rif, "Only beginning the journey." gwobr -02 10s. Programmes yn CYDWYW y maayllon, i'w cael gan yr Ysgrifenydd, ar dderbyniad pottage stamp ceiniog. J. H GRIFFITHS, Ysgrifenydd.
CALF ARIA, CLYDACH.
CALF ARIA, CLYDACH. CYNELIR y Chweched EISTEDDFOD Flynyddol yn y lie uchod D YDD N ADOLIG, 1871, pryd y gwobrwy- ir yr ymgeiswyr llwyddianus ar y testynau canlynol:- TRABTHAWD. 1. Am y Traethawd goreu ar Hanes y Bed- yddwyr yn Cwmtawe 010 0 BARDDONIAETH. 2. Am y Pedwar Penill goreu o Glod I Mr B. Jones, Cloth Hall, am ei ffyddlondeb fel Ys- grifenydd Eglwysig 010 0 CANIADAETH. 3. I'r Cor o'r un gynulleidfa a gano oreu "Ardderchog Wlad y Bryniau," o'r Cerddor, gan D. Emlyl Evans 10 0 0 (A Baton hardd i'r arweinydd.) 4. I'r Cor o'r un gynulleidfa a gano oreu Y Ffrwd," gan Gwilym Gwent 5 0 0 5. I'r Cor o blant heb fod dan 16eg oed a gano oreu "Plant yn Canu," o Cor y Plant 16 6. I'r pedwar a gano oreu "Mi grwydrais lan yr afon, o Qeindau'r Gerdd 1 0 0 7. I'r tri a gano oreu y T-rio or Anthem "Mor hawddgar yw dy bebyll," gan Joseph Parry 0 16 0 8. I'r ddau a gano oreu "Oh! tell me, gentle stranger," gan John Parry 0 10 0 9. I'r hwn a gano yn oreu (yn E.) "The Bell- ringer" 0 7 6 10. I'r hwn a gano oreu "Hoff Fryniau fy Ngwlad," o Geinciau'r Gerdd 0 7 6 11. I'r hon a gano oreu "Difyrwch Arglwydd- es Ow&in," o'r Welsh Melodies 0 7 6 ADRODDIADAU. 12. A m yr adroddiad goreu or "Bedd yn yr Ardd," o Gemau'r Adroddwr, gan Ceiriog 0 6 0 13. Am yr adroddiad goreu o'r "DUuw," o Caniadau Islwyn .030 Am y Par o Hosanau goreu o wlan du'r ddafad .070 AMODAU. 1. Rhaid i'r corau fod o'r un gynulleidfa, ond caniateir iddynt ddewis arweinydd. 2. Caniateir i bump mewn oed i ganu gyda Chory Plant. 3. Ni chaniateir i'r Cor buddugol ar y brif ddn i gys- tadlu ar Y Ffrwd." Yr oil ffugenwau i fod yn llaw yr Ysgrifenydd erbyn Rhagfyr lOfed. Beirniad y Gerddoriaeth,—Mr Rees Lewis (Eos Ebrill). Beirniad y Cyfansoddiadau a'r Adroddiadau,—y Parch. H. Gwerfyl James, MorristoB. J. B. JONES Ysgrifenydd. Y llyfrau i'w cael gan Wm. Griffiths, Bookseller, Clyd- ach, pris Is. yr un.
