Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

LLOSGIAD CHICAGO.

News
Cite
Share

LLOSGIAD CHICAGO. Llosgiad Chicago ydyw y dinystr mwyaf ar feddianau sydd wedi cymeryd lie yn yr oes hon, a'r dinystr mwyaf sydd wedi cymeryd lie yn America erioed. Yr oedd y rhan fwyaf o fasnach y ddinas yn perthyn i'r rhan hono a elwid y South Side. Yma yr oedd y rhan fwyaf o'r yd-fasnachdai, y rhai ar adeg y dinystr a gynwysent 6,000,000 o fwsieli o yd. Yma hefyd yr oedd holl orsafoedd y reilffyrdd, ariandai, Bwyddfaau yswiriol, adeiladau y Llywodr- aeth, y gwestai mawrion, am y rhai yr oedd Chicago mor hynod yn mhlith dinasoedd y West, a'r adeiladau cyhoeddus goreu ereill. Yr oedd masnachwyr Chicago yn ymfalchio mewn adeiladu y masnachdai goreu, a'u llenwi a'r nwyddau goreu yn America. Yn y rhan yma o'r ddinas yr oedd preswyl- feydd masnachwyr cyfoethocaf y lie, prif Eglwysi y gwahanol grefyddwyr, a'r rhan fwyaf o'r holl ysgolion. Y mae y rhan hon o'r ddinas wedi ei hollol ddinystrio, gyda'r eithriad o ychydig dai anorphenedig yn y rhan mwyaf deheuol. Nid oedd ond ychydig fasnach yn cael ei gario yn mlaen yn y rhan gogleddol. Yr oedd yn le hynod o brydferth, gyda thai coed wedi eu hamgylchynu a gerddi. Nid oes dim wedi ei adael yno ond ychydig adeiladau ar yr ymylon allanol. Yn y rhan gorllewinol y preswyliai y dosbarthiadau gweithiol, gyda masnachdai bychain, gwerthfaaucoed, a'r rhan fwyaf o'r factories. Yr oedd y dinystr yr ochr hyn yn llai nag mewn unrhyw le arall. Y mae amryw o weithdai mawrion wedi eu hachub yno, a lluaws o westai ailraddol yn sefyll. Nid yw y rhan sydd yn sefyll ond yr hyn a ellir ei alw yn ymylon allanol y ddinas. Yr oedd pedair rhan o bump o adeiladau Chicago yn goed, yr ystrydoedd wedi eupavio o bloc- iau yn goed taredig, ac ymylon yr heolydd, oddieithr y rhanau mwyaf masnachol, wedi eu gwneud o astellod. Cariodd y gwynt cryf a chwythai ar yr adeg, y ffiamau ar draws yr afon, dinystr- wyd y llougau, difawyd y pontydd, a syrthiai yr adeiladau ag oeddynt wedi cael eu gwneud o geryg, briddfeini, a haiarn, yn garneddai i'r llawr. Pa faint o fywydau sydd wedi eu colli, nid yw yn wybyddus, ond y mae oddeutu 500 ar goll. Y mae yno oddeutu 150,000 yn ddigar- tref. Y mae yr Eglwysi sydd yn sefyll wedi eu gorlenwi o bobi; eanoedd hefydyn byw yn yr awyragored; tra y mae ychydig ganoedd sydd yn fwy ffodus, yn byw mewn pabellau ag y mae y Cadfridog Sheridan wedi eu dwyn yno. Ofnid ar y cyntaf y buasai newyn yn cael ei deimlo yno, ond y mae pob ofnau yn nghylch y gelyn hwnw wedi ei hollol ddileu, a hyny trwy yr haelfrydedd ag y mae y dinas- oedd amgylchynedig wedi ei ddangos. Daliwyd wyth o bersonau yn rhoddi tan mewn adeiladau, a hyny yn bwrpasol, y mae yn debyg, er mwyn yspeilio. Ymosod- wyd ar y rhai hyny gan y mob, a saethwyd rhai o honynt yn feirw, tra y crogwyd y lleill ar y lamp-posts agosaf Credir mai yr amcangyfrif agosaf o'r golled ydyw yr hwn sydd yn ei osod i lawr yn 100,000,000. Ar adeg y tan gwelid menywod wedi haner wisgo ar hyd yr heolydd, ac yn cario eu plant yn eu breichiau. Rhedeg nid allent, canys ni wyddent pa le i redeg, am fod un heol fel y Hall yn llawn tan. Troent eu golygon fel y mynent, nid oedd ond y ffiamiau i'w canfod, a llefau o drueni yn disgyn ar eu clustiau. Ar adegau clywent drwst syrthiad adeilad uchel, yr hwn ar y pryd a foddai drwst pawb a phob peth arall, a phob yn awr ac eilwaith gwelid llwyth o gyrff dynol yn cael eu trosglwyddo ymaith, y rhai a gafwyd o ganol rhyw bentwr o ddadfeiliou. Fel esiampl o ganoedd ereill o ddinasydd- ion Chicago, dyna Mr Brass, prif berchenog y Chicago Tribune, y newyddiadur mwyaf j. dylanwadol yn y West, yn cael y newydd fod ei swyddfa yn un rhan o'r dref yn garnedd, a'i anedd-dy mewn rhan arall wedi eyfarfod a'r un dynged, fel nad oedd ganddo le i roddi ei ben i lawr; ac wedi colli yr oil yr un dydd. Ond yn nghanol y cwbl, nid yw pobl Chicago wedi llwfrhau; mor gynted ag y deuwyd i wybod y gwaethaf, codasant fel un Haw i wneud y goreu o hono.

AMERICA.

Advertising

GWYL GERDDOROL CASTELLNEDD.

Advertising

CALF ARIA, CLYDACH.

Advertising