Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

[No title]

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.

LLYTHYR 0 AMERICA.

UNDEB Y GLOWYR.

News
Cite
Share

UNDEB Y GLOWYR. Llawer sydd wedi ei ddweyd, ac yn cael ei ddweyd a'i ysgrifemi ar y pwnc yma. Bu llawer o broffwydi gau yn darogan ei dranc, ac yn cyhoeddi melldithion ar y personau hyny oeddynt yn arwain y bobl yn y mudiad. Crochlefai y proffwydi gau mai haid o dwyll- wyr oedd Halliday a'i staff, a rhybuddient y werinos rhag eu dilyn ar un cyfrif. Ond erbyn hyn, mae y proffwydi, druain, wedi myned i'w hogofeydd. Bellach cymerir yr Undeb am ei werth a'i deilyngdod. Teg yw barnu pob pren wrth ei ffrwyth, ac fel y dywed y Sais, "The proof of the pudding is the eating of it." Mae y wlad erbyn hyn wedi gweled llu mawr yn byw yn weddol gysurus ar yr Undeb a gondemniwyd gan haid o bedleriaid cyflogedig fel y ffwlbri mwyaf a fuynNghymru erioed. Ddarllenydd, dyna yr unig ddiffyg fu yn nglyn a'r Undeb o gwbl oedd, ei fod heb dyfu digon. Yn awr yw yr adeg i ofalu i roddi nerth yn ei ad- noddau-casglu yr haf erbyn y gauaf,-ac yna ni raid hidio am ormes y coal a'r iron. lords, na dichell eu is-swyddogion cyflogedig. Ond bellach at amcan ein llith. Mae yma ar lanau y Llyfnwy luaws o Undebwyr, ac nid ydym wedi bod yn ol ychwaith o ddangos ein cydymdeimlad a'n brodyr yn adeg y strike. Mae yma dair cyfrinfa yn y dyffryn- Cynelir yr un ag y mae eich gohebydd yn aelod o honi yn y Navigation Inn, Blaeny- cwm. Mae hon yn lied flodeuog ar y cyfan; ond hyd yn hyn yr ydym heb ymuno a'r Un- deb yn Lloegr a Chymru. Yr ydym wedi holi ami un pa ffordd sydd i ni gymeryd tuag at gyrhaedd hyny. Byddwn yn wir ddiolch- gar i ryw Undebwr am roddi i ni yn ddioed, trwy gyfrwng y GWLADGARWR, y cyfarwydd- iadau angenrheidiol at hynyma. Heblaw hyn, carem gael clywed, trwy yr un cyfrwng, a yw yr overmen a'r firemen yn cael dyfodfa rhydd i'r Undeb fel ereill? Carem gael sylw gan rhywun ac eglurhad, gan fod hyn yn bwnc dadl gan rai yn ein plith. Pa fodd yr ydych chwi yn Aberdar a Rhondda yn gweith- redu? Carem wneud yr un fel, bid sicr. 0 ie, yr ydym wedi anfon nodyn er's rhai wythnosau bellach at foneddwr o Gwm yr Ystrad yn holi am gards yr Undeb. Teg fuasai iddo, fel gwr cyfrifol yn yr ardal, ein hateb, gan i ni amgau iddo stamp i'r pwrpas. Tebyg fod y boneddwr yn gwybod at bwy yr ydym yn cyfeirio, fel nad oes rhaid dweyd ychwaneg.—Yr eiddoch, Ni WAETH PWY. Spelter, Maesteg, Hydref 3ydd, 1871.

BRWYDR FAWR BRITON FERRY ROAD.

LLAWRDYRNU SAMSON.