Advertising
GWYL GERDDOROL UNDEBOL ABERDAR. BYDDED hysbys y cynelir yr wyl uchod yn y Temperance Hall, Aberdar, dydd NADOtIOfe"af, BEINRIAD —Mr. T. Da vies. (Eos Rbondda). LLYWYDD,—Y Parch. E. Edmunds. ge Y Programme i'w gael gan yr Ysgrifenydd, am y pris arferol. CYNELIR CYNGERDD yn yr hwyr, yn yr hon y gwas- anaethir gan amryw gantorion enwog. THOS. JBowiLts, (Hywel Cynon), Ysgrifenydd, Aberaman. Eisteddfod Witton Park. Cy N ELIR yr eisteddfod uchod y Nadolig nesif, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwyddianus mewn Traethodan, Canu, Buddon- iaeth, &c. Y prif diernyn Cerddorol. I'r cor, heb fod dan 50 o rif, a gano yn oreu yr anthem. In Jewry is Qtd known," gwobr £ 7 a medal i'r arweinydd. Beirniad y Traethodan a'r Fa-ddonlaeth,—Y Parch. J. E. Jones, MA. LID. Beirniad y CaDa,-W. Griffiths, Eeq, Workington. Am fanylton pellach, ymofynir a'r ysgrifenydd. Bydd y programmes yn barod yn faan, ac i'w cael gan yr ysgrifenydd am ddwy gelniog; drwy y post am 21a. Mr. J. BEVAN, Yøg, 33, Aloion-bt, WITTON PARK. CALFABIA, TBEFFOBEST. "DYDDED hysbys y cynelir Eisteddfod yn y capeluchod, dydd Nadolig. Rhagfyr 25, 1871, pryd y gwobrwyir y buddugol ar y gwabanol destynau. Litw dd,-D Roberts, Esq., Taff Vale Works. Beirniaid.—Y Farddoniaeth,—Cam Elian; Cerddoiiaeth, -EoI Hafod. Testynau.-Y Farddoniaflth. 1. Am y 3 penill goreu i Gyfrlnfa ItocaMd Craig-y- Fforest, 10s. 2. Am y 4 penill goreu i Dr. Lirfogstone, 5s* 3. Am y 2 benill gorea i Anian," cymwys i gyfansoddi Canig, 5s. Caniadaeth. 1. I'r cor a gano yn oreu, "Dy ffordd sydd yn y mor," gan Eos Llechyd. Gwobr, £ 3. 2. 1'r cor a gano yn oren, Clyw, 0 Arglwydd," gan Howell Idloes. Gwobr, £1.. 3. I'r parti a pano yn oreu y gan a chydgan, "Hen Gymru Anwylaf,"gan Gwilym Gwent, Gwobr, 12s. Copies i'w cael am oh we' chelniog yr un gan Dewi Alaw. 4. I' parti a gano yn orea y gaa a'r gyagaa, "Patadwys y Ddaear," gan Eos Coity. Gwobr 811. Y gweddill o'r testynau fw y programme, yr hwn sydd i'w gael gan yr ygsMfenyild, drwy y post, am 2 stamp ceiniog. Robyn Meiron, Trefforeet, Pontypridd. I Tabernacle, Maesteg. YNELIR Trydydd Eisteddfod Flynyddol C Maesteg, yn y capel uchod, y Nadolig nesaf, dan lywyddlaeth Dr. W. H. Thomas, pan y gwobr- wylr yr ymgeiswyr llwyddianus ar amrywiol destyxun dyddorol a phwysig. CKBDDOEIAEEH. I'r cor, heb fod can 4,) o rhif, a gano yn oreu, "Rhuthrgyrch." o'r Cerddor Cymraeg, rhif 89. Gwobr, £10, I'r cor, dim dan 30, a gano yn oreu, Tre'wch y Tant" o'r Cerddor Cymreig, rhif 20. Gwobr, JE2. Beirniad y Gerddorlaeth — Mr. David Lewis, Llanrhystyd. Beirniad y Farddoniaeth, y Traeth- odan, &c,—Y Parch J. Jones, Tonyrefail Testyn Ychwan«s;ol —Am y Farwnad oreu I'r diweddar Barch. Tdomas Hopkins, gweinidog y Bedyddwyr yn y Bettws. Gwo r, t2. Gellir cael pjb gwybodatth o bwyø o barthed I destyn y farwnad uchod ya Llawlyfr y Bedydwyw am y flwyddyn hon. Am fanylion pellach mewn perthynas a'r Ell- teddfod, gwel y programme, yr hwn sydd yn awr yn barod, ac I'w gaal gan yr ysgrifenydd, drwy (y post, ar dderbyniad dan stamp ceiniog. WILLIAM JONES, 1, Rock Street, MAESTEG. Gwyl Fawr Gerddorol ABERTAWE. "DYDDED hysbys y cynelir yr wyl uchod yn y Musical Hall, dydd Gwener y Grog- lith nesaf, dan nawdd thai o brif foneddigion y lie, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr liwydd* ianus ar wahanol destynau. I'r Cor o'r un gynulleidfa a gano yn oreu y Solo, "A ninan'r dysgyblion," yn nghyda'r chorus, "O! cadw ni o'r Storom," gan E. Stephens. 25 0 0 I'r Cor o'r un gynulleidfa a gano yn oreu, "We never will bow down." 15 0 0 0 I'r Cor o'r un gynulleidfa qa enillodd dros £ 10 o'r blaen, "Gorfoleddwn yn dy Ieehydwriaeth di," o'r Cerddor Cymreig, Rhif 12. 8 0 0 Gweur y lltil1 o'r testynau yn y rhifynau dyfodol o'r GWLADGARWR. Dros y pwyllgor, J. AI. WILLIAMS, Trecynon, Aberdar. REES JONES. it; Landore, Swansea. Carmel, Treherbert. riYNELIR AIL EISTEDDFOD yn y Capel uchod dydd Llun Nadolig, Rhagfyr 25aln, 1871, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr budd' ugol mewn Caniadaeth, Traethodau, Barddon- iaeth, ac Adroddiadau. TRAETHODAU. Am y Traethawd goreu ar Wroldeb Moesol" 110 BARDDONIAETH Am y Bryddest Farwnadol oreu i'r diweddar Mr. Richard Evans, Treheibert, (gynt Manager Maesteg.) .220 CANIADAKTH. I'r Cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 30 o rif, i" a gano yn oreu "Datod mae rhwymau caeth- iwed, (John Thoma ) 7 0 0 I'r cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 30 o rif, a gano yn oreu, Y Ffrwd," (G. Gwent), 3 0 0 ADROD IADAU. Am yr adioddiad goreu o "Seren Bethlehem," 0 5 0 [ X 5 adroddiad i'w cael yn llyfr Watcyn Wyn. 1 BEIRNIAD,—Mr. J. H. Rowlands, (Asaph Glan byfl.) Ceir pob luanylion pellach ar dderbyniad dau stamp gan yr ysgrifenydd, REES T. WILLIAMS, 1 '1 18, New Bute Row, 1. Trehcibeit, Pontypridd. EISTEDDFOD CYMRODQRION DIRWESTOL MERTHYR, NADOLIG, 1S71. T LEOHRES o'r testynau yn awr yn barod, ac i'w gael ond anfon dau lythyrnod ceiniog at yr Ysgrifenydd. Y prif ddam, "Awtke the Ha<p, or Creation; gwobr, Harnoniom, gwerth -020. JOHN BEYNON. (Ienan Lwyd), 43, Twyayrodyn, Merthyr. South Wales and Gland are Woollen Manufactory (Limited), Aberdare. -00- Capital,— £ 20,000, in Shares of £ 1 each. 2s. 6d. per Share to be paid on application. -00 DIRECTORS:— Rev. Thomas Price, M.A. PH.D., Rose Cottage, Aberdare. 3 Mr. James Richards, Post Office, Treforest. Mr. Thomas Morgan, Tonyrefail and Treorky, Merchant. Mr. Daniel Thomas, Canon-St., Aberdare. Mr. David Davies, Canon-St., Aberdare, Merchant. Mr. Thomas Edwards, Mountainash, Merchant. For further information and prospectuses apply to E. G. PRICE, Secretary, 1 14, Cardifl'-St., ABERDARE.